Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Llythyrau at y Golygydd. L

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llythyrau at y Golygydd. L EISTEDDFOD PONTARDAWE. ] Mr. Gol.,—Dywedodd Penar yn ei feirniadaeth ar un o'r cystadleuwyr am y gadair, sef "Mab Mawrth, mai yn ei bryddest ef yr oedd y "cyfuniad goreu o awen a meddwl yn y gystadleuaeth, ond y gwrthodid y wobr iddo am ei fod wedi disgrifio'n rhy ddu gyflwr cymdeithas cyn y rhyfel. Ai nid yw hyn yn mynd dipyn yn rhy bell? Onid am y bryddest oreu y cynhygiwyd y gadair? Nid oedd yn un o'r amod au fod y bardd i wybod meddwl y beirniad ar wahanol bethau nac ychwaith ei fod i foddio ei rag- farnau. Prin y credaf y gellid dis. grifio'n rhy ddu gyflwr cymdeithas oedd yn addfed i'r fath gyflafan. A raid i farddoniaeth Eisteddfod fod yn farddoniaeth farw i sicrhau cym- eradwyaeth beirniaid?—Yr eiddoch, etc., W.T. DATGYSYLLTIAD MEWN I PERIGL. Syr,—Crefaf ychydig o'ch gofod i alw sylw Anghydffurfwyr Cymru at y perigl newydd sydd yn bygwth achos Datgysylltiad. Oni ddeffroant ar un- waith mae'n fwy na thebyg y collir ffrwyth deugain mlynedd o lafur caled ar y maes hwn. Os amheua neb fod y fath berigl yn bod erfyniaf arno ysgrifennu at ei Aelod Seneddol i ofyn iddo ai nid gwir yw y bwriedir newid y Mesur fel ag i ganiatau i'r Esgob- ion gadw eu seddau yn Nhy yr Ar- glwyddi ac hefyd i roddi yr oil o'r gwaddoliadau i'r eglwys? Gelwir hyn yn "give and take policy, ond gwelir fod y rhoddi fel arfer i gyd ar ochr yr Anghydffurfwyr, a'r cymeryd o du yr eglwys. Mae lie i ofni fod rhai o'r Aelodau Rhyddfrydol wedi eu hud-ddenu gan gyfaredd y geiriau di-sylwedd hyn. Apeliaf felly o ddifrif at y bobl i gymeryd yr achos yn eu dwylaw eu hunain, cyn y byddo yn rhy ddiweddar. Y r eiddoch yn gywir, EVAN WILLIAMS. 40 Portland Avenue, Stamford Hill, Llundain', N. MIRI RESOLFEN. -1 Mr. Gol.,—Fel un sy'n hoff o ten a chan ac eisteddfod yn awr ac eilwaith, aethum i Eisteddfod Plant Resolfen y Llungwyn. Yr oedd yn dda gennyf weled mai gweinidog oedd yn llywyddu yno, a thybiais yn dod yn nes i'w le. Yr oedd yr arweinydd ar ei draed ac mewn hwyl, a hynny hefyd yn yr iaith fain, er mai Cymro o Geredigion ydyw. Synnais pan ddeallais mai ei destyn oedd y Wylan. Deuai ei eiriau yn ddiball, a deallais eto mai ceisio llabyddio Gwylan y "Darian" yr oedd, ac o bosibl y tybiai y byddai'r plant yn gwaeddi H wre. Nid oedd o, un gwahan- iaeth ganddo, meddai, os oedd y Wylan yn bresennol. Wel, os oedd yno, fe'i cafodd yn chwerw. Ond yno ai peidio, goddefed y llywydd air bach, gan ei fod yn condemnio'r Wylan am ymguddio dan ffugenw, carwn wybod a ydyw'r llywydd yn rhydd o wneud yr un peth ei hun? Rhoi llais i deimladau'r lliaws a wna'r Wylan, ac os yw'n cyfeiliornu diau fod colofnau'r "Darian" yn rhydd i unrhyw un a ewyllysio ateb. Peth arall, clywais fod y llywydd yn pleidio milwriaeth orfod. Os cywir hyn pam nad efe allan o wirfodd i ymosod ar rai sy'n fwy peryglus na'r Wylan o lawer. Dywedodd wrthyf unwaith yr elai allan pe rhyddheid ef gan ei eglwys. Wel mae ei eglwys yn liunangar anghyffredin yn ei gadw yma i ymladd a "Gwylan." Sisielir hefyd mai dipyn yn gilwgus yr edrych ar frwydrau'r glowyr am iawnderau. Dylasai fyfyrio tipyn mwy yn yr Efengyl. Yn honno mae hawliau dyn bwysiced a hawliau Duw. Hawliau Duw yn bennaf oil yw cyfiawnder rhwng dyn a dyn. Nid oedd gennyf gyfle i ateb yn yr Eis- teddfod, ac ni fuaswn yn caru gwneud "row, ond dyma bwt iddo yn v "Darian. Y r eiddoch, etc., DUDOCH UNIAITH. MYRDDIN A'R MWNWYR. I Mr. Gol.Vr wyf yn cael mwyn- had mawr fel rheol wrth ddarllen ysgrifau Myrddin ar faterion Llafur, ac y mae'n dda i ni 01 bosibl gael ysgrifau ar y materion hyn o safbwynt gwyliedydd diduedd ar bethau. Fel rheol ysgrifenna'n hynod o .deg, ond digon prin y llwyddodd i wneud cyfiawnder ag ef ei hun y tro di- weddaf, mi gtieliaf. Nid yw'n hysbys ym manylion y drafodaeth ynglyn a'r pymtheg y cant o godiad a gafodd y glowyr yn eu cyflogau. Fel hyn y bu, ac y mae'n bwysig i'r cyhoedd wybod. Yr oedd llyfrau y perchnogion wedi eu cydarchwilio' gan eu harchwilwyr eu hunain ac eiddo'r glowyr. Yn ol yr ■' archwiliad hwnnw yr oedd pymtheg y cant yn ddyledus i 'r glowyr. Yn hytrach na thalu i fyny'n anrhydeddus y pymtheg y cant, nac ychwaith gynnig rhywfaint llai na'r hyn a haeddai y glowyr, bu'r perchnogion yn ddigon wynebgaled i hawlio 71 y cant o ostyngiad A ellir beio cynrychiolwyr y glowyr am beidio gwneud dim lol a hwynt a mynd ar eu hunion at y Llywodraeth a ffeithiau llyfrau'r perchnogion eu hunain yn eu llaw? Nid am fod ar- nynt ofn y glowyr, fel yr haera Myrddin, y caniataodd y Llywodraeth iddynt y 15 y cant. Deall y sefyllfa a wnaeth y Llywodraeth, a gweled fod y perchnogion yn hawlio 7-1 o ostyng- iad, tra'r oedd y 15 y cant o godiad yn ddyledus. Gorchmynnodd y Llywodraeth i'r perchnogion dalu yn anrhydeddus ar unwaith yn ol y cytundeb, ac os na wnaent, y gofalent hwy na fyddai'r glofeydd yn segur am ddiwrnod, hyd yn oed pe byddai raid iddynt eu cymryd drosodd eu hunain. Nid mater o ofn y glowyr nac o enbydrwydd yr amserau oedd yn y cwestiwn, ond mater syml o wneud i feistri dalu yn ol y cytundeb i'w gweithwyr. Nid oedd cwestiwn y cadeirydd yn effeithiOo dim ar ffeithiau hunaneglur. Ni fegir Llafur, fel y dywed Myrddin, ""megis ar laeth a met gan fam dyner er mwyn ei gadw rhag gwrthryfel. Nid oddiwrth y gweith- wyr y mae perigl gwrthryfel, ond oddiwrth raib y rhai a godant grocbris am angenrheidiau bywyd. Gan nad faint a ga'r gweithiwr yn fwy am ei lafur, mae rhywun a hyd yn barod ddisgyn arno fel eryr ar gelain. Sylwed Myrddin ar yr elw a wneir o'r glo y blynyddoedd hyn, a gwel nad yw Llafur wedi bod yn drwm iawn ar y perchnogion; wedi'r cyfan. Yn wir y mae Llafur wedi magu'r perch- nogion ar" fê a llaeth a phethau goreu'r byd. Mae Llafur yn garedig iawn wedi eu gwisgo mewn sidan a modrwyau aur, a rhoddi iddynt balasau heirdd, a rhoddi mwy o aur yn eu llogellau nag a wariant mewn can mlynedd. Yn siwr i chwi nid oes gan y perchennog le i achwyn llawer ary gweithiwr.—Yr ydwyf, etc., GEORGE JONES. Seven Sisters. YR EGLWYS GRISTNOGOL A'R I YMOSOD WYR, ARNI. Mr. GoL,—Yn wyneb fod cynifer o lewod yn rhuthro allan o'u coedwig- oedd y dyddiau hyn i ymosod ar yr Eglwys Gristnogol, cymeraf fi, un o'i hamddiffynwyr anllythrennog, y cyfle i ateb gosodiadau ei dirmygwyr. Y maent yn dwrdio a dirmygu yr eglwys yn ddi-drugaredd am ei bod yn ddigon eofn ei hyspryd i gefnogi y rhyfel arswydus bresennol. Carwn i'r llewod hyn ddarllen mwy ar y Beibl er gweled pwy sydd yn llywodraethu ac yn Haw pwy y mae'r rhyfel. Y mae'n wir fod rhyfel bob amser yn achosi drygau lawer, gan ddwyn gwaeau echryslawn ac an- eirif ar y wladwriaeth lie byddo, gan dorri i lawr filoedd yn amharod i wynebu barn a thragwyddoldeb. Er hyn oil canfyddwn fod rhyfel weithiau yn angenrheidiol i bender- fynu tynged llywiawdwyr drwg a gormesol eu hyspryd. Pan mae'r ymladdfa wedi dechreu dylem y pryd hwnnw gofio mai "eiddo yr Ar- glwydd yw y rhyfel," ac mae yn llaw Duw ei hun y mae'r fuddugoliaeth i'r hwn sydd yn ymladd dros iawnder a rhyddid. Yr ydym fel gwlad wedi colli y dyn mwyaf, sef Arglwydd Kitchener. Prawf hyn i'r ystyriol mai yn llaw Duw y mae'r fuddugoliaeth, am ei fod Ef yn aros yr un heddyw ag ydoedd yn amser Samuel a Dafydd. Pan oedd Samuel yn offrymu ym Mispah, y Philistiaid a nesasant i'r rhyfel yn erbyn Israel, a'r Arglwydd a daranodd a tharanau mawrion yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw. ac a'u drylliodd hwynt a lladdwyd hwynt o flaen Israel." A Dafydd a erfyniodd ar yr Arglwydd, "A at fi yn erbyn y Philistiaid?" Yr Arglwydd a atebodd i Dafydd, "Na ddos i fyny. Amgylchyna o'r tu ol iddynt, a thyred arnynt gyferbyn a'r morwydd; yna ymegnia, canys yr Arglwydd a a allan o'th flaen di i daro gwersyll y Philistiaid. "A Dafydd a wnaeth megys y gorchmynasai yr Arglwydd iddo ef, ac a darawodd y Philistiaid o Geba hyd oni ddelech i Gazer." Ond y mae Satan yn sefyll i fyny yn erbyn Israel, ac yn annog Dafydd i gyfrif Israel. "Am hynny digllonedd yr Arglwydd a enynodd yn erbyn pechod Israel, ac Efe a roddes haint yn erbyn I Israel o'r bore hyd yr amser nodedig. A bu farw o'r bobl ddeng mil a thri- ugain. A phan estynodd yr angel ei law at Jerusalem edifarhodd yr Ar- glwydd am y. drwg, a dywedodd wrtho, "Digon bellach atal dy law." Dyma ffeithiau safadwy i brofi mai eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel. Pe buasai ein gwlad ni yn cyflawnu yr un gweithredoedd barbaraidd a Germani buaswn yn tewi a son. Gwnaeth ein llywiawdwyr eu goreu !a'r oU oedd yn eu gallu i osgoi y rhyfel, ond yr oedd diafol a phechod yn drech na hwynt. Cyhoeddodd Germani ryfel yn ein herbyn, a chaw- som ein gorfodi i godi'r cleddyf mewn hunan-amddiffyniad. 0 ganlyniad y mae yn hanfodol i'r eglwys gefnogi y wladwriaeth yn y rhyfel hon hyd eithaf ei gallu. Wrth gefnogi y wlad wriaeth yn y rhyfel y mae'r eglwys yn ymddwyn yn addas i'w galwedig- aeth. Y pethau y mae yr Efengyl i'w gwrthwynebu a'u gorchfygu y mae ein gwlad heddyw yn gorfod eu hwynebu, gan ymdrechu i'w gorch- fygu, sef hunanoldeb, balchter, gormes, llofruddiaeth ac anghyfiawn- der y Kaiser a'i lu. Y mae ein gwlad wedi cael ei dwyn i beryglon a drygau mawrion, a holl ddoethineh ein penaethiaid wedi methu a'u rhwystro. Canfuasom ein hunain mewn trallod annisgwyliadwy o het. wydd malais y Kaiser i ymosod arnom yn sydyn a dirybudd. Ond bydd i Dduw beri i hyn gydweithio1 er daioni i ni ac er cospedigaeth i'n gelynion, oblegid "yr Arglwydd sydd yn teyrnasu a'i frenhiniaeth Ef sydd yn llywodraethu ar bob peth." Er i'r drygionus ymddyrchafu a therfysgu fel tonnau chwyddedig y mor, y mae Jehofah wedi gosod terfynau i'r an- nuwiol, y rhai nis gallant fyned drostynt. Y mae Duw yn gyfiawn a santaidd, yn paratoi offerynnau di- gofaint yn erbyn Ei wrthwynebwyr, ond Efe a wasgara yr holl gymylau a'n hamgylchynant, a llewyrcha Ei ras arnom gyda disglaerdeb mwy rhagor- ol. Ymddwyn yn addas i'w galwedig- aeth y mae'r eglwys wrth gefnogi y rhyfel echrys hon. Trwy hyn y mae yn gwasgaru y rhai sydd dda I ganddynt ryfel, oherwydd ei har- wyddair yw dwyn heddwch a thang- nefedd i deyrnasu ar y ddaear. Y mae'r eglwys yn gweled mai cynnyrch y diafol ydyw y rhyfel hon. Y mae ei effeithiau i'w canfod ar Serbia a rhannau ereill o'r Balkans, fel y I mae'r eglwys dan rwymedigaeth i gefnogi ein Llywodraeth nes cael y gelyn dan draed.—Yr eiddoch yn gywir, EVAN EDWARDS. YR HEN BOBL—PWY A'U I G WARED? Mr. Gol. ,-Caniatewch i mi ddweyd gair o blaid yr hen bobl sydd mewn dirfawr angen bara beunyddiol ac yn cael eu hesgeuluso gymaint. Nid oes eisieu defnyddio rhesymeg i brofi mai gwr caled erioed yw y byd wedi bod wrth hen bobl. Y maent beunydd yn dioddefwyr dygn; dioddefwyr tawel, mae'n wir; dioddefwyr serch hynny. Gwelsom yn ystod ein hoes lawer o hen bobl wedi byw yn ddiwyd a bucheddu yn brydferth, a Rhaglun- iaeth wedi estyn iddynt hir ddyddiau —rhai dros bedwar-ugain mlynedd; ereill dros bedwar ugain a deg, ond yn y diwedd yn gorfod marw yn gynt nag y dylasent o ddiffyg rheidiau cyn- haliaeth Dyna un o'r pethau mwyaf truenus y darfu i'n llygaid ni syrthio arno erioed. Os ydyw yn ffaith eu bod erioed wedi bod yn ddioddefwyr, beth am danynt yr adeg ryfedd hon pan mae y gost o fyw wedi mynd mor anferth o uchel? Beth yw tAl prin y plwyf neu goron o flwydd-dal y Llywodraeth i gyfarfod y dorth ddrud bresennol? Pwy a'u gwared? Nid y masnachwyr, y maent yn gorfod "talu y ffyrling eithaf i rheiny fel pawb ereill. Pwy a'u gwared? Yr unig ddosbarth sydd yn ceisio, eu gwared yw y dosbarth gweithiol. Y mae eu hachos wedi bod droion ger bron eu cynadleddau, ac y mae un neu ddau o gynrychiolwyr Llafur wedi dwyn eu hachos ger bron y Senedd-yn ceisio ganddi godi y blwydd-dal o 5s. i 7s. 6d. yr wythnos, ond hyd yma nid yw y waredigaeth wedi dyfod. Pwy a'u gwared? Bydd i weinidogion y gwahanol eglwysi, wrth reswm, ofalu am dlo-dioln eu heglwysi. Os gallant lusgo i'r capel cant ganddynt ddwy bregeth bob dydd Sul. Dwy bregeth, yn wir Y mae mwy o eisieu bara o lawer ar yr hen bobl na dwy bregeth. Y gwir yw nid oes angen dwy bregeth ar neb o'r hen bobl sydd wedi myn- ychu moddion gras ar hyd eu hoes. Ein barn onest ni ydyw y byddai yn well i'r eglwysi fyned, ar eu gliniau yr adeg bresennol, a boddloni ar bregeth neu ddwy yn y mis, a rhoddi rhyddid i'w gweinidogion i wasan- aethu y werin yn gyffredinol, yn dymharol ac ysbrydol, mewn ffyrdd mwy angenrheidiol ac effeithiol na phregethu ddwywaith bob Sul. Nis gwyddom pa un ai diffyg amser ynte diffyg cydymdeimlad tuag at yr hen bobl sydd yn pery i'r gweinidogion fod mor ddifater o'u sefyllfa anghen- us, canys rhaid eu bod yn gwybod fod mwyafrif mawr o hen bobl eu gwlad mewn dygn angen. Nid ydym yn cofio inni glywed gymaint ag un o bregethwyr Cymru yn codi ei lef o blaid ymgais Plaid Llafur i geisio gwneud y Blwvdd-ddl yn fwy o beth i'r hen bobl, pan y dylasent fod wedi llanw holl newyddiaduron y wlad a'u dadleuon, a llanw y Senedd a deiseb- au. Deallwn fod y gweinidogion eu hunain am gael codiad yn eu cyflogau, o herwydd y gost bresennol o fyw; a diau fod llawer o honynt ag angen codiad i gyfarfod y gofynion, ond nid ydym yn foddlon i neb o honynt gael codiad cyn helpu yr hen bobl i gael codiad yn gyntaf. Pel symudai y gweinidogion i wasanaethu y werin y tu allan i'r pwlpud, fel yr awgrymas- om, byddai rhan- o broffwydoliaeth y diweddar Hybarch Ddoctor Parker, City Temple, Llundain, yn cael ei chyflawnu bron yn llythrennol wed'yn. Yn y "Great Thoughts," ugain mlynedd yn ol, y gwelsom y broffwyd- oliaeth. Penawd y Dr. oedd "The Forecast of the Twentieth Century. Cynhwysai y broffwydoliaeth lawer o gyfnewidiadau a diwygiadau ben- digedig, ac yn eu plith dywedai y Doctor- There will be no pulpit in the Twentieth Century. A member of the church then will not say to his neighbour—come to our nice chapel and sit by the side of the organ; but every Christian will visit his neighbours and teach them the right way of living in the Twentieth Century. Diau na chawn ni ddim o'r fraint o weled y diwygiadau hyfryd a nodir yn y broffwydoliaeth, a chaniatau y bydd i'r broffwydoliaeth gael ei gwireddu, ond y mae yn ddigon posibl y caiff ein plant, neu ein hwyron, y fraint o'i gweled. Beth bynnag am broffwydoliaeth Dr. Parker, y mae arnom wir angen diwygiadau ynglyn a'r hen bobl. Dywed y Beibl bethau prydferth a phwysig o berthynas i iawn ym- ddwyn at yr hen a'r tlawd. Dyfynnwn rai o lu 0 honynt: "Y neb a orthryma y tlawd a gywilyddia ei Greawdydd "y neb a gymero dru- garedd ar y tlawd sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd"; "gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd gwynfyd- edig fydd ar y ddaear "yr Ar- glwydd a'i nertha ef ar ei glaf wely." Yr eiddoch, etc., LLAIS O'R EGLWYS. DADL Y RHONDDA. Mr. Gol.,—Honna'r "Gwyliwr" fod pob pwynt o werth yn fy llythyr i wedi cael sylw yn ei atebiad i "Lais Llafur," ac mai gwastraff ar amser a fyddai sylwi'n fanylach ar fy ngwaith. Awgryma hefyd fod fy ffug-enw yn bortread o'm cyflwr meddyliol, ac fod fy meddwl yn rhy "gam" i geisio'i unioni. Mewn ol- nodiad ar ddiwedd ei ysgrif y gwnaeth y sylwadau hyn, a hynny'n ddiau gyda'r amcan o adael yr argraff ar y darllenydd nad oeddwn ond prin yn deilwng o sylw. Ei wir amcan er hynny yw ceisio dianc o'm llaw heb ragor o'i ysgytio; ond nid yw i gael dianc mor ddiseremoni. I mi mae cwestiwn mwy na chau neu agor Neu- addau Trwyddedol y Rhondda ar y Sul ynglyn a'r ddadl hon, sef y dull o ddelio a materion pwysig a chysegred- ig gan rai sydd yn honni bod yn gan- lynwyr i Un oedd yn addfwyn a gostyngedig o galon, yn amddiffyn- wyr y Ffydd, ac yn geidwaid y Sabath. Ysgrifenasai "Llais Llafur" yn urddasol, ac yn bur deg a diduedd ar y pwnc; atebodd y "Dyrnwr" yn yn gryf ac adeiladol iawn ar rai pwyntiau er iddo fynd dipyn yn bro- foclyd o bosibl mewn rhai pethau. Cydnabu "Llais Llafur degwch a grym dadleuon y "Dyrnwr," a phe cyfyngesid y ddadl i'r dynion call hyn dichon y buasai'r drafodaeth o fudd. Beth bynnag daeth y "Gwyliwr" i'r maes yn ei lawn arfogaeth, ac yn sicr ddigon ni allai efe ddweyd, Arfau fy milwriaeth i nid ydyn,t gnawdol." Darostyngodd efe y ddadl ar unwaith i dir gresynnus o isel. Fel protest yn erbyn y "Gwyliwr" yn delio a chwestiynnau cysegredig mewn dull mor flagardaidd, ac yn siarad yn enw'r eglwysi mor fombastaidd a dichwaeth y rhoddais innau fy ngair i fewn.f Nid y mater o agor neu gau'r Neu- addau sydd gennyf fi mewn golwg, ond byddai yn dda i rai yn y Rhondda sydd mor selog dros gadwraeth y Sabath go-fio'r geiriau a lefarwyd wrth geidwaid y Sabath gynt, "Y mae Mab y Dyn yn Arglwydd y Sabath hefyd" (Luc. vi. 5). Tybed hefyd

Advertising