Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
RELIABLE WATCHES FOR ALL CONDITIONS OF NEW ACTIVITIES. CORRECT TIME IS ESSENTIAL TO NEW CONDITIONS OF RECONSTRUCT- IVE WORK. Face the new or the old "phere of your operations with a GOOD TIMEKEEPER. We still have some very noted maker's watches to offer, notwith- standing the disorganised state of things through the war. Consult our price list or your next Watch UNSURPASSED FOR QUALITY AND PRICE. Every Watch pocketable" wieldy and neat in style, accompanied, by a written warrant for 20 years and upwards. Including MONTH'S TRIAL, and Cash refunded if not as re presented. SUITABLE PRESENTS BUSINESS HOURS 9 to 7. WEDNESDAY 1. FRIDAY 8. SATURDAY 8-30. DA VIES S, 30 LOW Hill Via Kensington Electric Car. £ 1C /17 /A Gent's High Class Solid Gold Keyless English presentation Lever Hunter by Thomas Russell & Son, Church St., Liverpool, new monthsago (pro of), full size, crystal glass, plain cases. Damp and dust proof, ACCURACY AND PRECISION a marked feature, in condition as new, suitable for all climates, at home and abroad, also Gent's High Grade 18ct. Keyless Lever Chrono- graph Hunter by eminent maker, £ 22/10/ usual, £ 40; also Russell & Son, solid gold Keyleess Hunter, 17 jewels, Lever, £ 14/17 6, usual L21. Month's trial. gs,, £ 8/17/6—(U8ua1' E14.) GO EXPANDING WATCH BRACELET. SOLID GOLD, Government stamped 1 plate, fully jewelled, Keyless Lever Self-expanding Watch Bracelet, as new, accurate timekeeper. Others at £ 6/7/6, usual Ell. Others at £ 7 /10 and £ 8 /12 /6. Also Russell and Son Solid Gold self.expanding Lever Watch Bracelet, new 6 months ago, £ 7 /15 osaally £12. Ditto, £8/17 and £9/10/ All guaranteed reliable. Approval. tio RUSSELL & SON ROLLED GOLD KEYLESS HUNTER. JOAIIQIR Gent's High grade Full Jewell- a?.i/?.o'/u ed Keyless Perfection Rolled Gold Lever Hunter by Thos. Russell and Soa, Church Street, Liverpool; chronometer balance and latest improvements warranted 20 years; acourate timist brilliantly polished cases warranted for lifelong wear and satisfaction. Also Rolled Gold "Wal- thaca" Keyless Lever Hunter, £ 5/15/ Ditto, open face, £5/10 J-. Also Hargreaves Rolled Gold Keyless Hunter. £ 3/13/ All guaranteed. GENT'S t6 HEAVY ROLLED SILVER) RUSSELL KEYLESS HUNTER. XJP/OQ/ /TJ. f 7 /ft Extra Strong Heavy Superior U quality Noa-Magnetic Fully Jewelled Rolled Silver Lever Keyless Hunter, by Thos. Russell and Son, Church Street, Liverpool, scientifically accurate, new 6 months ago (proof); warranted 20 years for entire satisfaction. Also English Chronometer Keyless heavy Silver Hunter, usual Eoliol-, now £ 3/7/6; gun timist. Approval. To Those Furnishing DAVIES'S, 30 LOW-HILL, are offering a huge stock of Secondhand and Antique Furniture, polished as new. GREAT SAVING EFFECTED. Briefly as foll- ows :— /a /-Ebonised Fern Pot Stand. £'f 110 I-Solid Mahogany 4ft. Sideboard. £1.8/18 I-Sheraton Enclosed Bow-front Cab- inet. fl 1 15 /-7 -Piece Tapestry Settee Tub Suite. 14 16-0ak Fall Palm Stand. £ 12/15/—6-Piece Leather Oak Carver Suite. £ 18/18 J—Perfect Mahogany Settee and Two Divan Chairs in Tapestry. £ 16/15/—Handsome 5-piece Settee Mahog- any Inlaid Suite. £ 1/7/—Baby's Cot, with mattress, white j enamelled. £ 1 /7 /6 j—Child's High and Low Chair. £ 1 /8 /—Mahogany Polished Coal Cabinet. £Ho /14 I-Mahogany Leather Suite beau. tiful quality. £ 39110 j—Large Mahogany Miller-back Side. board bargain. £5¡18/6-Settee in plush velvet, choice design, good condition. it /5-Round Walnut Table, well made. £ 8 /17 /6—Magnificent Solid Walnut Over- mantle, art design. fl2 /17 /6-Saddlebag Suite, 7 pieces. £ 52 /10 /—Walnut 4ft. 6in. Bedroom Suite do luxe. £ 12 /101—Solid Oak 6-piece Leather Carver Suite. £ 14/17 /6—Pair Satin Walnut Bedroom Tables. £ 1/5 J—Mailcart, with hood and nickel fittings. £ 12 /17 /6—Pair of Satin Walunt Duchesse Tables. £ 12 /101—Mahogany Kneehole Office Desk. £ 16 /101—7-piece Tabestry Parlour Suite choice. flo/lo /-Dining Room Oak Table, 8ft. long. £4:/19 I-Large Gilt Square Mirror. £ 49 /101—Superior Walnut Bedroom Suite. £19¡10j-Bedroom Suite, pedestal towel rail, and chair. £ 89 /101—Fine 8ft. Spanish Mahogany Ward- robe, 2 large oval mirrors. £ 28 /10 /—Pair of Mahogany Cheval Dressing Tables de luxe. £ 231151—Perfect 7-piece Divan Velvet Suite. £ 19/19/—Moquette Oak Dining Suite, 7 pieces. £37/10 I-Sheraton Mahogany Bedroom Suite. £7{10 I-Large Polished Walnut Chest of Drawers. £6/10 I-Pair of Large China Vases, 3ft. 6in. high. £ 21/10 j—7-pieces French Silk Drawing- room Suite. carpets. Chests of Drawers, Pianos, Organs, and all furnishing Requisites. Great bar- gains to-day. 1000ft. Showrooms. Davies's, 3M* & 32a low hm. Old Swan and West Derby Cars to Low-Hill
Advertising
WIDNES 25th ANNUAL EISTEDDFOD, W BOROUGH HALL, WIDNES, FEBRU- ARY 26th, 1920. Mus. Adjudicator: Caradoc Roberts, Esq., Mus. Doc. f i. Chief Choral. (a) It comes from the mighty ages (Elgar); (b) 0 gladsome light (Sullivan). 2. Male Voice Party, (a) Martyrs of the arena (De Rille); (b) "David of the white rock" (Rol Rogers). 3. Female Choir. Bells of Aberdovey" (P. Fletcher). Children's Choir. Night sinks on the wave." 4. Trio. Soprano, Tenor, and Bass, or Alto, bar- itone, ond Bass. God be merciful unto us and bless us (Dr. Parry). 5. Ladies' and Gent's solos, pianoforte, etc. List of subjects now ready, one penny (rid. post). Further particulars from the General Secretary, I B. D. THOMAS, 13 Albert Road, Widnes.
AIL HYBU'R I I DDRAMA..…
 AIL HYBU'R  I I DDRAMA. | 11 Dec h reu ag Gwynedd "1 [I Dechreu ag "Owain Gwynedd" I I D. R, Jones. j I UN o'r pethau cyntaf i wywo dan fwg a than I' y rhyfel yn 1914 oedd blodyn y Ddrama Gymraeg, canys nid oedd ond ieuanc ac eiddil mewn cymhariaeth ond yr oedd ei f onyn o'r golwg yn y ddaear o hyd ac ar ol i'r drin ddarfod, ac i'w Juggernaut olwyno ymaith, dyma'r blodyn bach yn ail godi ei ben a dechreu magu llun a lliw eilwaith. Dyna Gymry'r De wedi cael wythnos o gystadlu ar actio dramau Cym- raeg yn Abertawe ac Arglwydd Howard de Walden yno'n cefnogi ac yn ciniawa'r hyrwyddwyr mewn gwledd gyhoeddus. Am- can y cwbl ydoedd cael y ddrama ar ei thraed, ei defnyddio'n gyfrwng i gadw'r Gymraeg ar wefus y to sy'n codi; a sym- bylu'n dramodwyr goreu i sgrifennu ac actio rhai da a theilwng, er mwyn inni blicio'r chwyn a'r erthylod diamcan a di- urddas a gamenwy d yn ddramau gan newydd- ian dibrofiad a diwybod. Ac y mae peth o'r ias actio drama wedi cydio yng Nghymry Lerpwl, megis y prof odd y chware a fu ar Owain Gwynedd, gwaith Mr. D. R. Jones, B.A., am ddwy noson- nos Wener a nos Sadwrn ddiweddaf—yn y Crane Hall, Hanover Street, gan gwmni a haedda bob cefnogaeth a chymeradwy- aeth am eu dycnwch. Mr. R. Vaughan Jones a lywiai'r llwyfan, a'r rhain oedd yn actio Owain Gwynedd, Tywysog Gwynedd, Mr. D. E. Owen. Olwen, merch Owain Gwynedd, Miss Nellie Roberts. Hywel, Cynon, Dafydd (meibion Owain Gwynedd), D. R. Jones, Ellis Roberts, David Williams. Cadwaladr, Brawd i Owain Guyneth, Isaac Roberts. Gwyneth, merch yr Arglwydd Rhys o'r De, Miss Jennie Thomas, B.A. Anarawd, mab yr Arglwydd Rhys o'r De, R. Jones Ellis. Yr Iarll Gilbert (o Henffordd), brawd yng nghyfraith Cadwaladr, T. O. Morris. Iago Ddu, cydymaith yr Iarll Gilbert, Ed. E. Williams. Gweision, Dilynwyr, &c., J. R. Morris, Alwyn Jones, W. Owen, R. A. Roberts. Cwmni'r Noson Lawen :— Modryb Mali, Miss Nell Pugh. Lowri, Mrs E. Williams. Meinir, Miss Edith Owen. Sioned., Miss Olwen Evans. Twin Troedgam, R. J. Ellis. Wil Bengoch, J. R. Morris. Die Bendro, Alwyn Jones. Ned Fochgoch, W. Owen. Telynores, Miss Enid Parry. Nid oes le i ddangos rhediad y Ddrama —dim ond i ddweyd ei bod hi'n sawru'n dda o fywyd ac awyrgylch y cyfnod fod gan ei hawdur reddf yr hanesydd a'r rham- antydd a'i fod wedi gafael mewn dyn mawr a chyfnod pwysig, a gwneuthur ei oreu i'w drin yn deilwng Ond dylasai ei hiaith fodyn twy elasuroJ, a mwy cytatebol i Gymraeg ei chyfnod a phe buaswn i o, fa'i hail ysgrifennwn,—o'r safbwynt hwnnw, —o bant i bentan er mwyn i'w harddull fod mor deilwng a'i thestun. Goreu po laiaf o liw ac arogl yr ugeinfed ganrif fyddo ar ei broddegau. Y mae gwybodaeth yn dda ond greddf yn well ac yn brinnach, a'i reddf sy gryfaf yn y dramodydd hwn. Gellir hel gwybodaeth, ond y mae'n rhaid cael greddf ac anian. Actiwr mwyaf digamsyniol y cwmni ydoedd Yr larll Gilbert. Y mae gan hwn wyneb a thipyn o rym a gramadeg ynddo. Yr oedd ei lygadu ystrywgar a'i sbio dan ei guwch yn peri i ddyn gofio edrychiad Henry Irving wrth chware I ago yn Othello, ac yr oedd ei ystumiau'n gweddu ac heb eu gorwneuthur. Ei gopi oedd wedi ei deipio'n wallus, canys llysnafedd yw'r gair ac nid llysnofedd. Cywired erbyn y tro nesaf. Yr oeddolwen yn dda ac ystwyth a theiml- adwy, a rhyw hyblygrwydd persain yn y llais a'i gwnai'n hyfryd ei gwrando. A Gwyneth, hithau'n fedrus, ac arwyddion o ddiwylliant a gloewach deall nag amryw o'i chyd-chwareyddion yr unig nam ami, i'm tyb i, ydoedd cam-freichio mewn lie neu ddau,—pethau bach ar rhyw ystyr, ond mefl serch hynny. lago Ddu pur dda, a hynny gydag un o'r cymeriadau anhawddaf ei actio'n iawn. Ond lleisiodd yn rhy nerthol wrth farw. Dylasai'i llais raddol leihau a gwanio wrth i'w waed raddol redeg, a buasai dim ond gweld ei ddannedd yn distaw rincian y gair melltith ar ben ei hen feistr Yr Iarll yn fwy effeithiol a chywir. Y mae bloesgio'n isel yn fwy hyawdl na gwaeddi'n gryf, wrth farw'n enwedig. Y mae Owain Gwynedd yn dal a golygus ei ddiwyg y mae ei lais yn drwm a thywysogaidd ei d6n ond ei ystum yn llawer rhy oer a ffurfiol; dim digon o deimlad tadol i ireiddio a gwlitho'i froddegau a phan ddeuai Olwen ei ferch ato, i dywallt ei gofidiau, dylasai wrando'i stori gan edrych ym myw ei llygaid, ac nid edrych tua'r ddaear ac yn wysg ei ochr. Yr oedd yno gryn ddiffyg camp ar rai o'r gweisio,n,-Ilais metalig, a rhyw stiffni ready-made ar ami i sbonc ac ystum. Yr oedd Twm Troedgam yn ei le'h union gyda'r Nos Lawen rhywbeth yn swynol a naturiol iawn ynddo wrth ysgwyd ei gorpws bol- drwm a'i siglo-chwerthin mor ogleisiol nes bod ais ac ochrau pawb ohonom yn siglo i'w ganlyn. Eithr gofaled y cwmni am bertach ysmaldod yn y pilliau. A'i gymryd drwodd a thr6, perfformiad da; y cwmni wedi ymasio'n llawer gwell nag yn y rehearsal; wedi meistroli'r geiriau nes dod drwy'r siarad maith yn hollol rwydd ac heb ddim anghaffael. Ac fe ddylai'r diolch fod yn fwy byth iddynt pan gofir fod tri neu bedwar ohonynt-Miss Jennie Thomas, Miss Nellie Roberts, Mr. Tom Morris, ac hwyraoh eraill-wedi eu geni a'u magu ar y Glannau ac mor ddi- lediaith bron a phe wedi neidio naid stont i'r Crane Hall o ben Moel Siabod. Yn iechyd a chalondid i ddyn eu clywed, a gwrided pob Die Shonyn a Die Shones, Am y dyrfa oedd yno nos Sadwrn (nid oeddwn yno nos Wener), yr oedd hi'n gym- ysg o rai'n gwybod sut wrando drama, ac o rai na wyddent sut i wrando drama. Ac os bu eisiau ffrewyllu neb erioed, yr oedd eisiau ffrewyllu'r delffiaid oedd yn andwyo ami i frawddeg nos Sadwrn drwy feichio allan i chwerthin am ben' pethau a ddigwyddai'n awr ac eilwaith ar ganol un neu ddau o ddarnau mwyaf tragic y ddrama. Pe buasai Henry Irving neu Barry Sullivan yno, buasai wedi rhoddi gwers iddynt ei cofiasant am eu hoes. Dyma'r bobl sy'n dod i bob cyngerdd a drama i gnoi chocolate, ysgwyd eu traed a gwagrythu'n bendwp ar allanolion y llwyfan a'r actio heb wybod na malio dim am rediad y meddwl a'r amcan eithaf a lecho dan bob gair ac ystum. Y mae'n dda gennyf glywed fod y cwmni a'i fryd ar ddal wrth ei gilydd, a chydio mewn drama arall i'w hactio ddiwedd y gaeaf. Y mae ynddo dalent neu dair ddi- gamsyniol eraill y gellid eu gwella'n fawr dan ddwylo disgyblydd cynefin a theatraeth am y lleill, boed y cwmni'n ddigon doeth a gonest i'w plicio, a hynny'n deg a didram- gwydd, gan ymorol am dalentau actio goreu'r cylch, er mwyn dangos y medr y Cymry oddef beirniadaeth pan fo'i hamcan i wella a gloywi a chryfhau,—yr hyn sy'n gymaint gwell na sychedu am goeg-ganmoliaeth ac ymgladdu mewn swigod sebon. Llygad y Wawr. -7 J.H.J.
AiI,, lk fO &igy  "I I I…
AiI,, lk f O &igy  I I- ?????' 'Li?X.M?.€&? LLE MAER AWEL FTTH rN- DrN R. Mae'n cyd-wladwr T. D. Owen, Ysw., New Brighton, nowydd hwylio, y fo a'i chwiorydd," am chwe mis o egwyl ym Monica, de-ddwyrain Ffrainc, yn ages i For y Canoldir,— Lie mae'r awel fyth yn dyner, Lie mae'r wybr fyth yn glir." a lie y disgwyliant gael nerth a nwyf o't newydd ar ol hyspio cymaint ar hynny gyda'u hymdrech hunanaberthol yngl?n i'r rhyfel. 6'M?76' C2STJDLEUWrR.-Y mae pwyll- gor gweithiol Eisteddfod yr Had, Birkenhead, wedi pasio i anfon copi o restr testynau'r wyl nesaf 1-1920-i brifathro pob Ysgol Ganolradd ac Ysgol Sir drwy Gymru benbaladr, a galw'u sylw neill- tuol at y traethawd ar Fabinogi Llewelyn a'i Gi Gelert, a chymell eu disgyblion goreu, yn ferched a meibion, i gystadlu am y wobr hudol o deilwng a gynhygir iddynt gan T. D. Owen, Ysw., llywydd yr Eisteddfod. Disgwylir felly gael cynnyrch gwerth ei cayhoeddi, ac nid y llyflad diymcbwil o rywbeth a ysgrifenasid o'r b aen. DOWCH I'R DOSBARTH.—Ac y mae pwyllgor Eisteddfod yr Had yn gwneuthur peth da arall; sef parhau a lliosogi'r dosbarthiadau dysgu Cym- raeg i'r ail genhedlaeth. Y mae'n chwith iawn inni am y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., gyda'r gwaith hwn, canys tynnau'r ieuonctid ato'n lluoedd y llynedd; ond y mae craill yn neidio i'r adwy, a'r Parch. Evan Roberts (eglwys Wesleaidd Claugh- ton Rd.), Mri. Hugh Evans, B.A., a Rd. Hughes yn ymgymryd a'r gwaith o gadw dosbarth wythnosol mewn man canolog yn B'head a'r pwyllgor yn symbylu caredigion yr iaith yn Wallasey a Lerpwl i gychwyn yn gyffelyb. Y mae'n rhaid wrth law- lyfrau i'w hestyn yn rhad i'r ienenctid, a phwy fydd y cyntaf o'r Cymry cefnog i roddi coflaid a'r fendith honno i'r pwyllgor ? Nid byth yr edifarha. Chwith- au blant a rhai hyn, dowch i'r dosbarth. CODI EDMWNT PRTS.—Y Parch. G. H. Havard, M.A., B.D., Abercam, a gadwai gyfarfod pregethu eglwys Woodchurch Rd., B'head, y Saboth diweddaf, a'r Parch. E. Llewelyn Williams, B.A., Seacombe, yn pregethu'r prynhawn. A nos Lun, darlithiau Mr. Havard ar Edmwnt Prys a'i Sa hnau Can Mr. Robt. Jones (Ashlands) yn lIywydduyn lie Mr. J. E. Morris Lerpwl, a fethodd fod yno ond a anfonodd rodd hardd i'r drysorfa. Diolchwyd ar y diwedd gan y Parch. W.O. Jones (y gweinidog), Mri. EdWard Davies a J. H. Jones, gan-dalu gwrogaeth 1 Mr. Havard fel un o bregethwyr praffa'r dydd, a chan ddiolch iddo am godi Edmwnt Prys i olwg y genhedlaeth hon, a dangos mor fawr ddylai'r diolch fod iddo fel arloesydd y tir a phatowr y rhigolau i lanw emynol Pantycelyn ac Ann Griffiths a Hiraethog redeg iddynt i ddyfrhau Cymru drwyddi draw. MR. WM. HUGHES.—Bu ef farw'n sydyn iawn, yn ei 54am mlivydd, Tach. 14, ac fe'i cleddid ddydd Iau diweddaf ym mynwent Anfield. Gaed gwasan- aeth yn nhy ei frawd yng nghyfraith, Mr. Thos. Hughes, 41 Hallville Rd., He y cartrefai'r ymad- awedig er pan fu farw'i dad, y diweddar Mr. Henry Hughes, blaenor y gan gynt yng nghapel M.C. Anfield, a Ile'r oedd o a'i blant mor gerddgar eu hanian a'u gwasanaeth ar hyd y blynyddoedd. Gweinyddwyd gan y Parch. Daniel Davies, Webstc r Rd., yn y ty ac wrth y bedd, lle'r ymgynullodd lIuaws o gyfeillion i'w hebrwng y gweddillion. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones, Stanley Road.
IDAlJ TU'R AfON: I
IDAlJ TU'R AfON: I KENSINGTON (A.).—Y Igeg cyf., cafwyd noso hynod o ddifyr ac adeiladol o dan nawdd Cymdeithas Ymdrechol y Bobl Ieuanc. Partowyd rhaglen ardderchog gan Mr. W. R. Williams, Prescot Road. Canodd Mri. Rich. Griffiths, Will Hughes, a Ted Griffiths gyda chymeradwyaeth; hefyd cafwyd Awr yn y Canteen gan y cyn-filwyr Mri. W. R. Williams, Dick Jones, Eddie Evans-a Llew Williams, a rhoddwyd disgrifiad doniol a naturiol iawn o fywyd y milwr, y pedwar hefyd yn cymryd rhan mewn canu ag adrodd gyda chanmoliaetli. Mae'n galon- did o'r mwyaf i'r eglwys weld yr ieuenctid yn ym- aflyci o ddifrif yn y gwaith gyda'r fath lwyddiant. Llywyddai Mr. J. Roberts, a diolchwyd i bawb a gymerodd ran gan Mr. Owen a Mr. Evan Davies.— Cyfaill. Rocx FERRY (M.C.).—Nos Sul cyn y diweddaf, cynhaliwyd gwasanaeth cerddorol llwyddiannus yn y capel uchod, dan arweiniad Mr. Griff. Hughes. Gwasanaethai doniau'r eglwys Mri. Evans, Owen, a Roberts, o Clifton Road a Miss Olwen Jones (Colwyn Bay). Nos Fawrth dilynol, cynhaliwyd Cymdeithas yr eglwys gyngerdd, Mr, Griff. Hughes yn arwain, a chymerodd Ilu ran mewn adrodd a chanu o fysg yr aelodau, yn cael eu cynorthwyo gan Ddewi Mai o Feirion, mewn canu penillion; a Miss Olwen Jones, a encoriwyd yn wresog. Mae ganddi lais pur a chyfoethog, a dylid clywed yn I amlach ar Lannau'r Mersi. ER CÔF AM Huw OWEN TOMOS, mab Mr. a Mrs. Owen Tomos, 9 Britanaia Avenue, Edge HilI.- j Wedi cwymp pan yn 16 oed dioddefodd y llanc dymunol boenau drwy lewygfeydd dirdynol hyd yn ugain oed. Claddwyd ef ym mynwent Alerton. Mae ein cydymdeimiad yn fawr a'r teulu trallodus. Gweddus i ni yw goddef,-ehedodd Huw o'i adwyth adref I galonnog oleu nef- Hawdd iach ei wyddfod Ef.— st Gwilym Dcudraeth. CYMDEITHAS LENYDDOL PRINCES ROAD.—Nos Fawrth, bu Major W. P. Wheldon, D.S.O., ysgrif- ennydd trefniadol dros Gymru o Undeb Cynglirair y Cenhedloedd yn traddodi anerchiad campus ar egwyddorion ac amcanion y mudiad hwnnw. Llyw- wyddai'r Parch. H. H. Hughes, B.A., B.D., a diolch- wyd gan Mri.C. Trevor Lloyd a O. W. Owen, M.A.— E.A.W. Eisteddfod Mynydd Seion- I Cynheiir yr Eisteddfod uchod dan nawdd Cym- deithas Lenyddol a Diwinyddol Mynydd Seion, Princes Avenue, Lerpwl; ac o flwyddyn i flwyddyn yn ddiweddar, cafwyd profion amlwg ei bod yn cod.i mewn grym a graen a phoblogrwydd. Nos Sadwrn ddiweddaf torrodd ei phoblogrwydd dros y ceuJannau, oblegid er ehanged ysgoldy'r capel, 'I gwelwyd yn fuan nad oedd pabell y cyfarfod yn hanner digon eang, canys yr oedd ugeiniau, os nad canjioedd, o'r tu allan yn angerddol awydd- • us am ddyfod i mewn. Gyda'r deheurwydd nod- weddiadol ohonp, cyhoeddodd y Parch. J. Felix, er maint y cyfrifoldeb a'r anghyfle, mai gwell oedd symud i'r capel, ac nid cynt y dywedwyd hyn nag y gorlanwyd y capel eang drachefn a chynull- eidfa dra pharchus a brwd. Cludwyd y piano yn ddiymdroi gan frodyr selog a chyhyrog, ac mewn amser hynod o fyr aeth y gweithredadau ymlaen yn esmwyth a siriol. Y Cadeirydd oedd Mr. J. Lloyd Davies, Bromboro-mab y diweddar Barch. O. Lloyd Davies—gwr llwyddiannus iawn mewn masnach, hael ei galon a thra hoff o'i wlad, ei iaith, a'i genedl, er treulio ohono ddeng mlynedd ar hugain yn Ne America. Y mae'n siaradwr da a synhwyrol yn Saesneg, ac er yn deall Cymraeg, nid all fentro siarad ynddi'n gyhoeddus. Gymaint oedd y mwyn- had a gafodd yn y cyfarfod fel y datganodd ei ddymuniad i fod yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf eto. Wele englyn byrfyfyr Pedrog i'r cad- eirydd I loan Llwyd, o newydd,—doi geidwad I gadair y Mynydd, Mae byw wen y mab beunydd Yn dal o'i dad oleu dydd. Fel arfer, arweiniwyd gan y Parch. J. O. WilliamE, M.A. (Pedrog), ac yr oedd y prif-fardd poblogaidd yn ei afiaeth, yil llawn arabedd a sirioldeb a natur dda. Gyda'i bertrwydd cynghaneddol arferol, dyma fel y canodd y Parch. Hugh Evans (Cynfor) i'r arweinydd :— Pedrog, yr enwog arweinydd—a'i ddawn Fel rhyw ddydd ysblenydd Kensington a Seion sydd Yn ymuno'n y Mynydd." Wele hiwmor bwrlymu-mae hwnnw Bob munud o'n deutu Heb un coll ffraethebion cu A wnai i Wyddel ymnyddu. Y beirniad cerddorol eleni eto oedd Mr. Tom Carrington, L.T.S.C. (Pmcerdd Gwynfryn), Coed- poeth; a'r cyfeilydd, Miss S. Blodwen Jones, A.L.C.M., ac er Uuosoced y cystadleuwyr, yn y rhag- brofion a'r llwyfaa, gwnaeth y ddau eu gwaith yn fedrus, deheig, a boddhaol. Y beimiaid eraiU oedd:-Liin, y Parchn. T. C Roberts a J. Price barddoniaeth, Pedrog; cyfieithwyr, Cynfor; arholiad, y Parch. Ph. Price; adrodd, y Parch. J. Felix ac Evan Roberts; amrywiaeth, Mr. R. E. Edwards, B.A., Mrs. Felix a Mrs. Price. Dymunol iawn oedd gweld pob un o'r beirniaid yn bresennol, ac eithrio'r Parch. J. Price, a ddigwyddodd fod oddicartref. Cafwyd eleni nifer o noddwyr caredig a hael, nid amgen :—Mrs. Lloyd, Falkner Sq.; Mri. J. Jones, Devonshire Road Moses Hughes, Sunny bank W. F. Howell, Scotland Rd A. R. Price, Newsham Drive Edw. Jones, Llaneurgain D. W. Evans, Ampthill Rd.; Dr. W. R. Pierce, O.B.E., Princes Ave.; Mri. Humphrey Jones, Stoneycroft; Robert Thomas, Dale St; J. Barlow Davies, Wallasey; E. L. Jones, Formby; W. M. Williams, Wallasey; a Hen Atlod o Benmachno," a chyfrannodd amryw o gyfeillion eraill at y drys- orfa. Cyflawnodd y swyddogion-Mr. Caleb Jones (Tegla), 46 Beaconsfield St., trysorydd, a Mr. Ellis Jones, 28 Hemans St., ysgrifennydd-eu gwaith yn dra chanmoladwy, a chynhorthwywyd hwy gan bwyllgor eiddgar. Dywedodd Pencerdd Gwynfryn fod safon y canu yn uwch na'r cyffredin, yn enwedig ymhlith yr unawdwyr, er nad oedd safon y chwe cor a gystadlodd cyn uched. Daeth pum pryddest goffa i law am y diweddar Barch. Hugh Jones, D.D., a barnai Pedrog eu bod yn rhai teilwng iawn ar y cyfan. Ond yr un a ddug y darllenydd i gymundeb agosaf at y gwrthrych oedd eiddo Elizeus," sef y Parch. J. Humphreys, gweinidog Wesleaidd Merthyr Tydfil. Mae Mr. Humphreys yn fardd a lienor a phregethwr o fri. Enillodd gadair Eisteddfod Dal- eithiol ychydig flynyddoedd yn ol. Llafuria'n awr yn y weinidogaeth Saesneg, ac ef yw Ysgrif- ennydd Talaith Saesneg Caerdydd ac Abertawe. Adnabu ef Dr. Hugh Jones yn dda, ac yr oedd yn edmygydd mawr ohono. Cynrychiolid y bardd buddugol gan ei gefnder, Mr. W. F. Howell, London Rd. Mawr hyderir y cyhoeddir y feirniadaeth yn Hawn yn T Brython. Wrth weled Ilwyddiant dihafal yr Eisteddfod eleni, anturiodd y Parch. J. Felix roddi rhybudd o un dydd a blwyddyn y cynhelir Eisteddfod eto y flwyddyn nesaf. A ganlyn ydyw rhestr y buddugwyr :— Hen.—Traethawd, Rhan yr Unigolyn yn yr Ad-drefniad Cymdeithasol," 12/ J. O. Davies, Boolte. Traethawd (i rai dan 20), raith Ffigyrol Dysgeidiaeth Crist," Mr. J. H. Roberts, Anneld. Barddoniaeth.-Pryddest-Goffa y Parch. Hugh Jones, D.D. 5 gini, y Parch. J. Humphreys. "Coron y Bywyd" (heb fod dros 50 llinell), E. Rowlands, Meifod, LlansantfFraid. Arholiad.-Maes Llafur, Dos. IV., Mr. Ellis Jones, 28 Hemans St. Cyfieithu.-O'r Gymraeg i'r Saesneg, Arthur Williams, 51 Claribel St. Adrodd.—" Crist yn -gostegu'r dymestl E. Jones, Birkenhead. Eisteddfod y Plant" (i rai dan 20), Olwen Williams, Bootle. Amrywiaeth.-Pir o Socks, Mrs. Arthur Jones, 28 Hemans St. Cerddoriaeth.-Unawd, unrhyw lais, Lead, Kind- ly Light (dan 20), heb ennill gwobr gydwerth, Miss Nesla Savage, Bootle. Soprano, I know that my Redeemer liveth," Doris Alsopp, Stoneycroft. Contralto, Entreat me not to leave thee," Kate Eveline Evans,, Wallasey. Tenor, Blodwen," 12 W. J. Hughes, Seaforth. Baritone, Cymru fy Ngwlad," rhanwyd y wobr rhwng Newton Edwards, Bootle, a T. H. Simon, Lerpwl. Deuawd (T. a B.), "The Battle Eve," Newton Edwards aTom Roberts, Seacombe. Triawd, Duw, bydd drugarog," Dor- othy Rowlands, Arthur Jones a J. Simon Lloyd. I Corau Cymysg, Enaid cu, mae dyfroedd oerion," chwe cor yn cystadlu, sef eiddo Webster Rd., Ram- ilies Rd., Park Rd., Prescot ,yr Avenue, a'r Cambrian. I Dyfarnwyd y Cambrian yn oreu, dan arweiniad Mr. 1 Robt. Roberts, York Terrace. Am y don gynull- eidfaol, eiddo Mr. J. R. Jones, Seacombe, oedd yr oreu o 47--Cephas. CROESAWU'R BECHGYN.—Nos Wener cyn y di- weddaf, cynhaliodd eglwys Fitzclarence Street wledd a chyfarfod i groesawu'r bechgyn adref. Bob bythefnos cynheiid cyfarfod y bore Sul ar ol y bregeth i ysgriienu at y bechgyn, a darllen llythyrau oddi wrthynt. A bu chwiorydd yr eglwys yn ddiwyd bob wythnos yn darparu iluniaeth a chlydwch. Yr oedd y chwiorydd wedi darparu gwledd ragorol o bob danteithion. Daeth llu o'r bechgyn ac o wahoddedigion i'r wledd. Cyflwyn- wyd hefyd Wallet hardd yn anrheg i bob un o'r bechgyn, a Ilythrennau bob un mewn aur ar y kkallet. Hefyd, cyfiwynwyd pwrs i dair o chwior- ydd am eu gwasanaeth. Yna cyfarfod amryw- iacthol,-canu ac areithio, ond- y prif atdyniad oedd y ddwy ddrama The Call a'r The Lost Legacy, y ddwy'n waith y Parch. W. F. Phillips, B.A., B.D. Perfformiad rhagorol. Ymunodd 69 o Fitzclarcnce St. a'r Fyddin. Cwympodd 7. Cafwyd anerchiad pwrpasol iawn gan Mr. Rt. Roberts, Y.H. Mae dyledswydd arbennig arnom gyfeirio at Mr. Hugh Lloyd, Richmond Terrace. Aberthodd popeth er mwyn y milwyr. Gwnaeth bob peth a allodd er eu mwyn.-Un oedd yno. -:0:-
Basgedaid or Wlad.
Basgedaid or Wlad. NEFTN.—Cynhaliwyd cyngerdd ym Madrin Hall nos Fercher ddiweddaf. Cadeirydd, y Parch. O. Pritchard; arweinydd, oedd R. Rowlands, Ysw., Trefor. Cantoricn, Miss Gwenonwy Griffiths (Llinos Llcyn) tenor, Mr. J. Pariy, Neiyn bar- itone, Mr. Wm. Jones, Edeyrn parti dan arweiniad Mr. J. Evans, Bryn Awel, a chafwyd dadl ddoniol gan Miss Nellie Jones a'i chyfaill Mr. W. Thcmas, y ddau o Llanaelhaiam, ac yn hynod feistrolgar. Cyfeiliwyd gan Mrs. Hughes, Maes y ddol. rR WYDDGRUG.—Y mae llewyrch da ar Gym- deithas Lenyddol Bethesda. Caed cyfarfod diddorol ac addysgiadol Tach. 19, dan lywyddiaeth y bonwr graenus Thos. Roberts, y Ty Brith, sy'n aros yn seren lenyddol a Chymreig heb fachludo yn y niwl Seisnig sy'n gordoi Sir Fflint. Traddodwyd darlith wych gan y Bonwr A. Parry Morgan, Llan- gollen, ar Olion Pabyddiaeth yn Iaith ac Arferion y Genedl. Mae'n werth i bob Cymdeithas ei chlywed. Eisteddfod y Bedyddwyr.-Yn Neuadd y dref, Tach. 20, y prynhawn a'r hwyr. Llywyddion-y Bonwr John Hughes y prynhawn, yn lle'r un penodedig, Uchgapten B. P. Burroughs, Cefn Mawr, oedd yn bresennol yr hwyr, a'r Cynghorwr C. L. Williams, Y.H., C.S., Sychtyn, llywydd penodedig yr hwyr. Beimiaid-T. Gabriel, Ysw., F.T.S.C., Bargoed; Gwili, Caerdydd; W. Edwards, Ysw., Acerfair; y Capt. Newton Jones, yr Wyddgrug; Mrs. M. W. Morgan; Miss, M. Morgan, yr Wyddgrug; Cyfeilyddion, Miss M. J. Parry, A.R.C.M,, Miss Cissie Arthur, yr Wyddgrug; llywydd y pwyllgor, J. Hughes trys., Morgan Owen yr ysg., C. J. Humphreys; arweinydd, W. Edwards, Acerfair; pencampwyr,—Cor cymysg, Cor Mr. Davies Jones, Caer, a Chor Mr. Drury, yr Wyddgrug, yn gydradd Cor plant, Cor Thos. Powell, a Cor Thos. Hughes, Coedpoeth, yn gydradd Parti 012, Parti O. Roberts, yr Wyddgrug Her-unawd, Edith Davies WilliamF, New Broughton, a Mrs. Gwladys Johnson, Coed- poeth, yn gyfartal; Unawd Soprano, Mrs. Gwladys Johnson, a Miss Winnie Lloyd, Ffynnon Groew, yn gydradd; Unawd Contralto, Miss D. A. Lloyd, Ffynnon Groew Unawd Tenor, Edgar Thomas, yr Wyddgrug; Unawd Baritone, Ted Hughes, Ysbyty Milwrol Gwrecsam Unawd i rai dan 16, Gladwyn Thomas, Coedllai; i rai dan 14, 1 Olwen Parry, Fflint; 2 Maggie Griffiths, yr Wyddgrug ar y piano i rai dros 14, Dilys Olwen Hughes, yr Wyddgrug; eto i rai dan 14, Gwyneth Roberts, Bootle unawd i filwyr fu'n gwasanaethu dros y mor, Ted Hughes Adrodd yn Gymraeg i bob oed, Eifionydd Williams, yr Wyddgrug; eto, yn Saesneg, i bob oed, Dilys Williams, Fflint; eto, yn Gymraeg i rai dan 14, Cesia Thomas, Afon Conwy, Llaneurgain eto, yn Saesneg i fai dan 14, Gwyneth Roberts, Bootle; Dadlu, Miss Jones, Helygen, gyda Mr. Harri Lloyd, Gwrecsam, a W. J. Roberts a'i barti, Coedpoeth, yn gydradd Cyfieithu i Saesneg, Abon, Cefnmawr i Gymraeg, Abon; Pedwar pennill, E. Roberts, Mancott; Tri englyn, Abon; Traethawd, Isaac Davies, Birkenhead Print patch, Bessie Williams, Sychtyn Table Centre, Bryner Lewis, Rock Ferry Cyswynai- Gobeithlu, i, J. Gordon Jones 2, E. Emlyn Jones; 3, T. Tudor Jones (tri brawd), y Coetir, yr Wyddgrug. -:0:
Ein Genedl ym Manceininn.
Ein Genedl ym Manceininn. Cenhadon y Sul nesaf. Y METBODISTlAID CALFINAIDD Moss SIDE—10.30 a 6 J H Lloyd Williams PIFDLETON—10.30 E W Roberts. 6 R Williams HEYWOOD ST.—10.80 W Pairy, Bolton, C E W Roberts VICTORIA PK—10.30 H Williams 6 W Parry WAKEINGTON— D J Hughes, Lerpwl YR ANNIBYNWYR BOOTH STREET—10.30 J Morris 6 M Llewelyn OEORLTON it]).-10.30 a 6.15, Lloyd Morgan, Heywoed LI>.DUNCA\ ST.—10.80 M Lleweiynfi.15, J Morris HOIXINWOOJ)—10.30 a fi.L;>, H M Parri Y WESLEAID. DEWI B.ANT-10-30 A Blrckweli 6 JRrger Jones HOREB—10.30 Efrvdydd 6 J M Williams SEION—10.80 J Roger Jones 6 A Blackwell BEtrrAE— 2.30 Ysgol ft J D Owen 0AI.FAHIA—10.30 J D Owen 6 J T Ellis WZAFIXE— 10.S0 J S Williams 6.30 Efrydydd Y BEDYDDWYB. MEDLOCK ST—10-30 a 6-30 H Jones LosGSiaoi—10.30 & 6-30, Cyfarfod Gweddi io Cyrhaeddodd llith Einon yn rhy hwyr y waith hon; crynhodeb sydd ynddi o auerchiad y Parch. R. Roger Jones, B.A., gerbron Cymdeithas GenedJaethol Manches- ter a daw'r wythnos nesaf.