Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Eglwys Annibynnol Calfaria,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eglwys Annibynnol Calfaria, Rhigos. Cyfarfod Anrhegu Mr. Wm. Thomas Morgan (Gwilym Alaw), nos Llungwyn, Mehefin 12fed, 1916. Cadeirydd, y Parch. E. Wern Williams, Nebo, Hirwain. Rhaglen: Araith gan y llywydd. Unawd gan Mr Philip Jenkins, Mae'th dad wrth y llyw." Adroddiad gan Miss Maggie Gwen Davies. Unawd gan Mr. David Harries. Adroddiad gan Miss Ceinwen Edwards. Darllen yr "Annerchiad" gan yr ysgrifennydd. Cyflwyno yr anerchiad gan Mrs. Catherine B. Wil- liams a Mrs. Jane Harries (dwy o ael- odau hynaf yr eglwys). Cyflwyno y gwydrau aur a'r god o aur gan Mr Jen- kin Jones (un o aelodau hynaf yr eglwys a'i thrysorydd). Anerchiadau gan y beirdd. Areithiau gan Mr. Wm. Wil- liams, Bryn Golwg; Mr Wm. Williams, Cwm Isaac, a Mr. John M. Rees (Llwyn- y-gwin, diaconiaid. Darllen llythyr gan y cadeirydd oddiwrth y Parch. J. Evans, Capel y Glyn, Glyn Nedd. Darllen ffrwyth awen y beirdd nad oedd yn bres- ennol. Unawd gan Mr. Morgan Jones. Adroddiad gan Mr. John M. Rees. Un- awd gan Mr Evan R. Morgan. Deuawd gan y Mri. David Harries a Philip Jen- kins. Araith gan Gwilym Arthur ei hun. Anerchiad cyfhvynedig i Mr. Wm. Thos. Morgan (Gwilym Alaw).'  fI Annwyl' fraw,:Ii,- ymunwn e ae 0 au o Eglwys Annibynnol Calfaria, Rhigos, gyflwyno yr anerchiad hwn i chwi fel cydnabyddiaeth fechan o'ch gwasanaeth fel ysgrifennydd, am yspaid o ddeugain mlynedd. Cawsom chwi yn ffyddlon ar hyd y blynyddau, yn cyflawni holl ddyled- swyddau eich swydd i foddlonrwydd pawb. Curasoch dros yr eglwys wrth ddor mil a mwy o weision y nef, gan ofyn iddynt ddyfod i draethu y new- yddion da o lawenydd mawr," ac addefwn yn rhwydd ein bod drwy eich medr a'ch taerineb wedi cael y fraint o glywed cewri y Pwlpud Annibynnol. Sylweddolwn mai nid llwybr hawdd i'w gerdded ydyw eiddo ysgrifennydd eglwys; ond cerddasoch ef yn anrhyd- eddus drwy weithio mewn amser ac allan o amser, gan aberthu llawer, a'ch llethu lawer tro gan bryder rhag ofn i rai o'r Cenhadon Hedd dorri ar eu cy- hoeddiad, ac er fod eich gwasanaeth yn ddisylw gan lawer, cyflawnech ef yn ddiflino a dirwgnach. Profai hyn eich bod yn cyflawni y swydd o gariad at y gwaith, ac nid er mwyn eich gweled gan ddynion. Dyledus ydym hefyd i chwi fel un o wyliedyddion caerau ein heglwys. Gor- wedd llawer o'i chyfrifoldeb ar eich ysgwyddau. Yr ydych yn un o'i cholofn- au hynaf a chadarnaf, ac un o'i meini mwyaf caboledig a defnyddiol. Cerdd- asoch i'w phyrth mor ddidor ar hyd y blynyddau nes teimlir gwagder tufewn i'w muriau os digwydd i'ch lie fod yn wag. Cyflwynasoch eich talentau erioed ar allor gwasanaeth .eich Crewr, a phan yn cynghori, yn cyfarwyddo, neu yn dweyd unrhyw air, mae delw meddwl coeth ar yr oil, ac yn hawlio sylw a gwranclawiad bob amser. Enhillodd eich rhodiad uniawn, eich cymeriad glan, a'ch gwasanaeth rhad a ffyddlon, i chwi barch, edmygedd, ac enw da gan yr eglwys, a chan bawb o'ch cydnabod. Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr." Cyflwynwn i chwi ein diolchgarwch gwresocaf, ein hymddiriedaeth lwyraf ynoch, a'n parch diffuant tuag atoch, gan ddymuno i chwi eto hir oes i'n gwasanaethu; a phan ddelo'r nos yn yr hon "ni ddichon neb weithio," mach- luded eich haul mewn ffurfafen ddigwm- wl, ac yn chwythiad araf awelon balm- aidd "ardal lonydd yr aur delynau a phan yn canfod y Brenin yn Ei degwch, diau y clywch y geiriau o'i enau glan, Da was, da a ffyddlawn, buost ffydd-, lawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer, dos i mewn i lawenydd dy Ar- glwydd." Arwyddwyd dros yr eglwys: William Williams (Cwm Isaac), Jenkin Jones, Thomas T. Jones, Wm. Williams (Bryn Golwg), Wm. Harris, diaconiaid.

Resolfen.I

Birchgrove.I

Pontypridd.

Ystrad Rhondda.

RHIWMATIC AC ANHWYLDEB Y KIDNEY.

Advertising

Advertising