Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HIGH-CL SS SSOOS^D-HAf^O pi^Kos Ii DAVIES'S, 30 LOW HILL, LIVER- POOL, invite inspection of the undermentioned bargains in PIANOS, featuring responsive- ness of touch, brilliancy, and balance of tone, as follows PIANO l THIS WEEK'S SPECIAL BARGAINS. i #*OC/Q WARWICK, full size, brilliant tone, grand condition. 4EQQ/1Q DREAPER medium size, mtaXJI ivorY keys, mellow tone, Walnut ? ? ? /T 0 BORD; powerful tone pianette; ???' beautiful case. i>QQ/l n SMITH; walnut, iron frame, full trichord. wXJtiJc/ii IU n COLLARD and COLLARD upright iron grand Rosewood. ^cn.in GOES & KALLMAN noted SKfua, 1U overstrung, superb tone. t 658/10 HAAKE; world-famed over- | strung; perfect tone. BRINSMEAD; magnificent rosewood de luxe piano. £ SSf9jj 7i//1a0 v BLUTHNER perfection rosewood, overstrung, faultless tone. I Every instrument tuned, polished, and delivered. Motor Deliveries to North Wales and Lancashire towns. Hours, 9 to 7. Weduesda y i. Diamond and Oem Rings AT GREATLY Reduced Prices, IN ALL THE LATEST STYLES, IN SOLID 18-OAR.AT GOLD AND PLATINUM. It's owing to the Fine Quality of these Superb Gems which accounts for their in- tense Sparkle and Brilliancy. The charm of these Rings will be the talk of all time, never failing to please and give pleasure to their owners, with the comfy feeling of good investment against a rainy day, RE- DUCED prices now tkevail, affording an opportunity to secure GOOD sound VALUE IN DIAMONDS Rarely Ottered. 8alb OATAIX>aUK FUEE, SATISFACTION ASgUltED. £1S.0ur Pr ice- £ 6,18/6 Large Diamond Half-Hoop HANDSOME 5 stone .large Diamond 18ct. Gold Claw set half-hoop RING, each stone of Intense fire and brilliancy, beautifully cut gems. Also very rich quality round Diamond guster Ring, very neat, and lustrous stones; usual £ 13, our price £6 J 18 Also lustrous stones, usual £13, now Also Hand- some 2 stone Diamond Cross-over Ring, get in platinum and 18 ct. gold. Also 3 stone beatiful Diamend Cross-over-Ringinounted in the latest claw setting. Also large 6-stone purest white first water Diamond Half-Hoop Claw set Ring, rare value (new this year) asaaily il,8, our price £9/15 J-. Also very large 6 stone genuine Brazilian Diamond 18 ct. half hoop, intense fire, usually t56. -Price £ 25/10 with repurchase guarantee. of £22. Also Superb half-hoop, pure white Diamonds, in platinum setting, price £14 19 J-. Also other genuine bargains at greatly reduoed prioes. DAVIES'S, 30 Low Hill. FURTHER SELECTED BARGAINS Closed Wed, at 1 p.m. Open Sat. until 9-0 Usual Our Price Price DIAMONDS, 5 large white Diamonds, rare fire and lustre, 18ot. carved. sett- !ng, a wonderful, strong, c m in savioeable ring £12 0/t/U DIAMONDS, handsome 3- atone Cross-over Ring, lus- trous gems, neat 18 ot. gold, platinum set £ 10 4A1 ni n# DIAMONDS, superb 6 stone j stylish 18 ct. law set, half-boo f -in^agement Ring, lovaly gams, bargain £8 3/19/ DIAMONDS, fashionable 5- stone strong heavy 18 ci. elaw eet half hoop, lustrous gems, others at 55 58/ B8 70/ and 76/- £ 8 2/10/ DIAMONDS, very neat 5.1, t?one Diamond 18 ot. oiaw- we? half-hoop, double out gems, rare lustre f4 1/15/? OVER 20U RINGS AT REDUCED PRICES, DAVIE.S'S, 301. LIWlflLL, jM?jfT?.v tjE?'? '?D ? LIVERPOOL,
! Lloriau Dyrnu Hen Yd I y…
Lloriau Dyrnu Hen Yd y Wlad. C YMDE1THAS LENYDDOL A DI- WYLLIADOL EGLWYS OYNULLEID- FAOL P ARK ROAD.SwyddogionLlyw- ydd, Mr. J. H. Jones Is-lywydd, Mr. R. E. Edwards; Ysg., Mr. T. S. Jones a Miss Lona Jones Trys., Mr. T. R. Jones. Tach. 6—Cyfarfod Agoriadol, Social. 12-Dad], "Prun ai gweinidogaeth a swyddogaeth am dymhor penodol ai amhenodol yw'r effeithiolaf ?" Penodol, Mr. E. E. Jones Amhenodol, Mr. T. C. Jones Cadeirydd, Mr. R. Griffiths. 19—Noson gyda Ceir- iog," dan ofal Mr. R. Williams a Mr. J. E. Jones; Cadeirydd, Mr. R. Williams. 26— Dadl, A ellir cyfiawnhau Lightning Strike 1" Cad., Miss H. Evans Nacaol, Mr. Joseph Roberts Cadeirydd, Mr. R. J. Jones. Rhag. 4—Darlith gan y Parch. J. O. Williams (Pedrog); Cadeirydd, Mr Salmon Evans. 10—Papurau ar Fy hoff Lyfr," gan Miss M. Roberts, Miss B. Davies, Miss B. Roberts a Miss H. Evans Cadeir- ydd, Mrs. Sydney Parry. 17—Noson gyda'r Brodyr. Ion. 15-Noson gyda'r Chwior- ydd. 21-Noson gyda Awduron Cerddorol Cymreig, dan ofal Mr. J. R. Jones a Miss Alice Parry; Cadeirydd, Mr. J. R. Jones. 28--Noson Seneddol Cadeirydd, Mr. J. H. Jones. Chwef. 5—Darlith gan y ParchM S. R. Jenkins, B.A. Cadeirydd, Capt. W. Jones. 11-Noson gyda Daniel Owen, dan ofal Mr. R. E. Edwards a Mrs. J. Williams Cadeirydd, Mr. R. E. Edwards. 18-Dadl A yw y-difaterwch presennol tuag at yr Eglwys i'w briodoli i achosion mewnol neu allanol ?" Mewnol, Mr. R. M. Evans; Allanol, Mr, H. Jones. 25—Tor Amod Priodas (Breach of Promise), gan amryw. Maw. Darlith gan Mr. J. H. Jones, Gol- ygydd Y Brython; Cadeirydd, Mr. J. Williams. 11-—Dadl, "Aitmantais ai an- fantais fyddai cenedlaetholi y rheilffyrdd a'r glofeydd ?" Mantais, Mr. T. R. Jones Anfantais, Mr. Gabe Cadeirydd, Mr. Glynne Thomas. 17—Social. GYM DEI THAS LENYDDOL BRUNS- WICK, LLUNDAIN, Balcombe Street, Dor- set Square, N.W.—Llywydd, y Parch. J. Wesley Felix, M.A. Is-lyw., Mri. D. S.- Jones, John Ismael Trys., Mr. R. Pierce Jones Ysg., Miss Maud Edwards, Mr. Hywel M. Williams. Hyd. 13—Ym- gomwest Agoriadol. 25—" Cyfriniaeth mewn Barddoniaeth Saesneg," y Parch. J. Wesley Felix, M.A. 30-—" Cyfle presennol yr Eglwys," Mri. Ed. Jones, Evan Jones. Tach. 8—Etholiad,—Annibynnol, Mrs. Thompson Ceidwadwr, Mr. F. R. Rowe Rhyddfrydwr, Mr. Eddie H. Jones Llafur, Mr. Hywel Williams. 17-—" Ann Griffiths," y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. 22- Ymreolaeth i Gymru," 0 blaid Mr. Isaac Williams, Mr. Ed. F. Hughes, Miss Lizzie Rees yn erbyn Mr. S. G. Jones, Mr. R. D. Morgan, Miss Prydain Davies. 29? "George Eliot," Miss Maud Edwards; "Charlotte Bronte,"iMiss Gwen Ishmatl; Yr Hen Fardd," Mr. R. Pierce Jones. Rhag. 4—" Ai mantais i grefydd fyddai uno'r Enwadau yng Nghynlru ?" Cad., Mr. Evan. Jones (King's Cross Rd.), Mr. Daniel Jones, Mr. T. J. Morgan Nac., Mr. John Ishmael, Mr. E. W. Morris. Mr. S. Moreton. 13- Charles Kingsley," Miss Maude Rowlands Ceiriog," Miss M. J. Griffiths; Y Bardd Newydd," Mr. D. S. Jones. 18—Swper. 1 26—Cartref oddicartref. Ion. 3—" Handel," Miss Olive Jones Y Fun a'r Llusem," Miss Dilys J. Da vies Cymry Llundain," Mr. W. E. Davies. 10—Senedd BrynsAib Cyflwynir Mesur gerbron y Ty gan Brif Weinidog y blaid a etholir Tach. 8. 15— Abraham Lockwood," y Parch. J. Smith. 2.1-Drama, "Pwyllgor Eisteddfod PwJl- gwran," Cwmni Brynswie. 29—" Hugh I Price Hughes," Miss Blodwen M. Williams "John Elias o Fôn," Mr. R. J. Lloyd; Y Proffwyd," Mr. Huw Watkin. Chwef. 7—Awr gydag Alawon Gwerin, Mr. E. W. Davies, Mr. J. B. Cowley. 14" Ai mantais i'r wlad yw'r mudiad tuag at genedlaetholi ?" Cad., Mri. Rees Roberts, David 0 Jones, D. Isaac Evans Nac., Mr. E. R. Browne, B.A., Mr. O. Corbett Jones, Dr. Gwilym P. Evans. 19—Swper. 26-—" Father Damien, Miss Eleanor Edwards John Penri," Miss Emma Jones; Y Merthyr, Mr. Elias Lloyd Jones. Maw. Fy hoff Nofelydd," Miss Gladys Rowlands, Miss Sallie A, Roberts, Mr. Teddy Thompson, Mr. Alun Jones. 13—Ymgomwest. GYMDEITIIAS C YMBODORI ON LLANELLI. Ymlaen, Lanelli." I wyb- od yr hen, dysgu'r newydd, a chynhyrchu'r goreu." Tach. 4—" Ann Griffiths," y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. 14—" Awr gyda'r Adar," H, W. Evans, Ysw., Y.H., Solfa. 28—" Gwerin Cymru a'i Diwylliant," yr Athro W. J. Gruffydd, M.A., Caerdydd. Rhag. 5—" Twm o'r Nant," y Parch. J. 0. Jones (Hyfreithon). Ion. 16-" Tto trwy Gymru yn y Canol Oesoed". Miss Magdalen Morgan, M.A., Abertawe. 30—" Athrylith Bro," y Parch. Eurof Walters, M.A,, B.D., Abertawe. Chwef. 6—" Noson gyda'r Bardd Newydd," Miss Enid Hughes. 20—" Rhani- ant Cerddoriaeth," Miss Olive Valerie Wil- liams, M.Music, Pontygwaith. Maw. 1- I G-wyl Ddewi CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL HOREB, M.C., LLANFAIRFECHAN.— I Hyd. 31—" Cehadwri Cymru," y Parch. W. F. Phillips, M.A., B.D. Tach. 11—Drama, j Trem yn ol," (Gwynfor). 14—Amrywiaeth, j 01. 21—Senedd, Mesur i drethu Hen Lane- iau, cyflwynedig gan Aelod o'r Blaid Geid- wadol. 28- Y Cymro, trwy lygad Sais," gan Mr. J. H. Jones Gol. Y Brython. Rhag. 5, Ai Cyfiawn Ymyriad Prydain yn y Rhyfel ?" Mr. Idwal Daviee, Mr. Robert Owen. 12—Cyfarchwel. 19—" Cartrefl Enwogion Cymru," Mr. Maurice Jones, A.R.C.A., Caernarfon. 26—Prawf Dic Shon Dafydd a Miss Gwadu ei Hiaith. Ion. 2- A ddylid cenedlaetholi'r Mwnfeydd ?" Mr. J. Roberts, Mr. T. Ll. Jones. 9-Y Senedd Mesur Diarfogiad, cyflwynedig gan Aelod o'r Blaid Lafur gorchfygu y Llywod- i aeth. li>—Cyngerdd a Chyfarfod Cystadl. euol. 23—Cyfarchwel. 30—" Emrys ap | Iwan," y Parch. Alun T. Jones, Bethesda. j Chwef. 6—" Methiant ynteu Llwyddiant v Y.M.C.A. ?" Mr.' W. Ll. Roberts, Mr. T. I. J Hughes. 13-Adloniadol. 20—Y Senedd j Mesur Ymreolaeth i Gymru, cyflwynedig gan Aelod o'r Blaid Ryddfrydig. 27-Darlith Ddarluniadol: "Palesteina," y Parch. J. Griffith, Llanfairfechan. Mawrth 6—Pa- purau Ffrainc, Italy, Gallipoli, yr Aifft, a Pualesteina, Mr. M. Gwilym Jones, Mr. J. H. Spiers, Mr. Lloyd G. Roberts, &c., &e. 13—Drama, Y Cam a'r Cymod," gan Gwmni y Cyn-filwyr. 20-Darlith. 27— Cyfarchwel. -0:-
Goreu Cymro: y Cymroi Oddicartref.i
Goreu Cymro: y Cymro Oddicartref. FARNWORTH, BOLTON.-Cynhaliwyd cyfarch wel nos Sadwrn, Tach. 15, gan ddosbarth o bobl ieuanc ffyddlon a gweithgar. Cafwyd dwy gan ystum a sketch a fwynhawyd yn fawr. Cafwyd dwy ura vd ar y piano gan Miss Alice George, oedd yn wael ers talm, a da gan bawb ei gweled wedi gallu dod i'n gwasanaethu unwaith eto. Cafwyd caneuon a deuawdau gan Mri. D. P. Williams a W. Pierce, Tyldesley. Cyfeiliwyd gan Miss B. Parry, Farn- worth, a Mr. Simon Jones, Tyldesley. Cafwyd ad- roddiadau gan Miss C. Parry, Bolton, M. E. Williams, Farnworth, a Mr, Ivor Jones, Ashton in Maker- field. Diolchwyd i bawb gan Mri. Lewis Williams ac Ed. Lewis. Yn absenoldeb y llywydd,—Mr. T. Davies, Daubhill, a anfonodd rodd deilwng,— cymerwyd y gadair gan Mr. T. Parry, Farnworth. Y mae eglwysi Bolton a Farnworth wedi anfon galwad unfryd i'r Parch. H. Lewis Jones, Nercwys, i'w bugeilio. SOUTHPORT."—Tach. 13, cynhaliwyd cyfarch- wet Eglwys.;jGymraeg(M.C.) Portland St., dan lyw- yddiaeth ac arweiniad Mr. J. C. Roberts (Walton Parkgynt),a chafwyd datganiad o raglen a drefnwyd gan Mr. W. H. Roberts. CAn, My Dreams, Mr. S. O. Davies, Colwyn Ba Can, Can, wennol, can, Miss Lizzie Lewis, Liverpool; CAn ysmala, Mr. J. T. Davies (Colwyn Bay), Trooper John Ludlow, Mr. Fletcher; Can, In an Old Fashion Town, Miss Morris Detholiad, Mr. Grantham Lluniaeth a rhydd-ymddiddan Anercbiad gan y llywydd, yn datgan ei fwriad i wneuthur ei oreu gyda'r achos yn Portland St., a'r fantais o gael ambell gyfarfod o nod- wedd yr un a gynhelid heno. CAn, The song my Mather sang, Miss Morris (encor); Dadl, Chwaer Die Shion Dafydd, Misses S. A. Jones a Gwen Gwilym Jones yn dda a naturiol; Deuawd, Until we meet again, Mr. Elfed Lewis a Miss L. Lewis (encor); For you alone, Mr. S. O. Davies CAn ysmala, Mr. J.T.Davies,yn hapus a doniol ond yn cliwacthus. Diolchiadau i'r cantorion ac i'r llywydd am ei ar- weiniad a'i rodd hael gan Mri. W. H. Roberts, W. D. Owen, A. Price, a J. R, Evans, i gyd yn Uawenhau am ddyfodiad Mr. J. C. Roberts i'r dref i fyw, gan ei fod mor adnabyddus yn y cylch fel un gwir awyddus am fod o wasanaeth i grefydd, ac am ei barodrwydd i helpu eglwysi gweiniaid ac yn goron ary cwbl—ei ysbryd crefyddol. A'n gwir ddymuniad y war iddo ef a'i annwyl deulu dderbyn llawer o fudd o awelon balmaidd hinsawdd y dref. Terfynwyd noson hynod o hapus trwy ganu Hen Wladfy Nhadau, Miss Lewis yn arwain. CYMDEITHAS POBL IEUANC MOOR LANE, WI.DNES.-Tach. 17, cafwyd anerchiad difyr iawn gan y Parch. G. J. Williams, Birkenhead, ar Peter Williams, Gwalchmai. Cymerwyd rhan gan Mri. E. Thomas, Y.H., a B. D. Thomas, a chafwyd nos lawen. CAPEL M.C. CROSFIELD ST., WARRING- TOiNT.-Tach. 13, yn ysgoldy capel Saesneg Golbome St. (B.), cynhaliwyd cyfarfod i groesawu'r bechgyn a ymunodd—1 5 a'r fyddin a 3 i'r llynges. Y Parch. R. Parry Jones a roddodd y croeso swyddogol ar ran yr eglwys. Un,o drugaredd,a gwympodd, ac er bod amryw o'r 17 eraill wedi eu clwyfo'n dost, yr oeddynt i gyd wedi dychwelyd i'r wlad hon, ac yn gwella. Partowyd te trwy garedigrwydd yr aelodau, a gyfranodd yn ardderchog, ynghyda thanysgrifiad sylweddol gan ffrynd pennaf Cymry Warrington— -HenryRoberts,Ysw*,Y.H. Ar ol te, cyfarfod agored heb ddim cadeirydd. Ysgrifennydd y mudiad, Mr, D. 0. Price, yn cymryd yr awenau. Daeth Mr. O. W. Francis (mab Mair Alaw), a Miss Jones (y ddau o Lerpwl), i'n difyrru mewn cerddoriaeth, ac ni chlywsom well canu fawr erioed. Cawsom ganu penillion gan Francis, Ymdaith y Bardd (Dr. Moel- wyn Hughes), r Fkvyddyn (Ceiriog), a rhai o'i gyf- ansoddiad ef ei hun. Hefyd Miss Jones, llais clir, cyfoethog a hynod o felys, a'r nodau uwchaf fel cloch. Canodd Nant y Mynydd, Tostis, Good Bye. Cawsom ddeuawdau Hywel a Blodwen, 0 tell me gentle stranger, ac fel encor The Keys of Heaven. Yrydym yn ddyledus iawn i Mrs. Rodgers, Irlam, am wasanaethu wrth yr offeryn, ei chyffyrdd- iad yn dyner. Y gynulleidfa a'r cantorion wedi eu boddhau. Tua chanol y cyfarfod gofynnwyd i Miss Jones gyflwyno ffon a Fountain Pen i'r bechgyn, wedi eu cerfio'n addas, rhodd yr eglwys, Atebwyd dros y bechgyn gan T. O. Thomas a Willie Pritchard, gan ddiolch, ac hefyd i'r eglwys am anfon llu o bethau iddynt, ac am eu gweddiau. Diolchiadau gan Mrs. W. T. Williams a Mr. E. T. Jones. Terfyn- wyd un o'r eyfarfodydd mwyaf hyfryd a Hen Wlad fy Nhadau, Mr. Francis yn arwain. Dyma'r bech- gyn Dr. D. A. Evans, W. T. Jones, Griffith Wil- liams, D. Morgan Jones, T. O. Thomas, R bert J. Jones, William Pritchard, J. E. Jones, John Roberts, Idwal Parry Jones, Lewis William Jones, JohnWil- liams, H. M. Jones, Telis Rowlands, Daniel Thomas, Telis Lloyd, Fred Hartley, W. Morris Jones, John Emlyn Jones, Edward Williams (ieu).—D.O.P. WARRINGTON.-Tacl,i. 17, yn ysgoldy y Capel Cymraeg, cynhaliwyd cyfarfod o dan nawdd y Gym- deithas Lenyddol, pryd y cafwyd dadl ar A fydd Cynghrair y Cenhedloedd yn rhwysir i Ryfel ? Agor- wyd yn gadarnhaol gan Mr. R. Roberts, yn cael ei gefnogi gan E. Williams (ieu.), ac ar y nacaol gan Mr. W. Jones, yn cael ei gefnogi gan Mr. Idwal Parry Jones. Cymerodd Mr. W. Pritchard a Dr W. R. Williams ran. Cyfarfod da dros ben. Tach. 20, cafwyd darlith gan y Parch. E. Griffith, Lerpwl, ar Ymddyrchafiad ein Cenedl o 1864 hyd 1919. Llywyddwyd y ddau gyfarfod gan y Parch. R. Parry Jones. ST; HELENS YUNCTION.-Nos Sadwm, y I5fed eyn., cynhaliwyd cyngerdd blynyddol y M.C. Cynhulliad o rai cannoedd, yn ystafell eang y Wes- eaid Saesneg yn Sutton Road. Cawsant es bodd- hau'n fawr. Buom yn ffodus i gael Mr. David, Roberts, Edge Lane, Lerpwl, i lenwi'r gadair, a gwnaeth ei waith yn gampus. Y chwaraewyr a'r 1 cantorion yn eu hwyliau goreu. Dyma hwy :— Miss M. C. Davies, A.R.C.M.; Miss G. Jones, A.L.C.M (Athrawesau Cerdd), Miss Mary Knight, Miss Dora Gledhill (disgyblion Cerdd); wrth y piano. Y caritoron :-Miss Myrtle Jones a Miss Amy Tag- gart; Mr. J. Hajton Morris, a Mr. J. C. Brien-o Lerpwl a Birkenhead. Yn Adrodd, Miss Myfanwy Jo'nes, Birkenhead. Cafwyd hefyd wsaan- aeth gwerthfawr yr Excelsiof Male Voice Choir" (Sutton), dan arweiniad medrus Mr. Robert Will- iams, Roughdales. Ysg., Mr.John Roberts, Pecker's Hill Rd. trys., Mr. David Ellis, Garnet St. Dis- gwylir elw syiweddol. Yr atniad mawr nesaf yn nhref St. Helens fydd Eisteddfod Heddwch sydd yn y Town Hall, Rhag. 6. Rhagolygon disglair. Bydd cystadleuaeth y corau meibion yn ymdrechfa galed yng nghyfarfod yr hwyr, gan fod cynife r o wahanol rannau'n partoi i'r giprys. Mae arwyddion sicr y bydd Mr. Matthews Williams, Llanrwst, gyda'r canu, a Golygydd r Brython gyda'r Adrodd, yn cael Hond eu breichiau. Hydervvn fod Mr. Vaughan Jones, Bootle, hefyd, yn partoi i arwain gyda ni.—J.P.J. MOSS SIDE.-Cafwyd cyngerdd llwyddiannus iawn yn ysgoldy Moss Side, nos Sadwrn, Tach. 29, dan lywyddiaeth W. Jones, Ysw., Whalley Range, Canwyd yn swynol gan Madame Walker, Miss Edna Goodwin, Mr. J. Parry, a Mr. Percy Hender- son, a pharti dan arweiniad Mr. J. Barnett Jones. Adroddwyd yn effeithiol gan Miss Roberts-Hughes, Heywood Street. Gwasanaethwyd ar y piano gan Mrs. Florrie M. Jones, Parker Street, a Mr. T. H. Thomas biau'r clod am lwydd eithriadol y cyngerdd. Diolchwyd i'r cyfeillion hyn ar ran y Cylch gan Mn E. P. Thomas, Westwood Street.-Idris Wyn. EISTEDDFOD DALEITHIOL.-Mae cryn son j parth Eisteddfod Gadeiriol Manceinion i'w chynnal naill ai'r flwyddyn nesaf neu'r un wedyn. Llywydd y pwyllgor gweithiol yw Wm. Jones, Ysw., Whalley Range. Mae'r is-bwyllgorau eisoes wedi eu dewis, a'r rhain i'w cynnull :-Cerddorol, Mr. R. M. Will- iams, Dewi Sant; Lienyddol, Mr. Phillip Morris, Moss Side Celfyddyd, Mr. Walter Roberts, Moss Side Argraffu, Mr. R. Monfa Parry Arianno4, Mr. Francis Williams, Heywood Street; ysg. cyff., Mri. H. M. Jones a M. O. Farrell. Hwi ati Gymry Manceinion, mynnwch Eisteddfod deilwng o dra- ddodiadau goreu'r ddinis.-Idris Ddu. COEDLLAI.—Cynhaliodd gwyr ieuanc Eglwys y M.C. eu cyngerdd blynyddol Tach. 27. Datgein- iaid :—Miss Louie James, L.A.M., Miss Myrtle Jones, Mr. Harry Lewis, Mr. J. C. Brien-i gyd o Lerpwl. Cyfeilydd,—Mr. Tom Roberts, Pen Cei. Llywyddwyd y rhan gyntaf gan Mr. J. Lloyd Morris, Wyddgrug, a'r ail gan Capt. Shaw, Hartsheath. Diolchwyd gan Mr. J. E. Williams a'r Pte. Thos. Jones. -'°'-
Advertising
I I w Christmas Shopping AT t EDWARD WILLIAMS. I HERE is where you will find one 1 of the prettiest selections II of Useful Cht?stmas j) Presents in Liverpool. j NOW L can be seen a large assortment of the newest Goods in BLOUSES, GLOVES, HOSIERY, LADIES' UNDERCLOTHING, CHILDRENS' FROCKS & PINAFORES, & FANCY LINENS. I Blankets and Down Quilts are accept- I able Xmas Gifts of which we have a large selection. I TO-DAY — you should commence I choosing your presents. 1 for stock of the popular articles soon become 1 exhausted. 1 I THE BEST selection is secured by 1 early shopping at I I EDWARD WILLIAMS, 1 PARIS HOUSE, 195, 197, 199 London Road, LIVERPOOL Phone, 182,2 Royal. Close 1 o'clock Wednesdays.
Bore Heddyw I
Bore Heddyw Sef Bore Dydd Merchcr. SIAS SYR ROBERT.-Eiaradai Syr R. J. Thomas, A.S., ar y Mesur Iechyd ym Mrymbo nos Lun ddiweddaf, a rhos sias a fflangell i'r own sy'n cyfarth yr Aelodau Cymreig am na fuasent yn cael pob peth mewn munud gydag Ymreolaeth. 'Doedd y boblach hyn ddim yn dallt cyflwr pethau yn Nhy'r Cyffredin, nac yn gweld fod cyfan- soddiad y Siambr honno yn peri ei bod hi'n amhosibl cael pethau trosodd heb hir ddyenu, -Ni chafodd Mr. Parod ei Brep ddim cystled bonclust ers talm. Hwyrach y ceidw o a'i gorgwn yn eu cwt am dipyn bellach. DIGON HA WDb IDDYNT HWY.- Siaradai Syr Robert yng Ngwrecsam yr un diwmod, sef ag amaethwyr Maelor, gan eu hannog i beidio ag ymuno ag Undeb Amaethwyr Lloegr, ond ag Undeb Amaeth- wyr Cymru. A dyma'r pam am mai mawrion bonheddig yw llawer o amaethwyr JLloegr, a'u ffermydd mor fawr fel nad oedd- ynt yn dibynnu ar drin y tir am eu bywol- iaeth. Ond cenedl y daliadau bychain oedd yng Nghymru, a deugain mil o'i fferm- ydd yn rhai dan hanner can acer. IE WIR, DIOLCH BYTH !-Pasiodd Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd brotest cryf yn Mhwllheli ddydd Llun diweddaf yn erbyn premium bonds y Llywodraeth, fol peth hollol groes i Gristnogaeth, ac yn ddim ond ffurf ar hapio, ebe'r Parch. J. IT. Williams, Porthmadog.—Ond bydd yn dda gan Mr. Williams a phawb da weld fod y Senedd wedi gwrthod codi arian yn y ffordd hon, gyda phleidlais o 276 yn erbyn ac 84 o blaid—mwyafrif o 192 yn erbyn y bonds. Dioleh bvth. Y DDWY GARN FELLTITH.-Buasai'n an odd penderfynu prun ai'r Fasnach Feddw. ol ynteu'r ias hapio a gamblo yma yw'r fwyaf o ddwy garn felltith ein gwlad. Y mae'r gyntaf yn magu a phoethi'r olaf; ac ni fu nes perthynas erioed rhwng dwy efell erioed nag y sy rhwng betio a Hymeitio. A gweld ami i fam yn gwneuthur y ddau AM YR HWY A'I WELLTYN O'R DAS.-Ie, iAs ddofn yrig ngwaed mawrion y tir yw'r ias fetio; ac y mae'n eithaf gwybyddus fel ybyddai un o fawrion landlord* aidd Cymru genhedlaeth neu ddwy'n ol yn dychwelyd o'r helfa lwynog, y fo a'i gyd-farchogion, gan anelu draws buarth ffarm y deuent ati, mynd at y das wair gyntaf a welent,ac yna fetio mil o bunnau prun- o'r pedwar a dynnai'r gwelltyn hwyaf ohoni Cywilydd i r cenawon, a degau o'u i-enaritr iaid mynyddig tlodion yn hongian byw mewn tylciau pridd ac yn clemio gan dlodi wrth hel y rhent i'r betiwr gael ei fil punnau i'w afradu mor bechadurus. BELLACH AM DY!Yn Nhreffyn- non, ddydd Llun diweddaf, torrai Mr. Foster Williams y dywarchen gyntaf go- gyfer a'r dau dy a deugain sydd i'w codi gan y Cyngor ar Ffordd Fer y dref honno. A phan orffennir y dau a deugain, y mae cant a hanner arall i ddilyn. Y mae truein- iaid teuluog yr ardal yn gwylio pob bricsen, ac yn gwaeddi Brysiwch, da chwi ar y dynion, canys y maent fel pennog Nefyn ar ei gilydd yn y lliaws tylciau tywyll yr ymgladdant ynddynt. GOSTWNG RHAG OFN.-Protestiodd Cyngor Tre Pwllheli yn erbyn gwaith y gwerthwyr yn codi deg ceiniog y chwart am eu Ilefrith a chan fod swn difrifwch yn llais y Cyngor, a bod ei ddwrn yng nghau, a'i figymau'n galed, bodlonodd a chrwc- ydodd y Ilaethwyr, gan ei ostwng i wyth wyth geiniog y chwart. CAEL I'M C YNEFI-V. -Liout. Polking- horne,—Gwrecsam ar hyn o bryd, Uythyrdy'r Rhyl cyn ei fynd i'r fyddin,-fydd post- feistr newydd Llanelwy. Fe'i clwyfwyd ym mrwydr Mametz Wood, lie y mae'r dorian yn dechreu ail lasu ar ol ei mwydo mor enbyd a gwaed cynifer o Gymry'r Hen Gatrawd. MARW MEWN MUNUD.—Bu Mr. Hen- ry Evans, Pwllheli, farw'n frawychus o ddisyfyd nos Sul ddiweddaf. Dyn pym- theg a deugain oed; ysgrifennydd Cym- deithas Ddarbodus y Fforestwyr am ddeng mlynedd ar hugain ac wedi bod ym modd- ion gras deirgwaith y diwrnod hwnnw. DRUAN O'R BYCHAN.-Boddodd meb- yn dwyflwydd oed Mr. Herbert Lloyd, Melin Tal y Bont, naill du i'r Abermaw, yn yr afon nid nepell o'i gartre ddydd Llun diweddaf. Ymddengys iddo grwydro a llithro i'r afon, oedd at ei cheulan gan lawog- ydd trymion y dyddiau cynt. 0 LANBEDROG.—Bu Mr. W. T. Wil- liams farw yma ddydd Llun diweddaf. Bu'n ysgolfeistr ym Mhenmorfa ddwy flyn- edd a deugain yr oedd yn ddiacon gyda'r M.C. ac yn ddiweddar y symud- asai yma. Pump a thrigain oedd ei oed.
Advertising
v. Prynir Dodrefn Owtrierht for Cgh. Distance no object. GREETHAM & SON fEst. )848). Probate Court Valuers Marlowe Ford, 18 Rytjal Bsnk. lisr-nird, and 27 Newincrton, Liverpool TeL 646 ROYR.