Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Llythyrau at y Golygydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llythyrau at y Golygydd. ATEBIAD SARNICOL. Syr,—Diolch i Sarnicol am ei ateb- iad parod, er fod ei sylwadau yn hollol ddibwynt ac' yn gwbl ddi- werth. Gofynnais a yw yn bosibl seinio geiriau fel "hoyw" a "gloyw" yn unsill heb gyflawni gwyrth ar beiriannau llafar? Nis gall bardd na cherddor eu canu na'u siarad heb wneud deusill ohonynt. Gan hynny, pa synnwyr svdd mewn dal i haeru mai unsill ydynt? Dug Sarnicol bedwat esgysawd dros ei gyfeiliornad. Y cyntaf yw fod rhyw feirniad arall wedi dweyd hynny o'i flaen. Pam, ni ddywedir. Tybed fod yn rhaid i feirniaid ddilyn eu gilydd fel defaid drwy fwlch yn y clawdd? Onid oes hawl gan feirniaid 0 feddwl annibynnol 1 gywiro hen draddodiadau pengoll? Credid gynt fod yr haul yn troi, a'r ddaear yn sefydlog, ond nid yw hynny'n rheswm dros lynu wrth y cyfeiliornad. Ail adnod Sarnicol yw hon, "Nid yr un yw gramadeg awdl a gramadeg can. Cyfystyr yw hynny a dweyd fod deddf sefydlog yn gweithredu'n groes iddi ei hun. Y mae deddfau iaith yr un mewn traithawd, awdl, a ehan. Mae'n wir y goddefir pethau yn y naill nas goddefir yn y Ilall, ond goddefiadau ydynt, ac nid oes hawl gan fympwy neb i'w gwneud yn rheol. Trydydd rheswm Sarnicol yw mai unsill yw "meirw" gan Oronwy Owen ("Cywydd y Farn "). Dywed- odd bardd wrthyf y dydd o'r blaen fod Y llinell wallus hon yn y cywydd hwnnw — Gosteg a roir ac ust draw. Yn awr, yn ol ymresymiad Sarni- col, y mae llinell wallus yn gywir, am ei bod yng ngwaith Goronwy. A oes ronyn o synnwyr mewn peth fel hyn? Gofynnais i Sarnicol a ellir canu'n unsill eiriau fel "gloyw," "meirw," "cadw yn un o benhillion Ann Griffiths? Yn hytrach nag ateb y cwestiwn, fel hyn yr osgoir ef, "Nid am gywirdeb sillafau y mae Ann Griffiths yn anfarwol." Nage, wrth gwrs, ond nid anfarwoldeb yr emyn- yddes yw y cwestiwn, eithr a yw Sarnicol neu rywun arall erioed wedi llwyddo i ganu'r geiriau hyn yn un- sill? Dyna'r hyn wyf am gael eglur- had arno. Gwn yn dda beth oedd ar- fer yr hen feirdd, ond pam yr arferent eiriau deusill yn unsill? A oes rhyw- un a etyb' ? Y mae Sarnicol wedi methu. A gawn ni farn y beirdd a'r cerdd- orion ar hyn? Ble mae Brynfab, Dyfed, J. J., Ap Hefin, Gwydderig, a'r Eryrod sydd ym mhluf eu gilydd yn y "Darian"? Pa un ai unsill ynte ddeusill yw geiriau fel gloyw, marw, carw, tarw, etc.—Yr eiddoch, etc., SOL FFA. LLOSGI YSGRIFAU Y CYMRY. I (e Sir,-Y mae yr hen ohebydd ffyddlon, Murmurydd," yn ceisio ychydig o oleun.l ar yr hen draddodiad uchod. Y mae chwedl yn adroddedig yn rhag- ymadrodd Peroriaeth Edward Jones, Bardd y Brenin, ynglyn a ddigwyddiad a fu ar yr amser yma, yr hyn, os gwir, sydd dra alaethus. Dywedir fod am- ryw o'r pendefigion Cymraeg ar y pryd hyn yn garchorion yn y Twr Gwyn yn Llundain, ac iddynt er difyrru eu ham- ser gael caniatad i'w llyfrau gael eu dWYn atynt yno, o Gymru ac felly y Twr Gwyn a ddaeth i fod yn brif gyllidfa hen ysgrifau Cymraeg. Ond er galar "I gwlad y casgliad hwnnw a losgwyd °U trwy ysgelerdra un o'r enw 'Scolan,' am yr hwn nid oes dim ychwaneg yn hysbys, ac er cadarnhad o'r haeriad nwn, dywedir fod gan Guto'r Glyn, bardd enwog o'r 14eg ganrif y llinellau canlynol yn un o'i gyfansoddiadau: Llyfrau Cymry a'u llofrudd I'r Hwr Gwyn aethant ar gudd; Ysgeler oedd Ysgolan Fwrw'r twrr llyfrau i'r tan." Y mae rhai yn ameu cywirdeb y chwedl uchod, o herwydd na cheir un cofiant, hanesiol idd ei chadarnau. I dichon y gall fod rhyw ran o honi yn WI:, ond fel y bu ynglyn a galanastra y belfdd gall fod y weithred wedi tyfu "awer trwy ail-adrodd. Gweler hanes  gan Carnhunawc, 1842 (tudalen ?S). Gallaf gadarnhau yn onest yr ?yR a ddywed (Carn) oherwydd y mae Y" fY meddiant heddyw y rhagymadrodd 1 Peroriaeth Edward Jones; ac er imi wilio llawer o farddoniaeth Guto'r OIYU, yr wyf hyd yn hyn heb ganfod y P,11 nglyn ei enw. Bardd Abad Glan gwestl, Llangollen, a bardd teulu euan Fychan, o Foeliwrch, yn Llan- l n, .oedd Guto'r Glyn. Blodeuai o j 0 1 1480. Ymddengys yn ol Owen os mai Sion ab Risiart, Sion Abad, W dd Arglwydd teirswydd, sef Ial, y ah aUn, a Maelor. Yr oedd lie da yn yr abaty yn ol darlun Guto: "Tri bwrdd a bair i'w borth Tair siamber yn trwsio ymborth A'i law yntau fel Antwn A laif rhudd,—ei lyfr yw hwn I ladd saith, lewaidd Sion, Marwol bechodau mawrion. Cynnal y mae'r Card'nal cu Cost y llys, castell lesu, Gwledd echdoe a doe'n ei dy Gwledd can' annedd cyn hynny." Ond er brased byd oedd yn y fynach- log, yr oedd yn well gan Guto dreulio y gwyliau Nadolig ym Moeliwrch, a dy- wedai leuan Fychan: Nid micar a'n hysgar ni, Na brawd a wnai briodi; "Nid esgob enw dewis gair, Nid Pab, ond Mab Mair. j dd I Treuliodd Guto lawer o'i amser gyda Herbertiaid Caerdydd a Rhaglan, a chanodd lawer i foneddigion Gwent a Deheubarth. Yr oedd yn babydd trwyadl, a syrthiodd i lawer o ymryson- au barddonol. Mae 90 o'i gyfansodd: iadau ar gael mewn Llsg. (gweler Arch Camb. 1, 1-25)-Owen Jones. Y trysor pennaf yn fy meddiant heddyw ydyw hen Gywydd o waith leu- an Deulwyn o Forgannwg, yn llaw- ysgrifen Hwmffra Llwyd," i William Hybart o Colbrook. Ar ol dyddiau Guto'r Glyn—Dafydd Benwyn oedd bardd teulu yr Herbertiaid, a chanodd gywyddau gorchestol iddynt hefyd. Wele ddarluniad byr o'i eiddo, o'r hen balas yn y pant ar lan yr Wsg: Gwenithdir, glo dir, gloywdeg, Gweirdir, coetir, pob tir teg Marldir, mwyndir, dyfrdir da, Maen nadd dô, maen a wedda." Eto ceir hyn yn ei farwnad i George Hybart: Tra bo lleng ar dir, tra fo llong ar don, Tra fo iach yn y byd, tra fo ych yn y bon, Tra fo huno maith, tra fo enwi Mon." Treuliodd Dafydd lawer o'i amser gyda Morganiaid o Dredegar, a chan- odd yn ardderchog iddynt am flynydd- oedd lawer. Dyma fel y cyfeiria atynt: Un rhoddion gwychion yw'r gwir, A'u dugiaid o Dredegar; Un gair geir ddeunaw cant, Un foliant a'r hen filwyr. Y milwyr3 mi a welais Ugain mil a gaent i maes Ar ofalfyd rhyfel feirch, A gwyr meirch goreu yn f'oes. Goreu. yn foes gwyr am win, Goreu ymysg y werin Gwelaf yn lanaf o lin brenhinoedd, Gwyr lluoedd y Gorllewin. Dyma fel y dywed Llewelyn Sion yn ei farwnad am Dafydd Benwyn: Llenwir gwlad a'i ganiadau, Llith gwirddysg, llwyth ei gerddau Llawerodd o gall eiriau, Llu rhinwedd llwyr o'i enau; Lluaws yn hardd eu lliwiau, Llewyrch gwir hir i barhau. Y mae gennyf ysgrifau yma mewn hen lyfrau am losgi llyfrau yr hen Gym- ry yn y Twr Gwyn, ond yr wyf heb ddyfod o hyd iddynt hyd yn awr modd bynnag chwiliaf eto yr hen gylchgron- au, Seren Gomer, Brythori, Gwylied- ydd a Chylchgrawn Trefeca, yna dan- fonaf air eto, os bydd ynddynt rywbeth neilltuol ar y mater, er budd i ddarllen- wyr mwyn y Darian.—Yr eiddoch, yn wladgar, JOSIAH JENKIN S. NEUADDAU TRWYDDEDOL Y RHONDDA. Y GATH A'R "LLYGOD." Barchus Olygydd,— Dywed Llais Llafur iddo ymaflyd yn y cledd i amddiffyn torwyr Saboth y Rhondda, heb fod yn chwerw ei ysbryd nac yn "erlidigaethus o gwbl." Ond cyflym iawn fu ei gwymp i dir t atgas chwerwder ac erlid. Yr wythnos hon sieryd am fy llythyr blaenorol fel trwyth afiach a gwenwynig a ymar- llwysodd o'i ysbryd maleisus a chenfi- genllyd." Yn ol addefiad y brawd hwn, gan hynny, peth afiach a gwenwynig,- ffrwyth malais a chenfigen,-ydyw dad- leu o blaid cadw'n santaidd y Seithfed dydd! Gresyn yn wir na fyddai mwy o'r cyfryw afiechyd ac o'r un gwenwyn yn y wlad; gresyn hefyd na fyddai "Llais Llafur," a'r blaid y perthyn iddi, yn dioddef oddiwrth effeithiau'r ddau. Dywed ymhellach iddo betruso cyn ateb fy llythyr, gan ddywedyd i mi ym- atal rhag gwneud unrhyw ymgais i wrthbrofi yr un iota o'r hyn a ysgrif- ennodd efe. Prawf y sylw penwaij hwn y perthyn Llais Llafur i hen urdd y "pennog coch." Cyfarwydd yn ddiau yw ddarllenwyr goleu'r "Darian" a'r hen ddyfais ddadleuol o osod red her- ring ar draws llwybr dadl, gan ddisgwyl i arogl hwnnw ddenu bryd dyn oddiar y pwnc a fyddb dan sylw. Prawf "Llais Llafur ei hun yn feistr perffaith ar y gelf blentynnaiad honno. A chan na ddywedais i ddim a oedd yn werth sylw, cymmer y "Llais" golofn a hanner o'ch gofod i ateb yr hyn a ddywedais! Der- bynied darllenwyr y "Darian" yn ddi- oed gyngor "Llais Llafur." Bydded iddynt ddarllen yr ymdrafodaeth hon Q'r cychwyn, a bydded iddynt ffurfio barn annibynnol parth teilyngdod y ddadl o'i ddeutu. Ehyfedd os na orch- fygir hwynt yn llwyr gan arogl llethol hen bennog coch y Llais!" Priodola "Llais Llafur" y syniad i mi mai pechod mawr gweithwyr y Rhondda ydyw eu bod wedi cymryd yn eu pennau i ddanfon dynion o'u plith eu hunain i'w cynrychioli ar y Cyngor Dos- barth." Ar ba achlysur y rhoddais i ddatganiad i'r syniad yna? Gwyr "Llais Llafur" yn eithaf da fod ei gy- huddiad yn gwbl ddi-sail. Pan orfodir dyn i fyned ar ofyn ei ddycliymyg, ac i ruthro ar garlam i dir anwiredd ar gefn y march cyfleus hwnnw, y mae'n eithaf eglur fod ei achos ar ben. Nid wyf yn gwarafun i'r gweithwyr lywodraethu. Ond hyd nes y gwelir eu cynrychiolwyr yn y mwyafrif ar y Cyngor Dosbarth, ynfydrwydd a ffolineb dibendraw ydyw i rheiny hawlio'r llywodraeth i'w dwy- law. Y mae'n amlwg ddigon na ddysg- odd Llais Llafur a'i debig eto'r wyddor werinol, sef yw honno, mai i'r mwyafrif, trwy eu cynrychiolwyr dewis- ol, y perthyn yr hawl i ddeddfu ac i lywodraethu. Am fod mwyafrif Cyngor Dosbarth y Rhondda wedi pleidleisio'n groes i ddymuniadau "Llais Llafur" a'i gwmni, euog ydynt o gaethiwo'r gweith- wyr, ac felly yn y blaen! Eled y 'Llais' yn ei ol i'r ysgol am dymor, a dysged wrando ar "leisiau" eraill llai cul, mwy goleuedig, a mwy rhesymol. Dywed y Llais," ac nid wyf am eil- iad yn ei wadu, mai gweithwyr ydyw ffyddloniaid y capel fel rheol." Ai tybed fod y ffyddloniaid hyn yn galw'n groch am gael agor y neuaddau ar y Sul? Os nad ydynt, a faidd "Llais Llafur" haeru ei fod ef a'i ddosparth yn eu cynrychioli 1 Ac onid yw llais y ffyddloniaid yn yr eglwysi bwysiced, a dweyd y lleiaf, a llais yr anffyddloniaid y tu allan i'r eglwysi? Pwy yn y byd fedd well hawl i benderfynnu tynged y Saboth yn y Rhondda na'r gweithwyr a geisiant barchu'r dydd? Atebed "Llais Llafur y gofyniad syml hwn yn glir ac yn bendant. Ond, medd y "Llais," gan fyned yn wanach o hyd, ni chafodd gweithiwr eto'r anrhydedd o eistedd yng nghadair yr Undeb. Y mae'n amlwg oddiwrth hyn mai Annibynnwr ydyw, neu, yn debycach, oedd, y "Llais." Os felly, bid rhwng gwyr Pentyrch a'u gilydd. Ond cafodd gweithwyr ymhob enwad arall yng Nghymru eistedd mewn llawer cadair o fri, ac nid oes dim a saif ar eu ffordd yn awr i ddringo i'r swyddau pwysicaf ym myd crefydd. Ond gwn yn dda am lawer o weithwyr da, a, gonest yn Neheudir Cymru na chawsant hyd yn oed y swydd ddistatlaf gan eu cyd- weithwyr am wrthod o honynt blygu i addoli'r Baal Sosialaidd. Ac o'r blaen. i'r swyddi hynny, dewiswyd dynion o gymeriadau amheus ac o dueddiadau gwrth-grefyddol. Dywed y "Llais" am weinidogion, masnachwyr, ac eraill o 'blant y werin' fod "y rhan liosocaf o honynt wedi anghofio'r graig y'u naddwyd o honi a'r ffos y'u cloddiwyd o honi?" Dichon fod "Llais Llafur" yn credu mai gwell yw aros yn y ffos na chodi ohoni! Pan y gwelir gwr o weithiwr yn cael ei draed ar gefn yr hen fyd yma, y mae hwnnw yn ol syniad rhai o garedigion Llafur yn peidio a bod yn werinwr. Ond derbyn- ir yn groesawgar arweinyddiaeth swyddog gwladol fel Snowden, neu ys- golfeistr fel MacDonald,—dynion y gellir ddweyd am danynt na fo offeryn- nau gwaith yn eu dwylaw erioed. Rhagor Pwy yn gyflymach a,c yn llwyr- ach sydd yn anghofio'r graig a'r ffos na'r arweinwr llafur hynny a ddyrchaf- wyd i swyddi gan y gweithwyr eu hun- ain? Os nad gwir yw hynny, paham y ddygir y cyhuddiad ymlaen beunydd gan weithwyr Deheudir Cymru ? Y mae hawliau'r eglwys," medd Llais Llafur, fel pob cymdeithas a,rall yn ddarfod pan fydd ei thraed ar dir- iogaethau hawliau eraill." Dysged "Llas Llafur" a'i gyfeillion y wers yna cyn iddynt ruthro i addysgu eu gwell. Y mae hawliau Sosialwyr yn ddarfod pan y bydd eu traed hwy ar diriogaeth- au hawliau pobl eraill; ac y mae'n hen bryd i'r cyfeillion hyn sychu eu traed cyn croesi ohonynt drothwy hawliau cysegredig crefyddwyr. Fe'm cyhuddir gan y "Llais," sydd erbyn hyn yn fain iawn a bron distewi a mynd yn. fud, o addoli'r Meddyg o'r Ystrad. Os yw dynion yn wrthrychau addoliad eu eyd-ddynion, I addefaf yn rhwydd fod yn gan mil gwell gennyf addoli'r meddyg galluog na'r quacks gwynebgaled a haerllug sy'n denu serch Llais Llafur a'i debig. Eddyf y "Llais" i'r meddyg arbedd ei fywyd, ond prawf ei lithiau i'r quacks beri iddo golli ei ben! I ddiweddu, dywed "Llais Llafur" mai yn syml ddigon y gellir profi mai termau cyfystyr y^yw.Sosialaeth ac an- ffyddiaeth. Medd efe Dau anhepgor hynny ydynt: Anwybodaeth hollol o egwyddorion a safbwynt Sosialaeth, a haerllugrwydd anffaeledig i haeru. yr hyn nad yw yn wir A chan chan fod rhai o Sosialwyr amlycaf Prydain a'r Cyfandir wedi datgan eu barn ar ddu a gwyn mai enw arall ar anffyddiaeth ydyw Sosialaeth, fe'n sicr- heir gan Llais Llafur fod y Sosial- wyr byd-enwog hynny yn euog o "anwy- bodaeth hollol" ac o "haerllugrwydd anffaeledig!" Prawf hyifgymaint yw cariad a brawdgarwch y Sosialwyr, y naill tuag at y llall. Dywed Llais Llafur iddo ddar- llen y "Freethinker rai wythnosau'n ol, ac iddo gael bias ar ryw erthygl yn yr wythnosolyn anffyddol hwnnw. Diolch yn fawr i Llais Llafur am ein goleuo gyda golwg ar ei hoff lenydd- iaeth. Teifl hyn oleuni pwysig ar ei gyflwr meddyliol. Buasem yn barotach i wrando arno pe dywedasai iddo fod wedi darllen ei Feibl. Ond o'i gymharu a'r "Freethinker," a'i erthyglau 'gallu- og,' dichon fod yr Hen Lyfr maes o ddate !—Yr eiddoch, GWYLIWR. O.N.—Gan fod pob pwynt o werttf yn Ilythyr "Dafydd Gam" wedi cael sylw uchod, gwastraff ar amser fyddai sylwi'n fanylach ar ei waith. Nid yn ami y rhydd dyn, yn ei ffugenw, bor- tread o'i gyflwr meddyliol, ond gwnaeth "Dafydd Gam" hynny. Y mae meddwl "Dafydd" yn rhy "gam" i mi geisio ei unioni..

Advertising

Baicb y Dreth. I

[No title]