Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Penderyn.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Penderyn. Prynhawn Iau ym Mehefin di- weddaf, a mi yn digwydd pasio gwesty yn ymyl yr eglwys ar ddiwrnod niwlog, a'r gwlith-wlaw yn disgyn ar y glaswellt, nes gwneud y llwybrau yn ddiflas i'w troedio, clywn ganu ar y piano yn y gwesty, a phwy ddaeth allan ond fy nghyfaill, Mr. J. Isaac (Myfyr Taf), "super." adran Aberdar o'r "Britannic Assurance Co." Wedi ysgwyd Haw, rhaid oedd ei ddilyn i'r parlwr, lie yr oedd ei "staff Mri. J. Harris a W. Lewis, "assistant super- intendents" John Morgan, tad Pencerdd Cynon; T. 0. Evans, Jona- than Lloyd, William Ponting, Wm. Thomas, T. D. Williams, Ben Scour- field, Miss S. Walters a W. R. Rees. Daethant i fyny gyda'r bwriad o fwynhau am ddiwrnod awelon iach y bryniau, ond trodd yr hin yn an- ffafriol. Felly, da oedd cael ystafell yn rhywle i dreulio y dydd yn swn can ac englyn. Cyfeiliwyd yn fedrus ar y piano gan Mr. Williams, Hirwaun, a chanwyd rhai darnau gan y "staff," ynghyd. Cawd anerchiadau byrion gan amryw o'r brodyr, a gair yn fyr gan yr ysgrifennydd yn amlygu ei falchter o gael cyfarfod a hwynt ar eu hymweliad a'r fangre lonydd. Paraio- wyd pryd iddynt gan Mrs. Lewis, gwraig y ty. Llongyfarchwn y brawd ieuanc, Mr. William Lewis, Pen- deryn, arei ddyrchafiad yn "assistant superintendent dan y Cwmni hwn. Bachgen rhadlon a diymhongar ydyw efe, wedi diwylio ei hun yn ei oriau hamdden pan weithiai yn galed yn Chwarelau Calch Penderyn am flyn-' yddau, ac yn anffodus wedi cwrdd a llawer damwain nes amharu i fesur aelodau y corff. Eto gwna ymdrech ennill bywiolaeth i'w deulu lliosog. Pob llwyddiant. iddo i ddyrchafiad uwch eto. Bydd yn bleser gennyf gwrdd a'r staff ar eu hymweliad nesaf a'r llecyn prydferth hwn, a da gennyf ddeall fod y cerddor enwog, Mr. Glyndwr Richards, Mountain Ash, yn dod yn un o'r "staiff," ac y cawn ei roesawu yntau gyda'r lleill. Dis- gwyliwn felly i'r parti fod yn fwy cerddorol fyth y tro nesaf. Am swynion yr hen ardal nid oes amheu- aeth, neu gwrandewch beth a ddywed Mr. L. Davies, o'r Cymer, ddim ond wedi byw yma am dymor byr: "Anwylaf blwyf! dy enwi'n unig sydd Yn ennyn ynnof ryw anwyldeb cudd, Nis gall hyawdledd, dawn, na gemog iaith Gyfleu mewn geiriau na'i esponio chwaith; Rhyw gyfarfyddiad hapus ydwyt ti, 0 geinion harddwch creadigaeth Rhi; Pe chwiliwn ardderchowgrwydd plwyfi'r byd Penderyn fyddai genny' mlaen o hyd." I DEWI CYNON.

—:I PanjoeddBywyd yn sym-l…

"Granogwen." ! I

I 0 Ben Cloc Mawr Tredegar.

Advertising

AMNAID.i

I. Glennydd yr Ogwr.

[No title]

Catiau Cwta Catwg.

Resolfen.