Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Colofn y Beirdd. I I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Colofn y Beirdd. Anfoned y beirdd eu cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. BELGIUM. Os llethodd gorthrymder ei hysbryd Nes lladdwyd pob gobaith yn llwyr, A llymder tymhestloedd yr adfyd Yn bygwth dinistrio ei bywyd, Heb orffwys o fore hyd hwyr. Ni foddodd ei chalon mewn trallod, Bu'n wrol yng nghanol y llid, 'Does 'smotyn ar lech ei chydwybod, Na chysgod o warth ar ei hanfod, Ei henw sydd loew o hyd. Cyfiawndelr a waedda yn uchel Ar ddewrder i ddial ei cham, A'r engyl ariannant y gorwel, Ddisgwyliant yn ffyddlon a thawel Adferiad ei gorsedd ddinam. Ysbrydoedd hen arwyr yr oesau Ar edyn y corwynt y sydd, A phrudd-der eu mud ocheneidiau Gyfodant orchestion o'u beddau, I loewder heulwen y dydd. Hen esgyrn y dewrion twym-galon Gyffroant yng ngwaelod eu bedd, Taranau o draed y gelynion, A llefain wylofus eu meibion A dorrant ddistawrwydd eu hedd. Ehedeg dros ddiluw gorthrymder, Yn unig wna ysbryd y wlad, Mewn ymchwil am ddalen o hyder, A gobaith rhyddhad 0'1 chyfyngder, A'i throad i dir ei mwynhad. Pan rwygir yr awel gan foliant, A'r dolydd fedyddir a hedd, Pan glywir per-nodau y gornant Yn canu lion anthem rhyddfeddiant 'Rol claddu y cawr yn ei fedd. I PHILOS HEFIN. I "BUAN Y DYSG MAB HWYAD NOFIO. Cofiaf pan oeddwn yn hogyn Gwyliais hwyaden yn cychwyn Gyda thwr o hwyaid bychain At y llyn y mynnai'u harwain; Am y dwr o'ent yn hiraethu; Mor gartrefol! dim ofn boddi! Cefais wers un werth ei chofio- "Buan dysg mab hwyad nofio." Ceisia rhai flynyddau lawer Ddysgu nofio, ond yn ofer, Eu dal fyny dwr sy'n gwrthod, Ant fel plwm i lawr i'r gwaelod; Ceisier deall pob meddylfryd, Nid mewn dwr mae cylch pob bywyd, Yr anianawd raid astudio— Greddf ddysg fab i hwyad nofio. Ni fynn iar fyth fynd a'i chywion Fewn i'r llyn na 'chwaith i'r afon, Ar y tir y mae'n dygymod, Ar y tir mae ei phreswylfod; Ni wna'r crydd fyth fawr o'r eingion, Ni wna'r gof fyth fawr o'r lapston, Pob un yn ei le priodol, Gall fod felly yn ddefnyddiol. 0 am chwilio tueddiadau Ymhob cylch a phob ryw swyddau, lawn reoler bryd a threfniant, Rhag i addysg droi yn fethiant; Yn y grefft rhaid gwahaniaethu Mewn amrywiaeth cydweithredu, Ar ein taith boed inni gofio Nas gall pawb fel hwyad nofio. MURMURYDD. Bronllwyn, Gelli. I I GWELL NAG NA GAU ADDEWID. Ymhlith gwael arferion geir yn ein gwlad V Mi welaf fod iddynt eu graddau, Rhai mor eithafol heb obaith gwell- had, Tra ereill yn. Ilai eu heffeithiau; Ond o'r gwael arferion fynn lechu o hyd, Y gwaethaf wyf heddyw am nodi, Cydnebydd pob Cymro a mi yn un fryd, Yw "addaw" a pheidio cyflawni. Pe pwysech holl yrfa faith ambell i ddyn, Ei arddull ynghyd a'i nodweddion, Drwy ystod ei. fywyd 'doedd dim ar ei fin Ond! cruglwyth o iu addewidion; Ni wiw ceisio twyllo'n cyd-ddynion o hyd Dan glogyn a mantell tosturi, Ar ffug cydymdeimlad mae'n gosod ei fryd Drwy "addaw" a pheidio cyflawni. Os am ennill parch ac anrhydedd a bri A byw yn awyrgylch edmygedd, Mae'r llwybrau yn eglur arddangos i ni, Gonestrwydd a fyddo-'n bnf nod- wedd; Tufewn i derfynau ein gallu o hyd Boed inni'n wastadol drigiannu, Bod yn wyliadwrus ar eiriau o hyd, Os addaw, gofalu cyflawni. MURMURYDD. Bronllwyn, Gelli.

I Nodion o Abertawe.

Glennydd yr Ogwr.I

Nodion o Lannau Aman.

Brynaman.

I I"CRAIG YR HESGL"