Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
"Y DARIAN" FIEL CVFRWNG I HYSBYSU EISTEDDFODAU. YR ydym wedi derbyn Llythyrau yn ddiweddar odt^Ewrth Ysgrifen" Mdion Eisteddfodau a roddasent I ■ysbysiad yn y Darian eleni, am y iro cyntaf, yn tystio eu bod yn synnu y gwahaniaeth a wnaeth yr Hysbys- ït.d. ym mhoblogrwydd a llwyddiant eu Weisteddfodau.
CWRS Y RHYFEL. j
CWRS Y RHYFEL. j I. GAN BERIAH. DYDD BARN GERMANI. YR AWR I DARO WEDI DOD. BRWYDRAU DIGYYFFELYB. ADRODDIAD SWYDDOGOL JELLICOE. CSPONIO PAHAM A PHA FODD. Pan yn ysgrifennu yr erthygl o flaen non nid oedd y frwydr fawr yn Ffrainc Wedi dechreu, ond yr arwyddion yn dangos fod hynny gerllaw. Dywedais fod popeth yn dangos fod Syr Douglas fiaig, Maeslywydd Prydain, naill ai ar ledr gwneud ymosodiad penderfynol ar Fyddin Germani, neu ynte ei fod am i'r Germaniaid gredu ei fod ar fedr gwneud. Trannoeth i'r dydd yr ysgrif- ennwyd hynny, dechreuodd yr ymosod- lad mawr yn Ffrainc. A hwnnw sy'n I "tynnu sylw y byd. Yr Awr i Daro Wedi Dod. Disgwyliodd Prydain yn hir, ac ar y lcyfall yn amyneddgar, am weled dech- reu'r ymosodiad mawr. Gwelwyd ei ,ddechreu dydd Sadwrn, Gorffennaf y laf. Disgwylir na welir mo'i ddiwedd ttes bo'r gelyn wedi ei Iwyr drechu. Gellir dweyd yn dra hyderus fod Dydd Barn Germani wedi gwawrio. Er hynny, dengys pob argoelion mai hirfaith a fydd cyn y Rwyddir i ddwyn y dyhirod annynol sy'n gyfrifol am y moroedd gwaed a gollwyd i dderbyn y gofep a haeddant. Araf a chafed fydd yr ymdrech yn er- byn. y jj, FfraL.c. Mae wedi cael 5r°s ddeunaw mis i ymbarotoi, i glodd- 10 pob math o bwll peryglus, i godi pob math o wrth-glawdd, i drefnu pob gwarchffos, i ddyfeisio pob cynllwyn a Kiileinwaith a all eu rhwystro i ymosod arno. Rhaid i ni felly wrth amynedd leto am dipyn cyn y gwelir y fath orchestwaith yn Ffrainc ag a welwyd yn •ttwsia. Esponiolr Sefyllfa yn Ffrainc. Lie y Brwydro. Fe gofir fod llinell y" fyddin yn ¡ Ffrainc yn rhedeg o lannau'r Sianel, ar draws congl o Belgium, ac ar ledgroes rainc heibio Verdun hyd yng nghyffin- ^au yr Yswisdir. Mewn cyffelybiaeth Mae fel pe yn rhedeg o Lerpwl i Gaer- ?y?, gan gyfrif Caerdydd fel Verdun, ,,I Lerpwl fel Ostend, ond fod y gwir ? ??' ar y Cyfandir yn fwy na dwy- y pellter o Lerpwl i Gaerdydd. Mae y can milltir cyntaf o'r llinell ?. gofal Byddin Prydain dan Syr ""Ouglas ??' Mae y gweddill o'r llifi efallai dri chan milltir, yngofal BYddin ?rainc, dan Joffre. Er mwyn hWYlustod milwrol rhennir Byddin p ain a Byddin Ffrainc yn nifer o FvH^^ln°ec^ By?d? Ffrainc yn niter o Pt??oedd, pob Byddin yn gyflawn y?- ei hun, ac 0 dan ei Maeslywydd ei ? ??' ?? ?? yn cydweithredu ac o da ??wchlywyddiaeth Haig a Joffre. eny ?efyd Fyddinoedd Germani. Mae "Du neu chwech o Fyddinoedd Ger- a-idd yn Ffrainc yn unig, a chynifer ? ?ynny drachefn o Fyddinoedd Ger- r,aa ? ?yneb y Rwsiaid.yn y dwyrain. Tra °? ? un o'r man fyddinoedd hyn (o ?? ? Selir cyfrif byddin sydd yn ilifo ei channoedd o filoedd o filwyr) yn .a laili. bylllol y naill ar y llall, mae holl Yddinoedd unrhyw wlad dan uwch-reol- 40-lh Prif Faeslywydd sydd yn trefnu Ylch Swasanaeth a gwaith pob un. 1\{ Yn ?? ??? mat Cymru yw Ffrainc. ?ae ??. y byddino yn rhedeg dy-- Wed r ? ?' ar hyd Dyffryn Clwyd Yd C P??en, ac oddiyno ymlaen dros y brvr,laU h7d Ddyffryn Tanat, ac yna Y b lai, ?? Ddyffryn Tanat, ac yna y lae  hyd glannau'r Tanat a'r Rafr? heibio'r Amwythig (Shrews- Lurv\ d ury), ?J??en hyd Gaerdydd: Mae? B an ? hYl hyd yr ?on Tanat yngofal byddin p ry^a™' ac oddiyno ymlaen yngofal T)ydd^n Ffrainc. Gwelir fod y rnaii 11p  ?ylltir Byddin Prydain a byddin Phalnc yn ffurfio congl ymron ? yssw ?' Ar y llinell o bob tu i'r g°ngl Kn ^n mae y Frwydr Fawr yn Ffr honno y ?ae y Frwydr Fawr yn fraillc, Wedi dechreu. Gwelir fod Pry- ?in ?? trwydro yn ymdaith o'r Gor- llewin tua'r dwyrain, a'r Ffrancod hwythau yn ymdaith o'r deheu tua'r gogledd. gwelir ymhellach fod yr ergyd mawr wedi ei daro gennym ni a Ffrainc yn y man lie mae ein Byddinoedd ni yn cydio a Byddinoedd Ffrainc, a hynny tua chanol llinell Byddinoedd Germani. Paham Fan Honno? Paham," gofynna'r darllenydd, y tarawyd yn y fan honno ? Onid gwell fuasai i Joffre ddanfon Byddin o'r fan honno i gynorthwyo Byddin ddewr Verdun sydd mewn enbydrwydd mawr, ac wedi bod yn ymladd yn ddibaid ddydd a nos bellach er's pum mis?" Gofyniad digon naturiol. Ond mae'r ateb iddo yn syml ac yn ddwbl, sef- 1. Mae gan Germani Fyddin gref ar hyd pob rhan o'r llinell. Pe y symudai Joffre Fyddin, "neu ran helaeth o Fyddin, o'r man He mae'r brwydro yn awr wedi dechreu, buasai o angen- rheidrwydd yn gwanhau ei linell ei hun yn y fan honno, ac yn rhoi cyfle i'r Ger- maniaid ymosod arno yno yn ei wendid. 2. Ni eill Germani ein gwrthsefyll ni a'r Ffrancod lie yr ydym yn awr yn ym- osod heb wanhau ei IlinelLhithau yn rhywle arall. Gwyddis ei bod eisoes wedi galw milwyr yn ol 0 Verdun, ac o'r pen arall (gogledd) y llinell, er mwyn ceisio ein gwrthsefyll ni yn y canol Felly, drwy daro ohonom yn y man y gwnaethom rhoddwyd help sylweddol i Fyddin y Ffrancod yn Verdun, drwy lei- hau grym y gelyn yno. Gwelwyd effeithiau hyn eisoes yn y ffaith fod y Ffrancod yr wythnos hon wedi adennill safleoedd pwysig ger Verdun oedd y Germaniaid wedi eu hennill dro yn ol. Mae yna baham arall dros daro lie y tarawyd. Gwyr Germani fod rhifedi Byddinoedd Prydain bellach yn ddigon i'n galluogi ni a'r Ffrancod i daro lie y n-iynnom. Yr Initiative-Beth Ydyw? Gair a welir byth a beunydd yn y papurau Seisnig ynglyn a'r rhyfel yw y gair Initiative." Nis gwn am un- rhyw un gair Cymraeg sydd yn cyfleu y syniad a roddir gan y gair yn ei ystyr milwrol. Dyrry Sylvan Evans fel cyf ystyrau Cymreig initiative—" dechreu- ad, cychwyniacl, cychwynfa, gallu i ddechreu." Ond nid oes yr un o hon- ynt yn cyfleu yn hollol y syniad priodol, er fod yr olaf "gallu i ddechreu" yn dod yn agos ato. Dichon y crea rhyw ddarlenydd o'r Darian air fo'n cyfleu'r syniad. Golyga" initiative" yn yr ys- tyr milwrol nid yn unig "y gallu i ddechreu," ond y gallu hefyd i orfodi'r gwrthwynebydd i wneud ewyllys ei ym- osodydd. Tybir fod meddiant-o'r ini- tiative yn rhoi mantais nodedig i'w berchennog. Gadewch inni egluro drwy engraifft. Pan ymosododd Germani ar Verdun gorfodwyd y Ffrancod gan Germani i ohirio ymosodiad oedd J offre eisoes ar fedr ei wneud ar y Germaniaid, Caf- odd Germani felly yr "initiative" am y tro, drwy ei bod "yn gallu dechreu" ymosod ei hun, ac yn gallu gorfodi'r Ffrancod i wneud rhywbeth croes i'w dymuniad. Drwy yr ymosodiad mawr yn awr ar lannau yr Afon Somme tua chanol llin- ell y byddino yn Ffrainc, mae Haig a Joffre wedi ennill yr initiative yn ol i'w dwylaw eu hunain drachefn. Maent hwy "yn gallu dechreu" ymosod lie y mynnont hwy, ac yn gallu gorfodi y Germaniaid i frwydro le na fynnent o honynt eu hunain wneud. Mwy na hyn, gorfodwyd hwynt, fel y danghoswyd, i alw dynion yn ol o Ver- dun yn groes i'w hewyllys. Mwy na hyn eto, gan na wyr y gelyn heddyw pa le y tarawn yfory, ac y gwyr y gallw'n daro yfory pa le bynnag y mynnwn ni, ni feiddia, efe wanhau yn ormodol ei linell mewn unrhyw ran arall o'r maes rhag taro o honom ni ar ei wendid yno. Mae yr Initiative" felly yn ein dwylaw ni a'r Ffrancod. Mae yr Initiative" ymhellach; mewn cyffelyb fodd yn nwylaw y Rws- iaid yn y dwyrain. Maent hwythau yn gallu dechreu taro lie y mynnant, ac yn gallu gorfodi y Germaniaid i wneud yr hyn na ewyllysiant, ao i beidio gwneud yr hyn a ewyllysiant—a dyna hanfod Initiative mewn rhyfel. Sylwer ynte yn awr pa fodd y mae yr "Initiative" hwn eisoes yn dylanwadu ar Gwrs y Rhyfel:— I 1. Mae wedi gorfodi y Germaniaid i alw dynion yn ol o Verdun lie yr oedd eu heisiau arnynt. Drwy hyn gallu- ogir y Ffrancod i adennill tir a gollwyd ganddynt dro yn ol yno. 2. Mae wedi rhwystro'r Germaniaid i symud llawer o'u milwyr o rannau eraill o'r llinell yn Ffrainc, gan eu gor- fodi i'w cadw lie y maent rhag ofn yr ymosodir arnynt yno eto. 3. Mae wedi rhwystro'r Germaniaid i ddanfon help o Ffrainc i Fyddin Hin- denburg yn erbyn Rwsia. 4. Mae meddiant o'r "Initiative." gan Rwsia wedi rhwystro'r Caisar i ddanfon milwyr o gyffiniau Rwsia yn erbyn Prydain yn Ffrainc. 5. Mae wedi cadw'r Germaniaid mewn amheuaeth ymha le y tarewir yr ergyd nesaf yn Ffrainc ac yn Rwsia, gan ei gwneud felly yn beryglus i'r Caiser i symud llawer o'i filwyr o un- rhyw le i le arall. 6. Gorfodir y Caiser felly i alw i'r maes fel adgyfnerthion felly i'r naill neu'r llall o'i Fyddinoedd, bob milwr a ddichon fod ganddo wedi ei gadw er- byn y dydd drwg. Pa Fodd y Brwydrwyd. I Pan edrychwn ar y modd y brwydr- wyd yn Ffrainc ac yn Rwsia, tarewir ni gan y gwahaniaeth dirfawr rhwng y dull a fabwysiadwyd yn y ddau le. Ac mae y gwahaniaeth hwn mor arwyddocaol fel y geilw am sylw arbennig. Nodwedd amlwg y brwydro yn Frainc yw Gwario Shels, ond Arbed Dynion. Buwyd yn tanbelennu holl linell Ger- mani am gan militir ddydd a nos am wythnos cyn dechreu yr ymosod gan y gwyr traed. Yna, a chyn galw ar y Gwyr Traed i ymosod, tanbelenwyd drachefn yn fanylach a ffyrnicach linell 30 milltir o hyd yn nghanol llinell Ger- mani, ond ar y pen deheuol i linell Prydain. Ni bu er pan sylfaenwyd y ddaear ddim tebyg y fath danbelennu a ffrwydriadau ag a welwyd ar y 30 mill- tir hyn bore Sadwrn, Gorffennaf y laf. Dywed carcharorion Germanaidd fod swyddogion ym Myddin Germani wedi cyfrif fod Naw Cant 0 Shels Bob Munud yn syrthio ar linell Byddin Germani y bore hwnnw! Yr oedd ffrwydriadau y rhai hyn yn crynu y ddaear! Ni wel- odd Sodom a Gomorrah gynt gyffelyb ddiliw tan ag a fwriwyd ar linell a gwer- syll Germani y dwthwn hwnnw Amcan hyn oedd ysgubo'r German- iaid o'u hamddiffynfeydd oddiar wyneb y ddaear dros ddarn penodedig o'r wlad, modd y gallai ein gwyr traed ni feddiannu'r lie gyda chyn lleied ag oedd modd o golledion. Arbedwyd felly yn ddiameu ddegau o filoedd o'n pobl ni rhag cael eu lladd neu eu clwyfo. Er hyn oil bu ein colledion ni yn drymion iawn. Eglurir paham isod. Dull tra gwahanol a fabwysiadwyd gan Rwsia. Er iddynt hwy wneud defnydd helaeth o'u cyflegrau, eto chwareuodd y milwr ran bwysicach na'r cyflegr yn yr ymosodiad. Nid yw bywyd milwr mor bwysig i RwSia ag ydyw i Ffrainc neu Germani. Mae holl filwyr Ffrainc a Germani bella.ch ar y maes. Nid felly Rwsia. Mae ad- noddau Rwsia mewn dynion yn ddihys- bydd. Dywedir fod Hanner Can Miliwn 0 Rwsiaid i'w cael wrth raid i'r Fyddin. Cynhyg- iodd Rwsia yrru chwe miliwn o'i dynion i Ffrainc os medrem ni eu cludo yno, ac yna eu harfogi. Prinder cyfarpar, ac nid prinder dynion sydd yn Rwsia. Gall hi, mewn ystyr milwrol, fforddio aberthu pum milwr am bob un y gall Germani fforddio ei golli, a bod yn well ei byd na Germani wedi hynny! Er fod adnoddau Prydain mewn dyn- ion ymheH tuhwnt 1 eiddo Germani, ceisir hyd y bo'n bosibl arbed bywydau drwy wario cyfarpar yn afradlon os bydd galw. O Gam i Gam. I 0 gam i gam yr a ein byddin ni ymlaen yn Ffrainc. Erbyn heno (nos Wener) mae yr ymosodiad wedi llacio, a'r gwyr traed yn gorffwys ar eu harfau. Yn y cyfamser dygir y magnelau mawr yn nes at linell y Germaniaid i'w hys- gubo a'u malu cyn gyrru'r gwyr traed eto yia7 eu blaen. Nid felly y gwnai y Rwsiaid-am y rheswm a nodwyd eis- oes. Beth Yw'r Llinell, a'r Tir Agored? Mae'r Ffrancod oedd yn cydymosod a ni o'r tu deheu i'r afon (fel yr eglurwyd uchod) wedi ennill llawer mwy o dir nag a enillwyd gennym ni. Eglurir isod paham. Maent wedi ennill Ilinell gJlkl- taf, ac ail linell amddiffynfeydd Byddin Germani; wedi dechreu ymosod ar y drydedd llinell, a'r tir agored tu hwnt yn dechreu dod i'r golwg. Pa beth, ynte, gofynna'r darllenydd, yw "llinell" amddift'ynnol 1 Pa sawl "llinell" y sydd? A beth yw'r gwahan- iaeth rhwng "llinell" a "thir agored ?" Syniad cyffredin gan lawer yw fod llinell ar ol llinell o warchffosydd gan y Germaniaid yn rhesi diderfyn bob cam o'r ffordd o ffrynt y brwydro hyd yr Afon Rhein ei hun, fel pan enillir gen- nym un rhes, neu ddwy, neu dair, neu adwsin, neu ugain, fod mwy drachefn y rhaid eu hennill. Syniad hollol gamarweiniol yw hyn. Mae, terfyn penodol i bob llinell am- ddiffynnol, a thu ol i'r olaf o'r rhesi gwarchffosydd yn y llinell olaf, mae tir neu wlad agored, hynny yw heb y cyfryw baratoadau. Felly, os gellir torri drwy holl linellau y gelyn i'r wlad agored, ymladda'r Fyddin fo'n ymosod a'r Fyddin fo'n amddiffyn, ar delerau cyfartal, heb ffos, na gwrthglawdd, nac amddiffynfa arall, i gynorthwyo'r naill neu i rwystro'r llall. Geill fod Ilinell amddiffynnol arall y tu ol yn rhywle a rydd gyfle i Fyddin fo'n encilio i sefyll drachefn i ymladd. Ond os geill yr ym- osodydd gyrraedd y wlad agored y tu ol i'r llinellau cyntaf cyn y geill y Fyddin fo'n amddiffyn gyrraedd y Ilin- ell newydd, bydd y Fyddin yr ymosodir arni mewn enbydrwydd, yn gymaint ag y geill yr ymosoddd ei tharo o'r tu cefn, neu ar ei hystlys, neu yn ei han- nhrefn. Dyna paham y ceisia Byddin fo'n gweled nad oes obaith iddi ddal yn hir yn erbyn yr ymosodiad, neu fod perigl y geill y gelyn dorri trwy ei llin- ell hi a myned o'r tu ol iddi, yn gwneud eu goreu i encilio, neu dynnu yn ol tua r llinell newydd cyn yr elo yn rhy ddi- weddar arni. Dyna wnaeth Byddin Prydain dan Syr John French wrth gilio yn ol o Mons ym Medi, 1914; dyna wnaeth Byddin Rwsia dan yr Archdduc Niclas wrth gilio o Carpathia a War- saw llynedd. Fe gofia'r darllenydd am y colledion enfawr a achoswyd wrth gilio yn ol. Dyna'r perigl sydd yn aros Byddin Germani pan ddechreua hithau gilio. Golyga llinell amddiffynol bob rhyw fath ar rwystr yn ffordd yr ymosodydd —gwrthgloddiau, rhwydwaith o wifrau pigog, a rhesi o warchffosydd. Geill fod dwy neu dair neu ychwaneg o warchffosydd y naill tu ol i'r Hall mewn un "llinell." Pan ymosododd y Rws- iaid o Lutsk ddechreu Mehefm, caw- sant ddwy res ar bymtheg o warch- ffosydd, y naill tu ol i'r llall, yn ffurfio un linell amddiffynnol. Chwe Llinell, Deunaw Ffos. Ymddengys fod gan Fyddin Prydain a Ffrainc chwe llinell gydag o bosibl dair neu ychwaneg o warch-ffosydd ymhob un, y rhaid torri drwyddynt cyn cyrraedd y tir agored o'r tu ol. Rhwng pob dwy linell ceir darn o dir agored. Ond plennir machine guns a chyflegrau cuddiedig gan y gelyn yn y fath fodd fel y medr ysgubo'r darn agored rhwng y linellau a than difaol ae ystormydd diddiwedd o fwledi. Arafwch Byddin Prydain. Cwyna anwybodusion yn y wlad hon I am arafwch Symudiad Byddin Prydain tuag ymlaen yn y Frwydr Fawr. Dy- wedir fod Rwgia wedi gwneud mwy mewn diwrnod nag a wnaeth Prydain mewn wythnos a bod y Ffrancod yn yr un frwydr a ninnau wedi ennill mwy na chymaint arall o dir. Mae natur y tir a'r amddiffynfeydd yn cyfrif llawer am y gwahaniaeth rhwng enillion y Prydeinwyr a'r Ffrancod. Mae y tir o flaen ein Byddin ni yn ucheldir tonnog, nid anhebig ei arwynebedd i'r wlad o gwmpas Llan- drindod, bryn a phant, a bryn a phant drachefn yn gyfres-a phob bryn a phob pant yn agored i tan y magnelau a'r machine guns cuddiedig. Yr oedd y tir o flaen y Ffrancod yn rhwyddach i_'w,l ennill, a'u taith o hynny yn gyflymach. Cynllwynion y Germaniaid. Mae cynllwynion ysbiwyr German- aidd yn ddifesur. Profwyd erbyn hyn fod y Germaniaid yn gwybod cyn i ni ddechreu ymosod ymha le a pha bryd yr ymosodem. Ymddengys na wydd- ent fod y Ffrancod hefyd ar ymosod. Tybient fod gan y Ffrancod fwy na llond eu dwylaw o waith yn Verdun. Y canlyniad oedd fod pob paratoad wedi ei wneud ymlaen llaw gan y Ger- maniaid i'n gwrthsefyll ni, tra yr oedd- ent wedi esgeuluso i raddau pell eu llinell amddiffynnol yn erbyn y Ffrancod. Yr oedd ganddynt fwy o ddynion, o fagnelau, o machine guns, a mwy o bopeth a allai eu cynorthwyo i'n gwrthsefyll ac i'n trechu ni nag oedd ganddynt yn erbyn y Ffrancod. Cafwyd eu bod wedi trefnu mewn ami i fan gell dan y ddaear dros ugain troedfedd o dan y wyneb, ac wedi eu toi a thrawstiau haearn a cement trwchus; yno y cedwid y machine guns mewn diogelwch pan y chwelid y gwarchffosydd cyffredin. Yr oedd gan- ddynt drefniant hefyd i godi'r gynnau marwol hyn i'r wyneb pan y mynnent eu defnyddio. Yn y gell y llechai'r gynnau a'u criwiau tra yr ysgubid y ddaear saith llath o uchder uwch eu pennau gan dan ein magnelau ni. Yno yr arhosent nes y peidiai y magnelau, ac hyd nes y clywent ein gwyr traed ni wedi rhuthro heibio tua'r ffos neu'r llinell tu ol i'r gynnau. Yna codent y gynnau i wyneb y ddaear, a thywalltent ffrydiau o fwledi at ein milwyr o'r tu ol iddynt. Rhaid oedd troi yn ol i ladd y seirff gwenwynig hyn cyn myned ymhell- ach ymlaen. A thaniai'r gynnau bychain ofnadwy hyn tra medrai aelod o'r criw sefyll ar ei draed. Cafwyd droion fod criw y gwn wedi eu cadwyno a chadwen haearn wrth y gwn fel na fedrent ffoi pe y dewisent wneud. Eglura hyn oil arafwch ein symud ymlaen, yn ogystal a'n colledion trym- ion. Cysur yw gwybod fod mwyafrif ein clwyfedigion wedi eu clwyfo yn ys- gafn. Dywedir fod cyfartaledd llawer mwy na'r cyffredin wedi eu clwyfo yn eu haelodau yn unig, ac yn debig o iach- au yn gyflym. Ail Ymosod! Bore Sadwrn daw'r newydd fod y Ffrancod a ninnau wedi ail ddechreu ymosod, a brwydro poeth yn mynd ymlaen a ninnau yn llwyddiannus. Ceisir rhoddi yr wythnos nesaf ddes- grifiad o'r sefyllfa yn ol cyffelybiaeth y llinell o Lerpwl i Gaerdydd a geir uchod. BHWydrau Mawr Rwsia. Tra'r ydym ni a'r Ffrancod yn dyrn- odio'r Germaniaid yn Ffrainc mae y Rwsiaid hwythau nid yn unig yn par- hau yr- ymosodiad a fu mor llwyddian- nus ym mis Mehefin, ond yn dechreu ymosodiadau newydd o Riga a Pinsk. Gellir cyfrif felly dri neu bedwar o ym- osodiadau gwahanol gan Rwsia ar linell Germani. Adroddiad Jellicoe. Mae y Lyngedd Jellicoe wedi cy- hoeddi ei adroddiad swyddogol ar Frwydr y Mor ddiwedd Mai. Cadarn- ha ymron bopeth a ddywedwyd ar y pryd yn yr erthyglau hyn am gwrs a chanlyniadau y frwydr fawr honno. Profa fod 21 o longau rhyfel Germani wedi eu colli yn ddios, a nifer heblaw hynny wedi cael cymaint niwed fel nad oedd yn ddichonadwy iddynt gyrraedd yn ol i'r porthladd. Nifer y llongau Prydeinig a gollwyd oedd 14.
DIWEDDARAF..
DIWEDDARAF.. Mae un o Sudd-longau Germani wedi llwyddo i groesi'r Werydd i Baltimore, a chanddo lwyth o ddefnydd lliwiau gwerthfawr. Roedd ei mordaith yn 4,100 o filltiroedd, a bu raid iddi i osgoi Llynges Prydain deithio tua 1,800 o honynt dan y dwfr. Bwriedir iddi ddychwelyd yn llwythog o "nickel" a rubber i Germani..
.IBWRDD Y GOL.
.I BWRDD Y GOL. Bu raid cadw'r beirniadaethau'r tro hwn, ond daw cyfran dda yn y nesaf.