Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I "Y DARIAN" pEL CYFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFODAU. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar oddiwrth Ysgrifen* yddion Eisteddfodau a roddasent yn y Darian eleni, am y o cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- jfcd ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu Weisteddfodau.
CWRS Y RHYFEL.
CWRS Y RHYFEL. ADOLYGIAD YR WYTHNOS. GAN BERIAH. COLLI KITCHENER. Al BRADWRIAETH YDOEDD? BRWYDR FAWR Y MOR. COLEU PELLACH. Y GATH A'R LLYGOD FFREINIG. EFFAITH BRWYDR Y MOR AR GWRS Y RHYFEL. CYFLWR RWSIA, AWSTRIA, A'R EIDAL. DYDD BARN GROEG. Newydd mawr yr wythnos, a'r un a syfrdanodd yr holl deyrnas, ac a gyffrodd y byd, yw COLLI KITCHENER, Yr oedd Arglwydd Kitchener, a nifer o i swyddogion blaenaf, ar eu taith tua Rwsia, ar gais y Tsar, i ymgynghori yn wmongyrchol ag awdurdodau milwrol Rwsia ynghylch sicrhau cydweithrediad agosach rhwng y ddwy wlad yn erbyn y gelyn. Bu Rwsiad enwog ar ymwel- iad a'r wlad hon bythefnos yn ol, a dy- ^edodd y pryd hwnnw fod CHWE MILIWN 0 RWSIAID Y.N. BAROD i ddod i Ffrainc i ymladd yn erbyn Ger- mani, os medrai Prydain a Ffrainc ym- gymeryd a'u cyflenwi ag arfau a chyfar- par digonol. Rhyw ysgub blaenffrwyth y cynhaeaf mawr hwn yw y catrodau o Rwsia sydd o fewn yr wythnosau di- weddaf wedi cyrraedd Ffrainc ac yn gynorthwyo y Ffrancod o amgylch Ver- dun. Ymgynghori a'r awdurdodau mil- yn Rwsia ynghlych hyn, a phethau cyttffel lyb, oedd amcan cenhadaeth kitchener i Rwsia. Ond ar ei daith yno nos Lun ar fwrdd y ilong rhyfel Hampshire, hyrddwyd Kltchener a'i swyddogion oil i ddyfr- ny fedd yn ddirybudd drwy ffrwydriad -y'l Y. Ilong-o'r tu fewn neu o'r tu allan 1 r gogledd o Ysgotland. Ni wyddis to pa fodd y digwyddodd yr anffawd. Ifeblaw Kitchener a'i swyddogion yr Dodcl criw o 850 o forwyr ar y llong. 0 Wyd pawb ond 14 o'r morwyr. DIHANGFA LLOYD GEORGE. w Ymddengys fod Mr. Lloyd George i R 1 arfaethu cyd-deithio a Kitchener er eael cydymgynghoriad yno yng.hYlch y cyfarpar rhyfel angen- rheldiol, a chael gweled drosto ei hun pa faint a fedrai Rwsia droi allan pi tila, a pha faint a fyddai raid iddo yn- tau gynorthwyo arni o'r wlad hon. i o. yroedd ei genhadaeth i'r Werddon geisio I eymodi y pleidiau yno wedi ei l'wystro fynec\ Oni bae hynny bu- asai ein cydwiadwr enwog erbyn hyn .;}Tn gorwedd yn eigion y mor. C°LLI'R TREN A CHOLLI BYWYD. Taenir y gair mewn cylchoedd swydd- 0"i heno mai trwy ddarfod i un aelod 10 1 Itaf? f°^'r tren yn Llundain y coll- ,odd ^ener ei fywyd. Yr oedd cer- t>Vd arbennig yn cludo Kitchener a'i gwrnr ? Lundain tua'r Alban i fyned i'r 1] Ond yn Efrog cafwyd fod un aelod?' o'r cwmni rywfodd wedi ??os ?-  S o'r cwmni rywfodd wedi l'os 3,1' 01. Collodd hwnnw y tren yn I,:ndain. Arhosodd Kitchener a'r lleii] vn Efrog nes ?'? diweddariad gyr- raedd ^yfa thren arall. Yna prysur- 'agaat Ymla,n tua phen y ?h: Petae heb golli'r tren ac achosi'r oed- iad Vw,, asai y Hong a'i theithwyr wedi d:VYho Ynghynt, ac wedi pasio'r man He ??ddodd yr anffawd yn brydlon. ACIIOS YP, ANFFAWD. 'f Nid oes ?y? yma unrhyw sicrwydd pa odd Y SWydd°dd yr anffawd. Y cwb ?d?d ydv dl????°?? ? anSawd. T cwbl WYddis. ? Y ??S wedi cael ei shWythu  f¡ny ? ddarnau yn ddi- YIUwth n \yn ddirybudd. Rhaid mai Un o dri  ddigwyddodd, sef 1. I ddigwyddodd, sef 1. I suddlong ° eiddo'r gelyn ei saethun?- rpedo j neu 2 J' 1 Hong daro yn erbyn mine c-edd yn nofio yn rhydd yn y mor; neu 3. Fod rhywun wedi gosod bomb yn ddirgel ar fwrdd y Hong, ac i hwnnw ffrwydro ar yr amser penodedig. Dadleuir fod y cyntaf yn dra anhebygol, am fod y mor yn bur arw ar y pryd, ac mai anawdd iawn yw i sudd- long saethu torpedo yn gywir pan fo r tonnau yn uchel. Ond ar y Haw arall gallasai fod y suddlong yn ddigon agos i long Kitchener i sicrhau fod y torpedo yn cyrraedd y nod. Nid yw Germani yn honni mai sudd- long a wnaeth y drwg. Ar yr un pryd rhaid i ninnau gofio mai gweithred hollol gyfreithlawn, yn ol rheolau rhyfel, a fuasai i suddlong ymosod ar long rhyfel fel yr Hamphire, ac mai gweithred i ymffrostio ynddi a fuasai i'r Germaniaid eu bod wedi ladd Kitchener o dan amgylchiadau o'r fath. Am yr ail o'r achosion posibl mae llawer llong wedi cyfarfod a'i diwedd drwy daro yn erbyn y mines a heuir gan y gelyn ar hyd wyneb y mor ac a gludir gan y tonnau na wyr neb i ba le. Taflwyd rai cannoedd o mines i'r mor gan longau Germani pan yn ffoi o'r frwydr ger Jutland bythefnos yn ol. Amcan hynny oedd rhwystro ein llong- au ni i'w herlid. Mae yn bosibl mai un o'r cyfryw, wedi cael ei chario gan y teid heibio gogledd yr Alban a dar- awodd yn erbyn yr Hampshire anffodus. Mae y trydydd achos hefyd yn bosibl. Suddwyd ami i lestr drwy frad o'r fath o'r blaen, a gwneir eto. Trefnir bombs peiriannol, hynny yw i ffrwydro ar awr neillduol drwy bc:ria:.vr§ith, yn union fel y gellir trefnu cloc alarwm i ddeffro cysgadwr ar amser penodol. Gallasai fod bomb o'r fath wedi cael ei gosod yn ddirgel ar fwrdd yr Hampshire. AI BRADWRIAETH YDOEDD It Tybir yn dra chyffredin mewn cylch- oedd arbennig, mai bradwriaeth ysbi- wyr Germanaidd yn y wlad hon acii.is odd llongddrylliad yr Hampshire a cholli Kitchener. Nid oes le bellach i amheuaeth am ddau beth, sef: 1. iod gan y Germaniaid ysbiwy r cyflogedig yn y wlad hon. 2. Fod yr ysbiwyr hynny yn medra gyrru negeseuon dirgel i Germani bry 1 y mynnont heb fod neb yn y wlad hoi yn medru gwybod pa fodd. Er mwyn profi hyn nodaf ddwy ffaith sydd yn hysbys ddigon mewn cylchoedd swyddogol, sef- (a) Gwyddai yr awdurdodau yn Ber- lin yn Germani mor fuan, os nad yn wir ynghynt nag y gwyddai pobl Llundain, fod Kitchener wedi cael ei golli, y lie a'r modd. (b) Pan ymwelir a'r wlad hon. gan Zepelins, ni chaniateir cyhoeddi yma pa drefi neu ardaloedd yr ymwelwyd a hwynt, na dim manylion ynghytei y niwed a wnaed. Ni eill y criw yn y Zepelin ei hun wybod ychwaith na pha le y maent na pha niwed a* achosant. Eto mae yr awdurdodau yn Berlin yn gwybod (cyn y cyhoeddir dim yn y wlad yma ynghylch y peth) enwau y trefi yr ymosododd y Zepelins arnynt, a maint a natur y difrod a wnaed. Eithr dirgelwch yw pa fodd a chan bwy y gyrrir yr hanes. Tybir fod ysbi- wyr wedi hysbysu Germani am daith Kitchener, y llong, ei chwrs, amser f hwylio, a phob peth angenrheidiol er trefnu llongddrylliad. BRWYDR FAWR Y MOR. Yn y goleuni pellach a gafwyd erbyn hyn ar Frwydr Fawr Jutland ym Mor y Gogledd, rhaid newid ychydig ar y dis- grifiad a roddwyd o honi yma yr wyth- nos ddiweddaf. Deil y gymhariaeth a roddwyd o'r amgylchoedd yn gywir, sef eyfrif- Cymru fel yn Germani. Ynys Mon fel Denmarc. Y Werddon fel Prydain Fawr. Y Mor o Fon i Lerpwl fel y Baltic. Bau Caernarfon a Sianel Cymru fel Mor y Gogledd. Yr Afon Menai fel Camlas .Kiel. Gan gadw'r darlun yna yn y meddwl gellir cael synlad pur gywir am yr hyn a ddigwyddodd. Dau wahaniaeth tra phwysig y sydd rhagor yr hyn a ddy- wedwyd yma yr wythnos ddiweddaf, I sef:— 1. Hwylio allan o'r Gamlas (y Fenai) tua'r deheu heibio Caernarfon i'r Bau (Mor y Gogledd), ac nid o tlu'r gogledd heibio Beumaris i For Lerpwl (y Baltic) a wnaeth Llynges Germani. 2. Nid Llynges Germani ymosododd ar yr eiddom ni, ond adran fechan o Lynges Prydain ymosododd ar holl nerth Llynges Germani. Wedi cywiro y ddau beth uchod deil y gweddill o'r hyn a ddywedwyd yr wythnos ddiweddaf yn ymarferol gywir. Ceisiaf yn awr egluro'r amgylchiadau ychydig yn fwy manwl. Y GATH A'R LLYGOD FFREINIG. Dro yn ol cyffelybodd Winston Churchill Lynges Germani i haid o lygod mawr—llygod ffreinig-yn llechu yn eu tyllau yng Nghamlas Kiel. Tra yr erys llygoden, boed fach, boed fawr, yn ei thwll, mae yn dra diogel. Ni ddaw niwed iddi hi yno, ac ni wna hithau lawer o niwed i neb. Os am ladd y llygoden, rhaid ei chael allan o'i thwll, a'i dal cyn y dychwelo yno. Yr anhawster yw cael y lygoden allan o'i thwll a neidio arni cyn y medr redeg yn ol i'w lloches. Eto os erys y %goden yn ei thwll o hyd, trengu a wna o eisieu. Rhaid yw iddi ddod allan, hwyr neu hwyrach. Eithr gwylia ei chyfle yn ofalus. Os cred fod y gath yn ddigon pell, ac yn hepian cysgu, daw'r lygoden allan. Os bydd y gath yn llygotreg dda, ceidw o olwg y twll, tra ar yr un pryd, os yn bosibl, mewn safle y geill neidio naill ai ar y lygoden, neu rhwng- honno a'i thwll. Gan gario'r gyffelybiaeth allan mae adran o Lynges Prydain o dan Syr David Beatty wedi cael ei neillduo i wylio twll y lygoden, a gelwir yr adran hon yn Adran y Gath, the Cat Squadron. 0 angenrheidrwydd adran gymharol fechan a chymharol wan ydyw, ond yn un gyflym iawn. PA FODD Y DALIWYD Y LLYGOD. Gwyddis mai creaduriaid ffyrnig a pheryglus iawn yw Llygod Ffreinig. Os bydd amryw o honynt gyda'u gil- ydd maent mor debig o ladd y gath ag ydyw'r gath o'u lladd hwythau. Rhaid cael terrier cyfarwydd a lladd liygod .ffreinig i gymeryd rhan yn y frwydr os bydd haid mawr o honynt. Dydd Mercher, Mai 3lfed, pender- fynodd llygod Germani ddod allan o'u twll. Daethant yn haid mawr, dros gant o Longau Rhyfel, gyda'u gilydd yn adrannau trefnus, llongau ysgeifn cyflym ar y blaen i archwilio llwybr y mor, a'r llongau mawr trymion yn car- io cyflegrau fedrant daflu bwledi ffrwydrol yn pwyso 0 800 i 1000 pwys dros bellder o bymtheng milltir, yn can- lyn rai milltiroedd o'r tu ol. Daethant allan o'r Gamlas (Afon Menai) yn llu nerthol, gan hwylio heibio glannau Denmarc (Mon), gan gyfeirio tua glannau Gogledd Prydain (yc Werddon). Yr oedd Adran y Gath o Lynges Prydain o dan Beatty ar y mor yn gwylio. Llongau ysgeifn oedd- ent. gan mwyaf oil, a'u cyflegrau yn llawer llai nerthol, yn saethu bwledi llawer llai, ac heb fedru saethu ond prin hanner pellter cyflegrau mawr Llynges Germani. Ond amryw filltiroedd o'r tu ol i'r Gath, yr oedd terrier bach Cymreig, pedair Hong rhyfel fawr o dan lywydd- iaeth Llyngesydd o Gymro o'r enw Huw Evan Thomas, eto ymhell o'r golwg. A draw, draw, ymhell tu ol iddo yntau yr oedd Llynges Fawr Prydain ei hun yn y porthladd yn barod i ruthro allan pan ddeuai'r gair. Gwelodd y Gath (Llynges fach Beatty) yr' haid Llygod Ffreinig (Llynges Germani). Deallodd yn y man y cyfle a'r perygl. Gwyddai na fedrai obeithio, gyda'u long-au ysgeifn ef, orchfygu Llynges Fawr Germani, ac os mai ymosod a wnai mai rhedeg i ddinistr a wnai ef a'i longau. Ond gwelodd hefyd os medrai ddal yr haid llygod yno i ymladd ag ef hyd nes y deu- ai y terrier Cymreig Huw Evan Thomas i'w gynorthwyo, y gallent cydrhyng- ddynt o bosibl gadw'r gelyn yn brysur yn ymladd yno hyd nes deuai Jellicoe a'i Lynges Fawr yntau yno i wneud diwedd ar yr haid llygod ffreinig. Felly, heb betruso am-foment, rhodd- odd Beatty y gorchymyn i ymosod, er fod y gelyn oedd yn y golwg yn bump j am bob un o'i eiddo ef, ac er ei bod yn debig fod yno bump arall am bob un tu draw i'r gorwel yn cyflym agoshau. Ond dyna hanes a thraddodiad Llynges Prydain erioed-pan welir gelyn ym- osod arno gan nad beth fo ei faint a'l nerth. A hynny a wnaeth Beatty y tro hwn, er mawr lawenydd i'r Germaniaid ar y pryd, canys tybient mai ysglyfaeth rwydd i'w Llynges Fawr a fyddai Adran fechan Beatty. Caled a chyfyng a fu ar Beatty hyd nes i'r Cymro Huw Evan Thomas ddod yno i'w gynorthwyo, a brwydro ofn- adwy a fu hefyd wedi hynny. A phan, a hithau yn nosi, y daeth hwylbrennau Llynges Jellicoe i'r golwg uwch y gor- wel draw, gwelodd y llygod ei bod ar ben arnynt, ac mai ffoi am y twll am eu bywyd oedd yr unig beth iddynt wneud. Hynny hefyd ar wnaethant yn cael eu herlid drwy'r nos gan ein llong- au ni. Wrth fesur y frwydr dylid cofio 1, Mai ar ei ffordd tua'r wlad hon yr oedd Llynges Germani. 2. Fod Beatty wedi ymosod arni pan yr oedd gan y gelyn bump o longau am bob un oedd ganddo ef. 3. Fod y Germaniaid, hyd y foment y troisant yn eu hoi i ffoi am loches i'r Gamlas, yn llawer lliosocach a chryfach na'r longau oedd gennym ni i'w herbyn yno, ac mai ffoi a wnaeth y gelyn cyn i Jellicoe gyrraedd. 4. Ffoi am ei heinioes i'r Gamlas a wnaeth Llynges Germani pan ddaeth Llynges Jellicoe i'r golwg yn y pellter draw. Wrth ffoi taflasant, allan mines ar hyd wyneb y mor er rhwystro ein llongau ni i'w herlid. Collwyd rhai on llongau ni wrth daro yn erbyn y mines hyn. 5. Bu Llynges Prydain yn ysgubo'r holl for yn y cyfiiniau hynny, ol a blaen, bedair gwaith trosodd, yn chwilio am weddillion y gelyn, cyn dychwelyd o honi i'w wlad hon. COLLEDION GERMANI YN Y FRWYDR. Erbyn hyn mae yn gydnabyddedig fod Germani wedi colli llawer mwy na ni o longau yn y frwydr hon. Dywed ein morwyr ni oedd yn y frwydr fod dros ddeugain o longau Germani we4i suddo yn y frwydr. Mae sicrwydd fod dros ddeg ar hugain o honynt wedi eu colli. Mae Germani wedi cyhoeddi tri adroddiad "swyddogol" gwahanol o'r frwydr, ar dri amser gwahanol, ac yn haeru bob tro ei bod yn nodi yn yr adroddiad yr holl golledion a gafodd yn y frwydr-ond bob tro yn ychwanegu Hong ar ol llong at y colledion a gydna- byddid ganddi yn yr adroddiad o'r blaen. Yn yr adroddiad diweddaf cyd- nebydd ei bod wedi colli yn y frwydr un o'r llongau mwyaf oedd ganddi, ac a orffenwyd llynedd, ac un o'r llongau rhyfel cadarnaf yn y byd, a Hong arall llai na hi, gan ddweyd:— Gadawsom y rhai hyn allan o'n hadroddiad y tro o'r blaen am resym- au milwrol. Ond dyna ni yn awr wedi enwi yr oil a gollwyd." Pa beth a feddyliech am ddyn wedi cael ei ddal ar gelwydd ddwywaith yn disgwyl i chwi gredu ei air y trydydd tero? Pwy a'i credai? Mae'r byd er- byn hyn yn dechreu gweld mai twyll a rhagrith yw holl haeriadau swyddogol Germani. Un peth sydd yn profi tu hwnt i bob dadl fod colledion Germani wedi bod yn ofnadwy yn y frwydr hon, ac yn llawer. mwy nag a dybiodd neb, yw y ffaith nad oes neb, hyd yn oed o bobl na swyddogion y dref a'r wlad, yn cael myned i olwg y Camlas lie y gorwedda'r Llynges glwyfedig yn aros adgyweiriad. Hysbysir ar sail dda fod amryw o'r llongau mwyaf wedi cael eu niweidio i'r fath raddau fel y cymer fisoedd i'w had- gyweirio a'u gwneud yn addas eto i'r mor. EFFAITH Y FRWYDR. Os oes amheuaeth yn aros ym meddwl rhywun ynghylch pwy gafodd y fuddug- oliaeth, ai Prydain ai Germani, holed ei.. hun pa beth oedd gwir effeithiau'r frwydr ar Gwrs y Rhyfel yn y ddwy wlad. Mewn erthygl yn adolygu'r frwydr a j ysgrifennwyd gennyf i bapur arall ddechreu'r wythnos ddiweddaf nodais dri maen prawf syml ond digonol i'r amcan. Wele hwynt:— Amcan mawr bodolaeth a gwaith Llynges Prydain yw :— 1. Cadw'r mor rhyngom a Ffrainc yn rhydd rhag y gelyn, modd y gellir cludo milwyr a chyfarpar yn rhwydd a diogel ol a blaen rhwng Prydain a'i Byddin fawr yn Ffrainc. 2. Cadw'r wlad hon yn ddiogel rhag i Fyddin y gelyn lanio yma, a gwneud ein gwlad ni yn uff ern ar y ddaear fel ag a wnaed a Belgium ac a Serbia. 3. Cadw'r Llywodraeth mor dynn ar y mor fel fia chludir na bwyd na chyf- arpar dros y mor i'r gelyn, tra hefyd y cedwir llwybrau y moroedd yn agored i'n llongau ni, ac i longau gwledydd eraill fo yn gweini i'n rheidiau ni. Ymhen tridiau wedi ysgrifennu i nodi y tri maen prawf uchod, bu Mr. Balfour, Llywydd y Morlys, yn traddodi anerch- iad pwysig a gyhoeddwyd ymhob rhan o'r byd, ac yn ei anerchiad noda Mr. Balfour yr un tri maen prawf. Nodir hyn yma yn unig er mwyn dangos fod y meini prawf a nodir yn yr erthyglau hyn yn rhai a gydnabyddir gan yr aw- durdodau uchaf fel rhai y gellir mentro yn ddibetrus ddibynnu arnynt. Amcan Llynges Germani oedd torri y naill neu'r llall neu'r tri. A oes mwy o berygl heddyw nag yd- oedd cyn y frwydr ar y mor, y rhwystrir cludo milwyr i'r Cyfandir, neu y glania Byddin Germani yn y wlad hon, neu y bydd yn amhosibl cludo bwyd a rheid- iau bywyd i Brydain o wledydd tramor? Os oes, yna Germani enillodd; os nad oes, yna collodd Germeni y i frwydr. Gwyr y byd i gyd heddyw fod lai, ac nid mwy o berygl o'r pethau uchod ym Mhrydain heddyw nag ydoedd cyn Brwydr Jutland, a bod Llynges Ger- mani yn llawer llai ei gallu i'n niweidio ni heddyw nag ydoedd cyn y frwydr. Y BRWYDRO AR Y TIR. Wythnos bwysig o frwydro ar y tir a fu yr wythnos ddiweddaf yn Rwsia, yn Ffrainc, ac yn yr Eidal. Unwaith eto mae Rwsia wedi cyflawnu gwrhydri gorchestol. Ymosododd gyda nerth anwrthwyn- ebol ar Fyddinoedd Awstria ar hyd llinell yn ymestyn am gan milltir o'r gogledd i'r de. 0 fewn corff pedwar niwrnod cymerodd 60,000 o Awstriaid yn garcharorion, neu ar gyfartaledd 15,000 bob dydd. Cyfrifir colledion Awstria yn y brwydro hyn mewn lladdedigion, clwyfedigion, a charcharorion, yn ddau can mil (200,000). Gwthiwyd yr Aws- triaid yn eu hoi ar hyd yr holl linell. Tarawyd yr ergyd trymaf yn y cydiad rhwng Byddin Germani a Byddin Aws- tria. Yno gwthiodd y Rwsiaid ymlaen rhwng y ddwy fyddin am ddeugain mill- tir, ac yna trodd tua'r dehau o'r tu ol i fyddinoedd Awstria, tra yr ergydia Byddin Rwsiaidd fawr arall ar ffrynt y gelyn o'r dwyrain. Torrwyd llinell Awstria ar hyd- yr holl ffrynt am gan milltir. Syrthiodd dinas gaerog Luck (neu Lusk fel y'i gelwir weithiau) i ddwylaw'r Rwsiaid, gyda llu o garchar- orion, nifer mawr o gyflegrau, a phen- twr anferth o yspail rhyfel. Os gellir datblygu y mudiad o'r tu ol i Fyddin Awstria, gosodir honno mewn enbydrwydd mawr gan yr am- gylchynir hi yn fuan gan Fyddinoedd Rwsia os na fedr lithro allan o'r trap sydd yn bygwth cau am dani. Os yw'r darlenydd yn cofio enwau'r dinasoedd a gymerwyd gan y German- iaid oddiar Rwsia ym misoedd Awst a Medi a Hydref llynedd, gwel fod Rwsia yn awr yn gwthio'r gelyn yn ol ar hyd yr un llwybr, a daw enwau'r un Ileoedd eto yn amlwg yn yr hanes newydd eleni. Os pery llwyddiant Rwsia am ychydig bydd dinas enwog Lemberg unwaith eto mewn perygl, a'r gelyn yn gorfod chwil- io am ffordd i ddianc tuag adref. EFFAITH Y FRWYDR. Mae Archdduc Awstria sydd yn llyw- yddu'r Fyddin yn y lIe y llwyddodd Rwsia, yn ei gyfyngder yn gwaeddi am gynhorthwy. Geilw ar Hindenburg oedd yn parotoi i ymosod ar Riga yn y Gogledd, am ddanfon Byddin i'w gyn- orthwyo. Geilw ar y Maeslywydd sy'n ymosod ar yr Eidal drwy'r Trentino am help oddi yno. Atebodd yr olaf, gan yrru ugeiniau o filoedd o'i filwyr yn ol (Parhad ar tudalen 8.)