Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Y DARIAN" FEL CVFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFODAU. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar oddiwrth Ysgrifen- yddion Eisteddfodau a roddasent Hysbysiad yn y Darian eleni, am y tro cyntaf, ;yn tystio eu bod yn synnu at y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- iad ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu Heisteddfodau.
CWRS Y RHVFEL.] - I
CWRS Y RHVFEL. ADOLYGU'R WYTHNOS. EGLURO BRWYDRAU WARSAW. EU HYSTYR, EU HAMCAN A'U COST. CELWYDDAU GERMANI. PENDERFYNIAD YMERHODRAETH PRYDAIN. GAN BERIAH. Celwyddau Germani. Gyda'r amcan o ddylanwadu ar wledydd tramor amhleidgar, a'u har- wain i gredu mai oen diniwed yw Ger- mani yn cael ymosod arno yn ddiachos gan fwystfilod rheibus fel Prydain, Ffrainc, a Rwsia, mae yr enwog Bern- ardi wedi cyhoeddi erthygl faith ym mhapurau newydd y gwledydd hynny sydd yn cynnwys rhes o gyhuddiadau maleisus a chelwyddog yn erbyn y wlad hon a'i chyghreiriaid. Wele rai o honynt gyda'r atebion iddynt:- 1. Fod Lloegr wedi torri ar amhleid- garwch Belgium. Gwyr pawb mai wedi i Germani fmosod yn ddiachos ar Belgium yn Liege y cyhoeddodd Pry- dain ryfel yn erbyn Germani. Mae cy- huddiad Germani mai Lloegr dorrodd ar heddwch Belgium yn gyffelyb i pe bae lleidr wedi torri i mewn i dy, gan ladd y bobl yn y ty; ac yna, am fod y plisman wedi ei weled, a myned i'r ty a'i ddal, y lleidr o flaep y barnwr yn cyhuddo'r puan. e ri i mep i'r ,cyhuddo'r p.z:,iiam ty! < 2. Fod militariaeth Germani wedi -dyrehafu dynoliaeth, gan ei bod wedi gosod esiampl o flaen y byd pa fodd i gario rhyfel ymlaen mewn dull dyn- garol!—Gwelwyd enghreifftiau o Jddyn- garwch' "militariaeth Prwsia" yn y pethau canlynol: (a) Lladd a threisio merched a gwragedd Belgium a Ffrainc. (b) Ymosod o'r Zepelines ar bentrefi diamddiffyn glannau Lloegr. (e.) Llongau rhyfel Germani yn lladd trigol- ion diniwed Scarborough, (d) Y sudd- longau yn suddo cychod pysgota a llongau masnach, a boddi dros fil o deithwyr y Lusitania. (e) Defnyddio nwy gwenwynig i ladd Prydeinwyr yn Ffrainc. (f) Saethu wrth y cannoedd milwyr Prydain a Ffrainc ar ol eu cy- meryd yn garcharorion. Dyna ddyn- garwch militariaeth Prwsia!" 3. Fod Germai wedi ceisio ei goreu i fyw mewn heddwch a phawb, ond tra yn trigo yn ddiofal yn eu hymyl, ddar- fod i'w chymydogion-Prydain, Ffrainc, a Rwsia, ymosod arni yn ddiachos!—Y gwir yw mai Germani, a Germani yn unig, sydd gyfrifol am y rhyfel ofnadwy. Rhaib, a thrachwant, a chabledd y Caisar, o hynny yn unig a achosodd y rhyfel. Yr oedd Awstria am gymodi a Rwsia heb ryfel-ond gwthiodd Ger- mani y ddwy ben-ben a'u gilydd. Yr un peth a wnaeth a Ffrainc, ac wedi i'r Caisar ymosod ar Belgium y cymerodd Prydain ran yn y ffrwgwd. Yr oedd Germani wedi bod yn parotoi er's llawer blwyddyn, a'i holl gynlluniau a'i harfau yn barod at y rhyfel, tra'r Cynghreiriaid yn amharod un ac oil. Beth am Warsaw? Ar Warsaw y mae llygaid y byd eto yr wythnos hon. Ai cwympo a wna? Paham y mae y Germaniaid mor awyddus i'w chael 1 Pa beth a enillent wrth ei chael1 Pa faint a gostiodd ac a gostia iddi ei chael1 Dyna gwestiynau sydd ym meddwl llawer y dyddiau hyn. Ceisiaf eu hateb yn fyrr. Amhosibl, heb wybod pa faint o gyf- arpar rhyfel sydd gan Rwsio yn awr, yw dweyd a yw yn debyg y geill y Ger- maniaid ennill Warsaw. Y cwbl a ellir ,ei ddweyd yw ei bod yn bosibl y gall- ant eu hennill. Gwyddis fod gan y Rwsiaid ddigon o wyr, ond fod yno brinder arfau wedi bod; ac mae milwr heb arfau mor ddiwerth mewn rhyfel ag yw arfau heb filwyr i'w trin. Os oes gan yr Archdduc Niclas gyfarpar cyf- addas, amhosibl fydd i Germani ennill Warsaw; os nad oes, geill syrthio yn fuan. Ceisiodd Germani deirgwaith o'r blaen yn y rhyfel hwn i gymeryd War- saw. Methu a wnaethant bob tro-er iddynt fyned unwaith, os nad dwy- waith, yn nes i'r dref nag ydynt heddyw. Rhaid fod rhywbeth cryf iawn yn eu cymhell i wneud ymdrechion mor fawr i'w hennill. Pe cymerent Warsaw enillent ddau beth pwysig iawn. Warsaw yw prif ddinas Poland. Cynrychiola yn y dwyain, ac yn enwedig i Wledydd y Balkan, rywbeth cyffelyb i'r hyn yw Paris yn ein golwg ni. Medd- ylier am Germani yn ennill Paris, a cheir syniad o'r modd yr edrych Bwl- garia, Rwmania, a Groeg ar ennill War- saw. Edrychid ganddynt ar gwymp Warsaw fel yn golygu buddugoliaeth Germani ar Rwsia. Effeithiai hynny i gadw Rwmania a Groeg rhag ymuno a ni y erbyn Germani. Feallai y byddai yn ddigon i ddylanwadu ar Bwlgaria i droi gyda Germani yn ein herbyn. Dyna rai o'r pethau y gobeithia Ger- mani eu sicrhau drwy gwymp Warsaw. Gwerth a Chost Warsaw. Er pwysiced a fyddai dylanwad cwymp Warsaw ar Wledydd amhleidgar y Bal- kan, golygai ei chwymp fwy na hynny i Germani. Os edrychir ar y map gwelir fod Poland yn gwthio ymhell i fewn i Germani, a'i-therfynnau yn ffurfio rhyw fath o hanner cylch ar gyffiniau Ger- mani. Drwy Poland y gwthiodd Rwsia o'r blaen i ymosod ar Germani, a drwy Poland y gellir rwyddaf roi ergyd i Ger- mani o du y dwyrain. Y drws i Poland, ac felly k-Germani, o du Rwsia, yw Warsaw. Yn ymyl Warsaw, a rhyngddi a'r wlad sy'n ffinio a Germani, y rhed yr afon ?r wr la. Yn ymyl Warsaw yn unig y ceir pontydd dros y Vistiwla am filltiroedd lawer i'r gogledd ac i'r de. Dros y pontydd hyn y rhed y rheilffyrdd a'r priffyrdd sy'n arwain o Rwsia i Poland, a thrwy Poland i Germani. Tra bo'r pontydd hyn yn eiddo Rwsia bydd per- igl parhaus i Germani y daw byddin- oedd Rwsia drostynt i ymosod ar Ger- mani. Pe gallai Germani feddiannu'r pontydd hyn, a'u dal, nis gallai byddin- oedd Rwsia groesi'r afon i ymosod ar Germani. Unwaith ynte yr enillai Germani y pontydd hyn, gallai, gyda'i chyflegrau mawrion, a chydag ond ychydig o filwyr mewn cymhariaeth, gadw'r Rwsiaid draw, ac felly rhyddhau cannoedd o fil- oedd o filwyr Germanaidd i ddod dros- odd yn erbyn Ffrainc, a Phrydain, a'r Eidal. Dyna werth Warsaw i Germani ac i Rwsia. Ond mae Warsaw eisoes wedi costio i Germani chwarter miliwn o'i milwyr o fewn corff y pythefnos diweddaf. Cof- ier mai nid yn ymyl Warsaw yn unig y mae y brwydro am Warsaw, ond fod brwydro parhaus, beunyddiol, yn cy- meryd lie ar hyd llinell sy'n ymestyn am o leiaf 400 milltir. Cyfrifir fod colledion Germani yn y brwydro hyn o leiaf o 15,000 i 20,000 y dydd. Dyna'r gost i Germani o geisio ennill Warsaw. Cymeryd Miliwn o Garcharorion. Ond nid cymeryd Warsaw yn unig yw amcan y Caisar yn y rhyfelgyrch mawr yn erbyn Rwsia. Mae ganddo o leiaf ddau amcan arall, sef (1) Dal yr Arch- dduc Niclas a'i fyddin fawr yn gar- charorion • a (2) cymeryd Petrograd (St. Petersburg), prifddinas Rwsia. Rhaid fydd iddo gyflawnu y cyntaf cyn dechreu ar yr ail, canys ynfydrwydd a fyddai i Fyddin Germani dreiddio ymhell i ganolbarth Rwsia tra'r Arch- dduc Niclas a'i wyr yn fyddin rydd yn barod i ymosod arnynt o'r tu ol. Ceisiaf egluro yn syml y sefyllfa ar hyn o bryd modd y deallo'r darllenydd bwysigrwydd y gwahanol symudiadau. Cymered map o Loegr, a noded arno safleoedd (1) Llundain; (2) Abertawe; (3) Manceinion (Manchester) a (4) Amwythig (Shrewsbury). Gwel fod yma driongl mawr o wlad, a Llundain yn begwn i'r triongl. Gwelir ymhell- ach fod rheilffyrdd yn cysylltu y lleoedd hyn,—y Great Western "o Lundain i Abertawe y London and North Wes- tern o Lundain i Fanceinion; a'r Lon- don and North Western o Abertawe i Fanceinion drwy'r Amwythig; tra llin- ell arall o eiddo'r Great Western yn rhedeg o Lundain i'r Amwythig ar draws gwlad drwy Rydychen (Oxford). Bydd y darn mawr gwlad yna a gyn- hwysir yn y triongl Llundain i Aber- tawe, Abertawe i Fanceinion, a Man- ceinion i Lundain, rhywbeth yn debyg o ran ffurf a maint i'r darn lie ceisia'r Germaniaid yn awr ddal yr Archdduc Niclas a'i Fyddin o dros filiwn o filwyr. Meddylier eto mai Warsaw yw Llun- dain, Bielostock yw Abertawe, Cholen yw Manceinion, a Brest-Litowsk yw'r Amwythig. Hefyd mai Rwsia yw'r oil o Loegr, Cymru, a'r Werddon, ac mai tir i gyd yw Mor y Werydd oil oddiyma i'r America, a'r tir hwnnw yn Rwsia. Meddylier eto ymhellach mai tir yw Mor y Gogledd a'r Sianel Seisnig, ac mai Germani yw'r tir hwnnw. Os medr y darllenydd gadw darlun felly o flaen ei feddwl geill ddeall: (1) Sefyllfa'r Archdduc Niclas a Byddin Rwsia; (2) amcan byddinoedd Ger- mani a (3) ystyr y gwahanol symud- iadau ar faes eang y rhyfel mawr draw. Defnyddiaf bellach enwau'r trefi a nod- wyd uchod yn y wlad hon. Mae Byddin Rwsia yn amddiffyn Llun- dain. Mae Byddinoedd Germani, pump o honynt, yn ceisio ennill Llundain, ac ar yr un pryd, os medrant, cymeryd holl Fyddin Rwsia yn garcharorion. Yn lie ymosod yn uniongyrchol ar Lundain (Warsaw) lie mae Byddin Rwsia, ceisia Byddinoedd Germani fyned y tu ol iddynt ar y gogledd ac ar y deheu. Os gall y Germaniaid fynd y tu ol iddynt, a chau y ffordd sydd ganddynt i ddianc, rhaid fydd i Fyddin Rwsia ildio yn gar- chararion, neu orchfygu Byddin Ger- mani, neu gael ei lladd. Tair ffordd sydd gan yr Archdduc I Niclas a'i fyddin yn agored i ddianc ar hyd-ddynt, sef (1) Ar hyd y Great Wes- tern i Abertawt; (-1 ar hyd y London and North Western i Fanceinion; a (3) ar hyd y Great Western drwy Rydychen i'r Amwythig. Os medr y Germaniaid feddiannu unrhyw ran o linell y Great Western rhwng Llundain ac Abertawe, dwy ffordd fydd gan Fyddin Rwsia i gilio yn ol yn lie tair—a bydd yr encil- iad felly yn fwy araf ac anhawdd. Os meddiannant hefyd unrhyw ran o'r Ilinell arall rhwng Llundain a Mancein- ion, ni fydd ond un ffordd yn agored i Fyddin Rwsia encilio, sef drwy Rhyd- ychen i'r Amwythig; gosodai hynny'r Archdduc a'i fyddin mewn cyfyngder mawr. Pe meddiannai Germani eto unrhyw ran o'r llinell ar draws gwlad o Lundain i'r Amwythig, dyna'r trap wedi cau, a holl Fyddin Rwsia yn y trap. A dyna yn syml ymgais y Prif Faes-lywydd Germanaidd Von Hinden- burg. Ni byddai ennill Llundain (Warsaw) a gadael Byddin Rwsia yn gyfan ac yn rhydd i weithredu agos mor bwysig iddo ag a fyddai dal Niclas a Byddin Rwsia yn y trap. Felly ceir Archdduc Aws- tria, a Mackensen, yn ceisio meddiannu y rheilffordd rhwng Llundain a Man- ceinion (Warsaw a Cholen). Maent eisoes wedi cyrraedd hyd o fewn pum milltir i'r rheilffordd. Ond yn sydyn wele'r Rwsiaid yn taro ergyd mor nerthol ar Fyddin Awstria gerllaw y rheilffordd nes ymron a'i dal oil mewn trap. Gyrrwyd yn orwyllt at Macken- sen am gymorth. Gorfu arno yntau, er o fewn ychydig filltiroedd i'r rheil- ffordd, droi yn ol ar frys er mwyn cyn- orthwyo ap achub fyddin Awstria. Yn y fan yna, ynte, ar y llinell reil- ffordd yna y mae un o beryglon ma,wr Rwsia a Warsaw. Sylwed y darllen- nydd ar y symudiadau yn fanwl. Os llwydda'r Germaniaid i dorri y rheil- ffordd yna, a'i dal, bydd yn galed ar Lundain (Warsaw). Y gorsafoedd pwysig ar y rheilffordd ydynt Warsaw, Ivangorod, Lublip, a Cholen. Ond atebai yr un diben i dorri'r llinell mewn unrhyw fan, gan y torrai hynny gysyllt- iad Warsaw a'r oil o Rwsia yn y cyfeir- iad hwnnw. Mae dwy fyddin arall o'r Germaniaid yn ymosod ar y rheilffordd rhwng Llun- dain (Warsaw) ac Abertawe (Bielos- tock). Peidied y darllennydd gymeryd ei gamarwain gan adroddiadau swydd- ogol Germani eu bod wedi meddiannu y rheilffordd." Nid ydynt wedi gwneud hyd yn hyn, er eu bod yn agos- hau tuag ati. Gwylied y darllennydd y symudiadau yma eto yn ofalus, canys dyma'r ail berygl Rwsia a'i byddin. Mae'r Germaniaid wedi torri rheil- ffordd i'r gogledd o Warsaw mae'n wir —ond, nid y llinell fawr i Bielostock yw, eithr cangen fechan yn arwain i Ostro- lenka, dinas gaerog gref o eiddo Rwsia. Mae tair llinell yn rhedeg o Ostrolenka i'r rheilffordd fawr sy'n mynd i Biel- ostock, ond gan nad oes yr un o'r tair yn myned ymhellach nag i Ostrolenka, nid yw eu meddiannu yn nemawr ddim ennill i'r Germaniaid, gan nas gallant ddwyn peiriannau na cherbydau i'w gosod ar y llinell. Mae dwy afon go fawr, y Narew a'r Bug, rhwng y Germaniaid a rheilffordd fawr Bielostock. Ddecheu'r wythnos llwyddodd rhan o fyddin Germani i groesi'r Narew mewn tri man, sef ger Pulteusk, Rosan, ac Ostrolenka. Gwnaeth y Rwsiaid yn gyffelyb yma ag a wnaethant a Byddin Awstria. Ym- osodasant yn sydyn a nerthol, gan yrru'r Germaniaid ar ffo yn ol dros y Narew ger Pultusk. Eto deil rhan o Fyddin Germani eu tir rhwng yr Afon Narew a rheilffordd Bielostock. Oddeutu y ddwy rheilffordd hyn, ynte, yr un o Lundain i Abertawe (War- saw i Bielostock), a'r un o Lundain i Manceinion (Warsaw i Cholen), y gellir disgwyl yr ymladd mawr y dyddiau nesaf, yn hytrach nag ynghymydogaeth uniongyrchod Warsaw ei hun. Y cwestiwn yw, a oes gan yr Arch- dduc Niclas yn awr ddigon o gyflegrau mawr a'u cyfarpar priodol? Os oes, gallwn fod yn esmwyth ein meddyliau mai methu unwaith eto a wna Germani —ac os methant bydd yn galed iawn ar- nynt. Os nad oes gan y Rwsiaid y cyfarpar priodol, anhawdd fydd iddynt ddal eu gafael yn Warsaw. Dyna bwys- igrwydd y tair rheilffordd i encilio os bydd rhaid. Tybir fod Rwsia wedi cael cyfarpar, canys yr wythnos hon galwyd Byddin newydd o filiwn a han- ner (1,500,000) i'r maes yn Rwsia—ac ni alwesid arnynt oni bae fod arfau gan Rwsia yn barod iddynt. Teyrnas ac Ymerhodraeth. Dydd Mercher nesaf, Awst 4, yw I dydd penblwydd y rhyfel a ddaeth ar waethaf teyrnas ac Ymerhodraeth Pry- dain a'r byd gwareiddiedig megys lleidr yn y nos. Naturiol yw i ni ar adeg felly adgofio ffeithiau hanfodol yr achos. Gwneir hyn yn effeithiol mewn dau benderfyniad syml ond cynhwys- fawr. Ym mis Tachwedd diweddaf amlyg- odd Mr. Asquith, y Prif Weinidog, ar ran Teyrnas Prydain Fawr, y pender- fyniad diamwys a ganlyn:- Nid yn ysgafn a difeddwl y dad- weiniodd Prydain y cledd, ac ni esyd hi y cledd yn ol yn y wain hyd nes bo Belgium wedi cael yn ol y cwbl, a mwy na'r cwbl a aberthwd ganddi; hyd nes y diogelir Ffrainc yn sicr rhag perigl ymosodiad creulawn cyffelyb eto; hyd nes y gosodir cenhedloedd bychain Ewrop ar sylfaen gadarn He y byddant yn ddiogel oddiwrth ymosodiadau; ac hyd nes bo gorthrwm milwrol Prwsia wedi cael ei lwyr ddifetha unwaith am byth." Y penderfyniad arall yw yr un a gyn- hygir ar ran Ymerhodraeth Prydain-I Fawr yn holl drefi mawr yr Ymer- hodraeth mewn cyfarfod cyhoeddus ddydd Mercher nesaf. Dywed :— "Fod dinasyddion.heddyw, ar ddydd penblwydd cyhoeddi Rhyfel cyf- iawn, yn gosod ar gof a chadw ein pen- derfyniad diysgog fel Ymherodraeth i barhau hyd nes y ceir buddugoliaeth lwyr ar y gelyn ein hymdrech fawr bres- ennol i gynnal y delfrydau uchel o rydd- id a chyfiawnder a gynhwysir yn achos cysegredig y Cynghreiriaid." Mae dros bum cant o wahanol bwyll- gorau wedi eu sefydlu gan Bwyllgor Canolog y Cymdeithasau Gwladgarol i drefnu'r cyfarfodydd hyn. Mr. As- quith yw Llywydd y Pwyllgor Canolog, a'r is-lywyddion ydynt Arglwydd Rose- bery a Mr Balfour.
Dadgysylltiad yn sicr.
Dadgysylltiad yn sicr. Bu tynged Deddf Datgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yng Nghymru yn y ddafol am fisoedd, ond heddyw y mae gennym sicrwydd ar waethaf ystryw y Toriaid gyda'r Mesur Oedi fed pob sail i bryderu wedi ei symud. Hysbysodd yr Ys- grifennydd Cartrefol yn y Senedd ddydd Llun wythnos i'r diweddaf na fwriedir myned ymlaen gyda'r Mesur Oedi, ac felly daw Deddf Dat- gysylltiad i rym ar derfyn y rhyfel.
Llith Glannau Afan.
Llith Glannau Afan. Yng Nghapel Seion (A.) nos Fercher, yr 28ain, cafwyd oedfa nad a'n anghof am amser hir. Canolbwynt yr hwyl oedd y Bonwr Evan Thomas, arweinwyd y gan yn Seion. Tystiai'r dorf fawr a ymgynhullodd yno mai efe oedd arwr yr oedfa. Er mantais i ddarllenwyr y Darian" dylid hys- bysu mai efe oedd arweinydd Cor Undebol Cwmafan-y cor a ganai yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe pan dorrodd y llwyfan. Dywedid y dydd hwnnw mai Cor Evan Thomas a deilyngai y wobr, ac onibuasai i'r awdurdodau orfodi'r Cor ganu ymlaen heb fawr seibiant, efe fyddai yn sicr o'i chael. Efe (Mr. Thomas) gipiodd y brif wobr ym Mountain Ash, 1906, ac yn Nhreforus. Cadeir- iwyd gan y gweinidog, y Parch. D. Morlais Davies B.A., F.R.E.S., yr hwn longyfarchai yr Eglwys am gredu fod eisiau talu rhywun heb law y gweinidog am ei lafur 1n yr eglwys. "Yr ydych," ebe, "yn talu eich gweinidog yn anrhydeddus. Da gennyf eich bod yn bwriadu cydna- bod teilyngdod eich arweinydd athrylithgar. Mae ambell gymdeithas yn cadw'r blodau i gyd hyd ddydd angladd y cymwynaswr:, ond wele Seion yn cyflwyno'r blodau yn awr i sirioli mewn bywyd. Nid da na rhes- ymol cadw pob gair caredig hyd ddydd yr angladd." Cyflwynodd Mr. John Hughes yr anrheg, sef oriawr, cadwyn, a bath- odyn aur i Mr. Thomas, a darllenodd yr argraff oedd arni: "Cyflwynedig gan Eglwys Seion, Cwmafon, fel ar- wydd o'i pharch i Mr. Evan Thomas, arweinydd y gan, Gorff. 28, 1915." Siaradodd Mr, Hughes gyda theimlad dwys, a dymunodd yn dda i Mr. Thomas, gan hyderu na welid ganddo ef arweinydd na gweinidog arall yn Seion tra byddai byw, a gan mai un o wyr Woodhand Row oedd fel ef ei hun dyna'r paham yr oedd yn cael cymaint o bleser i'w anrhegu. Siaradodd y brodyr canlynol :-Mr. David Parker, a'i ffraethineb bron yn ail i Wil Bryan. Soniodd am y cyfeillgarwch a fu rhyngddo a Mr. Thomas, ac am y "crisis" yn ei fywyd pan gollodd ei lais. Byth wedyn ceisiodd ddod yn siaradwr, ac astudiodd weithiau Cicero, Demosthenes, ac eraill, ond daliodd Mr. Thomas gyda'r gan. Gorffennodd gyda chyngor i Mr. Thomas beidio cario'r oriawr yn llogell ei got. (Cymeradwyaeth). In- spector W. Williams. Rhoes Mr. Williams gip yn ol, a dilynodd yrfa Mr. Thomas er pan ganai alto hyd yn awr. Aeth dros groncl o dystiolaeth- au am lawryf ar ol llawryf a gasglodd o'r wasg, a theyrnged beirdd i'r gwron ar ei fuddugoliaethau. Mr. W. Evans, cyn-arweinydd Penuel (B.), ac un o hen "veterans cerddorol y cwm, a ddywedodd nad oedd neb teilyngach yng Nghymru o gydna- byddiaeth na Mr. Thomas. Wedi hyn aed drwy y rhaglen a ganlyn Deuawd ar y berdoneg, D. H. Webbe ac Annie L. Jones. Can, T. Morris. Deuawd, Elizabeth A. Fowler ac E. Thomas. Adroddiad, Alwyn Williams. Can, Robert Bowen. Deuawd, T. Eaias ac 1. Thomas. Can, D. Jones. Can, 1. Thomas. Glee gan Barti D. H. Webbe. Darllenodd y cadeirydd nifer o englynion o eiddo "Tomos y Gwaith." Wele'r olaf: — "Rhoddwn oriawr aur i'n hero—yn rhydd Yn rhad rhown iddo; • A llawn teml sy'n teimlo Am Efan fwyn-a dyma fo. GOHEBYDD.
[No title]
Cynhaliwyd cwrdd gweddi mawr ym Mharc Cathays, Caerdydd, nos Sul wythnos i'r diweddaf. Yr oedd tua 40,000 yn bresennol. Cymerwyd rhan ynddo gan arweinwyr y gwa- hanol enwadau yn cynnwys eglwys Loegr. Yr oedd yno drefn dda, a nodweddid y cyfarfod gan ddifrifwch mawr.