Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y G0LY6YDD ODDICARIRE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y G0LY6YDD ODDICARIRE. Dwyawr a Hanner yng I nghrombil y Ddaear, ein mam ni oil. 1—Marchogion Bord Gron Wynn I Davies. I WRTR gadw cyhoeddiad gyda Bord Gron y Rhos y nos o'r blaen, yswyd fi ag awydd i fynd i grombil y ddaear mewn pwll glo fe fum; ond cyn dweyd fy mhrofiad am yr ymweliad cofiadwy hwnnw, y mae'n rhaid imi gael dweyd pwt am y Ford a'r bobl a welais o'i hamgylch. Enw da ydyw r Ford Gron, ac yn ein cydio wrth Arthur a'i Farohogion. Y peth cyntaf a'm synnodd ydoedd gweld Bord mor fawr, a channoedd o'i chwmpas,lle naddisgwyliaswn i ddim ond deugain neu hanner cant. A'r cannoedd hynny'n bobl hawdd a hyfryd i siarad a hwy :-pobl gynefin ag Ysgrythyr a hufen llenyddiaeth Cymru selog dros Len, Awen a Chin pobl sy'n gweld eich pwynt cyn llawned a chyn llwyred a chwithau yn awyddus i'ch porthi, os yn werth eich porthi; yn gwrando fel un; yn beichio allan a'u "Ha! ha I" harti os yn cytuno a'r sylw, ond a'r Y ? Y ?" yr un mor ben- dant ac awgrymiadol oa yn anghytuno. Ac y mae'n haws sefyll gerbron tyrfa felly o lawer na cherbron llond ysgoldy o rai llonydd, lloaidd, a fo'n edrych yn doeslyd a dieples arnoch, ac yn meddwl eich bod yn heretic neu anffyddiwr peryglus os yn siarad ar ddameg neu'n defnyddio ffugr yn wisg am wirionedd na adwaenir ganddynt hwy oni byddo yn yr hen siwt gorduroy arferol. Y Parch. Wynn Davies ydyw Arthur Bord Gron y Rhos, ac y mae Iluosowgrwydd ei farchogion, eu sel eiddgar dros bynciau praff a sylweddol, a'r min sydd ar eu deall, yn glod i'w aUu a'i ddyfalwch. Nid moliant ffals a di-ddifrifwch mo hyn, ond teyrnged hollol gywir a gonest i'r Gymdeithas a'i llywydd. Dyma Ford nad aiff hi ddim i ganlyn Hi Lloegr, canys y mae hi'n dderw durol a thrwm yr Hen Wlad, bob coes ac ystyllen ohoni. Da clywed fod y Felin wedi dechreu troi yn'r Adwy a Choedpoeth, ac mai dr gian y mynydd a Chyrn y Brain sy'n troi ei holwynion. Rhaid imi gael mynd efoch i Gastell y Waun yr haf nesaf, os byw ac iach. Y tair taflen daclusaf a gwreidd- iola'u ffurf a'u cyflead a welais eto ydyw un y Felin (Coedpoeth), Pentre (Cwm Rhondda), a Chymrodorion Treforris. Y mae lliw a hud yCelt ar bob un o'r tair. 2—Y Merlyn ya tosturio wrth ei I gyd-Ferliws. I a .1 Ond dowch gyda mi i bwll glo vauxuall. Yr arweinydd ydyw Mr. Thos. Jones, y goruchwyliwr tirion; y fo'n cerdded o fy mlaen rhwng y rheiliau cul, pawb a'i lusern yn ei law. Eglurai Mr. Jones bob dirgelwch, canys pledrwn ef a myrdd o gwestiynau— ambell un go gall, hwyrach, ond y lleill yn peri iddo wenu'n dosturiol at y delffyn a'u gofynnai. Gwnaeth ei oreu i'm cael i ddallt pob dyfais a theclyn, ac aberthodd ddwyawr a hanner o'i fore dydd Sadwrn byr i'm diddori a'm hyfforddi a'm hadeiladu. Diolch yn fawr ichwi, Tomos Jones. Tu ol imi, yn dyn ar fy sodlau, cerddai John Rd. Jones, t rawd y Joseff Jones hwnnw a ddwedodd wrth dren y Rhos adeg yr Eistedd- fod am beidio a syflyd nes y cyrhaeddwn i i'r orsaf fondigrybwyll,a'r tren yn ufuddhau. Gwaith mawr John Richard ydoedd gwaeddi Tendiwch y'ch pen bob rhyw ddeg neu ddeuddeg llath. wrth fy nghlywed yn tolcio'r trawstiau coed uwchlaw imi, bob yn ail a Thendiwch eioh traed wrth fy ngweld bron a llyfu'r llwch wrth faglu ar draws rhyw gocyn glo neu'i gilydd. Canys yr oedd hi'n dywyll "fel bol buwch," chwedl pobl y wlad, sydd a chymaint o sug awen ar eu geiriau rha-gor iaith ready cash pobl y dre. Toe dyma fy Merlyn yn sefyll yn sydyn, ac yn gweryru dros yr Affwys ddu ac erbyn gweld, beth oedd yno ond ystablau a rhes o ferlod bach, wedi bod yno ers blynydd- oedd yn cludo'r tryciau trymion a stwrllyd. Unwaith yr eir a merlyn i lawr y pwll, nid byth y caiff fynd i fyny mwy ac fe glywn fy Merlyn innau'n ocheneidio'n hidl wrth syllu mor syn a thosturiol ar gyflwr ei gyd- ferliws. Gafaelais ym mwng uno'r creaduriaid, a dwedais yn ei glust.pe buaswn wedi meddwl,y buaswn v^edi dod a thywarshenlaa oddi arForf a Maelor iddo'i gweld a chael yr hyfrydwch digymysg o'i phori a chnoi ei gil ami yn ei gell dywyll. Y mae ambell ferlen i lawr y pyllau yma ers pum mlynedd ar hugain eraill ers mwy neu lai. Y chwi ferliws mynydd, sy'n cael prancio a lluchio'ch camau i'r entrych ar ffriddoedd y nefoedd las, gwnewch yn fawr o'ch braint a'ch rhyddid, a gweryrwch ar eichTad Nefol,ac ar ei blant sy'n cadw'r Gymdeithas Atal Creulondeb at Anifeiliaid, am eich arbed rhag cael eich dwyn i'r Digofaint hwn lie y mae eich brodyr o'r un bru yn dihoeni mor ddigysur a di- flewyn glas. Druain oeddynt! Nyni'n cwyno fod y glo'n ddrud am ddwybunt a choron y dunell Y mae'n costio'n ddrutach lawer i'r rhain-cyst iddynt golli gweld yr haul am byth, golli gweld yr un cae i'w brancio a'i bori, yr un goeden i ymgrafu » ami collant eu golwg bob yn dipyn collant gael ystabl clyd, gwelltog, i orwedd a chynhesu ynddo, ar ol noswylio oddi wrth eu caledwaith 'does ganddynt yr un Undeb Llafur i ymladd am eu hawliau, eu harian a'u tâl; cant gio a phroc yn amlaoh nag anwes a moethau, a. hynny gan lanciau a gafodd fam a thad a phob clydwch. Grym- ffastiaid didosturi! Pe gwelswn i un yn gwneuthur peth felly heddyw, rhoeswn dro'n ei gorn, cae) fy niarddel o'r seiat neu beidio. Nid mewn pwll glo y dylai'r un ferlen fod, ond yn y lie glas a sweet a ddar- parodd Duw iddi. Da y dwedodd Paul fod y creadur yntau'n cydocheneidio am ddydd datguddiad meibion Duw, sef y dydd pan fo dyn—arglwydd prwsiaidd y greadigaeth anifeilaidd—wedi dallt digon ar Grist i ymdirioni at bob merlen ac arall nes peidio & medru uffernoli ei bywyd er mwyn iddo fo geol Ilodu ei bedion ar ei iarped Kidder. minster yn ei gadair freichiau tan smygu a t chwedleua'n bechadurus o braf o flaen tan- i Mlwyth glo a lusgwyd mor fawr ei phoen t gan y ferlen dan hercian yn hanner dall ym I mol y ddaear. 3—" 0 fol uffern y gwaeddais I arnat." Mynd i lawr ac i lawr, yn is ac yn is, oedd ein hanes o hyn ymlaen, a'r awyr yn mynd boethach boethach, nes oeddwn yn chwys diferol. Dyma res o ddynion noethlymun eu gwasg, eu chwys hwythau'n llifo, eu dau lygaid yn sgleinio o ganol y tywyllwch fel dau lygad cath Ty Gwyn ers talm o ben draw'r llofft stabal wrth lygota berfedd y nos. Ac wrth weld dau lygad mwy tanbaid eu sglein na'r gweddill gwyddwn arnynt, er mor Eifftaidd y tywyllweh, mai dau lygad bardd a difein oeddynt, ac edrychent tuag ataf like jewels hanging on the cheek of night." I lawr yn is eto, a throi ar dde ac aswy, o'r naill agen i'r Ilall ac ebe Tomos Jones, wrth daro peipen gludo awyr i'r trueiniaid a weithiai ddau can llath yn is fyth nag y safem ni arno Ydach chi yna 1" Ydw," ebe'r dyn o'r gwaelod, canys yr oedd y beipen yn cludo'r llais i fyny ac i lawr fel teliffon yn union. Mae Gol. Y Brythori yma, ac eisio'ch clywed o'r gwaelodion yna." Dyma finnau'n taro'r beipen ao yn gwaeddi: Ydach chi yna ?" Ydw," ebe'r dyn. Wel, ydi Trefn y Cadw'n cyrraedd i lawr i'r gwaelod yna, deudwch ?" Canys yr oedd tywyllwch ac ofnadwyaeth y lie wedi codi sylw Thomas Charles Ed- wards i'm cof—sylw a ddwedodd yn Park- field, Birkenhead, lawer blwyddyn yn ol lesu Grist yn werth Ei bregethu ? Ydi, mae 0 yn werth Ei bregethu i bawb. A phe cawswn i fy ffordd, fe'i cynhygiwn yn Geidwad i gythreuliaid ar dorian Uffern gan ddangos fel yr oedd ei galon yn lletach na'r ddiwinyddiaeth yr oedd yn rhwym wrthi. Ac fe ddwedodd un o Hoelion Wyth yr Hen Wlad-ni fedraf yn fy myw gofio pwy, y munud yma, Fod yno ddigon o nerth yn lawn y Groes i godi'r colledigion o'r trueni os gellid eu bachu wrth y crane rywsut." Os gellid eu bachu "—there''s the rub Nid yw ddiben yn y byd ichwi fimgamu a gwaeddi Ust arnaf am ddyfynnu pethau fel hyn—tebygrwydd pwll glo i ddiwinyddiaeth bore oes a bair iddynt ymgodi. Peth arall a ddaeth i'm cof ym man isaf a thywyllaf y pwll ydoedd pregeth Gwilym Hiraethog ar loan "0 fol uffern y gwaeddais amat," ebe Jona druan, wrth weddio am gael ei wared o fol y pysgodyn. Ie, ie," ebe'r Arglwydd wrth ei ateb, ond "cofia di, Jona, fod yn rhaid cael yr uffem sydd yn dy fol di allan yn gyntaf, cyn y cai di ddod o'r uffern sy'r tu allan iti." Dyna Wm. Rees i drwch y blewyn 'Does mo'r lie i draethu'r fllfed ran o'r msddyliau a'r teimladau a iasodd drwy 'nghalon a 'mhen yn ystod dwy awr a hanner y pwll glo y bore dydd Sadwrn hwnnw: Dim ond hyn a ddwedaf yn chwaneg: sef imi gwyno a chethru droeon wrth orfod talu'm dwybunt a choron am y dunell lo —do, ond nid byth y cwynaf nac y cethraf mwy, ddim ar y glowr beth bynnag, er y daliaf i gethru ar y cribddeiliwr sy'n cael cymaint ddwywaith am ei gomelu ag a gaiff y glowr am ei godi. Man's inhumanity to man-dyns. welwn o hyd. Pe buasai gennyf cystal llais a phobl y Rhos, buaswn yn canu can Ceiriog 1'1' Glowr dros y pwll i gyd. Y chwi foethusion y faneg wen a'r sgidiau melyn a'r got bigfain a'r mwstas cwyr, sy'n syhwio heibio dyn mor benchwiban a bas eich calonnau, ac yn1 archebu'ch tunell 16 mor ddifeddwl o'i phris i'r codwr rhagor i chwi sy'n ymdreiglo i ymdwymno wrtho yn eich parlyrau-ie, arhoswch am funud, gael imi fynnu dweyd wrthych faint a gyst y glo i'r glowr;- Chwi fawrion y byd, Wrth eistedd yn glyd 0 amgylch eich tan i fyfyrio Doed weithiau i'ch co' Mor ddrud ydyw'r glo I'r hwn roddo'ifywyd amdano." Pennill xi. o'r gan ydyw'r uchod gwrand- ewch pennill iii. hefyd :— Cyd-ddisgyn i'r gwaith Afiachus a llaith Wna bechgyn yn nwylaw eu tadau Ond nid oes un *yr A wel yn yr hwyr Yr aelwyd adawodd y borau. Y mae'n eithaf peth gen i bellach fy mod wedi gweld pwll glo a chael syniad gweddol am sut y codir y gloyn i'r wyneb. Ond y mae unwaith yn ddigon ni phoenaf mo Thomas Jones na John Rd. Jones byth yn rhagor-am y gymwynas hon, beth bynnag Fe'm goleuwyd ac fe'm dwyshawyd, canys fel hyn y cefais fy hun yn mwmian wrth gael fy nirwyn yn y glwyd nes cyrraedd y lan a neidio i'r wyneb unwaith eto :— Pa beth sydd ar yr Haul acw, dwedwch ? Y mae o yn ddisgleiriach heddyw nag y gwelais i o erioed o'r blaen.' Chwithau'r meysydd, ni choeliai i byth nad ydych chwi'n lasach y bore yma nag y buoch erioed a'r blaen er dydd cyntaf eich creu,— gresyn na chawswn godi'r merliws bach yna o waelod y pwll a'u clywed yn gw iryru eu gorfoledd wrth ymollwng i'ch prancio a'ch pori ar eu cythlwng, bethau bach Ac am y dail, sy'n troi eu lliw mor fendig- edig dan hudlath yr Hydref, yr ydych yn harddach, ydych wir na'r dail a welodd Adda ac Efa ar Bren Gwybodaeth Da a Drwg wrth fynd am dro fraich ym mraich lincyn-loncyn dan hwnnw yng Ngardd Eden ers talm. Ac yr oeddwn yn gweld hyd yn oed y caci mwci ar y cloddiau cyn hardded heddyw a phe buasent yn fwclis am wddw angel. Wedi bod yng ngwaelod y pwll yr oeddwn- dyna'r achos a'r cyferbyniad yn nefol. eiddio pob dim, ac yn dysgu dyn i ddioloh o'r newTdd ao o ddifrif am oleu haul a gleani gwawr a ohoed a meysydd. Y mae'r Beibl yn galw'r Ddaear yn fam inni, ac felly y mae hi. "'O'r pridd y deuthost," &c. Ond y mae yna rhyw wrthwynebiad greddfol yn y goreu ohonom i fynd i'w mynwes i aros. Ond dyna fydd raid, toe ae hwyrach mai tipyn o rehearsal tuag at hynny ydoedd yr ymweliad a phwll Vauxhall. Pwy a wyr ? Un rhyfedd iawn ydyw Rhagluniaeth, a chanddi lawer ffordd o ddwyn dyn at ei goed. 4—Duw'n ymguddio mewn clap glo. I Ceudod o le rhyfedd ydyw'r cof a seler ddofn yr is-ymwybyddiaeth yma-y sub- consciousness, fel y bydd y pregethwyr ifanc yma'n hoffi ei ddweyd, wrth dynnu'r gair hwnnw fel seren gynffon ar draws llygaid pobl ddiniwed a'u cael i ryfeddu a dychlamu Brensiach yn tydio'n hen ben I" Ond i ddod yn ol o'r siding i'r main line, dyma ddaeth i nghof wrth fynd adre i Fryn Cerdd Joseph Davies o bwll y Vauxhall :-Clywais un o bregethwyr goreu'r dydd yn gwneuthur defnydd campus o fabinogi fach wrth bre- gethu i blant am ddeng munud cyn siarad a'r bobl mewn oed. Ac ebe fo, hyd yr wy'n cofio'i eiriau Ar ddamwain y darganfuwyd glo yn Ynys Prydain gyntaf i gyd. Dyn yn mynd at ei waith yn gynnar y bore yn taro'i droed yn erbyn clap caled du heb yn wybod yn y tywyllwch, canys bore o aeaf ydoedd, ar y pryd. Dyna'r clap yn gwreichionni ac yn pelydru tan dros bob man. Fe'i cododd aeth ag o adre gydag o yn yr hwyr a ohaed tan yn y ty hwnnw a phob ty arall o hynny ymlaen. Ond sut y daeth y tan i'r glo ? Fel hyn, ebe'r Fabinogi I Yr oedd coedwig fawr dros y wlad hon yn yr hen amseroedd pell, pell yn ol. Tyfodd y planhigion yn goed, gan yfed gwres yr haul o genhedlaeth i genhedlaeth am ganrifoedd. Ond rhyw noson, heb rybudd nac argoel o le'n y byd, dyma'r m6r yn llifeirio dros y wlad, yn boddi'r owbl, ac yn gwasgu'r tir mor drwm ac am gyfnod mor hir nes bod y coed a'r dail a ddisgynasai i'r ddaear am filoedd a miliynau o flynyddoedd, bellach yn galed a gloyw, a'r gwres yn methu a dianc allan. Dyna fel y cadwyd y goleu a'r gwres a sugnwyd o'r haul pan ar- wyneb y ddaear, ac ei diogelwyd am gyhyd yn ei ehrombil. Preserved sunlight sydd yn y glo. Ac yn awr, ebe'r pregethwr, gan gael clust a llygad. y plant wrth bartoi i gym- hwyso'r ddameg :— Yr ydych chwithau'n teimlo'n flin. hwyrach, wrth eich rhieni a'ch athrawon am ddal i'ch poeni a dysgu adnodau a gwersi'r Hen Destament a'r Newydd. Ond dalltwch hyn eisiau ichwi yfed gwres a goleu Haul y Cyfiawnder ym more'eh oes sydd arnynt, fel pan lifo m6r a rhyferthwy treialon a phrofedig- aethau drosoch pan eloch yn hen a than bwysau'r byd, na byddo hwnnw'n ddim ond cyfle a phrawf fod y gwres a'r goleu a gawsoch yn adnodau'r aelwyd a'r Go- beithlu a'r Ysgol Sul ar gael o hyd, ac y byddo'r broc a'r loes a gaffoch gan y byd a Rhagluniaeth yn ddim ond moddion i beri i'r Preserved Sunlight wreichionni allan a'ch goleuo drwy'r brofedigaeth a thrwy Lyn Cysgod Angau. Ac felly, 'mhlant i, na ddiystyrwch Y Ddameg, canys y mae'r Duw Mawr yn ym- guddio yn y clap glo; ac os daliweh i ddysgu'r adnodau ac i drysori'rpreserved Sun light y sydd ynddynt, fe fydd cymaint o wres a disgleirdeb y Byd Ysbrydol yn eich eneidiau maes o law ag y sydd o wres a dis- gleirdeb yr haul yn y clap glo a welais i heddyw yn sgleinio yng ngwaelod pwll Vauxhall. Llygad y Wawr. -:0:- J.H.J. I

iYstafell y Beirdd.

[No title]

Advertising