Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Llith y Tramp.
Llith y Tramp. "I'r 'Darian,' un o'r deri-yw y Tramp, Yn troi mewn mawrhydi." —Dafydd y Crydd. Mishtir Golycydd,—Mi addewes i byswn i'n gwed ticyn 0 hanas y botal whisci, ond erbyn hyn rw i'n gweld na alia i wed dim am y botal, ond 1ma gen i ges go dda beth ddath o'r whisci, a falla bo chitha'n geso hed, ond ry'ch chi'n geso'n rong y tro hyn beth bynnag. Yfas i ddim o hono fa. Pan gwnnas i'r bora ar ol cysgu'r noswath gynta yn nhy'r witw fach o'r Mownt, rodd hi'n alibalw mawr yno. Rodd y bachan o'r North yn dost iawn, a'r Dr. Arthur Jones yno yn sefyll mwn prytar mawr wrth iben a ag yn stwffo rhwpath lawr idd i wddwg a Mishtir Hywal Nedd yn dod miwn i'r ty ar y pryd. Mi ddish- gwlws y Dr. yn ffyrnig iawn ar Mish- tir Hywal, a mi ofynnws pam odd a'n dod a chriatur felny i'r Mownt i dynnu disgrgs ar y lie. Feddyg annwl, mynta Mishtir Hywal Nedd, nid fi ddath a fa yma; dw i ddim yn i napod a o ddynon y byd. Ai nid hwn yw'r Tramp dynsoch chi yma o Whitland? mynta'r Doctor. Naga, naga, dishefoni'n bridd a chalch, nid hwn yw'r Tramp; dyma'r Tramp yn dwad lawr o'r lloft fel gwr bynheddig, a ma fa'n ddyn o dalant fel finna. A felny hintrodiwswd fi i'r Doctor enwog o'r Mownt. Odd y bachan o'r North wedi cAl gafal yn y botal whisci wedi i fi fynd i'r gwely, a wedi hyfad dicon mynta'r doctor i feddwi dau geffyl, a odd dim son am y botal yn unlla. Ag Wrth weld y comoshwn- odd yndo fa, °dd y doctor ddim yn shiwr na alla'i botal hefyd fod yn i gylla fa. Odd y Witw fach am roi'r sac i'r bachan o'r North dder and dden. Ond odd rhoi'r sac iddo am rai diwrnota mas o'r cwestiwn wath alia fa ddim symud, a odd perigl bysa'r Sanitari Othoritis yn symanso'r witw fach tysa hi'n i dowlu a mas i'r hewI.I Ond odd y bachan dicyn callach pan ddath a ato'i hunan, a synnwn i ddim na ellir Sueud rhwpath q hono fa yto., Nawr, odd Mab y Wawr yn gofyn beth odd y'n necas i yn y Mownt, a r,ia'n deg i bawb g,41 gwpod, er. ta Jicyn o "cheek" yw holi dyn felna "hed. Wel yn'n necas benna i yw hintrodiwso dynon mawr i fi nihunan, a ma lot go dda o henyn nhw yn y Mownt a styriad fod y Cwm mor gul a gwynt y Dwyrain wedi hwthu cymant o stwff Sysnag yma. Rw i wedi galw gyda Ap Pedr Hir; ma fa'n Gymro o'r top i'r gwaelod ag yn ffvddlon i'r hen iaith, er i fod a'n hed mastar yn y Cownsil Scwl. A falla bo chi'n cofio i fi weld i dad a yn y Steddfod Genedlaethol ym Mangor. A dyn da digynnig yw i dad, a wi'n ynnu na fysa rhacor o bartis drama'r owth yn dysgu drama Pedr Hir ar OWan Glyndwr. Dyma'r testyn a'r d?rama ora yng Nghymru nawr, a ma "?on o'i hisia hi ym Mowntan Hash. A4a P-edr Hir fel i fab yn ddyn mawr f i& ma',i enw fa'n awgrymu, ag er pan fuas ym Mangor mi glywas i lot o .??ch rhyfadd am dano gan fachan ? ar y tramp fel finna. Ma fa'n byrge-thlr, ? yn fardd ag yn ddar- It. IWr, ag yn fyrddwytwr mawr, ond 1 fUodd yn blisman un adag, a falla ta fel plisman ma gyta fa'r cleim 4'wya I hanfarwoldeb, ne felny odd y ^amp hynny'n gwed wrtho i beth ynnag. Odda bytH yn rhytag tramp lr>a k fysa fa'n weld ar y ffordd i'r io? h? up fel ma plismyn yn arfedd geud er mwyn c&l streipan, ond odd  wleua'n ffein a nhw, yn holi u hana, nh yn gwed gair caretig "Wrthv nhw ag yn rhoi cwpwl o docins jjj nhw. A odd gair caretig a chi,nog ne ddwy prwth P.C. Pedr Hir Y" gneud mwy o les iddyn nhw o jaw^ 13 tysa'n nhw'n mish o jaiJ. ?a'? bchan hynny yn mynd i glywad p jr ^.ir yn pyrgethu bob tro caiff a 8-v? arno, a odd a wedi i glywad a'n ??wp? ??wn un bregath fel hyn "p 0*1 a ?od yn galad wrth y crwv ^awd yma, sydd ar hyd y wlad V Ma yna hanas iddyn nhw, a tySa ^hi'n gwpod hanas y rhan fWVa 0, e 1 n -gwpod hanas y rhan wYa 0 ??? ?? ?? stormydd mawr i edieuroarnyn nhw, chi deimlech U b6d ihw'n deilwng 0 gydym- deimlaH a thynerwch mawr." Mi wetas am u ?ynerwch mawr. Mi wetas .I alen heb wpod i fi. Ma'n depig na chas p Pedr Hir ddim un streipan gan? yT"i y?otrath am fynd a thramp i'r IOC un ? d ?? ?y??' a'n synnu ryw loc p, ond falIa bydd a'n Synnu ryw fo?ra f0rl ?? ?y?ant o honyn nhw yn <aros a an iddo beido a mynd a nhw yno a bod yn garet?g i'n short i. %;ar ?yw a T rv??? ?? ? ?y? ?d y ?ab sy yn y Mow????? ? P? ma'i dad yn rhagymadro,dd mor dda iddo. TRAMP, I
I Beirniadaethau.I
Beirniadaethau. EISTEDDFOD CADAIR PENTRE ESTYLL. (Parhad.) BEIRNIADAETH PENAR. "Adsain Dyledswydd. — Ys- grifenna'r awdur hwn mewn arddul1 Gymreig semi, ac mae ei Gymraeg yn weddol gywir. Mae ei wallau gram- adegol ac ieithyddol yn rhai pur anghyffredin. Dybla'r "n" yn "yna," "yno," ac "oni." Ys- grifenna "mae" yn lie "mai "—taw; a "gorphennol, gyda "ph" yn y canol yn lie "ff." Ni wyr y gwahan- iaeth rhwng "oil" a "holl," oblegid ysgrifenna "yr holl o honynt" yn Ife "yr oil o honynt." "Hwyluso ddylai fod yn lie "hwylusi," ac nid yw'r terfyniad "i" i'w oddef yn y gair, ond fel terfyniad berfol yn yr ail ber- son unigol. Ysgrifenna "gwneyd" yn lie "gwneud "y" yn lie "u," ond pan ysgrifenna'r ffurf gryfaf- gwneuthur, defriyddia'r "u" fel y dylai wneuthur. Nid oes dwy "n' yn "perthynol." Nodais ychydig wall- au eraill er budd yr awdur. Mae ei wahanodiad (punctuation) hefyd yn bwr wallus. Y mae ganddo lawer o fater da, yn bur drefnus o ran cyflead ac olyniaeth, ac mae yn ei draethawd rai awgrymiadau gwerthfawr. Dichon y gellid gosod y mater mewn ffurf fwy manteisiol i'w argraffu ei hun ar gof darllenydd. Mae naws hyfryd yn y traethawd, ac y mae, ar y cyfan, yn argyhoeddiadol. Gydag ychydig dacluso gellid gwneuthur traethawd da o hwn. Cyn ei ollwng carwn alw ei sylw at y ffurf ddyblyg sydd ganddo, megis- "Y mae ac fe fydd," a "hoff gan un fu ynghanol ac yn wynebu tân." Gwell yw'r ffurf semi, megis—"Y mae y rhyfel echryslon hwn yn brawf arni; ac fe fydd yn brawf arni," a thrachefn-" Hoff gan un a fu ynghan- ol tin mor ofnadwy ac yn wynebu tan mor ofnadwy a than y rhyfel. Nid yw'r ffurf ddyblyg yn Gymreig, ac y mae yn aneglur. Nid yw cys- trawen fel hon yn Gymreig chwaith— "Nid wyf yn credu fod wedi bod ganddi well mantais." Dull Seisnig yw hwn "I do not believe that she ever had a better chance. Y Gym- raeg fyddai, "Nid wyf yn credu y bu ganddi well mantais erioed." j "Gweledydd." Cyll yr awdur hwn eto yn enbyd mewn gwahanodi (punctuation). Anaml y ceir yr ar- wydd priodol o ddiwedd brawddeg, ac weithiau ni cheir unrhyw arwydd Dylai arfer barn, a magu ymddiried- aeth yn hyn o beth, ac nid gollwng pethau. i siawns. Y mae ganddo lawer o wallau ieithyddol hefyd "gwynebu yn lie "wynebu," llyn I ngwyneb" yn lie "yn wyneb "hwylusdod yn lie "hwylustod "— "t" ddaw ar ol yr "s ac nid "d." "Anhawsderau yn lie "anhawster- au "t" eto ar ol "s." Un "n" ddylai fod yn y gair "hanu." Mae eisiau dwy "n" yn "gorffennol," er mai un geir ganddo ef: yr un modd "presennol." Nid yw ysgrifennu "tistiolaeth yn iawn—"tyst "ys" ac nid "is." Dylid arfer "y" yn "dweyd" ac nid "u." Gyda golwg ar ei drefn a'i fater, gwastraffa ei nerth yn ormodol, mewn traethawd byr fel hwn, gyda natur a chenhad- aeth gyffredinol yr eglwys, gan ym- drin yn rhy amherthynasol braidd a 'gwaith yr eglwys yn wyneb dych- weliad y milwyr. Pan ddelo at y pwynt y mae ei ymdriniaeth yn rhy fAn ac anghyflawn. Ar y chweched tudalen y daw at ei bwnc mewn gwir- ionedd. Amcanodd at ormod. "Pax Vobiscum. Ysgrifennu mewn Cymraeg pur ddiffygiol a wnaeth yntau. Ysgrifenna "prusur yn lie "prysur "—dwy "u" yn lie "y" ac "u. Un "n" sydd ganddo yn "presennol yn lie dwy ac felly "cynnil. 5 Ysgrifenna "presepnol" gyda dwy "n" at tud. 2, ond ai dam- wain hyn? Un "n" geir ar tud. 4 drachefn. Nid oes angen dwy "t" yn "atebiad ac un "n" roddir yn "llanerchau." Rhodder dau yn "llannerch" am fod y llafariad yn gau (closed) ac yn bwysleisiol (accented). Mae eisiau dwy "n" yn "hynny," ac nid un fel y ceir yma. Ni ddylid dyblu'r "n" yn "ynom." Y mae yma amryw wallau eraill, wedi eu nodi ar y copi. Ymwnaeth yr awdur yn ormodol A drygioni "rhyfel," a chollodd y cyfle i aw- grymu ar gyfer dychweliad y milwyr. Nid yw t6n a thymer ei waith mor hyfryd ag y gallem eu dymuno chwaith. I "Pro Patria. "—Dyma'r traethawd glanaf o ran diwyg ac o ran cywirdeb ieithyddol. Ysgrifennodd hwn yn lan o ran diwyg, ac y mae hynny yn gwneuthur d'arllen ei waith yn orchwyl hyfryd. Y mae ei wallau mewn Cym- raeg hefyd yn llai ami, er nad yw yn- tau heb ei anafau mewn orgraff a chystrawen. Dylai osod "e" yn "rhaeadr" ac nid "i ac "i" i der- fynu cyflawni," nid "u." "I" ddylai derfynu "peri "—"to cause," ac nid "y" i'w wneud yn "pery "will last." Ceir ef yn gywir ar tud. 8—"i beri i'r diffaethwch orfoleddu." Ceir yr unig yn lle'r lluosog ganddo, megis "a'i troi i ddefnydd," tud. 8. Eto ceir y lluosog yn lie unigol ar tud. 3, "Mae y rhan fwyaf o'n Byddin yn cyflawni ei.dyledswydd sydd gywir, oblegid y "rhan yw'r gwrthrych. Ysgrifennodd "ei lifeiriant ar tud. iaf yn lie "ei llifeiriarit," canys benyw- aidd yw "rhaeadr. Eto, "safle gymdeithasol yn lie "safle cym- deithasol "—gwrywaidd yw "safle. Hefyd "y cyfeiriad hwn" fyddai gywir, ac nid "y cyfeiriad yma (tud. 2). Nid yw "awdwyr yn iawn "awduron" ddylid ys- grifennu. Y mae dweyd fod "awdwyr" yn ffurf luosog ar awdur pan gofir mai "swarabbakti" yw'r "w" yn niwedd y gair "awdur" mor afres- ymol a meddwl mai "s'awdwyl yw'r ffurf luosog o "sawdl." Ar bwnc 0 iaith ein cwyn pennaf yn erbyn yr awdur hwn yw cwyn yn erbyn arddull anghymreig. Amlwg yw ei fod yn fwy c.yfarwydd a darllen Saesneg ac ysgrifennu Saesneg os yr un a ysgrifennodd y traethawd i'r ddiwyg hon ag a'i cyfansoddodd. Ameu'r ydym. Ond cymerer y ffurfiau anyghymreig hyn. "Mae wedi bod yn gyfrwng goleuni "—"It has been the means of enlightenment. Ond y Gymraeg fyddai "Bu yn gyfrwng goleuni." Eto-"Ni fodola'r milwr proffesedig heddyw "—"The pro- fessional soldier does not exist to- day ond dyma'r Gymraeg—"Nid yw'r milwr proffesol yn bod heddyw —"bod nid "bodoli," ac nid yw "milwr proffesedig" yn iawn yn v cysylltiad hwn. Nid yw yn cyfleu meddwl yr awdur ei hun. Eto "Yn ymwybodol o ddelfryd uchel yn eu hysgogi i bob aberth, deuant i syl- weddoli Y Gymraeg yw: "A hwy yn ymwybodol o ddelfryd Eto—"Teimlem fod gennym y dyn priodol "—"We felt we had the proper man." Y Gymraeg fyddai- "Teimlem ein bod wedi taro ar y dyn iawn. Drachefn. Meddai'r awdur—"Cawsom yn y gorffennol lawer gormod 0 athroniaeth yr 'Almaen o bulpudau Cymru, ac erbyn hyn daw'r gwirionedd inni fod ei phroffes- wyr wedi bwrw dysgeidiaeth Cariad Crist allan o raglen eu bywyd." Credwn y dywediad, ond nid yw yn hoffi yr arddull Seisnig sydd ynddo. Unwaith eto ar y pen hwn: "A chyda'r Eglwys y mae gweld nad yw dynion eto yn syrthio i afael y dafarn." "And it rests with the Church to see that men do not again fall to the grip of the public-house." Y Gymraeg fyddai—"A'r Eglwys sydd gyfrifol am ofalu na syrthio dynion eto i afael y dafarn." 0 ran mater y mae gan- ddo rai cyffyrddiadau amherthynasol, ac nid yw yn ddigon cyson gyda'i bwnc. Gwibia i ffwrdd yn achlysurol, ac nid ddengys i ni wr yn rhedeg gyrfa. Bellach, pwy biau'r wobr? Y ddau draethawd agosaf at y n6d yw eiddo "Adsain Dyledswydd" a "Gwlad- garwr. Maent yn fwy o werth ym- arferol nag eiddo "Pro Patria, yn fwy cyfan gwbl gyda'u pwnc na "Gweledydd a "Pax Vobiscum. Ond pwy o'r ddau hyn yw'r goreu? Anodd fu penderfynu. Eithr y mae traethawd "Gwladgarwr yn gyfoethocach, ac yn dangos gafael dynnach, gryfach ar y pwnc, ac o ychydig efe yw'r goreu. Gwobrwyer "Gwladgarwr. (I barhau.) GOSEN, BLAENCLYDACH, Y I GROGLITH. BEIRNIADAETH PELIDROS I (Parhad). Englyn: Rhuthr Awyrol (Air Raid). I Daeth tri-ar-ddeg o englynion i law. Sylwir arnynt yn y drefn a ganlyn:— Cynnwys eiddo (1) Glan y Mor, (2) Ymgeisydd, (3) Seryddwr, a (4) John Bull wallau cynghanedd. Cynnwys eiddo (5) AlfTa sill yn ormod yn yr ail linell. Daeth (6) Gwyliwr Gwalia a (7) Min y Cledd i mewn yn rhy ddiweddar. Y maent yn gywir o ran cynghanedd, ond ni chynhwysant ddim arall. Gos- odir y saith hyn yn yr ail ddosbarth. Yn y dosbarth blaenaf daw'r rhai can- lvnol 1. Ofnus.—Y dechreu'n lied dda, ond y diwedd yn lied ddi-awen ac amwys. 2. Lawr a Hi.—Yntau'n dechreu'n dda, ond yn colli tua'r diwecM. 3. Pryderus.—Nid hoff gennym 'barn- au du' yn y cyrch. Gwan yw'r gair syrth- ia yn yr ail linell. Ac ni wn i ystyr y llinell olaf-" Eu marwor wna Omorra." Gellid tybio fod yr awdur am ddweyd fod a fynno'r nef a gyrru'r Zeppelins i wlawio "tbn a brwmstan" ar Brydain a mannau eraill. Ac eto nid hynny fedd- yliai'r bardd, yn sicr. 4. Graham White. Nid da'r gair cyfansawdd Rhyfelfyd" yn y llinell gyntaf-gair cynghanedd yw. Nid da ychwaith y gair "disyfyd" yn yr ail linell. Ni chyfetyb a'r gair "nofio." Syrthio'n ddisyfyd." Marwjn ddi- syfyd ac nid nofioln ddisyfyd." Ac onid oes ormodedd yn ei gywydd- A'i 'Bom' anwar bob mynyd I wely'r bedd lywialr byd." Nid yw'r Boms hyn, er lliosoced ydynt, yn disgyn bob munud, nac yn llywio'r holl fyd i'r bedd. Ac onid hyrddio ac nid llywio fyddai'r gair goreu yn y llinell olaf ? A beth am sillebiaeth y gair "mynyd -y, y-u, u. 5. Dewi.—Y ddwy linell gyntaf yn lied dda, ond y ddwy olaf yn lied wan, ac yn diweddu'n llipa. 6. Gwyliwr y Glannau.—Diwedd yr englyn hwn yw'r gwaethaf hefyd. Llin-*j ell wan yw'r drydedd—o'r braidd y gellir gwarantu y gair ddi-warantau geir ynddi. Ac ar yr olwg gyntaf, gellid tybio fod yr awdur am roi enw ofnadwy ar Brydain yn ei linell olaf. Dywed am yr awyr-longau—" Annwn eu pwynt." 0 gofio'u mynych ymweliadau a Phry- dain yn ddiweddar, gallai'r anllythren- nog a'r annysgedig dybio mai Prydain yw "Annwn" y bardd, eithr o ddarllen yn ddyfnach i ystyr y llinell, a chofio'r difrod di-reswm wneir gan y pethau ofnadwy hyn, hawdd deall wedi'r cwbl mai-" Annwn eu pwynt; dychryn pau." Er nad oes yr un englyn cwbl foddhaus yn y gystadleuaeth, ymrysona "Lawr a Hi a Dewi am yr ail le ynddi, eithr y mae'r lie blaenaf, a'r wobr, yn ddiau yn mynd i "Gwyliwr y Glannau." Llythyr Mab yn y Ffosydd at ei Rieni. Synnais na ddaethai rhagor i mewn i'r gystadleuaeth hon, gyda thestyn mor bwrpasol ac amserol. Ni ddaeth ond un i mewn, yn dwyn yr enw 'Pte. F. Smith.' Hawdd deall mai o'r wlad hon, ac nid o Ffraic, y daeth y llythyr hwn, er fod ei gyfeiriad yn naturiol iawn o Ffrainc. Yn un peth, o'r braidd y cawsai bach- gen yn y Ffosydd amser na hwyl i ys- grifennu saith tudalen o foolscap hyd yn oed at ei rieni. Hefyd ni thrafferthai roddi'r enwau Cymraeg ar bopeth, a gwneud rhai o'i frawddegau'n anys- twyth ac aneglur wrth hynny; ac yn sicr ni roddai ofid diangen i'w dad a'i fam wrth son am y diangfaau rhyfedd a gawsai ar y maes, gan ddiweddu'i lythyr yn swn German Shell," heb rhoi gwy- bod i'w rieni beth a fu diwedd ergyd y tafod tanllyd hwnnw. Eithr ni ddaeth ond eiddo Pte. F. Smith i law, ac er y gellid heb ymdrech fawr gipio'r wobr oddiarno, y mae ei ymdrech yn haeddu'r wobr. Traethawd Y Cristion fel Dinesydd." (6 tudalen foolscap.) Daeth tri i mewn i'r gystadleuaeth hon. Dengys y tri ol darllen a diwyll- iant, a dywedant lawer o bethau da, ac eto, fel y cawn ddangos, nid ydym yn llwyr foddhaus ar y naill na'r Hall o'r tri. Sylwn arnynt yn y drefn a ganlyn: 1. Egwan.—Rhydd hwn gyflead lied gywir ar fater y testyn. Dechreua'n dda. Ond nid yw'n ddigon meistr ar iaith, nac ar gynllun, ac o bosibl hefyd nid yw wedi ymgydnabyddu digon a maes y testyn. Ceir amryw frychau ar ei sillebu, ei briod-ddull yn bwl a hen- ffasiwn, a'i frawddegau'n hir a chwm- pasog, ac heb fod ddigon i'r pwynt mewn mannau. Ymdry ormod yn yr un- fan, fel y tuedda at gymryd golwg rhy gyfyng ar ei fater. Y mae ei iaith a'i syniad fel ei enw'n "Egwan," a phrin o newydd-deb mewn ambell fan. 2. Lleygwr.—Gwnaeth yr awdur hwn gamsynied dybryd, i'n barn ni, wrth roi inni Ragair, ar dudalen gyntaf ei gopi. Nid oedd angen yr un, ac y mae hwn yn sawru'n drwm o sebon a hunan-ddyrch- afiad. Nid yw'r awdwr yn sicr o gwbl ar ei Gymraeg. Rhydd inni'r argraff ei fod yn meddwl yn Saesneg, er yn ceisio ysgrifennu'n Gymraeg, a cheir llediaith ar ei bin yn fynych. Ceir ol darllen a meddwl ar ei draethawd, ond nid yw'r weledigaeth yn glir. Rhed yn ormodol at bethau o gwmpas y testyn, ac nid at y Cristion fel Dinesydd. Y mae ganddo bum' pennawd mewn traethawd byr fel hwn, ac nid yw'r penawdau'n ddigon penodol, bob un, nac i'r pwynt. 3. Blaen y Wawr.—Y mae hwn yn ys- grifennydd cryf, goleu, a thanbaid. Mor danbaid ac ysgubol yw rhan gyntaf ei draethawd, nes yw bron a'n cario i ffwrdd gydag ef, heb aros i feirniadu nac arall. Ond wedi pwyllo dipyn, gwelir mai araith hyawdl sydd ganddo yn y dechreu, ar yr "Arwedd ddinesig a chymdeithasol i fywyd y Cristion ym mrwydra'r oesoedd," ac nid traethawd ar y Cristion fel Dinesydd," h.y., nid yw'r cyflead yn hollol gywir a thestynol. Pan ddaw at ail ran y Bennod I., lie y traetha ar nodweddion y Cristion fel Dinesydd, nid yw'r cyflead mor hapus drachefn. Er engraifft, dywed fraw- ddeg fel hyn, ar ddechreu y rhan honno Cyfeiriwn at rai o'r nodwedd- ion ddylasai eu meddu, etc." Rhydd y gair ddylasai wedd anghywir ar fater y bennod. Os y Cristion fel Dinesydd yw'r testyn—y mae'r nodweddion ddy- lasai fod ganddo, yn ol yr awdur, yn rhwym o fod yn ei feddiant yn rhinwedd ei gymeriad. Y mae cyflead yr ail ran o'r Bennod 1. felly'n tynnu odeliwrth wedd benodol (affirmative), danllyd, angerddol, y rhan gyntaf. Rhoddir hefyd, o bosibl, fwy o bwyslais mewn mannau, nag a ofyn y testyn, ar ran yr eglwys ym mrwydrau cymdeithas. Gwir- yw'r hyn a ddywed yr awdur, ond ni orffwys y gwir hwn yn esmwyth ar ysgwyddau'r testyn. Yna pan ddaw at Ail Bennod ei draethawd, nid oes gan- ddo ofod namyn i wneud ychydig nodiad- au brysiog, anghyflawn. Gwallus yw ei ddefnydd o'r gair "dinesig" mewn amryw fannau. Lie y dylasai ddefn- yddio'r enw Dinesydd," defnyddia'r ansoddair dinesig bron bob tro. Sylwyd ar ddiffygion y tri gan mwyaf. Nid yw'r un ohonynt yn taro'r hoel mor gywir ac y dymunem, eithr ceir mwy o angerdd, a phraffter, mwy o graffter, ac ol gwybodaeth, iaith rymusach, goeth- ach, mwy Cymreig, er nad yn lan bob amser, gan Blaen y Wawr na'r ddau arall. Pe newidid cyflead yr ail ran o'r Bennod I., o'r modd ymresymiadol (ar- gumentative) i'r modd penodol (affirm- ative) a phe ceid peroration y rhan gyn- taf yn ddiweddglo i'r traethawd buas- ai'n llawer gwell. Eithr fel y mae nid oes gennyf amheuaeth nad "Blaen y Wawr" yw'r goreu, ac y mae yn deilwng o'r wobr. EISTEDDFOD SALEM, BEDLINOG. I Beirniadaeth yr Englyn, Morwr." Dosbarth III. Iago.-I'r Ysgol Farddol, heb golli amser. Dosbarth II. Wil o'r Felin.—Cywir, oddigerth y cyrch. Geiriau diystyr yw "mirain" a'i "god yn gain" am forwr. Dosbarth I. I Mab y Dymhestl.—Rhagorol. Swn y Llanw.—Cywrain a chryf. Ar y Traeth.—" Arwr dewr dyfnder- au'r donn sydd linell bwrpasol. Sibrwd Awel.—Cywrain. Gwydion.—Diwedda yn wannach nag y dechreua. Dihafal.-Llinell dda i ddiweddu yw Hyder a grym daear gron." Jac Tar.—Da iawn. Morwr Briglwyd.—Priodol yw llad- merydd y weilgi," ac nid oes linell fwy cyfaddas yn y lot nag Ar heolydd yr heli, Ewyn-y-Don.—Da yw "ewyn arian, a nodweddiadol yw y ddwy linnell olaL Sion-y-Tloty.—"Morwr a-I Long," neu. y "Llongwr" fuasai oreu fel pennawd. Edern.—Gall y llinell gyntaf fod yn ddigon gwreiddiol, ond gwelsom un debig o'r blaen. Gormod yw rhoi han- ner yr englyn i fedd y morwr, er mor dlws yw'r llinell olaf A'r don drist ar daen drosto." Morgan Mud.—Dyma fe-y mwyaf gwastad, cyflawn, a didramgwydd. I ddechreu ceir darlun byw o'r gwrthrych yn cychwyn i'w fordaith yna ei "amcan. a'i neges yn dilyn, ei wroldeb; ac awgrym cynnil ar y diwedd y gall maes ei lafur fod yn faes ei fedd. Credaf y bydd y 13 arall yn unfryd am ei goroni pan welant yr englyn:- Gyda'i long y gedy'i wlad,—a'i dra- serch Ar drysor i'w famwlad; Her i for wyro'i fwriad, Myn ei fri ym man ei frad." Gwobrwyer Morgan Mud." AP HEFIN.
Advertising
BLE I GAEL DILLAD YU ABERDAR? GYDA I DAN JONESFAB,, 16 CARDIFF STREET. Y Defnyddiau Goreu, y Ffit Goreu, a'r- Telerau Goreu. NI CHEDWIR BRETHYN GWAKL VN Y SIOP.
[No title]
Ysgrifenna Mr. John Galsworthy, Manaton, Devon, yn cymell cyfran- iadau i'r "National Committee for Relief in Belgium" er mwyn achub plant Belgium rhag newynnu. Aw- grymir i blant y wlad hon gynnal chwareuon a difyrion a chyngherddau a rhoddi'r elw tuag at yr achos hwn. Y mae trefniant perffaith ar waith i gyfarfod a'r angen, ac nad oes- dim yn brin ond arian.