Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

IEisteddfod Gadeiriol Llwynypia.-.-I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Eisteddfod Gadeiriol Llwynypia. I LLUNGWYN, MEHEFIN 12, 1916. i- • Beirniadaethau gan Ap Glaslyn. Ysgrif i rai dan 16eg oed, "Y Claf o'r Parlys. "—Un ysgrif a ddaeth i law, yn dwyn yr enw "Menn." Mae yr ysgrif drwyddi yn ddiddorol iawn o ran syniadau ac yn hynod ddis- grifiadol, ac yn y cymhwysiad mae yn addysgiadol a gorffennol, ac yn adlewyrchu clod a'r ymgeisydd mor ieuanc. Gofaled yn y dyfodol am beidio defnyddio geiriau benthyg, ystrydebol, megis "stretcher," "trap- door," etc., mewn ysgrif o'r fath. Afradloniaid carpiog o iaith yr estron yw y cyfryw, ac y maent yn anurddo y Gymraeg mewn ysgrifau o'r natur yma. Mae Menn" yn wir deilwng o'r wobr a'r anrhydedd am ysgrif mor ragorol. Englyn: "Gweinyddes y Groes Goch ("The Red Cross Nurse").— Derbyniwyd 22ain o englynion, ac o ran teilyngdod gosodwn hwy mewn tri dosbarth, gan ddechreu gyda'r Trydydd Dosbarth, sef Dosbarth y Gwallau Cynghaneddol. Y mae yn glod i'r ymgeiswyr yn yr ystyr hon mai un yn unig sydd yn euog o'r gwali anfaddeuol yma, sef "Morgan Hen." Dechreua ef ei englyn gyda phroest. —gwall anesgusodol mewn cynghan- edd: "Dwyn y Groes-dania eu gwres." Mynned Morgan, ar fyrder, y gram- I adeg yn gydymaith yn ei Yn yr ail ddosbarth gosodwn yr iymgeiswyr hynny sydd yn weddol glir oddiwrth wallau mewn cynghanedd, ond eu bod oil i fesur yn cyrraedd dim n6d uwchlaw cyffredinedd," hynny ydyw-dim byd neilltuol mewn cynghanedd na syniad. Yn y dosbarth hwn ceir (1) Negesydd; (2), Tyst; (3) Ffrind; (4) ciwyfedig; (5) Eryl; (6) Noddwr y Weinyddes; (7) Florence Night- ingale; (8) Ei Chysgod; (9) Edmygydd Rhif 1; (10) Edmygydd Rhif 2; (n) Brodor o Brydain; (12) Ap Dorcas; (13) Pro Patria; (14) Henllys; (15) Awel y Maes; (16) Gwas y Felin. "Nid da lie gellir gwell yw safle'r oil. Yn y Dosbarth Cyntaf ceir vr enwau a ganlyn (1) Corsen Ysig; (2) Hapus Luddedig; (3) Mab Diddan- wch; (4) Lief o'r Yspyty; (5) Dan ei Glwyfau. Englynion da a gorffenedig yw yr oil o'r rhai hyn, a cheir ynddynt ambell linell bert a byw, ond yn sicr y mwyaf cynhwysfawr a gorffenedig yw eiddo "Dan ei Glwyf- aq," ag sydd yn darllen fel hyn Morwyn sy'n wir Saii-iariad,-gares gwae Dan Groes Goch o gariad; Delw ac ymgnawdoliad Tosturi ar gyni'r gad." "Tarawodd yr hoel ar ei chloppa yw ei linell gyntaf, ac iddo ef y dyfarn- wn y wobr. "Byddaf fel gwlith i Israel (60 linell).— Derbyniwyd pump o gyfan- soddiadau ar y testun prydferth hwn, sef eiddo ( I) Maldwvnog; (2) Y Gwlithog Lethr; (3) y Gobaith Gwyn; (4) Ephraim; (5) Hosea. Rhaid rhestru yr ymgeiswyr hyn i ddau ddosbarth yn unig, sef ail a chyntaf. 1 ? yr fJ1 ddosbarth fe restrwn eiddo (I) Maldwynog; (2) Y Gwlithog Lethr; Tth Gwyn; (4) Ephraim. MMaae Jyv r ? wedi canu yn dda ac e?eithiol, ac anawdd iawn ydyw eu cyfartalu, ond rhaid cydnabod nad >dynt yn "rhyw wlithog iawn," na'u llinellau wedi eu haddurno a disgleir- deb yr awen wir. Yn y Dosbarth Cyntaf gosodwn ( Hosea yn unig. Mae ei linellau ef yn rhagon mewn gwerth llenyddol Teimlwn ar unwaith ein bod yn cael ein cyfarch gan wir fardd, mewn mesur, coethder. a chymhwysiad awen- yddol o fendithion y gwlith. Rhagora ar ei gydymgeiswyr mewn arddull lenyddol, drychfeddyliau hapus ac uchelryw, wedi eu haddurno a'r iaith oreu yn gweddu i fesur canadwy ei linelIau. "Hosea" efeIly a deilynga y wobr.

Advertising

CWRS Y RHYFEL. I

Advertising