Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Telephoae 1157 Royal Established 1884 ROBER. T ROBERTS, ESTATE AGENT 33 Netherfield Road South Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made established 1884 Bootle Estate Office, 149 STANLEY ROAD. BOOTLE. T. W. Roberts, F.A.I. W. D. L ittp FAI. VALUERS and ESTATE AGENTS. TELEPHONE. 1417 BOOTLE. (2 Wires). '=- Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES. ESTATE AGENT & VALUER,, 60 Victoria St.. Liverpool. Properties carefully managed. Rents per sonally collected. Purchases and Salee no irotiated. Mortgages arranged and Insur ances effected. TfiOMAS ê JONES, ESTATE AGENTS VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool) TelephonO No.-3868 Bank. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged. Valuations made. Rents collected —-——-—-— Henry Jones, ESTATE AGENT, VALUER PROPERTY AUCTIONEER, I i-ord Street, Liverpool 18. Basb HI 0. JONES WILLIAMS, IMTAWN AOUfT & VALUXR, i 7 Boundary Place, Moss Si Liverpool. 1tI"J UUII. Tel. 16) a.. R. E. HUGHEb. Axent, Surveyor V'aIUCf. €f*tinrs«g Cross, Hirkenhood. l'eliJf.)D. »fo.-M B'hoftd. m Honw» to Let and foi Sals ta naioat parti t ths Town and oat d18triot., Also Ltutd *0 to tf("¡Wfor Bolldiog parpowss. Advanow msde te ii1derft. laid oot. BsateOolIeotedLBai "r)tI.r.tJ marofully lIuuaaaed. HUCIHES & JONES' ILLUSTRATED LIST to Sent FREE on written request. Choice Selection of Residences for Sale. WIRRAL, OHESHIRE, NORTH WALES. 6c. Telephones 156-157. Telegrams—•• Estates." Offices-I & 2 HAMILTON SQUARE, BIRKENHEAD. iiledwyn Hughes & Hughes ESTATE AGENTS. Property Bought and Sold. Mortgages Arranged. Rents Personally Collected. 0 f?U/iaahes>eS' 161 Duke St Liverpool. 0, k. Hughes ,„ Telephone- -Royal 4095. YN BAROD YN FUAN. COFIANT Y* DIWEDDAR D. EMLYN EVANS, GAN Ri FRAWD I Y Parch. E. KERI EVANS, M A-, ac yn cynnwys ysgrifau gan Dr. Protheros, Mr. Owen Jones, Mus.Bac., a Mr. Tom Price. Rheolir y nifer argreffir gan nifer y Tanysgrifwyr. Pris, 4/6, mewn Llian hardd. Trwyr Post, 4/10. Telir cludiad banner dwsin ac uchod. Anfoned pawb sydd eisio copi o'r Cofiant diddorol hwn, a phawb sydd yn casglu enwau yn ddioed at y Parch. E. Kniti EVANS, M.A., Priordy, Caerfyrddin. rør EVERY WOMAN Should send 2 stamps for our P2 page Illustrated Book containing valuable Information how alt Irregularities and Suppressions may be entirely avoided or removed by aim pie means. Recommended by eminent Physician* m the only Sitfo, Sure and Genuine Remedy. Never foils. Thousands of Testimonials. Established 1808. Mr. PAUL BLANCHARD, Belmont HOUM, Daiiton Laos, LONDON Hiraeth Cymru am HEDD WYN Post Card Uiwiedig oddiar ddar- fun gan Mr. J. KELT EDWARDS. Pris 2g., trwy'r Post 21c. I'w cael yn Swyddfa'r Brython."
Advertising
 | This !itt!e rough sketch 'f rij&f I gives but a very crude   <???  ? idea of the most '?Ss!???"????? ? Comfy Easy Chaif??????! S I yet manufactured. g E It is an exclusive design conceived from the idea of four § perfect pillows, and although only lately placed upon our = S showrooms, yet it has already made for itself a wide g reputation. g g In it you will observe and experience the acme of perfection S and comfort, combined with that durability and service E £ for which PIONEER manufacture is most renowned and g S unsurpassed. g S Super-comfort is the very essence of this delightful and ? exclusive model, and from enthusiastic searchers after REAL |3 g ? COMFY CHAIRS we have received highest praise. p|S|i f I g 50 of orders at present on hand are re-orders from J g models already sold. | An Ideal Xmas Present. 9 to 19. BOLD STREET. LIVERPOOL. WMBmjlj}The Great 'Home Bunders and Decorators IS The Crezit ?Home Builders and Decorators I CASH or OUT of INCOME j ???gJ?J???? Send for Catalogue* and Term* Free- S "c,
Chwith Atgof AMY Parch. JOHN…
Chwith Atgof AMY Parch. JOHN ROBERTS. Un John Roberts oedd. Nid oedd yn debyg i neb ond iddo'i hun, na neb yn debyg iddo yntau. Yr oedd ynddo nodweddion mor wreiddioj, a neilltuolion mor arbennig, fel mai cwbl ofer ydoedd pob ymgais i'w efelychu. Nid adlais o rhywun arall ydoedd, ond ef ei hun drwyddo draw, a dyma gudd- iad ei gryfder a dirgelwoh ei lwyddiant. Gwn ei fod yn edmygydd mawr o Richard Owen y Diwygiwr, ac os oedd yn tynnu ar ol rhywun mwy na'i gilydd, Richard Owen oedd hwnnw. Yn wir, galtasem wrth hanner dwsin o rai tebyg i'r Diwygiwr hwnnw. Mswn lymledd, naturioldeb, unplygrwydd, a nodwedd efengylaidd ei 'ysbryd dygai ddelw ei wron, Hoffid ef yn fawr fel dyn, gan mor dirion a hawddgar ydoedd, etc cryf a phendarfynol. Tybiai rhai nad oedd dim nerth ynddo dros ei ochr, ac ] i ddadleu dros ei bwnc, ond camgymeriad dybryd oedd aynio felly amdano. Edrychai I ar bob peth a'i lygaid ei hun, ffurfiai ei farn am bersonau a materion yn hollol anni- bynnol ar eraill, a meddai ddewrder i gy- hoeddi'r cyfryw pan fyddai galw, costied a gostio. Nid un o'r rheini ydoedd yn dweyd Ie,—Ie," gyda phawb, ac yn codi ei hwyl i gyfeiriad pob awel. Gwelsom ef fwy nag unwaith yn wahanol i'r ewmni i gyd, ac yn y lleiafrif droeon pan yn pleidleisio ar faterion dyrus. Na, yr oedd mor gryf ag ydoedd o dyner, ac mor dyner ag o gryf. Gwn y cyd-dystia y rhai a'i hadwaenai oreu a mi yn y dystiolaeth hon iddo. Yr ydym wedi sylwi fod llawer o'i bryd a'i wedd ef yn amlwg yn hyn. Yn eu tro, fel yr oedd amgylchiadau yn galw, caed prawf o'r ddwy wedd hyn yn ei gymeriad yn y tri lie y bu'n bugeilio, sef Rhuallt, Corris a Rhyl. Prin y gellid meddwl am deithiauannhebyeachi'w gilydd, nac am eglwysi pellach oddiwrth eu gilydd: eto bu'n hynod lwyddiannus yn y naill a'r llall. Deuai y dyn i'r golwg ynddo yn y bugail. Yr oedd yn adnabod ei ddefaid, ae yn ofalus o'r wyn. Nid yn unig yn ad- nabod eu henwau,—nid peth bychan ydyw hynny, ond yn eu hadnabod o ran eu ham- gylchiadau, eu gwendidau a'u rhagoriaethau. Buan iawn y rhoddai ef un yn y glorian, a chymerai fesur dyn cyn iddo wybod iddo'i hun. Ystyrid ef yn specialist yn y-ddawn o ymweled a'r claf a chysuro'r profedig- aethus. Cymhwyswyd ef gan ei brofiad ei hun, a'i ddisgyblaeth arno ei hun mewn oylwadaeth,i ragori yn y ddau gyfeiriad hyn. Yr oedd yn y rheng flaenaf am gadw seiat. Cofir hyd heddyw am rai o'i seiadau yn y Rhuallt. Credai nad oedd bod yn swyddog yn yr eglwys yn esgusodi dyn o beidio a dweyd ei brofiad. Rhoddai gychwyn da i'r gyfeillaach drwy adrodd ei brofiad ei hun,—oedd yn gynllun ac ysbrydiaeth i eraill ddilyn ei esiampl. 'Does dim tebyg i brofiad am gynhyrchu profiad. Credai hefyd mewn amrywiaeth yn y cyfarfodydd prin y trefnai ddwy seiat olynol yn debyg i'w gilydd. Credai mewn tipyn o surprise yng nghynulliadau'r saint. Byddai ei glywed yn gwasanaethu mewn angladd yn foddion gras. Gweinyddai'r ordinhad o fedydd ag'ur- ddas, a'r Sacrament o Swper yr Arglwydd ag eneiniad mawr. Pe wedi cael eyfle, "ouasai wedi disgleirio yng nghynadleddau'r oorff. At ei gilydd, rhaid i rai o'i ddosbarth ef fynd yn hen cyn cael en hanrhydeddu P. wedi byw'n hwy, diau y deuthai ami i anrhydedd cyfundebol i'w ran. Pwy mwy parod, pwrpasol, a gafaelgar yng nghyfar- fodydd gweinidogion, a chyrddau Eglwysi Rhyddion y Rhyl ? Daliai ei dir yng nghanol enwogion y dref, a rhoddid safle anrhydeddua iddo gan weinidogion pob enwad. Nid oes,raid i un fodyn bwyllgorwr gwael i fod yn bregethwr gwych. Deuai'r dyn i'r golwg ynddo hefyd yn y pregethwr. Pregethwr melys ydoedd meddai organ ei enwad amdano wedi ei gladdu. Ond darn o'r gwirionedd ydyw hynyna, ac y mae. darn o wirionedd yn sicr o esgor ar gyfeiliornad. Yr oedd yn fwy 800 ya well a80 phrsgsthwr mslys. Nid gof. alu am ychydig o dda da y byddai, ond yn porthi y cynulleidfaoedd ag ebran pur y gwirionedd. Pe ond yn delio & rhyw fan felysion buasai ei boblogrwydd wedi di- flannu ers llawer dydd. Nid oedd gennym fel enwad neb a lwyddai'n well i godi'r werin i wrando'r Efengyl. Er mor ami a neb o'i frodyr ym mhrif bulpudau Cymru a dinasoedd Lloegr, cyfeiriai ei weinidogaeth at doreth fawr cynulleidfaoedd ein gwlad. He learnt the art," fel y dywedodd Jowett am un o weinidogion Llundain, "to be simple." Deuai rhai i'w wrando na welid hwy ond yn anaml yn yr addoliad cyhoeddus. Bydd dylanwad ei weddiau yn aros yn hir; yn wir, yr oedd ei bregethau'n bregethau gweddigar. Byddent mor ffres, mor gyfeir- iadol, mor ysgrythyrol ac eneiniedig fel yr erys eu dylanwad yn hir, Bu clywed am ei farw sydyn yn ofid calon i gannoeddv o'i wrandawyr. Pregethai mor fynych yn y De ag yn y Gogledd; prin fod gennym gapel yn nau ben y Dywysogaeth na bu ef ynddo. = Nid rhyw ymweliad unwaith mewn oes chwaith, ond gelwid ef i wasan- aethu yn yr un ardaloedd drosodd a throsodd drachefn. Aberthodd ei hun, gorff ac ysbryd, ar allor y weinidogaeth. Byddai'n blino weithiau,—pur anaml hefyd,yn y gwaith, ond byth yn blino ar y gwaith. Yr oedd ei lond o nwyd bregethu, llosgodd ei hun allan yng ngwasanaeth ei Feistr. Ffurfiodd arddull iddo'i hun o ran iaith, ystum, llais, a ffurf a'i gosodai'n bregethwr ar ei ben ei hun. Er yn ddiwylliedig ei feddwl,—yn Uawn mwy felly nag oedd ef yn ei ddangos,-darllenai hefyd lyfrau saf I onol; ond penderfynodd lynu wrth ei ddull cartrefol a gwasgu at y bobl gyffredin, os teg eu galw felly. Cariai'r gynulleidfa gydag ef, o ddweyd y testyn hyd yr amen mabwysiadodd ddull i fynnu sylw'r bobl; ac nid eu gwag ddiddori y byddai, ond goll- wng ergydion pur drymion. Collwyd ef ar adeg pur anodd i'w hebgor. Dyn oedd yn gallu galw dynion i fewn, a chanddo genadwri at wrandawyr y genedl ac os collwn bregethwyr o'i nodwedd ef, bach iawn o waith fydd i'r trefnwyr a'r pwvll. gorwyr oddi mewn. Bu'n gyfrwng tro- edigaeth degau. Cymhellai at y Ceidwad a ditrilwcn a tnaermeb mawr. Y mae ei ddawn ef i gynnal wythnos o gyfarfodydd diwygiadol wedi mynd yn ychydig iawn, ac nid yw hynny fel yn rhyw lawer ar neb. Ein perigl ydyw meddwl nad oes ond gwaith i'r Efengyl i santeiddio'r wlad y dyddiau hyn ond y mae cymaint o angen am yr Efengyl i achub ag erioed. Yr oedd stfn achub yn ei weinidogaeth ef. Bod yn glir, bod yn hawdd ei ddeall, bod yn gyfrwng yn Haw yr Ysbryd Glan i achub dynion. Bydd colled drom ar ei ol yn yr holl gylchoedd y troai ynddynt. Bu'n ffyddlon megis Moses yn yr holl dy. Erys.ei enw'n annwyl a pheraidd am fljmyddoedd lawer. Er mai yn y Rhyl y bu farw, fel John Roberts Corris y cofir ef. Yno y gwnaeth enw iddo'i hun drwy'r Dywysogaeth ac er dod i gylch newydd parhaodd i helaethu cylch ei ddefn- yddioldeb, ac i chwanegu ei boblogrwydd. Cafodd yrfa dra llwyddiannus, a llwyddodd i gyflawni diwrnod da o waith er ei fynych wendid. Nawdd y nef fyddo dros Mrs. Roberts a'i fachgen bach annwyl. Pregethai y Sul cyn ei farw yn Llanelwy yn y bore Dirwest' oedd ganddo, ac yn dweyd yn gryf yn erbyn y Victory Balls," —yn yr hwyr Duw yng Nghrist yn cymodi y byd ag ef ei hun," a'i bennill olaf ydoedd— Duw mawr pa beth a welaf draw- Diwedd a braw yr hollfyd." Y nos Sul dilynol pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r weddw a'r mab, a phen- odwyd Mri. Morgan Williams, Riverdale, a Robt. Hughes, Stryt Isaf, i gario'r gen- adwri. Ddydd yr angladd yr oedd y tren yn Hawn o bobl Dyffryn Clwyd yn myned i'r cynhebrwng.-CYFA ILL. -:0:-
[No title]
GLANHA U'R FRON OOCH.—Ddydd Mercher diweddaf, ymadawodd y fagad oJaf a garcharorion Germanaidd o'r Fron Goch, uwchben y Bala. Rhifent 2.280; ac ed- rychent tan eu cuwch wrth droedio heibio am y tro olaf. Dyna Fron Goch bellach, am ryw hyd, heb na German na gwaith chwisci ynddo. Bydded heb yr un o'r ddau am byth.
LINCYN LONCYN
LINCYN LONCYN "SWN MWY HOFF," etc.Mr. H. D. Jones, mab Mr. O. Jones. Yr Efail, Gaerwen, sydd wedi ei ddewis yn ysgrifennydd Cyngor Cerddorol newydd Cymru. Byddai H.D." yn swyddog yn y Royal Welsh Fusiliers adeg y rhyfel. Y mae swn Solffa a Hen Nodiant dipyn cydnawsach a'i glust glust na sWn saethu a lladd a llarpio. DRUAN O'R FACH.-Mewn cwest ar gorff Jennie Morris, Rhoshirwain, pen draw Lleyn, ddydd Llun, tystiwyd iddi ei llosgi'n farw a'i mam ar ymweliad a thy cymydog. Gadewsid Jennie (bump oed) a'i chwaer fach deirblwydd eu hunain yn y ty, ac heb ddim rhyngddynt a'r tin. Y SWYDD DRICHANT.-Capt. Percy Lloyd Jones, Rhos y Medre, ar gyrion Gwrec- sam, a benodwyd yn ysgrifennydd Pwyllgor Pensiwnau Sir Ddinbych. Sythai deuddeg a thrigain am y swydd, sydd a'i chyflog yn drichant o bunnau'n y flwyddyn. GWLEDDA A OWYNFYDU. —Ciniawid Cynghorwyr Caernarfon ddydd Iau diwedd- af gan Mr. Owen Jones, y maer newydd; ac yn ystod yr areithio ar ol y seigio, dywed- wyd fod pob argoel am ail fywyd a llwydd- iant mawr ar y fasnach lechi. URDD Y BYSEDD YSGEIFN.—Cyn lluniodd haid o ladron craff a chyfrwys i dorri i orsafau'r ffordd haearn ar linell y L. & N.W. o Gaer i'r Rhyl yr wythnos, ddi- weddaf. Lladratawyd arian o gell doc- ynau Talacre, Mostyn, Treffynnon, ac yn y y blaen, sef yn oriau man y bore. pan oedd pawb gonest yn chwyrnu. a'r ceiliog heb fflapio'i adain i ganu wrth weld yr haul yn trechu'r tywyllwch. YN AROS DYDD BARN.-Y mae Robt. Jones (28), Helygen, wedi ei fwrw i sefyll ei brawf yn y Frawdlys nesaf gan ynadon yr Wyddgrug, sef ar gyhuddiad o saethu ei frawd, melin Tý Canol, gyda'r bwriad o'i ladd. Euthai'n ffrae rhwng y ddau ar y ffordd adre o Dreffynnon. HWDIWCH, MRS. PARRY.-Cafodd Mrs. Dr. Parry, cyn-faeres Caernarfon, anrheg odiaeth o hardd a sgleiniog ei pherl- au gan Gymdeithas Chwiorydd Gwlatgar y dref honno, yn arwydd o'u diolch iddi am fod mor flaenllaw a diwyd gyda phob gwaith da yn ystod y rhyfel. Y mae'r Parch. D. Thomas, B.A., Glan Ogwen, Bethesda, wedi ei benodi'n gurad Llanbeblig, Caernarfon. SEIAT Y MWYTHIG.—Syr Frank Ed- wards a lywyddai gyfarfod o aelodau sen- eddol Cymru yn y Mwythig ddydd Gwener diweddaf, i drafod Ymreolaeth i Gymru. Dywedwyd fod y Prif Weinidog wedi bod- loni i fod yn llywydd y mudiad, ac y byddai Arglwydd Clwyd ymysg yr is-lywyddion. Yr oedd Mri. Towyn Jones, J. Hugh Ed- wards a Major Breese yn bresennol. PALFF Y PLAS NEWYDD.—Palfl o ddyn cawraidd a charedig o galon yw Mr. Wm. Jones, Plas Newydd, Coedllai; bu o ac eraill ar daith drwy'r rhannau hynny o Ffrainc a Belgium a ddiffeithiwyd gan y rhyfel, a daeth adre mor dost ei deimlad dros ffermwyr y gwledydd hynny nes y medrodd berswadio Undeb Amaeth. wyr Sir Fflint i gyfrannu'n hael a theilwng at eu brodyr yn eu mawr gyni. Y mae gwr y Plas Newydd tua dwylath a dwy fodfedd yn nhraed ei sanau, yn i hardd a golygus ei wedd a dim ond ei galdn sy'n fwy a hardd- ach na'i gorff. HEBRmVR YR WYDDGRUG.-Y Parch. G. Parry Williams, M.A., yw llywydd newydd Cyngor Eglwysi Rhyddion yr Wydd- grug. Brodor y fo o Ddinbych ysgolhaig a ddisgleiriodd mewn Hebraeg; ac yn weinidog err blynyddoedcl ar Eglwys M.C. Bethesda, hen"gorlfin y Parchn. Roger Ed- wards a J. Owen, a Daniel Owen y Nofel- ydd. TRAFLYNGWYR GLYN EBWY.—Tor- rodd Iladron i Eglwys Glyn Ebwy, gan yfed potelaid o win y Cymun, dwyn un o gof- restri'r priodasau a thorri wedi hynny i gapel Presbyteraidd ac i un o theatrau'r ardal. Y mae gan y diweddar Mr. Eleazar Roberts (Mecldyliwr) bennod yn ei nofel Owen Rees lie y disgrifia un o geidwaid capel Cymraeg Lerpwl yn meddwi ar weddill y gwin wrth gadw'r poteli ar ol y Cymun- deb nos Sul. Dyna ichwi enghraifft o galedu a chnafeiddio'n ellvllig wrth gyn- efino'n rhy agos a phethau Tý Dduw. UN 0 LEWION RORKE'S DRIFT.— Cleddid Seret. James Tavlor vn Nhrefnant. Dyffryn Clwyd, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn bump a thrigain oed, yn perthyn i gatrawd y South Wales Borderers, ac yn un o ymladdwyr brwydr Rorke's Drift, yn Neheudir Affrica, pan enwogodd y gatrawd honno gyjnaint ami ei hun wrth amddiffyn yr ysbyty rhag ymosodiad a rhyferthwy ofnadwy'r Zuluaid. Yr oedd s6n am eu dewrder led y byd yr adeg honno. 'Rwy'n cofio darllen yr haniss, ac am y Zuluaid yn gafael yng nghyrff y lladded- igion oedd dan eu traed ac yn eu rhwystro fedru mynd ymlaen, yn eu codi hyd eu breichiau gewynog, ac yna'n eu hyrddio am ben y milwyr Cymreig er mwyn i fidogau y rhai hynny fynd yn rhwym yn y cnawd, ac yna roddi'r cyfle iddynt hwythau'r Zuluaid gael heibiont ac i'r ysbyty. Ond methu ddarfunt, er bod eu sgrech a'u glafoer yn ddigoni a barlysu pob llwfr. BRIGYN A BON.-Y mae Mr. W. Brad- wen Jones, c6r-feistr Eglwys Sant, Cybi, Caergybi, newydd gael ei benodl'n arweinydd C6r Mawr Caernarfon. Mab y fo i'r diwedd- ar Mr. J. R. G. Jones, cysodydd, Caernarfon, ac wyr y diweddar fardd a cherddor Eos Bradwen. Bu yn y rhyfel yn yr Aifft, ac yn cadw'r gwersyll yn fyw drwyddo o ganu Cymraeg. Y fo felly fydd arweinydd C6r Eisteddfod Genedlaethol 1921, sydd i'w- chynnal yn y dre y byddai ei daid a Llew Llwyfo a Jarrett Roberts ac yn y blaen, yn dwrr o dalent o difyrrweh. GWELLA AC AIL DDECHREU ARNI. —Diolch na chafodd glas-fechgyn meddygol Llundain ddim gorffen lladd Mr. Johnson (" Pussyfoot," chwedl llysenw'i gaseion amo) wrth ei bledru nes ei waedu'r dydd o'r blaen. Y mae o wedi gwella digon i addo y daw i Ogledd Cymru i annerch chwech o gyfar- fodydd mewn gwahanol drefi ymhlaid gwahardd a rhoi'r feg am byth ar y Fasnach Felltigaid. Bu Mr. David Griffiths, Hudson Street, Bangor, farw bore Sul diweddaf. Brodor o Bwllheli, ac un o gapelwyr a Rhvddfryd- wyr mwyaf eiddgar a goUuodig y ddinaa. D'ROGAN Y DRYCH."—Y mae'r Drych-papur Cymraeg yr America—yn bygwth marw oni chaiff ragor o gefnogaeth a chodi ei bris. Cychwynnodd ei yrfa yn 1851. Dechreuodd Baner America (1868) unwyd a'r Drych yn 1877 Y Wasg,- 1871, unwyd a'r Drych 1890; Columbia, 1888, unwyd a'r Drych 1894. A fo yw'r unig bapur Cymraeg o gyhoeddir yn y Taleithiau, er fod yno The Druid, wythnos- olyn sy'n son am Gymru a'i pobl a'i phethau i gyd yn yr iaith fain, ac eithrio ambell bennawd Cymraeg uwchben colofn neu ddwy, er mwyn moesgrymu (bowio) i'r hen iaith. Ond bowio neu beidio, ni ddaw hi ddim yn ffrindiau a neb ond a'i sieryd. Y mae gweld ambell ohebydd yn ceisio disgrifio Eisteddfod neu Gymanfa Bregethu neu Gymanfa Ganu yn Saesneg yn peri imi feddwl am Isaac ddall yn tynnu ei law ar hyd wyneb Jacob ei fab oedd a chymaint o ystumiau ynddo "Y llais yw llais Jacob a'r dwylaw, dwylaw Esau ydynt. Ni waeth ichwi heb,wir, a cheisio twymno'ch cawl mewn refrigerator Seisnig. Byddai'n gywilydd i Gymry'r America beri i'r Drych dynnu ei draed ato i farw. A F YDD WCII. CH WI'N GANU HON ?~ Gyda'r peth doniolaf yn Y Drych ydyw colofn At y Gol., hyn yn enghraifft o'r rhifyn diweddaf Mri. Gol. Nid oes neb uwchlaw beirn- iadaeth-dim un. Os mul aiff i'r coleg, mul a ddaw allan. Ond. Canodd yn dda, a buasai wedi ennill onibai iddo fynd allan o diwn. Rhai am wlad wlyb, a rhai am wlad sych, a neb am bregeth sych. Nodyn Cerddorol. A Welsoch chwi Fi," sydd hen gan heb eiriau sefydlog ami. Geiriau neu beidio, cenir llawer ar yr hen gan, yma a thraw.—S.S. Gwneir, megis yr awgrymir gan englyn Aled o F6n ers talm Mae'r hedydd bob dydd yn dal-i ganu Heb geiniog na medal; Mae dyn yn canu am dal, Am enw a thestimonial. Y GOLEU'N TYNNU'R PRYFED IDDO.-Y mae gan sgrifennwr 0 Fryn i Fryn yn Y Tyst diweddaf adolygiad da a galluog ar Y Byd a Ddaw yng Nghyngres yr Eglwyswyr," a gwelir, oddi wrth y dyf- yniad a ganlyn, ei fod yntau yn cael ei lygad-dynnu braidd gan ddisgleirdeb y rhith oleuni sy'n liosgi edyn pawb a elo'n rhy agoa ato :— Yn wyneb hyn, pa ryfedd yn y byd fod y fath gyffroad gan Ysbrydegaeth ? Yn wir, y mae'r fath gyffroad yn anochel- adwy ac a gawn ychwanegu un gair arall, ei fod yn angenrheidiol ? Cydolygwn a'r Esgob Gore pan ddywed fod i Ysbrydeg- aeth ei gogwydd cyfeiliornus, sef i sefydlu crefyddeg newydd wrth-Feiblaidd. Er nad oes dim yn newydd ynddi, ac er fod samplau ohoni yn y Beibl, eto mae yn rhywbeth i'w thrafod gyda gofal mawr fel y trafodir gwenwyn neu bylor. Ar yr un pryd, bron na ddiolchwn i Dduw ar hyn o bryd am dystiolaethau Crookes a Lodge, a Barret a Doyle. Ie, ar hyn o bryd. Mae'n bryd, ar hyn o bryd, mor isel ar ac am grefydd yn ei pherthynas a'r byd arall, fel mae'n rhaid wrth ddefodau hyll, elfennol, a-b-c-ol fel Ysbrydeg- aeth i gadw'r gwirionedd mwyaf am fyd a ddaw o'n blaen. Er cywilydd y dywed- wn hyn. Os oes gwrthuni a pherygl yn ei moddau, eto ar yr adeg hon mae'r moddau hyn yn eithaf tebygol i foddion gras, neu yn cael bod yn lie moddion gras. Ac i rywrai maent yn foddion gras. Ie. diolch am Y sbrydegaeth am dro. Dowch oddi wrth y Jac Lantar, da chwi, rhag iddo'ch hudo i'w gors; sefwch ar Graig yr Oesoedd, dan belydrau'r Hwn a ddwedodd Myfi yw Goleuni'r byd." PWY OEDD ENLLIBIWR HARLECH ? —Dyma waith i rai o aelodau Cymdeithas Sir Feirionydd yn Lerpwl,—chwilio pwy a enllibiodd Harlech a'r englyn cableddus a ganlyn a gaed yn llyfr yr ymwelwvr a'r Castell yn y flwyddyn 1847 :— Tref fyglyd, ddrewllyd, ddrylliog—a dinas Dynion dauwynebog Gwyr llawen, a gwarrau lleuog, Pawb yn un radd, pob un yn r6g." Llewelyn Twrog fyddai'n cael y bai, ond nid oes neb a ftyv yn iawn pwy oedd y cyng- haneddwr bawlyd. DWY GADAIR GWERTH EISTEDD YNDDYNT.-Dywedir fod cadair Crom- well ar gael hyd heddyw yn ystafell y Cyngor yn Hwlffordd (Haverfordwest, rhag ichwi" golli amser i ofyn i rhywun arall), ac i Mr. Lloyd George eistedd ynddi pan ar ymweliad ag Arglwydd St. David's dro'n ol. Ac yr wyf newydd glywed fod y gadair yr eisteddai Dr. Morgan ynddi pan yn cyfieithu Beibl Cymraeg 1588 yn Llanrhai- adr ym Mochnant—ie, fod honno hefyd ar gael mewn ty ym Mhen y Bont Fawr, rhyw dair milltir o'r Llan. Af yno i eistedd ynddi gynted y delo cyfle, er mwyn codi'n rhywiocach Cymro. NYNI DDIRWESTWYR.—Dyma rai o'r pethau a fu dan farn a sylw pwyllgor gweith- iol Cymanfa Ddirwestol Gwynedd a eia- teddodd yn y Rhyl yr wythnos ddiweddaf Y Gymanfa nesaf i fod yn Ninbych, Medi 29, 30, 1920. Yno y cynhaliwyd hi gyntaf erioed, sef yn 1837. Y mae ymgyrch ymos- odol fawr ac o ddifrif i'w ehychwyn o blaid Gwaharddiad ddechreu'r flwyddyn, yn cynnwys dirprwyon i fynd at awdurdodau addysg y siroedd parth dysgu dirwest yn iawn ac o ddifrif yn yr ysgolion dydd deffro llwyrymwrthodwyr cleiog a didaro i fod yn fyw byw' ac yn llai toeslyd dros eu hachos hel cronfa, cyfartal i ddwy fil o bunnau'n y flwyddyn wrth gefn, i'w wario ar obeithluoedd a llenyddiaeth Dirwest. Ddydd Iau, anerchid cyfarfod cyhoeddus gan Mr. Rodney 4nes (yn y gadair), Dr. Griffith (Brymbo), a'r Parch. J. Glyn Davies (Caer) a dydd Gwener, caed cyfarfod mawr i'r plant, y Parch. Edward Williams yn y gadair, a'r Parch. Harry Edwards (Rhyl), a'r Henadur Martin Williams (Aber- maw) yn annerch. Pledru cerrig a gwaedu Mr. Johnson y Gwaharddwr o'r America wnaeth own cyflog y Fasnach tua Llundain yna pledrwn ninnau ein plant a'1) pobl ifanc a rhesymau ac ag esiamplau. Creithiwn eu cydwybodau a'u calonnau, tra elgwn yFall yn creithio cyrff yr •fengylwyr.