Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

TREM I I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREM I Arglwydd Robert Cecil. MAWR yw Cynghrair y Cenhedloedd, a'r Arglwydd Robert Cecil yw ei apostol. Eddyf pawb alluoedd mawrion y pendefig hwn. Nid yw hyotled a disgleiried a'i frawd, yr Arglwydd Hugh-gofaler am bwysleisio'r llythyren H ym Hugh Ond y* mae, yn ddiau, yn fwy ei bwyll, ac, a dywedyd y lleiaf, cyn dreiddioled ei amgyffredion a chlir ei farn. Fel amryw ereill o'i ddosbarth, yr oedd yntau cyn y rhyfel yn Dori rhonc, teilwng o'i gyff enwog. Ond ystwythodd lawer yn ei hen ddaliadau a'i arferion politicaidd drwy'r profiad y daeth iddo'n yr Armagedon. Gwelodd fod llong y Wladwriaeth mewn tymestl mor enbyd fel y teimlai-fel Paul gynt-f(?d yn rhaid i lawer o ryw daclau gael eu bwrw i r mor. Ymddengys fel breuddwyd ddarfod i gynifer o hen Doriaid fedru ymddangos mor debig i Ryddfryd- wyr ac, i ryw fesur, i gynifer o Rydd- frydwyr ymddangos mor debig i Doriaid. Amhosibl fuasai i'r Llywodraeth Gym- hleidiol gael ei ffurfio gadarned, a dal wrth ei gilydd cystal ag y gwnaeth, onibai ddar- fod i'r naill a'r llall fodloni, dros amser, i ymwadau a'r hen safleoedd a daliadau yr ymladdent ffyrnjced yn eu cylch. Ac i'n bryd ni, mae yn ein gwlad ry ychydig o bris ar hyn gan lawer. Yn un peth, bu'r Gymhlaid yn foddion i ennill buddugoliaeth yn y rhyfel. Heblaw hynny, mae gwir angen amdani i orffen trefniadau Heddwch. Fel y sylwodd Mr. Lloyd George ym Man- oeinion, nid ydym eto allan o'r coed. Chwan- egu at beryglon mawrion y sefyllfa, yn gartrefol a thramor, fyddai newid y Llywodr- aeth ar hyn o bryd. Ac ymhellach, ni allwn ni yn ein by w lai na chredu nad ysbryd Rhyddfrydol a democrataidd y wlad hon a gafodd y fantais fwyaf drwy'r gyfathrach rhwng pleidiau yn y Llywodraeth. Nid ydym yn anghofio fod y mwyafrif yn Undeb- wyr ond credwn, ar y cyfan, fod y Toriaid wedi symud llawer iawn mwy ymlaen nag a symudodd y Rhyddfrydwyr yn ol. Ond y dyfodol a ddatguddia fater o'r fath yn eglur. Er yr holl fwrw llaid a fu arno, a cheisio drygu ei enw da yn ei gefn, nid oes ynom ni unrhyw bryder na bydd i Mr. Lloyd George brofi ei fod yn parhau tan lywodraeth y delfrydau gwerinol y bedydd- iwyd ef iddynt gan ei ewythr Richard Lloyd, a'r ysbryd a roddes iddo'r galon ddewr a'r tafod tan i ddadlu dros ryddid ei Jienwlad pan yn fachgen, a thros ryddid y byd pan mae ei wallt yn gwynnu. Ond pa beth a ddaw o'r Arglwydd Robert Cecil, a'i gyffelyb ? O'n safle ni o famu pethau, ni ehyfrifem ef yn anffyddlon i'w farn a'i gydwybod petai'n peidio a dychwel byth mwy i'w hen wersyll Toriaidd. Yn hytrach, cyfrifem iddo beidio fel prawf o ddatblygiad a chynnydd. Bu, yn ddiamheuol, yn ystod y rhyfel yn ■fe o nerth a gwerth mawr yng Nghyngor Heddwch, ac y mae eto o wasan- aeth mawr yn y Senedd a'r wlad. Fe gred rhai ddarfod ei dynghedu i fod yn Brif Weinidog cyn hir. Ond gan nad beth am hynny, fe fydd yn un o gedyrn y byd gwleidiadol. Mae'n eglur ei fod ef, fel ei gyff, yn dra selog dros Eglwys Loegr. Gwel- wyd hynny yn y safle a gymerodd ynglyn & Deddf Datgysylltiad. Rhaid credu fod ganddo argyhoeddiadau dyfnion iawn ar y mater hwn. A chredwn ni ei fod yn gosod cyfnaint pwys ar y pwnc neilltuol yma fel ag i'w ddiogelu am ei oes i'r blaid a saif yn fwyaf nawddogol i'r Eglwys Anglicanaidd, pa enw bynnag fydd ar y blaid honno'n y dyfodol. Ond er ei holl eglwysyddiaeth a'i reddfau ceidwadol, mae safle'r pendefig hwn, yn ol fel yt eglura ei hun yn ei areithiau diweddar, ac yn enwedig ynglfn a. Chyng- hrair y Cenhedloedd, yn peri inni deimlo'n falch ohono. Gallwn gredu fod ei sel dros ei Eglwys yn tarddu o'i argyhoeddiadau crefyddol dyfnion. Nid allem ni, fel Ym- neilltuwyr, hoffi ajmiadau eglwysig W. Ewart Gladstone, a buont yn rhwystr inni gael ein hiawnderau teg. Ond yr oedd pawb ohonom—fel ei gofiannydd, Arglwydd Morley—yn edmygu y grefydd fawr, ddofn, oedd tan ei eglwysyddiaeth i gyd. A chyn belled ag na bo sect yn honni uchafiaeth yn enw Crist ar sect arall fel ag i ymyrryd 4'i rhyddid, na Gwladwriaeth yn achlesu'r naill ar draul gorthrymu'r llall, nid yw Anghydffurfiaeth yn achwyn. Wrth gwrs, mae egwyddor y Babaeth a chrefydd rydd yn hollol anghymodlon, ac mae'r Babaeth yn wadiad ar bob rhyddid a berthyn i ddyn -yn wladol, cymdeithasol, a chrefyddol, —ac yn berigl parhaus i heddwch y byd. Ar wahan i honiadau treisiol ofleiriadaeth, dylem deimlo'n falch fod dynion fel Arg- lwydd Robert Cecil yn y Senedd. Maent yn fwy o ddiogelwch i fuddiannau uchaf y wlad na rhyw ddosbarth o faterolwyr anffyddol sydd yno, pa mor ryddfrydol bynnag y gall eu credo politicaidd fod.

TREM II.,I

Advertising

Advertising

Advertising

TREM lit