Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OFAL DYFNALLT. GWEITHWYR A'R IESU. 'Three Cheers' i'r bachrn yna o Nazareth, ta pwy yw a." Dyma'r geiriau, meddir, a floedd- iwyd allan mewn cyfarfQd 0 weithwyr pan soniodd rhywun am rywbeth a <idywedasai'r Iesu o Nazareth gan un nad oedd ganddo ddirnadaeth pwy allai'r Iesu fod: Fel y dywedais y tro diweddaf mi a synnaf byth fod eu cymwynaswr goreu mor ddigyfrif o hono gan weithwyr. Filwaith yn y lofa, ar gonglau'r ffyrdd, ac mewn lleoedd eraill y clywais ei enw dihalog Ef ar wefusau aflan yn gymysgedig ;ag enwau eraill ac a llwon a rhegfeydd haerllug a llygredig. Ac i'r rhai a'i ,defnyddient felly nid oedd wahaniaeth rhwng y glan a'r halog. Clywir yn ami ddynion ystyriol yn dweyd mewn peth dychryn eu bod yn synnu na tharawsai'r Arglwydd y cablwyr hyn .yn farw yn y fan. Mae yr eglurhad ar ei oddefgarwch Ef yn y weddi honno a offrymwyd ar y Groes "O Dad, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. Goddefwyd dan aden y weddi honno rai gwaeth a mwy diesgus na'r cabl- wyr anystyriol er eu bod yn fwy parchus. Pe gwyddai gweithwyr pwy yw Iesu o Nazareth ni oddefent i neb "daflu amarch ar ei enw yn eu clyw. Weithwyr, cymrwch yr awgrym a "Chofiwch- ei fod ef yn fwy teilwng o Hosanna nag o'i wneud yn' rheg yng ngenau'r anystyriol. Nid ydym yn synnu cymaint at fawrion a chyfoethogion Palestina yn -,gwrthod yr Iesu gan fethu adnabod ynddo Ef y Mesia y disgwyliodd yr oesau am dano. Gweithiwr cyffredin a fagesid ar un o aelwydydd syml werin ydoedd, ac yr oedd iddo ef droi :allan yn ddysgawdwr, ac i eraill gredu 'e-u bod yn gweled ynddo yr un oedd yn dyfod, megis dyrnod dost ar 'wynebau blaenoriaid y genedl. Yr oedd balchter gwaedoliaeth, cyfoeth, a safle wedi mynd gymaint i'w gwaed fel nas gallant -ddygymod a'r syniad fod un a dybias- ent a fyddai'n fwy ei ogoniant na neb, wedi dyfod o Nazareth. Hefyd yr oedd holl osgo gweithredoedd a geiriau yr Iesu yn erbyn rhagfarnau y bobl hyn ac yn ennyn eu llid. Er eu bod yn ar- weinwyr crefydd cenedl grefyddol, yr oedd y syniad newydd am fywyd a byw a ddisgleiriai yng ngeiriau'r Iesu yn eu dychrynu rhag y cyfnewidiad a dygai ffyniant ei ddysgeidiaeth Ef yn eu sefyllfa a'u harferion hwy. Gyda ,dlrmyg y troent oddiwrtho gan ofyn: "Onid hwn yw mab y saer? Onid Mair y gelwir ei fam Ef?" etc. Yr "oedd eu gwrthwynebiad iddo'n fwy am fod ei eiriau'n ddoeth a'i weith- redoedd yn nerthol ac yntau'n fab saer. Pan welsant ei oleuni yn llewyrchu yn rhy danbaid a'r byd yn myned ar ei "01 Ef, ni orffwysasant nes' i gael i'r groes, ac riid ydwyf yn synnu cymaint st hyn. Nid ydwyf, ychwaith, yn synnu fod Iesu o Nazareth yn wrthodedig heddyw gan uchelwyr byd ac eglwys ;,ac awdurdodau llywodraethol y ddaear, oblegid gwrthodedig yn ddiau ydyw mor wrthodedig a phan drengodd ar y Groes ar le'r Benglog. Gwn fod i ryw fath ar Grist le amlwg ym mywyd y byd gwareddiedig, ond nid Iesu o Nazareth yw y Crist hwn; eithr yn "ytrach Crist gwneud ydyw, Crist iwinydcliaeth, Crist eglwysyddiaeth, ,Y Crist wedi ei ystumio a'i lurgunio fel y "yddai'gydnaws a balchter cyfoeth, y olrwydd, a phob ffurf ar hunangais :a gwag-ogoniant. Ie, Crist yw yr un sydd boblogaidd heddyw y gall yr "oil wledydd sydd yng ngyddfau eu gnydd apelio a to, y naill fel y llall. Me cymaint gwahaniaeth rhwng y rist sydd mewn bri heddyw a'r Crist esu ag oedd rhwng y Mesia a ddis- ;§wyliai'r iddewon a'r hwn a ddaeth o azareth. Nid wyf yn synnu, meddaf, fod yr Iesu'n wrthodedig gan ryw osbarthiadau heddyw megis ag bu an rai tebig gynt, oblegid byddai ^c^yvra? ymagweddu a dysgeidiaeth Mab y aer yn golygu cyfnewidiad aruthrol Yng nghylchoedd uchaf cymdeithas- 0 gyfnewidiad nag y medr cig a & aed arweinwyr y cenhedloedd ddy- .tmod ag ef. Ai ni ddylasai y ffeithiau 'h?? ??romewn gweithwyr awydd am a^ dnabod yn well y dyn ieuanc o Nazareth, yr hwn a groeshoeliwyd gan s-vf0§"i°n am ei fod ac yntau'n 1Wr pregethu gwirioneddau a dda r°Styngent y cyfoethog ac a rodd-  ?phanaeth i'r brawd 0 radd isel. Pan ddihuna gweithwyr byd hwy a ??vh ??ynt eu hunain fod yr Iesu o Na7nt wedi cael cyn lleied "s yn eu rnedH i eu cynlluniau a'u bywyd. adnabuase.nt'ef ni fuasent mor ^die-Jf r ? ??°'' ni oddefasent gym- ?nta Tw ¡march 1 w enw, ac ni oddefasent Plant, gynifer 0 honynt, dyfu i 'Yny  anwybodaeth o'i eiriau ac nior ddieithr ilw ysbryd Ef. Yr ydym _lawer g h lawer gwaith wedi sylwi fel mae'r gweithwyr yn eu brwydrau, yn gwerth- fawrogi gair 0 gefnogaeth oddiwrth rywun sy'n amlycach na'r cyffredin, a cheir "three cheers i rai felly'n ami. Pe gwyddai'r gweithwyr yr hyn a ddylent ei wybod am Iesu o Nazareth, nid "three cheers, ta pwy yw a a gawsai ond moliant hyd gyrrau'r ddaear, a byddai'r moliant hwnnw yri fwy o ddychryn i orthymwyr breision ac annuwiolion na'r mesurau diwyg- iadol goreu a luniwyd erioed. Ni fyddai dim yn fwy o ddychryn mewn lleoedd uchel heddyw na theimlo fod y byd yn mynd ar ol Mab y Saer ac yn ei ddilyn mewn purdeb, sobrwydd, addfwynder ac ysbryd gwasanaethgar I a hunanymwadol. Paham y try gweithwyr oddiwrtho? Ceisiwn ateb hyn y trol nesaf.—T. J" J

Advertising

At fy Nghydwladwyr.

Adolygiad. I

Pontypridd a'r Cylch. I .…

ICOLOFN Y PLANT.

Advertising