Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Prifysgol Cymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Prifysgol Cymru. GAN MYRDDIN. Bu'r Dirprwywyr, a benodwyd i archwilio gwaith a chyfundrefn rrifysgol Cymru, ar ymweliad a Chaerdydd ac Abertawe yr wythnos ddiweddaf. Hysbysir ni eu bod ar hyn ° bryd yng Ngogledd Cymru yn talu ymweliad a Bangor. Yr ydys- yn chwilioi am wybodaeth. I'r mwyafrif ymhlith aelodau'r Ddirpwyaeth, Cymru sydd faes tywyll, anghysbell, ddim amgen na gwlad y glo caled a Llwyd Sior. Gwyddant beth am ein Haelodau Seneddol, eithr gwareder ni rhag ein barnu fel cenedl wrthynt hwy. Ni wyddys, hyd eto, pa wybod- aeth a gasglwyd yn Abertawe a'i chylchoedd diwydiannol, neu i ba gyfeiriad y try meddyliau'r Cadeirydd, Arglwydd Haldane, a'i gyd-ddirprwy- wyr, ar y cwestiwn o godi coleg Aber- tawe i'r uddas o fod yn rhan o'r Brif- ysgol. Modd bynnag, Arglwydd Haldane a awgrymai, pan ar ei ym- weliad yno, y posibilrwydd o sefydlu rhyw fath ar Brifysgol ar gynllun newydd yug Nghymru. Mae yn ein meddiant resymau cryfion dros gredu mai cynllun yw hwn na ddatijuddiwyd moi'i gyffelyb erioed o'r blaen i fedd- W1 dynol, ac mai amcan y cadeirydd yw rhoi prawf arno yn ein plith. A yw Cymru mor ddiofal a chaniatau dinystrio'i chyfundrefn addysgol er mwyn rhoi prawf ar yw gyfundrefn newydd na sefydlwyd mo'i chyffelyb ymhlith cenhedloedd y ddaear? Yn tyr, bwriedir gwneud y colegau yng Nghaerdydd, Aberystwyth, a Bangor yn annibynnol ar ei gilydd, a'u rhydd- hau oddiwrth awdurdod Senate y Brif- ysgol oni chyrhaeddir hyd at y gradd cyntaf, y B.A. neu'r B.Sc. Bydd hawl gan Aberystwyth, er enghraifft, i dynnu allan faes llafur gogyfer a'r B.A. heb ymgynghori A Chaerdydd a Bangor, ac heb unrhyw gyswllt a Senate y Prifysgol. Prifathrawon Aberystwyth yn unig arhola fyfyrwyr Caerydd, eiddo Bangor fyfyrwyr Bangor, ac eiddo Caerydd fyrfyrwyr Caerdydd. Ni fydd gan y Prifysgol fel y cyfryw lais yn y byd yn y fusnes er y rhoddir i'r myfyriwr llwvddiannus hawl i osod "B.A., Prifysgol Cymru" Wrth ei enw. Mewn gair, caiff y myfyriwr ryddid i wneud a fynno ag enw'r Brifysgol, heb fod ganddi hi rith o hawl i archwilio'i waith. Wedi y cyrhaeddo'r myfyriwr y safon hwnnw, yna fe ddaw o dan nawdd y Prifysgol. Ond rhith o awdurdod yw peth fel hyn gan nad oes ddeg yn y cant yn ..gfaddio'n uwch na'r B.A. neu'r B.Sc. Cri y sawl syrn bIoeddio fwyaf o blaid y cyfnewidiad peryglus hwn yw y dylid rhoi mwy o ryddid i'r prif athrawon yn eu gwaith yn tynu allan y meusydd llafur. Y mae inni ein hofnau mai pen-rhyddid dilywodraeth yw cais ac amcan y blaid hon. Gwydd- om beth am y wybodaeth y rhaid fyfyri wr wrthi er cyrraedd y gradd o B.A., a beiddiwn ddweud mai nid rhyddid barn ac annibyniaeth meddwl yw r pwysicaf beth, ond yn hytrach ymgyfarwyddo'n llwyr ag egwyddor- ion gwreiddiol y gangen y bo'r myfyr- .iwr yn ymaflyd ynddi. Ac efe wedi trwytho'i hun yn yr egwyddorion hyn, rna, daw cyfle iddo ddewis ei bwnc ac 1 • ddatgan ei farn ar destun o'i ddewis lei hun. Ceir yma ddigon o Ie i ryddid, rhydi-d i'r prif-athro, a rhyddid i'r myfyriwr. 0 d'an y gySundrefn bresennol y rhydid hwn sydd o fewn eu. cyrraedd yn y colegau. Nid yw'r rifysgoi yn ymyrryd o gwbl. Felly, nid dilys y cri am ryddid o du'r prif- ath rawon. Ofnwn mai dyfais ystryw- gar ydyw i rwygo'r Brifysgol yn wy neu dair, dyfais o eiddo ychydig o Wyr anwladgar ar Senedd Caerdydd. Son a wnaeth Arglwydd Haldane am ritysgol newydd a gymeradwyai ei Un i fwyafrif y genedl. Pa hawl sydd ganddo ef i awgrymu bod Cymru wedI colli ei ffydd yn ei Phrifysgol Fél sefydliad cenedl- aethol gwahaniaetha oddiwrth bob "Federal University" arall y gwydd- aSif1?1 dani. Dyma'r sefydliad cenedl- aetho,l cyntaf yn ein hanes, rhag- ??gydd yr Amgueddfa a'r Llyfr- gel, a'r sefydliadau cenedlaethol e?au-n i y gwnaed cymaint er eu sicrhau. u:n foddion i ?no Cymry o bob plain Buom erioed, ysywaeth, yn ch ™an,°g i ymrannu yn Ogleddwyr, a Yn Deheuwyr, ac yn sectau cre- fvdHi a hwyrach fod y Brifysgol wedi gwneud mwy na'r un sefydliad ar!li O'n heiddo i ddiddymu'r gwa- haniaetbau ?- 0'; rhannu, aiff y S"en^ eto'n ddarnau ac yn ysglyfaeth Plaid.

Gwlad y Datguddiad.I

Cymru a'r Fyddin. iI

ISoar, Dinas, Penygraig. j

Advertising