Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Yt SYTHO'R SENEOD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yt SYTHO'R SENEOD Ac i ddod Bob Wythnos. [ AN EIN GOHEBYltD ARBENNIG). Liundain, Nos Sadwrn. 20 jxiiJ1919 Bustachu a Gwegian. Cymylog iawn yw'r awyrgylch Seneddol ar hyn o bryd, ac y mae adar y ddrycin yn gwyllt-hedeg ac yn crawcian pob math ar ddarogan. Rhaid addef nad yw'r Wein- yddiaeth wedi bod mor lwcus gyda'i mesurau ag y disgwylid. Fel y crybwyllwyd wythnos yn ol, taflwyd yr Anti-Dumping Bill dros y bwrdd am ei fod yn cynnwys hadau gwrth- wynebiad i Fasnach Rydd. Erbyn hyn ceir rheswm ychwanegol dros ei wrthod, yn nyfarniad Syr John Sankey yn achos y Twrnai Cyffredinol yn erbyn Brown. Cnewyllyn yr achos oedd hawl y Goron i warafun, drwy broclamasiwn, atgludiad nwyddau. Dibynnid ar eiriau yn y Customs Act (1876) yn datgan fel hyn The importation of arms or any other goods may be prohibited by Proclamation or Order in Council." lurai'r Attorney General (Syr Gordon ewart) yr adran fel yn cynysgaeddu'r Goron a hawl i atal dyfodiad unrhyw awyddau" i'r wlad, ar wahan i awdurdod a chydsyniad y Senedd. Fe welir ar un- waith fod esboniad Syr Gordon Hewart n cynnwys yr egwyddor o gaethiwo rhyddid masnach yn ol dymuniad neu fympwy unrhyw Weinyddiaeth a ddigwyddo' fod mewn swydd. Ond nid felly y barnodd Mr. Justice Sankey ac os saif ei ddyfarniad -y mae'n agored i gael ei ystyried ymhellach yn Llys Apêl-aiff yr atalfeydd ar atgludiad mathau neilltuol o nwyddau a bwydydd yr un fiordd a'r Anti-Dumping Bill. Ac nid y mesur dan sylw yw'r unig graig rwystr sy'n wynebu'r Weinyddiaeth. Ar Fesur y Glo, Mesur y Trydan, a Mesur y Tai, y mae'r machinery wedi torri i lawr tra y mae Mesur oll-bwysig Ymreolaeth Gwyddelig wedi ei ohirio hyd y Senedd-dymor nesaf. Nid gerfydd ei glust y ceir y Mochyn hwn i'r Ffair. Diau fod rhesymau cryfion dros yr oedi ynglyn a. chyflwyno Mesur Ymreolaeth i'r Iwerddon i Dy'r Cyffredin, ond y mae'r oedi, a dweyd y lleiaf, yn hYJlod o anffodus. Gobeithiai'r Prif Weinidog fedru gosod y mater gerbron yr wythnos hon, ond bu raid gohirio am wythnos ymhellach, gydag awgrym mai nid y Mesur a geir yr adeg hwnnw, ond Datganiad gyda golwg arno. Yn y cyfamser y mae sefyllfa'r Iwerddon yn annioddefol o ddrwg. Tramwya Mwr. drad yn uchel ei ben liw dydd goleu Ileddir gwyr diniwed yn ddiachos ysbeilir a phoenir eroill yn ddirdynnpl, er gwaethaf a ieva-fesurau'r Weinyddiaeth Wyddelig. Un o ddyfeisiau diweddaraf y Castell yn Nulyn yw mygu'r Freeman, newyddiadur yr Adran GenSdlaethol. Gan nad beth oedd trosedd y Freeman, fe wyr pawb mai tro ffol yw ceisio cau genau newyddiadur. Rhoddodd yr ymgais i wneuthur hynny i'r Freeman gyfleustra ar unwaith i Mr. T. P. O'Connor a Mr. Devlin a'u cyfeillion godi'r achos i sylw yn Nhy'r Cyffredin. Nid yw nifer yr aelodau Gwyddelig yn Westminster end byehan y dyddiau hyn. 0 ganlyniad y mae'n anodd iddynt gario tactics yr amser gynt ymlaen yn llwyddiannus. Ond os nad wyt gryf bydd gyfrwys yw arwyddair y Gwyddel. Y mae plaid Llafur yn gref, o ymuno a hi byddwn ninnau (y blaid Wyddelig) yn Iluosocach. Trwy gymorth uniad fel a nodwyd cafwyd y caniatad angen- Theidiol i droi nos Fawrth yn Irish Night. Condemniwyd y LIywodraeth am fygu'r Freeman, a dywedwyd pethau chwerw am Mr. Macpherson, yr Ysgrifennydd Gwyddelig, ond yr oedd y mwyafrtf mawr gyda'r Llyw- odraeth, a diweddodd y cwbl—am y tro- mewn siarad. Yn y cyfamser parha'r Iwerddon i gerdded y Ffordd Rudd, a arwain i ddistryw. Dyna Ffrindiau yw'r ddau I -1 Ddafydd! Oddi wrth yr hyn a ddywedwyd yn barod bydd yn hawdd deall bwysau'r cyfrifoldeb a orwedd ar ysgwyddau'r Prif Weinidog. Mewn gwleidyddiaeth, fel ymhob busnes arall, y mae'n rhaid i'r pen ddibynnu i fesur helaeth ar ei wasanaethyddion. Nid yw Mr. Lloyd George bob amser yn cael gwas- anaeth goreu, neu o'r hyn lleiaf wasanaeth effeithiol, y rhai a elwir i gydweithio ag ef. Dro ar ol tro, fe'i siomirgan hwn ac arall yn ol slang y dydd, fe'i gollyngir i lawr ganddynt Hwy biau'r methiant--ef gaiff y bai. Cymeradwywn y sylw hwn i ystyr- iaeth y bobl sydd mor barod i'w ddifryo. Ond os oes ganddo'i ddifrïwyr y mae ganddo hefyd ei gyfeillion, a'r rhai hynny ymhlith y mwyaf urddasol-un o'r rhai sydd wedi jcymryd ato'n awr yw Tywysog Cymru. Nos Fercher daeth Dafydd Dywysog" (Seisnigaeth a'i geilw'n Edward) at Ddafydd Weinidog i fwyta gydag ef yn Downing Street, ac i gyfarfod eraill o Weinidogion y Goron. Yr oedd y cyfarfyddiad yn un nodedig o ddiddorol pan ystyrir yr amgylch. iadau. Cacwn y Clybiau'n swnian o gwmpas Mr. Lloyd George, dan fwyta'i fel. Parodd ymweliad y Prif Weinidog a'r Brenin ddydd Mercher gynnwrf yng ngwersyll y proffwydi. Gwelent yn y digwyddiad arwyddion sicr fod Etholiad Cyffredinol arall yn dynesu Wel, y mae'n sicr ei bod yn nes nag y bu, ond a ddaw hi yn nechreu'r flwyddyn, pwy all ddweyd ? Fel hyn yr ymresymir Y mae'r wlad mewn cyflwr anesmwyth ac ansefydlog nid yw'r Weinyddiaeth yn gallu trefnu ei mesurau cymdeithasol fel y dymunai; cynhydda anfodlonrwydd ac ychwanegir gofynion ymhob cylch dywedir fod yr Iwerddon ar fin gwrthryfel gwaedlyd a chredir fod arweinwyr Llafur wedi penderfynu gosod eu bwriadau gyda golwg ar genediae-tholdeb y mwnwyr to the test gyda direct action strike fel eu prif offeryn. Yn wyneb y pethau hyn syniad dosbarth Iluosog o wleid- yddion yw yr apelia Mr. Lloyd George at yr etholwyr, i'w gadai-nhau yn ei swydd ac yn ei amcanion. Tybia rhai y gelwir etholiad yrr/Chwefrol; barn a eraill y bydd yn rhaid aros nes y cwblheir y Register newydd, oddeutu mis Mai. Pan drefnir yr ornest fawr cymerir nifer o bethau i ystyriaeth, ond llawr y frwydr" fydd Nationalisation! Fel yna, meddwn, yr ym,. resymir. Hwyrach y gellid gofyn un cwest- iwn i'r ymresymwyr a'r proffwydi, sef yw hwnnw Paham y mae'n rhaid i Mr. Lloyd George alw am etholiad pan y mae ei fwy- afrif yn Nhy'r Cyffredin yn lluosog ac yn sicr ? jfc A I- 'I 'Does dim fel Seiat wyneb I yn wyneb. I Bu'r Blaid Gymreig yn y Senedd, o dan lywyddiaeth Mr. Vaughan Davies, yn cynnal cyfarfod ac yn cynadleddu gyda Dr. Addison ddechreu'r wythnos. Daeth y Dr. fel Gweinidog Swyddfa lechyd, a Syr Robert Morant gydag ef, i wrando barn ein haelod- au ar drefniadau'r Mesur lechyd fel y mae a fynno &'n rhan ni o'r byd. Cafodd ar ddeall nad oeddynt yn cymeradwyo rhai o'i syniadau ef, a'u bod yn fyw i'w beryglon ynglyn a'r penodiadau i swyddi dan y Mesur. Ni fynnant, er enghraifit, weled trosglwyddo swyddogion Dirprwyaeth Ys- vvirio-yr hen Insurance Commission sy'n I darfod dan y mesur newydd-ar wahan i deilyngdod ac effeithiolrwydd. Teimlai Syr I Edgar Jones yn ddyletswydd arno sefyll I i fyny dros y Swyddfa, ond ychydig o wrandawiad a gafodd gan ei gyd-aelodau Y mae lie i ddisgwyl y bydd y trefniadau yng Nghymru ar eu mantais o'r siarad hwn wyneb yn wyneb a'r Minister of Health. Gobeithiwn hefyd i Syr Robert Morant I ddysgu gwers, ond nid.yw ef yn wr hawdd i'w berswadio na'i blygu. Na wyr yr un dewin pwy I a'u penododd. Bu ein cynrychiolwyr yr un pryd yn cyd-siarad gyda chryn eglurder ar gwestiwn Devolution. Nid oedd y mwyafrif ohonynt mewn un modd yn cymeradwyo cynhadledd answyddogol Mr. John Hugh Edwards fel ei gelwir, a bu Mr. Edwards o dan yr anghenrheidrwydd o egluro pa fodd a phaham y buwyd yn cynadleddu ar fater mor bwysig heb gydymgynghori. Con- demniwyd feirf y drafodaeth (ar wahan i'r many lion) gan Syr Robert Thomas, Syr Evan Jones, Major Breese ac eraill a phenderfynwyd gosod golygiadau'r Blaid Gymreig o flaen Pwyllgor y Llefarydd yn uniongyrchol, ac nid trwy gyfrwng y cyn- rychiolwyr Cymreig a nodwyd ar y Pwyllgor hwnnw gan na wyr neb pwy. f Beth a feddyliwch o hyn ? I Y gwirionedd ydyw fod cwestiwn Ym- reolaeth i Gymru yn gwestiwn Hawn o an- hawsterau ac yn gofyn am ystyriaeth fan- ylaf pob gwleidydd Cymreig. Wrth gwrs, y mae sentiment, pob gwladgarwr o'i blaid, ond nid drwy sentiment y bydd byw cenedl. Rhaid wynebu'r cwestiwn o safle ymarferol cyn penderfynu ar ei linellau. Fel mater perthynasol mae'n deg ystyried yr amlin- elliad o Fesur i sefydlu Swyddfa Gymreig, a bartowyd gan Is-Bwyllgor o'r aelodau o dan lywyddiaeth Syr Robert Thomas, ac a gyflwynwyd i gyfarfod y BIaid ddydd Llun. Amcan y Mesur ydyw sefydlu swydd- fa i edrych ar ol buddiannau Cymru yn y Senedd, gydag Ysgrifennydd swyddogol yn gyfrifol i'r Senedd yn cael cyflog o E2,000 y flwyddyn, a staff i'w gynorthwyo. Y syn iad ynglyn a hyn ydyw trosglwyddo i'r Swyddfa yr holl ddyletswyddau sy'n awr yn nwylo'r Home Office, Bwrdd Addysg, Bwrdd Amaethyddiaeth, Swyddfa lechyd, yr Office of Works, a swyddfau eraill sy'n bresennol yn ymwneuthur a materion Cym- reig. Ni wyddom beth a ddaw o'r cynllun a awgrymir. Caiff ein cynrychiolwyr amser i fyfyrio uwch ei ben yn ystod amser y gohiriad, ac i ystyried ei berthynas a'r cwestiwn ehangach sydd mewn golwg.

[No title]

I DAU TU'R AFON.

Goreu t V n-I r o: y iI- y…

[No title]

Advertising

TREM III.