Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Rare Opportunity I. Furniture at re-War Prices! WHAT IS THE EXPLANATION ? The reason is that immediately War was declared we entered into by far the greatest Contracts we ever concluded during our unbroken Business Career of sixty-six years. The Goods were packed from floors to ceilings in the various Reserve Warehouses we hold in connection with our seven South Wales Branches, and the result to-day is that whilst some Furnishers are compelled to close establishments through inability to obtain supplies, we still hold a very large proportion of the immense Contract Stocks, and which we have now fully decided to CLEAR AT PRE-WAR PRICES. BEVAN & CO., Ltd., Wales' Largest Furnishers, Cardiff, Pontypridd, &c.
Colofn y Beirdd.I
Colofn y Beirdd. I Anfoned y beirdd eu cynhyrchion 1 Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. "Gafr y Gatrawd Gymreig. Englyn gwych. Mae yr englyn arall yn cyrchu yn wallus:- —yw'r rhosyn Persawr, etc. Sut y bu i chwi syrthio i'r bai hwn- bai dechreuwyr? Cywir: —yw'r rhosyn 0 drwsiad, etc. "Amynedd." —Penillion tlysion. "Gwlaw Tyfu. "—Cynnyg da, os dyma y cyntaf i chwi. Y llinell olaf yn unig sydd yn pallu "Er llesiant i'r llysieuyn." Cywir "Er llesiant i'r holl oesau, A lies yw i'r llysieuyn, Holl sawyr y llysieuyn." "Y Mynydd. "—Y cyrchiad yn "rhy debig," er fod yr oraclau di- weddar yn ei gyfiawnhau —y mynydd Emyna, etc. Rhaid i mi ei gondemnio, waeth beth a ddywed neb. Dyma yr unig wall sydd yn yr englyn. Ewch rhagoch. "Y Milwr. "—Llinellau gobeithiol. "Nurse Cavell. "-LIed ryddiaethol -rhy debig i stori mewn newyddiad- ur. Mae y gelfyddyd yn eithaf da. "Pan ddaw'r Haf. "—Telyneg fach swynol. Mae dyfodol addawol o'ch blaen fel bardd, coeliwch fi. "Cân y Forwynig Gymreig," etc.- Dyma Gwyrosydd o'i gwd o'r diwedd. Da gennyf fod ei awen yn cadw mor ieuanc ag erioed. Diolch am y ddwy gan. Pa Ie mae Gwydderig? Yr wyf yn disgwyl wrtho o hyd "er mwyn yr amser gynt." "Awelon y Gwanwyn. "—Pert ddigon. I "Y Tywydd yn Chwefror. "-An- amserol erbyn hyn. Mae yn englyn lied dda ag eithrio y diwedd. Mae "mwd a baw" yn rhy ddiurddas. "General Botha. "—Lied faith yw y gerdd. Ond rhaid, cydnabod JY gwr sydd wedi gwneud cymaint o wrhydri yn y wlad bell. "Y V.C. "—Englyn gwych, fel y medr patriarch y Bont wneud. "Dafydd y bolgi. "—Rhy ddi- chwaeth. "Galarnad Mrs. I. — Rhy gyffredin. Rhaid cael ambell dar- awiad newydd ar destyn lleol. "Y r Awel." Rhy gymysglyd. Byddwch yn fwy gofalus yn eich dew- isiad o eiriau. Mae mynd ar "gefn awel" yn syniad newydd, a dweyd y lleiaf. "Charlie Chaplin." Englyn don- iol ar destyn doniol. Mae y Ilinell olaf yn ddiguro! "Myfanwy Min y Lli.Telyneg ragorol—fel arfer. Mae y ddwy delyneg arall yn gampus. "Melus Adgof. "—Drwg gennyf nas gellir cyhoeddi y gan hon. Mae yn rhy faith. Pe cyhoeddid hi bydd- wn yn debyg o gael clywed fy fod yn rhy hoff o wabling. Diolch i chwi am eich dymuniadau, serch hynny. "Cartref." Cywydd rhagorol. Mae yr englynion yn wychion. Ond beth y gelwch y pedai# llinell i'r Tafod ? Mae y ddwy asgell yn Iluosill. "Robin Goch." Darn rhagorol blant. Dylid ei roi yng Ngholofn Moelona. "Y Ffynnon." —Tlws iawn. "Miss Cavell. "—Mae cymaint o feirdd wedi canu ar y testyn hwn, fel y rhaid ei adael yn llonydd bellach —os na cheir rhywbeth uwchlaw y cyffredin arno. "Cartref." -Penillion tlysion, er fod un llinell fongam ynddynt. "Oenig Unig. "-Nid yw y penillion hyn cystal ag arfer gennych.. "Dan y Dywarchen. —Gwell o lawer. "Y Frongoch. "—Pert iawn. I'r Swyddfa.—Gwynorig, T. H. Lewis, Carawen, Perllannog, Ednant, T. Harries, loan Annwyl, G. T. Lewis, Ap Gwilym, Gwyrosydd, Gwenffrwd, Ap Thomas, Eurfin. GAFR Y GATRAWD GYMREIG. Chwaer ddidwyll ei cherddediad,— Arweinydd Gwroniaid ein Henwlad, Yw'r Afr gar hedd i gledd gwlad, Hallt, a chwyrnwyllt ei chorniad. ISAAC EURFIN BENJAMIN. Y CLWYFEDIG. Hen weithiwr caled geir draw'n glwyfedig, A'i gri a'i nodwedd yn wir grynedig; Dyddiau a nosau rhyw druan ysig O'i ofer rodiad ga fron friwedig, Llid y gad felltigedig—loesa'n hir Y gwr a wanir ar fangre unig. PERLLANNOG. Y V.C. Hir adrodd am wrhydri,—a gwrol Feiddgarwch mewn cyni A wna hon; ar fron mae'n fri, Adwaenir gwron dani. Pontypridd. IOAN ANWYL. Y CARTREF. I delaid weithgar deulu, Darn o nef yw'r cartref cu; I wr a gwraig awyr hedd A leinw'r dawel annedd; Bywyd y bur natur wna Dan eu hanfod yn Wynfa. I'r lie sang nefol dangnef, Trown i fewn—tir Naf yw ef; Ynddo 'mysg rhos dysg a dawn Serena gras yr uniawn; 0 ddydd i ddydd y fam ddwg Ynni'r galon i'r golwg; I hynt hoff ei bychain teg Ei gwiw aelwyd dry'n goleg; A'r tad drwy ddoeth fwriad fyn Log dihalog i'w dilyn, 0 rywiog fronnau'r ieuainc, Gyr oer gur a'i air a'i gainc; Gartref glan! mae swyn annwyl Delynau Duw lond ei hwyl. O'i fad le a'r afradlon I daith hir ar dir neu don, Gedy hapus dy ei dad A'i holl nwyfre'n llawn afrad, Ei god aur i gyd waria, Wedyn gwawd i'w wanu ga; Wedi gweld ei rodiad gau, Ei wedd glafaidd a'i glwyfau, Dan niwaid nodau newyn Llama ef i'w gartref gwyn. Ddyn di gar, tro i gartref Y sant wna'i dlos hynt yn nef; Os eiddil yw ei seddau, A'i fur heb ei ddrud fawrhau, I'r bwth gwael daw rhywbeth gwell Na theg emau i'th gymell. Daw'r golud hoywa'r galon— Iacha' serch yn Achos Ion- Loywa'i rhawd a pherlau Rhin, Y rhai wynnodd ei Brenin. Car dedwydd yw'r credadyn Wna'i gartref yn gartref gwyn, Cysegr i dduwiol ddolef Yw'r lie roi'r i'w allor ef Yn y mawl gwel angel Ion Eilun gwyl y wen galon; A'r duwiol ar awr dywell O'i gartref i gartref gwell. Cwmtawe. PERLLANNOG.
Y TAFOD.I
Y TAFOD. Y tafod-hynod dad doniau,—ei nwyf Eiria'n holl feddyliau; Gwir swyn a geir o seiniau, Ton ei iaith-ond tn weithiau. PERLLANNOG. j
Y Tridwr. ! - I
Y Tridwr. Trodd Ysgol Sul Abertridwr allan prynhawn Mehefin 12. Gwan ar y cyfan oedd yr ysgolion eleni ar eu hymdaith drwy'r lie, hynny yw o ran rhif a chyf- artalwch oedran y disgyblion. Ysgol Adulam yr Annibynwyr a flaenorai'r ymdaith. Hi ddylasai fod y luosocaf o ddigoil, a diau mai felly y buasai pe bae'r bobl o'r ugain ymlaen hanner cystal, a'r rhai islaw'r ugain. Eu rhifedi oedd 177. Nazareth M.C. oedd y nesaf. Yr oedd cyfartalwch hon yn well, ond pell yn ol o'r hyn allasai fod; eu rhif hwy oedd 124. Y nesaf, Beulah, B. yr oedd yr ysgol hon eto'n well na'r ddwy uchod mewn cyfartalwch oedran a'u rhifedi yn 151. Yn nesaf y Wesle- aid Seisnig. Diadell fechan ydynt hwy yn boddloni ar festri yn dal rhyw gant a hanner a thua, 40ain o aelodau. Plant gan mwyaf oedd gyda'r ysgol hon, llai ei chyfartalwch na'r ysgolion Cymreig; eto ymddengys eu bod yn fyw iawn gyda'r plant. Ond beth am danynt wedyn? Ei rhif oedd 285. Yn olaf deuai'r Annibynwyr Seisnig, deadell ieuangaf y lie, a gyfarfyddant mewn festri fechan ddeil rhyw gant a hanner a nifer fechan o aelodau, hynod anghyf- artal rhwng pobl mewn oed a phlant, a'u rhif yn 181. Dyna, Mr. Gol., agwedd allanol ein hysgolion fel yr oeddynt ar eu hymdaitli eleni. WTedi'r cyd gerdded aeth pob ysgol i'w chorlan ei hun am y te a'r bara brith; ac wedi y wledd i'r Pare am orig o chwarae. Gweddaidd a moes- gar oedd pawb o'r ysgolion fel y gwir- eddid yr adnod hono, Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y rhai sy'n efengylu." Dyma waith goraf yr eg- lwysi drwy'r blynyddoedd. Gwaith caj-iad yr afefodau ydyw, ond a'r rhwystr yn fawr yn ein plith, gan ffwdan y cyrddau mawr, a'r cymanfaoedd canu, a'r cyngherddau trystiog, a Ninemeaidd eu harddull diaddysg a dieneidfaeth yn ol llaw. I'r Ysgol Sul yr ydym yn ddyledus am gadw ein hiaith cystal ag y mae, ac am gewri'n cenedl mewn am- ryw gyfeiriadau mewn byd ac eglwys. Felly fe weddai ein bod fel eglwysi yn ei hamddiffyn gan hawlio iddi ei lie yng ngwaith a gwasanaeth y cysegr. Fel mae gwaetha'r modd y duedd yn ein cwm yw rhoddi lle'r ysgol i bob sothach o ganu ac arddangosfa-torri, torri Sul ar ol Sul, ac felly torri ar ddiddordeb pobl yn eu gwersi a'r Maes Llafur. Y mae hwnnw bron wedi mynd yn ddiam- can, gan y diddymir yr ysgol ryw ddwsin o Sabothau yn ystod y tymor chwilfriwir y trefniant fel nad yw y meysydd llafur ond yn unig mewn enw 1 raddau pell. Dylid hawlio'i lie i'r ysgol Sul yn anad unrhyw adran o waith yr eglwys. DEWI AUR.
Undeb Ysgolion Sul Annibynnol…
Undeb Ysgolion Sul Anni- bynnol Gogledd Morgannwg Arholiad llafar y plant dan 13 oed yn y gwahanol safonau, sef Dosbarth la. Ebrill 4, 1916. Darparwyd y gofyniadau gan Mr. Emrys Jones, Tabernacl, Hirwaun. (Parhad.) GWERNLLWYN, DOWLAIS. Safon Mebyd.—Gradd 1, 2, 3 Olwen Powell, Eddie Edwards, Myrddin Davies. Safon I.—Gradd i, 2, 3: Gwenny Powell,' Bronwen Powell, Gwyneth Navies. Safon II.— Gradd 1, 2, 3 John Edward Brown, Gwyneth Morris, Nancy Davies. Safon III.—Gradd 1, 2, 3: Ieuan Davies, Stanley Jenkins, Eileen Thomas, Lottie Powell. Safon IV.— Gradd 1,2, 3 Hettie Morgan, Annie G. Stevens, Heulwen Parry, David William Powell, Phyllis John. Safon V.—Gradd 1,2, 3 Daniel Powell, Trevor Jenkins, Bronwen Edwards, Tom Jenkins, Olwen Williams. Nifer, 23. Arholwyd gan Miss Maggie Rees, Bethania Dowlais. BETHANIA, DOWLAIS. Safon Mebyd.—Gradd 1, 2, 3: Ieuan Davies, Rees Thomas, Gwen Rees, Sarah Ann Davies. Safon I.— Gradd 1, 2, 3 Glyn Rees, Clifford Jones, William John Evans, Thomas Owen Hicks, Ieuan Jones. Safon II. -Gradd 1, 2, 3: Irlys Jones, Gwyn- eth Edwards, Beatrice Lewis. Safon III.—Gradd 1, 2, 3: Annie Jane Lewis, Nellie Jones, Enid Rees, Maggie Thomas. Hettie Evans, Irene Edwards, Doris Thomas, Louisa Harris, William Thomas Jenkins, Daniel Evans. Safon IV.—Gradd i, 2, 3: Trevor Rees, William Thomas Evans, Phyllis Edwards, Olwen Evans, Eunice Jones, Mary Jones. Safon V.—Gradd 1, 2, 3: James Brynwyn Thomas, Harry Eastaway Thomas, Joseph John Lewis, Harold Glyn Lewis, Emlyn John Davies, Emrys Evans, Horace Lloyd, Idris Evans, Catherine Jennet Jones, Lilian Rees, Annie May Williams. Nifer, 39. Arholwyd gan Miss May Walters a Miss Mary Williams, Bryn Seion, Dowlais. BETHANIA, DOWLAIS (Gelli- faelog). Safon Mebyd.—Gradd 1, 2, 3: Maggie M. Jones, Jennie Owens, Aurwen Thomas, "May Price, Tom Williams. Safon I.-Gradd 1, 2, 3: Briallen Thomas, Olwen Treen, Muriel Jenkins. Safon II.—Gradd i, 2, 3: David Robbins, Henry Price, Eddie Williams. Safon III.—Gradd 1,2, 3 Willie Price. Safon IV.— Gradd 1, 2, 3: Margaret Price. Nifer, 13. Arholwyd gan Mr. Thos. Wil- liams, Gwernllwyn, a Mr. J. T. Wil- liams, Brynseion. BETHANIA, DOWLAIS (Pen-yr-Incline.) Safon Mebyd.—Gradd 1, 2, 3: Ivor Berryman, Olwen Cummins, Winnie Berryman, Trevor James, Llewelyn Rees. Safon III.—Gradd 1, 2, 3: Edith Maud Jones, Mary Morris, Thomas George Edwards. Safon IV. ,-Gradd 1, 2, 3: Bessie Rees, Gwen Prosser, Annie Boucher Ceinwen Prosser, Caroline Hughes. Nifer, 13. Arholwyd gan Mr. Thomas Wil- liams a Mr. D. Pugh Williams. BETHANIA, DOWLAIS I (Caeharris. ) Safon L-Gradd 1, 2, 3: Cyril Thomas, loan Phillips, Lizzie Ann Williams. Safon II.—Gradd 1, 2,2 3 Mathew Williams, Mordecai Hughes, Willie Ivor Evans, Willie Thomas Watkins, Maldwyn Thomas. Safon III.—Gradd 1, 2, 3: Maggie Jane Morgan, Bessie Williams. Nifer, 10. Arholwyd gan Mr. John Thomas a Mr. John Williams, Penywern, Dowlais. O.Y.—Dyna derfyn rhestr ymgeis- wyr Dosbarth la am eleni. Bydd y tystysgrifau yn barod ar fyrder. Deuwn at yr arholiad ysgrifenedig— Dosbarth ib, etc., y tro nesaf. J. SUGWYN DAVIES, Ysg.. Siloh, Aberdar, Mehefin 16, 1916.
Advertising
Dywedwch wrth bawb "Y mae DA VIESS COUGH MIXTURE yn rhyddau Peawah." ANWYD, PESWCH, INFLQENZA —Mae rhai'n gyda ni bob amser. P"J hmsawdd gyfnewidiol fod llawer n ddic ddef oddi wrth Beswch, Bronchitis, Pars Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, DiRyF Anadl. Y mae yr hen Feddyginiaetl Oavies's Cough Mixture" etto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yp felus, yn cynnhesu y frest, ac yn rhydd hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigoD. 1/1i a 2/9 (postage, 3c.)-— HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETB. •
Merthyr.
Merthyr. Mewn trafodaeth parthed ychwanegu tal heddgeidwaid mewn cyfarfod o Gorfforaeth Merthyr, gofynnodd yr Henadur Dan Thomas-" Beth am yr addurniadau hynny-y Special Con- stables sydd yn cerdded yr ystrydoedd T Atebodd y Cyng. D. W. Jones eu bod yn gwneud gwaith da. Ond nid oedd yr Henadur Thomas yn credu hynny. Carwn," meddai, ped agorech eich llygaid. Nid wyf yn meddwl eu bod yn gredyd hyd yn oed i'r hedd-allu." Gresyn oedd taro ar yr "ornaments" fel hyn a hwythau wedi dangos sel wlatgar beth bynnag. Ysgrifenasai Corfforaeth Abertawe i ofyn i Gorfforaeth Merthyr pa beth a wnaethent tuag at sicrhau trefniant effeithiol i gyflenwi glo, ac yn ceisio ganddynt basio penderfyniad yn hawlio fod i'r Llywodraeth symud yn y mater yn uniongyrchol. Yr oedd Pwyllgor Cyflenwad Glo Dosbarth De Cymru a Mynwy hefyd wedi anfon yn gofyn am bwyllgor i gasglu hysbysrwydd ar y cwestiwn fel ag i osgoi caledi yn ystod misoedd yr Hydref. Dywedai'r Hen- adur Dan Thomas yn y drafodaeth hon Er i chwi ddewis ugain o bwyllgorau, fe'ch rheibir hyd yn oed wedi'n." Yr oedd yr Henadur Dan yn ei deall hi, a diolch iddo am siarad" yn blaen. Er gwaetha Llywodraeth a Chorfforaeth, a Phwyllgor, a Chrefydd, ac Eglwys a Beibl, fe'n rheibir yn ddidrugaredd, gan fasnachwyr gwlad Gristnogol sy'n Grist- nogion proffesedig eu hunain lawer o honynt. Nid oes neb fel y Cristion am fynd tuhwnt i'r cythraul pan fydd yn y line honno. Yn yr un drafodaeth dywedodd y Cyng. Wilson y gellid weithiau brynu glo yng Nghaerdydd, ugain milltir oddi- wrth y lofa'n rhatach nag ym Merthyr. Yr oeddem wedi disgwyl y byddai rhyw ogoniant i'n gwlad o'r rhyfel, yn arbennig gan ein bod oddicartref yn ym- ladd dros y gwan, ond mae'r gogoniant hwnnw wedi ei wastraffu ymlaen llaw yng ngwlad bell y moch a'r cibau gan gyfoethogion trachwantus. Prisoedd afresymol bwyd a glo'r tlawd a'r gwan fydd yn hynodi y rhyfel hon mewn hanes. Ac nid oes llawer o ogoniant yn y pethau hyn. Mewn cyfarfod dan nawdd Cyngor Heddwch Merthyr nos Lun, Meh. 20fed, dywedai Mr. C. P. Trevelyan, A.S., pe dywedid y gwir wrth y bobl y caent allan fod y Germaniaid yn awyddus am heddwch. Nid elai'r Germaniaid byth i Paris ac ni elai'r Cynghreiriaid byth i Berlin. Pasiwyd penderfyniad yn cymell cychwyn trafodaeth i sicrhau heddwch gydag anrhydedd. Ond y mae'n rhy gynnar, fechgyn, i alw am heddwch, tra fyddo rhywrai nad ydynt wedi cael digon, ac y mae'n amlwg fod Haw mwy na'r eiddo dyn yn dod i'r amlwg yn y rhyfel hon. Nid y pethau a honnwyd a wpeir am nad eiddo gwr ei ffordd. Bydd y diwedd yn bur wahanol o bosibl i ddim a dybiodd neb. Bydd llai o dafarndai ym Merthyr a'r cylch o hyn allan, ond bydd yma ormod eto. ■ CAE TWMPYN.
Advertising
SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.— Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, lflt 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yo ychwanegol, oddiwrth y perchenog. HUGH DAVIES, Chemist, MA ORYN- LLETH.