Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
COLOFN Y BOBL IEUAINC.
COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFNALLT, CAERFYRDDIN. f YN ENW'R IESU. Mae arnom awydd gwneud apel at bobl ieuanc Cymru yn enw'r Iesu o Nazareth. Ofnwn nad yw enw'r Iesu yn ddim mwy nag enw i filoedd o bobl ieuainc ein gwlad heddyw, ac fel enw 0 bosibl yn awgrymu rhywbeth gwa- hanol iawn i'r hyfrydwch a'r swyn sydd ynddo, i'r rhai a'i hadwaenant Ef. A wna pobl ieuainc a ddarllenant y golofn hon ei chymeradwyo i bobl ieuainc eraill, dichon y cant ynddi ambell belydryn o oleuni ar lwybrau bywyd ac ambell awel deg ar eu taith i dir eu gwlad. Y mae dau beth a'n synna ynglyn •a Iesu o Nazareth, sef (i) fod pobi ieuainc yn teimlo cyn lleied o ddi- ddordeb ynddo, ac yn gwybod cyn lleied am dano. (2) Fod gweithwyr ein gwlad mor ddiystyr o hopo tra mae yr agoriad i'r baradwys a chwen- ychant yn hongian wrth ei wregis ef. Nid oes "iachawdwriaeth yn neb arall. Yr ydym yn synnu, meddwn, a ni a synnwn byth, gyn lleied o ddiddordeb a deimla pobl ieuainc yr oes yn Iesu o Nazareth, a chan lleied a wyddant am dano. Ac yn hyn y maent yn ddi- esgus. Nid yw ond llwfrdra i neb gyhuddo eraill o'u camarwain, neu honni fod ymddygiad rhywrai eraill wedi peri iddynt, ymbellhau oddiwrth Iesu. Nid at ddynion eraill y dylasent fynd i gael golwg ar Iesu, ond ato Ef ei Hun. Mae'r Efengylau a'r oil o'r Testament Newydd i'w cael iddynt am ychydig geiniogau, ac y mae'r Iesu ei hun yn siarad a hwynt yn y rhai hynny heddyw mor wirioneddol ag y siaradodd a'i wrandawyr ar y rnynydd gynt. A dyn ieuanc ydyw Efe yn siarad a pha wb ond a dynion ieuainc yn arbennig. Dylasai dynion leuanic o bawb wrando arno, oblegid goreu po gyntaf i'w bywyd hwy ddod dan ddylanwad ei fywyd Ef, ac- fe chwydda'r golled a fydd iddynt po hwyaf y bydd Efe yn ddi- eithr iddynt. Ai nid yw marw rhyfedd y Dyn hwn o Nazareth, ac efe etc yn ieuanc, yn apelio at ddychymyg pobl ieuainc? A mwy na hyn, ai ni ddylasai'r ffaith mai Dyn Ieuanc diystyrredig ydoedd, ond a gafodd trwy ei farw enw sydd goruwch pob enw, beri i bawb frysio i gael allan gyfrinach ei fywyd a'i oruchafiaeth Ef ? F d rheol mae telynnau a dorrir" yn gynnar yn ennyn sylw a diddordeb, ac yn creu ynon) ryw iasau rhyfedd o deimlad o'u herwydd. Pwy sydd nad yw'n teimlo rhyw chwithdod yn ei feddiannu wrth feddwl am farw cynnar John Keats, y bardd Seisnig, yn arbennig pan feddylir fod beirniadaeth chwerw ac annheg wedi prysuro'i ddiwedd. Tynn atgof am Ieuan Ddu o Lan Tawe ddeigryn o hyd i'r llygad, ac y mae Ilywed enw Ben Bowen yn peri i ni "deimlo rhyw wacter yn ein mynwesau. Pynion oedd y rhai hyn a fuont feirw'n jeuanc, a hynny'n tynnu sylw ar- bennig at eu hathrylith a'u gwaith. Mae digwyddiad yn eu hanes yn ddi- ddorol, a phob llinell a gynhyrchwyd ganddynt yn gysegredig. Pa faint mwy diddorol i bobl ieu- ainc y dylasai geiriau a gwasanaeth y yn Ieuanc o Nazareth fod?—y Dyn leuanc a roddodd i fyny'r ysbryd yn air-ar-ddeg-ar-hugain oed, ar ol gwneud gwasanaeth mwy i fyd nag a wnaethai neb arall, a mwy nag a wna neb, byth. Oni ddylasai pob gweithred Wnaeth Efe a phob gair a lefarodd, ac yn arbennig weddi'r groes, swyno Pob dyn jeijanc ymhob oes a gwlad. ddylasai gair o'i eiddo fod yn ddi- ystyredig na gweithred o'i eiddo fod yn angof gan neb. A'r rhai a ddysgant ? garu a welant ei ogoniant. 11 mhlith holl leisiau'r greadigaeth li efara Efe 0 hyd fel un ag awdurdod e-a ^dJ(dj o, a hynny am ei fod yn efaru'n eglur ac yn ddiamwys ar ITWstiynnau mwyaf bywyd. Cyn- |ju !fr a fynner i ad-drefnu cym- de>^as ac i wella amgylchiadau, ni fvj y naill gynllun na'r naill drefn ar f?a y naill gynllun na'r naill drefn ar Yrndeithas nemor gwell na'r llall, tra r esgeulusir yr Un sydd a'i eiriau Yn yd ac yn Fywyd. Te i mlwn f s. ryd ac yn Fywyd. Teimlwn fod D1WlOyddiaeth hen, esboniadaeth fv ^W^°^' ac eglwysyddiaeth o bosibl Wed  ???? ? lawer gyfeiliorni oddiwrth s?vm! rwyddlesuo Nazareth, a methu o-w 6 ^ddo na phryd na thegwch fel dj ymunent Ef, ond y maent yn cj(jj; ^Ul' ob?egid y mae'r Saer oj Nazar  hun ym mhyrdferthwch ei ra.?? a'i symlrwydd gweri nol yn dis 1 ..a 1 symlrwydd gwennol yn "Sgleiri,, ?? dudalennau'r Efengylau. A gawn ^an ddarllenwyr y golofn h Ol de"10 mwy 0 ddiddordeb yn i îyf .N azareth, a cheisio ennill eraill fyf?rio, ??°'' Bydd mwy o'i eisiau ar yb?t nag erioed yn y man. Cawn air ? ar gweithwyr a Iesu o Naza h r ? gweIt lwyr a esu 0 ret T.
I COLOFN Y PLANT. I'-
COLOFN Y PLANT. DAN OLYGIAETH MOELONA. 29 Plasturton Avenue, Caerdydd. CARTREF. Cartref, mae swyn yn dy enw, Croesaw ar riniog dy ddrws, Mae cariad yn clymu fel eiddew'n dyn Am danat hoff gartref tlws; Cartref yw gwynfyd y ddaear, Ynddo dymunwn gael byw, Ac ar ol cyrhaeddyd tu draw i'r bedd Cael cartref yng nghwmni Duw. Tra'r morwr yn nofio'r cefnfor Ag arswyd o dan ei fron, Ac angau yn llechu fel gelyn cudd Dan aden y farwol don; Er hynny mewn 'stormydd geirwon Fe gyfyd seren mwynhad Pan gyrraedd y morwr yr hafan glyd A'i gartref yng nghol y wlad. Y milwr ar faes y gyflafan Gadawodd ei gartref gwyn, Ei wraig a'i blant yn y bwthyn bach llwyd Yng Nghymru ar ael y bryn; Mor felys i feddwl y milwr Ar feysydd gwaedlyd y gad Y caiff ddychwelyd er ei glwyfo'n drwm I'w gartref yng Nghymru fad. o drothwy estronol letty Y gweli dy gartref yn iawn, Yno ar bared yn ymyl y drws Cei 'sboniad ar hwn yn iawn; 'Does man yn y byd fel cartref, Cartref yw gwynfa y byd, A chrwydryn yw'r goreu ar hyd ei daith I Heb gysgod rhyw gartref clyd. Treharris, T. K. LEWIS. Treharns.
Treharis.I
Treharis. I Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Undeb Cerddorol y Bedyddwyr, Llungwyn ym Mrynhyfryd. Arweinydd y dydd ydoedd Mr. William George, L.T.S.C., Ystalyfera; organydd, Dr. T. D. Edwards, Treharis. Llywyddwyd cyfarfod y bore gan Mr. William Morgan, Berthlwyd, ac at ganu swynol y plant cawd ad- roddiad gan Katie Clement, Merthyr Vale, a brawd o Brynhyfryd. Llywydd yn y prynhawn ydoedd y Parch. W. Morton, Cwmfelin. Can- wyd "Horeb," "Blaenycwm," "Ys- talyfera, C,.weddi'r AroWydd, "Gertrude (o'r llyfr newydd), "Eaton," a "Monkland" o'r hen lyfr. Ceisiesid gan Dr. T. D. Ed- wards gyfansoddi ton er cof am i un o ffyddloniaid y Gymanfa, y ddiweddar Mrs. Mary Thomas, Pleasant View, Treharis. A sicr gennym fod y Dr. wedi iddo glywed y canu fu arni yn teimlo'n falch o honi. Enw y don yw "Margaret." Cafwyd yn amryw- iaeth unawd gan Mr. Tom Williams. Efe hefyd oedd arweinydd y "re- hearsals, ac adroddiad gan Miss Lil Jones, Aberfan. Yr anthemau oeddynt—"Da yw Moliant (Phillip Morgan) a "Blant ffyddlon Seion dewch (D. T. D. Edwards). Llywydd yr hwyr oedd Mr. T. Sphens, Treharis. Canwyd "Elijah," "Bryniau Caersalem," "Treharis," "Bryncelyn," "Colfen Werdd, "Cwmfelin, "Rhydar- gaeau," "Vesper Hymn." Ar aw- grymiad y brawd T. Phillips, Berth- lwyd, gwnawd casgliad i garcharor- ion y rhyfel, a chafwyd ^"3 13s. Ioid. Er nad yw Mr. Phillip Morgan na Mr J. H. Richards, Tonyrefail, yn ein cylch ni, eto gallwn fentro cyfrif ar eu presenoldeb bob amser. Arwein- iodd Mr. Morgan ei anthem yn ei ffordd hapus a chartrefol ei hun, a Mr. Richards yr un modd ei don— "Horeb." Wedi hynny cododd ar- weinydd y dydd ar ei draed, wedi ei lenwi a'r Yspryd Glan, a chyda araith gref cododd y cyfarfod i dir gorfoledd. Canodd Dr. Edwards y "Dead March ar yr organ, tra safai y gynulleidfa ar ei thraed, er coffadwriaeth am y milwyr a'r mor- wyr syrthiedig. Cafwyd unawd gan Miss Lloyd, Abercynon, a deuawd gan E. T. Lloyd, Abercynon, a Tom Williams (Llew Berth). Llywydd y pwyllgor eleni oedd Mr. Ed. Evans, Berthlwyd; trysorydd, Mr. William Myles, Berthlwyd, ysgrifennydd, Mr. Gwilym Evans, Merthyr Vale.—Goh.
ASTHMA,
ASTHMA, BRONCHITIS AC ANHWYLDERAU Y FREST. Fe'm cymbellir gan liaws o bersonau sydd wedi cael llwyr wellhad oddiwrth yr ASTHMA i wneud y mpddion a ddarperir gennyf at wella yr afiechyd poenus hwn yn hysbys i'r cyhoedd. Mae y feddyginiaeth hon yn cyflym wella Diffyg AnadLCaetbiwed a Phesychu. Tystiolaetha lliaws- er wedi bod yn dioddef am flynyddoedd eu bod wedi cael iachad rhyfedd a gwyrthiol Dylai dioddefwyr roddi prawf arno Pris drwy y post 2s. 9c. Anfoner at T. J, HUGHES, CHEMIST, BETHESDA,
ICrwydr y Mabinogion i ,Bont…
Crwydr y Mabinogion i Bont Nedd Fychan. (Parhad.) Wedi te darllenodd Ficer A ber- pergwm y nodion oedd wedi ddar- paru ar gyfer yr ymweliad a Glyn Eithinog, ac yn eu plith y dyfyniad- au canlynol o "Lawysgrifau lolo Morgannwg." Yn Llanofer, ar Thomas Llewelyn, y Rhigos, MS. 15, tud. 27:—"Y mae cof parhaus ym Morgannwg am rai gwyr call a ddywedasent lawer o bethau doeth- ion ar ddull diarhebion, megys Thomas Llewelyn, o Regoes, ym mhlwyf Ystrad Dyfodwg, hen wr call a doeth iawn, a. hynny mewn gradd anghyffredin; yr oedd hefyd yn brydydd da iawn. Yr oedd ef yn amser y Frenhines Elisabed. Mawr oedd ei serch at ei wlad, a'i genedl a'i hiaith; pan droed y Beibl i'r Saesoneg efe ei troes o'r cyfieithad hynny i'r Gymraeg, ynghylch deng mlwydd cyn inni gael y cyfieithad y sydd yn awr gennym." MS. 20., tud., 278: "Thomas Llewelyn, 0' Regoes, ym Morgannwg, Plwyf Ystrad Dyfodwg, enw ei dy yw Clyn Eithinog, efe a droes y Beibl yn Gymraeg 01 gyfieithiad Saesneg Tindal, a hwn ddarllenai ef mewn cynulleidfaoedd bychain mewn syn- ryw fannau ar hyd y wlad, a Siencyn y Ddyfynog mewn marwnad iddo a ddywaid ei fod weithiau yn pregethu. Y mae yn Llyfr Gwyn Rhydderch ym Mostyn (meddai E. Evans) gopi o lythyr a ysgrifennodd ef at y Dr. R. Davies, Esgob Mynyw, i erchi iddo. gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Yn fyr, hen wr da rhagorol oedd ef, ac yn medru'r hen brydyddiaeth yn ber- ffaith, ac y mae llawer o gywyddau syn dros benn ei waith, ond efe a wnaeth hefyd lawer o ganiadau banryddion yn yr un modd ag a wnaeth yr Hen Ficar o Lanymddyfri wedi hynny. Efe a ysgrifennodd ynghylch y flwyddyn 1560 hyd 1600, a chwedi hynny." MSS. 47; tud. 153-160: "Thomas Llywelyn, o Regoes, oedd y pregeth- wr lleyg cyntaf yng Nghymru, a chantho lythyr cynnws yr Archesgob Grindal. Yr oedd gantho fath o gynnulleidfa ym mlaen Cannaid, ym mhlwyf Merthyr, ac un arall yn Regoes, a rhyw beth o'r fath mewn mannau ereill, ac yn ebrwydd ar ol hynny yr ymddangoses y fath bethau mewn mannau ereill, megys Llan- fabon, yr Ystrad, Llangyfelach, etc., ond nid oeddid yn bedyddio, nac yn gweini y Swpper yn y lleoedd hynny nes ymhen hir amser wedi hynny, eithr myned i'r Eglwys blwyfol am hynny. Ambell un nis bedyddid, ereill a ail-fedyddid weithiau, ond nid ami y rhain. Yr oedd rhai o'r ffeiriaid yr amser hynny yr un farn a'r Ymneillduwyr am fedydd a phethau ereill, ac yn ymarfer a llawer peth yn wahanol oddiwrth yr hyn y mae yn y Llyfr Gweddi Cyffredin, rhai'n gofyn athrawon, ereill yn ddi- bris am danynt, etc., a hynny yn lied ami ymhlith yr offeiriad, hyd oni ddaeth yr Archesgob Laud i alaI y pethau hynny, enwedicaf 0"r offeiriaid hynn oedd Mr. William Erbury, o Gaerdyf, a ragweinydd yn Llanbedr o'r Fro, Mr. Walter Caradog, a drowyd allan o'u heglwysydd gan Laud. Thomas Llywelyn, o Regoes, a gyfieithwys y Bibl o'r cyfieithad Saesneg cyntaf i'r Gym- raeg, ac yr oedd copiau o hono neu o ran ohonoi yn ddiweddar mewn llawer man; efe a ddarllenai ei gyfieithad yn ei gynnulleidfaoedd, ac a wnelai fath o bregeth ar rannau o hono. Y mae son am hen Fibl ysgrifen yng Nghelydd Ifan, onid nad cyfieith Thomas Llyw- elyn ydyw, ond ymofyner ymhellach. Sylwodd y Ficar ym mhellach fod y Pardi. Hopkin James, Ficar Ystrad Mynach, yr hwn sydd wedi cael mynediad i Lyfrgell Llanofer, ac wedi chwilio lla wysgrifau lolo Mor- gannwg yn drwyadl, nad oes yr un sail i'r Jhoniad mai Anghydffurfiwr oedd Thomas Llewelyn, a dywed ei fod wedi byw a marw yng Nghymun- deb yr Eglwys Sefydledig. Dywed Ficar Ystrad Mynach yn ei rag- ymadrodd i'r "Hen Gwndidau fel hyn ar tud. 33 "It has been asserted that Thomas Llewelyn was a Nonconformist. It will be seen, however, from his works that there is not a line to sup- port this contention. He died as he had lived a loyal member, and may we add a preacher of the Gospel in the Church of England. It has also been inferred from Jenkin of De- fynock's poem to him that he was in holy orders, and the tradition that he was licensed to preach by Arch- bishop Grindall was so strong that the year was actually given. Though unable to verify the tradition at Lambeth Palace Library, I am of opinion that he was probably a reader, an office to which men were appointed in many parishes by author- ity of the bishops, for which regula- tions were put forth by the Convo- cation of the Clergy in A. D. 1562-3. But whether he held any official ecclesiastical position or not, he probably did as much spiritual work in Glamorgan in his day as any clerk in holy orders. It may very well be true that he preached in the reign of Queen Elizabeth, but it must have been as a loyal member of the Church of England, and not as a Nonconformist. His faith in the doc- trine and discipline of the Church of England was not dictated out of obedience to authority in Church and State, but was based upon a whole- hearted, ex-animo acceptance of her system, which he believed to be the best in the world." Sylwa Ficar Aberpergwm—"What has given rise to that idea [that Thomas Llewelyn was a Noncon.] probably is that he was a Protestant and accepted the Reformation, while most of his brother bards opposed the Re- formation and remained staunch Papists, lamenting in their poetry the removal of the images of the Virgin, crucifixes, rood-screens, etc. He was almost an exception among the bards of Tir Iarll in being a Protestant, but there is no evidence that he ever left the communion of the Church." Diolchwyd yn gynnes i'r Ficar am ei draff erth a'i garedigrwydd croesawgar gan y Bonwyr J. Lovat Owen, t:.H., a H. R. Bushell ar arch ein cadeirydd, a chyfarchodd yntau ein gwestywr fel hyn :— "Iechyd da i'r Ficar tirion, Glan ei foes a hael ei galon; Iechyd da i'r teithiwr aiddgar, Grwydrodd wledydd pella'r ddaear; Deled eto i ddweyd yr hanes, 'Rhyd y wlad caiff roeso cynnes. Iechyd da iechyd da lechyd i'r cymydog parchus, Huliodd yma fordydd graenus, Iechyd da i'r ffeirad ffyddlon, Deilynga wraig Gymraeg i'w galon; Hir fo oes i'r Ilenoir gwiwlan Sy'n gloywi glennydd Pontnedd- fychan- lechyd da iechyd da!" Adroddodd Brithyll Tawe englyn i Gwm Nedd:- "Cwm Nedd—cwm annedd anian- afonydd I'w fynwes sy'n prancian; Cwm a lie er cymell 'Llan,' Cwm awgrymog am gryman." A Morlais gyfarchodd y Ficar a'r cwmni fel hyn— Gofynnir i'm wneud rhigwm, Paham? ni ro'ir un rheswm; Ond gallwn ofyn bendith Ner Ar Ficar Aberpergwm. Fe drodd yr hin yn erwin, Y glaw yn drwm yn digyn; Nes lluddias pawb ro'i tro am le A mangre Tomos Ll'welyn. Ond cawsom hapus amser Dan gronglwyd glyd y Ficer; C'awyd te, a theisen, croesaw glan, A phill o gan a chleber. Diolchwn oil o galon I'r Ficer hawddgar, rhadlon, Am ro'i'r fath groesaw cynnes, cu, I deulu'r Mabinogion." A Thalnant— "I Ficer Aberpergwm Mae rhaid i'n roi wrth reswm, Am groeso grasol, ddiolch lion, A thalu iddo'n 'degwm.' A chyfarchodd y Bonwr Tom Wil- liams, ysgolfeistr y Mabinogion, yn hapus, fel y canlyn :— "Dewch serchog Fabinogion — o lannau'r Lawen Dawe dirion; Eto'n llu i fwyta'n lion, A synnu yn nheml swvnion. Os y gwlaw-was y gelyn-a faedd- odd Fyddin fach 'Llewylyn'; Mi fentraf cewch yr haf hyn Difyrrwch heb ddiferyn. Eto'n gwic at y Ficer-dewch i gyd, Da chwi, Gymry tyner; Campus le yw ein cwm pêr- E fyn dynion ei fwynder." Wrth ateb y diolch bu'r Ficer mor garedig a'n cymell i roi tro eto yn nes ymlaen, pan fo'r tywydd teg wedi dod yn fwy sefydlog er cario allan y rhan honno o'r trefniant a adawyd y tro hwn. Erbyn hyn yr oedd y glaw wedi dianc a'r haul yn siriol wenu a chaf- wyd taith bleserus i orsaf Glyn Nedd. Bu'r Bonwr a'r Fones Hopkins yn garedig iawn i ni, yn enwedig i'r boneddigesau oedd yn ein cwmni. Derbynied y caredigion hyn ein diolch gwresocaf, a bydded i reolwr y tywydd wenu arnom y tro nesaf yr I ymwel y Mabinogion a Pont-nedd- fychan.
Advertising
Blinderau yr Afu Yw'r Achos 0 Lawer 0 Boenau ac Anhwyt- usdod. Poen Pen, Biliousness, Surnl y Cylla, Diffyg Traul, Cwynt, CorfFrwymedd, lselder Yspryd, Croen Darddiant, a llawer ,0 Nervous Disorders. GWAED DRWG YW YR ACHOS GWREIDDIOL O'R OLL. MAE = Hughes's. Blood Pills Yn cael effaith ileshaol ac uniongyrchol ar yr Afu drwy weithredu ar a dileu pob elftn wenwynllid o'r Cwaed ac sydd yn llifo drwy yr Afu fel yr holl organau eraill y corff. SYLWER.—Mae Gwaed Drwg yn cyth- ryblu gweithrediad holl organau y corff. Wedi bod yn wael iawn V ? ?  am fisoedd, '? ?? j Poenau neu X I Ji Rheumatics yn ,?? ??. "? E y Cymal?u a'r ? ??? j\ I Cefn, Piles a -4 Phoen Pen yn ?y' &  "? !? ami. Yn holl- 1 J ol analluog i 't ) ? 7Js? ? B t ddilyn fy ngal- ? ? ? |■|nj:<|r wedigaeth. t | V Mae 'Hughes's 1 t T\ ?' Blood Pills' yn | V "5 fy iachau yn 1 J1 ? gyflym iawn."     j A? Mae Pobl o bob rhan o'r wlad yn tystio i allu neilltuol y Pills hyn er adferu dioddefwyr o Glefydau y Croen, Poen Cefn, Gwynegon, Lumbago, Piles, Corff- rwymedd, a Blinderau y Croen, Afu, Cylla a'r Arennau. RHODDER PRAWF ARNYNT. Hwy a wnant brofi eu mawr werth mewn ychydig amser. Ar wertn dn bob Chemist a Stores am 1/3, 3/ 5/- (gan gynnwys y War Tax). Gofynner am Hughes's Blood Pills," a gofaler gweled y Trade Mark, sef Ilun y Galon, fel hyn-  PF ?.!?'?< ar bob blwch. Heb hyn nid yw yn iawn. Na thwyller chwi i gymeryd dim arall. Neu danfoner ei gwerth mewn Stamps neu P.O. at Jacob Hughes, M.P.S., L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. Fe ei danfonnir (post free) gyda throad y post. ATHROFA ABERYSTWYTH (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru) Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. D ECHREUA'R Tymor newaf ar Ddydd Mawrth, Hydref 4ydd, 1916. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethau (amryw o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr ar- holiad le yn Aberystwyth ar y 19eg o Fis Medi, 1916. Am fanylion pellach, ymofynner â- J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. r* A PAGE Book about Herbs and how to uae O7E them. Post free. 8end for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond-road, Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. To prevent fraud see that you gei" Estab- lished 1879 on every label and wrapper of my preparations, without whioh none are ge.iine_Trimnell, The Herbalist, 144 Rich- mond-road, Cardiff, TRIMNELL'S PILLS AND POWDERS JL have cured thousands. Why not you ? See that you get Established 1879 on every la,bel.-Trimnall, The Herbalist, 144 Richmond Road, Cardiff. Agents wanted. LALP; FS BLANCH ARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, &c., they speedily afford relief and never fail to alleviate all suffering, They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple, &o. Blanohard's are the Best of all Pills for WomeR. Soldi n boxes, 1/11, by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same price, from LESLIE MARTYN Ltd., Chemists, I 3 DA-LSTOR LANE, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp V wt- R Y W EN 0(wlild send two stamps for > .r -t t Book. containing' Valuable I. ( .,t i, „ Irregularities and Obstrueti;.)r,, ,r,,F., i-oided or removed by simple aa-as' h^com- i,eri(le,d by eminent Phyficianu, 3" the Safe, Sure and Genuine Reined v s7,.ver Faiia, "btoii sane, f- -)f Mr. PAUL BLANCHN^D. £ UKr«oaont House. Dais ion 1 i cuic.v*