Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Y DA'RIAN FEL CYFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFODAU. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar oddiwrth Ysgrifen- yddion Eisteddfodau a roddasent Hysbysiad yn y Darian eleni, am y tro cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu at y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- iad ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu Heisteddfodau.
CWRS Y RHYFEL. I
CWRS Y RHYFEL. ADOLYGU'R WYTHNOS. BWLEDI ARIAN A GLO LLOYD GEORGE. YR YMOSODIAD MAWR AR RWSIA. | Y PROFFWYDI A'R RHYFEL. GAN BERIAH. Yr Ymosodiad Mawr ar Rwsia. Synnwyd y cyfanfyd gan anferthwch ymosodiad Germani ar Rwsia yr wyth- nos ddiweddaf. Mae ymron yn anghredadwy fod ganddi ddigon o ddyn- ion, a nerth, a chyfarpar, ar ol blwyddyn o ryfel, i wneud ymosodiad mor enfawr—y mwyaf a welodd y byd erioed. Gadewch i ni geisio sylwedd- ,oli ei anferthwch. Meddylied y darllenydd am frwydr ;yn ymestyn yr holl ffordd o Gaergybi i Gaerdydd. Byddai honno yn frwydr fwy o lawer nag a welodd ein gwlad ni, mae unrhyw wlad arall erioed cyn y rhyfel presennol. Ond mae'r frwydr sy'n myned ymlaen ar hyn o bryd yn seithwaith fwy; hynny yw byddai rhaid meddwl am linell o Gaergybi i Gaerdydd wedi ei hestyn allan i seith- waith y pellter rhwng y ddwy dref er cae l syniad am hyd llinell y brwydro yn Rwsia heddyw. Meddylied etofod pob gwr, a gwraig, ,a phlentyn o bob oed, holl breswylwyr tair-sir-ar-ddeg Cymru, yn filwyr o dan .arfau--a cha syniad am faint a rhif y fyddin sydd gan Germani yn brwydro yn erbyn Rwsia. Af hyd pob milltir o'r llinell o Gaergybi i Gaerdydd seith- waith drosvdd, i;<t"¡ 2,500 u iilwyr Ger- mani—tri mihvr bob dwy lath yr holl ffordd. Wrth gwrs nid un linell fain o filwyr sydd felly. Mae amI i Ie gwag yn y llinell, ac ami i ran arall o honi lie y <;eir y milwyr wrth y miloedd. Ond rhywbeth tebyg i'r uchod yw'r cyfanrif :8,'1' cyfartaledd milwyr. Yn awr eto i ddeall amgylchiadau ac amcanion y brwydro. Meddylier mai Cymru yw Rwsia, ac mai Lloegr yw Ger- mani; mai Aberystwyth yw Moscow, ac mai Carnarfan yw Petrograd (St. Pe- tersburg) mai'r Amwythig yw Warsaw, .Caer (Chester) yw Rhiga, a Henffordd (Hereford) yw Lemberg. Wrth gwrs .eto mae'r pellteroedd rhwng y trefi a enwir yn Rwsia yn llawer mwy nag yw rhwng y trefi a nodir uchod yng Nghym- ru ond ceir rhyw syniad am leoliad y trefi yn Rwsia yn eu perthynas a'u gil- ydd oddiwrth leoliad y trefi hyn yng Nghymru. Gan gadw hyn mewn cof rhywbeth tebyg i a ganlyn yw y sefyllfa yn Rwsia heddyw. Mae Germaniaid yn ceisio ennill rCaer (Riga) a'r Amwythig (Warsaw), ac wedi ennill Henffordd (Lemberg). Rhed yr afon fawr Vistula rhwng War- saw a Byddin Germani, fel y rhed yr Hafren heibio i'r Amwythig-ond fod yr Hafren i'w thybio yr ochr arall i'r Amwythig, sef rhwng y dref a Byddin y gelyn. Wedi ennill Henffordd maent wedi ,cau un rheilffordd yn cysylltu Warsaw a'r deheu. Mae Mackensen yn awr yn rceisio ymosod ar Lublin (Llandrindod), «r mwyn gweithio ymlaen i Ivangorod (Craven Arms), dinas gaerog gref, o'r hon tybir fod rheilffordd arall yn rhedeg ar draws y wlad i Moat Lane (Brest Litowsk), ac felly i Moscow (Aberys- twyth) Dyna amcan v brwydro Mac- kensen, sef torri cysylltiad rheilffordd Warsaw (Amwythig) a Rowno (Caer- jfyrddin), drwy ennill Lublin (Llandrin- dod), ac, os medr, ennill hefyd Ivan- gorod (Craven Arms) a Brest Litowsk (Moat Lane), er cau y ffordd o Warsaw (Amwythig) i Moscow (Aberystwyth). Byddai hynny yn atal pob adgyfnerth- ion i'r Amwythig o gyfeiriad Caer- fyrddin ac Aberystwyth. Ond byddai'r llinell i Petrograd (Caernarfon) yn agored wedi hynny trwy Gaer (Riga), neu trwy Groesos- wallt (Bielostock), Corwen (Grodno), a Dinbych (Wilna). Ceisir felly fedd- iannu Caer (Riga), a thorri hefyd drwodd i Groesoswallt (Bielostock), er mwyn atal dwyn adgyfnerthion o Gaer- narfon (Petrograd). Os llwydda'r Ger- maniaid i ennill y lleoedd hyn cyn yr encilia y Rwsiaid o'r Amwythig (War- saw) bydd y Rwsiaid, gannoedd o fil- .oedd o honynt wedi cael eu dal mewn trap, heb un rheilffordd yn agored iddynt gilio ar hyd ddi. Dyna gynllun ac amcan y Caisar. Dengys y dyddiau nesaf pa obaith y sydd ganddo y llwydda. Bwledi Arian Lloyd George. Dywedodd Mr. Lloyd George ar ddechreu'r rhyfel mai bwledi arian, ac nid rhai plwm na haearn, a enillai'r fuddugoliaeth. Wrth hynny golygai y byddai cost y rhyfel i bob gwlad mor anferth fel mai'r wlad a feddai ddigon o gyfoeth i ddal allan hyd y diwedd a fyddai mwyaf tebyg o ennill. Y ddwy wlad gyfoethocaf yn y rhyfel yw Prydain a Germani. Mae Prydain yn gwario Tair Miliwn o bunnau bob dydd un filiwn ar hugain o bunnau bob wythnos, a dyweder pedwar ugain a deg o filiynau ( £ 90,000,000) bob mis o'r fiwyddyn. Mae Germani yn gwario mwy na ni, sef yn agos i bum miliwn y dydd, pymtheg miliwn ar hugain bob wythnos, ac yn agos i gant a hanner o filiynau ( £ 150,000,000) bob mis. Gwyddis erbyn hyn ei bod yn gyfyng ar Germani am arian. Arian papur gan mwyaf a ddefnyddir ganddi yn awr- ac mae gwerth arian papur Germani yn isel iawn yn y farchnad. Nid yw banc- iau Germani, rai o honynt, yn gallu talu llog o gwbl. Mae rhai o'r cwmni- oedd mawr masnachol, yn enwedig Cwmniau Llongau Masnach, wedi myn- ed yn fethdalwyr. Dyna dynged dau gwmni mwyaf Germani, sef yr Ham- burg-Amerika, a'r Norddeutscher. Rhaid cofio fod Ilongau masnach Ger- mani oil wedi cael eu carcharu yn eu porthladdoedd. Nid oes un llong mas- nach o eiddo Germani a faidd hwylio ar y mor er's misoedd. Eto mae traul i'w cadw hyd y~A segur. Costia 400,000p. y dydd, neu dros filiwn a chwarter (l,250,000p.) y mis i gadw llongau masnach Cwmni'r Hamburg- Amerika yn unig, yn segur. Ac i Lynges Prydain, ac i Lynges Prydain yn unig, y rhaid diolch am, hyn. Llongau rhyfel Prydain sydd wedi cau llongau masnach Germani yn eu porthladdoedd, gan eu rhwystro i hwylio i'r cefnfor i gludo nwyddau ac ennill arian i Germani. Streic y Glowyr a'r Rhyfel. Gwynebodd pwy bynnag a achosodd streic y glowyr yn y Deheudir gyfrif- oldeb ofnadwy. Gwyddis fod y deyrnas ar hyn o bryd ar ei hegni yn cynhyrchu cyfarpar rhyfel at wasanaeth y bechgyn dewr ar faes y frwydr yn Ffrainc a'r Dardanels. Gwyddis mai o ddiffyg y cyflegrau mawr a'u cyfarpar yr oedodd Syr John French a Joffre wneud eu hymosodiad mawr unol ar Fyddin Ger- mani yn Ffrainc. Gwyddis pe bae gan Syr Ian Hamilton yn y Dardanels ddi- gon o gyflegrau a ffrwydbelenni pwr- pasol y buasai miloedd o fywydau gwerthfawr yno wedi cael eu harbed. Gwyddis mai o ddiffyg cyfarpar priodol y gorfodwyd y Rwsiaid i encilio o flaen y Germaniaid. Gwyddis fod ein Llyw- odraeth ni wedi gwahardd allforio glo gan fod angen pob pwys y gellir ei gyn- hyrchu ar y gweithfeydd sy'n troi cyfar- par rhyfel allan. Gwyddis fod gan Germani ddigon p lo, a'i bod yr wyth- nos ddiweddaf yn unig wedi caniatau allforio 600,000 tunell o lo ager i Sweden. Ac eta yn yr argyfwng difrifol hwn wele lofeydd Cymru yn gorwedd yn segur o herwydd anghydfod rhwng meistr a gweithiwr. Dywedaf eto fod pwy bynnag a achos- odd hyn yn gwynebu cyfrifoldeb ofn- adwy. Golyga pob mandrel segur yn y glofeydd beryglu yn ddiraid fywydau bechgyn yn y ffosydd yn Ffrainc a'r Dardanels. Golyga pob mandrel a rhaw fo'n brysur yn y lofa fwy o berygl i Germani nag yw rhychddrylliau'r Welsh Fusiliers yn Ffrainc a'r Dardan- els. Nid wyf yn dweyd pwy oedd ar fai, gan nas gwn. Rhoddir y clod gan rai i Mr. Lloyd George am iddo lwyddo cymodi. Nid wyf am atal un iot nac un tipyn o'r clod dyledus iddo. Ond rhwydd yw cymodi gwr os caniateir iddo'r cwbl a geisia. Ac, yn ymarferol, cafodd y glowyr yr hyn oeddent yn ei geisio. Dengys hyn fod Mr. Lloyd George yn barnu mai teg oedd eu cais. Prynu America ag Arian Germani. Yr wythnos ddiweddaf cafwyd allan j pa fodd y prynir America ag arian Ger- mani. Gwyddis fod cwmniau preifat mawrion yn yr America yn gwerthu llawer o gyfarpar rhyfel i Brydain, i Ffrainc, ac i Rwsia. Ni wiw iddynt werthu i Germani, canys ni ellir cludo i Germani yr hyn a werthir iddi. Dyna un o gwynion mawr Germani yn erbyn America, sef ei bod yn cyflenwi Prydain ag arfau rhyfel, tra nad yw Germani yn cae l dim. Atebiad America yn naturiol yw fod y farchnad yr un mor agored i Germani ag yw i Brydain-ond y rhaid i Germani fel Prydain gyrchu'r nwydd- au adref. Wedi methu dychrynu Llywodraeth yr Unol Dalaethau i wahardd gwerthu arfau rhyfel i Brydain, cymerodd Ger- mani gwrs mwy cyfrwys. Penderfyn- odd, costied a gostio, rwystro yr arfau rhyfel i ddod o'r America o gwbl. Ceis- iodd suddo yn y porthladd ac ar y cefn- for y llongau oedd yn cludo'r arfau yma, drwy osod bombs yn y llongau fuasent yn tanio o honynt eu hunain. Daliwyd rhai o'r llofruddion hyn gan awdurdodau America. Lie methodd bygwth a llofruddiaeth, llwyddodd aur. Wedi cael allan pa gwmniau oedd wedi contractio i wneud arfau rhyfel yn America i Brydain, aeth cenhadon Germanaidd at y cwmniau hynny gan gynnyg mwy o bris am y nwyddau hynny nag oedd Prydain yn dalu am danynt, a phan yr oedd amod yn y contract fod y cwmni i dalu dirwy i Brydain os na fyddai'r nwyddau yn barod, talai'r cenhadon Germanaidd y ddirwy hefyd. Prynwyd felly gannoedd o filoedd o rych-ddrylliau. Talwyd miliynau o bunnau am arfau rhyfel a fwriedid eu gyrru i Brydain. Gwir na fedrai'r Germaniaid eu hunain eu defn- yddio-ond gwell oedd ganddynt dalu am danynt a'u difetha na gadael i ni eu cael. Proffwydo Cwrs y Rhyfel. Mae awdurdod milwrol uchel yn yr Unol Daleithiau newydd gyhoeddi barn annibynnol am gwrs dyfodol y rhyfel. Teg iddo yw dweyd ddarfod iddo ysgrifennu ei broffwydoliaeth cyn dech- reu ymosodiad diweddaf Germani ar Warsaw. Rhagfynega yr ymosodiad hwnnw, a dywed mai cilio yn ol o Po- land a wna y Rwsiaid o flaen y German- iaid y tro hwn, ac y pery yr enciliad ar hyd fis Awst. Ond tua mis Medi bydd Rwsia mewn cyflwr i ail-ymosod, gan y bydd wedi cael adgyflenwad digonol o gyfarpar rhyfel. Gyrrir byddinoedd mawr Germani yn eu hoi. Ym mis Hydref adfeddianna Rwsia yr holl dir a gollodd yn Galicia a Poland, gan ores- gyn Hungari hefyd yn y de a dwyrain Prwsia yn y gogledd. Erbyn hynny bydd pethau mor ddrwg yn Awstria fel y gorfodir Llywodraeth Awstria i ffoi i Germani-fel y gorfodwyd Llywodraeth Belgium i ffoi i Ffrainc. Ennill a wna'r Prydeinwyr yn y Dar- danels, er mai araf a fydd yr ennill tan tua diwedd Awst. Ond yn Medi bydd y clo wedi ei dorri, a Llynges Prydain wedi cael lie agored drwy'r Dardanels a Mor Marmora i'r Mor Du, a Chaer Cys- tenyn wedi syrthio. Parha Byddin yr Eidal i ennill ar Awstria, a bygythir Triest ganddynt, os na fydd y porthladd pwysig hwnnw wedi cael ei ennill ganddynt tua mis Medi. Ychydig o gyfnewidiad a gymer le yn Ffrainc tan tua diwedd Awst, pan y gyrrir y Germaniaid yn ol gan Syr John French yn y gogledd a chan Joffre yn y dwyrain. Ymuna Rwmania a Bwlgaria gyda ni yn Awst i ymosod ar Twrci ac Awstria. Erbyn mis Hydref bydd y German- iaid wedi cael eu gwthio yn ol i'w gwlad eu hun, ac yn mis Tachwedd goresgyn- nir Germani gan y Ffrancod a'r Pry- deinwyr o'r gorllewin, gan yr Eidal o'r deheu, a chan y Rwsiaid o'r dwyrain. Yna y bydd y diwedd, ac y gofynna y Caisar am heddwch. Pa Hyd y Pery y Rhyfel? Gwelir fod yr Americanwr yn proffwydo y ceir heddwch tua diwedd Tachwedd, neu cyn y Nadolig. Barn Mr. Lloyd George er dechreu y rhyfel ydyw na fydd drosodd cyn y Nadolig eleni. Ar y Haw arall dywed Mr Hen- derson, Llywydd Bwrdd Addysg, mai barn y Cabinet yw y pery y rhyfel am flwyddyn arall. Mae llwyddiant Germani yn gyrru y Rwsiaid yn ol o Galicia, gan ddiogelu felly ddeheu Germani a Hungari ffrwythlon, wedi sicrhau y cyn- haeaf eleni eto i Germani ac Awstria. Gan fod y bobl wedi bod yn gynnil o'u defnydd bwyd, ac yn ddarbodus i hau pob llathen o dir segur, disgwylir y bydd gan Germani ac Awstria ddigon o ddefnydd bwyd am flwyddyn gron eto. Gan fod digon o lo a mateloedd ganddi, tybir y gall yn rhwydd gael digon o gyflenwad o gyfar- par rhyfel am fiwyddyn arall o fewn ei therfynau hi ei hun. Felly, os na ddigwydd i'w byddinoedd ryw anffawd anisgwyliadwy, tybir y geill Germani barhau y rhyfel am o leiaf flwyddyn eto. Barna un awdurdod milwrol yn Lloegr y gorfodir Rwsia i encilio o War- saw, ac y syrth y ddinas i ddwylaw Ger- mani tua'r wythnos gyntaf neu yr ail yn Awst—a hyny yn bennaf o ddiffyg cyfar- par rhyfel priodol a digonol gan Rwsia. Eithr hyn, ebe fe, a fydd llawenydd Germani, canys yn mis Medi cyhoedda America ryfel yn erbyn Germani, gan gymeryd meddiant o'r llu llongau Ger- manaidd sydd heddyw yn llechu ym mhorthladdoedd yr Unol Daleithiau. Pan wneir hyn gwel y Caisar fod y diwedd wedi dod, a cheisia wneud heddwch. Eithr ni bydd yr amodau a gynygir ganddo yn dderbyniol gan y Cynghreirwyr, ac a y rhyfel ymlaen hyd nes y daw yn wasgu caled ar boblog- aeth Germani tua'r Nadolig. Gwaith y Sudd-Longau. Anffodus yw Ilongau rhyfel yr Eidal. Yr wythnos ddiweddaf suddwyd yr ail o honynt gan un o sudd-longau Awstria ym Mor yr Adriatic. Dau gysur a gaf- odd yr Eidal; achubwyd bywydau ymron yr oil o'r dwylaw ar y llongau rhyfel, a dinystriwyd dwy o sudd-long- au'r gelyn. Gwnaeth Rwsia waith nodedig yn y Mor Du. Yr oedd llynges liosog o long- au masnach Twrci yn cludo arfau a chyfarpar rhyfel o bob math drwy'r Mor Du tua'r Dardanels fel adgyflen- wad i Fyddin Twrci yno. Daeth llongau Rwsia i'w cyfarfod, a suddwyd mewn un dydd 49 o longau Twrci oedd yn cluda cyfarpar at ladd bechgyn Prydain yn y Dardanels. Mae sudd-longau Prydain yn y Dar- danels y parhau i wneud gwasanaeth a gwrhydri mawr ym Mor Marmora. Suddasant bedair o longau Twrci yn cludo adgyflenwad ac adgyfnerthion i Fyddin Twrci yn y Dardanels. Ymos- ododd un o'n sudd-longau ar borthladd Tyrcaidd yn Asia Leiaf gyferbyn a Chaer Cystenyn, porthladd mawr o'r hwn y gyrrir milwyr yn barhaus i'r Dar- danels. Taniodd hefyd torpedo at long arall wrth y Cei yng Nghaer Cystenyn ei hun. Methodd y torpedo daro'r llong; aeth heibio iddi gan daro yn er- byn mur y cei, a chwythu darn o'r cei yn deilchion. Boddlona stidd-longau Germani, ar y llaw arall, i ymosod ar longau pysgota ym Mor y Gogledd, ac ar deithwyr diniwed ar For y Werydd.
[No title]
Ym Mhwyllgor Ysgol Sul Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg a gynhaliwyd ym Methania, Castell Nedd, prynhawn dydd Mawrth, Gorffennaf 20fed, pen- I derfynnwyd rhoddi ar dystysgrifau yr arholiad nesaf ddarluniau gapelau'r pedair eglwys hynaf yn y Gymanfa ynghyd a darlun o adfeilion hen Gapel Ilston. Penderfynwyd hefyd fod pwyllgor i'w alw ym Medi nesaf i ystyried beth a ellir wneud tuag at adfer a diogelu'r Gymraeg yn ein heglwysi ac ar ein hael- wylydd. Ceiriwyd gan Olygydd y "Darian baratoi i osod y mater ger bron ac awgrymu cynllun. Ffrwyth yr apel o wnaed at y Gymanfa ddiweddaf ym Mhenclawdd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Undeb y Cymdeithas- au Cymraeg yw'r symudiad hwn. Ceisiwyd hefyd gan y Parch. T. Wil- liams, Glyncorrwg, osod gerbron gyn- llun o holwydoreg cymwys i'r plant ieuengaf yn yr Ysgol Sul. Addawodd y Parch. W. W. Hopkin, Castell Nedd, baratoi Holwyddoreg bychain erbyn yr arholiad nesaf.
I Hermon, Treorchy.
I Hermon, Treorchy. Cynhaliodd yr eglwys uchod gyf- arfod cyhoeddus nos Iau diweddaf i longyfarch ei gweinidog, y Parch. W. T. Gruffydd, B. A., B. D., ar ei waith yn ennill y radd B. D. Yr oedd y capel yn llawn ymhell cyn amser dechreu. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. Howell Howells, diacon ac arweinydd y gan yn yr eglwys. Cyflwynwyd i Mr. Gruffydd oriawr aur ar ran yr eglwys gan Mr. David Evans, y diacon hynaf. Wrth ddiolch canmolai Mr. Gruffydd y caredig- rwydd a amlygasai Eglwys Hermon tuag ato er ei ordeiniad, a byddai hyn eto yn peri iddo yntau garu ei eglwys yn fwy nag erioed. Anrheg- wyd ef hefyd gan Ddosbarth Beiblaidd y Plant, y mae Mr. Gruffydd yn athraw iddo, a ffon hardd. Cyflwyn- wyd hon gan Miss M. J. Lewis dros y plant, ac adroddwyd penillion gan Miss Jones, High Street. Gorch- fygwyd Mr. Gruffydd gan ei deimlad- au pan yn diolch iddynt. Canwyd darnau gan y plant yn ystod y cyfar- fod dan arweiniad loan Bryncaerau. Canodd Maggie Jane Jones a Madam Davies-Jones. Cafwyd triawd gan M.J., Esther AnnJ. ac Edith Jones. Pedwarawd gan David Evans, Regent Street, a'i gyfeillion, a chanodd y parti dan arweiniad John Jones, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon. Adroddodd Master Idris Davies ac Ap Llwni. Siaradodd y Parchn. Rhys Willams, Birkenhead; Thomas, Ogmore Vale; Rogers, B.A., Penybont; L. Beynon, Ton Pentre; D. C. Jones, Tynewydd, ac Edwards, gweinidog y Bedyddwyr. Seisnig, Treorchy. Canwyd ar y piano gan Llinos Cadwgan. Ys- grifennydd y mudiad oedd Mr. J. Minton. Trysoryddes, Mrs. Jones (Butcher). Casglyddion, Madam Margrette Davies, Mr. Oliver Jones, Mrs. David Lewis, High Street, a Miss M. A. Jones, High Street. Caf- wyd anerchiadau gan lu o feirdd. Wele ddetholiad o rai o honynt:- "Newydd radd i'n bugail addas-ei lwydd Wna les i'n cymdeithas; A cherdded i uwch urddas Yn nwylaw Ion wnelo'i was." Evan Williams. Maesycwmer. "Mi wn i ti weithio fel cawr Am flwyddi cyn cyrraedd dy nod, Mae ennill anrhydedd mor fawr I ti ac i Hermon yn glod; A boed yr anrhegion tlws I ti yn ysbrydiaeth fyw, I arwain dy braidd drwy y drws Sy'n agor i gorlan Duw." —Milwyn Howells. Pentre Rhondda. "Gwerthfawrocach fydd nag aur Coeth yr oriawr, Ddehongliadau clir o'r gair Dwyfol werthfawr; Tra'r bo'r oriawr fach yn mynd Bydd yn anodd Iddo byth anghofio'r ffrynd Hoff a'i rhoddodd." —Dewi Glan Rhondda. Ei der oes fo gyda'r Iesu-a'i ddawn Ddoeth yn ei ddyrchafu; Dwyn ei ddefaid a'i denu 0 bob man i'w gorlan gu." —John Jones. Treorchy. "I'w braidd parhaed bri-Gruffydd o F6n, Graff ddifinydd heini; Ei dirion genadwri Yw golud nef i'n gwlad ni." —Myfyr Afan. Treorchy. [Nodiad.-Nis gallwn gyhoeddi'r farddoniaeth i gyd; cymerai dros ddwy golofn. Anfoner y gweddill i Brynfab os mynner.—-v3ol. j