Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

-- Dosbarth y Gohebwyr! Ieuainc.•

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dosbarth y Gohebwyr Ieuainc. Carem gael sylw rhai o'u gohebwyr at y "d a'r "dd." Un ffordd o ys- grifennu y rhai hyn yw gadael eu cyn- ffonnau i fyny'n syth; ffordd arall yw troi cynffon y "d" i'r chwith a chyn- ffon yr "dd" i'r dde. Pan yn troi cyn- ffon "d" i'r dde i'w wneud yn "edd" cofier mai un lythyren sydd eisiau ac nid dwy. Pan yn rhoi dwy lythyren a'u cynffonnau i'r dde, fel y gwna rhai o'n gohebwyr, cofier eu bod yn ddwy "edd. Mae Brynfab eisoes wedi galw sylw rhai o'r beirdd at hyn, ond nid ydynt wedi diwygio. Anfonasom ninnau at un gohebydd i alw ei sylw at y gwall, ond atebodd mai ein mympwy golygyddol barasai i ni geisio ei gywiro ac fod pobl bwysig yn ffafrio ei arferiad ef, ac y mae'n rhaid eu bod yn rhai anarferol o bwysig hefyd. Nid mympwy ydyw, ond mater syml o gywirdeb. Fel rheol pan fydd dwy "dd" wedi eu rhoi gyda'u gilydd gwyr y cysodydd mai gwall ydyw ac nid oes berigl iddo ddilyn y copi a gwneud "addunedodd" yn adddduneddodddd. Ond mewn llawer o eiriau pan mae cynffon y "d" wedi ei droi i'r dde mae'n bosibl iddo gamarwain y cysodydd a pheri trafferth i gywiro prawflenni. Llwyd, Hirwaun: Daeth eich post- gerdyn chwi i law yn rhy ddiweddar i gystadleuaeth yr wythnos ddiweddaf. Mae gennych bedwar nodiad arno. Yr ydych yn ysgrifennu'r bur gywir, ond y mae gennych wall neu ddau. Dywedwch fod ysgrifau Moelona "yn cael eu hymddangos. "Yn ym- ddangos fyddai gywir. Gyda Haw bydd gennym rywbeth i'w ddweyd un o'r dyddiau nesaf am y camddefnydd a wneir o "cael." Mae eich pedwar nodyn hefyd wedi eu hysgrifennu i ganmol y Darian. Dywedwch y pethau hyn wrth gyfeillion, a byddwn ddiolchgar i chwi. Mae derbynwyr y "Darian" i gyd yn gwybod ei bod yn dda, a gobeithiwn allu ei hadfer i'w maint cyntefig heb fod yn hir. Ysgrifennwch naill ai newyddion neu baragraff o ddiddordeb v tro nesaf. Parheir i anfon llyfr swllt bob wythnos am y postcard goreu anfonir o Olygydd y "Darian," Glais, Swan- sea Valley, erbyn y Sadwrn neu cyn hynny. Anfonir llyfr swllt yr wythnos hon i Mr. John Jones, "Gwenffrwd, Cross Hands, nr. Llanelly. -_J

Advertising

Cyfarfod y Glowyr yng Nghaerdydd.'"

INodion o'r Maerdy.

[No title]

Advertising

Y RHYFEL.

I Tabernac], Llanelli. I-

Banker Amlwg a Myfyrio Llaw…

Advertising