Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

At fy Nghydwladwyr. j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

At fy Nghydwladwyr. j LL YTHYR III. Annwyl Ddoctor Arddull ac Orgraff,— Y mae eich gwaith yn gofalu am burdeb arddull ac orgraff y Cymraeg yn deilwng o edmygedd a chlod mawr. Rhoddwch eich amser a'ch meddwl (heb ddisgwyl am wobr) at wasanaeth iaith eich mam. Y mae eich llafur yn werthfawr ar lawer cyfrif, ac o ddi- ddordeb i lawer sydd a'u meddyliau yn yr un cyfeiriad. Ni fynnwn er dim leihau y pleser a gewch chwi a hwythau yn edrych i mewn i darddiad geiriau a ffurf ymadrodd. Y mae yn dasc ardderchog i ddatblygu'r meddwl ac yn ychwanegu at eich diddordeb yn ysgrifenwyr yr iaith yn y gorffennol. Ond yr ydwyf yn ofni nad ydych wedi sylweddoli eich bod wrth roddi gormod o bwys ar y pethau hyn yn gwneud mwy na nemor o neb i brysuro dydd angladd yr iaith. A wyddoch chwi fod yna gannoedd o Gymry a siaradant fwy o Gymraeg nag o un- rhyw iaith arall na wnant fyth fentro ar yigrifennu llythyr yn y Gymraeg rhag i rai o'ch bath chwi gon- demnio'r orgraff neu yr arddull? Gwyddoch nad ydych fel doctoriaid yn cytuno yn eich plith eich hunain ar lawer o faterion, a chan fod eiddilod yn methu dewis rhyngoch, ysgrifennant mewn iaith arall. Pe wahaniaeth mewn difrif pa un ai "neullduol neu "neilltuol a ysgrifennir? Paham nad ellir gadael materion bychain fel hyn yn agored, fel y gallo pobl gyffredin ysgrifennu heb ofn barn condemniad. Nid sut y sillebwyd geiriau yn yr oesoedd gorffennol pell sydd bwysig, ond a fydd neb yn sill- ebu'r iaith yn yr oesoedd dyfodol. Y mae yna fanteision lawer a phwysig mewn bod cenedl yn ddwy- ieithog, ond y mae yna beryglon hefyd. Un o'r olaf yw y gall dyn o dipyn i beth roddi cymaint o sylw ar arddull a geiriau, nes colli golwg ar fater a neges llenyddiaeth. Wedi'r cwbl nid yw geiriau ond modd i fynegu, yr hyn fynegir sydd bwysig. Os bydd dyn yn ysgrifennu yn glir ac effeithiol pa wahaniaeth am bethau bychain sydd ar y goreu yn ami ond mater o farn bersonol? Bu gan ysgrifenwyr mawr yr oesau ormod i'w ddweyd i gael amser i ymdrafferthu byth a hefyd ynglyn a phethau bych- ain. Gwyddoch mai digon diofal oedd Shakespeare yn ami o bethau bychain, a pha beth a feddyliwch chwi am ar- ddull Carlyle? Dywedir i Robert Louis Stevenson dreulio oriau a dydd- iau ambell dro yn caboli brawddeg. Y canlyniad fu iddo gyrraedd at ar- ddull ardderchog, ond a welsoch chwi wisg mor berffaith erioed ar fater cymharol deneu ? Dywed Arnold Bennett fod nofelwyr goreu y byd erioed naill ai wedi anwybyddu cel- fyddusrwydd i raddau mawr wrth ysgrifennu neu wedi methu yn y mater hwn. Ysgrifennodd Cymro rai blynydd- oedd yn ol lyfr yn y Saesneg ar fater dyrus a phwysig. Adolygwyd y llyfr mewn llawer o bapurau pwysig Lloegr, a chytunasant ei fod wedi gwneud ei waith yn feistrolgar, ac ni soniodd yr un o honynt am feiau mewn arddull iaith. Ond barnwyd ei ar- ddull yn fanwl a chaled gan un o'n papurau Cymreig. Yr ydym fel pob] dwyieithog yn gyffredin yn barod iawn Jam ein bod yn fwy 0 feistri ar iaith na phobl unieithog) i farnu mater o iaith. Gwyliwn rhag v rhoi gormod o fri ar y gair, a cholli golwg ar bwysigrwydd y mater. Hapus iawn wrth gwrs fyddai cael setlo mater yr orgraff unwaith am byth. Ond nid gwaith un dyn fydd hynny, ac yn araf y daw. A phan y daw gobeithiwn mai ar sail sain geiriau y penderfynir y ddadl ac nid ar sail orgraff yr hen lawysgrifau. Trowch eich gallu i gyfeiriadau ereill! Ceisiwch gael gan y werin bobl ymhyfrydu- yn llenyddiaeth Cymru i raddau mwy nag a wneir yn awr. Ysbrydolwch y bobl i siarad y Gymraeg yn hytrach na'r Saesneg Cyfoethogwch yr iaith drwy Gym- reigeiddio geiriau pwysig o ieithoedd ereill, ac ysgrifennwch lenyddiaeth fydd yn tanio'r genedl a'r gwir ys- bryd Cymreig Tra yr ydych chwi a'ch cyfeillion yn ymrafaelio ynghylch esgyrn sychion yr iaith, yr ydych yn colli golwg ar ddylanwadau cryfion sydd yn peryglu ei bodo ,laeth. Y t eiddoch, AIW JiJts YJJ.

Advertising

Llith y Tramp. I

Advertising

Atgofion am Gilfach Goch.

I -Cefn Onn.i

Advertising