Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Clep y Clawdd
Clep y Clawdd [GAN YR HUTYN.] I Cofio'r Cennad,Yr wythnos ddiweddaf y bu diadellau y diweddar Barch. R. L. Roose, yng Nghlan y Llyn a'r Holt, yn dadorchuddio'r meini coffa a osodwyd ar furiau'r capeli er cof amdano. Hwyrach nad oes neb yn yr ardal a chyn lleied angen maen coffa iddo ag ef, oblegid y mae o hyd mor ddwfn yn serch y praidd fel mai peth diangenrhaid, o ran hynny, oedd y meini ond hwyrach mai ar gyfer yr oesaui ddyfod eu gosodwyd, fel yr elai ei goffadwriaeth i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth. Bu Mr. Roose yn y fugeiliaeth hon ddeugain mlynedd ac nid oedd neb mor amlwg ag ef yn yr holl gylch. Dadorchuddiwyd y maen yng Nghlan y pwll gan Mr. J. E. Powell, Gwrec- sam, ac un arall yr hwyr yn Holt gan y Parch. R. G. Jones, Lerpwl. Caed anerch- iadau gan weinidogion y cylch, ac yr oedd y cynulleidfaoedd yn y ddau le yn fawrion. Gwyr yn dal yn hir yn yr un lie yw gweinidog- ion y Clawdd, ac nid adar ar eu hediad yn feunyddiol. Seneddwr sy'n tyfu.—Bu Syr Robert Thomas yn galw ei braidd ynghyd nos Wener i de, can a dawns. Da gan rai de, ereill gan, a llawer y ddawns. Bydd hyn yn boddio lliaws ond y peth mwyaf boddus o lawer yw fod Syr Robert yn gwneuthur ei waith yn ffyddlon a didderbyn wyneb. Gwr da yw, ac nid oes angen wrth y pethau hyn. Loes E.D.-Drwa gan bawb ddeall am loes E. D. Jones, drwy farw o'i ferch annwyl Dilys, a hithau yn y Bane yng Nghorwen ers dwy flynedd. Yr oedd y fath ag y dywedir amdanynt mai eiddo y cyfryw rai yw Teyrnas Nefoedd." Galw ar Ganwy.-Clywaf fod y Parch. J. H. Williams (Canwll), gynt o Fynydd Isa a Sychtyn, wedi cael galwad i Dremadog fel bugail. Gwnaeth waith da iawn ar y Clawdd yma, ac yr oedd yn ffafryn mawr ym Mynydd Isa. Mae'n Gymro da ac Eisteddfodwr pybyr. Bendith arno. Os ymaith yr â, a bendith gwell arno, os erys. Y ffyliaid mawr a'r ffyliaid mvjy.—T5xi dau baffiwr enwog wrthi yn pannu'r naill y llall yn Llundain y dydd o'r blaen. ,Aeth llawer o ffyliaid y Clawdd i fyny i weld yr anfadbeth, ond ow! 'r ol talu'r holl arian tren a chocbris am fynd i mewn i'r baedd-dy, ni chawsant ond rhyw funud o ddyrnu am eu poen. Tarawodd y Ffrancwr y Sais allan o diwn. Yr oedd y ddau baffiwr yn ffyliaid mawr, ond yr edrychwyr yn ffyliaid mwy. Dechreu da.Dyma ddynes wedi Jtio o'r diwedd yn Sonedd Prydain .-Fawr. Clywyd sgrech ami i ddynes yno ar yr oriel o'r blaen, ond dyma'r tro cYIltaf i ddynes fotio yn y Ty, a fotio yn erbyn y Llywodraeth a wnaeth. Dyna ddechreu da. Un iawn yw Savage.Nid dyma y tro cyritaf i faer newydd tref Gwrecsam fod yn yr eglwys Ddadgysylltiedig, gan y bu'n Faer o'r blaen. "Ond hwn oedd y tro cyntaf iddo oddiar pan ddadgysylltwyd yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth. Yr oedd yr prymdaith yn un fawreddog a hir, oblegid gwr poblogaidd iawn yw Mr. John Savage, a digon o ynni ynddo. Ni thyf dim glas- wellt dan ei draed. Gyrrwr heb ei fath yw, nid un yn gyrru ar ereill, ond arno ef ei hun, Ceir blwyddynlawn iawn ganddo os caniatai'r Arglwydd iddo'r dydd. Bydded felly. Onibai y rhai gwlybion.—Bywyd sySd 1 yn llawn o beryglon yw bywyd y glowr. Mae eu beryglon mor fawr nes yr a yn ddi- fater o bethau bychain, megis ergydion cyffredin neu ddoluriau bychain, a thry y rhain yn ami yn angeuol o'r herwydd. Cyll llawer eu bywydau oherwydd esgeulustra. 'D oes yr un dosbarth o bobl yn ymroddi cymaint i weithio dan gymaint o anhwyl- debau yn fynych a hwy. Ni chyll ddiwrnod o waith oherwydd dolur bach, na dolur go fawr o ran hynny, er y bydd llawer o'r rhaiseilionyn colli oherwydd yfed, ac onibai am y rhai hyn fe fyddai y glowyr yn y dos- barth uchaf bron. A oes Heddwch."—Gwelwyd y geiriau hyn ar bared ysgol ddyddiol yn sir Fflint a dau ddryll odditanynt. Y naill yn wn o'r wlad yma, a'r llall o'r Almaen, ac yr oedd y ddau wn yn heddychol iawn a'i gilydd. Da gweld hefyd ami i 'gethwr a ffeiriad a fyddai arfer rhyfela a'i gilydd yn awr mewn heddwch yn yr un eglwys mewn gwasanaeth. Y naill yn darllen y llithoedd, a'r llall y gweddiau. Daw cyfnewid pulpudau maes o law hwyrach. Beth am ddechreu y fiwyddyn nesaf yma ? Yn lie fod Ym' neilltuwyr yn newid a'i gilydd, newid efo offeiriad plwy am dro ? Ond gyda llaw, nid oes offeiriad plwy yn awr yng Nghymru, offeiriad ei eglwys yn unig yw. Gwelir yn awr mai bendith gyffredinol oedd y peth a wnaed, a gwerth ymladd amdani. Disgwyl amdani.—Mae llu mawr o siarad- wyr pwysig ar y Clawdd yma y dyddiau hyn, ond disgwylir, uwehlaw neb, wraig y Prif Weinidog, sef Mrs. Lloyd George. Mae disgwyliad amdani yr wythnos hon.
Advertising
I FARMS WANTED. NORTH WALES. Wanted to purchase Farm about 100 acres, nearWrexham or Chester. Early Possession.—Hughe3 and Jones, Estate Offices, Birkenhead. cuna^d line. SOUTHAMPTON & CHERBOURG to NEW YORK. *MAURETANIA Wed. Dec. 17 ♦Passengers embark Tues. afternoon, Dec. 16. SOUTHAMPTON to NEW YORK *ROYALGEORGE Thurs. Dec. 30 *Via Halifax LIVERPOOL to NEW YORK. *ORDUNA *via Halifax Sat., Dec. 13. ANGLO-CHILEAN [freight only] Sat. Dec. 20 LIVERPOOL. LONDON BRlST L. ROTTERDAM and ANTWERP to NEW YORK, BOSTON, PHILADELPHIA, and BALTIMORE. CUNARD LINE to CANADA. LONDON to PORTLAND M'E. VENUSIA (freight only) Sat., Dec. IS WILLASTON (freight only) Wed., Jan. 7 i RISVOL to PORTLAND ME. For Rates of passage and further particulars apply Cunard Line, Liverpool 51 Bishops- gate, London, E.C. 2; 29-31 Cockspur St., London, S.W. 1 98 Mosley St., Manchester; 24 Charles St., Bradford; 65 Baldwin Street, Bristol 18a High St., Cardiff 117 New St., Birmingham Maritime Chambers, Southamp- ton I Millbay Rd., Plymouth, or to Local Agentp. <" C.P.O.S. to Canada UNITED STATES and the ORIENT. LIVERPOOL TO ST. JOHN N.B. SCANDINAVIAN Dsc. 1.7 METAGAMA Dec. 27 EMPRESS OF FRANCE Jan. 3 f:" GLASGOW TO ST. JOHN N.B. PRETOIUAN Dec. 30 SICILIAN Jan. 17 LONDON TO ST JOHN N.B. tGRAMPIAN Jan. 6 ItGRAMPIAN Feb. 12 BRISTOL TO ST. JOHN N. B r;WRlo SlT. g: I TUNISIAN Dec It ) SCOTIAN Dec. IS SOUTHAMPTON TO ST. JOHN N.B. TUNISIAN Dec 13 I SOOTIAN Dec. 200 t viaHA VB-E. QUICKEST TIME ACROSS THE PAOIFIC. VANCOUVER TOJAPAN, i o d-y,t,, CHINA, H, daYJ For Freight or Passage apply to—Royal Liver Building, Liverpool (Tel. 8690 Bank); 14 Cockspur St., London, S W. 1 [Tel. 8:5",2. Gerrardj, 103 "Leadeniiall St. London, E,C. 3 [Tel. 4707 Avenue], 25 Bothwell St., Glasgow (Tel 66 1 Centralj,88 Commercial St., Dundee [Tel.38 Dundee] 18 H-AugiBtine's Parade, Bristol [Tfl 1836],50 Foyle St, Londonderry or LOCAL AGENTS. CANADIAN PACIFIC OCE^N SERVICES, LTD • h r 4bervstwyt^ UN 0 R COMBAT YM MltRIFYBGOL CtMRC). Prifathraw- JOHN HUMPHREYS DAVIES,M.A. [Oxen] OKCHKEIJA'R TymM neHafym mis 't? Ivdref Paratoir efrydwyr ar gyfM -Vrholijidau Prifysgol Cymru Cynygir amryw o ysgoloriaethau (amryw o aonynt yn gyfyngedigi Gymry) y fiwyddyn hoiK yiier yr arheUad lf4 vn Aberystwyth ar y iSfed fis Medi. 1919. fanvlion pfiliach, yvofyuer 4 ( rfrenryee COOK & TOWNSHEND. I Retiring from. Business. Great Realisation Sale. Splendid Bargains In Gcijtlemen's and Boys' SUITS 'and OVERCOATS. Made to Measure or Ready to Wear. This day and throughout the month of December 5-29 Byrom St., Liverpool.  -all the UWS f?ssS s S arB??? 'B????fAV? local, national, international, the history and the inside history of the h our, t he days, deeds and words, the big events, the trivial yet interesting incidents, gathered from the corners of the earth, trimmed to their true proportion, illuminated by incisive comment or criticism, printed and distributed within the cycle of a day a n dmo r e every issue of the "Liverpool Courier" contains well-informed special articles on a wide range of vital and interesting topics. Here is a diary of features appearing regularly week by week. MONDAY THURSDAY Round the Churches Readers and Writers Straight Talk by Delphian" The Prompter's Box Athletic and Turf Topics TUESDAY FRIDAY Motor Notes by Massac Buist Woman's Kingdom Golf Notes Music and Drama WEDNESDAY SATURDAY Women at Play Schools and Schoolmasters Labour Notes Cymric Topics by 4 Maidwyn Welsh Notes by Cambrensis The Property Market IN ADDITION all events and tendences of importance are dealt with by the highest authorities in the country. For adequacy, for balance, for lucidity, and for presentation in regard to general and commercial news. READ THE "LIVERPOOL FT5W° r COURIER in 1919 Foremost'COwuvR'wER 91 LENT P?B?ATE:?V. Farmers, Dealers, Tradesmen and others, requiring temporary CASH ADVANCES forlBusiness Purposesecan be readily accommodated on moderate terms. Established 1870. :e:t:ct. GEORGE PAYNE & SONS con6denceto 3 Crescent ROAD, Rhyl. or us SCHOOL LANE. LIVERPOOL. FOR BEDSTEADS AND BEDDING, W. WHITTLE SON & Stott, Ltd., 116 118 & 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. Tel. 2137 Royal. EISTEDDFOD MUSIC STORES '■ EIST DDP'{)D 'I??JSI'C ST<??E?  25 RADSTOCK ROAD, FAIRFIELD, HVERPOOL. TA-R CAr ^EWY OD. 1. H(ff Wlad yr U gyrn Arian (" L8nd of ti e Siiver Trumpet^)." D Afan Tnomafj 2. "Yr H' n Aehvyd ymreig" (" The Hearthstone." Isallt. H. Clychau Hedd (" Bella of P,ac ") in -two keys. Soprano or Tenor, C or B. No. 1, suitable for Mezzo Sopranc, Control to or Baritone. Post free,"2s. Id. No. 2, for aU voices (Knuh-e and Welsh words Do, Is, 7d, No. 3,. Clychnu It <i«l ('• BelJs o- Peace.") C. E. Williams. Do. 2". Id. Pianos, Organs, and iaimoniums, for Home, Chapels aicd Churches. T,Unii,g rind ;k (?, p ;a- Tu nincsg aed Repairing a Speciality. j ■ D. R, JONES (Alaw.Madog)
yhSYTH OIN sthtoo ii
yhSYTH OIN sthtoo ii Ac i ddod Bob Wyihnos. [UAJS EIN GOHEBYDD ABBENNIQJ..5 Llundain, Nos Lun, 8 jxiij.1919 Y "Times' ) yn cogio bod yn Dduwiol. Ni ddichon dim da ddod o Downing Street- o leia' dyna farn y Times, y Westminster Ga;;ette a'r Manchester Guardian. Gan nad beth a ddyfyd y Prif Weinidog, y mae beirniadaeth arno, a honno, bob amser, yn feirniadaeth drofaus a chondemniol. Anodd iawn yn yr amgylchiadau ydyw peidio a chredu fod y newyddiaduron a enwyd, ac eraill tebyg iddynt, yn mynd allan o'r ffordd i chwilio am fai lie na bydd. Cymerer y Times er enghraifft. Ynglyn a'r araith a draddododd y Prif Weinidog i Ryddfrydwyr Manchester ddydd Sadwrn, yr oedd yn rhaid i'r Times nid yn unig osod yr araith yn y llythyren fanaf (tro sal, fel y gwyr pob newyddiadurwr), ond y mae'n rhaid iddo ddarogan mewn ffordd dduwiol am y deepening distrust with which (the Times, 0 nage) the nation (ar air y Times) views the progress of Mr. Lloyd George and his Government." Yn ei araith dangosodd Mr. Lloyd George yn ddigamsyniol y progress a wnaethai ef a'i Wleidyddiaeth yn ystod y blynyddoedd diweddaf, ac amlygodd ei ddymuniad a'i awydd angerddol am fwy o undeb er mwyn gwneuthur mwy o gynnydd. Ond tynnu i lawr yw amcan y Times, ac nid cyfnerthu. Y mae'n rhaid i'r Prif Weinidog gario mlaen nid yn unig heb ei gynhorthwy, ond gyda'i holl ddylanwad yn ei erbyn. Yn ffodus nid yw hwnftw agos y peth y bu. Rhaid i furgyn wrth garth- ion. Nid yw'r Westminster ronyn gwell, Deng- ys y papur hwnnw ei fychander nid yn y ffurf o small type ond yn y ffurf blentyn- aidd o ddisgrifio'r Prif Weinidog fel "Mr. George," ac nid fel yr ydym ni a'r byd yn ei adnabod.—Mr. Lloyd George. Dim ond pluen fach yn dangos ffordd y chwyth y gwynt Tra yn gorfod cydnabod fod yn araith Manchester fwy o Ryddfrydiaeth nag a ddymuna'r Undebwyr, myn y West- minster fod ei Rhyddfrydiaeth yn gamsyniol ac yn gamarweiniol. Ffafriai'r araith Ymfl reolaeth i'r Iwerddon, ond nid yw hwnnw wrth fodd y Westminster am mai ffrwyth cyd-ddealltwriaeth y Coalition yw. Yr ydym ni mor barod a neb i gydnabod fod cysylltiad- au gwleidyddol presennol Mr. Lloyd George yn rhwystr i fesur iddo ef ddatblygu ei gynlluniau a'i ddelweddau Rhyddfrydol ond y cwestiwn ydyw, A fedr ef neu unrhyw wleidydd arall wneuthur yn well yn yr am- gylchiadau yr ydym ynddynt ? Credwn nad ellir ar hyn o bryd, ac am hynny yr ydym yn ddibetrus yn condemnio'r ymos- odiadau parhaus ar y Prif Weinidog, a'r duedd ddibaid i'w dynnu i lawr yn hytrach na'i helpu i adeiladu. ± Beth a wyddent hwy, cyn I gofyn i ni ? Teimla'r Blaid Gymreig yn Iled anfodlon oherwydd ymddygiad yr aelodau hynny sy'n cynrychioli Cymru ar bwyllgor y Llefarydd -y pwyllgor sydd yn rhoddi ystyriaeth iragbartoawl i gwestiwn mawr Devolution. Yn un peth cwynir yn dost am nad ym- gynghorwyd a. hwynt o gwbl ym mhenodi'r cyfryw gynrychiolwyr yn aelodau o'r Pwyll- gor. Caria rhai Q honynt y g-wyn ymhellach, a dywedant yn groew nad yw'r cynrychiol- wyr dan sylw yn siampl deg o wybodaeth a phrofiad Cymru ar y pwnc mawn dadl. Mewn gair, ni fynnant gymryd eu cynrychioli yn y mater gan Arglwydd Aberdar, Mr. Charles Edwards, Mr. John Hugh Edwards, a Mr. L. Forestier Walker. Am y rhesymau hyn, siaradant yn gryf ac yn hyawdl yn erbyn y Gynhadledd a gynhaliwyd y dydd o'r blaen yn yr Amwythig i geisio dod o hyd i fam Cymru ar y cais am Ymreolaeth, a'r trefniadau a fodlonant Ogledd a Do mewn perthynas i'r cwestiwn. Yn y mater hwn drachefn cwynant nad ymgynghorodd y pwyllgorwyr (sef y pedwar person a nod- wyd) a'r Blaid Seneddol Gymreig cyn cymryd amynt eu hunain y cyfrifoldeb o alw'r Gynhadledd, na chymryd unrhyw drafferth i gasglu barn eu cyd-seneddwyr ar yr an- hawsterau a deimlir ynglyn ag Ymreolaeth i Gymru, yn enwedig o'r safle ariannol, a'r safle sirol neu ranbarthol. O'r ochr arall, mae'n deg dweyd i Mr. Hugh Edwards a Mr. Forestier Walker alw sylw rhai aelodau unigol at y peth. Gyda golwg ar y Gynhad- ledd barna y rhai sy'n cwyno fod yr hyn a ddigwyddodd yno yn gondemniad ar fyr- bwylldra ac annoethineb y pwyllgorwyr. Prydain yn ofni wrth weld I yr India fawr yn deffro. Yn. ol yr arwyddion presennol gallwn dybio y caiff yr India hawl i Ymreolaeth o flaen yr Iwerddon. Prynhawn dydd Gwener llwyddodd Mr. Edwin Montagu i gario drwodd drydydd darlleniad y Govern- ment of India Bill. Ychydig, mewn cym- hariaeth, o sylw a roddwyd i'r Mesur yn y wlad (ceid mwy o sensation mewn Premium 'Bonds), ond edrych pobl ystyriol arno -fe1 yn gydbwys a rhoddi'r Magna Charte I Symudiad gwleidyddol o'r fath bwysicaf ydyw estyn rhyddfreiniad i dri chan miliwn o eneidiau. Nid yw heb ei beryglon ar yr un pryd, y mae n Hawn gobaith. Gwyddis fod India boblog yn prysur ddeffro o'i chwsg ac yn tyfu o'i hanwybodaeth. Y mae'n bwysig rhoddi cyfeiriad priodol i'w dyheadau, ac y mae lie i obeithio y gwel ei hiachawdwriaeth yn ffordd hunan-Iywodr- aeth. I Mr. Montagu, yn ddiau, y dylid rhoi'r clod pennaf alZa; drefniad doeth y Mesur a basiwyd yr wythnos ddiweddaf, ond y mae'n deg i ni fel Cymry gofio'r gwasanaeth ffyddlon a diwyro a roddwyd i'r achos hwn yn y gorffennol gan gynnrych- iolwyr Cymreig, yn enwedig felly gan Syr Herbert Roberts, yn awr Arglwydd Clwyd.. Rhaid ei fod ef a'r rhai a fu'n cydweithio ag ef yn y blynyddoedd tywyll,yn rhyfeddu, tra'n IIaweny chu,yn y llwyddiant sy'n awr yn dilyn eu hymdrechion. Siawris na cheir bellach. Araf iawn y symudir yn y byd gwleid- yddol, a rhaid aros yn hir am bob diwygiad gan nad pa mor deilwng. Aeth llawer blwyddyn heibio er pan ofynnodd cynrych- iolwyr Cymru gyntaf am ryddhau addoldai ein gwlad o gaethiwed deddf y prydlesi. Dro ar ol tro dygwyd eu cwyn gerbron Ty'r Cyffredin, ac o dipyn i beth fe gynhyrch- wyd cryn lawer o gydymdeimlad a'u cais, ond y mae'r capeli, hyd yma, heb eu rhycld- hau. Da gennym ddeall nad yw eu hachos wedi mynd yn hollol anghof, a bod gobaith yr ail godir ef i sylw. Mr. Herbert Lewis, Mr. Haydn Jones, a Mr. Charles Breese sy'n symud yn y mater, a chan fod dycnwch a phenderfyniad yn nodweddu'r tri, mae lie i ddisgwyl nad yn ofer o hyd y gelwir am ryddfreiniad lleoedd Addoli. ± I Ydyw, y mae Ellis Davies yn fyw. Er wedi marw, yn yr ystyr seneddol, y mae Mr. Ellis W. Davies, y cyn-aelod dros Eifion, yn llefaru eto,-y tro hwn yn y Contemporary Review. Yr ydym yn ddy- ledus i un o newyddiaduron Caerdydd am alw ein sylw at yr erthygl. Pwnc y tir sydd gan Mr. Davies, a gwyr gryn lawer amdano. Oni osododd Mr. Lloyd George ef ar y Ddir- prwyaeth Dir rai blynyddoedd yn ol ? Ond gwahaniaethu wna Mr. Davies y tro hwn a rhai o olygiadau'r Prif Weinidog ynglyn a chwestiynau o hawl. Teifl lawer o oleuni ar wedd gyfreithiol daliadaeth dirol, ac y mae'r ysgrif yn un ddiddorol ac addysgiadol, I Llundain yn chwilgorn ary ddau ffustwr. Dinas ynfyd ar lawer ystyr yw dinas Llundain a ffyliaid yw llawer iawn o'i phobl. Nos lau ddiweddaf bu yma "gwffast," neu i fod yn fwy llenyddol, ymladdfa, rhwng Ffrancwr o'r enw Car- pentier a Sais o'r enw Beckett, ac fe gollodd Llundain (neu o leiaf ran fawr ohoni) hynny o synnwyr cyffredin sy ganddi. Aeth mil- oedd ar filoedd i'r Holborn Stadium a'r heolydd oddiamgylch i weld a chlywed sut yr oedd y gwffast yn mynd ymlaen. Daeth cannoedd o blismyn i wneuthur pethau'n hwylus iddynt; trowyd y busnes allan o'r ffordd yn lie aflonyddu ar yr ym- laddwyr a'u oyfeillion aeth Tywysogion a phendefigion y bobl i weld y Show; talwyd degau o filoedd am eisteddleoedd, ac am awr bu Llundain drwyddi yn dioddef dan bangfeydd disgwyliad. A dim ond ftzzl" yn y diwedd Ymhen un munud ac ychydig o eiliadau yr oedd Beckett yn lledan a Charpentier yn cael ei gofleidio a'i gusanu fel concwerwr. Wfft byth inni