Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

-Bore Heddyw I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bore Heddyw I Set Bore Dydd Mcrch^r. I SINEMA YNTEU SEIAT?-Rwy'ncodi'r pwt a gafilyn o'r Faner — Mae'r 'Cinema yn dyfod i'r eglwys a'r capel mor sicr ag y daeth yr organ a'r gerddorfa iddynt.' Brawddeg yw how 0 nodyn gan ohebydd achlysurol yn y South Wales News. Traetha y go- hebydd hwn yn ddifyr a doniol ar gyn- nydd yr arferiad o ddawnsio, a dywed fod dosbarthicdau dawnsio, erbyn hyn, yn cael eu cynnal mewn ystafelloedd perth- ynol i eglwysi a chapelau, ac hefyd mewn ysgolion. Mewn amryw achlysuron, can- iateir yr ystafelloedd at yr arocan ar gynhygipn blaeaoriaid Ymneilltuol. Na ddyehiynned y Piwritaniaid, oblegid ffol- edd fyddai hynny, am y rheswm fod yn rhaid iddynt ddygymod, yn Jiwyr neu hwyrach, a'r syniad fod y ddawns i ddyfod i fwy o ffafr. < Na ddygymvvn byth Ac os daw'r sinema i lan a chapel, mi wn i beth aiff allan. Yr Ysbryd Glan. DOWCH I'R RHOS DDU.-Y mae'n sicr gen i mai'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., a gofiodd i Wreesam a'r wlad ei bod hi'n dri chan mlynedd er pan aned Morgan Llwyd o Wynedd, sydd a'i lwch ym mynwent y Rhos Ddu, o dan golofn a ddadorchudd- iwyd yno gan Mrs. Lloyd George yn 1912; a hi a ddisgwylir yno ddydd Lltm nesaf i gymryd rhan. gydag eraill, yn nathlu'r tri chan mlynedd. Hai lwc y clyw Wrecsam a'r wlad i gyd dipyn o lais ei Dri Aderyn digymar ddydd Llun. Y mae'n hen bryd iddi. BLYSIO'R DDAFAD.-Y mae John Morgan, Gwrly, Llangurig, wedi ei fwrw i sefyll ei brawf yn y Frawdlys ar gyhuddiad o ladrata dafad, eiddo Maurice Jones, Glan Dulas, Llanid'oes. Tlodi oedd ple'r cyhudd- edig o flaen y Fainc. GERBRONPIANT YOLCGWYNI.—Mr. J. Herbert Lewis, A.S., oedd y prif lefarydd mewn cyfarfcd gwleidyddol ym Mlaenau Ffestiniog nos Wener ddiweddaf ac y mae'n sicr iddo sylwi mor debyg i'r clogwyfii oedd wynebau y bobl a wrandawai mor astud o' I flaen. A chofiweh chwi mai pInen i iddynt ydyw hynny ac n'd sen, canys y mae swn ffrwd a rhaeadr, swa gwynt a drycin yn eu lleisiau wrth ganu ac wylo, a lliw drycin gaeaf a haul haf ar eu gruddiau rhychog. A thlysach hynny lawer na wyn- ebau lloaidd a llonvdd gwyr y gwastadedd. DYN Y DAINT.- Y mae Pwyllgor Addysg M6n wedi pasio i benodi deintydd. i Jynd drwy ysgolion y sir, ar gyflog blyn. yddol o bedwar cant o bunnau a'i dreuliau. Pe buasai'r plant yn cael mwy o hen fwyd Môn-uwd rhyhion-a llai o geriach mer- fedd yr oes hon—ni fuasai dim eisiau talu pedwar cant o bunnau i neb am edrych eu da,int. Mi fuasai eu bonion yn gryfion eu gafael, mor wastad a rhes o bol ion gardd, ac mor wyn a dain t Negroaid cyhyrog y Congo. DOWCH YN OL PR HEN DERFYN. —Y mae Maer newydd y Mwythig yn Gymro iawn ac nid yn lied Gymro, canys ebe fo yn y fancwet faerol yr wythnos ddiweddaf :— Y mae Amwythig, prif ddinas Cymru, yn anrhydedd gwerth sythu amdano, a buasai'n chwanegu'n ddirfawr at lwydd- iant yr hen dre. Yr wythnos cynt cyfar- fyddai Dirprwyaeth Llefarydd Ty'r ■ Cyffredin ar Devolution yma ac yn y dat- ganiad cyhoeddedig ymhlaid Ymreolaeth i Gymru, dywedid fod Sir Amwythig (.Shropshire) a'r Amwythig (Shrewsbury) —[ond Pengwern yn ol ei hen enw, sy'n well gennym ni ei galw]—yn brif ddinas o talaith Powys, ac yn awyddus i ddod i fewn a chael ei chynwys dan y gair Cym- ru. Y mae'r hen enw i'w weld heddyw ar rai o'i sefydliadau-Pengwern Boating Club yn un. Ni wn i am yr un dre haws gennyf ymdroi ynddi, i synhwyro olion yr hen Gymry gynt, ac yn enwedig i ddwys sef- yllian o gwmpas y Sgwar ar ben yr allt ffordd yr elych o'r orsaf, nes cyrraedd yr ysmotyn lie y lladdwyd Dafydd Gam, brawd Llewelyn y LIyw Olaf, ac ami i Gymro glew arall. Wel, deued y Mwythig i fewn. ac ehaiiged Cymru'n ol hyd at rai o'i hen der- fynau, canys gwaed ei meibipn hi a bair fod meysydd y Mwythig mor las a ffrwyth. lon. GOC,LF,ISIAD -il[EliVIR MAI.-Clywodd Meinir Mai Miss Rosina Davies yn pregethu'r dydd o'r blaen yn Pontyates, bro Myrddin cyffrowyd ei hawen a'i henaid ac ebe hi, mewn tri phennill twym :— Genhades dlos pwy fel tydi All ddangos marw'r Groes Ac ingoedd Calfari ? Pwy all ddisgrifio'n llawn Yr hau, yr had, a'r grawn, I A holl rinweddau'r la,,vii, Pwy fel tydi ? v Lawforwyn deg Pe deuai Paul I'r ddaear hon yn ol I wrando'th ddoniau di, Newidiai ef ei farn, Ac ai'i syniadau'n sarn 'Rol iddo glywed cla-rn O'th bregeth di. Angyles fwyn Y Nef a'th alwodd di I ddangos inni'r ffordd I dynnu'r caddug du,— I ffwrdd a threfniant dyn, Ei effaith sydd mor flin 1 Rhown le i Dduw ei hun I Yn ffrynt y Ty. Yn Nhreorci y trig yr efengyles, eithr merch y hi i Mr. J. Bonfyl Davies, Tan y Bonfyl, tre Aberteifi; a phrin y cafwyd Cymraes erioed fwy eirias a goddeithiol mewn pulpud ac ar lwyfan. Crafiad cyr- haeddgar a net iawn sy gan Meinir Mai i Paul. CAMPUS 0 BAPUR.-Darllenodd Mr. Llew. Williams, athro yn Ysgol yr Higher Grade, bapur ar ei brofiadfel milwr gerbron < Cymrodorion Colwyn Bay nos Wener ddi- weddaf ac yr oedd ei Gymraeg mor goeth, a'i froddegau wedi eu blasu a haen o hiwmor mor felys, nes y pasiwyd i'w argraffu, ar gynygiad y llywydd (Dr. J. H. Morris Jones, M.C.). AR AELWYD NO. 10.—Yr oedd cant a banner o gyn-efrydwyr Coleg Aber- ystwyth yn 10 Downing Street, Llundain,  brynhawn dydd Sadwrn diweddaf, ar wahodd- 1' iad Mr. Lloyd George. Yr oedd Mri. Ellis J. Griffith a J. Herbert Lewis, A.S., yn eu mysg .ac amcan y cyfarfyddiad cu ydoedd s ffurfio Undeb o'r Efryriwyr—mudiad y mae ( priod ein Prif Weinidog yn gweithio mor j ddyfal o'i bla,id. W.Iir A'] CAFODD.—Mt. W. H. I Williams sydd wedi ei ddewis yn ysgrif- | enydd taledig Eisteddfod Genedlaethoi Caer- ¡' narfon, 1921. Y rhain oedd ar y rhestr fer heblaw y fo :—Mri. T. R. Roberts (Asciff), j Coiwyn Bay R. J. Rowlands, Lerpwl | Rd. Jones, Dolgellau, ond tynasai'r olaf I ei enw'n ol.

Gwilym Ceiriog. ii,

Advertising

Advertising

DAU TU'R AFON.