Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Beirniadaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Beirniadaethau. EISTEDDFOD PONTARDAWE, Dydd Sadwrn, Mehefin 19eg, 1915. GAN DYFNALLT." (Parhad.) CYWYDD: "Y LLOSGFYNYDD." Daeth i law ddwsin o gywyddau. Naples.—Mae yn hwn dair neu bedair llinell wallus eu cynghanedd, a gwan hefyd yw'r gynghanedd gan mwyaf. Nid yw Naples wedi diwyllio digon o arddull y mesur cywydd. Awel yr Hwyr. Mae ganddo un linell anghywir ei chynghanedd,— "Erchyll a thanllyd wreichion dwy arall heb fod yn ogyhyd, ac un arall drachefn yn troseddu rheolau gramadeg. Y diffygion llenyddol yw coll mwyaf hwn. Etna.—Y gynghanedd yn dioddef mewn dwy linell. Mae'r cywydd yn di- oddef cryn lawer yn herwydd cliffyg cynllun clir. Min y Mor.—Amryw o linellau megys y 3edd ac ereill yn aneglur. Cymerodd y dull o gyferbynnu'r llosg-fynydd mewn dwy olygfa. 0 fewn gofod 40 llinell, gwell fuasai iddo ganu'n unig i'r myn- ydd tanllyd. Llafar Dychryn. Dechreu'n gyffredin ond yn gwella llawer wrth fynd rhagddo. Y disgrifiadol yn y rhan gyntaf yn darawiadol, ond yn yr oil o hono dioddefa'r cywydd oddiwrth anghyfartaledd. Y Brawd Llwm.—Ceir yma beth dio- falwch gyda'r atalnodi. Llinellau hwnt ac yma yn gryfion a bachog, ond nid yw wedi llwyddo i goncro ymadrodd trwsgl, a throad anhapus i ambell ffigwr a syniad. Llanc.—Nid yw'r ychydig athronyddu ar y dechreu yn ychwanegu at werth y cywydd. Gwell fuasai ymgadw at ddis- grifiad. Unwaith neu ddwy torrir ar gwrs naturiol y cywydd, nes teimlir fod ynddo ryw elf en anorffen. Braw.-Metha'r cywydd yma yn ben- naf yn ei ddewis-eiriau ar destun fel hwn. Mae yma fesur o lacrwydd yn ei arddull lenyddol, megis rhoi dau enw i'r un ferf-y naill yn blaenori a'r llall yn dilyn. Mae'r llinell fel I'r glew breswylwyr y glyn yn amhosibl. "Lief o'r Adfail.—Mae ymgais dda yn y cywydd yma i gynhyrchu ofnadwy- aeth y testun, ond gallsai fod yn fwy gochelgar gyda'i ddefnydd o air neu ddau, ac yn fwy beirniadol gydag am- bell linell draethodol. Er hyn, cywydd da yw hwn. Nemo.—Cywydd a llawer o fedr dis- grifiadol ynddo. Bu'n anhapus yn ei ddewis o ambell air, megys "br frydig," a buasai cadw at yr olygfa ar Natur yn fwy effeithiol na'r dinistr ar y dre. Ceir yma ami i linell fyw, megis, 0 gof aiff dinas gyfan." Glan Heli.— Dwy linell wannaf y cywydd rhagorol yma yw'r ddwy gyn- taf. Nid yw fel pe'n gwbl sicr pa fodd i fynegi ei feddwl weithiau. Ceir llawer o nodweddion y gwir grefftwr mewn llinellau ereill, a chedwir ni yn awyr- gylch y mynydd tan heb fod yr iaith na'r ffigyrau'n eithafol. Pentwyn.—Gallasai hwn fod yn fwy cynnil ag ambell ymadrodd trystfawr. Ond y mae yma linellau nodedig o rymus mewn cynghanedd a disgrifiad. Mae hwn yn rhagori ar y gweddill fel cyfuniad o awyrgylch iaith, awen, a dis- grifiad. Gwobrwyer Pentwyn. ENGLYN: "Y GWIRFODDOLWK." Derbyniwyd 56 o englynion. Mae yn eu plith rai yn anghywir, ereill yn gyffredin, a llawer yn wir ragorol. Ofer fyddai ceisio gwneud nodiadau arnynt bob yn un ac un. Gwnawn o honynt dri dosparth. Yn y 3ydd Dosparth y mae'r sawl sydd yn wallus eu cynghanedd, sef Milwr, Milwr Bach, Dafydd, Willie, Wmffre, Voluntas, Glyneurin. Yn yr 2il Ddosparth y mae Gwilym Eilir, French, Anti-conscript, Un ar Allor Ewyllys, Lawr a'r Caiser, Ap Tomos, Wil Bach, Cymro Dewr, Gwladwr, Royal Welsh, Welsh Guard, Teilo, M-l-r, Puncheston, Milwr, Tramp, Ar y Daith, Rhys, Bryer, Egwan, Fflam Glwadgarwch, Gwron. Dyma'r beiau amlycaf yn yr englyn- ion hyn. Disgrifiad o'r milwr sydd gan rai o honynt; mae ereill yn wan eu cynghanedd; ereill yn gyffredin eu harddull, a'r rhan fwyaf heb lwyddo i roi portread byw o'r gwrthrych. Mae yn eu plith rai wyr er hynny am dine wir y gynghanedd. Yn y Dosparth laf y mae a ganlyn: Bugler, Ar y Twr, Llais o'r Gad, Gwrol, Die y Pwyswr, Siluriad, Gwerinwr, Gomer, Padarn, Brython, Athos, Eich Ufudd Was, Sentry, Y Gadlef, Joe, Saeth yr Hen Gymry, Cam y Cledd, Plentyn Natur, Taran Rhyddid, Gelli- gron, Wele Fi, Llew o blith y lliaws, I'r Gad, Iolo Goch. Nid camp hawdd yn wir yw dewis o blith y rhai hyn. Gwyr pob un o hon- ynt yn dda, am nod angen englyn. Ac eto, y mae yma hanner dwsin yn tynnu am y dorch yn eu plith. Rhagorol ar lawer ystyr yw eiddo Y Gadlef, Joe, Gwaedd y Gwn, Gwerinwr, I'r Gad, a Cam y Cledd. Buasai'n hawdd dangos rhagoriaethau pob un o'r uchod, ond y mae naturioldeb a phortread syml, tar- awiadol, englyn Carn y Cledd yn rhoi hawl y wobr iddo. Wele'r englyn:— Un o'i fodd yn y fyddin—dyn a'i glod Yn ei gledd a'i frenin; Gedy'i hedd a'i god a'i win, A myn gur er mwyn gwerin. (I barhau.) j Cyfansoddiadau Eisteddfod Gibea, j Brynaman, y Llungwyn, Mai 24, 1915. I GAN JOHN HUGHES, CWMLLYN- I FELL. 4.—Pennill i Dafydd Francis y Gdf. (Parhad.) Deigryn Hirapth. Amlwg yw i'r bardd hwn syrthio mewn cariad a'i destun, a thuedda i ymserchu ynddo yn ormodol, mae yn gryf mewn ffeithiau byw, ami a chryno; cynnwys lawer mewn ychydig. Mae y ddau bennill olaf gan hwn eto yn rhagori ar y ddau flaenaf, nid yn wannach ond yn tueddu at gymysgu ffigyrau ac i addoli ei wrth- rych yn ormodol, megis yn y llinellau canlynol Dafydd Francis dal yn wyrddlas, i Mae penodau'i hanes ef." Anghymarus yw priodi penodau a gwyrddlesni; perthyn hwnnw i fyd natur. Yn y llinellau canlynol tuedda at ormodaeth "Gweithiwr diwyd, gof cyfarwydd, I Medrus oedd a llawdde iawn, Rhoddai'i waith i bawb foddlonrwydd, Ceid amrywiaeth ynddo'n ddawn." Os felly, efe oedd yr unig of perffaith y gwn am dano, ond beth am yr hen ddiareb, Heb ei fai heb ei eni ? Gydag eithrio ychydig feiau dibwys fel y nodwyd mae gan hwn benillion rhagor- ol, teilwng o'r gwrthrych. Er Cof.-Penillion llithrig, ystwyth, a naturiol, llawn o nodweddion goreu y gwrthrych, ymgynnyg am fod yn natur- iol, heb fod yn chwyddedig, yn gym- hedrol heb ddefnyddio gormodiaith. Nid yw yn hedeg yn uwch na rhai o'i I gyd-ymgeiswyr blaenorol, ond chwery ei edyn yn fwy rhydd, a phrawf fod yr elfen yn fwy cydnaws a'i natur. Bu- aswn yn caru gwobrwyo Deigryn Hiraeth ar gyfrif ei fanylrwydd a'i adnabyddiaeth dda o'r gwrthrych, nd rhaid rhoi y flaenoriaeth o ychydig j tro yma i Er Cof," efe yw y gore, ac y mae yn wir deilwng o'r wobr. • Ysgrif ar lawn Ymddygiad yn Nhy I Dduw." Dau anturiodd i ysgrifennu ar y tes- tun hwn, er ei fod yn destun hen a hawdd. Gallai'r mwyafrif ddweyd rhywbeth arno, a byddai eu cael i deimlo diddordeb mewn iawn ymddyg- iad yn fwy o werth nag ennill gwobr eisteddfod; ond lie mae dau, ceir cys- tadleuaeth, a geilw hyn am glorian a llinyn mesur. Y cyntaf gaiff ein sylw yw :— Sulamees.-Rhydd hwn ddeffiniad o eglwys, a phwysleisia ar brydlondeb i'r addoliad cyn dod at y testun. Pan ddaw ato, dywed fod yn flin ganddo orfod ysgrifennu ar y testun o gwbl yn yr ugeinfed ganrif, a brysia i ysgrifennu ar bethau ereill, megis diystyrrwch y bobl ieuainc, cri y gwrth-gapelwyr, y dirywiad presennol, y moddion wyth- nosol, yr Ysgol Sul, Dydd yr Arglwydd, etc., a therfyna heb roi un awgrym ar iawn-ymddygiad yn Nhy Dduw. Syn- nwn fod un mor grefyddol ei ysbryd, ac un mor ffyddlon i'r Sabbath a'r ty wedi gallu bod mor anffyddlon i'r testun, ac yntau yn gwybod y perigl o golli'r wobr. Ymgeisied eto, a chofied mai am ys- grifennu ar y testun y gwobrwyir mewn Eisteddfodau. Un Hoff o Blant.-Deehre-Lia hwn yn briodol iawn drwy roi i lawr hawliau'r ty i iawnymddygad, ond wrth ddod at ei destun, cymer yr ochr nacaol iddo, sef trin ymddygiadau anweddus yn hytrach na dangos yr iawn ymddygiad, er hyn traetha yn anuniongyrchol ar ei ei destun. Y mae ganddo frawddegau llymion, ac ymadroddion llawn gwat- wareg, megis pan ddywed: Feallai fod y brodyr hyn (sy'n cnoi myglys) yn teimlo mai ysbrydoliaeth myglys fu yn cyfansoddi y bregeth, ac y gallasai tipyn o'r un nwydd fod yn fanteisiol i'w deall a'i mwynhau." Beth bynnag am hynny (meddai) nid yw yn weddaidd gweld ambell i ddyn yn cnoi ei gul fel rhyw eidion byth a hefyd, ac yn gwlitho yr eisteddle a ffrwyth y pethau afiach. Ychydig yn anghymen yw ei ysgrif, a gallai wella llawer arni trwy ofal a sylw, ond llawn deilynga y wobr, ac efe yn ddiddadl yw y goreu. Ysgrif ar Sefyllfalr Fasnach Feddwol I yn yr Argyfwng Presennol." Daeth tair ysgrif i law yn dwyn y I ffugenwau Awel Mai, Abiah Bach, a Gwladgarwr, a gwnawn ychydig nod- iadau ar waith y tri. Awel Mai.—Ysgrif fer yw hon, ac ych- ydig o ymdroi cyn dod at y testun. Nid oes ganddo gynllun hapus, ond rhydd ffeithiau lawer am ddylanwad y ddiod, a barn enwogion am a ddylid wneud. Rhy debyg yw rhannau o honi i siaracl cyfeillach neu araith Cwrdd Dirwestol. Rhaid ei ganmol er hynny am ei ymdrech a'i lafur. Ceir amryw wallau mewn orgraff, ac nid dymunol yw arddull ei Gymraeg, ond gydag ych- ydig sylw i Ramadeg a gweithiau ein campwyr gall yn hawdd ddod yn G- reigydd a lienor da. j Abiah Bach. Ysgrifenna hwn yn llithrig ddigon, ond ychydig yn wasgar- og yw ei gyfansoddiad. Rhydd yr un ffigyrau a difynna rai o'r un dywed- iadau a Gwladgarwr," ond traetha fwy ar hanes y fasnach nag ar ei sefyllfa yn yr argyfwng presennol. Gormod o gerdded o amgylch ogylch sydd yma, heb fanylu ar nac iaith na threfn. Ceir ganddo frychau lawer ynglyn a'r treigliadau a llawer o frawddegau llipa ddigon. Er hynny, ymgais dda at ys- 1 grif, ac ol Ilawer o chwilio; yn y trefnu a'r portreadu gerbron y mae yn colli. Hwylied i feistroli iaith ac arddull well, a daw yn gystadleuwr peryglus. Gwladgarwr.—Daw hwn at y pwynt ar unwaith, a rhydd ffigyrau a ddengys faint a phwysau'r Fasnach Feddwol yn ein gwlad, a faint werir ar gyfer pob un, I a chymhara hyn mewn modd effeithiol a'r hyn gyfrennir at achosion crefyddol. Ymgeisir at gynllun: 1, Y Rhyfel a'r Fasnach; 2, Y Fasnach a'r Llywodr- aeth. Ymdrinia yn wir ddeheuig ar y ddau ben, a chynnwys ei ysgrif lawer o frawddegau byw, ac o ymadroddion swynol, ac ar y cyfan ysgrifenna yn gryf ac yn ffyddlon i'w destun, ac wedi dar- llen y ddwy olaf yn fanwl a phwyso yn ofalus yr ydym ar air a chydwybod yn cael Gwladgarwr yn rhagori, ac yn wir deilwng o'r wobr. Owmllynfell. JOHN HUGHES. I Cwmllynfell. EISTEDDFOD HERMON, PONTYGWAITH. Gwener y Groglith, 1915. I GAN W. R. PELIDROS JONES, CYMER, PORTH. Ysgrif: A Ydyw r Diafol yn Berson?" Daeth pedwar .ymgeisydd i'r gystad- leuaeth hon, a chystadleuaeth dda yw ar y cyfan. Carwn nodi ar y cychwyn nad yw safiad yr ymgeiswyr ar fater y testun, h.y., yr ateb a roddant i'r cwestiwn,—pa un ai cadarnhaol ai nacaol-i bwyso dim yng nghlorian y feirniadaeth. Fy ngwaith fydd pen- derfynnu,—nid y llwybr a gymerir, ond y rhesymau ddefnyddir, ac ansawdd y cyfansoddiad wneir, ar safbwynt yr ys- grif. Dechreuwn gyda 1. Llanc o'r Felin.—Baich ei ysgrif ef yw dadleu fod y Diafol yn person. Ond gwendid yr ysgrif yw fod yr ym- resymu yn negyddol bron o hyd. Cymer arno resymu fod y rhai geisiant wadu Personoliaeth y Diafol allan o'r Beibl yn gwneud cam mawr a dilysrwydd y Beibl, ac yn gwanhau ei awdurdod fel Datguddiad Dwyfol. Ymresymu yn gwmpasog ar dir negyddol, fel yna wna'r awdur hwn, heb roi'r un wedd bennodol ar- ei destun o gwbl. Nid yw ychwaith yn rhy sicr ar ei Gymraeg mewn mannau. 2. Biologist.—Ceir crynhodeb o'i ys- grif ef ar y tudalen olaf mewn 3 chasgliad, a dyma hwy: (1) Fod yn amhosibl i'r Diafol fod yn Berson, am ei fod yn afresymol. (2) Fod yn amhosibl i'r Diafol fod yn Berson, am nad yw yn gyfrifol am ei weithredoedd. (3) Nas gall y Diafol fod yn Berson, am mai ein chwantau a'n blysiau anianol yw'r prif ddylanwadau sydd yn ein temtio. Gwelwch ar unwaith mai gwan a lied afresymol yw'r casgliadau beth bynnag. Bid a fynno am hynny, beth am yr ysgrif ? I ddechreu, defn- yddia gryn lawer o'i..ofod i brofi person- oliaeth Diafol. 0 gymeryd y safiad hwn gwell fuasai iddo gychwyn gyda'r Diafol, a gadael Dyn a Duw'n llonydd, gan fod y naill ran yn gwanychu'r llall yn lie ei grymuso. Dadleua oddiar dir gwyddoniaeth a rhesymeg, a hynny heb fod yn gryf. Anwybydda'r Beibl bron yn hollol. Cyfyd ddarn neu ddau'n brin o hono, i ategu ei bwynt diweddaf ynglyn a'r "bIysiau a'r chwantau anianol" sydd ynom, eithr gedy ddat- ganiadau eglur eraill y Gair yn gwbl ddi-sylw, heb eu cydnabod na'u hes- bonio i ffwrdd. Tybiwn nad yw ei gasgliad o ystyr y gair "Diafol" yn gywir ychwaith. A diwedda ei ysgrif wedi difodi nid yn unig bersonoliaeth y Diafol, ond y Diafol ymhob ffurf arno, gan adael dim ond y chwantau a'r blysiau anianol" sydd ynom i esbonio drygioni a llygredigaeth y byd. Gwan yw ei ymresymiad drwy'r holl ysgrif. 3. Un Mewn Gwrthryfel. Berrach ysgrif na'r lleill yw hon. Amlwg fod yr awdur wedi darllen cryn lawer ar len- yddiaeth y testun, ac wedi crynhoi llawer o ffrwyth ei ddarllen i'w ysgrif, ond ni lwyddodd i osod ei fater yn y wisg a'r drefn ore. Ceir ganddo am- ryw frawddegau amwys a chlogyrnog. Cadarnhaol yw ei ateb i'w cwestiwn, ond gesyd ei resymau i lawr heb ddigon o ymgais at gyfanrwydd a phwynt, fel tua'r diwedd, syrthia braidd yn ddi- afael a diddiddordeb, yn lie gorffen yn gryf ac argyhoeddiadol. 4. Wil Bryan.—Nid yw yntau wedi llwyddo i ysgrifennu Cymraeg gloew a phersain. Hir a chymalog iawn yw llawer o'i frawddegau, yn enwedig ar ddechreu ei ysgrif. Ond ceir ganddo ysgrif gref a gole, o ran mater. Etyb y cwestiwn yn gadarnhaol. Cych- wyna gyda deffiniad o Bersonoliaeth, yng ngoleuni dyn, angel, a Duw. A rhagddo oddiar y cynseiliau hyn i brofi Personoliaeth y Diafol. Cyfyd ategion cryfion y Beibl ar y mater. Difynna hefyd o Goll Gwynfa Miltwn, er, i'm tyb i, y gallai fod wedi hebgor camp- waith y bardd, heb wanychu dim ar ei ysgrif, gan nad yw ffrwyth awen a chrebwyll barddonol o un pwrpas i brofi dim ar y testun. Ac eto nid yw'r dyfyniadau hyn yn drygu dim ar yr ys- grif, eithr yn ychwanegu at gyfoeth ei syniadau. Seilia ei ddadl ar ei ddeffin- iad o Bersonaliaeth, ac ar ddatguddiad y Gair Dwyfol o'r Diafol, a ch'rynhoa'r cwbl yn un cyfansoddiad cryf a da o'i ddechreu i'w ddiwedd. Saif y gystad- leuaeth rhwng Un mewn gwrthryfel a "Wil Bryan." Cyll Un Mewn Gwrthryfel yn y peth ddengys gryf- der "Wil Bryan," sef mewn cynllun a threfn, ac nid yw mater ei ysgrif yn gorbwyso'r golled, felly rhaid yw dy- farnu y wobr i Wil Bryan."

Advertising

Nodion o Abertawe.