Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

OFedimogrrAmerig.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OFedimogrrAmerig. I Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol. y I Parch. T. J. Jones a'i briod o Foriah, Bedlinog, sydd a'u hwynebau ar Unol Dalaethau, America, nos Wener, Awst i8fed, y flwyddyn hon. Cadeir- ydd, Mr. Richard Ingram, ys- grifennydd yr eglwys, ond ysgrif- ennydd y cyfarfod1 hwn oedd Mr. Johnnie Thomas, a'r trysorydd, Mr. John Bevan. Cyfeiliwyd gan Mr. Edward Protheroe, ac i agor y cyfar- fod canwyd "Clychau Aberdyfi ar yr offeryn gan y cyfeilydd. Cafwyd can gan Mr: D. John Roberts, a'r "Y Gwanwyn gan G6r Mr. Thomas Blackwell. Trosglwyddwyd yr anerch- iad gan Mr. Lewis Griffiths, yn absenoldeb yr hen frawd, Mr. Evan Harris, diacon henaf yr eglwys. Dywedodd Mr. Lewis Griffiths ei fod ef wedi cael Mr. Jones yn ddyn parod, caredig, cymwynaswr, cywir, a ffydd- Ion i'w argyhoeddiad. Dymunai Dduw yn rhwydd iddo ef a'i briod' yn yr Unol Dalaethau. Dywedodd Mr. Thomas Williams fod yn dda ganddo roddi yr anerchiad ar ran yr eglwys Moriah. Darllenodd hefyd englyn i'r anerchiad ac ychydig benillion :— Anerchiad, gan gariad, yw'r goron- rhodd Arwydda serch Seion; Tra'n Tones byw, yn syw, gwna son Am nawsedd y mwyn noson. Gan fod ein Jones a'i briod mad Yn gadael gwlad ei geni, Dymunaf iddynt wiw fwynhad 'Nol cyrraedd gwlad yr lanci. Mi wn mai anawdd, anawdd yw I'ch fynd i fyw o Gymru, A gadael rhiaint hen a chu, A llu nad allaf enwi. Er mynd ar antur, hwnt ymhell, Er gwneud yn well nag yma, Bydd sain eich lief, a nwyf y nef, Yn aros yn Moriah. Cafwyd englyn i'r anerchiad gan y Cadeirydd Address fydd ichwi'n drysor-wedi mynd Ymhell, bell o'n goror; Os gaea' hy dery'ch d6r, Ar y mur ceir y marwor. Anhegwyd Mrs. Jones a gwddf- dorch a phwrs o aur gan Mrs. Daniel Evans, Derlwyn House, Bedlinog, ar ran chwiorydd yr eglwys. Wele englyn eto gan y cadeirydd Euraidd ffril ar wddf lili—yw'r gad- wen; Ergydia wawl inni; Hyd Dachwedd oes boed ichwi, Oes o gan i'w gwisgo hi. I Anrhegwyd Mr. Jones gan Mr. Daniel Davies ar ran pobl ieuainc yr eglwys a chadwen aur. Bu Mr. Jones yn Llywydd i Gymdeithas Ddiwyll- iadol y Bobl Ieuainc yn ystod y pedair blynedd y bu yn ein mysg. Gweithiodd yn galed a gonest. Per- fformiwyd dwy ddrama gan y Gym- deithas yn ystod ei arosiad yn ein plith. Cawd y penhillion a ganlyn gan Mr. Daniel Davies:- Mae bywyd y ddau sydd yn gadael Eu gwlad enedigol er gwell Yn swynol i'r galon, a'i gafael Ar nwyddau sy'n nodded i'r pell; Dymuniad fy nghalon yw iddynt Gael heulwen yn llewyrch i'w byd, A rhodio'n ddiffuant heb helynt Yng ngwlad yr Amerig o hyd. Chwi wyddoch holl .deimlad fy nghalon, Cael Ilwyddiant ysbrydol yw'r pwn, Mae sicrwydd y nef eto'n raslon, A cheidw Ei air eto gwn; Bu llwyredd eich bywyd yn profi, Fod ynnoch elfennau y gwir, Trwy hyn daw cynhaeaf addoli Yn ffrwythau sylweddol a chlir. Rhoddwyd ymbarela gan Mrs. Blackwell i Mrs. Jones ar ran chwiorydd ieuainc yr eglwys, ac un i Mr. Jones gan Miss C. Rowe ar ran y Gobeithlu. Brolio yr ymbarelos-a wnewch Pan fo'r nen yn aros, o dan g; eu dawn agos A ry' nawdd rhag defni'r nos. Richard Ingram. Rhoddodd teulu Mr. Thomas Harris law-ffon i Mr. Jones, yr hon oedd wedi tyfu yn yr ardal. Dywedai Mr. T. Harris fod yn Mr. Jones ad- noddau cymwys i wlad sydd a'i del- frydau yn eang, a chaid englyn eto gan y cadeirydd. Cafwyd ychydig o eiriau gan y Parch. T. J. Jones ar ran ei hun a'i briod. Dywedai iddo geisio bob amser gadw delfrydau sobrwydd a rhinwedd o flaen meddwl y plant; rhoddasai ei oreu hefyd i'r bobl ieuainc, a dymunai i'w lafur ffrwyth addfed yng ngwinllan yr Arglwydd. Byddai yr anerchiad yn cael y lie goreu, a meddyliai am dano fel trysor. Tystiai hefyd fod1 rhan fawr o'i Iwyddiant i'w briodoli i'w briod. 1 Roedd hithau'n fawr ei sel yn y i gwaith da. Cafwyd ychydig eiriau gan y Parch. D. R. Williams, Peny- wern, Dowlais. Yn syml dymunai yn dda iddo ef a'i briod. Cawsai yn Mr. Jones y myfyriwr caled, y dyn llyfr, y dyn o argyhoeddiad ac o gymeriad cryf. Y Parch. R. Ellis, Moriah, Dow- lais, a ddywedai ei fod yn adnabod Mr. Jones yn well na neb arall, oher- wydd ganesid hwy yn yr un ardal. Buont yn yr un ysgol; yn gweithio yn yr un pwll; yn lletya yn yr un ty; buont yn yr un coleg ym Mangor; daethant allan yr un amser-Mr. Jones i Sir Gaernarfon, ac yntau i Sir F6n. Daeth Mr. Jopes i'r South, ac yntau ar ei ol, un i Foriah, Bedlinog; llall i Foriah, Dowlais, ond ni wyddai a ddilynai ef i'r America ai peidio. Canwyd gan g6r y plant dan ar- weinyddiaeth Mr. William Evans. Adroddiad gan Miss Lizzie Davies. Can Gymraeg gan y Chwaer Miss Jones, Ysbyty Maidstone, Kent. Canwyd penhillion gan Mr. J. Robert Owen. Siaradwyd gan Mr. Richard Jones a Mr. Staff ron Bolwell. Can eto gan Mrs. Price. Darllenwyd pellebyr oddiwrth y Parch. J. Jones, Carmel, Fochriw, o Drecastell, yn gofidio na allai fod yno. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. William Morton, Bedlinog, yr hwn oedd i ffwrdd ar ei wyliau. Cafwyd gair gan y Parch. J. Jenkins, Penuel, Nelson. Rhoddodd Mr. Daniel Evans, Derlwyn House, lyfr, sef "Book of Martyrs," gan Fox, er coffa am Mr. Benjamin Evans. Canwyd eto gan G6r y Plant. Ter- fynwyd gan G6r Mr. Thomas Black- well trwy ganu "0 Dduw, rho i'm Dy Hedd."

Coroiii Diwydrwydd Cymro.

Gwerth Darbodaeth.

Advertising