Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

, Undeb y Cymdeithasau J Cymraeg.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Undeb y Cymdeithasau J Cymraeg. AT Y CYMDEITHASAU. Ymweliad Goiygydd y Brython, etc. Y mae amryw o honoch, fe wn yn dda, yn brysur gyda'r paratoadau ar gyfer y tymor nesaf. Dymunaf i chwi lwydd- iant mawr, canys ni fu mwy o angen er- ioed nag y sydd eleni am gyfres odidog o ddarlithiau grymus gan "hoelion wyth y byd Cymreig. Er hynny na ymfoddloner ar ddarlithiau yn unig, gweithier ymysg y plant a'r bobl ieuainc fel y codom genedlaeth a adnebydd y lies a ddeillia iddi oddiwrth dreftad- aeth y Cymro. Ceisiodd rhai Cymdeithasau gan yr Undeb drefnu cylchdaith i siaradwr o fri yn ystod y tymor nesaf. Nid rhwydd ydyw cytuno ar wr a ystyrir yn siarad- wr felly, ac nid hawdd trefnu nosweith- iau cyfleus i amryw o Gymdeithasau pan sicrheir ymweliad darlithiwr poblog- aidd. Eleni llongyfarchaf Gymdeithasau'r De, canys deallaf yr ymwelir ag amryw o honynt gan Mr. J. H. Jones, Golyg- ydd y Brython," 356 Stanley Road, Lerpwl. Nid oes dadl nad yw Mr Jones yn 'hoelen wyth,' ac y mae'n ddilys I ddiameu gennyf na siomir neb a sicrhao ddarlith ganddo. Fy amcan wrth ddyweyd gair fel hyn J ydyw hysbysu Gymdeithasau'r De y bydd Mr. Jones ar ymweliad a'r Deheu- dir yn ystod yr wythnos olaf ym mis Tachwedd. Gwn ddarfod iddo eisoes addaw annerch Cymreigyddion Mer- thyr, Tach. 29. Bwriada deithio oddi- yno tua Aberhonddu, a thebyg iawn yr ymwel a'r Barri a Chasnewydd hefyd. Os chwennych eraill ei wasanaeth an- foner ato yn uniongyrchol a thrner noson gyfleus. Tebyg yr erys yn y cylch am fwy nag wythnos. Gwn y bydd pob Cymdeithas yn barod i gyfrannu'n weddol deg a rhesymol tuag at dreuliau teithio Mr. Jones, canys mi a wn na all neb dalip am ei wasanaeth. Llosg efe'n oddaith gan genedlgarwch Cymreig, a gwn yn dda fel y mwynha efe ei hun ymysg y De- heuwyr y sydd mor wahanol mewn rhai cyfeiriadau i'w brodyr, y Gogleddwyr. Swynir y Golygydd hynaws, oni cham- gymeraf, gan iaith yr Hwntw; a da gennym am gyfle iddo adnewyddu'r hen gymdeithas a fu rhyngddo a llawer o wyr y De. Y cyntaf yn y felin bia'r mai, a'r cyn- taf i anfon at Mr. Jones a sicrha ei was- anaeth. Nid edifar gan neb a fydd ym- welad Mr. Jones. E. T. John, Ysw., A.S.-Cyiarfod Adran Dyfed yn Aberystwyth. Y mae'n Llywydd newydd, E. T. John, Ysw., A.S., yn llawn gwaith eisoes. Bwriedir, ar ei awgrym ef, gyn- nal cwrdd yn ystod Eisteddfod Aber- ystwyth o dan nawdd yr Undeb, a hynny er mwyn Adran Dyfed yn arbennig. Gwyr pawb ddarfod i Gynhadledd I Merthyr benderfynu peidio a chynnal cyfarfod yn Aberystwyth; ond gan i Mr. John awgrymu'r cyfryw, y mae'n debyg iawn y rhoddir cyfle i Adran Dyfed ddangos ei nerth a'i brwdfrydedd o blaid gwaith yr Undeb. Bydd croeso i bob 'Undebwr.' Ceir manylion pell- ach yn ddiweddarach; gwylier colof- nau'r "Darian." Y mae'r llyfryn anerchiadau hwnnw, y clywyd am dano, yn y Wasg. Cyn- hwysa anerchiadau Mr. John a Dyfnallt yng Nghynhadledd Abertawe. Gwas- gerir ymysg aelodau'r Undeb. Cylchlythyr Rhif 2.—Pa le mae'r ateb- ion? Blin gennyf nad atebwyd y goiyniad- au hynny ar Gylchlythyr Rhif 2, ond gan un Gymdeithas ar ddeg allan o rhyw 70. Y mae'r atebion mor bwysig fel na allaf ganiatau iddynt fod yn ddisylw gan y Cymdeithasau. Bydd llyfryn yr Anerchiadau i'r Cymdeithasau hynny a rydd hysbysiad llawn i mi haelod- aeth, etc. Llunier i gall hanner gair. Pe bae gennyf ferlyn fel ag sydd gan Olygydd y "Brython," fe ymwelwn a phob Cymdeithas, a dichon y torrwn wialen ar gefn mwy nag un am esgeuluso o honi ateb y Cylchlythyr pwysig a an- fonwyd iddi. Gwelir cyfeixiad at yr un pwnc yn Rhaglen Merthyr, sef yn ein Hadroddiad Blynyddol. Nid wyf am ddyweyd y golyga afler- wch ynglyn a'r Cylchlythyr aflerwch ynglyn a gwaith arall y Cymdeithasau, o herwydd gwn nad yw pethau cyn- ddrwg a hynny. Tipyn o hepian a phethu dwylaw ydyw, dyna i gyd. Wel, deffroed y sawl sy'n hepian ac anfoned ar unwaith y peth a geisiaf, oblegid y bydd efe yn sail gadarn i waith dyfodol yr Undeb. 1916-1917. I Dymunaf dymor llwyddiannus i bob Cymdeithas yn ystod 1916-1917. Boed yn dymor o hedd rhwng y gwledydd yn ogystal. Gofyniad Pwysig. I I ba sawl lie, y mae Cymdeithasau J Gymraeg ynddo, yr A y Darian Diolch I am ateb, Mr. Gol. Cyhoedder rhestr. J 1,

Llith y Tramp.I

i Brynaman.

Llythyr Agored at Dafydd y…

Glannau Afan.

Advertising

Beirniadaethau.