Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
IAberdar.-
I Aberdar. Priodas. Dydd Sadwrn, Mehefin ioed, yn y Tabernacl, Aberdar, gan y Parch. J. Sulgwyn Davies, Siloh, un- wyd mewn priodas Mr. David Griffith Evans, 23 Llewelyn Street, a Miss Margaret Annie Davies, 20 Hirwain Road, y ddau o Drecynon. Yr oedd yn bresennol: Miss Hannah Jane Davies, chwaer y briodasferch, a Mis& Jennie Harris, 3 Frederick Street, Trecynon; Mr. Evan William Davies, brawd y briodasferch; Mr. Thomas John Phillips, 13 Regent Street; Mr. Arthur Jones, 86 Bwllfa Road; Mr. David Davies, a Mr. David Evans, tad y priodfab, 23 Llewelyn Street, yn ogystal a Mr. Evan S. Jones, tad. cu y briodasferch, 20 Hirwain Road. Ar ol y seremoni ymadawodd y par ieu- anc am Abertawe.
Adolygiad.
Adolygiad. "Rhamant Plat y Pren Helyg, gan H. Brython Hughes. Pris, 6c.— Rhyfedd hoffed yw plant ysgol o lyfr ystoriau Cyn ryfydded a hynny oedd diffyg llyfrau addas yn Gymraeg er cyflawnu dyheadau'r plant am chwedlau chwaethus. Da gennym y cyflawnir y diffyg o dipyn i beth, canys wele eto gyfrol fechan ddestlus o wasg Gwrecsam. Etyb y llyfryn i ddosbarthiadau hynaf ein hysgolion. Gall unrhyw athro addasu'r cyn- hwysiad fel y gallo adrodd y stori wrth blant y safonau isaf. Y mae plat y pren helyg yn adnabyddus i bawb o honom o'n hieuenctid, ond credaf na wyr un o bob deg o honom y rhamant swynol a gylymwyd am dano. Bellach wele gymreigiad godidog o'r chwedl gan yr awdur adnabyddus uchod. Oni cham- gymerwn "ei le nid edwyn ddim o hono ef mwy." Cyfarfuom ag ef yn yr Ysgolion Haf, ac yr oedd yn. aidd- gar y pryd hwnnw dros ysgrifennu llyfrau Cymraeg. Er mai cyfeithiad neu Gymreigiad yw'r gwaith, ni chlywais ddim bias bwyd aildwym arno o gwbl. Darllena'n llithrig; y mae'r Gymraeg yn firain, ac yn rhedeg yn esmwyth esmwyth. Y mae'r ar- graffwaith yn lan,.a hyd y sylwasom ni yn rhydd o wallau. Y mae o'r pwys mwyaf i lyfr ysgol fod yn gwbl lan ei iaith, ei ddiwyg, a'i genadwri. Etyb y llyfr hwn y tri anhepgor hwn. Pryner ef a rhodder ef yn wobr i, blant Cymru. Swynir hwy gan y rhamant.—D. A. E. "Chwareuon Hanes," at wasanaetb ysgolion, gan T. Gwynn Jones, M.A. Pris, 2g. Hughes a'i Fab, Gwrecsam. —Wele lyfryn arall, yr ail yn y gyfres, a baratowyd er cyflawnu angen ys- golion am chwareuon syml i blant yn dechreu dysgu'r Gymraeg. Y mae'r geiriau yn syml syml, a chynhwysir yn y gwaith frawddegau ac ymadrodd- ion, o'u dysgu, a ellir ddefnyddio yn 01 Haw mewn ymddiddanion eraill. Rhaid i blentyn a fo'n dysgu iaith wrth feistrolaeth ar frawddegau felly, ac wele hwynt yma wrth ei law. Anfonir ataf weithiau am gymeradwyo dramodau addas i ysgolion erbyn Gwyl Ddewi. Pa beth a wnaf yn well na dywedyd ?-" Anfonwch i Wrecsam am ddetholiad Hughes a'i Fab." Bendith ar y cyhoeddwyr hynny a achlesa'r mudiad Cymreig! Heb lyfrau ofer i raddau pell iawn a fydd ein hymdrechion.—D.A.E.
ASTHMA,
ASTHMA, BRONCHITIS AC ANHWYLDERAU Y FREST. Fe'm cymhellir gan liaws o bersonau sydd wedi cael llwyr wellhad oddiwrth yr ASTHMA i wneud y moddion a ddarperir gennyf at wella yr afieohyd poenus hwn yn hysbys i'r cyhoedd, Mae y feddyginiaeth hon yn cyflym wella Diffyg Anadl.Caethiwed a Phesychu. Tystiolaetha Uiaws—er wedi bod yn dioddef am flynyddoedd-eu bod wedi cael iachad rhyfedd a gWyrthiol Dylai, dioddefwyr roddi prawf arno Pris drwy y post 2s, 9c. Anfoner at T. J, HUGHES, CHEMIST, BETHESDA.
Advertising
Rare Opportunity! Furniture at Pre-War Prices! WHAT IS THE EXPLANATION ? The reason is that immediately War was declared we entered into by far the greatest Contracts we ever concluded during our unbroken Business Career of sixty-six years. The Goods were packed from floors to ceilings in the various Reserve Warehouses we hold in connection with our seven South Wales Branches, and the result to-day is that whilst some Furnishers are compelled to close establishments through inability to obtain supplies, we still hold a very large proportion of the immense Contract Stocks, and which we have now fully decided to CLEAR AT PRE-WAR PRICES. BEVAN & CO., Ltd., Wales' Largest Furnishers, Cardiff, Pontypridd, &c.
BeirDiadaethau.
BeirDiadaethau. GOSEN, BLAENCLYDACH. Y GROGLITH. GAN PELIDROS. Testyn y Gadair "Angylion Mons." Derbyniwyd ugain i'r gystadleu- aeth, a chydrhwng rhai o honynt ceir cystadleuaeth dda iawn. Ceir yn eu plith gyffredin, gwell, a goreu. Danfonodd "Mab Gobaith ei bryddest i mi yn lie i'r Ysgrifennydd, ac ni chydymffurfiodd ag amod bwysig a welir ar y rhaglen, sef gyrru swllt gyda'i bryddest. Syrth efe felly allan o'r gystadleuaeth. Rhennir y pedwar-ar-bymtheg arall i ddau ddosbarth. Yn yr ail ddosbarth daw y rhai canlynol: — (I) "By Sais.His has been a very poor attempt indeed, and I should strongly advise him not to waste another shilling on entrance fees until he knows something of the rudiments of poetry, such as rhymne and rhythm, and some sort of style, to say nothing of ideas. (2) "Blinedig." Camsyniodd y bardd hwn ar ei fater. Nid "Gweledig- aeth Mon's ond "Angylion Mons" yw'r testyn. Gwrthun iawn yw ei waith yn personoli gweledigaeth, megis y gwna ar hyd y gerdd. (3) "Maldwnog.Baledaidd a di- bwynt iawn yw ei gan. Nid yw'r awdur hyd eto wedi dysgu ysgrifennu Cymraeg di-lediaith a phersain. (4) "Gweledydd."—Prin o newydd- deb yw'r gerdd hon, a chana'r bardd fel un heb lwyr fagu ei adenydd i gystadleuaeth fel hon. Diwedda'n lied wael. (5) "Elisesus iaf," sy'n dechreu gyda "Hanes Brwydr Mons a'i hengyl," etc. Dywed yr "Eliseus" hwn frawddeg tua diwedd ei bryddest sy'n fynegiad lied gywir 'o'i gan, ys ef—"Mwy yw'r profiad na ddarlunir gan uwchraddol grebwyll bardd." Gwnai'r darn, o ran ei gynnwys, y tro fel araith cyfeillach, eithr nid fel pryddest arobryn ar Angylion Mons. (6) "Ger y Mor. "—Ceir ganddo ef rai drychfeddyliau rhyfedd iawn, megis "gwewyr dychryn yn tynnu min oddiar gleddyfau." Yr angylion yn "medi rhengau'r gelyn a'u hadenydd, a byddin. Prydain yn "llyfu gwaedlyd lwch eu gwigoedd gwynion, etc. Ail-edryd'd ei hun mewn man neu ddau, ac nid yw hyd eto wedi* dysgu sillebu rhai geiriau'n gywir. (7) "Dan eu Cysgod. "—Pryddest ysgafn, folawdus, ond heb ddal ar gyfriniaeth a dieithriwch yr olygfa, ac yn lied gyffredin mewn mannau. (8) "Llygad y Dydd."—Yntau'n lied debig i "Dan eu Cysgod." Rhed weithiau'n lied bell oddiwrth y testyn. Cana'r bur llac a diofal, ac fel pd heb fod ddigon o ddifrif gyda'i waith. (9) "Meredith. "—Cana yntau'n ys- gafn a llithrig, ond heb fod uched ei safon o lawer ag eraill yn y gystadleu- aeth. (10) "Seraff." A fairly good English poem. Its chief fault is that it contains nothing out of the common road-nothing new or fresh-with none of the allurement of the vision. (11) "khwng y Brwyn. "—Nid yw ei fesur y goreu i gyfateb y testyn. Ceir, gormod o orohlan a mawl ynddo i ddal ar gyfriniaeth a dieithriwch y weledigaetb. Nid hapus ei syniad bob amser, megis y "darian a gwaed ar ei gruddiau a "llewygai'r angylion pe gwelent y cyfan." Tywyll ac amwys yw mewn ambell fan, a llithrodd gwall neu ddau i'w sillebiaeth. Yn y Dosbarth Blaenaf daw y rhai canlynol I) "'Milwr y Groes. Pryddest yn dat ar swyn a dieithriwch y wel- edigaeth yn dda mewn mannau, ond yn syrthio i wendid a chyffredinedd mewn mannau eraill. Gresyn na fai'n fwy gofalus gyda'i dreigliadau, ei ansoddeiriau a'i sillebiaeth. (2) "Afallon." Cana'n dlws a thyner, ond yn wan a di-angerdd ar brydiau. Ni fu'n hollol ofalus gyda'i fesur a'i gorfannau. Daeth gair neu ddau lied ddi-awen i mewn, ac nid yw hud y weledigaeth yn dal arnom, megis y dymunem, yn y gerdd. (3) "En'aid unig ei dannau. Gwna ddefnydd da o'i bwyntil mewn mannau, ond nid cystal mewn mannau eraill, fel nad yw'r darlun yn berffaith drosto. O'r braidd i gorffwys y ddwy linell olaf yn esmwyth yn y darlun. (4) "Y Milwr Clwyf. "—Ni ddylasai cystadleuydd ollwng ffugenw o'i law heb ei fod o leiaf yn ramadegol gywir. Nid yw hwn felly. Nid ansoddair mo'r gair "clwyf." "Y milwr clwyfus fyddai gywir ynte? Nis gwn ychwaith beth yw'r gair "adanedd yn llinell olaf ei bryddest. Onid "adenydd ddylai fod yno? Cana'n dda mewn mannau, er nad yw ei ddrychfeddwl yn gorffwys yn dawel ar ffeithiau'r weledigaeth bob amser, a gwneir niwed i'w gan, i'n barn ni gan ormod holi a maentumio beth allai'r engyl fod-ai rhith ai fel arall? etc. (I barhau.) CYMANFA GANU ANNIBYNWYR CYLCH RHYMNI. BEIRNIADAETH YR EMYN GAN WIL IFAN. Rhif i, "Arglwydd y Lluoedd." Mae geiriad y testun, ynghyda'r ffaith ein bod yn byw yn amser y rhyfel mawr, yn awgrymu mai emyn rhyfel a ddisgwylir. "Arglwydd y Lluoedd," hynny yw, "Arglwydd Lluoedd Rhyfel," dyna'r darlleniad riaturiol. Mae pedwar yn cynnyg, ac er nad yw'r gystadleuaeth wedi dwyn na Phanty- celyn nac Ann Griffiths newydd i'r golwg, mae yma emynau teilwng iawn. Sylwn ar y ffugenwau yn ol trefn yr A.B.C. "Iago. Y sgrifenna "Iago" yn rhwydd a didrafferth. Mae ei linellau bob un yn ganadwy, a rhaid wrth hynny mewn emyn llwyddiannus. Mae yn odli nid yn unig yr ail linell a'r bedwaredd, ond hefyd y gyntaf a'r drydedd, etc., ond yn anffodus y mae yn anghofio hyn yn niwedd ei gan. Os dechreu gyda rheol rhaid cadw ati hyd yr Amen. Bai mawr "Iago" yw gwrthod pregethu ar ei destun. Emyn sydd ganddo ef ar gariad Duw neu rhagluniaeth a gras, ac emyn ardderchog ydyw. "Mab y Bryn. "—Mae hwn dipyn yn ffyddlonach i'w destun er nad yw'n canu arno'n bendant bob cam. Nid da bod "calon a dichellion yn odli yn yr ail bennill. Ambell ben brawddeg ystryd'ebol yma a thraw yn tynu oddiwrth newydd-deb y mawl, ond ar y cyfan y mae "Mab y Bryn" yn emynydd da. "Teithiwr Blin." Mae y teithiwr hwn yn cerded yn nes at y testun, er ei fod yn y pennill gyntaf yn cyfeirio at "luoedd" y Deml. Trueni ei fod yn rhy flinedig i edrych dros ei waith. Mae yma dri neu bedwar o wallau y gallai yn 'rhwydd eu gwella. "To the War. "-Odli yn rheolaidd. Tebig mai gwall wrth ysgrifennu sydd yn y Ilinell lle'r adduneda'r bardd i beidio newid ei liw! Mae'n amlwg taw "Ilyw" a olyga. Mae yma linellau da iawn. "Mae'th allu o hyd yn anfeidrol, A'th gariad yn ddyfnach na'r bedd." Galw ar "Dduw y Lluoedd" wna'r emynydd yma o'r dechreu, a theimlir mai'r rhyfel sydd yn pwyso ar ei galon. Mae y gystadleuaeth rhwng "Teithiwr Blin a "To the War." Nid am eu bod yn well awenyddion, ond am eu bod yn awenyddion sydd yn canu ar y testun. O'r ddau y goreu yw "To the War," sef Meillionydd. Rhif II.—Cadw arferion yn lan." "Andreas. Tri phennill cymer- adwy iawn. Yr ydym yn colli naws yr ymbil o'r ail bennill. "loan. "—Mesur da at yr emyn. Mae "loan" yn bur esgeulus, ond gyda ychydig ofal gallai wneud gwaith rhagorol. "Gwalchmai." Er fod gan "Gwalchmai farddoniaeth dder- byniol, nid oes yma fawr o naws yr emyn. Rhaid cael awen ar ei deulin yma. "Penry, "-Ambell .wall. Hefyd nid yw'r odl "i" "fry," etc., yn bersain iawn geir gan lawer o'r cystadleu- wyr, ond goddefir hi gan fod Panty- celyn wedi pechu o'r blaen! Mesur priodol iawn. "Pontwr. "—Nid yw diwedd yr ail bennill yn foddus iawn. "Cadw ni, lesu cu, Heb gyflawni dim sy'n ddu." "loan."—Daeth hwn i law ar ol amser, ond ca ein sylw. Tri phennill o gynghorion ardderchog wedi eu rhoi mewn iaith dda. Ond mewn emyn disgwylir rhywbeth amgen na chyngor. Ac os cyfarch o gwbl dylid cyfarch y nefoedd. Ac eto mae ambell emyn poblogaidd wedi ei ysgrifennu ar eich dull chwi. Mae y pump yma yn agos iawn i'w gilydd o ran teilyngdod. Nid oes yma emyn gwael yn eu plith, ond y goreu o ryw ychydig yw "Penry"- ¡ T. Idris Morris, Bryn Seion. EISTEDDFOD Y CRWYSJ PASG, 19161 I BEIRNIADAETH LLYNFI DAVIES. Can: "Angylion Mons." Siomedig yw'r gystadleuaeth. Sylwir yn fyr yn ol teilyngdod ar yr unarddeg. Mariner: A good attempt, but evi- dently by a beginner. The subject is deserted and the writer turns to moral- ize. A Believer: Commences thus- Commencement of August 1 nineteen fourteen, The greatest of all wars was started and seen." Later we have: The Germans were driving to Paris, Determined to conquer, what a joyful spree!" As a rhyming account of the war as far as Mons it stands alone, but it is not poetry. Rhwng y Brwyn: Cyffredin yw'r gan hon, ac ymhell o fod yn lan. Ceir gwell, ond y mae peth fel hwn yn gyrru gwobr ymhell: "Mae gobaith yn gwelwi wrth weled y Fagddu Yn cuddio goleuni yn amdo y claddu." Peresim: Dewisodd hwn ganu yn ddiodl, ac ni fu hynny yn fantais iddo. Wele engraifft o'i ganu: Ymlaen yw'r nerthol floedd gyflym- ma'i lu Ym mlaen nes croesi bedd yr olaf un Sy'n ymladd dros y gwan. Wedyn: Yn ol yw'r neges oer sy'n rhyni ar Wefusau gwelw ein gwroniaid hoff." Nid oes lewyrch ar beth fel hwn mewn can fer. Barnaby: The writer lingers before coming to the real subject. Though the lines read pleasantly enough they rise little above the commonplace. Example Get ready for the conflict, boys, cried an Uhlan mad with rage, And we'll give those hungry Britons steel, with no respect for age." Gweledydd: Dyma ymgais i ganu yn deg ar y testun, ond ni wneir hynny yn deheuig. Oeir hwn a thebig iddo: Beth ddaeth i chwi, breswylwyr gwlad tangnefedd, I erch drybestdod cadfaes erch ei ru." Dyna digon i'w droi o'r neilldu mewn cystadleuaeth. Dan eu Cysgod Can hwn yn wastad a thawel, ond andwyir ei gerdd gan dor mesur a man frychau, ac i hyn yr ar- weinir ni ar y diwedd. Ymweliad angylion ym Mons a rydd Bob clogwyn drwy'r cread ar dan i Ffydd. Newydd i ni oedd gweld fod "Rwsiaid" yno. Dawel Nos Mae'r gan hon yn ddwys, ond nid yw yn ddigon gofalus. Beth feddylir wrth "tyrau'r nos" ac "anwyl- iaid yn griddfannu i gyfeiliant cenedl aflan?" Llinell yma a thraw sydd yn dinistrio'r canu hwn. "Mae maddeuol donnau'r gwynddydd." Blaen y Wawr: This is a poem of some merit, easily the best of the Eng- lish compositions. One feels never- theless that nothing but the need of rhyme. calls for many of the words used in such phrases as "their gory harvest raze," before God's withering scorn to rhyme with "dawn." The poem is not so finished as the best in the competition despite its literary flavour. Gwilym Gwyr: Dyma fardd cyfar- wydd, ond nid yw yn sicr o'i waith y tro hwn. Mae ei ddefnydd o'r gair gagendor yn dinistrio pennill cyfan. Ceir hefyd fan frychau, ac nid cryfder i'n tyb ni oedd dwyn "Arthur" i fewn i'r canu a gorffen y gerdd arno. Pe gofynnid am ddarn adroddiadol byddai hwn yn nes i'w le. Afallon: Dyma awenydd y gystadleu- aeth. Peryglodd ei safle ag ymadrodd- ion fel "ermig gobaith." Ar wahan i hyn can yn farddonol a gorffenedig er y gallasai yntau roi mwy o sylw i'r angylion. Nid yw'r goreu'n ein llwyr foddloni, ond teimlwn mai Afallon sydd ychydig ar y blaen. Gwobrwyer ef. Ar air a chydwybod, LLYNFI DAVIES.
Penywaun.
Penywaun. Gyda mesur o alar y cofnodwn am farwolaeth Mrs. Jane Williams, annwyl briod Mr. John Williams, gynt o Benderyn, a ddigwyddodd nos Wener, Mehefin ail, yn 68 mlwydd oed. Byr gystudd a gafodd v chwaer a dioddefodd heb rwgnach. Hanai Mrs. Williams o du ei mam o hen gyff enwog y "Rhyses o Gelli- Benuchel," Penderyn-teulu fuont yn dal swyddi uchel yng ngweithfeydd haiarn, Llwydcoed ac Abernant gynt. Gwraig rinweddol oedd hithau, ac iddi air da gan bawb o'i chydnabod. Mor siriol a chroesawgar ydoedd hi a'i phriod bob amser pan alwem i'w gweled. Clywsom y ddiweddar Mrs. David Powell, Cwmnant, Ystradfelite, yn dweyd na fu yn ei gwasanaeth hi erioed hafal i Jane am loewder a threfn a gonestrwydd pan yn byw yn Lamb Inn, Penderyn, 55 mlynedd yn ol. Cofiwn yr adeg yn dda. Gedy fab a merch, sef Mr. Evan Lewis, contractor, Penywaun, a Mrs. J. Hopkins, Llwydcoed, ynghyda thair o chwiorydd i alaru ar ei hoi a phriod hoff, Mr. John Williams, a Thad pob diddanwch a'u cysurant yn eu trallod. Daearwyd ei gweddillion ddydd Mercher, 6ed cyfisol, ym Mynwent Eglwys Penderyn, pryd y gwasanaeth- wyd gan y Parchn. D. Williams, Llwydcoed, a Ll. Jenkins, Rector Penderyn.—DEWI CYNON.