Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Dyffryn Tawe. | •I
Dyffryn Tawe. | • Mr. GoL ,-Digwyddwn fod ar yr Alltwen heddyw, a chlywais y newydd anymunol am fy hen gyfeilles, Miss Lizzie Lewis, Tynycae Farm, ei bod hi ar v llong Benala, yr hon sydd ar dan yn yr Indian Ocean. Rhyw dair wythnos yn ol yr oeddwn yn ei chyfarfod ymadawol, ac 'rwyn sicr na feddyliodd yr un o'r beirdd oedd yno, y buasai y fath anffawd yn digwydd iddi. Gobeithiwn y gore. Llwyddiant. Llongyfarchaf y "Llaethferch eto ar ei llwyddiant yn Seven Sisters y Sadwrn diweddaf. Adroddodd yr hen "Gomrade Jim"' yn rhagorol. Mwynheais hi yn fawr iawn. Yr oedd un bachgen ieuanc smart wedi ei hoffi gymaint nes y mynnodd ei gyrru yn ei gerbyd yn ddi- dal at ddrws ei thy, a theimlai mai braint iddo oedd gwneud hynny. Gofyniad.—Clywais fod Ysgol Sul Gymraeg yn Ystalyfera wedi ei Seis- nigeiddio bron i gyd, nis gwn ai gwir hyn. Os ydyw yn wir, trueni mawr fod yr hen Gymraeg yn marw rhwng muriau Y mneilltuaeth mewn lie mor Gymreigaidd ag Ystalyfera. Carwn yn fawr gael sicrwydd ar hyn, a chan fod Mr. Eryr Gwyddon yn ysgrifennu ei nodion ar Ystalyfera a'r cylch, efallai y gwna efe ymci}wiliad i'r mater, ac os J daw o hyd i'r Ysgol Sul y cyfeiriaf ati, bydded garediced a rhoi nodiadau arni yn ei lith nesaf, ac hefyd gofaled roi gwybod y paham y mae yr iaith Saesneg yn troi y Gym- raeg dros y drws. Gwn y gwna yr Eryr hyn gyda phleser. Marwolaeth Sydyn. Nos Lun di- weddaf gerllaw i dy Dr. Walsh, College Row, Ystradgynlais, syrth- iodd Mr. Robert Smiles, Gurnos, yn farw. Yr oedd efe yn 46ain oed. "Heart Failure oedd y dyfarniad ar y trengholiad. Gwyl De.—Wrth hedfan i fyny drwy y Dyffryn gelwais i gael te dydd Iau diweddaf yn Noddfa, Abercrave. Yr oedd y lie yn orlawn. Llwyddais er hynny i wthio fy mhig at fwrdd Mrs. Pipe. Cefais bob croeso. Sicr wyf o hyn, pe y gwybuasent yn y Noddfa taw y Fwyalchen oedd yno, ni fuasai cymaint o siarad wrth y bwrdd am bopeth, rhag ofn y buasai hi yn ei groniclo yn y "Darian." Diolch yn fawr i frawdoliaeth y Noddfa am letya angel yn ddiarwybod iddynt. Yr Eglwys.—Bum yn gwrando y Parch. W. H. Harries, B. A., B.Litt., y Sul diweddaf yn Eglwys Abercrave, a mwynheais ei bregethau yn fawr. Y Cinema.—Prynhawn dydd Iau yr oeddwn ar fy aden yn dod lawr drwy Brecon Road, Ystradgynlais, a gwelais dorf o bobl yn troi i fewn i'r Cinema am chwech o'r gloch. Holais beth oedd yn bod, a chefais ar ddeall fod Mr. John Morgan, Goruchwyliwr y Glowyr, yno yn rhoi eglurhad ar y cytundeb newydd. Euthum i fewn drwy y ffenestr, gan taw "private meeting" i'r glowyr oedd. Clywais yr eglurhad gan Mr. Morgan, ac yr oedd yn ddiddorol iawn. Y cadeirydd oedd Mr. T. Thomas. Pasiwyd y bleidlais arferol i'r Cadeirydd a'r Agent, ac hefyd i Mr. Edward Page am fenthyg y Cinema. Carwn ofyn os taw dim ond pleidlais o ddiolch oedd tal Mr. Edward Page, credaf yngwyneb ei fasnach heddyw y dylai efe gael rhywbeth mwy am roi ben- thyg y Cinema. Gwyl De.—Troais i fewn i Festri'r Eglwys wrth fynd lawr o'r Cinema gyda hen gyfeillion. Yr oedd Gwyl De fawreddog yma, ac yn wir cefais roeso calon i gael cwpanaid (wrth dalu, cofiwch). Yr oedd yma gannoedd heb law fy hun, ond digwyddwn fod gyda'r forded olaf. Gwelais amryw a adwaenwn, ond ni welodd neb y Fwvalchen. Yfodd ei the yn dawel. Siaradodd a'r Ficer, y Parch. J. Jones, B.A. Ysgydwodd law a'r Parch. W. H. Harries, B.A. Prynodd flodau gan y genethod, a ffwrdd yr aeth heb yn wybod i neb; wedi mwynhau ei hun yn biwr digynnig. Ysgol Ganol Radd Maesydderwen. —Dydd Llun diweddaf neidiais o gangen i gangen yng nghoedydd prydferth Y sgol Maesydderwen, Ystradgynlais. Yr oedd yn ddiwrnod anrhegu. Llywyddwyd gan Colonel Gough, Ynyscerdyn. Cafwyd adrodd- iad byr gan y Prif-athro, Mr. J. Wal- ter Jones, B.A., o waith yr ysgol. Anrhegwyd tyrfa fawr o enillwyr gwobrau ymhob dosbarth. Ni chefais enwau yr un o honynt, ac hefyd ni chefais fynediad helaeth i fewn, o her- wydd nad oedd "complimentary ticket" gennyf. Gobeithio' y gwna y Prif-athro J. W. Jones, B.A., gofio, am y Fwyalchen y tro nesaf. » Gwelais yn nodiadau Eryr Gwyddon rywbeth am y "boxing contest," etc. Pa beth sy'n bod? A yw y gweinidog y cyfeirir ato wedi dweyd rhywbeth na ddylai? Carwn wybod y manylion. Gofaled Eryr Gwyddon am dano ei hun, rhag ofn iddo dynnu hen Eryr arall am ei draws i blyfio tipyn arno. Credaf y gwnelai "good spar" ddaioni iddo. Rhyfedd y "boxing contests sydd i'w cael mewn byd ac mewn eglwys, ond y mae "boxing rules yn ring y byd, tra y mae gor- mod o ryddid mewn cwrdd eglwys i frawd i daro ei frawd "below or above the belt," heb ei alw i gyfrif. D'vvedwch y gwir, Mr. Golygydd, ymha le yr ydym yn byw ? Ceir "boxing contests yn y "Parlia- ment ceir "boxing contests yn y cyngherddau cystadleuol; ceir "boxing contests mewn Eisteddfodau; ceir "boxing contests" yn ein gweith- feydd, a cheir "boxing contests yng ngholofnau ein newyddiaduron, a cheir "boxing contests yn fynych iawn yn ein cyfarfodydd pregethu blynyddol. Un i guro- y Hall yw hi bron ymhob cylch. Pa bryd y tynnir y menyg oddiar ddwylaw y byd a'r eglwys. Fel y mae pethau heddyw rhaid wrthynt. Profa yr Armageddon bresennol hyn yn ddiamheuaeth.—Yr eiddoch heb fenyg, Y FWYALCHEN. onj.ia.ij.iLi.i-i J'i u. in
0 Ororau Gwlad Myrddin.
0 Ororau Gwlad Myrddin. Anadlu'n rhydd ydym ninnau bawb o honom ar derfyn yr anghydfod glofaol, a disgwyl ymlaen yn awyddus at yr adeg y derfydd y rhyfel erchyll bresennol, fel yr anadlom yn llawer mwy rhydd etc. Achos Crefydd. Hapus meddwl fod yr achos goreu yn mynd ymlaen. Yr oedd Sul wythnos i'r diweddaf yn Sul llawen a hyfryd yn hanes yr eglwys ieuanc fedyddiedig yn Ponty- berem, pryd y gwelwyd tuag ugain yn dilyn y Gwaredwr drwy ddyfroedd y bedydd. Sicr yw fod hyn yn ys- brydiaeth i'r eglwys ac i'r gweinidog, y Parch. Taliesin Williams, sydd yn llafurio yma ac ym Mhorthyrhyd er ys blynyddoedd lawer. Y Parch. D. Rhydderch, B.A., Capel Seion, wasanaethai yng Nghwrdd Blynyddol Trimsaran y Sul diweddaf. Y mae efe yn ffafryn mawr ar y Gororau. Awdur Pregeth y "Seren am yr wythnos hon yw y Parch. 0. M. Pritchard. Efe yn Ferryside er ys tro bellach, allan o'i gynefin ei hun. 0 bob un annedwydd gweinidog da i Iesu Grist heb eglwys yw hwnnw. Y mae yn gysur mawr i'n hannwyl frawd fod llawer ar hyd y Gororau yn mawrhau ei bregeth yn y "Seren," yn ogystal a'i bregethau ar hyd y Gororau lawer tro. Hyderwn y cofia eglwysi y cylch ac eglwysi mawrio-n Morgannwg am dano, a bydd yma lu yn llawenhau pan glywant fod rhyw eglwys wedi bod mor ffodus a sicrhau ei wasanaeth. 0 Benygroes i Gaerffawydd.— Dyna hanes Edgar Bowen, M.A., B. D., yr ysgolor ieuanc, y diwinydd, a'r pregethwr gobeithiol, ar ei waith yn derbyn galwad o'i goleg yn Man- ceinion i fod yn weinidog i'r ddiadell Annibynnol yn Henffordd. Y mae efe yn fab i'r bardd-bregethwr poblogaidd, y Parch. W. Bowen, Penygroes, yn un o ddisgynyddion Dafydd Bowen, Penyfai, gweinidog cynta\r Bedyddwyr yn Nhref Llanelli. Sicr fod iddo- dyfodol disglair. Neuadd Newydd. Diwrnod braf gawd yn y Tumble ar dydd agoriad y Neuadd Newydd. Y mae yn adeilad hardd a chostfawr. Hyderwn y llwydda pobol Tumble eto i gael gan y cwmni i redeg tren ar reilffordd y Mynydd Mawr. Y mae mawr angen cyfleusterau teithio ar hyd y Gororau. Colli Brawd Da.—Dyna oedd tystiolaeth pobl Cynheidre i gyd pan ddaeth y newydd trist fod William Williams, Brondinc, wedi ymadael ar fuchedd hon. Yr oedd yn gyfaill gwirioneddol; yn aelod ym Mhont- henri, ac yno y claddwyd ef yng nghanol arwyddion o alar mawr dydd Gwener, Gorff. 16eg. Gwasan- aethwyd gan y Parch. D. Bowen, Horeb. Bu William Williams yn gweithio ar ystad y Stepney am flynyddoedd meithion. Caethiwyd ef i'w dy y rhan fwvaf o'r ddwy flynedd diweddaf, ac vr oedd yn hoffi bod o "gylch y pethau a berthyn i'w Dad." Gedy weddw, un mab, a thair merch i alaru ar ei ol. GWYDION AP DON.
0 Aberdar i Drelew, Patagonia.
0 Aberdar i Drelew, Patagonia. (Parhad.) Diddorol oedd y diwrnod a dreul- 'iwyd yn y Zoo yn Palerma Gardens. Yr oedd y daith tuag yno yn bum mill- dir o ffordd, ac aed tuag yno mewn tramcar, a'r peth a'n synodd oedd leied y fare, dim ond dwy geiniog. Tybed beth feddyliai pobl Aberdar am gael mynd gyda'r car am bum milldir o ffordd am dal mor fychan; barnaf y byddai rhai am aros ynddvnt drwy'r dydd. Wedi treulio rhyw (fair awr yn y Zoo, dychwelwyd tua'r llety ar hyd 1 ffordd arall, er fod maint y ffordd yr un hyd. Son am wibdaith rad, hyd yr wyf yn cofio, ni chefais erioed y fath dreat. Heblaw hyn, cawsom olwg ar brif fannau o bwys y ddinas mewn ffordd anghyffredin o rad. Syniad pobl yn gyffredin o gael golwg ar ryfeddodau lie mawr fel hwn yw cymeryd taxi neu fwyadur, yr hyn sydd gostus iawn, ond i mi gwell myned gyda'r car. Y mae y system yma o weithio'r cars fel clockwork, a gall dyn fyned i fewn i unrhyw gar a myned 0 ajrigylcb. y ddinas am y pris isel a nodwyd. Heb ymhelaethu, daeth dydd Sadwrn, yr 31ain o Hyd., a gadawsom Beunos Aires .ar fwrdd yr Austuriano, yng nghwmni llu o deithwyr yn eu plith llawer o Saeson yn dychwelyd i rannau isaf y Cyfadir, wedi ymweled a Lloegr, Ysgotland a Chymru. Gwnaethom ffrindiau lawer ar y for- daith hon o dri diwrnod, ac er i mi anghofio crybwyll o'r blaen, am ein cyd- deithwyr ar fwrdd yr Orcoma, y llong y daethom gyda hi o Lerpwl, diolchaf am gael y fath gymdeithas ddifyr a dymunol. Treuliwyd llawer awr ddi- ddorol a buddiol tera ar fwrdd y llong olaf a nodwyd. Rhaid yw i mi gael nodi pa mor ddyledus ydym ni fel teulu i'n cyd-deithiwr ar hyd y daith, sef y Bonwr Hugh John Hughes, Peny- gelly, Trelew, genedigol o Flaenau Ffestiniog, a nai i'r diweddar Barch. William Edwards, cyn-weinidog i Eglwys Ebenezer, Aberdar. Cawsom ef yn bob help posibl. Yr oedd ei gyng- horion i ni yn werthfawr, er gwneud y daith yn gysurus a dymunol. Wedi mordaith o dri niwrnod tra ystormus daethom o'r diwedd i dueddau Porth Madryn, a chan ei bod yn rhy hwyr i fyned i fewn i'r porthladd, bwr- iasom angor am un-ar-ddeg o'r gloch nos Fawrth, y 3edd o Dachwedd, yr hyn a, fu yn siom i ni wedi dod mor agos. 4P Bore Mercher cawsom lanio yn bur fore, a ma,wr oedd ein balchder i gael cyfarfod a'n dau fab hynaf, sef Ben a Dan, ar y Pier, a'u cael yn edrych mor iach a chalonnog. Ar ein gwaith yn cerdded ar hyd y Pier, cyfarfum a'r Bonwr hawddgar a dirodres John Howell Jones, Trelew, hen Aberdar- iad, sydd yma er's 39 o flynyddau. Estynnodd i ni ei groesaw mwyaf calonnog, ac yr wyf yn falch o gael dweyd ei fod ef a'i briod ymhlith y bobl fwyaf garedig, ac edrychir i fyny atynt fel y teulu mwyaf cyfrifol yn y lie. Ond i mi gael gorffen hanes y daith, nid hiry buom wedi sicrhau pob peth yn daclus, oddiar fwrdd yr Aus- turiano cyn myned i orsaf y rheilffordd yn Madryn, a chael lunch yng Ngwesti Ross, gerllaw. Brysiwyd yn awr i ddal y tren, yr hwn oedd i fod yn non-stop nes cyrraedd Trelew. A ffwrdd a ni yng nghwmni nifer lluosog iawn o bobl gyfrifol y Wladfa, sydd y byw yn Nhre- lew, a ysgydwasent ddwylaw cynnes a ni, ac a estynasent eu croesaw mwyaf calonnog, gan ddymuno llwyddiant mawr i ni ar ein dyfodiad i'w plith. Yn eu plith teg yw crybwyll y Bonwr a'r Fonesig Evan John Roberts, Mrs. Buchall, sef merch y Mr. a Mrs. J. Howell Jones, etc. Cyrhaeddasom i Orsaf Trelew erbyn canol dydd. Yma eto yr oedd y croesaw mwyaf cynnes i ni gan lu mawr o'r trigolion. Wedi i'r plant orffen a chusanu ac wylo mewn llawenydd am ein cael yn iach i ben ein taith, yr oedd yn rhaid ein cyflwyno i'r holl gyfeillion oedd yn yr orsaf, a gallaf eich sicrhau na chafodd teulu brenhinol erioed yn Lloegr dderbyniad cynhesach na ni. Yr oedd yr ysgydwad llaw gan bawb oedd yn yr orsaf y peth mwyaf hearty ag a ges yn unman. Mae yn hyspys i ni yn awr fod yna hyspysiad yn y Drafod a'r Gwerinwr," ein dyfod i'r lie. Llawenydd gennyf gael nodi, oddiar pan gyrhaeddasom, dim ond caredigrwydd a gawsom mewn am- ryw foddau. Mae y wraig wedi cael buwch a 110 gan un teulu, par o fowls gan ddau deulu arall, teulu arall yn eu cerbydau yn galw a phwys o fenyn, a chwart o lefrith, potel o enwyn, ac ereill ffrwythau o'u gerddi. Heblaw hynny, yr ail ddydd, wedi cyrraedd yma, rhaid oedd addaw mynd am drive i fyny i'r Dyffryn, i gael golwg ar rai o'r ffermydd yng nghwmni Mr a Mrs John Howell Jones; trannoeth drive i Rawson, deg milldir oddiyma; gwa- hoddiad arall i'r Gairnan i dy Mr a Mrs W. Griffiths (cyfnither i mi yw Mrs. Griffiths), a. chyfarfuasom a'r Parch. Esay Evans, o'r Andes. Treuliwyd diwrnod braf iawn yno yn ymweled a rhai o'u plant yn eu tai eu hunain ac aed am drive am ddau ddiwrnod i fferm • Glyndu, Glynllifon, a. Glyngamwy; ac amryw engagements ereill gennym heb ei eyflawni i'w gwneud eto, a hynny oddiwrth gyfeillion lluosog ein plant, yr hyn a ymhell i brofi y parch a'r safle a enillasant yn ystod y ddwy flynedd y buont yma. Er budd ein cyfeillion mwyaf mynwesol, rhaid i mi gael nodi fod Ben, y mab hynaf, yn rhedeg dwy Cinematograph Show, un yn Nhrelew a'r llall yn y Gaiman, a llawenydd gen- nyf fod y ddau bapur Cymraeg yn can- mol mor lan a phur ydyw natur y dar- luniau a ddangosir yn y Ileoedd hyn. Y mae Dan, yr ail fab, yn bennaf fel foreman yn y grocery yn y C.M.C. Lewis Henry, ein trydydd, mewn swydd gyfrifol fel clerk ac accountant yn yr un lie. Pan gofiwch fod yr oil o'r fasnach a'i chyfrifon yn yr iaith Spaen- aidd, hawdd fydd i chwi gydlawenhau a ni fod ein plant mewn sefyllfaoedd mor bwysig. Nid oes fudiad na chyfarfod yma, nac yn Gaiman, na fydd rhaid i Ben Dar Lewis, a Dan a Lewis ei frodyr, fod ar y pwyllgorau. Llawen gennyf ydyw crybwyll i ni gael derbyn- iad mor gynnes gan Eglwys Tabernacl, Trelew, ac er mai eglwys gymysg o Fethodistiaid ac Annibynwyr ydyw, hawdd ydyw cydaddoli, a chredaf y byddwn yn ddedwydd iawn ymhlith plant a phobl yr Arglwydd yn y Wlad- fa. Yr wyf am ddiolch yn galonnog i bawb o'n cyfeillion a'n cydnabod yn Aberdar, am eu dymuniadau da i ni ar ein ymadawiad, a coeliwch fi, credaf fod eich dymuniadau oil wedi bod yn onest iawn i ni, ag yr wyf am eich sicr- hau fod bendith Duw wedi dilyn eich dymuniadau bob cam, ac yr wyf am i¡ gydnabod llaw Duw ar yr holl daith hyd yma.—Yr eiddoch, BEN LEWIS. I (Diweddar o 50 Gadlys Rd., Aberdar.) I I
Clydach.I I
Clydach. Blin gennym am farw Miss Ruth George, merch y diweddar Mr. T. George, goruwchwyliwr glofaol, bore Mercher, yn 21 mlwydd oed. Bu'n wael ei hiechyd am rai misoedd. Bu'r gladdedigaeth prynhawn dydd Gwener ym Mynwent Sant loan. I Marwolaeth arall sydd gennym i gof- nodi yw Mr. Thomas Thomas, Martin Street, dydd Gwener, Gorffennaf 9. Rhoddwyd ei lwch i orffwys y Mawrth canlynol ym Mynwent yr Eglwys Wlad- ol. Cydymdeimlir a'r teuluoedd yn eu galar. I Cynhaliwyd cyngerdd yn y Neuadd I Gyhoeddus nos Iau, gan fechgyn yr I Ysgol Ddyddiol, dan arweiniad Mr Dd. Rees, a bu'n llwyddiannus dros ben. I Aeth yr elw tuag at lyfrgell yr ysgol. Unwyd mewn priodas ddydd Iau ym Mhontardawe, Mr. Samuel Williams a Miss Gwladys John, CJydach. Ein dy- muniad yw— I Gwladys fwyn a. Sammy Boed aelwyd gynnes, glyd; A'u bywyd dan dywyniad serch Fo'n gwynnu ar ei hyd. Y Parch. D. Eurof Walters. Aber- tawe, wasaaethai yng nghyrddau han- ner-blynyddol Hebron y Sadwrn a'r I Sul diweddaf, a chaed mwynhad ac adeiladaeth yn 'ei genadwri. Llongyfarchiadau i Miss Hannah Williams a Mr. Richard Jones ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Gowerton y Sadwrn diweddaf. Y mae'r ddau hyn, bellach, yn beryglus ym myd eistedd- fodau. Cynhelir Eisteddfod Craig-cefn-parc eleni eto ym mis Medi, ac Eisteddfod Salem, Llangyfelach, yn Awst. Cyfarfu dau ddyn a'i gilydd ar yr heol yma y dydd o'r blaen, a gofynnai'r naill i'r llall, "Beth yw dim, John?" Yr hyn sydd ar ol yn y botel-yfaist ti neithiwr," ebai John. Gofaled y Tramp a Modryb Nansen na thynnont Fishtir y Cnel am eu pen- neu. Digon yw dweyd ei fod yn y V.T.C. Dyma englyn buddugol Ap Perllan- nog i'r Gwirfoddolwr," yn Eistedd- fod Pontardawe :— Un o'i fodd yn y fyddin-dyn a'i glod Yn ei gledd a'i frenin; Gedy'i hedd a'i god a'i win, A mynn gur er mwyn gwerin. Dyma englyn Ap eto i Dramp y Darian." Beth ddywed Dafydd y Crydd am dano, tybed? Llwydd i'r Tramp ei gamp wna gwympo -rhyw set Roes Satan i'w wawdio; Ac ei goes fer sy'n herio Casaf rownds cocos y fro. W.J. It.
Ar y Twr.
Ar y Twr. Barn J.J. am Wvr Treforus.— Mewn cyfarfod sefydlu yn Nhreforus sylwodd Bardd y Dre mai ei syniad am y bobl wedi byw dri mis yn eu mysg yw eu bod yn hapus. Yn hyn rhagorent ar wyr anniddig y cymoedd. Dywedai cyfeillion y Rhondda ei fod yn myned i dre'r mwg, ond credai nad oedd neb yn v lie yn gweled mwg. Ar ddiwrnod myglyd, pan alwodd sylw at y mwg, taerodd un o wyr Ile nad oedd yno fwg. Edrych y bobl ar yr haul, ac ni fynnant weled mwg. Gwelant ochr oleu bywyd, ac am hynny y maent yn ddiddig a dedwydd. Da iawn, Treforus Mwnciod Treforus a Jacs Clydach. --I)angos cneuen i wyr Treforus sydd ddigon i'w cynhyrfu. Pan gyferfydd gwyr Clydach a hwy, eithriad yw iddynt beidio cyfeirio at gneuen. Ffordd Treforus i dalu yn ol yw rhoddi tro ar nodau y Jac. Y mae hen gynnen rhwng y ddau le a'u hanes ar hyd y blynyddoedd yw cweryla. Gan bwy y mae goleu ar bwt y gynnen ? Crwys fel Beirniad.—Barn Crwys yw na ddylai bardd fod yn ddyn plaid. Byd diblaid yw ei fyd, ac felly nid oes a fynno a'r pethau sydd yn gwahanu. Gesyd y prifardd y safon yn uchel heb gofio fod traed bardd fel eiddo pobl ereill ar y ddaear. Yn wir, y mae llawer o feirdd wedi eu llyncu mor llwyr yng nghorsydd pleidrau ac ysgolion o feddwl fel nas gellir osgoi'r tawch wrth gymdeithasu a hwy. Gwelais dra. yn ol sylw o eiddo gohebydd yn y Darian i ryw fardd gynhyrch u gymaint 0 dan a brwmstan ar gyfer ypIeidiau a famai yn groes i'w eiddo ef nes tagu yng nghanol ei fwg ei hun. Pa fardd sydd nad oes delw ei blaid arno? Man Lyfrgelloedd. — Sefydliadau drud yw y rhai hyn, yn enwedig pan gofir eu hanfuddioldeb. Telir am ystafelloedd a rhyw lun ar lyfrgellydd i ddarparu papurau dyddiol, ac yehyd- ig gylchgronau, a man lyfrynnach rhataf y farchnad. Dylid gwneud Ilyfrgell yn sefvdliad addysgol, yn enwedig yr un gyhoeddus ymhob ardal. Golygwn, wrth hynny, fod ynglyn a hi ddarpariaeth i gyfarwyddo- y darllenydd. Dylid ystyried yr ardal a dethol llyfrau yn ymwneud a changhennau gwybodaeth yn dal perthynas a bywyd y lie, megis llyfrau yn traethu ar hanes y trigolion, daer- yddiaeth y cylch, llyfrau a gynhyrch- wyd gan awduron lleol, ynghyd a'r llyfrau hynny a ystyrrir yn etifedd- iaeth cenedl a dro-sglwyddwyd o oes i oes ac a ddengys Iwybrau ei hym- daith, heblaw llyfrau o fudd yn yr efrydiau a drefnir gan yr ysgolion er galluogi. ysgolheigion i fyned rhag- ddynt. Rhaid iddynt fod yn amgenach na'r hyn ydynt, oblegid y mae enw o beth yn waeth na bod heb ddim. Cymraeg eto.—Y mae Prifathro ac athrawes Ysgol Ganolraddol Cas- newydd wedi laru ar Gymraeg. Sais yw Mr. Battersby, M.A., a Saesneg yw Miss Vivian, B.A., am a wyddom ni. Barn y Prifathro yw y bydd naw o bob deg o'r bechgyn a gymer Gym- raeg yn lie Ffrangeg yn golledwyr oherwydd hynny. Fel yna, y bydd Saeson yn ymresymu. Bydd Ffrangeg yn ddifudd hollol i'r i-nwyafrif o,r plant, oddieithr y sawl fyddo yn athrawon yn y gangen honno yn y dyfodol, neu y sawl fyddo mewn swyddi He byddo'r iaith yn fanteisiol. Gellir bod vn sicr er inni vmladd ochr yn ochr a'r Ffrancwr heddyw na ddaw ei iaith byth yn bwvsicach na Chymraeg i Gvmry yng Nghymru. Ymhellach, nid yw dysgu Cymraeg yn ein hysgolion yn un anfantais i ddysgu iaith Ffrainc. Y mae yn amlwg fod un o'r ddwy iaith i fyned allan o ysgolion Casnewydd, a cha'r Saeson sydd yno benderfynu mai y Gymraeg fydd honno. Saeson, Gwyddelod, a Scotiaid sydd yn llywodraethu ein hysgolion canol- raddol heddyw, ac y mae ein Llyw- odraethwyr gwellt at eu gwasanaeth.
Advertising
MAE'R GERMANIAID FEL FFERYLL- WYR wedi dod a meddyginiaethau cyfansawdd hynod i'r maes, ond nid yw Lloegr ar ol. Ymhlith meddyginiaethau Prydeinig nid oes dim gwell na PHELENI LLYSIEUOL KERNICK. Ni honnir iddynt allu gwyrthiol, ond cå'r rhai sy'n dioddef oddiwrth ddiffyg tra id, afu drwg, croen drwg, etc., eu bod yn amhrisiadwy. Gofynnwch am beleni llys- ieuol Kernick, a gofelwch eich bod yn eu cael. Gwerthir hwy mewn blychau tin. 7jc., 131c. gan unrhyw Fferyllydd, Boots, etc.