Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
D. J. SNELL'S ANNOUNCEMENTS. I DR. PARRY'S OPERA BLOD- WEN is now reprinted. O.N., 4s.; Solfa, 2s. JOSEPH," Cantata (Dr. Parry), O.N. 2s. 6d.; Solfa, 9d. Published by D. J. Snell. /^GRAMOPHONES from 22 2s. GDouble Sided Records from Is. Id. Records sent by post. Lists free. p IANOS, ORGANS, ACCORDIONS MOUTH ORGANS, &c. Huge Stock. Illustrated Lists Free on application. D. J. SNELL, 21/22 HIGH STREET ARCADE, SWANSEA. Croesaw Calon 1' Cymny. The 'Osborne Restaurant' 7, UNION, ST., SWANSEA. WELL AIRED BEDS. HOME COM- FORTS. PARTIES CATERED FOR AT MODERATE CHARGES. Manager I Will Griffiths. Gymry pan yn Abertawe Ewch i'r Osborne i gael bwyd, Yn 7 Union Street mae bwnnw Pris rhesymol iawn a gwyd. Os bydd eisieu lie i gysgu Ynddo cewoh welyau clyd, Gymry serchog, ni oheir Gwesty Gwen na hwn drwy'r eang fyd. Chwifiali Faner G6ch urddaaol, Yn roesawgar yn y 'stryd, Ger yr Empire mae yr Osborne Taag yno ewch i gyd -Aweitydd a tu Yno. Y Lie goreu am I Lyfrau Cymraeg yn yn holl wlad ydyw Shop MORGAN a HIGGS. CEDWIR YR HOLL LYFRAU CYM. RAEG A CHYMREIG A DDAW O'R WASG. Wele rai o'r Llyfrau a gyhoeddir gan- ddynt:— Taith y Pererin 11-Y Rhyfel Ys- prydol-a Helaethrwydd o Ras, yn un gyfrol fawr, gan J. Bunyan. Mewn llythyren fras, ynghyda nifer liosog o ddarluniau lliwiedig. Rhoddir hanes bywyd yr awdur hefyd. Mewn llian hardd. Pris cyhoeddedig, 25s., am 12/6 net. Hanes Bywyd Syr Lewis Morris," gan y Parch. D. Eurof Walters, M.A., B.D., 6c., drwy'r post 7c. "Ysgol yr Adroddwr."—Yr unig lyfr Cymraeg i dysgu sut i adrodd, 82 tudalen ynghyd a 62 tudalen o ddarnau adroddiadol gan bigion o feirdd y gen- edl. Is. net, drwy'r post 1/2. Perlau'r Adroddwr. Llyfr adrodd newydd i blant, yn cynnwys 70 o darnau adroddiadol gan tua 50 o enwogion Beirdd Cymru. 6c., drwy'r post 7c. "CerddiRhyddid": Parch. T. E. Nicholas (Bardd y Werin). Is. net, drwy'r post, 1/2. Celtic Countries D. Rhys Phillips, F.L.A., 1/3 net, drwy'r post 1/5. Wales and its Drink Problem," gan y Parch. J. T. Rhys, Is., drwy'r post 1/2. > YR UCH03 I'W CAEL ODDIWRTH MORGAN a HIGGS 18 HEATHFIELD ST., ABERTAWE. 00 YOU SUFFER FRONt EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. c. F. WALTERS, F.S.M.C. OPHTHMALIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, A be rdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. OOWNT SONS For Good Substantial ——— Furniture, Beasteadsg Bedding, Carpets, And every description of House Furniture. —————— CABINETWORKS: CL1A# A MCC A 221 H!GH8TREET&MORR!SL?NE, ?WV?B??&?, The Largest and Cheapest Steam Illustrated Catalogues free on application Cabinet Manufactory in South Wales, IMMENSE STooK TO SELECT FROM Carriage Paid on all Orders above £1Q, or Delivered Free in our own Vans. Chwedlau Hamdden Ar werth gan Mri-I. MORGAN a HIGGS, Llyfnwepthwyp, Aboftawe. Pris Is., trwylr post, Is. 2e. j U HONGIAN RHWNG DEUFYD." LLYFRAU CYMRAEG GWERTH EU PRYNU. Ysgol yr Adroddwr, 1/ trwy'r post 1/2. Llyfr Adrodd Cenhadol, 1/ trwy'r post, 1/2. Twm Shon Catti, 1/ trwy'r post, 1/2. Caniadau Watcyn Wyn, 1/ trwy'r post, 1/1. Oriau'r Hwyr (Ceiriog), 1/ trwy'r post, 1/1. Y Bardd a'r Cerddor (Ceiriog), 1/ trwy'r post, 1/1. Yr Oriau Olaf, 1/ trwy'r post, 1/1. Owen Glyndwr, gan Thos. Pennant, 1/ trwy'r post, 1/2. Datblygiad Corfforol Meddyliol a Moes- ol, gan W. T. Griffith, 1/ trwy'r post, 1/2. Mynyddog, Ei Fywyd a'i Waith, 1/6; trwy'r post, 1/8. Drama Rhys Lewis, 1/ trwy'r post, 1/2. Drama Dafydd ap Gruffydd, gan Gwynne Jones, 1/ trwy'r post, 1/2. Drama Dic Sion Dafydd, gan y Parch. Tywi Jones, I/ trwy'r post, 1/1. Drama y Dreflan, Daniel Owen, 1/ trwy'r post, 1/1. Drama Cyfoeth a Chymeriad, gan Grace Thomas, 1/ trwy'r post, 1/1. Yr Ysgol Gymraeg, 0. J. Owen, 1/3; 16 trwy'r post, 1/5. Cerrig y Rhyd, gan Winnie Parry, 1/ trwy'r post, 1/2. Ceinion y Gynghanedd, gan Alafon, 1/ trwy'r post, 1/2. Iolo Goch (Cyfres y Fil), 1/ trwy'r post, 1/2. Sion Cent" (Cyfres y Fil), 1/ trwy'r post, 1/2. Drws y Galon, gan R. H. Jones, 1/ trwy'r post, 1/2. Barddoniaeth Goronwy Owen, 1/ trwy'r post, 1/2. Llythyrau Goronwy Owen, 1/ trwy'r Gyda Min yr Hwyr, gan J.J., Drefnew- ydd, 1/ trwy'r post, 1/2. post, 1/2. Mynyddog (Cyfres y Fil), 1/2. Gerllaw Glaslyn Geneva ac ym Mra. Calfin, gan Gwylfa, 1/6; trwy'r post, 1/8. Cedwir Stor Helaeth o Llyfrau Cymraeg at Wobrwyo, &c. i Yr uchod i'w cael oddiwrth— I JOHN HOWELL & Co., Llyfrwerthwyr, Briwnant House, TONYPANDY. ST. JOHN'S HALL GYMMER, PORTH. A GRAND Competitive Concert Will be held at the above Hall On Thursday, July 13th, 1916. President: Sir. W. J. THOMAS, Ynyshir Conductor: JOHN MORGAN, Esq., Porbh Principal Items :— Mixed Choir 6 Dyddiau dyn sydd fel glas- welltyn" (T. Davies). (Minimum 30 Voices), X3 3S. 0d> And a Cup to the successful Conductor. Male Voice Party: In the Sweet "• (Protheroe) (Minimum 30 Vocies). X3 3s. Od. Ahd a Cup to the successful Conductor. Champion Solo (Open) 42 2g. Od. And a Cup Champion Recitation (Open) iCl Is. Od. And a Cup. Other Competitions: Tenor, Soprano, Baritone, Novice (Open) Boys and Girls Solos and Recitations. Secreties: GRIFFITH B. JONES, 6o, Eirw Road, Porth; THOMAS HERBERT, 107, High Street, Cymmer, Porth. Programmes id. each, by post iid. EISTEDDFOD GADEIRIOL LLAN- GYFELACH, GORFFENNAF 1, 1916. Prif Ddarn, "Y Blodeuyn Olaf," £ 5. Rhaglenni, lc. gyda'r post. Ysgrif- ennydd Elias Thomas, Village, Llangy- felach. Yr elw at achosion lleol ynglyn a'r rhyfel. Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1916. Cystadleuaethau: Mercher a Iau, Awst 16 a 17 Cymanfa Ganu Genedlaethoi: Dydd Gwener, Awst 18 LlyWpddion Y GbJir Anrhpdeddus D. Lloyd George, A.S., ac enttiogion eraill. Cyngherddau: Nos Fawrth, Nos Fercher aNos Iau Blaenion y Gan a Chor yr Eisteddfod yn gwaaanaethu. Tocynnau £ 1 yr un i'r seddau dawisedig yng nghyfarfodydd yr Eisteddfod, y Cyngherddau, a'r Gymanfa. Enwau'r cystadleawyr ymhob adran i fod yn nwylo'r Ysgrifennydd OyffrediDol erbyn y lOfed o Orffennaf. Am fanylion pellach, ac am docynnau i'r seddau dewisedig, ymofynner yn ddioed a'r ysgrifennydd, Swyddfa'r Eisteddfod, Cam- brian Chambers, A berystwyth Yr elw i'w drosglwyddo i Gronfeydd y Rhyfel. ? AT EICH GWASANAETH. i I THOMAS a PARRY CYF., > ARGRAFFWYR, ) Heol Caer, Abertawe. } C Adrodiiadau Eglwysig. C Pence Envelopes. r Rhaglenni Eisteddfodau. > 3 Llawlyfrau, i Hysbyslenni, etc., etc. ? Tel. Cent. 151. ZION CHAPEL, WAUNARLWYDD. A GRAND EISTEDDFOD will be held at the above place on Oct. 7th, 1916, in aid of our Sailors and Soldiers. Chief Choral: Babylon's Wave (Gounod), open for Male Voice. Mixed Voice or Ladies' Choir. 1st prize, 95 and Silver Cup; 2nd prize, £2 and Medal or Brooch. Solos, etc., 21 ls. each.—Programmes from the Secretaries: George John, Swansea Rd., W aunarlwy d; W. Hollingdale, Swansea Road, Waunarlwydd. ABERCYNON SIXTH ANNUAL EISTEDDFOD Monday, Sept. 25, 1916. ADJUDICATORS: Music—Rev. ARTHUR DAVIES, G &L., Merthyr, and Mr. ARTHUR DAVIES, F.R.C.O., A.R.C.M., Swansea. Literary—Rev. R. GWMRYN JONES, Penrhiwceiber, ——— Mixed Choral Competition (not under 40 in number), Blodeuyn bach wyf fi mewn Gardd (Gwilym -Gwent), Prize £ 8, and Silver Cup to successful conductor. Juvenile Choir (not under 40 in number), I Sing because I love to sing" (Pinsuiti), Prize 44, and a Baton to successful conductor. Second Prize 41. Soprano, Contralto, Tenor, and Baritone Solos, Pianoforte Solos, Literary Competitions, etc. Programmes may be had from the Secretaries, HUGH DAVIES, 3 Elizabeth st., Abercynon, JOHN REES, Fishguard Villa, Abercynon rd., Ab ercynon.
Llith y Gol.I
Llith y Gol. Yr hyn a dynnodd fwyaf o sylw o ddim yn ddiweddar, ar wahan i'r rhyfel, oedd y Gynhadledd o'r Gwledydd Cynghreir- iol a fu ym Mharis Meh. 14-17, i ystyr- ied pa fodd i ddiogelu buddiannau mas- nacho l y gwledydd hyn ynghyd a pha fodd i orchfygu y cynlluniau a honnir sydd mewn golwg gan Germani i fedd- iannu marchnadoedd y byd pan! fydd y rhyfel drosodd. Cymeradwya'r Gyn- hadledd gynllun a gymer i fewn dri chyfnod, sef:— (1) Cyfnod y Rhyfel, ac awgrymir eyd- drefnu yn y Gwledydd Cynghreiriol ddeddfau a rheolau a fo'n gwahardd masnachu a'r gelyn. Rhwystro'n hollol dderbyn i fewn nwyddau a wnaed mewn gwledydd sydd yn awr yn elynol neu a ddeuant oddi- yno. Naill ai meddiannu'r elw neu reoli masnach a berchnogir neu a weithir gan ddeiliaid gwledydd gelynol. Mesurau Ilym i gaethiwo ar gyflen- wadau i'r gelyn. (2) Cyfnod Ail-adeiladu. Defnyddio moddion cyffredin naill ai i sicrhau i'r gwledydd sy'n dioddef oddiwrth ddin- istr rhyfel a gofynion anghyfiawn ad- feriad o'u defnyddiau anweithiedig, eu peiriannau diwydiannol ac amaethydd- ol, eu stoc, a'i llynges fasnachol, neu eu cynorthwyo i sicrhau'r pethau hyn iddynt eu hunain. Gwrthodiad i'r galluoedd sydd yn awr yn elynol, dros dymor i'w benodi trwy gytundeb y fantais o'r "most favoured nation treatment." Mesurau amddiffynol rhag "dympio" o du'r gelyn (h.y., danfon o orgyflenwad eu nwyddau i'w gwerthu'n rhad mewn gwledydd eraill) ac i rwystro deiliaid gwledydd y gelyn a, fo yng ngwledydd y Cynghreiriaid i gymryd rhan mewn diwydiannau sydd ynglyn a'r amddiffyn cenedlaethol neu annibyniaeth drefn- idol. (3) Tymor heddwch. Mesurau a gyn- hygir—I wneud y gwledydd cynghreiriol yn annibynnol ar y rhai gelynol mewn defnyddiau anweithiedig (raw material) a phethau gweithiedig a fo'n hanfodol i ddatblygiad rheolaidd eu gweithred- iadau trefnidol. I hyrwyddo a gwella cydgyfnewidiad I eu cynhyrchion. I gael unrhywiaeth yn y deddfau sy'n rheoli breintebau (patents), mynegion o'u dechreuad a'r nod masnach, ac i fabwysiadu ynglyn a breintebau, nodau masnach a hawlfraint mewn llenydd- iaeth a chelf ddull cyffelyb i'r hyn sydd yn awr yng ngwledydd y gelyn yn ystod y rhyfel. Dyna'r mesurau a gymeradwyir gan. Gynhadledd a gyfrifir yn un o'r rhai, pwysicaf a fu erioed, cynhadledd oedd yn ymwneud a materion sydd yn dal perthynas agos a bara beunyddiol rhan fawr o'r byd. Mae rhai o'r mesurau yn gyfreithlon ddigon, ond y mae eraill o honynt ar y wyneb yn creu amheuaeth am eu bod yn arddangos ysbryd gwa- hanol iawn i'r hyn a ddylasai lywodraethu dynoliaeth. Gwelir yn- ddynt ymgais i barhau y rhyfel mewn ffurf arall, ac yn y parhad hwnnw hadau trychinebau yn y dyfodol cyn waethed a'r un ydym yn ei ganol yn awr. Yn wir, gellir dweyd nad yw y rhyfel bres- ennol ond parhad mewn ffurf wahanol, o'r rhyfel fasnachol a'i rhag-flaenod ac y mae perygl na wna rhai o'r mesur- au a gymeradwyir gan Gynhadledd- Paris, os deuant i rym, namyn cynorth- wyo i gadw'n fyw y llid a'r eiddigedd y dylesid eu claddu gynted a bo bosibl. Dichon, na fyddem mor amheus o'r mesurau a gynhygir onibai am y cri sydd wedi bod mewn cylchoedd eraill am barhad y dial. Y mae How ta cripple Germany after the war?" wedi' bod yn gwestiwn poblogaidd yng nghynghorau masnach y wlad hon, ac ni anghofion dro yr araith ryfedd honno o eiddo Runciman yn y Senedd yn yr hon y datganai awyddfryd chwerw i'r un eyf eirlad. « Wrth gwrs, y mae y rhai sydd wedi arfer cefnogi diffyndollaeth yn gorfol- eddu yn y cyfnewidiad yn egwyddorion masnach y wlad hon a addewir yn y mesurau uchod. Buont hwy er cof gen- nym bron yn canmol cyflwr paradwys- aidd Germani dan ddiffyndollaeth; gellid tybied nad oedd wlad dan haul yn gyffelyb iddi, ac o bosibl y gwelant gyfle yn awr i gael Prydain Fawr i fyny a'r hyn oedd Germani cyn y rhyfel! Y mae grym arbennig yn y rhybudd a ganlyn o eiddo'r Daily News" "Beth yw'r wir elfen a alluoga'r CynghreirWyr i orfyw rhyfel o ddyfal- barhad? Credyd un wlad ydyw, a'r wlad honno yw Lloegr, rydd ei masnach. Adnoddau masnach rydd sydd wedi ein galluogi i ddal dan bwys ymdrech na fin mo'i thebig. Adnoddau masnach rydd yn y diwedd a rydd i ni fuddugoliaeth. Dyna'r ffaith a fydd gan y Senedd yn ei meddwl pan ddaw i ystyried y pwnc mawr hwn." Honnir yn adroddiad y Gynhadledd fod yr Ymerqdraethau Canolog-Aws- tria a Germani, gyda'u cynghreiriaid, eisioes yn paratoi am frwydr drefnidol a fydd yn ei llawn nerth mor fuan ag y ceir heddweh, ac fod cytundebau yn awr yn cael eu gwneud ganddynt gyda'r am- c&n o sicrhau eu huchafiaeth ar gyn- nyrch a marchnadoedd yr holl fyd, a gosod ar wledydd eraill iau annioddef- ol! Yn wir y mae Germani ac Aws- fcria'n rhyfeddach gwledydd nag y tyb- iodd neb. Er colli eu pobl wrth y mil- iynau ac er gorfod dinoethi eu tai o bob mymryn o bres a chopor, a gyrru pob tegell pres i'w doddi, ac er afradloni o honynt eu da ar fey sydd dinistr byddant yn barod drannoeth i gyhoeddiad hedd- weh i arglwyddiaethu ar farchnadoedd yr holl fyd! Barn llawer sydd a hawl i siarad yw y gwnai Germani ac Awstria fwy o niwed iddynt eu hunain nag i neb arall pe rhoddent mewn grym y cynlluniau a briodolir iddynt, ac y bydd y mesurau a lunir i gario allan fwriadau'r Gynhad- ledd yn fwy o niwed nag o les i'r Cynghreiriaid, a bydd gan y Senedd i ofalu na lusgir y wlad i drobwll di- ddiwedd o gynlluniau a chynllwynion fydd a'u llond o berigl. A thybed nad yw'n bryd i'r byd newid ei syniad am fasnach fel am lawer o bethau eraill? Tybed na allai'r Cyngn- reiriaid ragori ar Germani'n hytraci-i na'i hefelychu. Beth ddylasai masnacn fod? Onid cyfnewidiad angenrheidiau bywyd rhwng dynion a'u gilydd? Onid trosglwyddiad ddylasai fod o'r hyn sy'n. dod o law Duw i'r rhai sydd mewn angen am dano? Efe sydd yn peri i'r ddaear darddu a thyfu fel y rhoddo had ifr hauwr a bara a'r bwytawr. Efe a drysorodd ei gyfoeth yn haenau'r ddaear at wasanaeth dyn, a dylasai ei fendithion ef gyrraedd yn ddirwystr y tlotaf a'r distatlaf yn y tir. Ond nid yr hyn a ddylasai fod yw masnach; aeth yn hytrach yn gyfle bwystfilod ysglyf- aethus. Rhwng y fendith a'r angen saif cewri trachwant a rhaib yn ymbesgi ar bopeth cyn y cyrhaeddo'r werin. Onid yw'n ddychrynllyd meddwl fod gwledydd gwareiddiedig a Christ- nogol eu proffes ddynion a feidd- iant gorneli bwyd er mwyn gyrru ei bris yn uwch i'r tlawd a chyfoethogi eu hunain o brinder yr anghennus? Ac nid ydym yn petruso dweyd y gwnai y Gwledydd Cynghreir- iol well gwasanaeth i'w pobl ac i'r byd trwy fesurau i sicrhau na chaffo neb ym- gyfoethogi ar angen eraill. Byddai rhoddi esiampl dda yn hyn yn fwy o glod i unrhyw wlad na dilyn esiampl amheus4 gwledydd eraill.