Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Enillwyd y gadair a'r doleri yn Ffair y Byd yn San Francisco gan y Parch. J. T. Job. Dyfed gafodd cad- air Chicago.
Cwmbach.
Cwmbach. Rhoddodd Cor Gobeithlu Ebenezer, M. C., ddau berfformiad ardderchog mewn carictor o waith Mr. G. F. Root, "Snow White and the Seven Dwarfs," yn Neuadd Gyhoeddus y Gweithwyr, Cwmbach, dan arweiniad medrus y brawd ieuanc gweithgar, Mr. Gomer James, Gladstone Villa, yr hwn hefyd yw organydd yr eglwys er's rhai blwyddi bellach. Bu y ddau berfformiad yn llwyddiant hollol ym mhob gwedd. Daeth pobl lawer ynghyd ar y ddwy noson, ac fe gaw- sont eu llwyr foddloni yn y modd effeithiol y cariwyd allan y rhaglen. Dyma oedd ffrwyth misoedd o lafur diwyd, ffyddlon, ac amyneddgar yr arweinydd yn arbennig, ac ereill yn ei gynorthwyo. Llongyfarchwn hwy bob un ar lwyddiant y cyngherddau hyn-y gweithwyr amlwg a'r gweith- wyr anamlwg fel eu gilydd. Tlws odiaeth oedd y plant mewn gwisg- oedd. Yn ychwanegiad at dlysni eu can, 'roedd prydferthwch eu gwisg- oedd. Yr oedd y rhieni fel pe byddent wedi myned i gystadleuaeth mewn rhagori yn hyn o waith. Ac yr oedd trefnwyr y llwyfan wedi gofalu fod y "sceneries "a'r amgylchoedd yn cyd- weddi yn y modd mwyaf hapus a thar- awiadol. Yr oedd pob un o'r cor wedi hoelio ei lygad ar yr arweinydd, ac fe roddwyd yr ufudd-dod llwyraf iddo o'r dechreu i'r diwedd. 'Roedd yr arweinydd yn feistr ar ei waith, a'r cor yn hollol dan ei awdurdod. Hyder- wn y caiff flwyddi lawer i wasanaethu yr Arglwydd gyda plant y Gobeithlu. Nid gan bawb mae y ddawn i ddysgu plant. Swynol iawn y canwyd rhai o'r cyd-ganau gan y cor, mewn cyd- bwysedd a thonyddiaeth dda. Diddor- ol, naturiol, ac amrywiol oedd gwaith y saith corach. Gwnaethont eu rhan mor effeithiol nes tynnu ty yn gan- ddryll ar eu pennau. 'Roedd y "scene yma gyda'i gilydd y mwyaf cyfoethog o amrywiaeth, ac yn gofyn y medrusrwydd mwyaf yn yr holl lyfr. Rhoddodd yr artistes fodd- lonrwydd mawr a chyffredinol i bawb. Afraid yw nodi un allan o'u plith fel wedi rhagori. Yr oeddynt bob un yn gwneud yr "ymddiddan a'r "gan" bron i berffeithrwydd. Gwyr a gwragedd o Eglwys Ebenezer oedd- ynt i gyd. Dengys hyn fod yno ad- noddau cyfoethog mewn mwy nag un cyfeiriad. Disgwyliwn glywed eto am danynt. Y rhai gymerasant ran yn y prif gymeriadau oeddynt:- Snow White, Mrs. M. Lewis. Owen, Miss Winnie Jones. Prince, Mr. Arthur Harris. Huntsman, Mr. Willie Lloyd. Arbutus, Miss Lizzie Davies. Daffodil, Miss Mary Walters. Violet, Miss Florence Evans. Max, Mr. Willie Evans. Hans, Mr. T. E. Williams. Y cyfeilwyr oeddynt Miss Gwyneth Hughes-Jones ar y ber- doneg, a Mr. Edward Evan James ar yr organ. Gwnaethont hwy eu rhan yn ganmoladwy iawn. Disgwyliwn eu gweled yn cymeryd safle uchel ym myd y chwarae yn y dyfodol. Trefnwyr y llwyfan, Mr. Hughes- Jones a Mr. David Walters. Danghos- wyd gryn lawer o fedr gyda threfn ac amseriad y gwahanol rannau gan- ddynt hwy. Maent yn gynefin a gwaith o'r natur yna. Y cadeirwyr oeddynt Mr. John Mills, Tariannydd, Aberdar, fu nos Fercher, ac yn ab- senoldeb Mr. Roderick, Architect, Aberdar, cymerwyd ei le gan y Parch. J. Myddfai Jones. Y trysorydd yw Mr. J. H. Thomas, a'r ysgrifennydd yw Mr. Morgan Jones, Well Place. Nid rhan fechan o'r clod am lwyddiant y cyngherddau hyn sydd yn ddyledus i'r ysgrifennydd gweithgar. Mae yn llawn, trefn a phrydlondeb ac ysbryd- iaeth.
■- ——'....asp,..-Nodion o…
■- —— asp, Nodion o Gwm Nedd. Drwg iawn gennym yr wythnos hon gofnodi marwolaethau dau o'r bechgyn ieuainc mwyaf hawddgar. Ar y 2gain o Fehefin bu farw y cyfaill Ernest Walters, mab Mr. a Mrs. Benjamin Walters, Flora Villa, Ed- ward Street, yn 21 oed. Yr oedd yn ddiweddar wedi dioddef oddiwrth "in- flammation," ond wedi gwella digon i fyned i Gasnewydd i gael newid awyr, ond daeth y diwedd yn sydyn iawn. Ar yr 28ain o Fehefin bu farw David John Evans, mab Mr. a Mrs. James Evans, Dunraven Terrace, Cwmgwrach, yn 23 oed. Bu yn glaf am fisoedd lawer, a bu yn hynod o amyneddgar yn ei gystudd. Cladd- wyd ef ym Mynwent Addoldy, Glyn Nedd, prynhawn dydd Llun, pryd y gweinyddwyd gan ei weinidog, y Parch. Albert Evans, Siloh. Cydym- deilir yn fawr a'r rhieni a pherthynas- au y ddau deulu. fl Printed and Published for the Propt ietora, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street* Aberdare, in the County of Glamorcm*.
STORI-" GRIFF IFAN,"
STORI-" GRIFF IFAN," NEU BENODAU O'R HEN GWM. I PENNOD VIII. (Parhad.) Aeth Mr. Jenkyn Scriw yn ei flaen i Langeinwy ar draed gan dybied fod ganddo rywbeth a fyddai o werth i'w ddweyd yn Siop Morgan Jones-Mor- gan. Gwyddai ef am y llythyr a aeth- ai i Fodeurog a beth oedd ei amcan, ac i hyrwyddo amcan y llythyr y gal- wasai yno. Mor felus iddo ef fyddai gallu dweyd a mor felus i Morgan fyddai clywed y deuai'r deg punt o Fodeurog yn ddirwystr, a'r rhai hynny yn ddeg punt am ddim! Yr oedd hyn yn ogoneddus Nid oedd ef er hynny wedi deall yn iawn y sefyllfa yn Siop Morgan Popeth, ac fod cryn wrthdarawiad rhwng syniadau Mor- gan parthed y fforcld i wneud busnes ag eiddo ei ferch. Y ferch a ddi- gwyddodd fod yn y siop pan gyr- haeddodd Mr. Jenkyn—y ferch yr oedd Mr. Jenkyn a'i holl egni yn ceisio'r ffordd i'w chalon. Pan welodd hi tybiodd fod Rhagluniaeth wedi bod yn eithriadol garedig iddo'r diwrnod hwnnw. Yr oedd ganddo newydd da iddi Pan welodd Myfan- wy yn y siop gwenodd dros ei wyneb i gyd; cododd ei het i berffeithrwydd, ac estynodd ei law gan ofyn yn foesgar- "Good morning, Miss Jones-Mor- gan. How d'ye do?" "Beth sy'n bod heddy, Mr. Scriw?" gofynnai Myfanwy. Oh, I beg your pardon. Fi anghofio chi gwell gyda chi Cwmbrag. Shwd chi heddy," meddai Mr. Jenkyn. "Da iawn, diolch i chi. Eistedd- wch, Mr. Scriw," meddai Myfanwy yn ddigon oeraidd, ac yn hollol fel pe byddai'n rhyw gwsmer cyffredin. "Pam na gnewch chi galw fi Jenkyn, Miss Jones-Morgan?" go- fynnai Mr. Jenkyn. "Fel arall rw i wedi arfer gyda phawb, a mi fydde'n dipyn o drafferth i fi newid. Beth gymrwch chi, Mr. Scriw?" gofynnai Myfanwy. "Chi dim diall meddwl fi, Miss Jones-Morgan," meddai Mr. Jenkyn. "Na 'dw i ddim yn gwybod meddyl- ie neb, rhaid i bawb weyd yn blaen wrtho i beth fydd arno eisie," meddai Myfanwy. "I want nothing from the shop," meddai Mr. Jenkyn mewn pem- bleth. "Ma hynna'n ddigon eglur, beth bynnag, ond beth sy'n bod, odich chi'n teimlo'n dost?" gofynnai Myfanwy. "N a, na, fi'n iawd, diolch, Miss Jones-Morgan, H ond-- Ni chafodd Mr. Jenkyn orffen y frawddeg. Da y gwyddai at beth yr oedd Mr. Jenkyn yn ceisio gyrru a thorrodd ar ei draws Weles i ariod o honoch chi mor gynhyrfus, Mr. Scriw." Fi cynhyrfus meddai Mr. Jenkyn. "Ry'ch chi fel tasech chi ar y drain er pan ddethoch chi i'r siop," meddai Myfanwy. "Ma good reason am hynny. Chi achos fi cynhyrfus, meddai Mr. Jenkyn. "Dy'ch chi ddim am 'y nghyhuddo i o wneud dim i'ch cynhyrfu chi!" meddai Myfanwy. "N a, na, chi dim gwbod beth yw cariad, Miss Jones-Morgan, go- fynnai Mr. Jenkyn. "Na, wyr neb beth yw e. Glyw- soch chi am gan Ceiriog ar y cwesti- wn?" gofynnai Myfanwy. "Can ceiliog!" gofynnai Mr. Jen- kyn. "Ceiriog wedes i Mr. Scriw," meddai Myfanwy. "Beth yw hwnnw?" gofynnai Mr. Jenkyn. 11 Wel, Mr. Scriw!" meddai Myfan- wy, "ry'ch chi wedi'ch geni a'ch magu yn ardal Llangeinwy, wedi bod yn yr ysgol yn Abertawe, a wyddoch chi ddim beth yw Ceiriog!" "Nhw dim dysgu Cwmbrag yn Abertawe," meddai Mr. Jenkyn. "Mawr yw'n cwilydd nhw 'nte," meddai Myfanwy. "Chi gweyd fi beth yw Ceiriog, ynte," meddai Mr. J enkyn, gan dybied gan fod a fynnai hwnnw ryw- beth a'r cwestiwn, "Beth yw Cariad?" y gallai clywed rhagor am dano rwyddhau'r ffordd iddo yntau i wneud datganiad o'r hyn oedd yn ei galon. "Rhyw fath o aderyn o'r gwledydd pell yw Ceiriog," meddai Myfanwy, "a mae e'n canu'n swynol iawn, a chi allech feddwl mai 'Beth yw cariad? Beth yw cariad ?' yw i gan e o hyd. Ma nhw'n barnu i ryw Gymro ar ol llong-ddrylliad fynd i'r lan yn y wlad lie ma'r adar hyn, a'i fod ynte yn meddwl am rywun odd e wedi adel ar ol yn i gartre ag yn siarad a fe'i hun- an ag yn gofyn ar hyd y dydd 'Beth yw cariad?' A rodd y fath ddifrifwch yn i eirie fe nes tynnodd e sylw'r adar, a fe ddysgodd rheiny i gan e. Dyna chi'n gwbod nawr beth yw 'Ceiriog,' Mr. Scriw." "Thank you very much, Miss Jones-Morgan. I was quite ignorant of the matter," meddai Mr. Jenkyn, "ond—ond ma fi teimlo "Ble ry'ch chi wedi bod heddy, Mr. Scriw, o ddifrif. Ddethoch miwn yma am chwech o'r gloch y prynhawn, a chi wetsoch good morning a ramblo ry'ch chi byth oddar hynny, meddai Myfanwy. Edrychodd Mr. Jenkyn yn wirion. Nis gwyddai beth i'w ddweyd. Nid oedd bosibl cael pen llinyn "stori garu" gyda Myfanwy, ac i wneud y diffyg hwn i fyny tybiodd y newidiai'r pwnc, a dechreu son am yr hyn a fu ym Modeurog. "Ma gen i newydd da i chi heddy, Miss Jones-Morgan," meddai Mr. Jenkyn. Da iawn," meddai Myfanwy, "ond pam oech chi'n i gadw e mor hir?" Fi galw vn Bodeurog, llythyr wedi gneud gwaith, nhw mynd i talu dis- taw am ffenest, meddai Mr. Jenkyn. "Talu!" meddai Myfanwy, "talu am beth Ma nhw wedi talu digon am y ffenest, a geisiodd rhywun gyda chi fynd yno i moyn chwaneg?" "N a, digwydd galw, a llythyr wedi dod yno," meddai Mr. Jenkyn. "Llythyr! pa lythyr?" gofynnai Myfanwy. Wel, chi gweld—Is Mr. Jones- Morgan in?" "Pa lythyr, Mr. Scriw, rhaid i fi gal gwybod!" meddai Myfanwy. "Rhyw misunderstanding yn rhyw- le. Caf fi gweld Mr. Jones-Morgan?" gofynnai Mr. Jenkyn, gan deimlo ei fod wedi rhoi ei droed ynddi mewn rhyw fodd oedd yn anesboniadwy iddo, oblegid yr oedd llygaid Myfan- wy yn gwreichioni. "Ma nhad yn y ty, cerwch ato, a dewch yma ata i'ch dou," meddai Myfanwy, ac agorodd v drws i Mr. Jenkyn fynd i'r ty. "Cariad, yn wir," ymsoniai Myfan- wy, bydded cyn hawsed dirnad am wyndra pur mwn simdde a dychmygu am ddim tebig i gariad yng nghalon hwnna. Ond be sy gan 'y nhad mwn llaw nawr? Odi e'n treio cymryd man- tes ar ddiniweidrwydd Siemi, Bodeu- rog? Ma, Mr. Scriw'n suwr o fod wedi gollwng rhyw gath o'r cwdyn." (I barhau.)
Newydd ion.
Newydd ion. Bu farw Mr. Thomas Morgan, o Lansadwrn, yn 96 oed. Yr oedd yn ewythyr i Mrs. Morgans, priod y Parch. J. Morgans, Aberdar. Pwy oedd y bradwyr? ebe Llewelyn Williams yn y Senedd, pan briodolid y streic ddiweddaf i fradwriaeth y gweithwyr a aeth ar streic, neu'r meistri a'u gorfododd? Dyna ergyd yn ei le. Drwg gennym farw Mr. J. T. Jones (Rhonddafab), Pontygwaith. Brodor o Aberdar oedd efe. Yr oedd yn Eisteddfodwr brwd, ac yn flaen- llaw efo'r canu. Efe oedd codwr canu Ebenezer. Chwaer Syr Marchant Williams oedd Mrs. Harris, Glan Road, Aber- dar, a fu farw yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn aelod yn Carmel (M.C.), a bydd yno golled fawr ar ei hoi. Ei mab yw Mr. Marchant Harris, y cyfreithiwr. Yn Sasiwn y Methodistiaid yn Nhre- garon yr wythnos ddiweddaf cyhuddai Dr. Cynddylan Jones y Presbyteriaid Saesneg o ladrata gweinidogion trwy eu derbyn heb ymgynghori a'r Corff na gofyn am lythyrau. Y diweddaf o ddynion ieuainc dysgedig y Methodistiaid i fyned drosodd yw'r Parch. D. T. Davies, M.A., B.D., Casnewydd. Ni ddylid ei feio oblegid diau y gwyr y Sais yn well na Chymro sut i barchii yr ysgol- haig-bregethwr. A chwaneg o bob 'enwad, a gwell hynny na llwgu yng Nghymru. Y mae'r merched yn bygwth myned a'r gwaith o gludo llythyrau oddiar y dynion. Gobeithio y byddant yn barod i ymneilltuo pan ddaw'r dynion yn ol. Rhoddodd Dr. Williams, y Drin, Abergwaun, £ 1,000 at Gronfa Gyn- haliol y Weinidogaeth i enwad y Methodistiaid.
Trecynon.I
Trecynon. I Wele'r enillwyr yn Prize Drawing James Williams, Trecynon, Gorff. 31, 1915 :-2917, 2024, 1061, 711, 2125 754, 2128, 5021, 2733, 3602, 2370, 4981, 4221, 5932. Disgwylir i'r enillwyr gyrchu eu gwobrwyon o hyn i Awst 7fed, 1915, o bellaf.—J. R. Evans, G. ac L., Ysgrifennydd Cynnorthwyol, Iestyn Street, Tre- cynon.
Colofn -y .Beirdd.
Colofn y Beirdd. Cyfeiried ein cyfeillion bardaol eu cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. "Llygad Cynon." Englynion medrus, er fod un llinell fergoes ynddynt. Gadawyd hi yn llonydd rhag anafu y gynghanedd bert sydd ynddi. Mae dau air wedi eu gadael allan yn niwedd y chweched englyn, ond mae y gynghanedd yn dweyd wrthyf beth ydynt. Diolch, gyfaill, nid yn ami y ceir cystal gwaith ar y bwrdd. "Y Gwanwyn," "Y Dyffryn. Dwy delyneg bert gan y diweddar Dewi Alaw yn ei fan goreu. Bydd yn dda gan y beirdd a'r cerddorion ddeall ein bod yn bwriadu codi cof- golofn i'r hen batriarch amryddawn. Bydd hen batriarch arall—Gwyn- -gyll Hughes—yn ddiolchgar am y rodd leiaf tuag at gael yr amcan i ben yn llwyddiannus. "Hanner gair i gall. "Y Gwanwyn. "—Englyn rhagorol. Deil ei wyrddlesni o dan haul tanbaid yr haf. "Belgium Fach. "—Can amserol iawn. Maddeuwch i mi am newid ychydig ar y pennawd. "Mae lief a gwaedd," etc.—Can ragorol. Yr ydych wedi cael rhyw ysprydoliaeth adnewyddol wedi croesi ffin yr addewid. "Penillion Telyn. "—Llithrig dros ben. Mae ergyd ym mhob pennill. Dylid cael rhagor o bethau fel hyn i ddeffro y werin o'i thrwmgwsg, a chael y canu gyda'r tannau yn ol i aelwydydd Cymru, yn lie yr oernadu a'r rhygnu a glywir yn rhy ami. "Y Suddiad. "—Amserol iawn, ond buasai mwy o ddefnyddiau ffrwydrol yn gwneud y gerdd yn well. "Hudoliaeth yr Haf. "—Da iawn. Yr ydych yn dod yn feistr ar eich gwaith. Daliwch ym mlaen. "Bwthyn fy Mamgu. "—Addawol ddigon. "Ymson adar gwlad yr Ellmyn.— Newydd ac amserol, fel mae gwaethaf y modd. Diolch yn fawr am eich ffyddlondeb awenyddol. I'r Swyddfa.—Gwilym, Tawenog, D. S. Williams, W. LI., Murmurydd, Gwyndaf Elian, Y Dryw.
I PAWB I GYNHYRCHU.
PAWB I GYNHYRCHU. Mae bellach yn hen bryd I bawb i ddeffro, A gweled drwy'r holl fyd Pwy ddylem bleidio; Rhoi troed ar segur wyr Sy'n difa'n brasder, Cael deddfau gwell i'n tir Ar sail cyfiawder. Mae'n bryd ini drwy'r byd Yn gyffredinol I fwrw'n pennau 'nghyd Ar faes llafurol; Cael pawb i wneud eu rhan At eu cynhaliaeth, Llafurwyr fo 'mhob man Heb un gwahaniaeth. Nid teg i berchen gwaith Ddod yn filiwnydd, Tra ereill, dyna'r ffaith, Lafuria beunydd; Os elw fydd yn dod, Dyledswydd cofio Pwy ddylai gario'r god Ond sawl fu'n gweithio 1 O'r dosbarth dioglyd, cryf, Mae myrdd yn segur, Y'nt lawer mwy eu rhif Na meibion llafur Os am gael byd i drefn Rhaid cydymffurfio, Gwialen rhowch ar gefn Pawb na fo'n gweithio. Daw felly'n hyfryd ddydd Ar holl lafurwyr. Cyhoeddi: Mwy ni bydd Mewn byd segurwyr Dim angen pryd o fwyd, A llai o chwysu, Ein byd heb wyneb llwyd, Pawb yn cynhyrchu. Bronll .wyn, Gelli. MURMURYDD. Bronllwyn, Gelli. MURMURYDD.
Ferndale. I
Ferndale. Ordeinio Gweinidog. Cynhali- wyd cyfres o gyfarfodydd gan Eglwys Salem Newydd ar yr achlysur pwysig hwn, sef ordeinio y gwr ieuanc, Mr. Gwilyjn Owen, B.A., myfyriwr o Goleg Bala-Bangor, yn weinidog. Dechreuwyd y gyfres nos Sadwrn, Gorff. 24ain, pryd y pregethwyd gan y Prif-athro Silas Morris, M.A., Bangor. Bore Sul, am 10.30, gan Gwili, Amanford; am 2 o'r gloch gan y Prifathro Silas Morris, ac am 6 yr hwyr gan Parch. Cefni Jones, Hirwaun. Am 2 o'r gloch ddydd Llun y cymerodd yr ordeinio le dan lywyddiaeth y Parch. T. Humphreys, gweinidog Nazareth, Blaenllechau. Wele drefn y cyfarfod :—Darllen a gweddio gan y Parch. D. C. Jones, Penygraig; tystiolaeth Mr. Gwilym Owen yn y rhagolwg ar ei waith; cyflwyno yr alwad gan Mr. T. John, yr ysgrifennydd, a'r atebiad gan Mr. Owen; yr urdd weddi gan Dr. MortTs, Treorci; siars i'r gweinidog gan y Prifathro Silas Morris; siars i'r eglwys gan y Parch. Cefni Jones. Anerchiadau: Ar ran Eglwys Salem Newydd gan Mr. D. Davies, Fern- dale, ac ar ran Eglwys Siloa, Pen- deryn, lie codwyd Mr. Owen, gan Dewi Cynon; ar ran myfyrwyr Coleg Bala-Bangor, Mr. H. E. Jones, a chaed gair o'i hanes yn Ysgol y Gwyn- fryn cyn myned i Fangor gan Gwili. Yn dilyn cawd anerchiad barddonol pwrpasol gan Mr. Thomas Drew (Y Dryw), Tylorstown. Fel y gwyddys mai un o fechgyn Penderyn yw yn- tau, a naturiol oedd iddo longyfarch y gwr ieuanc yn ei faes newydd. Bydded i'r eglwys a phawb o ran hynny broffesant Gristnogaeth a wrandawai bregeth y Parch. Cefni Jones gofio y cynghorion difrifol a roddodd ac ymdrechu eu cario allan yn eu bywyd. Terfynwyd y cyfarfod ardderchog hwn trwy weddi gan y Parch. J. Evans, Maerdy. Nis gallwn orffen hyn o linellau heb ddatgan ein teimlad tuag at y gweinidog ieuanc yn y dyfodol. Boed enw Gwilym Owen Yn enwog iawn o hyd, Ac amlwg wedi gorffen Ei waith ar faes y byd; Diwedded fywyd addas Fel Cristion yn ddifraw, A glanied yn ei urddas Ar lannau'r byd a ddaw. PENDERYN.
IY Tridwr. I
I Y Tridwr. I GAN DDEWI AUR. I Ffei Lianwrtyd I I Wele ardal gynefin John Penri, Kils- by, a John Thomas y Cymro cerddgar, a beirniad enwog ym myd y gan er's hanner canrif a erys ar dir y byw yn dirf ac iraidd hyd yr awrhon; ie'r ardal y cyrcha'r Archdderwydd Dyfed yn fynych, mynych, i adnewyddu ei nerth, heb yr un llyfr na phapur Cymraeg ar faelfa o gwbl o'i mewn. Ie, Mr. Gol., er syndod i ami ymwelydd heb Y Dar- ian yno pe cynhygid ei phwysau mewn aur am dani fel yr hysbyswyd dro yn ol gan Ohebydd Trebannos. Cymry yw'r trigolion, ond Cymry shiprys os na ddarllenant Gymraeg a chefnogi llen- yddiaeth eu cenedl. Croeso gwael i ym- welwyr Cymroaidd o'r cymoedd, Ym- neilltuwyr a gwerin y wlad, yw ei syr- ffetu ar arlwy y Saeson yn lie eiddo'r Wasg Gymraeg a'r Darian," prif newyddiadur y Deheudir. Onid da fyddai cael Cymdeithas Gymraeg yno i gadw'r Cymry yn fyw i symudiadau eu cenedl ac i drefnu cyfarfodydd Cym- raeg, darlith, eisteddfod, neu gyfarfod- ydd Cymraeg ereill ar gyfer y Cymry a ddaw yno er ail ennyn sel y rhai claiar ac agor llygaid y Dicshondafyddion fel y dychwelont i'w cartrefi yn deilwng o'u cenedl1 Deffrowch, Lanwrtyaid! Tannau Bore. I Llyfr bychan cryno yw hwn yn cyn- nwys gwaith barddonol Wil Hopkin, Godre'r Graig, Cwmtawe. Mae ynddo dros hanner cant o ddamau byrion, di- ddorol, ac addysgiadol, mewn iaith lan ac yspryd crefyddol. Y mae yma ddarnau llawn o amrywiaeth telynegol, awen, a phrofiad bardd gwerin. Car- aswn ddifynnu ohono, ond gwn fod eich gofod yn brin. Cystal a hynny fydd hysbysu fod yr ail fil yn y farchnad. Ei bris yw chwe cheiniog. Hwyl i Wil i gael ei wala, 0 awen deg ei dannau da. Ymdaith yr Ysgolion Sul. I Aeth yr Ysgolion Sul trwy heolydd y lie, Gorffennaf yr 8fed. Yr oedd yr olygfa yn brydferth, ac yn deliwnit o'r pedair eglwys. Wele gyfrif o'r gwa- hanol ysgolion :Wesley Saesneg, 220; festri fechan sydd ganddynt hwy, ond denant blant fel y gwna, y Saeson yn gyffredin trwy arddangosiadau a'r un- rhyw dras gan eu colli yr un mor gyflym ag y'u casglant. Nazareth (M.C.), 200; Beulah (B.), 200; yr Eglwys,-92; Annibynwyr, 230. Dangosai Ysgolion y Cymry well graen, a phrofent eu bod yn gallu cadw a meithrin deiliaid yr Ysgol Sul yn eu crefydd. Wedi gwledd o de caed cae i chwarae gan Mr Edmunds, Ty Isaf; a derbynied ein diolch cynnes am ei garedigrwydd.