Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
-Bore Heddyw I
Bore Heddyw I Set Bore Dydd Mcrch^r. I SINEMA YNTEU SEIAT?-Rwy'ncodi'r pwt a gafilyn o'r Faner — Mae'r 'Cinema yn dyfod i'r eglwys a'r capel mor sicr ag y daeth yr organ a'r gerddorfa iddynt.' Brawddeg yw how 0 nodyn gan ohebydd achlysurol yn y South Wales News. Traetha y go- hebydd hwn yn ddifyr a doniol ar gyn- nydd yr arferiad o ddawnsio, a dywed fod dosbarthicdau dawnsio, erbyn hyn, yn cael eu cynnal mewn ystafelloedd perth- ynol i eglwysi a chapelau, ac hefyd mewn ysgolion. Mewn amryw achlysuron, can- iateir yr ystafelloedd at yr arocan ar gynhygipn blaeaoriaid Ymneilltuol. Na ddyehiynned y Piwritaniaid, oblegid ffol- edd fyddai hynny, am y rheswm fod yn rhaid iddynt ddygymod, yn Jiwyr neu hwyrach, a'r syniad fod y ddawns i ddyfod i fwy o ffafr. < Na ddygymvvn byth Ac os daw'r sinema i lan a chapel, mi wn i beth aiff allan. Yr Ysbryd Glan. DOWCH I'R RHOS DDU.-Y mae'n sicr gen i mai'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., a gofiodd i Wreesam a'r wlad ei bod hi'n dri chan mlynedd er pan aned Morgan Llwyd o Wynedd, sydd a'i lwch ym mynwent y Rhos Ddu, o dan golofn a ddadorchudd- iwyd yno gan Mrs. Lloyd George yn 1912; a hi a ddisgwylir yno ddydd Lltm nesaf i gymryd rhan. gydag eraill, yn nathlu'r tri chan mlynedd. Hai lwc y clyw Wrecsam a'r wlad i gyd dipyn o lais ei Dri Aderyn digymar ddydd Llun. Y mae'n hen bryd iddi. BLYSIO'R DDAFAD.-Y mae John Morgan, Gwrly, Llangurig, wedi ei fwrw i sefyll ei brawf yn y Frawdlys ar gyhuddiad o ladrata dafad, eiddo Maurice Jones, Glan Dulas, Llanid'oes. Tlodi oedd ple'r cyhudd- edig o flaen y Fainc. GERBRONPIANT YOLCGWYNI.—Mr. J. Herbert Lewis, A.S., oedd y prif lefarydd mewn cyfarfcd gwleidyddol ym Mlaenau Ffestiniog nos Wener ddiweddaf ac y mae'n sicr iddo sylwi mor debyg i'r clogwyfii oedd wynebau y bobl a wrandawai mor astud o' I flaen. A chofiweh chwi mai pInen i iddynt ydyw hynny ac n'd sen, canys y mae swn ffrwd a rhaeadr, swa gwynt a drycin yn eu lleisiau wrth ganu ac wylo, a lliw drycin gaeaf a haul haf ar eu gruddiau rhychog. A thlysach hynny lawer na wyn- ebau lloaidd a llonvdd gwyr y gwastadedd. DYN Y DAINT.- Y mae Pwyllgor Addysg M6n wedi pasio i benodi deintydd. i Jynd drwy ysgolion y sir, ar gyflog blyn. yddol o bedwar cant o bunnau a'i dreuliau. Pe buasai'r plant yn cael mwy o hen fwyd Môn-uwd rhyhion-a llai o geriach mer- fedd yr oes hon—ni fuasai dim eisiau talu pedwar cant o bunnau i neb am edrych eu da,int. Mi fuasai eu bonion yn gryfion eu gafael, mor wastad a rhes o bol ion gardd, ac mor wyn a dain t Negroaid cyhyrog y Congo. DOWCH YN OL PR HEN DERFYN. —Y mae Maer newydd y Mwythig yn Gymro iawn ac nid yn lied Gymro, canys ebe fo yn y fancwet faerol yr wythnos ddiweddaf :— Y mae Amwythig, prif ddinas Cymru, yn anrhydedd gwerth sythu amdano, a buasai'n chwanegu'n ddirfawr at lwydd- iant yr hen dre. Yr wythnos cynt cyfar- fyddai Dirprwyaeth Llefarydd Ty'r ■ Cyffredin ar Devolution yma ac yn y dat- ganiad cyhoeddedig ymhlaid Ymreolaeth i Gymru, dywedid fod Sir Amwythig (.Shropshire) a'r Amwythig (Shrewsbury) —[ond Pengwern yn ol ei hen enw, sy'n well gennym ni ei galw]—yn brif ddinas o talaith Powys, ac yn awyddus i ddod i fewn a chael ei chynwys dan y gair Cym- ru. Y mae'r hen enw i'w weld heddyw ar rai o'i sefydliadau-Pengwern Boating Club yn un. Ni wn i am yr un dre haws gennyf ymdroi ynddi, i synhwyro olion yr hen Gymry gynt, ac yn enwedig i ddwys sef- yllian o gwmpas y Sgwar ar ben yr allt ffordd yr elych o'r orsaf, nes cyrraedd yr ysmotyn lie y lladdwyd Dafydd Gam, brawd Llewelyn y LIyw Olaf, ac ami i Gymro glew arall. Wel, deued y Mwythig i fewn. ac ehaiiged Cymru'n ol hyd at rai o'i hen der- fynau, canys gwaed ei meibipn hi a bair fod meysydd y Mwythig mor las a ffrwyth. lon. GOC,LF,ISIAD -il[EliVIR MAI.-Clywodd Meinir Mai Miss Rosina Davies yn pregethu'r dydd o'r blaen yn Pontyates, bro Myrddin cyffrowyd ei hawen a'i henaid ac ebe hi, mewn tri phennill twym :— Genhades dlos pwy fel tydi All ddangos marw'r Groes Ac ingoedd Calfari ? Pwy all ddisgrifio'n llawn Yr hau, yr had, a'r grawn, I A holl rinweddau'r la,,vii, Pwy fel tydi ? v Lawforwyn deg Pe deuai Paul I'r ddaear hon yn ol I wrando'th ddoniau di, Newidiai ef ei farn, Ac ai'i syniadau'n sarn 'Rol iddo glywed cla-rn O'th bregeth di. Angyles fwyn Y Nef a'th alwodd di I ddangos inni'r ffordd I dynnu'r caddug du,— I ffwrdd a threfniant dyn, Ei effaith sydd mor flin 1 Rhown le i Dduw ei hun I Yn ffrynt y Ty. Yn Nhreorci y trig yr efengyles, eithr merch y hi i Mr. J. Bonfyl Davies, Tan y Bonfyl, tre Aberteifi; a phrin y cafwyd Cymraes erioed fwy eirias a goddeithiol mewn pulpud ac ar lwyfan. Crafiad cyr- haeddgar a net iawn sy gan Meinir Mai i Paul. CAMPUS 0 BAPUR.-Darllenodd Mr. Llew. Williams, athro yn Ysgol yr Higher Grade, bapur ar ei brofiadfel milwr gerbron < Cymrodorion Colwyn Bay nos Wener ddi- weddaf ac yr oedd ei Gymraeg mor goeth, a'i froddegau wedi eu blasu a haen o hiwmor mor felys, nes y pasiwyd i'w argraffu, ar gynygiad y llywydd (Dr. J. H. Morris Jones, M.C.). AR AELWYD NO. 10.—Yr oedd cant a banner o gyn-efrydwyr Coleg Aber- ystwyth yn 10 Downing Street, Llundain,  brynhawn dydd Sadwrn diweddaf, ar wahodd- 1' iad Mr. Lloyd George. Yr oedd Mri. Ellis J. Griffith a J. Herbert Lewis, A.S., yn eu mysg .ac amcan y cyfarfyddiad cu ydoedd s ffurfio Undeb o'r Efryriwyr—mudiad y mae ( priod ein Prif Weinidog yn gweithio mor j ddyfal o'i bla,id. W.Iir A'] CAFODD.—Mt. W. H. I Williams sydd wedi ei ddewis yn ysgrif- | enydd taledig Eisteddfod Genedlaethoi Caer- ¡' narfon, 1921. Y rhain oedd ar y rhestr fer heblaw y fo :—Mri. T. R. Roberts (Asciff), j Coiwyn Bay R. J. Rowlands, Lerpwl | Rd. Jones, Dolgellau, ond tynasai'r olaf I ei enw'n ol.
Gwilym Ceiriog. ii,
Gwilym Ceiriog. LUES i lawer o gyfeiilion ac edmygwyr y diweddar Brif-Fardd ydoedd ei farwolaeth sydyn, yn ei breswyl, Brooklyn, Llangollen, bore Mercher, Rhag. 3, yn 61 mlwydd oed. Ganwyd ef yn y Ddol Tyddyn, ar lan afon Ceiriog, yn y Pandy, Glyn Ceiriog. Ardal enwog am ei beirdd ydyw Dyffryn Ceiriog, ac nid y lleiaf ydoedd Gwilym Ceiriog. Enwau ei rieni oedd Robert ac Elizabeth Roberts, a Gwilym oedd yr ieuangaf o dri o blant. Collodd ei fam pan yn ieuanc iawn. Ni chafodd ond ychydig o addysg fore'i oes-hynny a gafodd oedd yn Ysgol Genedlaethoi y Glyn. Bu raid iddo ddechreu gweithio'n ieuanc iawn. Symudodd i Bir- icenhead pan-ioddeutu 16 mlwydd oed, ac mor fyw, onite ? y disgrifia'r olwg gynta gafodd ar y Mersi yn ei Gywydd buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1917. Trwy ei ddyfalbarhad yn darllen ac astudio daeth yn fuan i enwogrwydd fel bardd. Un o'i wobrwyon cyntaf oedd mewn cwrdd cystadleuol yn David Street, Lerpwl, ni gredwn, pan yn gyd-fuddugol a Huwco Penmaen. Oddeutu 30 mlynedd yn ol symudodd i fyw i Langollen, ac yma daeth i enwogrwydd. Enillodd gadeiriau yn Llanuwchllyn, Cefn Mawr, Glyn Ceiriog, Birkenhead, Cerrig y drudion, Corwen ddwy- waith,M6n,Colwyn, Caerfyrddin (Genedlaeth- oi), a Pittsburg [Cyd-gehedlaethol]. Yn ol Tafolog, yr oedd yn drydydd am gadair Genedlaethol Lerpwl, am awdl ar Y Bugail, ac ystyria rhai yr awdl hon yn un o'r pethau goreu a gyfansoddodd. Enillodd lawer o wobrwyon am englynion a chywyddau, a'r wobr olaf o bwys ydoedd am gywydd i'r Afon Mersi yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead. Er ei fod yn berchen corff cryf o ran golwg, eto i gyd dioddefai ar brydiau o glefyd y galon. Cafodd ei daflu o don i don lawer tro collodd ei fab hynaf ym Mhatagonia bell, ac un arall yn y rhyfel ond cafodd y fraint o'i gladdu yn ei gartref yn Llangollen. Yr oedd ers blynyddoedd bellach yn dwyn masnach ymlaen fel gwerthwr ymenyn, ac yn adna- byddus i laweroedd o gylch Croesoswallt. Collodd ei fasnach trwy y rhyfel, ac effeith- ¡ iodd hynny lawer arno, ynghyda cholli ei fechgyn. Cyll Llangollen un o'i thrigolion enwocaf, ac un o'i chymwynaswyr goreu ym rpyd Lien. Yr oedd galw mynych arno fel beirniad mewn Eisteddfodau yr oedd yn fanwl iawn fel beirniad adrodd. Chwith I yw ei golli o'n plith, ac mor briodol dweyd heddyw yn ei eiriau ef ei hun :— Byr iawn yw bore einioes, Dim ond awr ar oriawr oes." Claddwyd ym mynwent y Fron, Llangollen, a daeth tyrfa fawr a pharchus i dalu'r gym- wynas olaf iddo. Rhyw wythnos cyn ei farwol, ym mynwent y Fron, y cyfan- soddodd ei englyn olaf, i gofio am Grace, merch i'r diweddar Barch. Moses Roberts, I Llangollen, a fu farw'n ugain oed Byr a hardd ei bore hi-merch y wawr, 0 mor chwith ei cholli Goeth eneth, pregeth inni, A'i gwersi'n aur,—Gras i ni.
Advertising
I CHRISTMAS PRESENTS. HIGH-CLilSS SriOON D-HAN D f>I os D IAV,'eS'e-, 30 LOW HILL, LIVER- POOL, invite inspection of the undermentioned bargains in PIANOS, featuring; responsive- ness of touch, brilliancy, and balance of tone, as follows PIANO S 30 LOW HILL, LIVERPOOL, invite inspection of the undermentioned bargains in PIANOS, featuring responsive- ness of touch, brilliancy and balance o tone, as follows :— £ 18/18 /-PIANO, Rosewood, ivory keys, mellow tone, suitable for practise pur- poses. £24/15 I-ROSEWOOD. Chippendale, treble panels and sconces, mellow tone. £39/15 I-RALPH ALLISON, beautiful, highly polished, burr walnut very sweet tone and perfect touch. £ 42 /15/-HOPKINSON, handsome Walnut, full compass, beautiful mellow tone. £45jl0j-CGLLARD AND COLLARD, up- right irou grand rosewood. £ 58/10 /-COLLARD AND COLLARD, superb walnut, iron frame, rich tone, per- fect touch, choice piano. £59 110 I-MONINGTON & WESTON, rich tone, full trichord, upright iron grand, in splendid condition. £ 68/10 /-BRINSMEAD, magnificent rose- wood de luxe piano. £87/10 I-KNAUSS, Chippendale, overstrung, perfection tone and and touch; very superior piano. £ 97 /10/- BLUTHNER; perfection; rosewood, overstrung, faultless tone. Every instrument tuned, polished, and delivered. Motor deliveries to North Wales and Lancashire Towns. DAVIES'S, VIA OLD SWAN CAR. Hours, tu 7. WEDNESDAY i. Mamond Rings as Christmas Presents. DAVIES IS, 30 LOW HILL, LIVERPOOL, invite inspection to their special XMAS OFFERS, presenting utmost values in all the most Charming designs. Nothing to surpass the undermentioned in price aad quality. MONEY ALWAYS, as follows 92/19/ DIAMONDS and PEARL Hand- some 3-stone Claw-set 18ct. Ring, worth 6 gns. also lovely 5-stone Diamond 18ct. Claw-set Ring, lustrous stones, only 12 15/ others ditto at £ 3/15/- and f,31 17/8; also Superb Diamond and Sapphire -fi-guinea Claw-set Ring now £ 4/19/6; also First-water 9-guinea Claw-set 5- stone Diamond Half-hoop, £ 4/19/6 also ditto at £ 5/19/6. Special Bargains to •lear.—Davies's, 30 Low-hill. £ 7 /19/ DIAMOND HALF-HOOP, very rich quality; White stone Diamond, close f set, heavy, solid 18ct. half-hoop, very I lustrous gems, worth £ 14; also Superb I 3-stone Diamond Crossover Ring, Plat- inum Set, £ 8/17/6; ditto, £ 10/17/6; also 3-stone Lustrous Diamond Half-hoop, I Platinum Set, £ 11/17/6; also Rich 20.1 guinea. Carved 5-stone Large Diamond 18ct. Half-hoop, intense brilliancy, only £12{10 {- also very fine 18ct. Stylish Diamond Half-hoop, very neat setting, only £ 9/18 /—Davies's, 30 Low-hill. £19{19{-, DIAMOND CROSSOVER RING, Superb Lustrous 3-stone Large Diamond 18ct. Crossover Ring, worth 130; also First-water Diamond and Platinum Clust- er Ring, £ 18/18/ also Large 30-guines Diamond and Pearl Half-hoop, £ 19/10/ also large 35-guinea Diamond. Half-hoop, £ 19/10 also Very Fine 7-stone Diamond and Turquoise Ring, JE22 /10/ usual 136; also Beautiful Large Diamond Plat- inum Millegram-set Half-hoop, £ 26 /10 /— also large 3-stone Platinum Ring, £ 29 /10 also Gent's Single-stone Diamond, very large stone, £89{10/ also 60-guinea Large Diamond Marquise Ring, very fine quality, only £44/10 also Gent's large Single Stone Diamond Claw, only £ 89/10/ DAVIES'S. 30i LCWHIU, I LIVERPOOL. I < Established 20 years. THE .■\ New Wales: Some aspvots of NATIONAL IDEALISM with a PLEA for Welsh Home Rule. By GWILYM O. GRIFFITH. INTRODUCTION BY tOWARD T. JOHN, Esq, MP Price, 8d.; Uy Post, IOd. Published by HUGH EVANS SONS, 56,,St>i+n h." t.h-fr tvr»«l Adroddiaour y Plant argyfer CARTREF, YSGOL, a LLWYFAN. gan LLIFON. Pris Deb., trwy y post 10c. Talfvriad o A dolyyiadau— Gwnfii copi ohono yn llaw holl blant Cnnru lea mawr y dyddian hyn. ,-I)Vfed. Y mae y testynau yn syml a naturiol. OFD. hwyea lawer o'r humour sydd mor belaeth yu yr awdur "-Pedrog, "Mae'r awgrymiadau yngbylch Adrodd eu htm. am yn werth y pris. Y Parch, D. Tecwyn Evana, B.A. Cyhoeddedig yn 'Wyddfa'r Brython ?[ lann &gnU8Bg: El horqraff All chystrawen. Gan y Parch. D. lecwyn Lvians, B.A. 61 werth gan yr boll Lyfrwenhw^ PRIS 21-; trwy'r post, 2/3. Nis gellir ei gael oddiwrth yr Awfl"Wii, Lie nad oes Llyfrwertbwyr anfoner at 1 Gyhúeddwyr- HUGH EVANS A'I FEIBION, 356-8 ^tsnley Roed I'pi-ni LLYFR Y TRI ADERYN Ti'rk"l fORGAN LLWYD 0 WYNEDI) Argraphiad Newydd yn cynnwys ysgrif ar drat4 a Uenyddoi Morgan Llwyd. gan Mr. J. a. JONES, Goiygydd y Brython." Llian hardd, Pris 1/6 X\ Oyhoe ldedi« tint HUGH EVANS A'I FEIftl N SWYDI FA'R 44 BRYTHON" Dwy Action Song Cymreig Da. Y MILWYR BYCHAIN (The Little Soldiers). Y MAMAU BYCHAIN (The Little Nursee). Gap P etd r A 1 a j TONIC SOLFFA, 3g. yr un Stc. Drwy'r post. HEN NODIA NT,8o. yr un. Drwy'r post. ge.. Cwiaf. s'r goreu a gweli na llawer a Igyhoeddir 10 Saesneg Swyddta'r Brython." 356, 358 Stanley Rd.. Liverpool DRAMA NEWYDD. "Y Ddau Flaenor" AmSer-hanner canrif yn 01 12 0 gymeHaciau. amser Per- fformiad-awr a hanner, Ymofynmar J. A. HUGHES, Bryntirion, Rhotl, Wrexha H Y BRYTHON" will be delivered free by post to any address in .the U.K. or abroad at the following rates. ♦Home Abroad Three 2/9 .3/3 Six Months 5^5 6/6 Shurter Periods, i per month. ALL SUBSCRIPTIONS ARE PAYABLE. IN ADVANCE. PREPAID ADVERTISEMENT RATES. Births, Marriages, Deaths, Situations Vacant Article for Sale, Wanted, Apartments, etc. 12 words 116 per ineeition H }> 1 36 „ 3/- „ „ ;0" 3^ »> » r This Scale applies to private individuals only. Announcements of public bodies, concerts, meetinp, Trade Advertismeats etc. on application., HVGN EvAns & Soms, 358 Stanley Road, Liverpool. i
Advertising
fence V. Envelopes, AT Y OASGLIAD EQLWYSIQ. Wedi eu rhifo yn barod. Gan fod yn amhvg y bydd cryn brinder o'r uchod eleni, byddwn ddiolchgar i'r rhai yr arferwn eu, cyflenwi am eu harchebion ar j unwaith er mwyn inni drefnu mewn unwaith er mwyn inni drefnu. Illcwn pryd. | HUGH EVANS & SONS, I Swyddfa'r U Brython," | 356, 358 Stanley Rd., L'pool. 1
DAU TU'R AFON.
DAU TU'R AFON. CYMDEITHAS LENYDDOL PRINCES ROAD'-I Nos Fawrth ddiweddaf, caed trafodaeth ar Aelodaeth Eglwysig. Llywyddai Mr. J. J. Thomas, a chafwyd anerchiad galluog can Mr. J. Freeman Williams. Ymdriniodd a gwahanol gredoau ac athrawiaeihau hen a diweddar, ac apeliodd am ycliwaneg 6 oddefgarweh oddi ar law'r eglwysi ynglyn ag ymchwil on est aelodau'r eglwysi am chwaneg o oleuni. Cymerwyd rhan yrnhellach gan Mri. J. Williams, B.A., D. R. Jones, B.A., a'r Parch. H. H. Hughes, B.A., B.D.— S.A.W. EGLWYS DEINIOL SANT.—Cynhahv,-yd cyng- erdd mav/reddog mewn cysylltiad a'r Eg- lwys uchod yn y Balfour Institute, Smith- down Road, y 3ydd o Ragfyr, pryd y cym- J erwyd rhan gan y cantorion hyglod a gan- j lyn Soprano, Miss Lilian Cooper (cyng- j herddau Birmingham a Yorkshire) Con- tralto, Mrs. Evan Lewis (Cyngherddau Pia,r Llandudno) Tenor, Mr. Evan Lewis (buddugwr Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd) Baritone, Mr. Frank Nicholson (buddugwr Eisteddfod Genedlaethol Corwen); ar y crwth, Miss Audrey Neal (cyngherddau Liverpool a Sir Gaer) Mr. Owen Francis (y canwr penillion hyglod). Cyfeilydd, Miss Nellie Lewis, L.R.A.M. Cyngerdd rhag- orol, y cv/bl" o'r cantorion yn eu hwyliau goreu, a chynulleidfa dda. Cadeiriwyd gan G. W. Hughes, Ysw., i'r hwn y mae ein diolch gwresocaf am ei llenwi mor anrhyd- eddus.-Un oedd yno GT. MERSEY STREET (A.).—Rhag. 3, daeth yn agos i gant o aelodau'r Guild ynghyd. Treuliwyd noson adeiladol iawn, y rhaglen yn cynnwys -Li-nawdau,adroddiadau a ohystadlu. Rhoddwyd a phartdwyd y to y tro hwn gan y brodyr, a digonwyd pawb diolchodd Mrs. Phillips, Newby Street, iddynt, ar ran y chwiorydd. Cafwyd difyrrwch ychwanegol mewn chwareon, a theimlwyd fod yno ysbryd Cristionogol o'r dechreu i'r diwedd.-Ysg. WEBSTER ROAD, LERPWL.-Cynhaliwyd cyfarfod o nodwedd eithriadol yn y capel uchod nos iau, Khag 4, Y cyieuuon lu n gwasanaethu eu gwlad adeg y rhyfei oedd yn gyfrifol amdano, a bendithiwyd eu trefn- iadau a mesur helaeth o hvydd. Cynnyrch ysbryd gwerthfawrogol ein dewrion am garedigrwydd a gofal yr eglwys arndanynt yn y drin ydoedd. Nid amhriodol fydd braslinelliad er dangos y modd y gweith- redai'r eglwys a'i haelodau yn y fyddin a'r llynges. Yn gynnar yn y rhyfel, sefydlwyd Guild o bobl ieuanc, a chodwyd pwyllgor cryf, yn cynnwys nifer o frodyr a chwiorydd brwdfrydig, a gymerai ddiddordeb dwfn ym mudd y milwyr a'r morwyr perthynol i'r eglwys. Bu'r pwyllgor yn ffodus i sicrhau gwasanaeth Miss Lloyd, 18 Lesseps Road, fel ysgrifennydd, a gyflawnodd ei gwaith a medr a deheurwydd mawr. Miss Hughes, 88 Salisbury Road, a wasanaethai fel trys- orydd,—hithau hefyd a'i chalon yn y gwaith Casglwyd llawer o arian, a sefydlwyd cronfa gref, ac anfonwyd llythyrau a pharseli'n gyson i bawb o'r aelodau oedd yng ngwas- anaeth eu gwlad. Yn nechreu Ebrill di- weddaf, estynnodd yr eglwys ei chroeso cynnes i'w phlant o feysydd y gad cafwyd gwledd ar raddfa eang a noson lawen, pryd yr anrhegwyd y chwiorydd 1u'n gweini ar y clwyfedigion a phwrs prydferth. a letter case hardd i'r milwyr a'r morwyr. Hawdd canfod fod y cyfeillion hyn yn gwerth- fawrogi'r diddordeb a gymerai'r eglwys ynddynt, ac amlygiad o'r gwerthfawrogiad hwi'inw oedd y cyfarfod nos Iau ddiweddaf. Cafodd yr eglwys ei gwahodd yn gyffredinol, a llanwyd yr ystafell eang i'r ymylon. Llywyddwyd yn fedrus gan Dr. Arthur Jones, ef a'i briod wedi cyflawni gwasanaeth amhrisiadwy wrth weini ar y clwyfedigion yn Ffrainc, ac mewn ysbytai yn y wlad hon. Y bechgyn yu hunain yn bennaf gymerai ran trwy adrodd a chanu. Ardderchog oedd y Sketch Luv wan anuthur," a'i hergyd yn dda. Yr oedd ton uchel i'r cyfarfod trwyddo. Coron y cwbl oedd cyflwyno anrhegion i'r eglwys, a wnaed mewn modd urddasol gan y Ilywydd ar ran ei gymrodyr yn y rhyfel. Ni allai dim fod yn fwy pwr- pasol na'r hyn a gyflwynwyd, sef, Anerchiad I goreuredig hardd wedi ei gweithio'n ddestlus a chywrain gan Mr. E. J. Jenkins, ef yn un o'r bechgyn fu yn y drin, ac yn gampwr' gyda'i bensil. Tystiolaeth unfryd pawb yw ei bod yn odiaeth o dlws ac urddasol. Hefyd anrhegwyd yr eglwys a Beibl a Llyfr Emyn- au hardd a chostus a chlustog a covering wedi ei weithio'n gywrain at wasanaeth y pulpud. Wrth gyflwyno, anerchwyd y cyf' I arfod gan Mri. J. R. Jones, David Williams, J. Haslam, a J. Llewelyn Jenkins. Y I gweinidog (y Parch. Daniel Davies), a dder- I byniai'r anrhegion yn enw'r eglwys, a cehyf- I lwynodd yntau ddiolchgarwch puraf pawb am y meddylgarwch a'r gwerthfawrogiad a'r ffurf hapus a gymerwyd i fynegi hynny gan ein cyfeillion a wnaeth gymaint tros eu gwlad. Ategwyd gan Mri. Owen Hughes a John Jones, dau swyddog hynaf yr eglwys. Trwy'r amlygiadau hyn o'u I heiddo, aeth ei bechgyn yn ddyfnach nag erioed i serch yr eglwys. Eiddunwn iddynt Iwyddiant yn holl gylchoedd eu bywyd. I Ymfalchlwn ynddynt fel dynion ieuainc o gymeriadau glan, parod eu gwasanaeth yn holl gylchoedd yr eglwys. Disgwyliwn y try eu profladau tanllyd ym mrwydrau Ewrop, tros ryddid ac egwyddor, yn gym- mwyster arbennig iddynt ym mrwydrau poethion y rhyfel ysbrydol. SALE OF WORK GROVE ST.-Yn Ysgoldy Capel Annibynnol Grove St., Rhag. 5, cynhaliwyd Sale of Work tra llwyddiannus. Agorwyd y cynhulliad cyntaf gan Mrs. J. J. Williams, aelod o eglwys Princes Rd., ond a fagesid yn eglwys Grove St. Cafwyd ganddi yn ei hanerchiad gyfeiriad at ei thad, y diweddar Henry Roberts, Porth- I madog, a fu am flynyddoedd yn aelod yn eglwys Grove St., a phregethwr cymeradwy. Ychwanegodd hefyd rai o'i liatgofion hi ei hun mewn araith ddiddorol- firos ben. Ataliwyd J. Evan Morris, Ysw., gan alwadau ei fasnach rhag cyflawni ei addewid i gymryd y gadair, ond anfonodd rodd anrhydeddus. Llywydd yr ail ddydd oedd Mr. John Jones, Mynydd Seion, a thraddododd anerchiad calonogol iawn. Agorwyd gan Mrs. Evan Morgan, Edge Lane, a llanwodd ei chylch yn foddhaol iawn. Yn y rhan ddefosiynol arweiniwyd gan y Parchn. O. L. Roberts j a T. Price Davies, a chanwyd unawdau gan j Madame Eunice Evans a Mr. W. G. Hughes. I Diolchwyd i'r cwbl am eu gwasanaeth gwerthfawr. Caed cynulliadau lluosog y