Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN Y PLANT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y PLANT. DAN OLYGIAETH MOELONA. "lasturton Avenue, Caerdydd. Wele ddarn 0 lythyr a anfonodd merch fechan Golygydd y "Darian" i'w thad o Sir Fon. Ai ni ellid cael rhagor o lythyrau tebig oddiivrth blant a fu ar eu gwyliau i'w rhoi yn Y golofn hon ? Aeth awdures y llythyr hwn yn ddiweddar yn llwyddiannus drwy arholiad y C. W. B. ?.y "senior certificate," a chafodd "distinction mewn Cymraeg, fel y gweddai i ferch Gol. y "Darian. lddorol hefyd yw gwybod mai rheol y Gol. er pan ddaeth y plant i allu ysgnfennu o gwbl yw y byddai pob cerdyn neu lythyr Saesneg a ys- gnfennent yn mynd i'r tan heb ei ddarllen, a'r canlyniad yw eu bod yn medru ysgrifennu Cymraeg yn bur ithrig er pan oeddent yn ieuainc lawn. Wele'r darnau o'r llythyr fel yr ysgrifenwyd hwynt:- Penparc, Llanfair, M.E. nnwyl Dada, — Cefais eich llythyr yn ddiogel, a diolch am dano. Yr oeddwn yn disgwyl gair oddi- wrthych. Ni raid i chwi ofni nad wyf yn hogen dda iawn £ oreu yn y wlad: Bum am drip, efo'r Band of Hope yn Beau- maris dydd Llun diweddaf. Yr oedd yn ddiwrrnod braf iawn, ac yr wyf yn siwr y buasech. chwi yn mwynhau eich hun efo ni. Buom drwy'r hen garchar sydd yno ac mewn cell dywell, dywell a phedwar drws wedi cau arfiom. Buom ar y 'treadmill' hefyd, ond daethom allan yn ddiogel. Nis gallwn lai na meddwl pan oeddwn yn y gell am ddesgrifiad Charles Reade o garcharorion mewn celloedd tebig i hon-eu meddyliau a'u tenmladau, a'r olwg oedd arnynt wedi iddynt ddyfod allan. Yr oedd y tywyllwch yn pwyso arnom, ac nid oedd swn i'w glywed. Nid oeddwn i'n ofni dim, ond bu rhai I bron a thorri allan i grio. Yr oedd bresych yn awr yn tyfu tros Feddau Carcharorion I a grogesid yno, ac nid oedd 61 bedd I i'w weled. Y mae 53 0 flynyddoedd er pan grogwyd yr olaf yma. Row- I lands oedd enw hwnnw, a gorfu iddynt dreio bedair gwaith cyn llwyddo i'w grogi ef. Ond feallai eich bod yn gwybod hyn oil yn well na fi. Aeth Jennie a finnau gyda'r stemar tach i Fangor am dro, a buom yn gweled y Cathedral, i fewn ac allan. Ni chawsom amser i fynd trwy hen gas tell B eaumaris Y mae Llongau Awyr yn pasio'n ami uwchben yma, ac y mae'n olygfa i'w gweled. Yr oedd German submarine' o gwmpas y dydd o'r blaen, ond ni fu'r awyr- longauyn hir nad oeddent wedi ei suddo. Os digwyddwch weled awyrlong yn pasio dros ben y Glais, dewch a'r 'spying-glass allan, efallai y gwelwch fi ynddi. dwyf etc., SOPHIA JONES. I "OANU A CHWYNO." I Hawdded ydyw canu Yn y gwanwyn ir, Pan fo'r byd yn glasu, Pan fo'r nef yn glir; Hawddach ydyw cwyno Yn yr hydref blin, Pan fo'r dail yn syrthio, Pan fo'r coed yn grin. Hawdded ydyw canu 0 dan hud y brig, Hawdded yw moliannu Yn swn cerddi'r wig Hawddach taro nodyn Tristwch ar y tant, Pan fo'r dail yn disgyn I feddrodau'r pant. Hawdded ydyw canu, .1 M6r o gan yw'r glyn Pan fo'r haf yn tlysu Gwedd y gwenith gwyn; Hawddach ydyw peidio Pan fo'r maes yn wyw, A phob angel ynddo Fel pe'n methu byw. Hawdded ydyw canu Pan mewn gardd heb fedd, Hawdded gorfoleddu Dan enfysau hedd; Hawddach fil yw cwyno Heddyw yn y nos Ar ystorm sy'n darnio Hedd y ddaear dlos. Byd y salm a'r dagrau Yw y byd erioed, Byd y galarnadau, Byd heb ddod i'w oed; Ond, mae dydd prydferthacH Yn ei aros ef, Dydd a'i gan yn Ilonnach, t Darn'o'ddydd y nef. Daw pob telyn adref Pan ddaw hedd yn ol, Cysgod tlws o'r Wiwnef Fydd pob maes a dol; Cariad ar bob gorsedd 0 dan las y nen, Emyn o orfoledd Ym mhob lluest wen. Dafen, Llanelli. PELYDROG.

Glais. I

Bwrdd y Gol. .I

[No title]

Advertising

Nodion o Rymni. I

Glyn Nedd. I I

Morfydd a'i Maes.I

ICWRS Y RHYFEL.