Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Cyngerdd .-"yr Undeb1 Corawl…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyngerdd yr Undeb 1 Corawl Cymreig. [GAN G.W.H.] I Nos Sadwrn, y 15fed, rhoes yr uchod ei Gyngerdd cyntaf y tymor yn Neuadd y Philharmonic, oedd yn orlawn. Y cyfan- waith oedd Hiawatha (Coleridge Taylor), a rhan amrywiaethol yn ychwanegol. Cym- erwyd yr unawdau gan Mise Caroline Hatch- ard (S.), Mr. Alfred Heather (T.), a Mr. David Brazell (B.). Blaenorid y gerddorfa gan Mr. Akeroyd, ac yr oedd Mr. Benton wrth yr organ. Rhifai'r cor a'r gerddorfa oddeutu 300, ac arweinid gan Mr. T. Hop- kin Evans, Mus. Bac. Cydgyfarfyddai am- ryw bethau i wneuthur yr achlysur yn un pwysig. Yn gyntaf, hyn oedd agoriad y tymor cyntaf wedi dychweliad y bechgyn ac adferiad gwaith cyflawn y C6r. Yn ail, hwn oedd Cyngerdd cyntaf Mr. Hopkin Evans fel arweinydd sefydlog y C6r. Ar gan adnabyddys Longfellow ar fywyd Ind- iaidd cyntefig yr ysgrifennwyd y gwaith, ac y mae'n dair rhan, sef "Hiawatha's Wedding Feast," "The Death of Minne- haha," a The Departure of Hiawatha." Hiawatha ydoedd broffwyd neu athro, a Minnehaha ei briod. Rhoed y ddwy ran gyntaf o'r gwaith yn y Cyngerdd hwn. Perfformiwyd Hiawatha's Wedding Feast y tro cyntaf yn y Coleg Cerddorol Brenhinol yn 1898, ac ysgrifennwyd The Death of Minnehaha yn arbennig i Wyl Gerddorol Gogledd Swydd Stafford yn 1899. Cynhwysa'r gwaith amrywiaeth mawr, ac y mae'n gyforiog o brydferthion. Ceir ynddo'r dieithr, y cyfriniol, yr urddasol, rhannaullawn o'r teimlad tynheraf,a rhannau cryfion, cyffrous, a dramataidd dros ben ac y mae'n gyfoethog o gyfuniadau cynghan- eddol tarawisdol. Cyrhacdda'r cyfansodd- wr bwynt uchel, S6 yn ddiau cynnyrch meddwl a dychymyg gwir awenydd yw'r gwaith drwyddo. Hysbys i lawer o ddar- llenwyr Y Brython mai dyn du oedd yr awdur,-brodor o Dde Affrig, a dinesydd Prydeinig. Cymaint oedd, edmygedd ei dad o Samuel Taylor Coleridge fel y galw- odd y mab, yu Samuel Coleridge (Taylor). Cafodd y bachgen. Samuel hwn addysg gerddorol uchel yn Llundain, a datblygodd yn gyflym. Anffawd a cholled fawr oedd ei yroa-dawiad cynnar,-Idim ond oddeutu 32, os iawn y cofiwn. Cofiwn yn dda y diddordeb a deimlem yng Nghymru flyn- yddoedd yn ol wrth drafod gyda chyfeillion cerddorol ei safle, ei ddylanwad a'i rag- olygon ef ac hyfansoddwyr eraill. Cerddodd Coleridge-Taylor ymhell, a gadawodd i ni berlau gwerthfawr. Ond beth, tybed, a gollodd y byd cerddorol yn ei ymadawiad, pan nad oedd ond ar drothwy ei yrfa ? 'Roedd y C6r mewn cyflwr da iawn, a dylid cofio mai ychydig droaon y bu Mr. Hopkin Evans gyda hwy'n partoi'r gwaith. Nid oedd y gwendidau a deimlid mewn rhai lleisiau ac mewn cydbwysedd ond ffrwyth am- gylchiadau'r blynyddoedd anodd diwedd- af. Erbyn hyn, dychwelodd lliaws o'r hen aelodau o faes y frwydr, a daeth elfen newydd, gymharol ddibrofiad, ond addawol, i mewn. Yr oedd hyn yn effeithio'n an- ocheladwy i raddau ar sain unoliaeth y Cor ond y mae gan yr Arweinydd glodd- fa aur" yn y C6r ardderchog hwn, a chyda'i ddyfodiad yma i fyw gellir disgwyl pethau mawr oddiwrtho yn y ffordd o ddiwylliant, perffeithiad, a gorffeniad. Wrth feirniadu perfformiad, y peth hanfodol i'w gadw mewn golwg yw darlleniad neu ddehongliad priodol, ac nid rhyw fan bethau dibwys. Yn yr ystyr hwn gwnaeth y C6r orchestwaith. Gwir fod rhai leads gweiniaid, rhai effeithiau cymylog ar adegau. a rhai lleisiau eiddgar yn tueddu i daro'n rhy fuan; ond llwyddodd yr arweinydd a'r C6r i greu awyrgylch y gwaith i'r graddau helaethaf. Hyn sy'n eyfrif hebddo, ofer pob perffeithrwydd arall. Yr oedd y dawns- iadau yn y wledd briodas yn gampus, adran lagoo yn effeithiol iawn, a sain y con- tralto yn brydferth a swynol yng ngolygfa Osseo a Seren yr Hwyr." Credwn mai'r contralto oedd rhan berfteithiaf y Côr. 'Roedd yn arddunol. Sylweddolodd y C6r yn ddwfn brudd-der ail ran y gwaith, sef Marwolaeth Minnehaha," ac yr oedd y Ffarwel derfynol yn ddwys-dyner. Yr oedd y rhannau digyfeiliant yn y gwaith yn brydferth iawn, a'r rhan dramataidd yn nerthol a chyffrous. Cyrhaeddwyd y pwynt uchaf yn ail ran y cyf an waith. Gwnaeth yr unawdwyr eu gwaith yn foddhaol iawn. Nid oes gennym ond canmoliaeth ddigymysg i Miss Caroline Hatchard, sy'n soprano ardderchog, ac a roddodd ei chalon yn ei gwaith. Buan y delo yma eto. Y mae Mr. Alfred Heather yn denor clir, ac yn cynhyrchu'n esmwyth a naturiol heb unrhyw orymdrech. Canodd Onaway mewn ar- ddull rhagorol. Adnabyddir Mr. Brazell fel canwr a saif yn uchel ymhlith gpreuon Cymru, ac nid hwn oedd y tro cyntaf iddo fod ar Iwyfan yr Undeb Corawl. Y mae ganddo lais cyfoethog a geftu celfyddol uchel, a gwnaeth waith sylweddol. Medd- ianesid y tri gan ysbryd ac awyrgylch "Hiawatha," a chanasant yn rhagorol. Diau mai'r Soprano a gyffyrddodd galon y dyrfa ddyfnaf. Y mae'r Gerddorfa o dan Mr. Akeroyd bob amser yn rhagorol, ac felly'r tro hwn. Meistriaid ydynt wedi hen arfer a ohyfeilio cyfanweithiau, ac yn deall y gelfyddyd i'r dim. Ychydig oedd yn eisieu yng nghyfansoddiad y Gerddorfa. Yr oedd o dan gwbl reolaeth Mr. Hopkin Evans. Gwnaeth yr Arweinydd ei waith yn orchestol, a phrofodd unwaith eto ei feistrolaeth lwyr ar y gelfyddyd arwain c6r a cherddorfa. Sylweddolir ei fod iyn meddu'r cymhwysterau arbennig a'i gwnan dd'ilynydd teilwng i'r diweddar annwyl a dihafal Mr. Harry Evans, bod urddas a llwydd dyfodol y C6r yn ddiogel yn ei ddwylo, ac y ceidw'r cymeriad uchel a ennillodd yr Undeb Corawl ymhlith Corau galluocaf y deyman; oblegid y mae hanes a thraddodiadau ardderchog i'r Undeb hwn. Fel y dywedasom eisyg yn ein nodion yn Y Cerddor, llawenhawn yn fawr ym mhenodiad Mr. Hopkin Evans, llongyfarchwn ef yn galonhog, a dymunwn iddolwydd mawr. Cafodd dderbyniad croes- awus a brwd gan y C6r a'r gynulleidfa. Llawen gennym oedd gweled Mrs. Evans gydag ef. Llongyfarchwn hwy ar eu huniad mewn glftn briodas, a dymunwn iddynt hir oes, hapusrwydd, a llwydd mawr. Ed- rychwn ymlaen at yr hyfrydwch o'u croes- awu i drigo yn ein plith yn y man. Cafwyd pethau gwir ddiddorol yn yr ail ran gan y gerddorfa a'r unawdwyr, ond yr hyn a greodd fwyaf o ddiddordeb oedd dernyn gan Mr. Hopkin Evans ei hun i'r gerddorfa. Y mae'n ddernyn galluog, ac yn arddangos- iad clir o fedr y cyfansoddwr i drin cerdd- orfa a cherddoriaeth. 'Roedd ynddo liaws 0 brydferthion, yr oedd "mynd" arno, a chafodd dderbyniad brwd. Cawsom bleser mawr wrth ei wrando. Dylid dweyd mai mewn rehearsal ychydig oriau cyn y cyngerdd y gwelodd y gerddorfa'r dernyn gyntaf, ond chwarewyd ef yn feistrolgar, a chafodd yr arweinydd ei foddhau'n fawr. Amlwg fod dyfodol gwych i'r Undeb Corawl, a da gennym ddeall am y brwdfrydedd sy'n ffynnu yn eu plith. Llwydd iddynt. Teiml- wn yn sicr hefyd fod y cynulliad a lanwai'r Neuadd yn argoel y pery Cymry Lerpwl i roi pob cefnogaeth i'r Cor enwog sy'n gynrychioliad mor deg o allu cerddorol y genedl yn Lerpwl. Y mae gair o glod yn ddyledus i'r Pwyllgor a'i swyddogion (Mri. R. Vaughan Jones, J. D. Jones, Liew Wynne ac E.H. Edwards) am lwyddiant y trefniadau I campus.

YN SYTH 0'8 SENEDD I

Advertising

I BARA BRITH. - I

Advertising