Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr Eisteddfod Genedlaethol Wele ddarn o araith Gwih yng Nghwrdd Undeb y Oymdeithasau Cym- raeg (Adran Dyfed) :— "Eu Ner a Folant." Teimlai'r hen fardd y daliai r Cymry, er pob anffawd flin, eu gafael yn eu Duw; ac yn hyn dehonglai anianawd ein cenedl yn gywir. Cenedl yn caru'r anweledig a'r ysbrydol yw'n cenedl er- ioed. A phan aeth i ddewis sant iddi ei hun,. nid rhyfelwr fel "St. George" a ddewisodd, ond Dewi—gwr i Dduw, a mab tangnefedd, arloeswr calon gwlad, a phroffwyd yn ol cysondeb y ffydd. Ychydig yw'r hyn a wyddom am Ddewi Sant, ond y maei popeth a ddaw atom o'r niwl a'r pellter yn ddymunol i'n calon. Fe'i portreir fel disgybl add- fwyn o dan addysg Pawl Hen, yn y Ty Gwyn ar Daf. Dywedir wrthym fod Colomennod Aur I yn disgyn at fin mab Nonn, ac nad da ganddo ryfeloedd ei dad a'i dadau. Gwelir ef yn gennad y goleuni yn Synod Brefi, pan ddyrchaif rhwng nef a daear, a throi Ty Ddewi yn Lyn Rhosyn a'i wlad yn baradwys bur yw gwaith ei fywyd hyd ei fedd. Dyma'r gwr, yn anad un a ddysgodd ein hen genedl i foli Ner, ac ar Ddydd Gwyl Dewi yr ydym yn ymfalchio yn y fath nawdd- sant. Dysgodd y neb a fynasai i Gymru gadw'r ffydd ddiffuant droi'n fore at feddrod Dewi Sant. Cystal oedd- dau bererindod i Dy Ddewi ag un i Rufain, yng ngolwg credinwyr yr oesoedd canol; a chystal oedd tri a thaith i Jerusalem, a beddrod Crist. Yr oedd bywyd a rhin ym medd gwr Duw dros lawer oes i'w bobl. Ac ni bu Dewi heb olyniaeth ddis- glair o wyr dichlyn, yn cerdded, fel Cybi, At yr Haul a'r Oydd I JJeiniol, ac Asaph, a neuno; uatwg, a Theilo, ac Illtud, a thoH o rai llai'u clod. Ac wedi'r Diwygiad Protestan- aidd, er i Gymru lynu wrth Rufain yn hwy na chenhedloedd o'i chwmpas, aml- haodd yr ardderchog lu. Y mae inni feddrbdau y tu yma a'r tu draw i Glawdd Offa, sydd yn amlwg fyth i lygaid y saint. Clywir llefain gwaed y merthyr ieuanc, gwladgar, John Penry, o dan yr allor; a'r gwr a fu mewn car- charau'n amlach na Phaul, Vavasor Powel, nid marw yw pridd ei fedd. Try'r genedl ei threm at fedd anhysbys y Ficer a oleuodd ei gannwyll yn Llan- ymddyfri, a daw help i foli Ner o feddau Morgan Llwyd, y cyfriniwr clir, Ed- mwnt Prys, y Salmydd croywber, ac Elis Wyn, y rhybuddiwr eofn. Deil y genedl ei llygad, er pob enllib, at Dre- feca, ac ar golofn mab y Daran yn Llan- geitho. Ac er hoffused yw natur gan- ddi, ni phaid a mynegi baich ei chalon .gyda'i pher-ganiedydd o Bantycelyn: Ni all holl hyfrydwch Natur A'i melystra pennai maes Fyth gymharu a lleferydd Hyfryd, pur maddeuol ras; < Gad im' glywed swn dy eiriau, Awdurdodol eiriau'r nef, Oddi mewn yn creu hyfrydwch Nad oes mo'i gyffelyb ef." Cerdd Cymrir ar bererindod i Lan- 3aes, ym Mon, unwaith eto, eithr nid i'r lleiandy gyda Dafydd ab Gwilym, mwy, ond at fedd y mwyaf hyawdl o'i hóll feibion, John Elias. Ni phaid a rhoi tro i'r Wern, a phe bae tywallt <dagrau'n tycio, ys dywed Hiraethog, ni chai Williams aros hanner munud ar ei ietdd. Eithr ni cha oedi gyda'i gorffen- nol o hyd, heb glywed Rhyw Lef ym rain y Mor 11 yn Abertawy, rhyw let fel swn llawer o ddyfroedd afon angeu, yn llefain: Drive on!" Y mae goreu'r genedl. < medd Christmas Evans, ymlaen. Daeth llawer tro ar fyd, rhaid addef, "er dyddiau'r gymanfa fawr, a'r llemain ° flaen yr arch. Oerodd thn Diwygiad arall, ac aeth y cri am farw beunyddiol ^yn'uwch. na'r cri am Farar Bywyd, tttewn llawer cwm yng Nghymru, er's tro. Rhwygwyd llawer ar fur merch Seion, a mynnai rhai dwylo Philistaidd .droi'r arch o'r tir, a chael gan Gymru bellach beidio a moli Ner. Try'r gwan calon yn y cysegr i lefain "Ichabod" ^eithiau, ac i ddarogan am feini'r deml ymhen pob heol. Ond gwaedd y bedd- au yw Y bydd gogoniant y ty diweddaf ] T11 fwy na'r cyntaf, ac y gelwir y mur- iau etc yn Iachawdwriaeth," a'r pyrth y11 Foliant." Cenedl Breuddwyd a Gweledigaeth a Ffydd I I 'Ydym, medd' ein gorffennol, ac er i I addysg falch, neu galedi gwerin, neu ateroliaeth wacsaw'r oes droi'n ddeif- I wyntoedd i grefydd ieuenctyd ein gwlad, dros ychydig, y mae yng ghalon y Cymro, wedi'r cwbl, ryw Sloch, fel y clychau a glywai'n morwyr 'nos, yn galw'n ol at Dduw. Ni all ymru fyw ar na materoliijeth nac mheuaeth yn hir. Y mae beddau'r sorffennol-—a'i hysbryd hi ei hun-yn ystlon ei phriodas a byd yr ysbryd; a c cha orffwysfa, mwy nag Awstin ,Sant, nes gorffwys ohoni yn Nuw. Ac ar gyfer Beddrod ein Dafydd Ni, ar gyfer beddrod Dewi Sant, ac ar ei wyl, hawdd yw breuddwydio am gen- hadaeth fawr ein cenedl i fyd. Nid er dim y eadwyd ni'n genedl ysbrydol. Dysgodd y Sais, er's tro, mai athrylith y Cymro yw un o'r rhai medrusaf i draethu cenadwri efengyl, ac nid oes rhagorach cenhadwr i Grist na'r Cym- ro, ar feysydd gwledydd pell. Ni ddy- wedir mwy na fedd y Celt athrylith a dawn i lywodraethu, pan welir ei ys- bryd gwrol a thyner, rhamantus a dyfeisgar, yn ymlid pebyll nos y fall ar ffo drwy Brydain o'r bron. Nid yw dydd y Celtiaid ond yn gwawrio. A thyrr dros y genedl a ddaliodd, drwy bob oes, i foli Ner, weledigaeth fawr, heddyw, o'i chenhadaeth ysbrydol i fyd. Hithau yn ei hawr annisbur wenwlad, Ufudd fydd i'r weledigaeth der; A goleua lamp ar nos y gwledydd Ddyry loywach gwawl na myrdd o sêr. Swyna gyfandiroedd a'i thiriondeb, Pefria arnynt a'i hyawdledd mud; Arwain fyd ar daith yr anweledig, I Oes o fater at gredadwy hud.' Gloyw athrylith cenadwri'r nefoedd Fedd athrylith gydryw ar ei thir; Ac i fyd o feddu'r cyfrinachau Dwg fy ngwlad ragorol faich y gwir. Cerddodd Cymru gynt o fro'r goleuni I orllewin bau'r wylofus f6r; Ond fe gerdd yn ol drachefn i'w dwyrain, A dilywia'i llwybr a goleu'r lor. Rhamant f9re Cymru swynodd Ewrop Gynt, pan nad oedd arni wen y -dydd; Pali a fflur oedd rhamant bur y bore, Rhamant Duw fydd rhamant Cymru Fydd." L.

Siloa, Penderyn. I

Advertising

ASTHMA,I

1 Shop Dafydd y Crydd. I

I t Y Milwr.I

Advertising