Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Trem ar Hanes.
Trem ar Hanes. GAN MYRDDIN. CREULONDEB Y CYFOETHOG. Mewn cyfnod pan ga cwyn y gweith- iwr gymaint o sylw'r cyhoedd, nid an- niddorol, hwyrach, fydd rhoi trem ar sefyllfa'r llafurwr mewn canrif arall yn ein hanes. Heb fyned yn ol ymhellach na'r ail ganrif ar bymtheg gwelwn fod sefyllfa'r werin yn myned o ddrwg i waeth. Dechreuai'r cyfoethog ladrata'r tir cyffredin cyn hynny, ond gwaethygu wnaeth yr arfer nes yr yspeiliwyd bron bob erw o hono. Dywedir bob dros wyth miliwn erw ym Mhrydain Fawr wedi eu lladrata mewn un canrif, sef y ddeunawfed. Oherwydd hyn, amddi- fadwyd y werin, miloedd o honynt, o ran helaeth o'u bywiolaeth, a bu rhaid iddynt gael cymorth y plwyf. Hefyd yr oedd creulondeb llawer o'r arglwyddi tir yng Nghymru yn eithafol arswydus. Dyna Syr John Wynne o Wydr, er enghraifft, gwr a fwynhai safle uchel. Dygwyd ef o flaen y llys i ateb drosto'i hun. Cafwyd ef yn euog; diarddelwyd ef o'i holl swyddi, a bu rhaid iddo dalu cant punt o ddirwy. Yr oedd un o Vychaniaid Sir Aberteifi yn greulonach nag ef. Cyhuddwyd ef o dorri clustiau a thafodau eu denantiaid, ac o yspeilio degau o fdn amaethwyr Gorllewin Cymru o'u hetifeddiaethau. Cospwyd yntau hefyd, a chollodd ei swydd fel Llywydd Llys y Gororau, prif lys Cym- ru yr adeg honno. CYFLOG Y LLAFURWR. I Hefyd isel oedd cyflog y llafurwr. Yr oedd gan yr uchelwr, bryd hynny, hawl -i benderfynu'r p-vflog yn ei ardal, ac o'r braidd y gellid disgwyl cyfiawnder oddiwrtho, ac efe'n gyflogydd ei hunan. Yn yr ail ganrif ar bymtheg swllt neu swllt a dwy geiniog y dydd oedd hur y llafurwr, ac fe gostiai pecaid o wenith bedwar swllt a cliwe cheiniog ar ddechreu'r ganrif, a naw swllt ar ei diwedd. Yng nghyfnod Ap Vychan, sef ar ddechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid oedd y gyflog wedi codi er bod pecaid o wenith bryd hynny'n costio un swllt ar hugain. Yn fyr, am ganrif a banner, nid oedd cyflog man amaethwyr a llafurwyr Cymru yn ddigon i'w cadw mewn bwyd yn unig, heb son am ddillad. Deuai'r gweddill o'r plwyf. ELIS WYN. I Rhydd Elis Wyn ddisgrifiadi byw a llym o drueni'r werin, ac nid anghofiai'r treiswyr. "Beth yw teiliwr a ddwg ddarn o frethyn wrth wr mawr a ddwg allan o'r mynydd ddarn o blwyf? Oni haeddai hwn ei alw yn garn lleidr wrth Hall ? Ni ddwg hwnnw ond ychydig oddiarno ef; eithr y gwr mawr a ddug oddiar y tlawd fywoliaeth ei anifail, ac wrth hynny ei fywoliaeth yntau a'i weiniaid. Beth yw sawdwr lledlwm a ddycody ddillad wrth ei gleddyf, wrth y cyfreithiwr a ddwy dy holl ystad oddi arnat a chwil gwydd, heb nac iawn na rhwymedi i gael arno?" Felly hefyd ysgrifennwr arall, Owen Gruffydd wrth ei enw. Dywed fod pob traffic yn waelach ac yn ddrutach; a'r arian oherwydd y clipwyr—hynny yw, y bobl fyddai'n torri ymylon. yr arian bath ac yn cadw'r parion—fel soth- ach. Yr oedd pob gradd yn gorth- rymu ei wannach dan wenu, a llid a thlodi ac anghyfraith ar bob llaw. Cwynai fod pob swllt a roisai yn ei boced yn myned yn chwe cheiniog pan ddeuai allan oherwydd y clipwyr. CANRIF RHYFELOEDD I MAWRION. Canrif rhyfeloedd mawrion oedd y ddeunawfed ganrif. Rhyfelai Prydain Fawr ar f6r ac ar dir, yn Ewrob ac yn yr America, ac yn yr India bell. Dyma'r ganrif y daeth Canada a'r India yn rhan o'r Ymherodraeth Brydeinig. Ysywaeth, gwyddom heddyw drwy brofiad na ellir rhyfela fel hyn heb drethu, ac yr oedd y trethi i gyfarfod a chost y rhyfeloedd hyn yn enfawr. Ar ddiwedd y ganrif honno dechreuai'r chwyldroad yn Ffrainc, ac fe aeth y trethi'n uwch. Gwariwyd wyth can miliwn o bunnau ar y rhyfeloedd hynny. Dyma hefyd gyfnod y chwyldroad mewn masnach a diwydiant, a esgorodd ar ddyddiau blin i filoedd o deuluoedd yng Nghymru. Pwy sydd heb ddarllen awdl orchestol Dewi Wyn ar elusen- garwch? Gwelir yno ddarlun byw o gyni'r tlawd a dioddef y werin. Pwy all beidio colli deigryn wrth ddarllen am y gweithiwr tlawd "dan oer hin yn dwyn y rhaw mewn trymwaith," ac "yn teimlo min yr awel ar ei ewin, ei blant cu oil agos a llewygu, ac yntau yn rhoi angen un rhwng y naw ? Rhydd Ap Vychan hefyd ddar- lun cyffelyb o werin Cymru yn yr un cyfnod. Nid oes ofod i fyned ymhell- ach heddyw ar y llwybr hwn. Daw cyfle eto, ni hyderwn.
IGohebiaethau.
I Gohebiaethau. I TRAMCARS ABERDAR. Mr. Gol.,—Llongyfarchwn Mr. T. W. Griffiths, y cyfreithiwr, ar ei ddygnwch yn peidio rhoddi llonydd i'r Cownsil nes tynnu prisoedd teithio gyda'r cerbydau i lawr. Ymddengys fod mwyafrif y Cownsil yn meddwl fod Aberdar yn bodoli er mwyn y trams a'r swyddogion sydd ynglyn a hwynt, yn hytrach nag fel arall. Y mae Mr. Griffiths "n mynegi llais cyffredin- ol y bobl fod y prisoedd presennol yn rhy uchel, a gellir eu gostwng heb niweidio yr elw. Perygl y Cownsil ¡ gyda'r peth hwn fel pethau ereill yw ¡ rhoddi'r fantais i swyddogion a chodi eyflogau yn afresymol. Y mae wedi dechreu yn barod, a dyledswydd y trethdalwyr yw peidio grwgnach ond ei hystyried hi yn fraint i chwysu eu mer a'u hesgyrn i gael arian i dalu am ddwli eu llywodraethwyr. Llwydd i'r Cynghorwr T. W. Griffiths. CYNON. MILWRIAETH. Mr. Gol. ,-A welsoch chwi y cynnyg a wnaed gan Fwrdd Llyw- odraethwyr Prifysgol Cymru i wrthod i neb gael gradd oddieithr ei fod wedi ymroddi i arferion milwrol? Beth sydd yn cyfrif am dawedogrwydd y wasg yn y mater? Yr ydym yn morio i ddyfroedd geirwon, ac yn ol yr arwyddion byddwn yn union dan iau gorfodaeth filwrol. Ymddengys mai ein perygl ninnau yn y dyfodol yw yr un sydd yn hyrddio yr Almaen i'w dinistr heddyw. Ein hunig obaith yw'r Undebau Llafur, oblegid y mae'r pleidiau gwleidyddol yn feddw gan waed ac nid yn rhwydd y sobrir hwy mwyach. Er fod cannoedd o filoedd o weithwyr y wlad yn ymladd, hyd yma nid oes arwyddion fod y gweithwyr fel dosbarth wedi colli eu pennau ar y gwaith erchyll hwn. GOHEBYDD. I MELYN WYNT CILFAI. I Ateb i Gais y Bonwr J. M. Davies, Pontardawe. Syr,—Hola ein cyfaill fy awdurdod am ddweyd mai Bussy Mansel a adeil- adodd y Felyn Wynt ar ben Cilfai, neu Pen y Bigwrn fel yr adnabyddid ef gan yr hen bobl. Fy awdurdod dros hynny yw "Survey Cromwell o'r "Lord- ship of Gower," a gyhoeddwyd am y tro cyntaf dan olygiaeth y Milwriad George Grant Francis. Mae y llyfr yn ddrud, ac yn brin yn awr, ond y mae copi o hono yn Llyfrgell Gy- hoeddus Abertawe. • Fe'i cyhoeddwyd mewn tair cyfrol, ac fe geir y difyniad isod yn y drydedd gyfrol, tud. 363: "Thirteenth Article — The said Jurors do say and pre- sent-That about six years ago, 1680, Bussy Mansel, Esqr., one of the freeholders of the said Manor, hath erected a windmill on Kilvey Hill, within the said manor. Hath also erected a watermill there called New Mill. Buaswn wedi ateb y cais yn y "Darian" ddiweddaf, onibae fod y gyfrol dan sylw allan ar fenthyg, a fy mod am godi'r difyniad yn gywir. Mae'r gyfrol heb ei dychweliad eto, ond cefais fenthyg adysgrifiad cyfaill —y Bonwr Llewelyn Llewelyn, Bryn- hyfryd, ac y mae yr uchod, mi gredaf, air am air fel y mae yn y llyfr. Hyderaf y rydd hyn berffaith fodd- had i'n cyfaill o Bontardawe.—Yr eiddoch, etc., TALNANT. HELYNT Y GLOFEYDD. Mr. Gol.,—Yn y "Darian" am yr wythnos cyn y diweddaf mae "Myrddin o dan y pennawd uchod yn lied law-drwm ar arweinwyr y glowyr ac ar y glowyr am ddewis Saeson i'r arweinyddiaeth. Ni ddywed air am fod y Llywodraeth yn dyfod a Mr. Runciman i'r adwy. Pwy ydyw perchnogion glofeydd y Deheudir? Ai Cymry ydynt oil ? Y mae yn lied debyg nad oes wahaniaeth gan "Myrddin pwy ydyw y perchnogion, pa un ai Sais, Ellmyn, Iuddew, neu Genedl-ddyn, pa un ai Cristnogion neu Anffyddwyr, Barbariaid, ai Scyth- iaid a font? Pa wahaniaeth i ba genedl y perthyn dyn, os bydd yn cymeryd plaid *y gwan a'r gorth- rymedig ? Yr ydym yn diolch ac yn talu gwrogaeth i ddynion fel Henry Richard (Apostol Heddwch), Ieuan Gwynedd, a llu o'r rhai a fu, ond credaf fod gennym ddynion, ie cewri, ymhlith ein brodyr y Saeson sydd yn barod i aberthu llawer er mwyn codi y glowr Cymreig. Mae y rhan fwyaf o'r arweinwyr Seisnig sydd heddyw yng Nghymru wedi eu codi a'u magu yng ngwlad y gan, ac yn teimlo diddordeb yng ngwahanol symudiadau y genedl, yn gymdeithasol ac yn grefyddol. Nid wyf am ddweyd fod arweinwyr y glowyr yn berffaith mwy na Myrddin, ond ai teg yw i Myrddin ddal yr arweinyddion yn hollol gyfrifol. Beth a wnaeth y glo-berch- nogion a'r Llywodraeth er mwyn ceisio gwneud cytundeb a'r gweith- wyr? Gadawaf i'ch gohebydd ateb. Diolch fod y ddwy blaid wedi dyfod ynghyd, a gobeithiaf y cawn heddwch am dymor hir.—Yr eiddoch, 'DARIAN.
IAberdar. I
Aberdar. I PRIODASAU. I Bore Sul, Awst iaf, gwelwyd yn sefyll yn brydferth o flaen Allor Hymen yn Horeb, Llwydcoed, Mr. Rice Evans, manager y Co-op Stores, Cwmdar, mab henaf Mr. Daniel Evans, Lletty'rgaib, Cil- rhedyn, a Miss Amy Davies, 6 Kings- bury Place, Llwydcoed, merch henaf Mr. William P. Davies, over- man Glofa'r Dyllast. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parchn. W. Samlet Davies, Horeb, a J. Sulgwyn Davies, Siloh. Y gwas priodas oedd Mr. Tom Evans, Lletty'rgaib, a'r llawforwyn- ion oeddynt Miss Eirwen Davies, Miss Sarah Evans, a Miss Lizbeth Buxton. Chwareuodd Mr. Benjamin James y "Wedding March (Mendel- ssohn) ar yr organ. Mwynhawyd y boreufwyd priodasol, a thraethwyd anerchiadau llongyfarchiadol i'r par dedwydd gan y gweinidogion ac ereill, pa rai a gydnabyddwyd yn siriol gan y gwr a'r wraig ieuainc yng nghartref y briodasferch. Yn y Mumbles y treuliwyd eu mis mel. Hefyd yn y Tabernacl, Aberdar, bore dydd Llun, yr 2il cyfisol, unwyd mewn glan briodas Mr. Abraham Evans, 31 Ynyswen Road, Treorchy, a Miss Elizabeth Jones, 10 Harriet Street, Trecynon, gan y Parch. J. Sulgwyn Davies. Cynwysai y cwmni priodasol :-Mri. William Richard Evans, William John Davies, John Davies, Evan S. Jones, a Richard Daniel Jones, tad y briodasferch; Miss C. Alice James, Miss R. Mary Davies, Miss M. J. Evans, a Miss Olwen Jones. Mwynhawyd y boreu- fwyd yn 10 Harriet Street. Yn Abertawe y treulia'r par dedwydd eu mel-fis. Lwc dda i'r ddau bar.
Llanelli Fawr. I
Llanelli Fawr. I Canu Poblogaidd. — Mae caneuon rhyfel a streic y Parch. T. Orchwy Bowen wedi eu codi ym mhapurau Cymru Llundain a'r Amerig, a dymunol hysbysu fod ei lyfr, "Cwpan- au'r Gwlith," yn parhau i fynd, ac fe fydd yn rhaid cael argraffiad newydd yn fuan. Ateb Galwad. Fe atebodd y Parch. D. S. Owen, B.A., Siloh (M.C.), yr alwad gafodd o Gapel Jewin, Llundain. Llwyddiant iddo yn ei faes newydd. Mynd i'r Amerig.—Cynhaliwydi cwrdd ymadawol y Parch. Joseph Evans, B.A., Siloa, nos Fawrth di- weddaf. Daeth dyrfa fawr yng nghyd, a chafodd roddion gwerth- fawr gan yr Eglwys a chan ei frodyr yn y weinidogaeth. Bugail Newydd. Dydd Mercher a Iau diweddaf ordeiniwyd y Parch. Thomas Davies, o Fala-Bangor, yn weinidog ar Fethesda, Llangennech. Llonni'r Plant. Mae eglwysi'r dre yn cofio am eu plant eleni eto fel arfer trwy gael gwibdaith. Er hynny nid ant ymhellach na Phembre, Fel- infoel, a'r Pwll. Gwell ychydig na dim. —mmmmm
Cwm Rhymni. vtiv. 15I
Cwm Rhymni. vtiv. 15 I Y mae Cymrodorion y Cwm hwn wedi darparu rhaglen gampus ar gyfer y gae- af nesaf. Gwahoddir rhai o lenorion goreu'r genedl yno. Y cadeirydd fydd y Parch. R. Gwenffrwd Hughes, Pont- lotyn.
IMountain Ash.I
I Mountain Ash. I Atebodd y Parch. R. S. Rogers, B.A., yr alwad i Gapel Gomer, Abertawe, yn olynydd i Dr. Gomer Lewis. Gwrthyd Heol y Castell, Llundain, am fod Aber- tawe yn fwy cydnaws a byd Ceridwen.
ICymer.-I
I Cymer. I Llwyddiant Cerddorol. Da gennym longyfarch Miss May Evans, A.L.C.M., ar ei llwyddiant yn ennill bathodyn arian yn Arholiad y Coleg Cerddorol Cenedlaethol ac Undeb Colegawl Athrawon Cerddorol, Llun- dain, gyda 95 o farciau allan o 100. Mae ei gallu gyda'r berdoneg yn wybyddus i'r ardal er's llawer blwydd- yn bellach, er nad yw ond ieuanc iawn, ac y mae bob amser yn barod i roddi ei gwasanaeth at bob achos. Buan y clywn eto am gam yn uwch yw dymuniad pawb yn yr ardal.
j Nodion o'r Maerdy. i
j Nodion o'r Maerdy. i I GAN MEIRIONA. j Yn Neuadd y Gweithwyr nos Iau a j nos Sadwrn, Gorffennaf y 22ain a'r 24am, cynhaliwyd dau gyngerdd mawreddog er budd Mr. T. Thomas, 19 Oxford Street, yr hwn sydd yn wael ei iechyd ers amser maith. Gwasanaethwyd gan y canlynol:- Mr. A. Glyndwr Thomas, Ynyshir; Mr. Tom Bonnell, Treorchy; Mr. J. C. Powell, Madam Clayton Jones, Maerdy, a Madam Glyndwr Thomas. Cyfeiliwyd gan Mr. Henry Jones, Maerdy, a chadeiriwyd nos Iau gan y Cynghorwr H. E. Maltby, M.E., a nos Sadwrn gan y Meddyg S. Glan- ville Morris. Gobeithio fod yr an- turiaeth yn llwyddiant er cysuro y cyfaill yn ei wendid a'i nychdod. Cynhaliodd Eglwys Sion (B.) ei gwyl de flynyddol ynghyd a chyngerdd amrywiaethol yn yr hwyr. Clywsom fwynhau trwyth y ddeilen fach werdd y waith hon eto, a'r boneddigesau ar eu goreu yn hulio y byrddau a danteithion. Yn yr hwyr cafwyd cyngerdd rhagorol. Llywyddwyd gan y Parch. Joseph Evans, gwein- idog yr eglwys. Am yr her unawd rhannwyd y wobr rhwng Mr. David Rees, Maerdy, a Miss A. Hope Evans. Am yr adroddiad agored i bob oedran, dyfarnwyd y wobr i Gwilym Hughes, Maerdy, bachgen bychan 12 oed. Y beirniad cerddorol ydoedd Mr. Gwilym Lewis, cyn-ysgolfeistr Ysgol y Cyngor, Maerdy. Methodd Mr. Henry Evans, M. E., Cilfynydd, fod yn bresennol i feirniadu yr adroddiad- au o herwydd afiechyd ei fam. Cyfeiliwyd gan Mr. Willie Moseley, organydd Sion. Melus moes eto.
Aberdar yn Derbyn. I
Aberdar yn Derbyn. I Y mae gair cymydog yn sefyll am wir- ionedd, ac am y rheswm hwn y mae'r mynegiad wynebagored a ganlyn gan breswylydd o Aberdar, uwchlaw amheu- aeth. Ebrill 22ain, 1914, dywedai Mr W. C. Ooombes, 8 Neville Terrace, gerllaw Ysgol Ganolradd y Gadlys, Aberdar: Cefais gyffyrddiad achlysurol o an- nhrefn yn yr arennau am beth amser, a'r poenau yn fy meingefn yn ami yn llym iawn. Yr oedd y gyfundrefn ddyfrol hefyd wedi effeithio arni, a'r dwfr ar adegau yn cynnwys gwaelodion grafelaidd. Ond y mae yn dda gennyf i mi gael peleni Doan at boen cefn a'r arennau yn feddyginiaeth dda. Profant yn effeithiol bob amser. Yr wyf yn awr yn hollol rydd oddiwrth y dolur, a gall- af yn ffyddiog gymeradwyo peleni Doan i eraill. (Llofnodwyd) W. C. Coombes." Mehefin 15fed, 1915-dros ddeuddeg mis yn ddiweddarach-dywedai Mr. Coombes Yr wyf yn meddwl yn uchel o beleni Doan, ac yn eu cadw yn y ty erbyn daw angen, oblegid y maent mor effeithiol. Yr wyf bob amser yn eu cymeradwyo at anhwylderau'r aren- nau. Pan mae'r arennau'n ddrwg, graddol wenwynir yr holl gorff. Dyna paham mae drwg yn yr arennau yn beth mor ddifrifol, ac mor ami yn ddiweddu'n angeuol. Y mae peleni Doan at boen cefn a'r arennau yn glanhau ac yn gwella'n dyner yr arennau, ac felly yn atal yr achos o ddolur arennau, poen cefn, gwynegon, dyfrglwyf, annhrefn dyfrol, grafel, diffrwythdra, gwendid a chysgadrwydd annaturiol. Pris 2/9 'r blwch, chwe blwch 13/9, oddiwrth yr holl fasnachwyr, neu-oddi- wrth Foster-McClellan Co., 8 Wells Street, Oxford Street, London, W. Peidiwch a gofyn am beleni at boen cefn neu'r arennau,-gofynnweh yn bendant am beleni Doan at boen cefn a'r aren- nau, yr un fath ag a gafodd Mr. Coombes.
Priodas. I
Priodas. I Golygfa brydferth a welwyd yng Ngharmel, Maesteg, Gorffennaf 28, pryd yr unwyd mewn glan briodas Mr. Llewelyn Jones, Gladstone Street, a Miss Annie Jane Evans, merch Mr a Mrs. David Evans, M. E., Llynvi Lodge, Maesteg. Gwasanaethwyd gan y Parch J. T. Parry, Zoar, Maesteg. Rhoddwyd ¡ y briodasferch ymaith gan ei thad. Yr oedd y ddau yn aelodau ffyddlon, y naill yn Zoar a'r Hall yng Ngharmel. I Llewelyn Jones a'i Annie Y dymunwn ddedwydd oes I gyd-gario croesau bywyd Ac i bleidio rhin a moes; Hoff nodweddion y gorffennol Fyddo'n amlwg ar eu gwaith, I lafurio yn y winllan Nes cyrhaeddont pen y daith. Llinyn harddwych perffaith gariad Fyddo'n cadw'r ddau ynghyd, I Heb 'run gwmwl ar eu hwybren Heb ddu nos i flino'u byd; Pan y dont i gwr yr anial, A phan ballo'u nerth yn llwyr, Bydded iddynt y pryd hwnnw Weld Goleuni yn yr hwyr." Maesteg. Z.J.
Advertising
CYMERWCH HYN YN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain pil un a ddylai Parotcud, gan ba us y mae Enw da yn ei wlad ei hue ac yn mhlith ei bobl ei hun yw mhob man, bwyso gyda chwi fd prawf o'i Werth Gwirioneddot a'i Adnoddau Iachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieithf wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim oad dirgelwch i'ch harwain? Y PWNC 0 IECHYD Y mae hyn yn fat r sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyffre- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaot hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn. neillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus anhwylderau. Mae ) QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb., sydd wedi rhoddi prawf teg idd fel y feddyginiaeth hysbysol ores er delio a'r Anwydwst yn ei JlVa. hanol ffurfiau, gan ei bod ys Barotoad sydd wedi ei barotoi ye fedrus a Quinine yn nghyd e phethau cyfoethogol a Gwaed- hurol ereill, addas i'r Afu, Treul- iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf- haol ac adnoddau giaugynyddol Y mae yn anmhrisiadwv pan ya dioddef gan Anwyd, Pneumonia neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin e wendid a lludded ar y corff. pEIDWCH 0EDI YSTYRIWCH YN A WR Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy ag,. af, ond pan yn prynu mynwch weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stainp, a'r botel, oblegid. heb hyny nid oes dim yn wirion- eddol. GWERTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN ;Iewn Potelau, 2s. gc. a 4s. 6ch. yr ua Unig Berchenogion:- QUININE BITTERS f4ANUFACTURIND COMPANY, LIMITED, LLAMELLY, Borth Walts.