Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"Y DARIAN" FEL CYFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFOD All. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn A ddiweddar oddiwrth Vsgrifpn- Mdion Eisteddfodau a roddasent j Ryabysiad yn y Darian eleni, am y wo cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- I.d ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu s
CWRS Y RHYFEL. I
CWRS Y RHYFEL. I ADOLYGIAD YR WYTHNOS. 1.LANW LLWYDDIANT RWSIA. VERDUN 0 HYD. GROEG-Y BACHGEN DRWG. GWLEDYDD Y BEIBL ETO. CYMRU A'R FYDDIN. GAN BERIAH. Wythnos lawn o ddigwyddiadau cyffrous a fu yr un ddiweddaf. Cafwyd datblygiadau newydd yn y sefyllfa ar fwy nag un maes. Parhau i godi mae LLANW LLWYDDIANT RWSIA, gan ysgub-0 byddinoedd Awstria o'i flaen fel yr ysgubo tonnau'r mor y gwmon ar y traeth. Erbyn heno (nos Wener) rnae y Rwsiaid wedi cymeryd o leiaf 200,000 o'r Awstriaid yn garchar- orion. Dywedir heno fod o 50,000 i 100,000 arall wedi cael eu hamgylchu gan y Rwsiaid, ae nad oes le iddynt ddianc ond i diriogaeth Rwmania ac fel yr eglurwyd yr wythnos ddiweddaf, os hynny a wnant, rhaid iddynt ildio eu hunain yn garcharorion i Rwmania hyd derfyn y rhyfel. LLADD YN DDIDRU GAREDD. Pe bae y Rwsiaid wedi parhau i gy- cieryd carchc^orion fel yn y dechreu, tebyg vw ,j ■ tjjfer erbyn hyn yn xlawer iawn mwy nag ydyw. Ond o fewn yr wythnos a basiodd, tra, y cy- merwyd llai o garcharorion, lladdwyd llawer mwy nag o'r blaen o'r gelyn. Mae dau beth yn cyfrif am hyn, sef 1. Yn ystod y pythnefnos cyntaf, llwyddodd y Rwsiaid i fyned o'r tu 61 i -adrannau cryf o'r gelyn, gan eu dal felly oiewn trap, lie y rhaid iddynt naill ai ildio neu gael eu lladd—a dewisasant ildio. 2. Yr wythnos ddiweddaf erlid ar ol gelyn oedd yn ffoi a wnai milwyr Rwsia, gan eu torri i lawr wrth y cannoedd a'r miloedd. Gyda hyn, yr oedd y Rwsiaid oedd yn erlid-bechgyn ieuainc gan mwyaf na fuont mewn brwydr erioed o'r blaen, yn ystod y pythefnos blaenorol, wedi canfod a'u llygaid a chlywed a'u clustiau engreifftiau ofnadwy o greulon- deb bwystfilaidd y gelyn at drigolion y wlad arwelwyd yn ol gan y Rwsiaid. Yr oedd yr hanesion a'r golygfeydd hyn Wedi poethi cymaint ar eu gwaed, wedi cynhyrfu eu digofaint a'u nwyd i'r fath raddau, fel na arbedent einioes y ffo- f-duriaid hyd yn oed pan daflai y rhai hynny eu harfau i lawr. ct Lladd! Lladd!" oedd y cri,—a lladd didrugar- -eddafu. r. 1, "a,liesid llenwi colofnau a hanesion cyftrous am yr hyn a gymerodd le yn ystod yr erlid ar ol y gelyn. Ond bodd- IOni raid ar un engraifft sydd yn dangos Pa fodd y mae gwyddor a, chelfyddyd ein dyddiau ni wedi trawsffurfio y dull o ryiela. Erlidwyr byddin orchfygedig gynt oedd Gwyr Meirch. A rhai braw- ychus yw Gwyr Meirch Rwsia. Y CEFFYL A'R MODUR. The Cossacks of the Don" yw yr enw a welir yn ami yn y papurau Seis- 'Tng am Wyr Meirch Rwsia. Afon fawr yw r Don, gyda gwastadeddau eang uchel o bob tu iddi. Cosac yw bro- 4or or gwastadeddau hyn. Ar y gwas- a~eddau megir ceffylau bychain, cynym, celyd, nid anhebyg i ferlynod "!leu bonis mynyddau Cymru. Mae pob osac yn dysgu marchogaeth o'r cryd i'r bedd, a baban o Cosac yn medru marchogaeth ymron cyn dysgu cerdded. I&ae'r march a'i ferchog ymron mor galed a'u gilydd, a phob un o'r ddau 11 medru ,byw ar bob tywydd yn yr Wyr agored, ac ar ychydig o fwyd, a hwnnw yn amI yn fwyd digon garw. ?yda hyn mae'r march a'i farchog yn gymaint ffrindiau ag yw'r bugail a'i gi ar fYIydd-dir Cymru-ac yn deall y nail Y n Hawn cystal a hwythau. Mn ° u °^ir yn ami heb gyfrwy na ffrwyn -feI Y gwelir yn ami ar lethrau myn- vdrf °e Cymru. Arfogir y milwyr hanner anwaraidd a farchogant y ceffyl- /aaU n bychain, buan hyn rhan amlaf a gwaewffyn blaenllym, y paladr yn ami yn 8 neu 10 troedfedd o hyd, a'r waew ar flaen y ffon mor llym a blaen nodwydd ddur. Dyma un o'r corffluoedd Rws- iaid a erlidient yr Awstriaid. Dych- myged y darllenydd yr olygfa. Ond heblaw y rhai hyn, sydd wedi bod yn enwog erioed fel gwyr meirch heb eu bath, yr oedd gan y Rwsiaid arf newydd na welwyd mo hono cyn y Rhyfel pres- ennol, sef ceir modur rhyfel. Ceir yw y rhai hyn yn cario gynnau peiriannol (machine guns), tra criw y car yn cael eu hamddiffyn gan furiau haearn y car ei hun. Dyma gerbydau rhyfel mwy ofnadwy a dinystriol na cherbydau rhyfel yr hen Gymry gynt,—neu hyd yn oed eiddo Pharaoh. Gwnaeth y Rws- iaid ddefnydd mawr ohonynt yn y tair wythnos ddiweddaf. Gyrrent ymlaen ar hyd y ffyrdd i ganol rhengau y gelyn, a thrwyddynt, gan saethu tua'r ffrynt ac i'r dde, ac i'r aswy. Dychmyged y darllenydd yr olygfa ofnadwy. Dacw'r cyflegrau trymion yn bwrw tan o'r nefoedd ar fyddin Awstria fill- tiroedd oddiwrthynt, a'r diluw tan yn waeth nag eiddo Sodom gynt. Yna, filltiroedd yn nes yn ol (gan fod y cyflegrau yn saethu dros eu pennau fill- tiroedd ymlaen), dyma'r ceir modur ar- fog yn rhuthro ar y gelyn, gan danio arno ymhob cyfeirind, a thorri drwy ei rengoedd. A tra'r ceir marwol hyn yn teithio'r ffyrdd, wele heidiau o'r Cosac- iaid gwylltion yn carlamu ar hyd a lied y wlad o bob tu i'r ffyrdd a dramwyid gan y ceir, gan godi eu rhyfelgri oer, Howra! Howra!" mewn ysgrechfeydd fel eiddo Indiaid Cochion America, nes gyrru arswyd drw, galon pob gelyn a'u v a I ADRAN BRYDEINIG YN RWSIA. Dro yn ol dywedais am yr adran gref o Fyddin Newydd Rwsia oedd wedi glanio yn Ffrainc ac yn cynorthwyo Joffre yn Verdun. Heddyw mae Adran o Fyddin Newydd Prydain wedi glanio yn Rwsia i gynorthwyo'r dewrion yno i yrru bwystfil rheibus Germani yn ol i'w ffau. Ac Adran o Wyr Ceir Modur Rhyel yw yr adran hon. A gymerasant ran yn yr erlid ar yr Awstriaid yn Bukowina ni wyddis. Ond mae yn adran gref a gwerthfawr y clywir llawer am eu gwronwaith cyn y derfydd y Rhyfel. CWYMP TSERNOWITS. Yr wythnos ddiweddaf rhag ddywed- ais fod Cwymp Tsernowits gerllaw. A hynny a fu. Syrthiodd y ddinas a'i chynnwys i ddwylaw y Rwsiaid buddug- oliaethus, a gyrrwyd y gelyn ar ffo-a ff9i y mae byth! Mae y cyflymaf eu, traed-neu eu cerbydau-erbyn hyn yn dringo llethrau ysgythrog Mynydd-dir Carpathia, o'r lie y gyrrwyd y Rwsiaid yn eu hoi flwyddyn yn ol. Ceisiant yno wneud amddiffynfeydd y Bylchau (Passes) drwy'r mynydd-dir yn gadarn- ach. A rhaid iddynt wneud, a, gwneud yn fuan, canys mae'r Cosaciaid gwyllt a'r ceir modur chwyrn ar sodlau y ffo- aduriaid; ac mae'r Bylchau yn y myn- yddoedd yn arwain i wastadeddau breis- 'ion Hungari a'r gynhaeaf mawr meus- ydd ffrwythlon yr hwn yr ymddibynna Awstria, ac i raddau Germani hefyd, am ddefnydd bara y gaeaf dyfodol. Os medr y Rwsiaid dorri drwy'r Bylchau hyn, a chyrraedd gwastadedd Hungari, a dinystrio y cnydau yd yno, hyd yn oed pe y gorchfygid hwynt wedi hynny, bu- asent wedi torri asgwrn cefn gallu Aws- tria yn y Rhyfel. VERDUN 0 HYD. Ar ol seibiant am rai dyddiau, wele'r brwydro ffyrnig am Verdun wedi all gychwyn, a chyrff y lladdedigion yn cael eu pentyrru ar eu gilydd yn fwy nag erioed. Anawdd gwybod beth sydd yn cymeryd lie y tu ol i linell Byddin Germani. Pe y gwypem hynny gallesid cael rhyw syniad am allu'r gelyn i wrthsefyll yn hir eto. Dywedir fod 180,000 o filwyr Germani wedi cael eu galw yn ol o Ffrainc i wrthsefyll Rwsia yr wythnos ddiweddaf. Tybir fod ymosodiad newydd y Germaniaid ar Verdun wedi cael ei 'fwriadu ganddynt yri awr er gwneud i Joffre gredu fod gallu'r gelyn ger Verdun mor gryf ag erioed. Ond gan nad beth am hynny. er tywallt o hono afonydd o waed, ych- ydig iawn o dir newydd a enillwyd gan- ddo hyd heno. GWRHYDRI'R CYMRY YN FFRAINO Da yw darllen fod y Royal Welsh Fusiliers o'r diwedd yn dechreu cael eu cydnabod am eu dewrder gan yr awdurdodau milwrol yn Ffrainc. Yr wythnos ddiweddaf cyflawnasant wr- hydri dihafal, gan yrru gelyn ar ffo ar ol un o'r ymosodiadau mwyaf peryglus a wnaed eto gan y Germaniand ar linell Prydain. Nid dyma'r tro cyntaf i'r Cymry ar faes y gwaed ddangos fod yspryd can- lynwyr Owen Glyndwr, a, Llewelyn, i Charadog, eto yn fyw. Ond, ysywaeth, ychydig o gydnabyddiaeth a roddwyd 1 weithredoedd nerthol yr adrannau Cym- reig yn adroddiadau swyddogol yr awdurdodau. Gosodir Cymru dan anfantais dirfawr i ennill y clod dyladwy iddi yn y Rhyfel presennol, gan ddau anghyfiawnder a wnaed iddi yn groes i addewidion pen- dant Arglwydd Kitchener a wnaeth efe i Mr. Lloyd George, ac a gariwyd yn genadwri gan Mr. Lloyd George i'r Cymry o Gaergybi i Gaerdydd. Trwy ymdrechion y Cadfridog Owen Thomas, cododd Cymru 250,000 o filwyr i Fyddin Prydain. Addawsai Arglwydd Kitchen- er a Mr. Lloyd George y cawsai y rhai hyn ffurfio Byddin Cymru. Yn y gredin- iaeth honno y danghosodd Cymru ben- baladr sel digyffelyb dros y Fyddin, sel na welwyd mo'i fath yn un rhan o'r deyrnas na'r Ymerhodraeth. Ond yn lie cyflawnu'r addewid: 1. Gyrrwyd cannoedd, miloedd, o Fechgyn Cymru i Gatrodau Seisnig, Ys- gotaidd, neu Wyddelig,—a chyfrifir eu gwrhydri yn eiddo'r gwledydd hynny pan y dylasai fod yn eiddo Cymru. 2. Yn He cysylltu Catrodau Cymru yn Fyddin Gymreig, danfonwyd hwynt hwnt ac yma, rhai i Ffrainc, rhai i'r Dardaneles, rhai i Mesopotamia. Gwasgarwyd gallu Cymru dros holl feusydd y Rhyfel fel na chafodd Cymru, fel Cymru, chwarae teg i ddangos pa beth a all wneud yn y Rhyfel. GROEG, Y BACHGEN DRWG. Bydd tad, neu athraw, weithiau yn gorfod cospi bachgen drwg—nid er mwyn cospi yn gymaint ag er mwyn di- wygio y bachgen. A Groeg yw Bachgen Drwg Ewrop. Cymerodd ei ddenu gan gyfeillion drwg—Germani, Austria, Bwlgaria, a Thwrci. Gwir na ddaeth allan yn gyhoeddus i ryfela i'n herbyn- ond defnyddiodd bob ystryw dWyllodrus i wneud niwed i ni ac i gynorthwyo ein gelynion. Yr wythnos ddiweddaf gal- wyd ef i gyfrif am ei droseddau. Atal- iodd Prydain a Ffrainc bob llong i hwylio nac i mewn nac allan o borth- laddoedd Groeg. Yr oedd prinder bwyd yn ganlyniad naturiol, a'r wlad yn dechreu dioddef. PAHAM Y COSPIR GROEG ? Gofynna rhai pobl, yn eu hanwybod- aeth, paham y beiddia y tri bwli mawr, Prydain, Ffrainc, a Rwsia, ddisgyblu gwlad fechan fel Groeg ? Pa hawl oedd gennym i ymyrryd a hi, fwy nag oedd gan Germani i ymyrryd a Belgium, cyn iddi hi ymosod arnom ni 1 Ar yNgyyneb mae'r cwestiynau yn ym- ddangosXyn rhesymol, a'r gyffelybiaeth yn gywir. Ond ar y wyneb yn unig yr ymddengys felly. Dyma'r ffeithiau :— 1. Y tair gwlad, Prydain, Ffrainc a Rwsia, a fynasant eu rhyddid i'r Groegiaid o gaethiwed y Twrc. 2. Wedi ennill eu rhyddid i'r Groeg- iaid, cymerodd y tair gwlad yvGroegiaid o dan eu hadenydd, fel na chaff ai neb eu gormesu mwy. 3. Un o'r amodau yn y cytundeb a wnaed l'hwng y Groegiaid a'r Tair Gwlad a enwyd oedd, fod Groeg i gael ei llywodraethu yn gyfansoddiadol gan Frenin drwy Senedd etholedig gan bobl rydd-yn ymarferol yr un fath ag y llywodraethir Prydain Fawr gan y Brenin a'r Senedd yma. 4. Ond, yn ei awydd i gynorthwyo ei frawd ynghyfraith y Caisar, darfu 1 Frenin Groeg geisio gaethiwo y genedl, a llywodraethu yn unbenaethol, ac nid yn ol ewyllys y bobl na thrwy ei cyn- rychiolwyr—gan mai felly yn unig y medrai chwarae castiau er cynorthwyo'r Caisar a'n niweidio ninnau. Trodd Venizelos, Prif Weinidog o ddewisiad y bobl, allan o'i swydd—a'i Gabinet gydag ef-fel pe bae Brenin Lloegr yn gyrru Mr. Asquith, a Mr. Balfour, a Mr. Lloyd George, a Mr. Bonar Law, oddeu- tu eu busnes heb ofyn i Senedd nac arall. Pan wrthdystiodd y Senedd, dadgorfforodd honno. Nid yw'r Senedd sydd yno heddyw yn cynrychioli un rhan o dair o'r etholwyr, ac mae'r Cabinet oil, a phenaethiaid y Fyddin, yn gefnog- wyr i Germani. Yn groes i bob cytun- deb ac addewid, rhoisant yr amddiffyn- feydd ar y terfynnau rhwng Groeg a Bwlgaria i fyny i'r gelyn, fel y caffai hwnnw well cyfle i ymosod arnom ni yn Salonica. Anogai a chefnogai yr hedd- geidwaid wehilion cymdeithas i ymosod ar bawb a ffafrent Brydain, a chynorth- wyai'r heddgeidwaid hyn y drwgweith- redwyr. 5. Peryglid felly nid yn unig ddiogel- wch Byddin Prydain a Ffrainc yn Salon- ica, ond hefyd ryddid trigolion Groeg ei hun. OHWIPIO BRENIN GROEG. Yr wythnos ddiweddaf penderfynodd y Tair Gwlad chwipio Brenin Groeg am dorri o hono'r cyfansoddiad. Yr oedd y tair gwlad wedi ymgyfamodi trwy lw flynyddoedd yn ol y mynnent ei diogelu i'r Groegiaid. Galwasant arno 1. I ddadgorffori'r Fyddin, fel y gallafr dynion fyned yn ol gartref i weithio ac i bleidleisio. 2. I droi y Cabinet anghyfansoddiadol allan, a chreu un newydd fuasai yn cynrychioli'r bobl. 3. I ddadgorffori y Senedd, cynnal etholiad cyffredinol yn unol a'r cyfan- soddiad, a llywodraethu o hynny allan yn gyfansoddiadol drwy'r Senedd. 4. I ddiswyddo y swyddogion hynny yn y Fyddin a'r Heddlu oedd wedi torri ar amhleidgarwch y wlad. Rhag gorfod dioddef gwaeth, ildiodd y Brenin. Danfonwyd y Cabinet oddeu- tu eu busnes, penodwyd Cabinet new- ydd, gorchymynwyd dadgorffori'r Fyddin a'r Senedd, cynhelir etholiad cyffredinol, a diswyddir y sawl a werth- asant eu gwlad i'r gelyn. Gwelir felly mai amddiffyn iawnderall gwerin Gwlad Groeg, ac nid ymosod arni, a wnaeth Prydain a'i Chynghreir- iaid. GWLEDYDD Y BEIBL ETO. Unwaith eto wele Wledydd y Beibl yn dod i'r amlwg yn y Rhyfel. Hawlia Twrci lywodraethu dros y rhan fwyaf o'r gwledydd Mahometanaidd, ac edrychir ar y Swltan fel Pen yr Eglwys Fahometanaidd. Ond wele Wrthryfel wedi torri allan i'w erbyn gan ei ddeiliaid mwyaf selog dros Fahometaniaeth. Cyfrifir Mecca yn ddinas Santaidd Mahometaniaetl1 fel y cyfrifir Jerusalem yn ddinas Santaidd yr Iuddew, ac fel yr e dry chid gynt ar Llangeitho fel dinas Santaidd Mpthod- istiaeth Cymru. Ac o Mecca y torrodd y gwrthryfel,allan, ac y lledodd yr wyth- nos ddiweddaf drwy'r gwledydd nes cyrraedd o hono hyd yn Bagdad ei hun. Yr Arabiaid, disgynyddion Ismael gynt, sydd yn arwain yn y gwrthryfel-ac mae perygl Twrci a'r Swltan o ganlyniad yn fawr. Gellir gweled datblygiadau pwysig yn y dwyrain yn fuan.
Advertising
e. BLE I GAEL DILLAD YN ABERDAR? GYDA DAN JONE S FAB, 16 CARDIFF STREET. Y Defnyddiau Goreu, y Ffit Goreu, a'r Telerau Goreu. NI CHEDWIR BRETHYN GWAEl YN Y SIOP.
Catiau Cwta Catwg.
Catiau Cwta Catwg. Ar dudalen 119 o'r "Brython am lis Mehefin, hanner cant a saith o flynyddau'n ol, o dan y pennawd, "Hen Lenor o Geredigion, ceir y nodiad hwn gan Mr. William Row- lands (Gwilym Lleyn) :—"Yn y flwyddyn 1767 cyhoeddwyd yn Bristol, gan P. Ffarley, lyfr bardd- oniaeth bychan, o'r enw 'Lyfr Ecclesiastes neu'r Pregethwr, wedi ei gyfansoddi ar fesur Cywydd, gan Edward Evan, o Aberdar, a Lewis Hopkin, o Lynogwr.' Dywed y gohebydd (Gwilym Lleyn) fod yn yr anerchiad—"At y Darllenydd sy'n rhag-flaenu'r Ilyfr uchod y geiriau hyn uwchben enw "Edward Evan," sef y bardd o'r Ton Coch :Mal y deallo'r darllen- ydd yr hyn a fu achos a chymmelliad i'r gorchwyl ymma o gyfansoddi Llyfr y Pregethwr ar fesur Cywydd, cymmered sylw o'r ymadrodd can- lynol. Digwyddodd i wr ieuanc o Sir Aberteifi, a'i enw Dafydd Thomas, ddyfod i wared i Forganwg oddeutu'r flwyddyn 1727. Un ydoedd o berchen cynheddfau naturiol cryfion, a chewdi cael cyfran weddol o fanteision gwybodaeth. Efe a dderbyniwyd yn aelod i gynnulleidfa'r Parchedig Rhys Prys, o'r Ty'n Ton. Yr oedd ganddo dalent o awen, a rhwyddineb ym- adrodd. Efe a ymosododd i ddysgu Rheolau Grammadeg, a iawn ys- grifeniaeth, oddeutu'r flwyddyn 1730, ac a ddaeth yn gryn gyfarwydd a dych'mygfawr mewn barddoniaeth Gymreig." Yna Edward Evan, Ton Coch, a fanyla fel hyn yn ei anerchiad "Bum ar brydiau yn ei gyfeillach ef (Dafydd Thomas) pan oeddwn tuag at ddwy ar bumtheg neu ddeunaw oed, ac am hynny yn rhy ysgafn a phen-hoeden i sylwi na dal gafael ar unpeth o werth a theilyngdod. Efe a briododd, ond ni chafodd efe nemmor o hyfrydwch oddiwrth y cyflwr hynny. Ei ddyddiau diweddaf a dreuliod gyda Dafydd Martin, yn Ystrad Tyfodwg. Efe a orffenodd ei yrfa yn y flwyddyn 1735, ac wrth chwilio ac edyrch ar ei ysgrifeniadau ef, mi a gefais y bennod gyntaf o Lyfr y Pregethwr wedi ei chyfansoddi ar fesur Cywydd, yr hyn a'm cynhyrfodd i ofyn cynnorthwy gan fy nghyfaill a'm cydnabod, Lewis Hopkin, i orphen a chyflawni bwriad yr hwn oedd wedi ei attal gan farwol- aefh. "Felly," medd yr anerchwr, wrth derfynu, "dymma i ti, nid yn unig ymadroddion o eiddo Solomon mewn prydyddiaeth, ond hefyd ti a gei gymmorth i ddeall meddwl yr yscrif- enydd, ond i ti gymmeryd pwyll i ti ystyried, canys efe a amcanwyd y cyfansoddiad hwn mor gytun ag a allwyd ag esponiadau y parchedig Ddifeinyddion Simon Patrick ac eraill. Derbyn hyn o brydyddiaeth Gymreig ar ei hoes ddiweddaf, a chyn ei chladdu 11 mewn cwbl anghof o blith v Cymry. Dyna'r oil o'r anerchiad fel y copi- wyd ef gan Gwilym Lleyn, yr hwn, ar ddiwedd ei ohebiaeth, a rydd yr eglur- had a ganln :Gweinidog yr Un- dodiaid, neu'r Presbyteriaid, yn Aber- dar, oedd Edward Evans; brodor o Hendref Ifan Goch, yn mhlwyf Glyn- corwg, oedd Hopkin-dau fardd o gryn fri yn eu hoes. Tad y Dr. Prichard Price, o Lundain, oedd y Parch. Rhys Prys." Y mae'n awr yn syndod i feddwl nad oes unrhyw grybwylliad o gwbl am y "Ilfr barddoniaeth bychan uchod yn un o'r ddau darethawd buddugol ar hanes plwyf Aberdar a gyhoeddwyd yn llyfr yn 1854, wrth yr enw "Gardd Aberdar," sef 87 o flynyddau oddiar 1767, ac nad oes gair o son am y "llyfr bychan" yn vr ail argraffiad hefyd o "Gardd Aber- dar, yr hwn a gyhoeddwyd hyd yn oed dair blynedd ar hugain ar ol i Gwilym Lleyn dynnu sylw neilltuol at y llyfr hynod! CATWG.