Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"Y DARIAN" FEL CYFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFOOAU. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn L. ddiweddar oddiwrth Ysgrifen- yddion Eisteddfodau a roddasent Hysbysiad yn y Darian eleni, am y tro cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu tro cyntaf y at y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- iad ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu Heisteddfodau. I:
Advertising
SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.— Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, yBfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, 1/11 a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DA VIES, Chemist, MACHYN- LLETH.
CWRS Y RHYFEL.
CWRS Y RHYFEL. CWYMP WARSAW-BETH WEDYN? YMHA LE Y TERY GERMANI? TWR BABEL A'R RHYFEL. jGWERTH YSGRIFAU'R "DARIAN." GWN MAWR DUNKIRK. GAN BERIAH. Cymry yn y Rhyfel. Trwy garedigrwydd Golygydd "Y Darian," papur Gweithwyr y De, yn yr hwn yr ymddengys yr ysgrifau hyn ar Gwrs y Rhyfel," galluogir fi i ddyfynu a ganlyn o lythyr a dderbyniodd efe .oddiwrth filwr Cymreig o faes y gad yn Ffrainc. Mr D. D. Jones yw y milwr hwn mae yn lienor gwych, a chafodd yr anrhydedd o gael ei enwi yn "dispatch" ,diweddaf Syr John French am y gwaith rhagorol a wnaeth efe yn y Rhyfel. Llawenydd mawr i mi yw deall fod yr ysgrifau hyn yn cael eu darllen gyda bias a budd gan filwyr Cymru yn y ffosydd ar y Cyfandir, a'u bod yn ad- lewyrchu teimlad y fyddin yn fwy cywir nag a wna'r papurau dyddiol. Dywed Mr. D. D. Jones:—" Mae y Fyddin Brydeinig wedi bod yn ddiwyd yn casglu nerth, fel y bo yn fearod pan ddaw 'y dydd!' Nid gwaith cysurlawn yw darllen papurau Llundain yn ddi- weddar. Mae bron yr oil o honynt yn canu yn y lleddf. Os bydd yna nodyn lion, o faes y gad y daeth fel rheol. LIonder sydd yma heb eithriad, oblegid ni fu yspryd y Fyddin erioed yn uwch. Mae pob milwr ar ei oreu, ac yn teimlo ei fod yn gwneud rhywbeth. Y bobl fwyaf lleddf beddyw yw y rhai hynny gartref nad ydynt eto wedi dysgu trin ond un arf-y tafod. Lie bynnag y trown ein llygaid ni welwn ond ar- wyddion difrod a than, fel pe bae cor- wynt o'r pydew diwaelod wedi chwythu dinystr dros y lie. Trwy gymorth y periscope gallwn edrych yn ddiberygl dros ymyl y trench i gyfeiriad y gelyn. Mae miloedd wedi gwneud bywyd y trenches yn fywyd hapus. Clywn ambell fwled yn chwibanu uwch ein pen- nau, ac ambell i belen ffrwydrol yn rhuo drwy yr awyr. Gwaith unrhyw- iog a blinedig yw bod ar wyliadwriaeth yn y 'trenches' awr ar ol awr, ddydd a nos. Daw drosom awydd gwybod rhywbeth o helynt y byd mawr agored. Felly mynwn afael yn y newyddiadur diweddaf a ddaeth i law, a thrown i ogof ddiogel yn ochr y 'trench' i ddarllen 'Cwrs y Rhyfel gan Beriah.' Dichon fod eraill heblaw D. D. Jones yn cael cysur a mwynhad yn y ffosydd draw wrth ddarllen yr ysgrifau hyn. Duw a'u hamddiffyno! Gwn Mawr Dunkirk. Yn yr Eisteddfod ym Mangor ceisiodd un o'n Beirdd Cadeiriol mwyaf adna- D ar- byddus gennyf osod nodyn yn y "Dar- ian" yr wythnos hon yn egluro dirgel- weh y gwn mawr sydd wedi bod yn tanio o wersyll Germani ar Dunkirk, 20 mill- tir o bellter. Ebe'r cyfaill:— Bwriwch fod y Germaniaid yn gallu <cyrraedd i gyffiniau glan y mor yn "Ffrainc a'r gynnau mawr hyn ganddynt. Beth fuasai'r canlyniad Dro yn ol aeth llongau rhyfel Prydain yn ddigon ,agos i'r lan i danio ar fyddin Germani. Yr oedd cyflegrau'r llongau rhyfel yn saethu ymhellach na'r gynnau oedd gan y Germaniaid y pryd hwnnw. Ond sut buasai hi yn awr gyda'r gwn mawr yma ? A feiddiau llongau rhyfel ddod yn -ddigon agos i rwystro byddin Germani ar y tir gerllaw y mQr" Dyna gwestiwn sydd, o bosibl, yn blino meddyliau rhai heblaw y Cadeir- fardd hwn. Ceisiaf ateb :— Nid yw yn debyg y gwna bodolaeth y gynnau mawr sydd yn gallu saethu pelenni dros 20 milltir o ffordd nemawr ddim gwahaniaeth i longau rhyfel Prydain rhagor nag a wnaeth y yiegrau llai oedd gan Germani o'r blaen. Gwyr pob saethwr ei bod yn fwy an- hawdd taro a bwled pan yn saethu os bydd y gwrthrych yr anelir ato yn symud. Dyna anhawster y sudd-longau. Os bydd Hong yn symud yn gyflym an- "amI iawn y medrai ei tharo a torpedo os na bydd y sudd-long yn agos iawn ati. Pe bae'r llong rhyfel yn aros yn ei hauafau rhwydd fuasai ei tharo gan y gwn mawr ar y tir neu gan y sudd-long yn y dyfnder. Eithr nid felly os bydd hi yn symud yn gyflym ac yn newid ei chyfeiriad yn ami. Ar y llaw arall gwaith cymharol hawdd a fyddai i'r Hong rhyfel er ei hun ym morio yn gyflym, i daro gwrth- rych sefydlog ar y tir. Mae dyfais ddi- weddar wedi galluogi ein morwyr i wybod cyn tanio ymha le, o fewn ych- ydig iawn o lathenni, y disgynna'r belen a danir oddiar y Ilong. Drwy y, ddyfais hon gellir bod yn ymarferol sicr y gellir cael y fwled i daro yn yr un man bob tro pa un ai morio yn araf ai yn gyflym a fydd y llong, a pha un bynnag ai agos ai pell a fyddo'r gwrthrych, a gellir newid cyfeiriad taith y llong mor ami ag y mynnir heb ddyrysu ddim ar gwir- deb y man lle y disgyna'r belen. Beth am Warsaw? Mae yr hyn a ysgrifennwyd yn y llythyr yr wythnos ddiweddaf ynglyn a Warsaw wedi cael ei wireddu. Ceisio ennill y ddwy rheilffordd, y naill i'r gog- ledd a'r Hall i'r deheu o Warsaw y mae Byddinoedd Germani. Er pan ysgrif- ennwyd y llythyr diweddaf enillodd Mackensen ran o reilffordd sy'n rhedeg o Warsaw drwy Lublin a Cholen. Pan ddaeth y newydd gwanhaodd gobaith llu. Credent fod tynged Warsaw wedi cael ei selio, a disgwylient bob dydd glywed y newydd trist fod Warsaw wedi cwympo. Oroesodd Mackensen y rheilffordd rhwng Lublin a Cholen,—ond methodd er pob ymdrech, fyned ymhellach. Trodd y Rwsiaid arno yno, ac ar waeth- af pob ymdrech gal6d a beiddgar o'i eiddo, rhwystrasant ef i fyned ymlaen. Rhywbeth tebyg a fu gyda rheilffordd y gogledd, o Warsaw i Bielostock. Nid yw'r Germaniaid wedi cyrraedd o fewn 20 milltir i'r rheilffordd honno hyd yn hyn. Yn wir gyrrwyd eu byddinoedd yn ol mewn rhai mannau liwysig, gyda cholledion dirfawr, ar ol tridiau o ym- ladd caled iawn. Dywedir fod un fyddin gyfan o Germaniaid wedi cael ei llwyr orchfygu. Yn awr golyga hyn un o ddau beth, sef:— 1. Mae yr Archdduc Niclas yn ym- ladd yn gáled i ddal y Germaniaid yn I ol tra caffo yntau gyfle ac amser i symud corff mawr ei fyddin a'i holl gyfarpar o Warsaw i le mwy ddiogel;, neu 2. Mae wedi penderfynu sefyll yn Warsaw ac ymladd yno hyd farw. Os hyn a wna rhaid ei fod yn teimlo yn ber- ffaith hyderus am y canlyniad, canys nid gwr i ymladd brwydr ddiobaith yw Niclas. Gan nad pa un bynnag o'r ddau beth hyn sydd wir, argoela yn ddrwg ar Germani a'i hamcanion uniongyrchol. Cwymp Warsaw—Beth Wedyn? Wedi ysgrifennu yr uchod daeth y newydd fod y Germaniaid wedi ey- meryd meddiant o Warsaw." Sylwer ar y geiriad, canys y mae yn bwysig. Nid yw yn dweyd, nac yn golygu fod yna frwydro mawr wedi bod nac yn y dref nac yn ei chyffiniau agos. Profa hyn mai y cyntaf o'r ddau beth a nodwyd uchod oedd ym mryd. yr Archdduc Niclas i'w wneud wrth ymladd mor galed yn erbyn Mackensen wedi i hwnnw groesi rheil- ffordd Cholen. Ennill amser ydoedd yr Archdduc er mwyn medru symud ei fil- wyr a'i gyfarpar o Warsaw ar darn tir trionglog y soniwyd am dano, i le mwy diogel. Ymddengys yn dra thebyg y bydd wedi llwyddo i wneuthur hynny cyn y delo yr ysgrif hon i law'r darllen- ydd. Cyfrifir y cymerai iddo bythef- nos i encilio ei filwyr a'u cyfarpar i'r man penodedig. Pan yn ysgrifennu hyn o lith y mae wythnos o'r pythefnos hynny wedi pasio, a'r Germaniaid, er eu holl ymdrech yn cael eu dal yn ol. Mae Byddin Rwsia wedi encilio oil o Warsaw, ac ar ei ffordd i ddiogelwch. Pan aeth y Germaniaid i'r ddinas caw- sant mai cregyn gwag oedd yn y sach iddynt-dim carcharorion, dim yspail. Ond er mor foddhaol hynny, rhaid cydnabod mai ergyd trwm i Rwsia ac i ninnau oedd colli Warsaw. Golyga, fel y dywedodd Mr. Lloyd George yn yr Eisteddfod, gosod mwy o faich ar ys- gwyddau Prydain. Golyga hefyd bar- had oes y rhyfel am rai misoedd o leiaf yn hwy nag a fuasai yn debyg o barhau I oni bae hynny. Ceisiaf ddychwelyd yr wythnos nesaf eto at ganlyniadau posibl cwymp Warsaw. Yn y cyfamser anog- af y darllenydd i ystyried ac astudio yn ofalus yr hyn a geir yn y paragraff nesaf. Ymha Le y Tery Germani Nesaf? Cwestiwn arall a ofynir yn ami y dyddiau hyn yw: Ymha le y tery Ger-, mani nesaf ? Cwestiwn sy'n blino llawer yw. Mewn dychymyg gwelant Warsaw wedi cwympo, a Byddin fawr Rwsia wedi cael ei chornelu, neu ei gwneud yn ddiniwed, a channoedd o filoedd o filwyr Germani yn rhydd i ddod yn ol i'r gorllewin, i ruthro drwy ein Byddin ni yn Ffrainc; i feddiannu Calais a'r arfordir; ac oddiyno i ym- osod ar longau a glannau Lloegr. Pobl rhwydd eu dychrynu gan fwgan- od o'u creadigaeth hwy eu hunain yw'r bobl hyn. Nodaf ychydig ffeithiau syml i symud eu hofnau a'u pryderon. Ceisiodd Germani wneud y rhuthr ym mis Hydref llynedd. Y pryd hwnnw yr oedd gan y Caisar fwy o nerth mewn dynion ac mewn cyflegrau mewn cym- hariaeth i nerth byddinoedd Prydain a Ffrainc nag y sydd ganddo yn awl"; Os methodd y pryd hwnnw, pa obaith sydd ganddo y llwydda yn awr pan mae byddinoedd Ffrainc a Phrydain mewn cymhariaeth yn gryfach na'i eiddo ef ? Dyledswydd ac amcan cyntaf pob maeslywydd yw cymeryd rhagofal am y man lie mae'r perygl yn fwyaf. Nid yn Ffrainc y mae hynny ar hyn o bryd. Mae llawer mwy o berigl i Germani o'r Eidal ar hyn o bryd nag sydd iddi yn Ffrainc. Os gweithia Byddin yr Eidal ei ffordd ymlaen ychydig eto bydd y perigl i Germani drwy Awstria yn ddi- frifol. Ynfydrwydd fuasai gwastraffu nerth i ymosod aroom '1 yn Ffrainc a gadael drws y cefn yn agored i Fyddin yr Eidal. Ond mae perigl mwy i Germani na hyd yn oed yr Eidal. Y perigl mwyaf i Germani heddyw yw y Dardanels. Pe syrthiai Warsaw i ddwylo'r Caisar yfory, a phe enillem ninnau'r Dardanels trajioeth byddai ennill Warsaw yn holl01 ddifudd iddo. Mae ennill y Dardanels yn golygu Cwymp Caer Cystenyn. Pan syrthia Caer Cystenyn rhaid i Bwl- garia a Rwmania ymuno a ni. Eu rhwystro i wneud hynny yw un amcan mawr yr ymosodiad presennol ar War- saw. Heblaw hynny bydd ennill y Dar- danels yn golygu arfogi miliynau eraill milwyr Rwsia yn erbyn Germani. Os ca'r Caisar filwyr yn rhydd i ymosod yn rhywle heblaw ar Rwsia, tua'r Dardan- els y try ei wyneb gyntaf, ac yna tua'r Eidal, cyn troi at Ffrainc. Brwydro Ynghysgod Twr Babel! Mae Byddinoedd Prydain wedi bod yn ymladd ynghysgod Twr Babel! Ar y Ilecyn lie y cymysgwyd yr ieithoedd gyntaf, gyrrodd gwyr Prydain "fyddin- oedd yr estroniaid i gilio." Mae yr hanes yn ddiddorol ac yn llawn swyn. Fe gofir fod Byddin Brydeinig o'r India wedi glanio ym Mesopotamia Isaf gan ymosod ar Fyddin y Twrc yno. Y wlad rhwng yr Afonydd Euphrates a Tigris, meddir, yw heddyw yr hyn a elwid yn Ardd Eden yn nydd Adda ac Efa. Mae llongau Prydain wedi arfer mordwyo yr Afon Tigris o'i genau ym Morgainc Persia i fyny hyd Bagdad. Gerllaw y dref a elwir heddyw Kurna y ceir, meddir, Gerdd Eden. Yno danghosir i chwi goeden fawr,—ac os yw eich ffydd a'ch ofergoeliaeth yn ddigon mawr, dy- wedir wrthych gyda phob difrifwch mai hwnyw "Pren Gwybodaeth Da a Drwg" a fu yn achlysur pechod cyntaf Efa. Saif mewn llwyn paradwysaidd a ffrwythlon. Unwaith yr ewch y tu allan i'w gyffiniau ni cheir dim ond anialwch tywodlyd. Tua 30 milltir o Kurna, gwelir Bedd y Proffwyd Ezra; ymwelir a'r fangre bob blwyddyn gan nifer o Iuddewon defosiynol. Ceir dwfr o'r afon i ddyfr- hau y tir-ond mae'r dull o'i godi yn araf a th-rafferthus iawn. Torrir ffos o gerllaw'r afon i'r maes y bwriedir ei dyfrhau; o'r ffos hon rhed ffosydd bychain ar hyd ac ar draws y maes. Codir y dwfr o'r afon. gan fenywod yn defnyddio bwcedi pwrpasol, ac arllwysir y dwfr a godir felly i'r ffos fawr sy'n cysylltu a'r ffosydd bychain. I Ganrifoedd yn ol yr oedd y ddaear yma mor ffrwythlon fel y caffai'r ffarm- wr ei had yn ol ar ei ddau canfed! Yr oedd yno ddinasoedd mawrion a phobl- ogaeth luosog iawn. Anial yw yn awr tawer o hono,—ond gyda dulliau di- weddar o ddyfrhau rhwydd fuasai gwneud i'r anialwch hwn flodeuo eto fel gardd yr Arglwydd. Rhyw 60 milltir o Bagdad y saif Babylon, a gerllaw glannau'r Euphrates y gwelir heddyw gweddillion adeilad' o briddfeini. Dywed traddodiad yr Arabiaid mai gweddillion T\vr Babel ydynt! Birs Nimrud y'i gelwir heddyw. Heb fod yn nepell ceir Bedd Ezeciel, Proffwyd y Gaethglud, ac yno hefyd yr ymgynhulla llu o bobl ddefosiynol. Dyma'r wlad a'r cylch o fewn yr hwn y mae brwydro caled iawn wedi bod yr wythnosau diweddaf. Gyrrwyd y Twrc ar ffo gyda cholledion trymion iddo. Rhag eu blaen ar hyd y wlad hanesydd- ol hon y teithia byddin fuddugoliaethus Prydain. Ymddibynna mwy o lawer ar yr ymgyrch hwn nag yr ydym ni eto wedi ei sylweddoli. Bydd meddiannu Bagdad yn golygu ergyd mor farwol i Lywodraeth y Twrc yn Asia ag a olyga Cwymp Caer Cystenyn iddo yn Ewrop. Amcan Germani oedd meddiannu y rheilffordd sy'n rhedeg drwy Bagdad, gan gysylltu Nlory Canoldir a Morgainc Persia, ac felly cael dau beth, sef (1) Priffordd rwydd i gludo ei byddin i'r India i ymosod ar Brydain yno, a (2) Meddiannu Gwlad Gardd Eden, gwlad y gellir eto ei gwneud y wlad fwyaf ffrwythlon ar wyneb y ddaear. Os fel canlyniad i'r Rhyfel hwn y daw rheolaeth y Rheilffordd hwn, a, llywodraeth Gwlad Gardd Eden i ddwy- law Prydain, fel y daeth Morgamlas Suez, a llywodraeth Gwlad yr Aifft, bydd dyfodol disglaer i'r gwledydd hynny. Ergyd drom drom i'r Caisar yw fod Prydain yn meddiannu Gardd Eden fel y meddianuodd Drefedigaethau Germani yn Affrica. Yr Eidal Eto. Pan ysgrifennir hanes y Rhyfel yn llawn ceir gweled fod yr Eidal wedi dangos gwrhydri hafal i'r goreu o neb a fu'n brwydro. Anhawdd yw rhoddi disgrifiad clir o'r hyn sydd wedi, ac yn cymeryd lie yno. Cyn dechreu y Rhyfel yr oedd y cyffin dir rhwng Teyrnas yr Eidal ac Ymerhodraeth Awstria, gan mwyaf yn wastadedd. Gynt yr oedd y cyffindir yn y Mynydd dir tu hwnt i'r gwastadedd. Ond meddiannwyd y Mynydd-dir hwnnw, a rhan o'r gwas- tadedd flwyddi lawer yn ol adeg rhyfel rhwng, y ddwy wlad, gan Awstria, fel y meddiannodd Germani Alsace a Lorain oddiar Ffrainc yn 1870. Wedi medd- iannu'r mynydd-dir hwnnw gwnaeth Awstria nifer o gaerfeydd a chadarn- feydd ynddynt i wrthsefyll unrhyw ym- osodiad. Gwelir felly pan dorrodd y Rhyfel hwn allan mai ar ochr Awstria yn unig y gellid cau a boltio'r drws. Caffai Awstria ddrws agored i'w Byddin hi i ymosod ar yr Eidal. Ond drws cau- edig wedi ei gloi a'i folltio oedd yn gwynebu Byddin yr Eidal pan yn ym- osod ar Awstria. Ceisio agor y drws hwnnw y mae Cadorno, Maeslywydd yr Eidal, wedi bod yn wneud hyd yn hyn. Ac os meddylir nid am un drws, ond am ddwsin o honynt, ac yn ami ddau neu dri drws ar yr un ffordd fawr, ceir gwell syniad fyth o anhawsterau yr Eidal. Gwaith cyntaf Cadorno ar ol gwthio un drws yn agored yw gosod y clo a'r byllt ar ochr yr Eidal yn lie ar ochr Awstria i'r drws, fel pan geisia'r Awstriaid a'r Germaniaid ymosod ar yr Eidal y cant hwythau ddrysau cauedig ac wedi eu bolltio, yn lie drysau agored i'w Byddin- oedd. Brwydrau i ennill y drysau yn unig a fu brwydrau yr Eidal hyd yn hyn. Brwydrau ofnadwy a fuont. Enillwyd drws ar ol drws,—a symudwyd y cloion a'r byllt i'r ochr arall. Pan enillir y drws olaf y bydd Byddin yr Eidal yn ei chyfangorff, yn rhydd i weithredu lie y mynno. Mae'r dydd yn agoshau. Yn y Dardanels. Er mai araf y symudir ymlaen yn y Dardanels dengys y llythyrau preifat a geir oddiyno, yn ogystal a'r adroddiad- au swyddogol, fod ein milwyr yno yn cyflawnu gorchestion o dan anfanteision ac anawsterau digymar. Ceir lie i feddwl fod gallu'r gelyn i wrthsefyll cydymosodiad Ffrainc a Phrydain yno yn gwanhau,-a hynny am ddau reswm, sef:— 1. Mae ein sudd-longau ni ym Mor Marmora, a Llynges Rwsia yn y Mor Du, yn ei gwneud yn fwy-fwy anhawdd o'r naill ddydd i'r Ilall i gludo cyfarpar ac adgyfnerthion i fyddin y Twrc sydd yn ein gwrthsefyll. Llwyddodd sudd- longau Prydain eto yr wythnos ddi- weddaf i ddifetha Ilawer o gyfarpar Tyrcaidd ar dir a mor. Yr oedd clud- longau Tyrcaidd yn dwyn gynnau mawr- ion a'u cyfarpar drosodd i Galipoli o Asia Leiaf, ac er nad oedd ganddynt ond ychydig filltiroedd o fordaith, ym- osodwyd arnynt gan sudd-longau Prydeinig, a suddwyd hwynt a'u llwythi. Mae Llynges Rwsia, yn y Mor Du, hithau wedi suddo o fewn y pythefnos diweddaf dros gant o glud-longau y Tyrciaid oeddent yn cario cyfarpar i'r fyddin. Dyna un rheswm dros fod Ger- mani yn ymosod mor ffyrnig yn Poland, gan obeithio y geill yn fuan, ar ol rhoi dyrnod i Rwsia, rhuthro ar Serbia, a chael llwybr rhydd i gludo milwyr a chyfarpar i gynorthwyo Twrci i'n gwrth- sefyll. Rhedegfa yw hi rhyngom ni yn y Dardanels a'r Germaniaid yn Poland. 2. Gwyddis fod milwyr Twrci wedi blino ar y rhyfel ac yn awyddus i ildio. Ond rhagwelodd y Caisar y perigl. Mynnodd osod swyddogion German- aidd ar Fyddin Twrci, a rhoddwyd gor- chymyn caeth allan i saethu unrhyw filwr a geisia ddianc o'r frwydr, ac i droi cyflegrau Twrci i danio ar unrhyw adran o unrhyw gatrawd a welir am daflu eu harfau i lawr. Emer Pasha yw'r Twrc sydd yn gwneuthur ewyllys y Caisar yn Llywodraeth Twrci,—a dy- wedir fod y Caisar am ei wneud yn Sultan (neu Frenin) Twrci yn lie yr eti- fedd, mab y Sultan, yr hwn sydd am wneud heddwch a Phrydain. Pum Miliwn Wedi Eu Uadd! Cyfrifir fod dros bum miliwn wedi eu lladd yn y Rhyfel eisoes, mwy na'u han- ner yn Germaniaid. Awstria a Rwsia yw'r ddau ddioddefydd mawr nesaf at Germani. Yna daw Ffrainc a Belgium. Yna y Twrc. Wedi hynny Prydain a'r Eidal. Cyfanrif colledion Prydain yn unig yw tua 332,000. O'r rhai hyn lladdwyd .tua 58,000; clwyfwyd tua 190,000, ac mae "ar goll" (h.y., yn garcharorion, neu na wyddis mo'u hanes) tua 62,000. Nid yw'r swyddogion yn gynwysedig yn y tri ffigiwr olaf. Mae cyfanrif ein colledion yn y llynges tua 9,000. Er mai bychan yw ein colledion ni o'u cymharu ag eiddo gwledydd eraill, eto rhaid cofio 1. Fod colledion Prydain eisoes yn y Rhyfel hwn yn fwy na holl nifer unrhyw Fyddin Brydeinig a fu erioed ar faes y gwaed. Ni fu o dan faner Wellington yn Waterloo gynifer o ddynion yn ym- ladd ag ydym ni wedi golli yn y Rhyfel hwn. 2. Yr ydym eisoes wedi colli mwy na theirgwaith cyfanrif y fyddin oeddid wedi addaw ei gyrru drosodd i'r Cyfan- dir cyn dechreu'r Rhyfel. Yr oeddem wedi ymgyfamodi a Ffrainc, ymhell cyn dechreu'r Rhyfel, y gyrrem, o dan am- gylchiadau neilltuol, fyddin yn cynnwys 100,000 o wyr. Dyna contemptible little Army Syr John French y gor- chymynnodd y Caisar i'w luoedd aneirif eu sathru i'r llwch. Gan Brydain yr oedd, ar ddechreu'r Rhyfel, y Fyddin leiaf o'r holl wledydd. Erbyn hyn gwelir fod yn llythyrennol "y fechan wedi myned yn fil, a'r wael yn genedl gref." Mae gan Brydain yn unig heddyw 30 o filwyr am bob un a addawsom ar y dechreu. A chwyddo mae'r nifer bob dydd!