Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

EGWYDDORION DINASYDDIAEm

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGWYDDORION DINASYDDIAEm Adolygiad ar lyfr Syr Henry Jones, I Tin Principles of Citizenship. I WRTH wrando ar ambell arawd, a darllen ambell lyfr, ni ellir lai na theimlo fod yr awdur a'i destyn wedi eu hieuo'n anghym- harus. Nid ydynt yn deall ei gilydd nac yn perthyn i'r un byd o feddyliaeth. Ond ni ddywed neb hynny am y gyfrol sy'n awr ger ein bron. Ni ellir hapusach priodas na'r un a geir yma. Athronydd hyfedr yw Syr Henry, gwr ag y mae ei glod yn hysbys drwy'r gwledydd fel meddyliwr dwfn, clir a gofalus un sy'n arfer torri trwy'r allanolion ac edrych i mewn hyd at galon pob cwestiwn. Ac heblaw hynny, gwyddom ddwyn ohono fawr sel dros ei wlad a'i genedl, ac fel dinesydd o'r wladwr- iaeth. Yn y gyfrol hon, gan hynny, cawn gyfuniad o'r athronydd a'r proffwyd, y meddyliwr craft a gafaelgar, a'r pregethwr hyawdl a thanbaid. Cymer afael cawr yn egwyddorion dyfnaf ei bwnc, ac wedi hynny gwyr pa fodd i'w cymhwyso at gydwybod a chalonei ddarllenwyr. A phwy a ddywed nad yw hwn yn destyn ag y mae gwir angen traethu arno ? Ac yn enwedig yn yr argyfwng presennol, pan newydd fynd trwy gySroadau fiifaol y blynyddoedd diweddaf. R: construction yw gair mawr y dydd, a, gelwir arnom oil i wneuthur ein rhan tuag at adgyweirio, os nad greu o newydd, ein sefydliadau gwladwriaethol, cymdeithasol a chrefyddol. Ond, atolwg, pwy sydd yn mynd i wneuthur y gwaith ? Pan eu i adeiladu ty, gelwir am ben saer i gynllunio, ac am grefftwyr medrus ar drin pren a maen. Os am wneuthur reil- fiordd newydd, rhaid wrth ddynion cyfar- wydd a'r gorchwyl a hyddysg yn y gwybod- aethau angenrheidiol. Ymhob gwaith a masnach o bwys gofynnir am wyr profiadol a gwybodus yng nghyfrinion yr alwedigaeth. Nid digon synnwyr pen bawd, nid pob ymhonnwr a wna'r tro edrychir yn' hytrach am ddynion a aeth trwy gwrs o addysg a phrentisiaeth bwrpasol. A ydyw'n wahanol yn y gwaith uchaf ac anhawddaf o'r cwbl, sef adeiladu neu adgyweirio'r wladwriaeth ? Pwy, er enghraifft, a anfonir i ddeddfwrfa'r wlad ac i eistedd ar y cynghorau trefol a gwledig ? Ai'r dynion sydd wedi astudio egwyddorion dinasyddiaeth a bwrw'uprentis- iaeth mewn gwaith cymdeithasol ? Cato pawb! nage, ond rhywun-rhywun sydd ganddo hunanfudd i'w geisio neu fwyall i'w hogi; rhywun sy'n freg ei dafod neu'n drwm ei logell. Ai nid gwir dilys yw, am lawer o'r dynion sy'n ein cynrychioli heddyw ar y cynghorau a'r senedd dai, na wyddant ond yn agosaf peth i ddim am egwyddorion cyntaf gwleidyddeg ? Ni flinwyd hwynt erioed gan gwestiynau o berthynas i natur gwladwriaeth beth yw ei hamcanion a'i dyletswyddau. Ac eto oddi wrth fwngler- wyr o'r fath yma y disgwyliwn am nefoedd newydd a daear newydd yn y rhai y certryf eyfiawnder a heddweh. Ond yr ydym oil yn ddinasyddion, yr hyn sy'n golygu breintiau a chyfrifoldeb. Fel aelodau o gymdeithas ac fel deiliaid o wladwriaeth, ni allwn fyw bob un iddo'i hun. Pa nifer ohofioma gymerodd hyn i ystyriaeth bwyllog a difrifol ? Onid credo distaw ami un ydyw nad oes arno ef unrhyw ddyled i'w wlad na'i genedl, gan ei fod yn talu'r trethi, yn cadw cyfreithiau'r tir, ac yn ennill ei fara beunyddiol trwy lafur diwyd a gonest beth yn rhagor a ddisgwylir oddiar ei law ? Am atebiad, darllener y gyfrol hon gan Syr Henry Jones. I'r wladwriaeth yr ydym i ddiolch am agos bopeth sydd gennym. Ofer i ni'n awr fyddai dechreu enwi, gan fod yr enillion, y eyfieusterau a'r breintiau a dderbynnir gennym yn ddirifedi. Ac mewn canlyniad, rhwymau mawrion sydd amom, i gydnabod ein dyled ac i wneuthur yr hyn a allom tuag at wasanaethu'r wladwriaeth. Ni ellir pwysleisio gormod ar ein cyfrifoldeb fel dinasyddion, ac eto y mae lie i ofni na feddylir nemor am hynny, ac na wyddom ond ychydig yn ei gylch. Palla gofod i ni gymaint a chrybwyll gwahanol rannau'r ymchwiliad. Y mae'n faes eang iawn ac yn ymagor ar lu o gwest- iynau dyrus ac anodd. Buasai'n dda gon- nym gael trafodth helaethach ar rai o'r pwyntiau yn wir, y mae'r llyfr drwyddo wedi ei bacio'n dynn o feddwl. Nid ar redeg y gall neb ei ddarllen rhaid cymryd hamdden i sylwi'n fanwl ac i fyfyrio'n ddwys ar lawer adran. Nid yw'n debyg y dywedir ynddo'r gair olaf ar ambell bwnc, a Syr Henry fuasai'r olaf i honni anffaeledigrwydd. Un o'r gwyddorau sy'n cynhyddu'n gyflym ydyw Gwleidyddeg, a digon posibl y ceir gweledigaothau newydd ar rai o'r materion yn y dyfodol buan. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, nid oes awdurdod uwch nag awdur y gyfrol hon. Wrth ddar- llen ei waith, gwyddom ein bod o dan ar- weiniad gwr sydd yn feistr ar ei bwnc, yn berffaith gyfarwydd ym mhopeth sy'n werth ei wybod o waith awduron eraill, ac yn meddu ar farn annibynnol i nithio'r gwir oddi wrth y gau. Hoffem weled pobl ieuainc ein cenedl yn ymffurfio'n gymdeithas- au i astudio'r llawlyfr penigamp hwn. Ni ellir ei well i'r amoan hwnnw. l 1. W. O. JONES. I

Y stafell y Beirdd.

Advertising

dd ¡ I Clep ? ClawddI

BARA BRITH. I

-"-' - -.- _-- -Ffetan y Gol.I