Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Catiau Cwta Catwg.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Catiau Cwta Catwg. Atgofir pawb o honom yn awr ac yn y man, yn ein gwahanol amgylch- iadau yn y byd anwadal yma, am o leiaf ddau ddywediad hen ac adna- byddus iawn, sef, yn gyntaf, "Nad oes anrhydedd i broffwyd yn ei wlad ei hun," ac, yn ail, "Na ddylai neb broffwydo oddieithr ei fod yn gwybod." Rhaid i bawb addef fod yr olaf a'i sail ar graig gadarn y gwirionedd, ond am y blaenaf tuedda rhai o honom i dybio ei fod yn debig i "almanac newydd—peth yn wir a. pheth yn gel- wydd." Boed hynny fel y bo*, beth a feddylir yn bresennol yn yr adeg fwyaf barbaraidd a thrallodus yn hanes y byd am y geiriau, "gobeithiol a "phroffwydol," a roddir yn y tri dyfyniad canlynol? i.-Dyfyniad o "Drysorfa y Plant," chwe mlynedd yn ol, ynghylch marwolaeth ein diweddar Frenin, Edward VII. Ei waith cyntaf ar ol ei goroni oedd rhoi gwledd i holl dlodion Llundain. Yr oeddynt yn bum can mil mewn nifer, a chostiodd y wledd dros ugain mil o bunnoedd. Y mae Edward VII. wedi rhoi llawer o wleddoedd, cannoedd os nad miloedd o honynt; gwleddoedd i frenhinoedd a thywysog- ion a doethion y ddaear; gwleddoedd yn costio miloedd o bunnoedd ac yn arddangos holl dalentau y palas, ond yr un wledd hon i dlodion y ddinas aiff i lawr i dragwyddoldeb. Gall- wn fyned ymhellach hyd yn oed na hyn, a dweyd fod cariad brawdol cynhesol Edward VII. wedi gadael ei fare ar y byd yn gyfan." "Mae'n debig iawn y buasem mewn rhyfel heddyw oni bai am dano ef. Dechreuodd ei oes gyda'r bwriad i -wneyd i ryfeloedd beidio- hyd eithaf y ddaear. Pan ddechreuodd deyrnasu, yr oedd ein gwlad ni yn sefyll heb ddim un cyfaill ymhlith yr holl wled- ydd ar y Cyfandir. Ond trwy waith y Brenin Edward VII., yr ydym o fewn ychydig o flynyddoedd wedi ff urfio, cytundeb a Ffrainc, cytundeb a Ysbaen a Portugal, cytundeb a Rwsia, a chytundeb k Germani, heb son am y cytundeb rhyngom ni a Japan. Cytundeb a Germani! Beth yw ei werth heddyw? "Scrap of paper, medd gwas y d 1 2.—Dyfyniad *o rifyn arall o "Drysorfa y Plant am yr un flwyddyn :—"Peth newydd yn hanes y byd yw y lie mae y Beibl yn ei gael heddyw ym mysg Mahometaniaid Twrci. Mae ganddynt erbyn hyn ddeugain mil (40,000) yn eu hysgolion a'u colegau yn darllen ac yn astudioi Gair Duw bob dydd. Mae y byd yn synnu gweled plaid newydd Twrci yn cymeryd i fyny y geiriau, 'Cydraddoldeb a Brawdgar- Nvch I ('Equality and Fraternity'). Mawr yw y syndod wrth glywed y Sheik, pennaeth crefyddol y Ma- hometaniaid, yn dweyd fod llyw- odraeth gyfansoddiadol yn cael ei chefnogi gan y Koran, llyfr crefydd y Mahometaniaid, ac yn dweyd. fod Cristnogion, y rhai oeddent yn addoli yr un Duw a'r Mahometaniaid, a lie iddynt ym Mharadwys, ac mai eu dyledswydd hwy oedd amddiffyri y Cristnogion a'r luddewon, oblegid gerbron y llywodraeth a cherbron Duw eu bod yn gyfartal. Dyma ddylanwad darllen y Testament New- ydd yn Twrci, ac onid yw yn arwydd amlwg fod dyddiau gwell ac amsef bendigedig gerllaw?" "Nac ydyw," crochlefa ysbrydion y Cristnogion a gigyddiwyd i farwdlaeth gan y Ma- hometaniaid yn ystod y ddwy flynedd diweddaf yn unig yn nhiriogaethau'r fwrc mwy o Gristnogion llofrudd- ledig, yri hen ac ieuanc, ac o'r ddau ryw, yn wir, nag sydd o drigolio,n drwy Gymru oil, o Gaergybi i Gaer- dydd 3.-Dyfyniad 0' "Seren Gomer," saith mlynedd y.i -ol:Uchelgais penaethiaid Germani yw eistedd ar orsedd lywodraethol holl wledydd y ddaear. Yn y ddeunawfed ganrif cod- odd Frederic Fawr Prwsia i safle filwrol. bwysig. Deugain mlynedd yn pl gwleddodd y Prwsiaid a'r German- iaid ereill ar waed Ffrainc, a choron- Wyd William I. yn Ymherawdwr Germani. Ymbesgodd Germani ar ei llwyddiant, a breuddwydiodd am fuddugoliaethau ereill. Carwr tawel- wch a heddwch oedd Frederic, mab William I., a'i wraig yn chwaer i Edward, Brenin Prydain. Yn an- ff Odus, bu Frederic farw ar ol ychydig wythnosau o deyrnasiad. Dilynwyd el gan ei fab, William II., yr Ym- lefawdwr presennol. Gwelcidd ef erbyn hyn ugain mlynedd ar ei orsedd, er o foesau pur, digon coegfalch, uchelgeisiol a hunanol y w efe i ym- 41, cldu am fod yn ben coronog y byd. 1 gwmpas ceir clymblaid o swydd- :lr 11awn ysfa am ogoniant milwrol a enonaeth Germani ar holl deyrn- asoedd y byd. Cyd-ddylanwada Wil- '[' .I y. ,y v anwa a I "am a'i swyddwyr ar eu gilydd. Yn ystod y deugain mlynedd diweddaf milwriaeth yw nodwedd arbennig Germani. Ystyrir ei byddin yr un oreu ar y ddaear. Prydain yw rhwystr Germani i lywodraethu dros y byd. Ystyrir Llynges Prydain y gryfaf ar y moroedd, felly penderfynodd Germani adeiladu Llynges gyfartal mewn nerth ac effeithiolrwydd i eiddo Prydain. Brysia Prydain i adeiladu llongau rhyfel o faintioli anferth, er mwyn parhau ei blaenoriaeth gymharol ar y mor. Dyma gyflwr gwareiddiad a Christnogaeth dwy wlad Brotestanaidd yn nechreu yr ugeinfed ganrif. Gwrided dynion, wyled angylion." Yr oedd awdur y geiriau rhybuddiol uchod yn ddilys yn sylwedydd a fedrai weld a deall arwyddion ei ddydd yn eu lliw a'u llun priodol, ac felly yn "broffwyd oedd yn "gwybod ac yn deilwng 0 anrhydedd "yn ei wlad ei hun." Mawr yw ein colled nad ydyw ein Seneddwyr yn ddynion o ddawn i ddarogan mor ddiamheuol ag ef CATWG. I

Glyn Nedd. I

Cofgolofn Dewi Alaw.

Nodion o Lannau Aman. I

[No title]

Pum Mlynedd ar Hugain y Symudiad…

Gair at Mr. D. D. Jones yn…

Li SflRZfNE " BLOOD MIXTURE.…

Advertising