Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
DYDD I All, AWST 5, 1915.…
DYDD I All, AWST 5, 1915. Arglwydd Glantawe. Magodd Cwm Tawe ddynion o fri yn feirdd, llenorion, pregethwyr, can- torion, ysgolheigion, ac mewn cyfeiriadau ereill. Ym myd masnach saif Arglwydd Glantawe gerbron y byd fel enghraifft o'r dawn cudd sydd yn y cylch yn y cyfeiriad hwnnw ond ei dynnu allan. Un 6 feibion gwerin ein gwlad oedd y gwr galluog hwn, yn Gymro o waed ac o anianawd, mewn cydym- deimlad a'i bobl, ac yn deall eu dyhe- adau a'u hanawsterau. Ganed ef yn Nhreforus ar y iofed o fai, 1835, a dirwynodd yrfa lafurus a disglair i ben ar y 27ain o Orffennaf, yn hynafgwr dan goron anrhydedd a'i wlad yn dlotach o'i golli. Gweithiwr oedd Jenkin Jenkins, ei dad. Ei fam oedd Sarah Jones, merch John Jones o Glydach, a fu farw ychydig flynyddoedd yn ol yn y Bath Villa, Treforus, wedi byw yn hen i weled ei mab yn dringo ac i gyd- lawenhau ag ef yn ei lwyddiant eith- riadol. Ni fu dim yn harddach yn hanes y pendefig hwn na'i ofal am ei fam, a'i ymdrech i felysu blynyddoedd blin ei henaint. Treuliodd hi ddiwedd ei heinioes mewn neilltuedd yn ei phlas prydferth ymhlith ei chyfoedion, gan fyw yn null syml ei hynafiaid, ac addoli yng nghapel Seion, lie bu yn aelod cyson hyd y diwedd. Magwyd Arglwydd Glantawe yn y Lamb and Flag ar y Cross, lie y lletyai gweinidogion yr adeg honno a ymwel- ai a Seion, a chyfrifid rhai o gedyrn y pulpud ymhlith cyfeillion y teulu, megis Dr. Davies, y Dyn Dall, D. Lloyd Isaac, ac ereill, a thra bu Thomas Jones, y bardd-bregethwr, yn gweinidogaethu yn Abertawe, nid oedd edmygydd mwy ohono nag efe. Bu yn Fedyddiwr yn ieuanc, yna yn Annibynnwr, ond yn niwedd ei oes aeth yn Eglwyswr. Dechreuodd ei yrfa yn y gwaith al- can, yn y Fforest Uchaf. Cafodd wybodaeth brofiadol o'r gwaith, a fu o fudd enfawr iddo yn y fasnach yn y dyfodol. Pan yn bedair ar bumtheg oed priododd Miss Margaret Rees, sef merch i Mr. Josiah Rees. Yr oedd Mr. Josiah Rees yn ddyn cefnog yn Nhreforus, a'i ddylanwad yn fawr mewn amryw gyfeiriadau. Cafodd yntau y fantais o gefnogaeth y gwr hwnnw, ac, yn ddiau, hynny fu yn foddion i'w osod ar ben y ffordd yr enwogodd ei hun arni yn ei fywyd. Pan ffurfiwyd Cwmni y Beaufort, sef y gwaith alcan sydd ym meddiant yr Aelod Seneddol presennol dros y cylch, cawn fod Mr. Josiah Rees a'i fab-yng-nghyfraith yn cymeryd rhan flaenllaw yn yr anturiaeth. Wedi hynny, ymunodd a chwmnioedd gweithfeydd alcan Cwmbwrla, Cwm- felin, a Llanelli. Yr adeg honno ad- nabyddid ef fel John Jones Jenkins, ac am gyfnod maith ni fu enw am- lycach na hwnnw ynglyn a hanes bywyd cyhoeddus Abertawe. j Collodd ei briod yn 1863, ond priododd drachefn ymhen tair blynedd a Miss Katherine Daniel, Cwmgelly. I Etholwyd ef am y waith gyntaf ar Gyngor Trefol Abertawe yn 1865, ac ymhen pedair blynedd gwnaed ef yn Faer Abertawe. Yr oedd yn Faer am yr ail waith yn y flwyddyn 1880. Yn 1882 gwnaed ef yn Farchog gan y Frenhines Victoria. Cynrychiolodd Fwrdeisdrefi Caer- j tyrddin yn y Senedd yn 188 < fel Rhyddfrydwr. Yn amser dadl yr Home Rule aeth ar ol Chamberlain, a chollodd ei sedd. Yn 1895 adenillodd ymddiriedaeth Bwrdeisdrefi Caer- fyrddin, a dychwelwyd ef i'r senedd'l Yn ddiweddarach gadawodd blaid yr Undebwyr, a dychwelodd i gorlan y j Rhyddfrydwyr. Heblaw y rhan a gymerodd yn y fasnach alcan, bu yn flaenllaw ynglyn a rheilffyrdd. Bu yn berchennog rheil- ffordd y Mumbles un adeg, ac efe fu yn gyfrifol am ei hestyn at y Pier. I Cymerodd ran yn Rheilffyrdd Mynydd- j mawr a'r Swansea Bay, ac ynglyn a datblygiad porthladd Abertawe ac I anturiaethau ereill. Derbyniodd ei arglwyddiaeth ar sail ei wasanaeth, i ond derfydd y teitl gydag ef am nad oes etifedd. i Cafodd bob anrhydedd a allsai ei ardal enedigol ei rhoddi iddo, a phrofodd ei hun yn deilwng o'i hym- ddiriedaeth. Haedda gofgolofn i goffa am dano fef un ddechreuodd weithio yn ieuanc, ond a ddringodd i enwog- rwydd yn y byd masnachol trwy ym- roddiad a phenderfyniad. Gall hynny fod o wasanaeth i symbylu ieuenctid ein cenedl i ymegnio yng nghanol manteision mwy yr oes hon, gan y dengys ei hanes nad yw dinodedd yn rhwystro neb i gyrraedd y safleoedd uchaf ond bod yn deilwng ohonynt.
COLOFN Y PLANT.
COLOFN Y PLANT. DAN OLYGIAETH MOELONA. Mae amser hir er pan gawsom ys- toriau o'r rhyfel yn y g-olofn hon. Mae digon o rai diddorol i'w cael. Pwy enfyn i ni nifer i'w cyhoeddi yma? Mae llawer o ganu hefyd am dano. A oes beirdd ieuainc ymhlith ein dar- llenwyr? Os oes, carem weld ychydig o'u gwaith. Yr wythnos hon y cynhelir prif wyl y beirdd a'r llenorion ym Mangor. Buoch bob un mewn Eisteddfod, mi wn, ond pa faint o honoch fu yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Ewch y cyfle cyntaf gaffoch. Dylai pob Cymro a Chymraes ddod yn gyfar- wydd a phrif Wyl y Cymry, ac ym- falchio ynddi. Mae yn dra gwahanol ac yn llawer rhagorach na phrif wyl- iau cenhedloedd ereill sydd yn agos i ni. Pa un fuasai oreu gennych-medru cicio pel yn dda, marchogaeth ceffyl fedrai redeg yn gyflymacb na'r un ceffyl arall, neu gyfansoddi rhyw- beth, mewn rhyddiaith, barddoniaeth, gerddoriaeth, neu unrhyw "aeth" arall a fyddai yn fendith ac yn fwyn- had i'r oesau ? Yr olaf yw amcan yr Eisteddfod. A welsoch y beirdd, yr ofyddion, a'r Derwyddon yn eu gwisgoedd Ilaesion hyd y llawr? a welsoch rwysg y cadeirio a'r coroni? A glywsoch y corau mawrion yn canu? A fuoch, wn i, yn canu yn un o gorau'r plant? Ar furiau pabell yr Eisteddfod mae nifer fawr o enwau enwogion sydd wedi marw, rhai wnaeth lawer yn eu dydd dros Gymru a thros yr Eistedd- fod, Ac wrth ddarllen eu henwau, credwn, rywsut, fod eu hysbrydoedd yno o hyd, fel o'r blaen, mewn llawn afiaeth yn yr hen wyl. Eleni bydd yno o leiaf bed war o enwau newydd- ion: Harry Evans, Marsiant, Eos Dar, ac Arlunydd Penygarn. Ofnaf fod rhai o honoch heb weld y gan fechan hon o waith Crwys-un o brif-feirdd yr Eisteddfod. Ym- ddanghosodd yn "Nhywysydd y Plant am Fehefin. Mae mis Mehefin a'r Gwcw wedi mynd am eleni eto, ond mae'r gan yn para yr un mor swynol a byw. GWCW'R RHYFEL. Gwcw annwyl, ddest ti, dywed? Rwy'n dy ddisgwyl er ys tro, Eisieu'th weld ac eisieu'th glywed Fwy nag arfer hyd y fro; Nid nad wyf yn hoffi emyn Adar Cymru per eu cainc, Ond rhyw awydd gweld aderyn Newydd ddod dros winwydd Ffrainc. Cymer at yr hen lwyn bedw Wrth yr efail ger y nant, Dwed dy stori flin o hwnnw Wrthyf fi a'r tyaid plant; Dwed, aderyn blin dy daro, Beth fu'n gwrido'th aden di? Ai'r un gawod danllyd honno Ddeifiodd Guto—f'aden i? Ffor' bu arno, gwcw ffyddlon? Ffor' bu ar fy Nguto fwyn Pan yn colli gwaed ei galon? O'et ti yno'n cyd-ymddwyn? Ac wrth weld na chanai undyn D6n Gymraeg mor loew a'i gledd, Dwed, ai ti fu'n canu'r emyn Ar ryw frigyn ger ei fedd? Dere'n nes, y gwcw ddiddan, Dere i fondo'r gadwyn aur, Fel y collwyf ddeigryn bychan Ar dy lasliw asgell glaer; A phan elot yn dy amser Tua'th wlad o gainc i gainc, Wnei di hidlo deigryn Ester Ar y bedd yng Ngogledd Ffrainc?
O'r Rhondda.I
O'r Rhondda. Llongyfarchwn Mr. David Trevor Evans, ail fab y diweddar Mr. David Evans, Manchester, ar ei waith yn ennill ei deitlau M.R.C.S., L.R.C.P., yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Pob llwydd iddo fyned rhagddo eto. Y mae Mr. a Mrs. Davies, Ffermdy, Gelli, Rhondda, yn nawddogwyr ffydd- Ion i'r eglwys. Ar eu cae hwy y cyn- haliodd Eglwys Dewi Sant ei gwyl de yr wythnos o'r blaen. Clod a glywir i'r curad gweithgar, y Parch. J. L. Phillips, B.A. Da gan y praidd oedd gweled y Ficar yn yr wyl.
Bwrdd y Golygydd.
Bwrdd y Golygydd. Gwyl y Banc.—Gorfu inni adael rhai gohebiaethau hyd yr wythnos nesaf oherwydd myned i'r wasg yn gynharach nag arfer. Cwrdd Ymadael I dwal.-Daeth nodyn diweddar i law yn hysbysu mai Miss ac nid Mrs. Jones a gafodd yr anrhegion gan Eglwys Llwynypia am ei gwasan- aeth wrth yr offeryn. Derbynied Miss. Jones ein llongyfarchiad. I dris.-Mewn ysgrif faith nas gellir mo'i chyhoeddi dywed y gohebydd hwn fod wmbredd o Germaniaid a barnu wrth eu henwau yn swydfeydd y llyw- odraeth yn awr. Diau fod "wmbredd" ohonynt yn nes atom. Gohebiaethau Barddonol. Cofied ein gohebwyr mai Brynfab sydd yn gofalu am y beirdd. Os na fyddant yn gynnil wrth ddanfon cynnyrch yr awen yma, bydd rhaid wynebu'r llys tua'r Hendra yna. Yn Ein Nesaf.—Mab y Wawr; Aws- tin; Y Fwyalchen; Modryb Nansen;. E.K.J., etc.
Y Prifardd • a'r Ysgolor T.…
Y Prifardd • a'r Ysgolor T. Gwyn Jones, M.A. CYFLWYNEDIG. Uchelwaed awen cenedl feddi di A rhamant lliw dy wlad yn wedd trwm Yng nghamp dy farddas, a'i delfryd- iaeth sydd Yn llawn delweddiad o Afallon bell; Y llygad swyn mae hiraeth cenedl friw, Yn ymbil trwy yr oesau am ei wen I ddod a'u gwaddoliadau yn ei falm Ac adfer rhyddid yn ei henaid hi. 0 ddiddim gwybod llwybraist yn dy rwysg Dros drumau cyfrin deall ter mewn dysg, Heb i ddeheufraich coleg yn ei urdd Dy noddi ar dy ymchwil, ond dy hun A ddringaist fel yr eryr ar ei lam I lethredd ysgolorion-ser y dydd, Ac angel derch dy feddwl sydd yn. frwd Yn hepgor craig am graig yn uwch o hyd. Ond ynot ti mae mwy nag awen ferth, A threch nag ysgoloriaeth wemp y byd, Mae'r dyn tragwyddol yn dy gread mawr, A syched y gwerinwr yn ei fry'd; A chri brawdoliaeth hen awenau fu Yn griddfan a'u profiadau yn eu gwaed Yn eiddo iti, a diwygiwr wyt Yn agor am weriniaeth santaidd dyn. I GWYNWAWR.
I'Tonyrefail.
Tonyrefail. Cawd gorymdaith fawreddog yn Nhonyrefail y Llun diweddaf o holl Ys- golion Sul y dre. Golygfa hapus, a hynod ddymunol oedd gweld dros bum- theg cant yn cyd-gerdded drwy'r ys- trydoedd. Arferid myned a'r plant i ffwrdd yn flynyddol, ond credwn erioed mai gwell ym mhob ystyr ydyw gweled yr enwadau yn ymuno a'u gilydd fel y tro hwn. Llongyfarchwn y pwyllgor am drefnu mor rhagorol, ac yn arbennig am was- anaeth tawel ond llwyddiannus yr ys- grifennydd, Mr Tom Griffiths. Detholwyd tonau o "Swn y Jiwbili" ac Ymdeithgan Mr J. H. Richards, y geiriau gan y Parch. T. Thomas. Mr Richards oedd yr arweinydd apwynt- iedig, a chawsom ganu gafaelgar dros ben. Gwnaeth Miss Edmunds a Mr. Thomas a Mr James help mawr gyda'r offerynnau. HEJN ATHRAW.
Penderyn.
Penderyn. Unwyd mewn glan briodas ddydd Mercher diweddaf, Gorff. 28ain, y par ieuainc Mr Harry Pones, Pontpren, a Miss Maggie Jane Thomas, Bwllfa, yng Nghapel Ramoth, Hirwaun, a'r Parch. Cefni Jones yn gweinyddu. Deallwyf fod cryn dipyn o arddangosiad ynglyn a'r briodas, ac amryw o foneddigion a, boneddigesau wedi eu gwahodd. Wedi'r ddefod basio yn y capel canwyd The Wedding -Farch ar yr organ gan Mr Abraham Watkins, G. & L., Aberdar. Ar yr achlysur fe ymfflamychodd un o'r beirdd fel yma:— Hen destun newydd ydyw Priodas yn y byd, A rhywrai sydd o'r newydd Yn uno a'r clwb o hyd; # Y ddau a unwyd heddyw Trwy fodrwy euraidd serch, Yw Harry a'i hoff Faggie, Yng ngwynfyd mab a merch. Nid breuddwyd ydyw Eden, Ac nid aeth Gwynfa ar goll; Ni wnaeth hi ddim ond newid Tenantiaid—dyna'r oil; Y par dedwyddaf welir 0 fewn terfynnau'r ardd Yw Harry a'i hoff Faggie, Fel Adda ac Efa hardd. [ D.C-
Advertising
DO YOU SUFFER FROM, EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY ? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT, VISIT. c. F. WALTERS, F.S.M.C., OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. DOWN & SONS For Good Substantial ——— Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And evapy description of House Furniture. ——————— CABINFT WORKS: 21 HIGH STREET & MORRIS LANE, SWANSEA. The Largest and Cheapest Steam Cabinet Manufactory in South Wales. Carriage Paid on all Orders above £10, Illustrated Catalogues free on application IMMENSE STOOK TO SELECT FROM or Delivered Free in our own Vans. CENTRAL HALL SWANSEA. A GRAND EISTEDDFOD will be held on SATURDAY, SEPT. 18,19T5 CHIEF CHORAL (Not under 50 in num- ber). The Sea hath its Pearls." X10 and a Roll-Top Desk to conductor of winning choir. MALE VOICE (Not under 25). "In the Sweet." X5 and Chair for conductor. CHILDREN CHOIR (Not under 35). Dewch Allan ar Delyn." First Prize .£5, Second Prize R2. Special prizes to conductors of winning choirs. PRYDDE8T: Dyro le i Hwn' (Luc 14,9) Also prizes for Duett, Recitations, ko. Programmes lid. post free. Secretary: H. Owen, 'Ddolwen,' Ystradgynlais Argraffiad Newydd o Vsgol yr Adroddwr. Gydag Ychwanegiadau. Yn barod Gorffennaf 17eg. Pris 1/- net; yn rhad drwy y post, 1/2. GEIRIADUR CYMRAEG A SAESNEG (Spurrell). Argraffiad Newydd Dan Olygiad J. BODVAN ANNWYL. 3/6 net; drwy y post, 3/10. THE SCHOLAR'S WELSH DICTIONARY Welsh-English & English-Welsh (Entirely New Dictionary.) 1/- net; yn rhad drwy y post, 1/2. WALES GILBERT STONE. Her Origin, Struggles and Later History, Institutions, etc. With 65 full page Plates. 7/6 net; yn rhad drwy y post, 7/11. YR UCHOO I'W CAEL ODDIWRTH MORGAN AND HIGGS, 18 HEATHFIELD ST., ABERTAWE. ATHROFA ABERYSTWYTH. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru.) Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREU A'R Tymor Nesaf ar Ddydd Mawrth, Hydref 5ed, 1915. Faratoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o Ysgoloriaethau (rhai o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Bydd yr arholiad yn Aberystwyth ar y 21ain o fis Medi, 1915. Am fanylion pellach, ymofyner a— J. H. DA VIES, M.A., Gofrestrydd. Y LLOFFYN ADDFED." Llyfr i Ymneilltuwyr. Dylai pob Cymro—a Sais a allo-ei adarl en. Hanes Dechreuad Ymneillduaeth yn Abertawe a'r Cylch," etc. Pris is. I'w gael gan M. G. Dawkins, Morriston, Glam. Preliminary Announcement. A COMPETITIVE CONCERT will take place at SEION (C.M.). SEVEN SISTERS On Saturday, Oct. 2, 1915. ADJUDICATORSMusic, D. VAUGHAN THOMAS, Esp., M.A., Mus. Doc., Swansea. Recitations: JAMES CLEMENT,Esq., (Alarch Ogwy) Skewen. CHAMPION SOLO (open) 3 guineas Other Solos and Recitation (open) 1 guinea each, Pianoforte Solo, Solos and Recitations for Juveniles. Convenient Train Service for Neath after Concert Programmes (lid by post) can be obtained from J. THOMAS, Pen-y-Bank, Seven Sisters D. MORRIS, 3 Bryndulais Avenue, Seven Sisters. YN BAROD. "RHOSTNAU MAES Y GAD," TELYNEGION CYSYLLTIEDIG A'R RHYFEL. YR UNIG LYFR 0'1 FATH YN Y GYMRAEG. Pris Chwe' Cheiniog, oddiwrth yr Awdur, REES REES (Teifi), 27 Cym- mer Street, Caerdydd. DYDDIADUR EISTEDDFODAU 0 BWYS. Central Hall, Abertawe, Sadwrn, Medi'r lsfad, 1915. Neuadd y Gweithwyr, Abercynon, Medi'r 20fed, 1915. Seion (C.M.), Seven Sisters, Hydref 2il, 1915. Y DARIAN. Nid Amddiffyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr nos Fawrth yn Aberdar a'r cylchoedd cymdogaethol. Cyfeirier po-b Gohebiaeth ynglyn a'r Darian i'r— GOLYGYDD, SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i r Golygydd. D.S.—Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan- aetha'r Cymdeithsau Cymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuainc i garu iaith, llenyddiaeth a delfrydau eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AEIWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir cael y Darian trwy ddos- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am lie. yr wythnos, 1s. 71c. y chwarter, 3s. 3c. yr hanner blwyddyn, a 6s. 6c. y flwyddyn. Am flaen dil, yn unig yr anfonir hi trwy'r post. Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd gyda'r post cyntaf. OS OES GENNYCH RYWBETH I'W ARGRAFFU ANFONWCH AM BRISOEDD AT Mri. THOMAS a PARRY (Cyf.), Argraffwyr a Chyhoeddwyr HEOL GAER, ABERTAWE, A Chewch Argraffwaith Glan a Destlus yn Rhad.