Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Shop Dafydd y Crydd.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Shop Dafydd y Crydd. LLYTHYR CAEAD I NANSEN. Fe glwas lawar gwaith taw'r peth nesa i dransporteshon ffor leiff yw i ddyn dynnu gwraig yn'i ben, ag fe ddylwn i fod wedi inshiwro mywyd cyn dod 0 fewn can milltir i'ch ty chi. Rwy'n lwcus mod i wedi colli ngwallt ys blynydila, oblecid hen arfar men- ywod mas o'u cof yw scrapin a thynnu gwallt. Tro shimpil yndo' chi, madam, odd pitsho miwn i fi am bechota Morgan y Teilwr a Eryr Pen Pych. Nhw, ag nid fi, sy'n atepol am y ddwy falantein sy wedi gneud i chi sharpo'ch gwinadd, a thorri'r brwsh parth wrth gynnyg am ben un o'm hoetran i. Ma'n depig nag i chi'n gweld dim bai ar Dafydd chi am goeddi petha mor scaprwth am y pwr Tramp. Ond dyna, ys gwetws Jones- y Ffeirad, "Ma cariad yn cuddio lot o bechota." Fe ddylach chi ddysgu mannars i Dafydd cyn cynnyg yr articls hynny i ddynon erill. A pheth dicon di fannars yw gweld gwraig yn gwishgo britshis'i gwr. Pan own i yn y bAd ar y Cynel gyta Dafydd a'r boys erill, fu dim son am "Pom Pom a'i dorpedo i'r Tramp, onte fe fysa sybmarin y Triptiz hwnnw wedi shinco'r bad a'r whwl gang odd yndo, ag fe fysa chitha erbyn hyn yn witw dicon di galon. Ond wedi dod a'r bad i'r harbwr, a rhoi'r ffram ceffyl yn y stapal, dyna'r "Pom yn dod i'r golwg ag yn cynnyg am fywyd y Tramp-y clymhercyn mwya di- niwad a fu ar yr hewl ariod. Os gall wch chi, madam, odda petha fel hyn, fe ddylach symud i fyw i Germani. R'ych chi'n gwed fod gwyr y North yn leico pictwr y "Pom." Dw i'n ama dim. Rwy wedi arfer cretu popath ma menywod yn wed. Ond falla synnach chi glwad fod dynon o'r un wlad yn camol pictwrs y Teilwr a'r Eryr bed. Dyma lythyr geso i o Gynarfon, nr. Bangor, bythewnos yn ol, wedi cal'i ddy recto fel hyn:- Dafydd y Crydd, Somewhere in South Wales. Syr,—Goddefwch i wr o Wynedd, sy'n byw yng ngolwg yr Eryri Wen, i ddiolch i chwi am englynion peni- gamp eich cyfeillion o blaid y Tramp. Nis gwn pwy ydach chi, na phwy yw'r Teiliwr a'r Eryr, ond amlwg ydy' fod y Teiliwr yn ddyn cyfa, nid y nawfed ran o hono, a'r Eryr o gylfin a chrafangau dihafal. Hei lwc i ni gael ychwaneg o betha fel hyn efo nhw. Hwyrach nad gormod gennych fydd cyflwyno'r cais hwn iddynt O1 ranbarth Gwyn- edd. -Arfonwy. Rwy wedi dangos y llythyr i'r boys, ag ma nhw wedi addo catw'u telyna mwn trim. Gwell i chi, madam, aros yn y gecin, a chlo ar y drws. Dyna'r lie saffa i rw syffrajets fel chi. R'ych chi'n son am "G61 Tar. Wn i ddim am hwnnw* Dw i d'dim yn delo mwn petha o'r short. Cwyr crydd sy gen i, ag ma hwnnw'n beth dicon iach, ag yn rhoi shein ar bopath. Fe welas "Col Tar S6p" mwn llythrenna mawr ar y wal yn Steshon Byrtawa, ond dw i'n hito dim am sepon du. "Sun- light ma Gwen yn iwso. Mae mwy o ol "Sun" nag o "Tar" yn Shop y Crydd. I Gobeitho, Nansen fach, nag o's dim yn y Llythyr Caead hwn fydd yn gneud i chi dorri 'r llestri, na mynd i ¡ ben y drws i weiddi "C61 Tàr" ar wraig y ty nesa. Dw i ddim wedi arfar ffreio a menywod, ag fe glwas nag o s un gwr ne was yto wedi cal v gair dywetha mwn ffra shwd hynny Gan taw Llythyr Caead yw hwn, dos neb ond chi, madam, i wpod beth sy yndo. DAFYDD Y CRYDD. »

O'r Ffrynt.\

I-Brynaman.-

Cymanfa Bedyddwyr Dwyrain…

Briwsion o'r Undeb ym !Mrynaman.…