Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
 "C- BEVAN & CO Ltd., Wa)es Largest Furnishers, "j ,'¡" And Pianoforte Merchants, Cardiff, Pontypridd, Swansea, &c. A visit to our Show-rooms will show you the kind of Furniture you require —tastefully designed, soundly constructed of the best materials, and carefully finished-Furniture that will last a lifetime and be a source of pleasure all the time. Our huge stock caters for all tastes and all pockets, and is always open for free inspection. You are cordially invited to pay us a visit, and we shall be pleased to give advice and quotations if desired, to help you in furnishing your home in the best, most comfortable, and at the same time, most economical manner. Delivery free 200 miles from all Branches. Furniture FOR THE ¡I Million! Commodities of every kind have considerably in- creased in price but few things to a greater extent than all kinds of Furniture; in fact, some Furnish- ing requisites are practically unobtainable With the foresight resulting from their Sixty-five years' business career, and in confident anticipation of such advances, BEVAN AND COMPANY utilized their great Warehouses in connection with their numer- ous Branches by cramming them with Stock of every description at pre-war prices! The result is that they are now in the happy position of being able to offer these vast Stocks far below to-day's value!
I..Gwlad y Datguddiad.
I.. Gwlad y Datguddiad. GAN EFELL TREVOR, TRE- FORUS. VII.—JERUSALEM. Ebrill iafed.—Yn y prynhawn aethom mewn cerbyd i Fynydd yr Olewydd, heibio i hen ffordd arw, gerigog Damascus. Tebig mai ar hyd hon yr aeth Saul pan oedd ganddo lythyrau wedi eu harwyddo gan yr Archoffeiriad, "Fel os'cai efe neb o'r ffordd hon o ddisgyblion Crist, na gwyr, na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwynt yn rhwym i Jerusalem." Yr oeddem yn gadael y ddinas ar y dde, ac yn esgyn i'r mynydd. Tebig ein bod yn teithio) o gyfeiriad Gethsemane, yn agos yr un llwybr a'r Brenin Dafydd pan yn ffoi o Jeru- salem yn adeg gwrthryfel ei fab, Absolom. Wedi cyrraedd y rhan honno o'r mynydd, a adnabyddir wrth yr enw Mynydd Scopus, yr oedd yr olygfa ar Jerusalem yn ardderchog-y ddinas megis ar binacl ei gogoniant. Ai tybed, meddwn, mai oddeutu y fan hon y safai yr Iesu tyner i edrych ar y ddinas yn ei mawredd a'i gwychder cyntefig pan wylodd drosti wrth feddwl am yr holl waed cyfiawn a dywalltesid yno, ac am ei waed santaidd ei hun oedd i'w dywallt ar Golgotha. Dychmygem weld yr Iesu yn dod i fyny yn orfoleddus o gyfeiriad Bethphage a Bethania ar gefn ebol asyn, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed, ac mor llawen ei ysbryd a phe buasai ar gefn un o feirch goreu y wlad, a llawer yn taenu eu dillad ar hyd y ffordd' yn lawr-len o dan draed yr ebol am y tro cyntaf erioed, o barch i'r Hwn oedd yn eistedd arno. A rhai yn myned yn orymdaith o'i flaen ac ereill ar ei ol yn gwaeddi, "Hosanna, Bendigedig fyddo yr Hwn sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd; Hosanna yn y Goruchaf. Yr oedd yr Arglwydd wedi gwa- ihardd meirch yn Israel, ac feallai mai dyna sydd i gyfrif fod Brenin Sion ar gefn ebol asyn yn yr orymdaith dywysogaidd hon. Pan ofynnodd y diweddai- loan Jones i blant bach tloty Rhuthyn paham y marchogai yr Iesu ar asyn yn hytrach nag ar gefn un o "thoroughbreds y wlad, ateb I un geneth fach oedd, "Mai er mwyn i blant bach yr 'Union' allu gafael yn ei warthole fo. Gwelwn Ef yn dringo llechwedd Moriah i gyfeiriad y porth aur, aJr deml, a baner dlos yn blaenori yr orymdaith gyda'r geiriau, "Bydd lawer iawn, ti ferch Sion, a chrechwena, ha ferch Jeru- salem. Wele, dy Frenin yn dyfod atat. Cyfiawn ac achubydd yw Efe. Y mae Efe yn llariaidd, ac, yn march- ogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen." o danom yr oedd Gardd Geth- semane a Dyffryn Jehosaphat, a gwely troellog afon Cedron, fel Ilinell arian yn rhedeg drwy ei ganol. Yn yr ochr orllewinol i'r ddinas oedd Twr Dafydd yn sefyll yn syth a chadarn; dros ei ysgwyddau llydain y gwelem ddyffryn Meibion Hirom, neu Gehenah, a'r ffordd i Bethlehem. Ychydig yn nes i'r gogledd gwelem hen fangre ty Obed Edom, lie bu yr arch yn aros am dri mis, ar y ffordd o Ciriath Jearim, wedi taro Uzzah yn farw am gyffwrdd a hi, pan yr ofnodd Dafydd fynd a hi ymhellach. A'r Arglwydd a fendithiodd dy Obed- Edom, a'r oil a feddai, ac y mae ei enw fyth mewn coffadwriaeth. Yn sefyll yn dal-gryf yn y pellter o bedair milltir o'r ddinas, yr oedd Mynydd Mispah, lie y bernir i Samuel eaeinio Saul yn frenin ar Israel pan oedd yn chwilio am asynod ei dad. Wrth droi ein golygon ymhellach i'r gogledd gwelem hen ddinas Nob, i'r hon y symudwyd y babell, tra yr oedd yr arch yn Ciriath-Jearim. Yma y cafodd Dafydd fara, a chleddyf Goliath gan Ahimelech, yr hyn fu yn achos angen iddo ef, a'r offeiriaid oedd yno—lladdwyd hwy gan y dyhiryn Doeg yr Edomiad ar orchymyn Saul ddialgar-pump a phedwar ugain o wyr yn dwyn ephod lian. Beeroth.—Un o ddinasoedd y Gibeoniaid, a roddwyd i lwyth Ben- jamin. Dyma fangre genedigot Rechab a Baanah, y ddau ddyhiryn a laddasant mewn gwaed oer Isboseth, mab Saul, ac a grogwyd wedi hynny gan Dafydd am y weithred anfad uwch ben y llyn yn Hebron. Dyma'r pentref hefyd y dywed traddodiad i Joseff a Mair weld eisieu eu bachgen Iesu ar eu dychweliad o'r wyl yn Jerusalem. Mae yn sefyll tua saith milltir a hanner o'r ddinas santaidd. O'r fan yma y cawsom yr olwg olaf arni pan yn gadael ei thiriogaeth am Sichem. Ar y pwynt ^ithal yr oedd Bethel, tuag wyth milltir i'r gogledd o'r ddinas santaidd. Yma y treuliodd Jacob y noswaith fythgofiadwy honno ar y ffordd i Padan-Aram, pan or- weddodd ei ben ar obennydd carreg, ac y cafodd y weledigaeth o "ysgol yn sefyll ar y ddaear, a'i phen yn cyrhaeddid i'r nefoedd, ac angelion Duw yn dringo, ac yn disgyn ar, hyd- ddi," ynghyd ag addewid y digel- wyddog lor o'i lwyddiant a'i diogel- wch ar hyd y ffordd. Parodd hyn iddo newid enw y lie o Luz i Bethel, ty Dduw. Dduw. (I barhau.)
■ > mi n iiiMa—■——— Beirniadaethau.…
■ mi n iiiMa—■——— Beirniadaethau. -11 EISTEDDFOD NEUADD x GYHOEDDUS PONTARDAWE. GAN PENNAR. (Par had.)* HYPPYNT HIR-"ARWRESAU MAES Y GWAED." Dau ymgeisydd sydd ar y testyn a'r mesur diddorol hwn. Y mae "hyppynt byr ac y mae "hyppynt hir." Yr olaf a ddisgwvlid yma, eithr ar y cyntaf y canodd "Gerddan." Llinellau cywir, ac ambell un yn dlos, ond nid oes yma fawr gafael ar ddim. Digon prin y cyfle ar bedwar pennill o "hyppynt hir" i wneuthur dim effeithiol ar y testyn hwn, eithr llai fyth y cyfle gyda'r "hyppynt byr"; ac ar hwn y canodd "Gerddan." "Y Groes GocH." Ped war pennill o "hyppynt hir" geir gan hwn, yn ol cais y Rhaglen; ac y maent yn bedwar pennill digon tlws; ac yn deilwng o'r wobr" CYWYDD —HUNAN-ABERTH. Tri Chywydd dderbyniwyd. Da fuasai pe na roddasai'r Pwyllgor destyn y canwyd cymaint arno, a thestyn a fu'n faes ymdreCh genedl- aethol, cyn hyn,—i ganu arno yn yr eisteddfod hon. Testyn hyfryd yw er hynny; er na chanwyd yn wych arno'r tro hwn. 1 "Gostyngedig. — Y mae ei ganghanedd yn henaidd, ac yn dwyn olion ymdrech lied boenus. Y mae ynddo rai gwallau o ran cynghanedd ac o ran iaith. Benywaidd yw "rhinwedd," ac nid gwrywaidd. "Rhannu'i da" fyddai gywir, felly. "Cusan ddylid ys- grifennu, ac nid "cus a "melys," nid "melus. Gwall cynghanedd yw- "Fel yr awel fwyn a rhydd." Ac y mae- "A sieryd yn siriol yn rhy fer o sill. Y mae cynghanedd yn golygu cymaint iddo nes y bo'n syrthio yn ol ar eiriau anghynefin iawn. Nid yw'n canu'n eglur chwaith. "Dygau." Cywydd ag ami i linell dlos ynddo, ond yn anghyfartal o ran cynghanedd. Ymdrechodd yr awdur gyffwrdd yn ami ochrog mewn cywydd byr fel hwn, a da hynny, eithr y mae yn rhoi argraff f An, doredig, oherwydd hyn. Y mae ei gynghanedd a'i' eiriad yn hen ar ambell dro, megis "01 ei daith hyd anial dir." "A rhin y Gair yn ei gdl." Nid yn ei "g61 y caria'r "Cenhad- wr" y "Gair"! -Nid cywir o ran meddwl yw:- "I wybod hunan-aberth." I "wybod iaith, neu ffaith, neu ffordd, ond i adnabod egwyddor Gwallus o ran cynghanedd yw — "Dwy hadling yn cyd odli," canys "hatling yw'r gair, ac nid "hadling." Eto:- "Hyd diroedd anhawsterau," Cyfyd bri'r hen gewri gynt." Iaith ddiffygiol yw :— "Ymholer rhif temlau'r IÔh.;I "Temlau 16n a ddylai ysgrifennli, a "holer," nid "ymholer "-holl huftan yw "ymholer." Tybiwn y gallai'r bardd hwn ganu'n well. "Glyn Adfyd. "—Dyma'r cywydd goreu, eithr o ryw ychydig y dihang- odd rhag cael ei gyhoeddi yn annheil- wng o'r wobr, er yn oreu. Eithr am- fod y wobr yn fechan, gwobrwyer ef. Gall gynghaneddu'n gryf a glan, ond disgwyliem fwy hyd yn oed mewn cywydcf o ddeugain Ilinell. Efe yw'r gor eu, a rhodder iddo'r wobr. DARN ADRODDIADOL I RAI MEWN OED. Anos nag y tybir yw ysgrifennu Darn Adroddiadol a fyddo o werth yn y Gymraeg. Cyn ymroi i'r gorchwyl dylid cofio llwybrau y darnau adrodd- iadol a glywyd mor ami hyd lwyfannau eisteddfodau'n gwlad-eu llwybrau o ran mater, tymer, a dull. Tuedd ysgrifenwyr darnau adroddiadol Cym- raeg yw tybied fod yn rhaid wrth fater a dull cyffrous-mater a dull a fyddont yn effeithio ar deimlad, ac yn apelio at y dychymyg arwynebol. Oherwydd hyn cafwyd llawer gormod o ebychiadau wylofus, ac o ryfedd- nodau brawychus mewn adroddiadau Cymraeg. Tybiodd y Beirdd fod yn rhaid agor drws carchar, codi croc- bren, neu rywbeth tebyg mewn trefn i effeithio ar deimlad, a'r cwbl mor ffugiol, ac mor brin o addysg a gwers Oni ddaeth hi yn bryd inni gael darn- au chwaethus, anghyffrous, gyda gwers foesol dda ynddynt. Y mae tri o'r pedwar ymgeisiodd yn y gystad- leuaeth hon wedi colli golwg ar hyn, ac wedi mynd hyd yr hen lwybrau "un- real y daeth yn bryd i ni ymwrthod a hwy. Sylwn arnynt yn ol eu teil- yngdod. "Ieuan. "—Gall yr ymgeisydd hwn ddywedyd ei feddwl gyda llawer o drefn, ac y mae geiriau yn ei wasan- aethu'n rhwydd. Rhy foddlon ar y gair a ddel ydyw ef, yn arbennig at ffurfio odlau. Y mae ambell linell, o herwydd hyn, yn diweddu'n ddinerth, megis :—"I ddwyn y terfysgydd ger bron yn y fan," a'r olaf olygfa. Dylai ddyblu'r cydseiniaid yn y geiriau "Meddiennid, "torri. "U" nid "y" a ddylai ddefnyddio yn y gair "crud." Nid priodol yw son am droi "llys barn yn fwyn drugar- eddfa." Eithr prif ddiffyg y darn hwn yw ei fater. Nid yw ei foesddysg yn dda a diogel. Bachgen wedi lladrata ,sydd yma, ac wedi ei ddwyn ger bron llys y wlad i'w gosbi. Pwy sydd yn y llys yn gwrando'r ddedfryd o "fis o garchar ond y fam; ac mae hi yn rhoi ffordd i'w theimladau, ac yn ym- bil dros y llys ar i'r barnwr ollwng ei mab yn rhydd, ei bod hi yn weddw, a'r mab wrth weled y cwpwrdd yn wâg wedi gildio i'r brofedigaeth o ladrata, ac mai nid "lleidr welai hi. Mae yr apel yn llwyddo: — "Gorchfygodd iaith calon ddysgeid- iaeth y doethion," ac mae'r mab yn cael ei ryddhau rhag blaen., Yn awr, y mae hyn yn annheb- ygol, ac yn groes i brofiad pobl mewn gwlad lie yr anrhydeddir cyfraith. Ofnwn na adawai darn fel hwn ddylan- wad da ar y neb a'i gwrandawai. Gwelsom ambell ddarn Cymraeg oedd ag anadl tebyg i'r darn hwn ynddo. Gwell ymwrthod A hyn. Rhaid cael seiliau moesol diamheuol i ddarn adroddiadol. "Glan Llwchwr. "Ac yr oedd hi yn nos yw testyn yr ymgeisydd hwn, ac y mae ei driniaeth o'r testyn yn henaidd ac aneffeithiot. Tra mynycha eiriau, megis "Gehenna" a "rhyfeddol, mae ti ymgais am effaith yn rhy amlwg, ac nid oes awyrgylch o gwbl i'r -darn; a diwedda'n dywyll fel y fagddu. Pa- ham nad elai'r bardd allan i'r "prif flyrdd a'r caeau gyda'i lygad yn ei ben i graffu ar fywyd dynion, a'u harferion, neu ar natur fythol newydd, a chanu o'r byd hwnnw, a dysgu, a diddori! "Rhosyn Bywyd." Marw dros ei wlad yw mater y bardd hwn, ac y mae yntau yn dilyn yr helwriaeth am effaith, ac mae'r cwbl mor Uawn o ymdrech. Y mae'n geirio'n ddiofal, ac nid yw yn gallu lliwio'n dda. Nid da yw "celfdir Belgium a "llofruddi- wr du a chan nad pa un ai "du" ai "wyn" oedd, nid "llofruddiwr mo: hono, eithr "llofrudd." Nid yw "deffroawl wawr," na "cryf Ben- dragon," na "cryfaf gewri" yn eirio da. Mae y darn yn diweddu yn gwbl dit-ff aith. "Erasmus. Dewisodd hwn destyn y gellid rhywbeth buddiol o hono- "Ufudd-dod." Gellid cael testyn mwy barddonol, yn ddigon hawdd, ac i wasanaeth adroddiadol, dichon y gallai yntau drin ei fater yn fwy barddonol. Pe gwrielai ddarlun, neu foeswers, byddai yn fwy cymer- adwy; ac yn fwy enillgar. Eto, triniai'i 'destyn Yin ddiymdnech, ys- grifenna'n lan a diffuant, a diwedda'n bur hapus. -Efe yw'r goreu o'r pedwar.
Matthewstown, Penrhiwi ceibr.
Matthewstown, Penrhiw- i ceibr. Bore Sabath, Awst 20fed, 1916, bu farw Gwyneth Gwyn Bowen, a hi ond deg mis oed, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd. Claddwyd ei gweddillion y dydd Iau canlynol yng Ngladdfa j Gyhoeddus Abercynon. Daeth nifer luosog ynghyd. Plentyn ydoedd Gwyneth Gwyn i Rachel Maud Bowen, merch i Mr. Christopher a Mrs. Ann Maria Bowen, y tad yn frawd i'r di- weddar Ben Bowen, y bardd enwog, a'r Parchn. D. Bowen (Myfyr Hefin), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Llan- elli, a T. Bowen, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanelli.
I, ==r====^^ .. I MACHLUDIAD…
==r====^^ MACHLUDIAD YR HAUL. I'w wely rhos, i lawr il-ar gaerau'r Gorwel, pan ol-dremia, Y tir a'r m6r borphora, I A hanner nef yn aur wna. CARN ELLIAN.
Advertising
Dywedwch wrth bawb "t mae DA ViES'S COUGH MIXTURE yn rhyddau Peswoh." ANWYD, PESWOH, INFLUENZA. -Mae rhai'n gyda ni bob amaer. Pan I hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio ddef oddi wrth Beswch, Bronchitis, Pu, Dolur Gwddf, Orygni, Caethdra, Diffyo Anadl. Y. mae yr hen Feddyginiaetk It Davin' Cough Mixture" etto ar ? ^felaen, ac yn esel ei gwerthfawrogi ya fwy nag erioed, bob amaer wrth law, yp felus, yn cynnheau y freat, ac yn rhydd- hau y phlegm. Bydd doae mewn pryd yn ddigon. 1/11 a 8/9 (postage, 3c.)— HUGH DA VIES, Chemist, MACHYN LLETH.
- ILlythyr at y Gol.
I Llythyr at y Gol. TRETHU ADNODDAU'R WLAD- WRIAETH. Mr. Gol.,—Os nad ydyw ym mryd y Weinyddiaeth i ,gyfnewid yr oed o 41 hyd 45, ynglyn a'r cyfryw a elwir i fyny i gyflawni gwasanaeth milwrol dros eu gwlad yn yr argyfwng ofna- dwy hwn- y mae byn yn rhesymol-y dylasai'r Senedd yn ddiymdroi wneud ymchwiliadau manwl ac ym- holiadau uniongyrchol ynghylch y rhai sydd o'r 41 i'r 50 a thros hynny yn meddu ar amser a gallu i gyflawni ryw orchwyl ynglyn a'r rhyfel bresennol, bydded ef ddistadl neu beidio.. Gwyddom am dyrfa fawr o bobl sydd i bob pwrpas ymarferol yn holl segur, heb ddim gan eu deg ewyn i wneud heblaw ysmygu a beirniadu gweithwyr sydd ar eu goreu yn cyflawnu eu dyledswyddau. Yn eu plith ceir amrywiaeth anorffen o bob math yn y byd o gymeriadau— o'r gwr goludog i lawr hyd y Lazarus tlotaf yn y tir, ond er hynny yn alluog i wneud rhywbeth i gyn- orthwyo'r Llywodraeth i sicrhau buddugoliaeth ar y gelyn. Ni ddylasai oed na chyfoeth, na safle, na dim luddias neb heddyw i wneud rhyw- beth dros ei wlad. Ceir llu wedi methu a dilyn eu galwedigaethau arferol fel cynt, ond medr y mwyafrif o honynt d'eithio milltiroedd yn ddydd- iol ar draed, a hynny i ddim un pwr- pas, rhagor na llofruddio amser a phorthi cywreinrwydd, a mwyniant diamcan. Y mae angen sefydlu Tribiwnal arall i alw ac i brofi'r segurwyr anystyriol hyn-nad ydynt yn gwneud dim ond bwyta ac yfed— heb fod werth eu halen i'r wladwr- iaeth. Y mae miloedd o ddynion o gwmpas 50 oed yng :N ghymru yn unig a allasent fod ddefnydd mawr, pe ceid deddf i'w nithio i'r perwyl hynny. Pa synnwyr yw fod rhyw labwst mawr cynhyrog o ddyn, oblegid ei fod yn byw ar ei aur a'i arian, ac wedi croesi ffin y deugain neu'r hanner cant oed, yn cael segura a gloddesta bob dydd o'i fywyd o fore hyd yr hwyr, a'n bechgyn annwyl hyd eu gyddfau, rai o honynt yng ngwaed y ffosydd a hynny dros y segurwyr di- daro hyn ? Gwell marw o newyn yn yr ymdrech o'i ddiwallu, a marw yng nghanol mellt y cadfaes, na marw mewn diogi a segurd'od, bywyd di- amcan, di-nod. Pa bryd y gwel y Prif-Weinidog, a llygad craff, treidd- gar y gwr o Lanystumdwy, lochesau'r trueiniaid cyffredin a phoblogaidd hyn, ac y cyflpgant hwy ar yr unfed- awr-ar-ddeg er ceiniog neu ragor y dydd i'r Armagedon hon. Nid y cwestiwn a fedr y bobl yma fyw yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol ar foddion eu cynhaliaeth ydyw, ond a ddylasai y Llywodraeth ganiatau iddynt fyw felly heb wneud rhywbeth bach fel mater o wasanaeth. I mi nid yw y segurddyn fymryn llai 0 bechadur oblegid ei fod yn medru cael ei fara heb weithio. Hefyd ni ddylasai cwmniau gael hawl i gyflogi neb er mwyn elw heddyw. Dylasai holl gynnyrch mas- nach a llafur gael ei ddefnyddio i sicr- hau trefn a heddwch yn Ewrop.- Ydwyf, etc., V rt,k';¡P.tN;t"af';t. GWELEDYDD. :.w,,
Advertising
BLE I GAEL DILLAD YO ABERDAR? GYDA DAN JONESFAS, ( 16 CARDIFF STREET. Y Defnyddiau Goreu, y Ffit.GoreUi •,r Tolerau Coreu. m CHEDWIR BRETHYN GWAVT- VW y Slop.