Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
D. J. SHELL'S ANNOUNCEMENTS. DR. PARRY'S OPERA BLOD- WEN is now reprinted. O.N., 4s.; Solfa, 2s. "JOSEPH," Cantata (Dr. Parry), O.N. 2s. 6d. Solfa, 9d. Published by D. J. Snell. GRAMOPHONES from £2 2s. Double Sided Records from Is. Id. Records sent by post. Lists free, p IANOS, ORGANS, ACCORDIONS MOUTH ORGANIC &c. Huge Stock. Illustrated Lists Free on application. D. J. SNELL, 21/22 HIGH STREET ARCADE, SWANSEA. Croesaw Calon IV Cympy. The 'Osborne Restaurant' 7, UNION, ST.. SWANSEA. WELL AIRED BEDS. HOME COM- FORTS. PARTIES CATERED FOR AT MODERATE CHARGES. MaDager J Will Griffiths. Gymry [ pan yn Abertawe Ewch i'r Osborne i gael bwyd, Yn 7 Union Street mae hwnnw Pris rhesymol iawn a gwyd. Os bydd eisien lie i gysgu Ynddo cewch welyau olyd, Gymry serchog, ni cheir Qwesty Gwell na hwa drwy'r eang fyd. Chwifiali Faner Goch urddasol, Yn roesawgar yn y 'stryd, Ger yr Empire mae yr Osborne Tuag yno ewch i gyd -Awenydd a tu Yno. V" Lie gonau am Lyfutau Cymraeg yn yr hoil wlad ydyw Shop MORGAN a HIGGS. CYNNYG ARBENNIG. LLYFRAU DR. D. M. PHILLIPS. Athroniaeth Anfarwoldeb, 3/6; drwy'r post, 1/11. Esboniad Efengyl Matthew, 3/6; drwy'r post, 2/5. Esboniad Epistolau Pedr, 3/ drwy'r post, 1/10. Esboniad Philippiaid a'r Colossiaid, 2/6; drwy'r post, 1/10. Esboniad Efengyl Marc, 3/6; drwy'r post, 2/5. Hanes Bywyd Evan Roberts, y Diwyg- iwr, 3/6; drwy'r post, 1/11. Hau a Medi, Cyfrol o Bregethau gan y Parch. W. E. Prydderch, Abertawe, 3/6; drwy'r post, 2/10. Hefyd y rhai canlynol:- Hanes Annibyniaeth o Ddyddiau yr Apostolion hyd Farwolaeth Crom- well, gan y Parch. John Davies, Cadle. Yn rhad drwy'r post, 1/ Pulpud Noddfa, gan Dr. Morris, Treorci, 3/6; drwy'r post, 2/6. Gladstone a'i Amserau, 5/ drwy'r post, 2/11. YR UCHOD I'W CAEL 00DIWRTH MORGAN a HIGGS 118 HEATHFIELD ST., ABERTAWE. DO YOU SUFFER FROM, EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EA8E AND COMFORT AND ALSO SEE DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F II WALTERS, F.S.M.C. vw 9 F. S .M. C OPHTH MALIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Sohools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONBISTFNT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. Chwedlau Hamdden Ar werth gan Mri. MORGAN a HIGGS, Llyfrwerthwyn, Abertawe. Pris is., trwy'r post, is. 2c. "HONGtAN RHWNG DEUFYD." t
»! IDYDDIADUR. I
» I DYDDIADUR. Eisteddfod Neuadd St. John's, Cym- mer, Porth.-Gorffennaf 13, 1916. Eisteddfod Gowerton.—Gorffennaf 15, J 1916. Eisteddfod Poelbren.-Gorff. 29, 1916. i Eisteddfod Genedlaethol Oymru. Aberystwyth, Awst 16, 17 a 18, 1916. Eisteddfod Seion, W aunarlwy d. fiydref 7, 1916. Eisteddfod Gadeiriol y Plant (Cymro- Morion Dyffryn Afan a Margam) yn Porf, TaNot, Hydref 7, 1916.
Advertising
LLYFRAU CYMRAEG GWERTH EU PRYNU. Crefydd a Bywyd, gan D. Miall Ed- wards, M.A., 3/6; trwy'r post, 3/11. Duwinyddiaeth y Testament Newydd, Jas. Charles, Dinbych, 3/6; trwy'r post, 3/11. Cofiant y Parch. O. R. Owen, Glandwr a Lerpwl, gan O. L. Roberts, 2/ trwy'r post, 2/5. Testament y Miloedd," sef Esboniad ar y Testament Newydd, gan J. Ogwen Jones, B.A., 11/ pris gos- tyngol, 3/9.trwy'r post, 4/1. Geiriadur Charles, 12/6 (un copi) trwy'r post, 13/2. 0 For i Fynydd, a Ohaniadau Eraill," gan Elphin, 3/6; trwy'r post, 3/11. "Rhys Lewis," gan Daniel Owen, 2/6; trwy'r post, 2/11. "Enoc Huws," gan Daniel Owen, 2/6; trwy'r post, 2/11. Gwen Thomas," gan Daniel Owen, 2/6; trwy'r post, 2/11. Y Dreflan a Straeon y Pentan," gan Daniel Owen, 2/6; trwy'r post, 2/11. "Teithiau a Barddoniaeth Robin Ddu Eryri," 4/ trwy'r post, 4/5. "Guide to Welsh," Pedr Hir, 4/ trwy'r post, 4/5. Cofiant Ieuan Gwynedd," gan C. Tawelfryn Thomas, 2/6; trwy'r post, 2/11. Moeseg Cristionogol," gan y Parch. D. Adams, B.A., 3/6; trwy'r post, 3/11. Damhegion Crist," gan Owen Evans, D.D.,2/6; trwy'r post, 2/11. Gwyrthiau Crist," gan Owen Evans, D.D., 2/6 ;trwy'r post, 2/11. "Bywgraffiadau y Bibl," gan Owen I Evans, D.D., 3/6; trwy'r post, 3/11. "Person Crist," gan Dr. Owen, 2^6; trwy'r post, 2/11. Pedwar Cyflwr Dyn," gan T.- Boston, 3/6; trwy'r post, 3/11. Dan y Gwlith," gan y Parch. John Hughes, 3/6; trwy'r post, 3/11. "Gweithiau Ceiriog," Tair Cyfrol, 2/6 l' yr un; trwy'r post, 2/11 yr un. Yr Ysgol Farddol," Dafydd Morgan- nwg, 2/ trwy'r post, 2/4. Llawlyfr y Bibl," gan Joseph Angus, D.D., 5/ trwy'r post, 5/6. Cofiant a Gweithiau Gwalchmai," gan Peris Williams, 5/ trwy'r post, 5/5. ¡ Gweithiau Islwyn," wedi ei olygu ) gan O. M. Edwards, hanner rhwym, j 21/ trwy'r post, 21/6. Cedwir Stoc Helaeth o Feiblau a Thestamentau Cymraeg Pob Prisoedd. Yr uchod i'w cael oddiwrth— JOHN HOWELL & Co., Llyfrwerthwyr, Briwnant House, TONYPADY. ST. JOHN'S HALL CYMMER, PORTH. A GRAND Competitive Concert Will be held at the above Hall On Thursday, July 13th, 1916. President: Sir. W. J THOMAS, Yoyshir. Conductor JOHN MORGAN, Esq., Porth. Principal Items :— Mixed Choir •' Dyddiau dyn sjdd fel glas. wellfcyn" (T, Davies). (Minimum 80 Voices), X3 3s. Od,' And a Cup to the successful Conductor. Male Voice Party: "In the Sweet" (Protheroe) (Minimum 30 Vocies) jg3 3s. Od. And a Cup to the successful Conductor, Champion Solo (Open) t2 2s. Od. And » Cup Champion Recitation (Open) J61 Is. Od. And a Cup. Other Competitions: Tenor, Soprano, Baritone, Novice (Open) Boys and Girls Solos and Recitations. Secreties GRIFFITH B. JONES, 6o, Eirw Road, Porth; THOMAS HERBERT, 107, High Street, Cymmer, Porth. Programmes id. each, by post iid. ZION CHAPEL, WAUNARLWYDD. A GRAND EISTEDDFOD will be held at the above place on Oct. 7th, 1916, in aid of our Sailors and Soldiers. Chief Choral: Babylon's Wave (Gounod), open for Male Voice, Mixed Voice or Ladies' Choir. 1st prize, zC5 and Silver Cup; 2nd prize, 22 and Medal or Brooch. Solos, etc., £1 Is. each.—Programmes from the Secretaries: George John, Swansea Rd., Waunarlwyd; W. Hollingdale, Swansea Road, Waunarlwydd. ARGRAFFWA!T«i m bob math 0 A/graff waitf yraofyjwr vn Swyddfa'r "Leader" ;k, 11 19 Cardiff Street. Aberdar I t AT EICH GWASANAETH. i CTHOMAS a PARRY ? CYF., I } ARGRAFFWYR, 3 I Heol Caer, Abertawe. | r Adrodiiadau Eglwysig. Pcnce Envelopes. f Rhaglenni Eisteddfodau. i Llawlyfrau. > Hysbyslenni, etc., etc. S f Tel. Cent. 151. J ABERCYKON SIXTH ANNUAL EISTEDDFOD Monday, Sept. 25, 1916. ADJUDIOATOINS: Music-Rev. ARTHUR DAVIES. G. & L., Merthyr, and Mr. ARTHUR DAVIES, F.R.C.O., A.R.C.M., Swansea. Literary-Rev. R. GWMRYN JONES, Penrhiwceiber. Mixed Choral Competition (not under 40 in number), Blodeuyn bach wyf fi mewn Gardd (Gwilym Gwent), Prize jE8, and Silver Cup to successful conductor. Juvenile Choir (not under 40 in number), "I Sing because I love to sing" (Pinsuiti), Prize 44, and a Baton to successful conductor. Second Prize 41. Soprano, Contralto, Tenor, and Baritone Solos, Pianoforte Solos, Literary Competitions, etc. Programmes may be had from the Secretaries, HUGH DAVIES, 3 Elizabeth st., Abercynon, JOHN REES, Fishguard Villa, Abercynon rd., Aercynon. Y DARIAN. Nid Amddiffyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawndey. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr nos Fawrth yn Aberdar a'r cylchoedd cymdogaethol. Cyfeirier polb Gohebiaeth ynglyn a'r J Darian i'r- GOLYGYDD, SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i r Golygydd. D.S.—Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan- aetha'r Cymdeithsau Oymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuaino i garu iaith, llenyddiaeth a delf-v-au eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AELWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir cael y Darian trwy ddoa- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am l £ c. yr wythnos, Is. 7!c. y chwarter, 3s. 3c. yr hanner blwyddyn, a >\ 6c. y flwyddyn. Am flaen dil yn uaig yr anfonir hi trwy'r post. Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd gyda'r post cyntaf.
I DYDD IA U, GORFFENNAF 6,…
I DYDD IA U, GORFFENNAF 6, 1916. I. Nodiadau'r GoL Tybid fod dyddiau gwell ar wawrio ar yr Iwerddon pan ymgymerodd Mr. Lloyd George ar gais Mr. Asquith a cheisio dwyn y pleidiau at eu gilydd a llunio telerau heddweh. Mae'n amlwg erbyn hyn na phenderfynir mo gwestiwn poenus llywodraeth yr Ynys Werdd heb i rwystrau godi o'r lleoedd yr arferir cynllwyn ynddynt yn erbyn pob ymgais i gael cyfiawnder a thegwch i genhedl- oedd darostyngedig. Yr oedd arwydd- ion y llwyddai Mr. Lloyd George yn yr hyn a, ymddiriedwyd iddo, a phwy ifa ddymunai iddo bob llwyddiant i roddi ar seiliau gwell lywodraeth hen genedl odi- dog sydd dan ei briw o herwydd gorth- rwm y goresgynnydd 1 Ond y mae nifer o Undebwyr wrthi'n ceisio peri rhwystr a pharhau os gallant ofidiau y Gwyddel tlawd. Y mae Arglwydd Selbourne wedi ym- ddiswyddo o'r Llywodraeth, ac y mae'r rheswm am hynny a roddodd yn Nhy'r Arglwyddi ddydd Mawrth, Meh. 27ain, yn ymddangos dipyn yn ddigrif i ddyn o'i safle ef. Nid oedd wedi deall beth a ymddiriedasid i Mr. Lloyd George; i'w wneuthur. Credasai efe y byddai'r ymchwiliad parthed diwygio Mesur Ym- reolaeth trwy gau Ulster allan o hono a dwyn y mesur diwygiedig hwn i rym ar adferiad heddweh. Ond wedi ei ddysgu'n fanylach yn ystod gwyliau'r Sulgwyn, gwelodd fod y cytundeb a gyn- hygid yn cynnwys rhoi'r Mesur mewn gweithrediad yn ddioed ac yn ystod y rhyfel. Mae'r Iwerddon, meddai ef, mewn cyflwr difrifol o gynhyrfus, a chredai y byddai cyfnewidiad cyfansoddiadol mor fawr yn fwy peryglus nag unrhyw gwrs allai'r Llywodraeth ei ddewis! Duw helpo'r Iwerddon. Cwrs o ofidiau a fu iddi hi er's oesau, a chwrs o fethiant truenus a fu Llywodraeth y Sais yno, ac eto, honnir fod pob cats i wella ar gyflwr y genedl yn mynd i arwain i rywbeth gwaeth Mae ymddygiad y rhai a geis- iant rwystro heddychiad y pleidiau yn awr yn mynd ymhell i gyfiawnhau cyfrif yn arwyr ac yn ferthyron y gwrthryfel- wyr a felltithir gan gynifer y dyddiau hyn. Y mae'n ddirgelwch i rii pa, fodd y mae cymaint rhagfarn yn erbyn Gwyddelod yng Nghymru. Ffynna syniadau rhyf- edd ymhlith y werin am danynt. Cofiaf yn dda pan oeddwn yn hogyn yn y wlad glywed filwaith nad oedd Gwyddel byth i ymddiried ynddo, ac ymddengys i mi fod llawer dan yr argraff fod cyllell yn Uawes pob un o honynt. Yr ydym yn gwrido o herwydd y camargraffiadau parthed cymeriad y Gwyddel y mae llawer danynt a hwythau heb erioed fynd i drafferth i adnabod GwyddeL Mewn ofn a dychryn yr aethom pan oeddem yn ieuanc i weithio i ganol pobl. y clywsom bethau mor erchyll am dan- ynt. Bu eu rhadlonrwydd a'u caredig- rwydd a'u gonestrwydd yn, agoriad llygaid i ni. Dysgasom yn fuan ym- ddiried ynddynt ac yr oedd ganddynt hwythau ymddiriedaeth ddiderfyn yn- nom ninnau. Ni fuom erioed ymhlith pobl onestach a charedicach na'r gweith- wyr Gwyddelig. A'n barn onest ni am y Gwyddelod fel pobl yw hyn: Ymddir- iedwch ynddynt ac fe'u cewch yn deil- wng o'ch ymddiriedaeth; amheuwch hwynt a drwg-dybiwch hwynt, ac y mae'n eithaf posibl y cewch hwynt yn beryglus i chwi, a hynny a haeddech. Cofier mai cenedl yn methu ymostwng yn wasaidd i'w gorchfygwyr yw'r Gwyddelod, a phob parch iddi am hynny. Credwn y buasai'n well o lawer i ni fel cenedl nesu mwy at y Gwyddelod, cy- meryd mwy o ddiddordeb yn eu budd- iannau, a chynorthwyo mwy arnynt yn eu brwydrau o blaid eu rhyddid a'u cen- edlaetholdeb yn hytrach nag ymostwng yn wasaidd a gadael i'r Sais ein trin fel y mynno efe, megis ag y gwnaeth wrth roi terfyn ar gysylltiad y Cadfridog Owen Thomas a'r Gwersyll yn Kinmel Park a rhoi Sais yn ei le. Mae'r Gwydd- elod yn gofalu na cha'r Sais mo'i hanwy- byddu hwy, gan nad beth a fo ar droed. Sylwer ar hyn a ddywed Gohebydd mewn colofn arall parthed ymddygiad y Llywodraeth ynglyn a'r Cadfridog: Owen Thomas. Y rheswm mawr gan lawer dros fethu, dygymod a'r syniad o ganiatau hunan- lywodraeth i'r Iwerddon yw fod y Gwyddelod yn Babyddion. Yn ol syn- iad y rhai hyn rhaid i'r genedl honno barhau i ddioddef gorthrwm ac anghyf • iawnder oddiar ein llaw am nad yw'n digwydd bod o'r un syniadau eglwys- yddol a ni. Ai hyn yw ystyj? ein Crist- ionogaeth a'n Protestaniaeth? Tuedd pawb yw nesu at elyn ei elynion ef, ac oherwydd hyn, yn ddiau, y mae gan y Babaeth ddylanwad mwy nag a fyddai ganddi ar y Gwyddelod. Rhodder iddynt ryddid i ddatblygu ar eu llinellau eu hunain yr hyn sydd oreu yn eu bywyd cenedlaethol a buan y deuant i adnabod yr hyn sydd wyrgam a, thraws yn eu hanes. Cydnabyddir ar bob llaw fethiant tru- enus llywodraeth y Sais, yn Nulyn, ac y mae'n sicr na lywodraethai'r Gwyddel- od mo u hunain yn waeth nag y mae'r Sais wedi eu llywodraethu. Lleinw Gwyddelod safleoedd o ymddiried mewn llawer gwlad, a thybed nas gallent lywodraethu yn eu ty eu hunain yn well na'r es- tron. Mae'r Iwerddon heddyw'n eng- raifft o ddylanwad dirywiol y Sais ar genhedloedd eraill a haedda ei chael yn ddraen yn ei ystlys ac yn berygl parhaus iddo hyd oni wnelo gyfiawnder a hi. Mae si ar led fod Plaid Annibynnol Llafur yn Aberdar yn bwriadu dwyn ym- geisydd Seneddol arall i'r maes, a. hwnnw'n Sais o bell. Mae'n bryd i rai yn y blaid hon feddwl am fod yn rhyw- beth heblaw cyfrwng i wthio estroniaid i bob swydd a sedd yn ein gwlad. Mae ganddynt Gymry da yn eu plith eu hun- ain, ac y mae'n resyn nad oes ganddynt well defnydd i'w wneud o'r rhai hyn na'n gorfodi i gynorthwyo Saeson i safleoedd o anrhydedd. Dywedir nad yw Llafur yri adnabod cenedl, ond byddai'n resyn i'r rhagrith hwnnw fod yn anfantais i Gymry yn eu gwlad ac yn fantais i bawb arall.