Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
«- ASK FOR "SIRDAT SAUCE Delicious and %Ae,J&%? Appetising. David Jones and Co. Ltd. LIVERPOOL, MANCHESTER and SWANSEA. Wholesale Agents. I
Advertising
1 I GUARANTEED PURE FOOD I Ask for "KEENORA" SELF-RAISING FLOUR. CUSTAP,D r%.PWDER. BAKING-POWDER. BLANC-MANGE, etc., etc. I Manufacturers I MORRIS & JO# £ 8, Limittid I verpect, iwanotie-e ter, and ] NonGastlo-on-Tyno, i
Advertising
I Y??T?E? ??? ? ?Y??? "Q ??????/ (0 jB?Jy??' .? A. A A I! A? ?LTa,; BEA.TY 'W ?? ?'? S? J CELEBRATED i ??T ii??i?? I ARE SHOWING A Fine Selection of OVERCOATS Excellent in Every Particular AT MOST MODERATE PRICES AT M O ZConcelssion to Ex-Service Men, 2/6 in the £ discount AUowed on all purchases to men demobilised during last 4 months 37 to 43 London Road, 28 & 30 Church Street, Open until 6 ?,30 -p.m., WednesdE. Opon until 6-30., P-w Sat?urdays 1p.m. 1 p.m., Satuyg until 8 p.m. Open untIl 6-30., p.JU., SatJIrdays Ip.m. LIVERPOOL. 1\iI —=" Phone 392S Bank. Phone 580 Boot le _Wm$ ORlfflTUS «SONS MAKERS OF SMART CLOTHES 29 South John St., Liverpool, AND 349 Stanley Road, Bootie, Military Uniforms. Lounge Suits. Naval Uniforms. Overcoats. I Costumes. Ladies' Coate A yw'ch Llygaid jn eich blino ? Tw pathaa'a aiwldg M 1\noi wig? Djaa arwydd a rhybudd llethioi y llygad, 4 dylech ga el su hedrych rhag blaen aa 3«rMthyga wna'a hasgeaiso Gallwa av iyda'11 holfar g(vyddoaol, ddsrsyd wrthyoh m os8 araoah anei1 gwydraa ae os Wly, eich cyfleawi a Y Thai a barai fwyaf -3 lea i ohwi. Glwch heddvw- ARCHER & Ions Eyesight Speetf&Usts. 73 LOILD GTILBTgTi gefydlwyd 1848. LIVERPOOL HARTLEY & CO., Liverpool! 12 MOS.S STREET. USALES BY AUCTION EVERY fUBSDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHT AT SBVBN :ALUABLB HOUSBHOLD FURNITURB OF, AANLDL DMORIPTIONa. AGNØlOEN,T NSW 'AND IBOOND-HAND PIANOFORTES, LARGE VARIETY Of BEDSTEADS BEDDING, c. liVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING AffBND THESE SALES AND SAVE AT LEAST IOIPBB OENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN OTOOKI AND ANYTHING MAY BE PURCHASED BY PRIVATE TREATY. GOODS STORED. On view 8.30 &.M.to 8,30 p.m.; Saturday l p.m. fsle phone 1793 Royal. 09 SM IALL) CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL) Of ANY DESCRIPTION INVITED FOR THESE SALES. BBSP RESULT GAFRANTRED FORD .RADIATORS. New pattern Round Brass Fronts, also Silencers for Ford Cars and Radiators for Heavy Commercial Vehicles. Particulars and Prices apply to JAMES CHEW & CO. LTD., 58-GOIPARADJSE tTREET, OLIVER POOL, g^i i LIVERPOOL The SHAFrESBURY,' MOUNT PLEASANT, About 4 min. walk fromlLjma St. & Central Stat. A First Class Te'.nparanse Hotel. Moderate Charges Tele. Shaftesbury tlokil, Liverpool." Phone, ASK POR. Idris Table Waters Tn Syphons and Bottles. SODA WATER. POTASH, WATER. SELTZER WATER. LEMONADE-! DRY GINGER ALE, etc., etc. IDRIS & CO., Ltd., Northumberland St., LIVERPOOL. Specialities is Ladies' and Gentlemen's NECKWEAR, MOTOR WRAPS, RUGS, DRESSINO I GOWNS, UMBRELLAS. D.H GRANT (Proprietor, F. H. WOLFE), HOSIER, GLOVER & OUTFITTER, 6 Lime St., Quadrant, and 8 Manchester St., LIVERPOOL,
-, I TREIVI i. Anianawd y…
TREIVI i. Anianawd y Cymr?. Ai TYBED fod cenedl y Cymry, o'r diwedd, yn graddol golli'r teimlad a'r dychymyg a'i nodweddai gynt ? A yw hi'n marwhau mewn sentiment ? A yw y tAn Cymreig yn diffodd yn ei chalon ? Ac os gwir hynny, prun ai eolled ynteu ennill ydyw i'r cymeriad conedlaethol ? Mae yma gyfle i rhyw Gymro msddylgar a gwlatgar heddyw ddadansoddi'r bywyd Cymreig, yn ddwfn a manwl, ac egluro inni beth sydd ar gyn- nydd. Mae gennym erthyglau craff gan ddynion galluog, a deil ami broffwyd oleu a ddengys inni, yma ac acw, flordd y mae hynt ein cenedl. Ond y mae eto le i rhyw broffwyd Cymreig diragfam, uwchlaw dos- barth, plaid, a sect, i gymryd golwg gyf- lawn ar y pwnc mawr hwn, a galluogi'n cenedl i roi tro goleu trwy ei bywyd ei hun, modd y gwelo beth a fu hi, beth yw hi, a beth y gall hi ei fod eto. Mae gennym eisoes gyfrolau lawer, a rhai safonol, ar hanes ein cenedl ond mae eisieu mwy na chroniclo gyrfa pobl. Fel mai un peth yw adrodd hanes dyn o.i grud i'w fedd, ac mai peth arall yw egluro ei athrylith a'i gymeriad, felly hefyd y gwahaniaeth rhwng adrodd hynt cenedl trwy amgylchiadau canrifoedd a goleuo i fown ar ei meddwl a'i chymeriad hithau. Gwir fod gwybod holl ffeithiau hanes y Cymry'n fanteisiol, ac angenrheidiol, i ddeall ei bywyd, ao mae'n bwysig i gasglu cymaint ag y gellir ei gael yn ei chyleh. Fe wneir ymdrechion dyfal a llwyddiannus yn ddiweddar tuag at hynny. Ceir amryw gymdeithasau ymchwilgar yn ceisio allan gyfrinachau hen groniclau llychlyd, hanes personau, sefydliadau, a digwyddiadau; cipiwyd llawer darn o len clasurol a llawer can gwerin swynol, o afael difancoll; ac fe chwilir am olion henafol mewn daear a malurion hen adeiladau. Mae beimiad- aeth Mr. Shankland ar y traethodau ar Edward Samuel, yn Eisteddfod Corwen, yn enghraifft o'r cynnydd mawr, yn ystod y blynyddoedd diweddar, mewn darganfydd- iad hanesyddol Cymreig. Felly hefyd ei ysgrifau rhagorol yn y Beirniad ar Goronwy Owen. Ac fe fydd y defnyddiau hyn oil yn fanteisiol i'r proffwyd a fynnai ddehongli bywyd a chymeriad y genedl Gymreig. Mae gennym gryn lawer o ryw fath ar ar- weinwyr yng Nghymru, ac yn eu plith rai nad ydynt yn deall fawr ar anianawd a neill- tuolion cynhenid ei phobl: maent yn fwy hyddysg yn yr hyn sy gynhcnllyd na chyn- henid, o leiaf yn meithrin mwy ar y cyntaf na'r olaf. Credwn a'n holl galon mewn dwyn ymlaen ddiwygiadau politicaidd a chymdeithasol a sicrhau i Gymru ei hawliau teg, a chredwn fod ami angen ymreolaeth V a roddo iddi gyfle i ddatblygu ei buddiannau a'i chymeriad ei hun yn llawn. Bu rhwym- au trais yr estron amdani'n rhy hir, a'i lais gormeaol yn atsain rhwng ei bryniau. Eto, mae o bwys i'r hen genedl gofio mai nid annibyniaeth politicaidd na diwygiadau diwydiannol yn unig yw ei hangen. Mwy na hynny, nid cynnydd addysg a diwylliant, nao hyd yn oed ddiwinyddiaeth, yw ei hunig angen hi. Mae eisieu iddi gadw ei hunandeb gysefin ac arbennig. Ac, i'n bryd ni, mae tueddfryd gyfriniol, deimladol, a dychymyg y Cymro'n rhan arbennig o'i natur, ac yn werth eu caw a'u meithrin.
III- TREM II.i . Y Trawsnewidiad.
I TREM II. Y Trawsnewidiad. Brudiodd Macaulay y buasai i gynaydd yr ysbryd gwyddonol farwhau teimlad, ac y nychid yr awen farddonol allan o galon y byd. Hyd yn hyn, ni chadarnhawyd ei frud. Bu i gyffroadau'r rhyfel diweddar ennyn awen llawer bardd, a chafwyd rhai cyfrolau o gryn deilyngdod o ganol twrf y magnelau a ch'ledi'r ffosydd. Ni chyf- rifodd Macaulay ddigon ar y cvffrous a'r annisgwyliadwy yn hanes dynoliaeth. Ym- ddengys yn rhy debyg i un yn tybio y caffai dynion heddwch i ddilyn eu hefrydiau gwyddonol a naturiol wrth eu hewyllys, fel yr aent o'r diwedd yn rhy dawel i gyffro awen eu hyggogi. Ni welid dyn mwyach wedi ei feddiannu gan syniad newydd, gan ddelfryd oruchel,na gweledigaeth fawr a phell a barai iddo godi ar ei draed, a chan angerdd ei enaid orfoleddu mewn barddoniaeth. Ond mae natur dyn fel y m6r, ac ni wyr neb i sicrwydd beth sydd ynddo hyd oni chynhyrfer ef gan dymhestloedd. Ysgyt. iwyd enaid y byd gan yr Armagedon, a daeth pethau cudd a rhyfedd allan ohono. Bwriodd allan lawer o bethau nad oeddynt o glod iddo. Aiff oesoedd a ddaw i lewyg o resyn wrth edrych yn ol ar yr erchyllterau a ddatguddiwyd o grombil y m6r a elwid yn wareiddiad." Gywired gwpled Caled- fryn am y m6r hwn hefyd Wyllt wenwr, hallt ei waneg, Llawn o dwyll yw ei wAn deg." Ond yng nghanol y cwbl, fe ddatguddiwyd y dychymyg, y natur deimladol, a'r gredd- fau dynol i helaethrwydd. Darllenasom ddarfod i belen o fagnel fynd i ochr rhyw fryn yn Ffrainc, ac iddi dorri at darddell o ddwfr, nes y llifodd ffrwd loyw allan-pan oedd yn dda ei chael. Ac mae rhyw ergydion sy'n torri i fewn i'r galon ddynol, ac yn peri iddi hithau lifo allan mewn iaith awenyddol —" the unpremeditated verse," chwedl Milton. Ac ebe Shelley Most wretched men Are cradled into poetry by wrong They learn in suffering what they teach in song. Ac nid yw'r awen Gymreig chwaith wedi tewi. Aeth trwy gyfnod trawsnewidiol pwer- us yn ddiweddar. Nid hawdd oedd iddi newid ei dull o feddwl a chanu'n naturiol thaclus ar unwaith. Bu'r Bardd Newydd yn chwilmanta a rhodresa cryn lawer ymysg beirdd estron, ae yn ceisio'u hefelychu. Sgrifennwyd toreth o ch^ydd a lol tan yr enw "barddoniaeth." Gwnaed y "riain", a'r "macwy," gan efelychwyr mursennol cyn ddigrifed a Punch and Judy, ac mor gyff- redin a dienaid. Llucguniwyd y syniad o unoliaeth y cread mewn caniadau nad oedd y testynau'n ei ofyn o gwbl. Ni ellid son am gath ym mewian heb ein hysbysu fod ei mewia;dau'n cynganeddu & "chân y seraff a thelynau'r Nef." Yr oedd y "diferyn chwys "-a ddisgynnai oddi ar flaen trwyn y bardd ar ei bapur-" yn rhan o'r myfi eneidiol, ac o graad eyfan. Ner," Ceisid efelychu'r anefelychadwy Browning. Ond mae tymor y ffolineb hwnnw'n cyflym gilio, a beirdd diwylliedig Cymru Sydd, yn canu'n ogoneddus. Mae diwylliant yn angen- rheidiol i farddoniaeth, fel i bob celfyddyd arall. "Poets are born not made (" not mad yn ol camargra.ff rhyw gysodydd !), ebe rhywun ond ebe Ben Jonson, For a good poet's made, as well as born. Tystir gan awdurdodau pur uchel fod yng Nghymru ar hyn o bryd rai beirdd ua raid iddynt blygu pen yn wyneb goreuon beirdd unrhyw genedl. Ac fe ddygir cyff- elyb dystiolaeth i awen gerddorol a dawn canu'r Cymry. Ac ni fydd i galon y byd farw cyhyd ag y bo'n dal i farddoni a chanu, ac ni ddiffydd y "tân Cymreig yn fuan. Yn wir, gellid tybio fod y byd yn awr yn fwy sentimental nag y bu. Ymddengys felly oddi wrth ei lenyddiaeeth fwyaf poblog- aidd, ac ymroddiad y bobl i bleser a difyrr- wch ac mae sail i ofni nad oes gynnydd cyfatebol mewn pwyll a barn, ac ymdeimlad o ddyletswydd a rhwymedigaeth foesol. Dangosir mwy o ddiffyg ar bynciau mawrion bod a bywyd. Ac am y gogwydd hwn, wel -Mae arnom angen ein gwared rhag ei berigl. Nid all meithrin teimlad a dychym- yg ar draul esgeuluso diwylliant-deallol, moesol ar ysbrydol,—fod o werth i Gymro na neb arall. A'r hyn y dadleuwn ni drosto yw ar fod i'r anianawd gyfriniol, fyfyrgar, dychymyg a ffansi cynhenid y Cymry Celtaidd gael ei lIe yng nghanol diwylliant cyflawn y genedl.
I-TREM III.,.Y Colegau. I
TREM III. Y Colegau. I Mae Prif Ysgol Cymru wedi dwyn man. teision addysg uchraddol i'n cenedl, a man- teisiodd y genedl ami. Ai tybed fod coleg- au'r Brif Ysgol wedi gwneuthur yr hyn a alia sent, ac a ddylasent, i feithrin yr ysbryd Cymreig yn y bobl ? Yn sicr, fe allesid disgwyl hynny oddi wrthynt, Yr ydym yr un mor aicr ddarfod i rai o'r penaethiaid a'u cydweithwyr athrawol wneuthur yn rhagorol-yr athrawon mewn Cymraeg yn dra rhagorol. Nid ydym ni'n honni bod yn ddim awdurdod ar y fath fater. Ond fe gyhoeddwyd yn groyw, o bryd i bryd, yn ystod y blynyddoedd" die weddaf fod ynglyn a llywodraethiad, a rhai cadeiriau ynglyn a'r Brif Ysgol, ormod o duedd i anwybyddu a gormesu ar ysbryd a dyheadau cenedl y Cymry. Clymsom hynny gan rai fu'n efrydwyr yn ei cholegau. Ai gwir yw fod rhai athrawon perthynol i gol- { egau'r Brif Ysgol yn arfer bwrw ensyniadau bychanus am grefydd i feddyliau dynion ieuanc ? Gobeithiwn nad gwir. Anodd gennym gredu mai gwir. Ond fe glywsom droeon mai gwir ydyw. Bu dadl ynghylcb y priodoldeb o ddwyn rhyw ffurf ar addysg ddiwinyddol i'r Brif Ysgol yn sicr, ni ddylai fod neb yn manteisio ar ei safls fel athro mewn Coleg Cenedlaethol Cymreig i fwrw dirmyg ar grefydd y genedl, a throi ei ddiwinyddiaeth, mewn canlyniad, yn wawd. Os na phenodwyd hwynt i'w swyddi i ddysgu crefydd, sicr yw na phenodwyd hwynt ychwaith i wrthwynebu crefydd. Ac mae crefydd Cymru, fel crefydd, yn rhan hanfodol, a'r rhan bwysicaf, o'i chenedlaeth* oldeb. A chredwn y dylai'r genedl yn gyffredinol ddeffroi i'r perigl o fod ei sef. ydliadau addysg yn troi'n. ffynonellau o ddylanwad gwenwynig i'w hiaith a'i di- hewyd cenedlaethol yn gyffredinol. Mae gennym, o leiaf, hawl i ofyn am i'n harfer- ion iachus a'n delfrydau uchaf gael 811 perchi gan y sefydliadau a gynhelir, i fesur helaeth, gan y genedl ei hun. Gwnaed rhai penodiadau'n ddiweddar ynglyn &'r Brif Ysgol a bair inni fwy o hyder am y dy. fodol. Da gennym am benodiad Mr. J. H, Davies, M.A., i fod yn ddilynydd i'r Cymro ardderchog oedd yno o'i flaen. Mae Cymru'n bur effro'r dyddiau hyn ynglyn a'i hamgylchiadau, a'i buddiannau cym- deithasol a bydol, ac nid yn rhy effro. Ond ymddengys i ni y dylai fod yn effro hefyd ynghylch y sefydliadau yn y rhai y mae meddyliau ei hieuenctid yn cael eu diwyllio, eu barn ar faterion pwysig bywyd yn cael ei ffurfio, ac hyd yn oed eu gogwydd ysbrydol yn cael ei sefydlu. Buom. yn s6n llawer gynt am yr "awyrgylch" a grêai presenoldeb offeiriaid defodol mew* rhai ysgolion dyddiol. Ac mae'r fath beth ag awyrgylch mewn colegau, ac yn bwysig. yno hefyd. Mae angen i'r awyrgylch hwnnw fod yn iachus i anianawd ysbrydol a chref- yddol ein cenedl ni, yn gystal ag i'H holl fywyd cenedlaethol. Gosodwyd hi gaiireg- luniaeth i gael ei magu ynghanol y mynydd- oedd, ac i'w meithrin yn ol y neilltuolioa a blannwyd yn ei chyfansoddiad hi ei hua.
■'REM IV. Diwinyddiaeth.
■'REM IV. Diwinyddiaeth. O'n rhan ni, awn yn ddigon beiddgar i ddywedyd fod perigl hyd yn oed i sef- ydliadau addysg uniongyrchol ddiwinyddol a chrefyddol Cymru fygu gormod ar neilltuol- ion meddwl a chalon y Cymro. Nid, yn sicr, am ein bod yn tybio fod yr un athre o'u mewn yn amcanu at hynny o gwbl, ac nid am ein bod yn meddwl peth mor ynfyd nadoes ar ein myfyrwyr angen pob gwybod- aeth o werth y gellir ei chael mewn diwin- yddiaeth. Mae rhai na chawsant fantais addysg o'r fath. ond y caniatawyd iddynt flino Israel "—fel ninnau-goreu y gallem heb hynny, yn barod i ddiystyru addyag ddiwinyddol. Lol ffyliaid yw peth felly. Ond credwn, wedi'r cyfan, fod lie i'r efryd- wyr eu hunain, beth bynnag, graffu ar nodweddion meddwl ac ysbryd y Cymro hyd yn oed yn eu diwinyddiaeth a'u pregethau, ac i wisgo'u cenadwri mewn ffurf a fo'n apelio ato'Ù fwyaf grymus a naturiol. Yr ydym yn nabod cewri'n y pulpud Cymreig heddyw, gyda phob enwad a sect, ac a gawsant y diwylliant uchaf, y byddwn yn teimlo fod ysbryd mawr yr hen genedl yn llefaru trwyddynt; a'r rhain sy'n gyrru eu hergydion ddyfnaf i'r enaid, ac yn codi holl natur dyn i'w wyneb. Bu mynyddoedd Cymru am genedlaethau'n atseinio lleferydd pregethwyr ei chymanfaoedd a'i sasiynau. ac nid anfynych y byddai'r pregethwyr yn rhoi i'r mynydd yr hyn a roisai'r mynydd yn gyntaf iddo ef,—ei avlndm. There is a Spirit in the woods, "ebe Wordsworth, Ac mae ysbryd yng Ngwlad y Bryniau hefyd. A bydd i gymundeb a hwnnw doddi pob diwinyddiaeth ac athrawiaeth i'w ffurf ef ei hun, canys Cymro ydyw Yng nghanol pob dylanwadau estronol-mewn barddon- iaeth, caniadaeth, diwinyddiaeth a chrefydd, —fe ddylid cadw'n fyw yr ysbryd a'r anian gynhenid sy ynom fel cenedl. Na ddiffoddor y Tan Cymreig
Advertising
Newydd Gael ei Gyfaoeddi. Uyfr Newydd Mr. W. Llewelyn Williams, B.C.L., K.C. THE MAKING OF MODERN WALES Efrydiau yn yr Yrngrfydliad Tuduraidd yn Nghymru. Pris: 6s. net. Macmillan and Co., Ltd., London, W.C.2.