Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Rare Opportunity! Furniture at Pre-War Prices! WHAT IS THE EXPLANA- TION ? The reason is that immediately War was declared we entered into by far the greatest Contracts we ever concluded during our unbroken Business Career of sixty-six years. The Goods were packed from floors to ceilings in the various, Reserve Warehouses we hold in connection with our seven South Wales Branches, and the result to-day is that whilst, some Furnishers are compelled to close establishments through inability to obtain supplies, we still hold a very large proportion of the immense Contract Stocks, and which we have now fully decided to CLEAR AT PRE-WAR PRICES. BEVAN & CO., Ltd., Wales' Largest Furnishers, Cardiff, Pontypridd, &c.
Llythyrau at y Golygydd.
Llythyrau at y Golygydd. SOLFFA HOYW, GROYW, LOYW. Syr,—Yr wyf yn danfon y nodyn ychwanegol yma atoch, nid yn gym- aint er mwyn goleuo "Solffa"- gprchwyl amhosibl, mae'n amlwg, ond i osod y mater o flaen darllenwyr rhesymol y "Darian." -Mewn beirniadaeth ar englyn o'i eiddo, dywedais wrth "Solffa" am gofio mai unsill yw geiriau fel "hoyw," "gloyw," etc. dylaswn efallai ych- wanegu mai unsill y cyfrifir hwy yn y "mesurau caethion." Nid fy mai i ydyw mai unsill ydynt, ac nid myfi'n bersonol sydd yn gyfrifol am wahar.dd odl "mud" a "byd" mewn englyn. Felly mae hi, dyna'i gyd. Pe bai bardd hyd yn oed o athrylith Solffa yn gosod yr odl uchod mewn englyn, condemnid ef gan bob beirniad yng Nghymru. Hyd nes y newidir y rheol- au gan yr Orsedd, neu ryw awdurdod a gydnebydd y wlad, rhaid i feirniaid gadw at y rheolau. Wrth gwrs, gwn yn agos gystal a Solffa mai yn ddeu- sill y cenir ac y seinir "hoew, "gloew," etc., ar dafod leferydd gwn hefyd nad oes "yn awr" ddim gwa- haniaeth rhwng geiriau fel "clud" a "clyd. Fel rheol, nid oes amser gan feirniad i ysgrifennu rhibyn hir ar ramadeg wrth feirniadu pob englyn, hyd yn oed pe bai yn ei allu i wneud hynny. Ond mae'n debyg mae tardd- iad y rheol parthed swnio "hoew, "gloew," "marw," etc., yn unsill yw hyn. Yn y canol oesoedd swnid yr w" bron fel "f" ("v," Seisnig), hynny yw, fel cydsain y cyfrifid hi. Cymharer y geiriau "derwlwyn," "marwnad," a seinid gynt bron fel "derflwyn," "marfnad," ond yn awr "der'lwyn," "mar'nad," neu yn bur agos felly. Os nad ydym yn myned i ddilyn Goronwy Owen a Dafydd ap Gwilym a champwyr y cynghaneddion yn ein rheolau, pwy tybed ydym i efelychu? Ni wn pa athrylith or-ogoneddus eill fod yn llechu y tu ol i'r enw "Solffa i dywallt ei saethau brwyn ar bennau truenus rhai o'm bath i; gwell iddo ddod i'r amlwg a sefydlu ysgol newydd o reolau barddol; mae digon o'i heisieu yng Nghymru; ond nid oes gennyf fi na'r gallu na'r duedd i fynd ynghyd a'i gorchwyl hwnnw. Dilynaf ramadegau y Proff. Morris Jones ac Edward Annwyl, hyd nes y caf rywbeth gwell i'm harwain. Et, cysur calon i "Solffa," boed hysbys iddo mai nid am gymryd "hoew" na "gloew" yn ddeusill y collodd y wobr ym Mountain Ash. Os yw am ragor o oleuni ar y mater-er y lied ofnwyf nad cariad at oleuni ond at "swn" sydd yn nodweddu'n bennaf ei galon guddgar a Solffaolpryned gopi o ramadeg Proff, Morris Jones, pris, I2S. 6c. Os am ddadl gyhoeddus ar faes • "Barian," diosged ei fantell a'i fwgwd-ac mi a'i hymladdaf hyd y Nadolig—os dyna sydd eisieu arno. Hyd nes y gwna hynny, ni chaiff ragor o'm hamser na'm' sylw.-Yr eiddoch, etc., SARNICOL. Syr,—A gaf i, 0 ddiffyg arall, gynnyg, ar gyn lleied o eiriau ag y medraf, ateb i ofyniad "Solffa," pa- ham yr arferai'r hen feirdd eiriau deu- sill yn unsill ? Ni wnaent ddim o'r f ath beth. Anghoifodd Solffa f od i iaith, ymogystal a dyn neu blanhigyn, ei datblygiad naturiol ar hyd llinellau rheolaidd. Nid deusill, yn y lie cyntaf, ond unsill oedd geiriau, megis "gloyw," "marw," "garw." Nid llafariad oedd yr w," mwy na'r "w" heddyw yn "gloywach," "marwaidd,' "gerwin," ond cydsain. Gydag amser aeth yr "w" yn y geiriau sydd dan sylw, ar lafar naturiol, i hawlio sill iddi ei hun, ac nid oes neb, mi dybiaf, a faentumiai mai unsill yw "gloyw fel y'i cvnhenir heddyw. Nerth traddodiad ein llenyddiaeth yn unig a bair ystyried y geiriau o hyd mewn cynghanedd fel geiriau unsill. Nid oes a wnelo'r pwnc A gramadeg o gwbl, ond a mydr. Effaith caethiwed y mesurau yw'r duedd a welir mewn iaith awdl i fod yn fwy ceidwadol nag iai th cân. Y r eiddoch, etc., D.E.E. MIRI RESOLFEN. Mr. Gol.Darllenais gyda syndod ohebiaeth Dudoch Uniaith yn y Darian" ddiweddaf dan y pennawd uchod. Ni fuasai gennyf wrthwyneb- iad iddo gnocio tipyn ar lywydd yr Eisteddfod oherwydd ei sylwadau ar ein parchedig Wylan, ond yr oedd y paragraff olaf yn annheilwng, ac yn annheilwng am ei fod yn annheg ac yn anghywir. Y mae awgrymu fod y llywydd yn edrych yn gilwgus ar frwydrau'r glowyr am iawnderau, a'i annog i fyfyrio'r Efengyl, etc., yn ymgais felltigedig i ddrygu cymydog. Efallai mai'r esboniad yw fod glowyr weithiau'n brwydro am rywbeth heb- law iawnderau, ac yn brwydro am iawnderau mewn ffordd nad yw'n gyson a ddelfryd o iawnder. Gallwn dybied mai babi blwydd yw "Dudoch Uniaith wedi methu cael ei ffordd yn rhywle, a chan na fedrai wneud dim arall yn cynnyg at roi an- farwol sgrech.—Yr eiddoch, etc., RHAGOR OS BYDD GALW. [Na, dim rhagor, os gwelwch fod yn dda. -Gol. ] I "GWYLAN" RESOLFEN. Mr. Gol.,—Gwelwch yn dda glirio ychydig ar yr awyr trwy hysbysu nad un o'r gweinidogion canlynol yw "Bugail y Soflan :—Parchn. R. E. Williams, D. C. Davies, Towy Rees, a T. P. Lloyd. Clywais rai yn ddi- weddar yn cysylltu'r "Bugail a rhai o'r personau hyn. Ofnaf hefyd fod y "Wylan yn credu'r un peth. Sonia'r "Wylan," yn ei llith yr wythnos ddiweddaf, fy mod wedi'm dychrynu gan "ei ehediadau." Pwy erioed glywodd son am "Fugail yn dychrynu rhag "Gwylan Dywed- ais yn fy llythyr diweddaf nad oedd y "Wylan yn meddu ar ddim heblaw "pig," ond ar ei thystiolaeth hi ei hunan gwelaf mai'r "pethau goreu a berthyn iddi yw ei hadenydd. Felly ni wy'n synnu dim at ei gwamalrwydd wrth geisio ateb y "Bugail —mae'n hedfan o fan i fan o hyd. Gwelaf hefyd ei bod yn ymfalchio yn y ffaith fod rhywrai yn canmol "lliw ei hadenydd." Credaf nad yw nythod y rhai hyn ymhell iawn. Ceisia hefyd ein perswadio ei bod- yn "llafurio'n galed i sicrhau'i hymborth. Wel, y cyfan a ddywedaf yw hyn nad ffrwyth "llafur caled a rydd i ni ar dudalennau'r "Darian." Ni rhaid chwysu dim er cael o hyd i wendidau mewn cymeriadau. Hwyrach y golygai "lafur caled i ddod o hyd i wendid yn y "Wylan Dywed: "Nid rhyw syniad iach sydd gan y 'Bugail am grefydd. Gwnaeth y gosodiad hwn, rwy'n tybio, am iddi feddwl i mi wneud "crefydd" yn gyfystyr a "mynd 1 gapel, yr hyn na wneuthum o gwbl yn fy llythyr. Daliaf fod fy syniad am grefydd cyn iached-os nad iachach-nag eiddo'r "Wylan," oblegid wrth ddweyd brawddeg fel hon "fod y grefydd gapelvddol ac eglwysyddol wedi mèthu)" awgtyffia fod Cyfriod wedi bod pan y bu'r "grefydd gapel- yddol, etc., yn llwvddiant, tra y daliaf fi na fu crefydd felly'n unig erioed yn llwyddlaqt. Ond daliaf hefyd, os yw'r "Wyiatt Yrièeisio 'gwneuthur Ei lewyllys Ef," fel yr eddyf, maii dyledswydd yw, gofalu am "gym- deithas y saint, oblegid "nid da bod dyn ei hunan" mewn mwy nag un ystyr. Mae "gwneuthur Ei ewyllys Ef, yn ol diwinyddiaeth hen a newydd, yn golygu — "Caru'r saint er maent eu beiati, Dilyn heddwch a phob dyn." Os yw'n "ami yn taro ar y porfeydd gwelltog a'r dyfroedd tawel," dywedaf eto mai ei lie yw'r cyfarfod gweddi a'r gyfeillach, etc., er mwyn cyfoethogi y "chwilgrots dibrofiad y sonia am danynt "sydd yn methu dweyd adnod yn iawn. Rhaid herio stormydd os am dyfu'n gry'. Gwan fydd y "Wylan fyth, am y rhaid iddi ffoi yn Haw ei greddf Gwn beth yw wynebu stormydd garw wrth chwilio am ambell ddafad goll- edig ar fynydd y Soflan yma. Gwell gennyf farw yn yr ystorm wrth geisio arbed bywyd y "ddafad ungorn gas na'i gadael er mwyn arbed fy nghroen fy hun. Wele athrawiaeth grefyddol (o na, "reddfol ") y "Wylan "A raid i mi aros i'm chwilfriwio gan stormydd tra mae gennyf ddwy aden?" Diolch am hen dduwiolion Resolfen a aethant i ganol llawer corwynt fu ar grefydd yma. Dywedai ei "greddf wrthynt am ffoi, ond clywsant lais uwch yn dweyd "i'r storm," ac i'r storm yr aethant. Ddewrion wyr t- Ydwyf, etc., BUGAIL Y SOFLAN. [Nodiad: Mae'n bleser gennym gadarnhau nad un o weinidogion Re- solfen sy'n ysgrifennu dan yr enw "Bugail y Soflan. Dyma ddigon bellach ar y drafodaeth hon. Caffed y gweinidogion lonydd bellach. Yr ydym wedi talfyrru llawer ar yr oheb- iaeth hon am fod y "Wylan ei hun wedi anfon atom na fwriadai ddilyn y mater ymhellach, eithr yn hytrach ys- i grifennu ar faterion diddorol eraill. Nis gallwn ni lai na diolch i'r "Wylan ac eraill am eu help i ledaenu'r "Darian" yn Resolfen, ac heblaw "pigo beiau." Ni ddylid anghofio fod y "Wylan wedi ys- grifennu llawer paragraff tlws am bethau diddorol yn y cylch.—Gol.] YR EGLWYS GRISTNOGOL A'R YMOSODWYR ARNI. Mr. Gol.,—Yr wyf yn cael pleser anghyffredin ers wythnosau yn y "Llythyrau at y Gol a welir yn y "Darian. Yn wir y mae gennych gewri o feddylwyr yn cyfoethogi'r colofnau hyn, a'r rhai hynny'n ysgrif- enwyr graenus, er y gallai ambell un o honynt fod yn llai chwyrn. Yr wyf yn mwynhau llithiau y gohebwyr hyn hyd yn oed pan yn gwahaniaethu oddiwrthynt. Y mae popeth a ddywedir am yr Eglwys Gristnogol y dyddiau hyn yn diddorol, ac felly yr oedd ysgrif Evan Edwards i mi, er nad oeddwn yn cydolygu ag ef. Brawddeg ryfedd i mi yn ei lith oedd hon "Yr ydym fel gwlad wedi colli y dyn mwyaf, sef Arglwydd Kitchener." Yr oeddwn i wedi arfer meddwl mai y "dyn mwyaf" oedd yr Arglwydd Iesu. Brawddeg ryfedd arall oedd: "Ymddwyn yn addas i'w galwedigaeth y mae'r eglwys wrth gefnogi y rhyfel echrys hon. Methaf a dirnad hefyd sut y geill Cristion fynd yn ol i'r Hen Desta- ment byth a beuriydd i gyfiawnhau rhyfel. Onid am nad oedd cyflwr pethau'n foddhaol dan yr Hen Desta- ment y cawsom y Testament Newydd? Ac os oes gwerth yn nysgeidiaeth yr Hen Destament parthed rhyfeloedd, paham y condemnir cymaint ar y Ger- maniaid oherwydd eu creulonderau, oblegid cymeradwya yr Hen Desta- ment greuldnderau gwaeth na dim a wnaeth y Germaniaid' hyd yn hyn. A pheth arall, ymddengys i mi fod y Kaiser yn Germani yn pregethu rhyw- beth tebig i'r hyn a bregetha'i wrth- wynebwyr mewn gwledydd eraill. Carwn gael gair ymhellach ganddo ar y mater.—Yr eiddoch, I UN MEWN PEMBLETH.
Advertising
The Welshman's Favourite. I MABON Sauce t.- As good as its Name. j 8 DON'T FAIL TO GET IT. j M_u/lUturt1"-BL.Uføi., St. Petei' St., Cardiff. | S**?N?aaM!MaNBMaM)tMMMBMMaN??t?????
I Atgofion am Gilfach Goch.
I Atgofion am Gilfach Goch. GAN MR. JAMES CLEMENT, I SCIWEN. PENNOD III. (Parhad.) Gwr ardderchog ydoedd Mr. John Lewis. Cymeriad gloyw drwyddo. Ychydig fyddai ei eiriau, ond cadwai rawn pur. Gwr mawr y gan yn y capel bach ydoedd Mr. Lewis Pearce. Yr oedd yn ddatganwr gwych, ac ar raglen pob cyngerdd. Ni flinai'r tenorydd per ganu, ac nid oedd trai ar ei yni gyda chaniadaeth yn y lie. "Gwedwch air, Lewis," ebe'r hen Watcyn wrtho un nos seiat. "Alia i ddim gweyd llawer," meddai, "fe gana emyn os mynnwch chi." Canodd, a bu ei salm yn fendith i'r saint. Tybed nad oes yn y seiat le i ganiad- au Seion? Byddai cAn wael yn well nag araith wyntog. Soniais eisoes am un o feirdd y capel bach, sef loan Gwent, ond un o lawer ydoedd. I'r babell hon y cyrch- ai Mr., yn .awr y Parch. Cynfelyn Benjamin. Y dwthwn hwnnw yr oedd Cynfelyn yn y Corff. Gwr o nod- weddion gwahanol iawn i loan Gwent. Nis gwn paham, ond meithrinais y gred yn gynar, mai Cyn- felyn ydoedd prif fardd y Gilfach Goch. Canai lawer, ac yr oedd yn gystadleuydd peryglus. Cipiai gryn lawer o wobrau, a chreai fynych gynwrf yn y gwersyll. Clywais ragor nag un ystorm yn tramwy drwy'r byd. barddol. Gwelais waed yn cael ei dynnu lawer tro,. Ond deuai Cynfelyn allan o'r brwydrau a thant ar ei delyn o hyd. Da oedd gennyf ei gyfarfod dro yn ol, a chael ymgom felus am yr amser gynt. Pan y gwelais Cynfelyn gyntaf, gwisgai farf. Nid barf fel yr un flinai'r hen lolo Goch pan y can- odd- "Blew hen hwch ,o ble hanwyd, Mal cnwd o egin eithin wyd. Cadwai Cynfelyn farf deilwng o urdd Aaron. Un noson waith, yn y cwrdd gweddi, eisteddais wrth ochr dyn dieithr. Na, Cynfelyn ydoedd, wedi eillio'r cyfan i ffwrdd. Yr oedd ei wyneb mor liln fel y buasai blewyn yn dychrynu taflu ei gysgod arno. Hyderaf fod iddo flynyddoedd lawer eto i ganu pryddestau, tebyg i'r "Bywyd Gorchfygol," gipiodd Gadair Eisteddfod Rhyl. Darllenais ei gyfrol fechan, "Odlau'r Awelon," gyda bias. Blin gennyf oedd darllen ei brofiad- "Plethais hwynt rhwng cymyl duon, Bywyd yn ei friw." Hyderaf fod llinell arall o'i eiddo yn brofiad iddo heddyw :— "Daw hedd yn lie drygfyd, Ma'e'r olwyn yn troi." Un arall o feirdd y capel bach yd- oedd Mr. William Lacey (Glaslwyn). Medrai ganu'n llithrig a swynol, ond edrychwn arno yn fwy o feirniad nag o fardd. Bu ei waith yn agor siop lyfrau yn fendith o'r nef i'r ardal. Pwyswyd beirdd y byd yn ei faelfa. Pan y derbyniais gyfrol gweithiau Byron o'i law, cefais awr o adolygiad manwl ar ei chynnwys. Condemniai "Don Juan gyda llymder santaidd, ond parodd hynny i mi ddarllen 'y gerdd drwyddi cyn cysgu. Tystiai gyda difrifwch mai cynhyrchion ath- rylith wedi hanner wallgofi ydoedd "Cain a "Heaven and Earth," ond yr oedd yn ffoli ar y "Bride of Abydos. Pan yn estyn gweithiau Young i mi, meddai "Dyma i ti gyfrol o 'Nos Feddyliau,' a'r wawr dragwyddol yn cerdded drwy bob ilinell. Danfonodd rhywun y "Drych i mi yn cynnwys hanes ei farwolaeth a'i gladdedigaeth. Cysged hun dawel, ac os oes carreg uwch ei fedd fy nymuriiad yw ar i rywun yn y wlad bell- "I ymdeithio heibio hon Ag wylo ar ei galon." Yr oedd yn y capel bach ryw banner, dwsin o adar mân yn canu. Pa sawl gwaith y bu Mr. Isaac Bonsell, Mr. Isaac Benjamin, brawd Cynfelyn;, minnau, ac ereill yn pwyso a mesur beirdd Cymru. Cyfarfyddem yn nhy Bonsell. Byddai Mrs. Bonsell yn gwau, a minnau'n gwaedu a darnio. Byddai'n ddydd barn ar y beirniaid o, hyd, a dygid tystiolaethau chwerwon i'w herbyn yn ami. Wele un achos allan o lawer. Yr oedd cadair mewn Eisteddfod neilltuol, ac ymgasglodd yr eryrod at y gelain. Un diwrnods daeth llythyr oddiwrth y beirniad at fardd o fri yn ei longyfarch, ac yn dymuno arno fod yn bresennol yn yr Eisteddfod. Er syndod i'r beirniad cafodd lythyr oddiwrth y bardd hwnnw yn ei hysbysu nad oedd ganddo yr un linell yn y gystadleuaeth. Pan ddaeth dydd yr Eisteddfod yr oedd ygân a ganmolid yn y llythyr yn ol yn yr ail ddosbarth, ac arall yn cael ei gadeirio. Bu rhegu a melltithio wedi hyn. Rhoddwyd cadair a chanmoliaeth dro- arall i bryddest na ysgrifennwyd erioed. Mae'r Eisteddfod wedi newid ei byd erbyn hyn, a Syr John Barley- corn wedi colli ei awdurdod yn ei hanes. Ffatweliwyd a'r "capel bach. Cafwyd teml newydd hardd. Bu gryn. ddadleu ac ymryson cyn dod i farn. Yr oedd rhai am lynu wrth ochr yr Evans, a phleidleisiais innau yn erbyn croesi'r afon, a hefyd yn erbyn y "site ddewiswyd i'r capel newydd. Ond ni fu neb yn fwy dedwydd yn y capel newydd nac yn fwy balch o hono. Llawn fyddo'r ty hwn byth o ogoniant yr Arglwydd. (I barhau.)
Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth.-
Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. ARHQLIADAU YR ORSEDD. URDD BARDD.—Gradd I. (y Der- fynol).—Y Parch. J. H. Williams, Mynydd Isaf, y Wyddgrug; y Parch. Jenkyn Jones, B.A. (Ernis), Collegiate School, Pontypridd. URDD OFYDD.—Gradd I. a II. Miss Rachel Mary Jones (Gurnosa), Starling House, Llandyssul. URDD PENCERDD.— H. D. Alexander (Pencerdd y Dyffryn), Craig-cefn-parc; Hugh T. Parry (Pencerdd Beuno), Gwyddelwern. URDD CERDDOR.—W. Ellis Parry (Gwilym Arfon), Caernarfon. URDD CERDD OFYDD. D. J. Roberts (Alaw Bethel), Llandebie; J. Rees (Alaw Heulog), Y Blaenau, Llandebie; Anne Owen (Perores Eifion), Chwilog; Dora E. Lloyd (Alawes Llwyd), Llandudno Junction. ARHOLWYR: Urdd Bardd: El- fed, Dyfrig, a Llew Tegid. Urdd Ofydd: Gwynedd, Tryfan, a Dewi o. Geredigion. Urddau Cerddorol: Pencerdd Gwynedd, MusBac.; Mr. (. T. Rees, Mus.Bac., a Mr. L. J. Roberts, M.A. Urddir yr ymgeiswyr llwyddiannus yng Ngorsedd Eisteddfod Genedlaeth- ol Aberystwyth fore ddydd Iau, Awst iyeg, 1916, am hanner awr wedi wytb o'r gloch. EIFIONYDD (Cofiaduriyr Orsedd).
Advertising
ASTHMA, BRONCHITIS AC ANHWYLDERAU Y FREST. Fe'm cymhellir gan Haws o bersonau sydd wedi cael llwyr wellhad oddiwrth yr ASTHMA i wneud y moddion a ddarperir gennyf at wella yr afiechyd poenus hwn yn. hysbys i'r cyhoedd. Mae y feddyginiaeth hon yn cyflym wella Diffyg Anadl,Caethiwed a Phesychu, Tystiolaetha lliaws-er wedi bod yn dioddef am flynyddoedd-eu bod wedi cael iachad rhyfedd a gwyrthiol Dylai dioddefwyr roddi prawf arno. Pris drwy y post 2s. 9c. Anfoner at T. J, HUGHES CHEMIST, BETHESDA,