Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
, Undeb y Cymdeithasau J Cymraeg.…
Undeb y Cymdeithasau J Cymraeg. AT Y CYMDEITHASAU. Ymweliad Goiygydd y Brython, etc. Y mae amryw o honoch, fe wn yn dda, yn brysur gyda'r paratoadau ar gyfer y tymor nesaf. Dymunaf i chwi lwydd- iant mawr, canys ni fu mwy o angen er- ioed nag y sydd eleni am gyfres odidog o ddarlithiau grymus gan "hoelion wyth y byd Cymreig. Er hynny na ymfoddloner ar ddarlithiau yn unig, gweithier ymysg y plant a'r bobl ieuainc fel y codom genedlaeth a adnebydd y lies a ddeillia iddi oddiwrth dreftad- aeth y Cymro. Ceisiodd rhai Cymdeithasau gan yr Undeb drefnu cylchdaith i siaradwr o fri yn ystod y tymor nesaf. Nid rhwydd ydyw cytuno ar wr a ystyrir yn siarad- wr felly, ac nid hawdd trefnu nosweith- iau cyfleus i amryw o Gymdeithasau pan sicrheir ymweliad darlithiwr poblog- aidd. Eleni llongyfarchaf Gymdeithasau'r De, canys deallaf yr ymwelir ag amryw o honynt gan Mr. J. H. Jones, Golyg- ydd y Brython," 356 Stanley Road, Lerpwl. Nid oes dadl nad yw Mr Jones yn 'hoelen wyth,' ac y mae'n ddilys I ddiameu gennyf na siomir neb a sicrhao ddarlith ganddo. Fy amcan wrth ddyweyd gair fel hyn J ydyw hysbysu Gymdeithasau'r De y bydd Mr. Jones ar ymweliad a'r Deheu- dir yn ystod yr wythnos olaf ym mis Tachwedd. Gwn ddarfod iddo eisoes addaw annerch Cymreigyddion Mer- thyr, Tach. 29. Bwriada deithio oddi- yno tua Aberhonddu, a thebyg iawn yr ymwel a'r Barri a Chasnewydd hefyd. Os chwennych eraill ei wasanaeth an- foner ato yn uniongyrchol a thrner noson gyfleus. Tebyg yr erys yn y cylch am fwy nag wythnos. Gwn y bydd pob Cymdeithas yn barod i gyfrannu'n weddol deg a rhesymol tuag at dreuliau teithio Mr. Jones, canys mi a wn na all neb dalip am ei wasanaeth. Llosg efe'n oddaith gan genedlgarwch Cymreig, a gwn yn dda fel y mwynha efe ei hun ymysg y De- heuwyr y sydd mor wahanol mewn rhai cyfeiriadau i'w brodyr, y Gogleddwyr. Swynir y Golygydd hynaws, oni cham- gymeraf, gan iaith yr Hwntw; a da gennym am gyfle iddo adnewyddu'r hen gymdeithas a fu rhyngddo a llawer o wyr y De. Y cyntaf yn y felin bia'r mai, a'r cyn- taf i anfon at Mr. Jones a sicrha ei was- anaeth. Nid edifar gan neb a fydd ym- welad Mr. Jones. E. T. John, Ysw., A.S.-Cyiarfod Adran Dyfed yn Aberystwyth. Y mae'n Llywydd newydd, E. T. John, Ysw., A.S., yn llawn gwaith eisoes. Bwriedir, ar ei awgrym ef, gyn- nal cwrdd yn ystod Eisteddfod Aber- ystwyth o dan nawdd yr Undeb, a hynny er mwyn Adran Dyfed yn arbennig. Gwyr pawb ddarfod i Gynhadledd I Merthyr benderfynu peidio a chynnal cyfarfod yn Aberystwyth; ond gan i Mr. John awgrymu'r cyfryw, y mae'n debyg iawn y rhoddir cyfle i Adran Dyfed ddangos ei nerth a'i brwdfrydedd o blaid gwaith yr Undeb. Bydd croeso i bob 'Undebwr.' Ceir manylion pell- ach yn ddiweddarach; gwylier colof- nau'r "Darian." Y mae'r llyfryn anerchiadau hwnnw, y clywyd am dano, yn y Wasg. Cyn- hwysa anerchiadau Mr. John a Dyfnallt yng Nghynhadledd Abertawe. Gwas- gerir ymysg aelodau'r Undeb. Cylchlythyr Rhif 2.—Pa le mae'r ateb- ion? Blin gennyf nad atebwyd y goiyniad- au hynny ar Gylchlythyr Rhif 2, ond gan un Gymdeithas ar ddeg allan o rhyw 70. Y mae'r atebion mor bwysig fel na allaf ganiatau iddynt fod yn ddisylw gan y Cymdeithasau. Bydd llyfryn yr Anerchiadau i'r Cymdeithasau hynny a rydd hysbysiad llawn i mi haelod- aeth, etc. Llunier i gall hanner gair. Pe bae gennyf ferlyn fel ag sydd gan Olygydd y "Brython," fe ymwelwn a phob Cymdeithas, a dichon y torrwn wialen ar gefn mwy nag un am esgeuluso o honi ateb y Cylchlythyr pwysig a an- fonwyd iddi. Gwelir cyfeixiad at yr un pwnc yn Rhaglen Merthyr, sef yn ein Hadroddiad Blynyddol. Nid wyf am ddyweyd y golyga afler- wch ynglyn a'r Cylchlythyr aflerwch ynglyn a gwaith arall y Cymdeithasau, o herwydd gwn nad yw pethau cyn- ddrwg a hynny. Tipyn o hepian a phethu dwylaw ydyw, dyna i gyd. Wel, deffroed y sawl sy'n hepian ac anfoned ar unwaith y peth a geisiaf, oblegid y bydd efe yn sail gadarn i waith dyfodol yr Undeb. 1916-1917. I Dymunaf dymor llwyddiannus i bob Cymdeithas yn ystod 1916-1917. Boed yn dymor o hedd rhwng y gwledydd yn ogystal. Gofyniad Pwysig. I I ba sawl lie, y mae Cymdeithasau J Gymraeg ynddo, yr A y Darian Diolch I am ateb, Mr. Gol. Cyhoedder rhestr. J 1,
Llith y Tramp.I
Llith y Tramp. Mishtir Golycydd,— Mi ddarllenais i lythyr Mab y Wawr yn y Darian ddiwetha, a ma fa'n ddyn rhyfadd ofnadw. Ma Mishtir Hywal Nedd yn gwed y bysa fa'n leico gwpod pwy yw a. Odd y bachan, ta pwy yw a, yn treio towlu amheuath ddi- frifol iawn ar gywirdeb yr hanas w i'n sgrifennu, a ma fa'n wir a dim ond y gwir. Dw i ddim yn gwed, fel ma nhw'n gneud yn y llysoedd, u bod nhw'n gwed y gwir i gyd o'r ddwy ochor pan mae un ochor yn bownd o fod yn gwed celwydd. Ma llawar gwir yn dda'i gelu ys gwetws Solomon, a dyna un o mhrinsipls i pan yn sgrifennu'n hanas er adeilatath dar- llenwyr y Darian. Nawr, ma'r bachan yna, Mab y Wawr, yn gwed i fod e a Mishtir Hywel Nedd yn gwpod na fuws trad Ap Pedr Hir ddim ar y Golf Lines ys dwy flynedd a hannar to beth, a ma fa am awgrymu ta byrddwyto w i, ne fod y'n stori i'n hen iawn. Nawr, wi'n siwr nag w i ddim yn byrddwyto, a byswn i wedi dechra tram- pan mwn breuddwyd, mi fyswn wedi dihuno'r llawar dydd, wath rw i wedi ewmpo i'r dwr ddicon o weitha. Rodd hynny'n dicwdd yn ddicon amal cyn i fi ddechra yfad lemwned Brynia Cymru, a phop coch Tomos and Ifans y Porth. Dyna fi wedi setlo'r pishin yna yn lythyr Mab y Wawr. Y peth nesa' sy gen i i neud yw profi fod trad y "gwr hir" wedi bod ar y Golf Lines yr amsar y gwetas i mod i wedi i weld a yno. A ma fa'n sefyll i reswm na fysa fa ddim yno heb i drad. A ma gen i lot o resyma i brofi mhwnc, dros ucan o honyn nhw tysa gofod yn caniata. Rw i'n cofio clywad am gyfrithwr clyfar iawn yn pledo ces unwaith, a dodd i gleiant a ddim wedi troi lan. A dymai r bachan heb ddim wiscars odd yn y gadar a gwallt ceffyl ar i ben a'n gofyn pam na fysa fa yno 1 Ma gen i dri-ar- hucan o resyma, mynta'r cyfreithwr, a ma nhw gyta'i gilydd yn anwrthwyneb- adwy. Yn gynta, mynta fa, ma'r clei- ant wedi marw, yn ail ma fa wedi i gladdu, yn drytydd Howld on, howld on, dyna ddieon," mynta'r bachan a'r gwallt ceffyl, dis dim isia mynd a amsar y llys i roi tri ar hucan o resyma pan ma'r ddou gynta'n llawn ddicon. Y necst'ces iff yw plus." Ar yr un prinsibl fe fydd yn ddicon i fi wed mod i wedi gweld Ap Pedr Hir a'i fod a wedi rhoi dechra arwrgerdd ar Dyfotiad y Tramp i'r Mount" i fi, a wedi addo petwar pennill ar bymtheg arall i gorffan hi a wedi dangos y ffordd i fi i dy Mishtir Hywal Nedd. Mi allwn i fynd ymlan hyd bora fory i roi profion diddiwadd a diymwad o'r pethach w i'n sgrifennu. Yr hunig beth allsa shiglo'r cês w i wedi neud mas fysa i Ap Pedr Hir i hunan wed na fuws a ddim ar y Golf Lines, ag wedi'n mi fysa raid iddo ynta brofi i bwnc, ag wrth gwrs ma hynny'n amhosib ar ol y pethach w i wedi weyd, a dyna Mab y Wawr wedi mynd, a chlywiff neb ddim rhacor yn i gyleh a. Ma fa'p gofyn hefyd beth yw'n negas i yn y Mownt; wel, tysa fa wedi cymryd ticyn o amynadd a pheido rhoi cyment o drafferth i fi idd i ddemolisho fa mi fys- wn i wedi gweyd beth odd 'y negas i'r tro hyn, ond nawr ma raid iddo fa aros hyd y tro nesa, ag yna mi- geiff glywed beth ddath o'r botel hefyd. TRAMP.
i Brynaman.
i Brynaman. Yr Undeb (Parhad.) Bore dydd Iau, yng Nghapel Gibea, traddododd y Parch. James Davies, Dinbych, ei anerchiad o gadair yr Un- deb. Ei destyn oedd, Natur y ddyn- oliaeth." Yn y prynhawn a'r un lle, cynhaliwyd cwrdd cenhadol dan lyw- yddiaeth Mr. D. Harris, Llanelli. Siar- adwyd gan y Parchn. Robert Griffiths a W. Evans, Madagascar. Yng nghapel Ebenezer cawd cwrdd diwinyddol dan arweiniad y Proff. D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu; a'r siaradwr oedd yr Athro J. Morgan Jones, M.A., Ban- gor. Nos Iau, yng Nghapel Gibea, cyn- haliwyd cyfarfod cyhoeddus, pryd y cadeiriwyd gan Mr. W. R. Owen, Llun- dain. Cawd anerchiadau ar y "Y Rhyfel Presennol a'r Wersi," gan y Parch. J. L. Williams, M.A., B.Sc., Aberystwyth; Crist a Chyfaddawd," gan y Parch. H. Jones Trefriw; "Price, Cwmllynfell, a'i Amserau," gan y Parcn R. Williams, Brychgoed. Tua'r un am- ser cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Ngharmel, Gwaun-cae-Gurwen. Llywyddwyd gan Mr. Ben Davies, Glas- fryn, Abertawe. Anerchwyd y cyfa.r- fod ar "Y pwys o adfer nos Sadwrn i Grefydd," gan y Parch. T. B. Mathews, Penydarren; "Dyledswydd yr eglwysi i feithrin ysbryd heddweh, gan y Parch. Gwilym Higgs, B.A., Whitland; "Yr Eglwys a'r Argyfwng Presennol," gan y Parch. J. Vernon Lewis, M.A., B.D., Lerpwl. Dydd Gwener, traddodwyd pregethau yn y gwahanol gapeli gyda'r rhai canlynol: Yn Gibea, bore dydd Gwener, gan Dr Owen Evans, Lerpwl; prynhawn gan y Parch. Talwyn Phillips, B.A., Bala; hwyr nos Wener gan y Parchn. Evan Jones, Nant Ffrancon; Dd. A. Grif- fiths, Garth. Yn Bethania, Parch. J. Stanley Jones, Caernarfon; O. H. Roberts, Lerpwl. Yn Ebenezer, Parch. Hywel O. Jones, Toivyn (ei chyn wein- idog) J. L. Williams, M.A., B.Sc., Aberystwyth. Yn Bryn Seion, Parchn, Peter Price, D.D., Rhos; D. Adams, Lerpwl Yn Bethel Newydd, Garnant, Parch. Sam Roberts, Llan-bryn-bery. Cawd undeb rhagorol ymhob ystyr, a'r goreu o ddigon yn ol tystiolaeth yr ysgrifennydd, er's ugaia. mlynedd. Dydd Sul, Mehefin 18, cynhaliodd Eglwys Hermon ei chyfarfod blynyddol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch, Enoch Hughes, Abercanaid. Dydd Sadwrn, Meh. 17, claddwyd yr hyn oedd farwol o Mrs. Robert Thomas, Cwmteg, ym Mynwent St. Catherine. Gwraig dawel a chymwynasgar oedd hL, ac wedi dioddef cystudd caled am hir amser. Bu farw ym nilodau ei dyddiau, sef 52 mlwydd oed. Gwasanaethwyd gan y Parch. E. Davies, Ficer St. Catherine. Dydd Llun, Meh. 19, claddwyd Mrs. Henry T. Jones, annwyl briod Mr. Hy. T. Jones, Cannon Street. Byr iawn fu ei chystudd. Sadwrn cyn y Llungwyn aeth am dro i Bencader, cartref ei gwr, i newid awyr a golygfa. Cyn pen yr wythpos daeth y newydd trist am ei marw. Claddwyd hi ym Mynwent Siloam, yn 23 oed. Gwasanaethwyd (yn absenoldeb ei gweinidog, sef Parch. J. Lee Davies), gan y Parch. J. E. Thomas, Seion, Cwmgors. Gedy briod a dau o blant bychain i alaru ar ei ol. Llongyfarchwn y brawd Arthur Moses, A.L.C.M., ar ei fuddugoliaeth yn Eisteddfod fawr Pontardawe gyda chor plant Betws. Dyma'r pedwarydd waith i cor hwn ennill, a dim ond y tfoion hyn y maent wedi cystadlu hefyd. Brodor ydyw'r arweinydd o'r ardal hon, ond yn gwasanaethu fel ysgolfeistr yn Betws. Enillodd Miss Mary Davies, Llandilo Road, gwpan arian gwerthfawr yn Eis- teddfod Taliaris, ger Llangadog, yr wythnos ddiweddaf.
Llythyr Agored at Dafydd y…
Llythyr Agored at Dafydd y y Crydd & Co. Crispin,—Yr oeddwn i'n meddwl llawer o honoch chwi hyd yr wythnos ddiweddaf, ond gwelaf erbyn hyn nas gellir ymddiried hyd yn oed i'n cyfeill- ion agosaf. Pa fodd y gallwch chwi gysoni eich ymddygiad yn tanbeleni mor ddychrynllyd ar fy mhen i a'm han- nwyl Ddafydd yn y Darian ddiweddaf 1 Yr oeddwn yn disgwyl cysondeb oddi- wrth ddynion sydd yn arfer pregethu cysondeb fel Dafydd y Crydd a Morgan Tilwr. Ond maent mor ansefydlog a'r gwynt pan chwythai drwy ffenestri bwthyn Twm Nansen, neu benderfyniad y Tramp i beidio gwneud dim a gwidwod. Gwir a ddywedodd Dafydd ni dro yn ol nad oedd fawr o weud yn y Crydd, ond dim ond iddo gael mynd y tu ol i'w ysgrifbin ei fod yn champion. Pam na fuasech chwi yn dweyd eich barn yn y bad pan oedd y darlun o'ch blaen, a'r cwmni'n bwrw barn arno A pheth arall, yr oeddech chwi yn yni- ddangos fel pe yn edmygu y darlun y pryd hwnnw, ond yn awr wedi cael cefn y cwmni, dyma'r machine guns yn cael ei troi at y diniwed, ac yn lie cyrraedd Pom Pom yn disgyn ar ben Dafydd a minnau. Fel y dywedodd Dafydd ni, ni chafodd ef wybod am y gystadleu- aeth, neu buasai ef wedi tynnu gwell darlun, hynny yw, pn a mwy o liwiau ynddo, er efallai na fyddai mor true to nature. Gwelaf fod gwyr y North yn hoffi'r darlun yn fawr, ac wedi ei ddwyn oddiar wal y Darian a'i hongian ar wal y Clor- ianydd ym Mangor, fel esiampl i foys Coleg Bangor ac eraill o feirdd y North i ganu yn true to nature a pheidio a defnyddio cymaint o liwiau yn eu cyf- ansoddiadau wrth farwnadu a chanu clodydd y lloer a'r mynyddoedd, etc. A chi-edaf wrth weled gwaith Morgan Tilwr ac Eryr Pen Pych yn y Darian eu bod hwythau'n ceisio efelychu boys y North drwy ddefnyddio lliw, er mai lliw y gigfran ydyw hyd yma. Treiwch eto, gyfeillion, a byddwch yn fwy pwyll- og wrth ddewis y lliw. Mae pawb bron yn gallu defnyddio coal tar; gallwn feddwl wrth eich gwaith eich bod wedi bod yng nghwmni y Tramp Ar y gas- gen brag a'r whisci cyn y buasech mor barod i ddweyd mai Trwmpyn iawn yw ein Tramp ni." Pe buaswn yn gwybod eich bod mor barod i fradychu eich cyfeillion, drwy wenu mor fwyn yn eu wyneb, a chyda 'u bod yn troi eu cefnau yn defnyddio y "dart" mewn lie mor dyner, 'rwy'n siwr y buaswn wedi trefnu rhyw fodd i'ch rhwystro i gyr- raedd y landing stage yn yr Ystrad. Son am Syr Roger Casement, dyw ef ddim ynddi o gwbl. Yr oedd eisieu i Gwen ddod a lemwned i chwi! Mi fu- asai yn ffitiach iddo ddod a bwcedaid o ddwr, a pltwys o sebon a scrwbin brwsh, er yr ofnaf mai labor in vain fuasai ceis- io cael eich crwyn yn wyn. NANSEN.
Glannau Afan.
Glannau Afan. Yn Neuadd y Ddarllenfa Sadwrn cyn y diweddaf, dan nawdd Undeb y "Steel Smelters," cynhaliwyd cyfarfod i an- rhegu tri o'r aelodau oedd adref am seibiant o faes y gad, sef Pte. Tom Davies a Stokers D. W. Davies a, Trefor Jones. Anrhegwyd y tri a'r swin o 30s. yr un. Aed trwy raglen dda a chafwyd cyfarfod hapus diaeth. Y llywydd oedd y Bonwr W. Williams. Ym Maes yr Haf (A.), Castell Nedd, dydd Mercher, 14eg cyf., unwyd mewn glan briodas y brawd D. Morgan Davies, Mervyn Terrace, Cwmclais, a Miss Rachel Williams, Abergorlech. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei brawd, Pte. Dan Williams. Gweinydd- wyd ar yr achlysur gan y Parch. D. Marlais Davies, B.A. Hir hoedl a llwyddiant i'r deuddyn yma. Lion gennym weled Pte. James Wil- liams, Woodland Row, yn edrych mor hoew ar ei ymweliad a phreswyl ei fam. Ymunodd a'r fyddin bron gyda chyeh- wyniad y rhyfel, a. chyn belled wedi dianc yn ddianaf. Dychweled' yr un modd pan ddysgo'r gwledydd mai "segurdod yw clod y cledd a rhwd yw ei anrhydedd. GOHEBYDD.
Advertising
—— r?*?———?'YTm-trxmwmMmMMuoxMtttmiM? ? The Welshman's Favourite. I ? MABON Sauce ? ? ?sro?<Efa<x? A???. J § DON'T FAIL TO GET IT. f "a- 2tu T., JB St. P«ter St., Cardiff- !j iVfanufacturers-BL"cH's, St. Poter St., Ca'diff- .11 Printed and Published for the Pro- prietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their, Printing Works, 19 Cardiff St., Aberdare, in the County of Glamorgan
Beirniadaethau.
Beirniadaethau. GOSEN, BLAENCLYDACH Y GROGLITH. GAN PELIDROS. Testyn y Gadair: "Angylion Mons. 1 (Parhad.) (5) "Eliseus yr 2il"—Sy'n dechreu fel hyn—"Angylion Mons eich pres- enoldeb gwyrthiol, etc. Pryddest gref, lanwaith yw hon, ond fod gormod o'r pregethwr ynddi. 1(6) "Emrys."—A poem of consid- erable merit, with a great amount of "go" and intensity. But it is sung in rather too lofty a strain, with too much of the "Psalm of Praise style, and does not catch the strangeness and mystery of the vision. The triumphant note throughout, and es- pecially towards the end, seems to be at variance with the circumstances of the vision at Mons. (7) "Swn y Grug." Disgrifia y weledigaeth yn lied dda, eithr posibl ei fod yn oedi gormod gyda'r am- gylchiadau o flaen y weledigaeth, ac yn ail-adrodd gormod ar yr "Ym- laen," a'r "Yn ol," "Yn ol" yn y dechreu. Pryddest swynol ac ynddi ol crebwyll byw. Gresyn na fuasai'n fwy gofalus gyda'i sillebiaeth mewn man neu ddau. (8) "M.B."—Ni fu yntau'n hollol lAn gyda'i ysgrifen. Eithr am gre- bwyll a dychymyg; am allu i farddoni'r weledigaeth yn swynol a gafaelgar, y mae hwn wedi llwyddo'n dda. Hoff- wn gyfluniad ei gan yn fawr. Ynddi ceir "milwr clwyfedig yn adrodd y weledigaeth wrth feddyg ddaeth i'r maes i drin ei glwyf, ac yna wedi adrodd ei ystori yn marw'n nwylaw'r meddyg. Darn mwy byw, wedi ei lunio'n fwy meistrolgar, ni ddarllen- asom er's tro. Daw "Eliseus yr ail," "Emrys," a "Suon y Grug" yn uwch na'r lleill yn y dosbarth blaenaf. Saif "Suon y Grug ychydig yn nes i'r gamp na'r ddau arall, ond nid oes yr un o'r tri wedi dod i fyny ag "M. B. Llawen gennyf felly gyhoeddi "M.B." yn oreu yn y gystadleuaeth, ac yn wir deilwng i eistedd yng Nghadair Eis- teddfod Gosen, Blaenclydach, Gwener y Groglith, Ebrill 2iain, 1916. (I barhau.) EISTEDDFOD GADEIRIOL PEN- TRE ESTYLL, ABERTAWE. BEIRNIADAETH PENAR. Y Traethawd ar "Eglwys Crist a Dychweliad y Milwyr." Derbyniwyd pum traethawd ar y testyn da ac amserol hwn. Arwydd dda yw fod pwyllgorau Eisteddfodau yn ymdeimlo a mater pwysig fel hwn, a gobeithiwn y daw'r ymdeimlad hwn yn gyffredinol drwy eglwysi ein gwlad. Gwnawn nodiadau ar y traethodau fel y digwyddont ddod i'n llaw. "Gwladgarwr." Ysgrifenna hwn yn lied gywir, ac ysgrifenna lawer, a hynny mewn naws a thymer hyfryd. Gyda golwg ar ei Gymraeg, gresyn na ddysgodd y ffordd i frawddegu- nid i ddweyd ei feddwl yn eglur a feddyliwn, ond i lunio'i frawddeg ar bapur gydag atalnodiad priodol (punctuation). Anaml y ca' llygad darllenydd unrhyw gymorth i wybod symudiad meddwl yr awdur hwn oddiwrth unrhyw nodi a wnaeth ef. Mae ganddo ragwahannod ddegau o weithiau, lie y dylai diweddnod fod ("semi-colon" lie y dylai "full-stop" fod). Dylai arfer ei hun i hyn, a dysgu gwybod sut i ffinio a phwys- leisio ei feddyliau. Y mae ganddo ambell gyffyrddiad nad yw yn Gym- raeg, megis "Am fydd y byd," yn lie "Am y bydd y byd. Eto, Am rwysg eu hallanolion y cafodd," yn lie "0 herwydd rhwysg- "Pan gofynnwyd" yn lie "pan ofynnwyd." Mae yr "g" yma yn meddalu ar ol yr arddodiad "pan —"pan ddaeth, nid "pan daeth"; "pan gahodd, nid "pan canodd," "pan welodd," nid "pan gwelodd." Drachefn, ys- grifenna "'ond waeth," yn lie "ond ni waeth." Eto, "Ymha ffurf ddylasai y croesaw gael ei ddangos," yn lie "Ymha ffurf y dylasai," etc. Ceir hefyd "Ymdrech eu hennill,' yn lie "ymdrech i'w hennill" idd eu hennill. Ar y cyfan y mae yn bur Gymreig, gyda'r eithriadau a nodwyd. Mae ganddo, rai gwallau ieithyddol, megis—"parotoadau yn lIe "para- toadau." "Paratoi" ddylid ei ys- grifennu, nid "parotor." Nid digon yw dweyd mai "parottoi" a geir yn y Beibl. Cofier mai "paratoi sydd yn yr hen Feiblau. Daethpwyd i ys- grifennu "parotoi yn ddiau, am mai "o" sydd yn "parod," ond nid yw yn dal. Ysgrifenna "gyddis yn Tie "gwyddys "—"is" yn lie "ys"—"it is known" yw'r meddwl. Ysgrifenna "dilifo yn lie "dylifo," "gwrhydr- au yn lie "gwrhydri. Enw dan- soddol yw gwrhydri, ac nid ei ffurf liosog yw "gwrhydrau." Nid oes air fel hwn yn yr iaith. Nid yw yn treiglo'r "c" ar ol yr arddodiad "a" yn y frawddeg, "Daw ambell un adref A coflaid." "Adref A choflaid" sydd gywir. "Ff' ac nid "ph" a ddylai fod yn y gair "gorffwys." Llythyren galed ddaw ar ol yr s" yn "cyfleustra t nid "d." Yr un fath yn "cymhwysterau ar yr un tudalen. "Y mneilltuaeth eto, ac nid "Ymneillduaeth. Ar ol 11, ch, ff, s, ysgrifenner t, b, g. Ar ol th-d, p, g. Er ei fod yn bur gywir gyda dyblu'r cydseiniaid, eto da fyddai iddo ym- berffeithio yn hyn, am fod lie i hynny. Un "n" ddylai fod yn y gair "denu," nid dwy, am fod y llafariad "e" yn y gair yn agored—"open vowel. Ac un "n" yn "llanw" am yr un rheswm, "denu a lIânw" a ddywed- ir, ac nid "denu" a "llanw." Felly hefyd "baner "—un "n." Eithr dylid rhoi dwy "n" yn y geiriau hyn- dibynnu, gorffennol, presennol, el- fennau, synnwyr, arbennig, bynnag, trai mai un sydd gan yr awdur hwn. Hyll o beth yw dodi dau "m" yn "cymaint," ac nid oes eisiau dau "m" yn y gair "amharod," oblegid nis gellir gwneuthur defnydd o honynt wrth arfer y gair ar dafod yn rhwydd. Am yr un rheswm ni ddylid ysgrifennu "cyrhaedd ond "cyrraedd "—dau r. Pan ychwanegir sill at y gair arferer yr "h" megis "cyrhaeddodd," a daw yn "accented" "h" felly. Yr un fath am "h" yn y gair "diamheu," p. 5. Ysgrifenner hefyd—"cenhad- aeth," .ac nid "cenadaeth," p. 6. Er na chyfyrddasom a phob math ar wall a geir yng ngwaith yr awdur hwn, eto buom helaethach yn ein sylwadau ieithyddol ynglyn ag ef nag a fyddwn gyda'r lleill, am mai efe a ddaw gyntaf, ac y gallwn ym- gadw rhag cyfeirio at yr un gwallau yn eraill, ond yn fyr a'u nodi ar eu llawysgrifau. Am fater y traethawd y mae yn lied gyfoethog, ac yn gynnes o ran tymer; ond ni cheir y drefn a'r olyniaeth meddyliau a allem ei ddymuno. 0 ran trefn dylasai rhan olaf ei draeth- awd ddod yn gyntaf, oblegid yn y rhan honno sonia am y pethau ddylai nodweddu'r eglwysi ar ddychweliad y milwyr, ac yn y rhan gyntaf ym- drinia a'r rhesymau dros ymber- Heithio yn y pethau y gweddai i'r Eglwys eu meddu ar y dychweliad; felly, dylai'r drefn fod yn y gwrthol. Nid yw ei ymdriniaeth i'r ail ran cyn gryfed chwaith a'i ymdriniad i'r rhan gyntaf; er hynny, traethawd go dda yw hwn mewn cystadleuaeth fel hon. ho,n. (I barhau).