Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CWRS Y RHYFEL. 1

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CWRS Y RHYFEL. 1 ADOLYGIAD YR WYTHNOS. I DECHREU MEDI CYNHAEAF Y SOMME. Y BALKANS ETO. Y BYDDINOEDD YN EU PERTHYNAS A'U GILYDD. PERIGL BWLGARIA. PENBLETH GROEG. Y MILWYR CYMREIG. YR IAITH GYMRAEG. GWAITH ETO I'R AELODAU I CYMREIG. GAN BERIAH. Oyn ymwneud a digwyddiadau y brwydro ar y Cyfandir, gweddus yw i ni alw sylw at SAFLE A HAWLIAU MILWYR CYMRU. Yr oedd yn ddealledig pan wnaed apel gyntaf at deyrngarwch ac yspryd cenedlaethol Cymru, y cydnabyddid ac y perchid gan yr awdurdodau milwrol wahanfodaeth genedlaethol y Fyddin Gymreig; y caffai Bechgyn Cymru ymuno yn Gatrodau Cymreig, o dan swyddogion Cymreig, y rhai a barchent iaith, a defod, a syniadau crefyddol y Cymry. Mae yr holl addewidion hyn wedi myned yn .^ngbof gnn, yr awdurdodau J. er's talm. Danfonwyd Ilu o fechgyn Cymru i Gatrodau Seisnig, Ysgotaidd, a Gwyddelig; diswyddwyd neu symud- wyd Cymry oeddent yn swyddogion mewn Bataliynau Cymreig, a phenod- wyd -estroniaid o ran iaith, a syniad, a defod i lywodraethu yn eu lie. Coll- wyd hunaniaeth wahanfodol Byddin Cymru yn gyfangwbl. Ceir Brigedau Ysgotaidd, Gwyddelig, Awstralaidd, Canadaidd, Indiaidd, Affricanaidd- ond dim cymaint ag un "Welsh Bri- gade ar fa,es y brwydro. Torrir i fyny y Brigedau Cymreig cyn yr ant o'r wlad hon; cysylltir eu Bataliynau a gwahanol Frigedau eraill. Cyll. Cymru felly lawer o'r clod mil- wrol a haedda am weithredoedd nerth- ol ei meibion dewrion ar faes y gwaed. Dengys y Gatrawd Gymreig o'r Royal Welsh Fusiliers, mewn brwydr ar ol brwydr, fod hen ysbryd dewrion Llew- elyn a Glyndwr eto yn fyw. Deil eu gweithredoedd cofnodedig h^y i'w cymharu ag eiddo unrhyw adran o'r holl Fyddin Brydeinig. Ond mae mil- oedd, degau o filoedd, o Fechgyn Oym: ru na chawsant ymuno a'r naill na'r Hall o'r ddwy hyn; cyfrifir eu gweith- redoedd hwy yn rhinwedd i genhedl- oedd eraill.' Er pan ymadawodd y Cadfridog Owen Thomas o Bare Kinmel, mae Bechgyn Cymru wedi ca,el eu gwasgaru hwnt ac yma; wedi cael eu gyrru i wer- sylloedd Seisnig, wedi cael eu cysylltu a ChoriHuoedd Seisnig, ac wedi colli ymron yn hollol bob nodwedd wahan- iaethol Gymreig a berthyn yn naturiol i'r corff yr ymunasant ag ef. Cadwant i fyny eu hymlyniad wrth eu gwlad, eu iaihth, a'u crefydd. Wele ddyfyniad lo lythyr dderbyniais yr wythnos hon oddiwrth Weinivrog Cymreig adna- byddus, a ysgrifennwyd ganddo mewn gwersyll mawr ynghanol Lloegr. Dywed:— Nid wyf yn Gaplan penodedig gan y Llywodraeth. Pe felly buaswn ar dir i fyned cryn lawer yn nes at yr awdur- dodau, ac i wybod mwy am y gweith- rediadau. Nid wyf fi ond tipyn o wein- idog wedi fy anfon yma dros dymor gan Gymdeithasfa y Methodistiaid Calfin- aidd. Y cwbl wyf yn sicr o hono yw hyn: fod bywyd y milwr yn fywyd caled iawn, ac fod Bechgyn Cymru yn dal i fyny'o dano yn ardderchog. Mae y mwyafrif mawr yn fechgyn ar- dderchog, yn anrhydedd i'w gwlad, ac yn gredyd i'r aelwydydd a'r eglwysi a'u magodd. Buasai yn dda gennyf pe bu- asech gyda ni yn y gwasanaeth Cym- raeg bore Sul diweddaf, pryd yr oedd yn ymyl 300 yn bresennol, wedi cael eu harwain yno gan y Band a'r Afr Gym- reig. Gwn y buasech chwi yn gallu gwneud ysgrif wych ar yr amgylchiad. Nid wyf yn meddwl yr a y bore yna byth o'm cof." Dyna dri channwr teilwng o ddewr- ion Gideon gynt, eithr Haw dyn ac nid llaw Duw a drefnodd iddynt fod yn ddim ond tri chant pan allasent fod yn dri chant ar ddeg, neu yn dair mil ar ddeg ar hugain! Y CAM A WNEIR A'R CYMRY. I Nid yn unig gwneir cam a Chymru fel gwlad drwy beidio cadw ei Bechgyn yn un Fyddin fel ag a wneir a Bech- gyn Canada, a Bechgyn Awstralia, ond gwneir cam a'r Cymry eu hunain. Mae y gair yn hollol fod yr Iaith Gymraeg yn cael ei gwahardd yn gyfan- gwbl yn rhai o'r gwersylloedd Seisnig. Trwy ymdrech galed yn Nhy'r Cyffredin y sicrhawyd i Fechgyn Cymru ar y Cyfahdir yr hawl i ysgrifennu adref yn Gymraeg. Ac ar waethaf y ffaith fod y Swyddfa Ryfel yn swyddogol awdur- dodi danfon llythyrau yn Gymraeg, mynn swyddogion Seisnig hyd y dydd heddyw gwtogi yn ddiraid yr hawlfraint a enillwyd i Filwyr Cymru. I 0 fewn yr wythnosau diweddaf mae pethau wedi myned o ddrwg i waeth. Wele grynhodeb byrr o brofiad Gwein- idog o Gymro, gwr dysgedig, ysgolhaig gwych, a ymunodd a'r R.A.M.C. Cym- reig a wnaed i fyny o weinidogion a myfyrwyr Colegau Diwinyddol gan mwyaf. Dywed fod ymrop pob addewid a wnaed fel cymhelliad iddo ymuno wedi cael ei thorri. Penodwyd Saeson o ran iaith yn swyddogion. Yn lie cadw'r iwnit gyda"u gilydd yn iwnit Cymreig, torrwyd ef i fyny yn ddarnau, gan gysyiltu y a cljarffluoedd Seis- nig. Pan symudid rhai o'r darnau hyn at gorffluoedd Seisnig, is-swyddogion (non-commissioned officers) Seisnig o'r corffluoedd Seisnig a, osodid yn llywodr- aethwyr ar y Cymry, ac nid eu his- swyddogion eu hunain. Pe baem yn Sinn Ffeiners Gwyddelig a dybid yn barod i droi yn deyrnfradwyr, prin y gallasai'r awdurdodau ymddwyn tuag atom mewn modd ymddangosiadol fwy drwgdybus," meddai. DAROSTWNG SWYDDOGION I I FOD YN PRIVATES. Caiwyd enghreifftl-au gwaeth fyth na hyn mewn adratinau eraill o'r Fyddin. Cafodd un Corfflu Cymreig, nid an- enwog, ei ddisbandio, hynny yw ter- fynodd ei fodolaeth fel corfflu. Cysyllt- wyd ef.a chorfflu arall, Seisnig. Wrth wneuthur hynny darostyngwyd y swyddogion Cymreig gwreiddiol, am- ryw o honynt, yn Lifftenants a Second Lifftenants, i fod yn filwyr cyffredin (privates) yn y ranks. Ac nid oher- Wydd unrhyw anghymwyster milwrol ynddynt y gwnaed hyn. Ai tybed y caniateid gwneud hyn a Chorfflu Ysgotaidd, neu Wyddelig? Bu raid i Mr. Lloyd George yn ber- sonol gyfryngu wedi myned ohono yn Ysgrifennydd Rhyfel, er mwyn gorfodi un swyddog uchel yn Lloegr i ganiatau i weinidog Cymreig ga,el ymweled a milwyr clwyfedig Cymreig yn yr Ysbyty. Yr oedd Arglwydd Kitchener ei hun wedi gwneud rheol bendant y rhaid caniatau drws agored i Weinidog Cym- reig ymweled a Milwyr Cymreig yn Ys- bytai Milwrol yn Lloegr. Erys y rheol honno mewn grym o dan lywodraeth Mr Lloyd George. Os troseddir hi unrhyw amser gan swyddogion Seisnig, dan- foner manylion am yr achos naill ai yn bersonol i Mr. Lloyd George, neu yn ffurfiol i'r Swyddfa Ryfel yn Llun- dain. Po daweutf y dioddefwn gam, mwyaf oil o gam a gawn ddioddef. Dysger y Wers. I CYNHAEAF Y SOMME. Yr ydym bellach yn dechreu medi o ffrwyth y brwydro caled a fu er dech- reu Gorffennaf ar lannau'r Somme, yn Ffrainc. Nid yw yn golygu fod y brwydro wedi terfynu yno, nac hyd yn oed wedi llacio. Eithr golyga fod am- gylchiadau'r brwydro wedi newid, ac wedi newid yn ein ffafr ni, ac er drwg i'r gelyn. Edrycher ar rai o'r amlycaf o ffrwythau'r cynhaeaf hwn. 1. Cymerwyd gennym oddiar y gelyn yn ystod y brwydro 260 o gyflegrau mawrion; 650 o machine guns a 54,000 o garcharorion. Mae Ilawer o'r cyflegrau a'r machine guns hyn a fu gynt yn llaw'r gelyn yn angau i filoedd o'n bechgyn ni, yn awr yn ein dwylaw ni, fel cleddyf Goliath gynt yn llaw Dafydd, yn cael eu defnyddio i dorri pen y cawr. 2. Golyga 54,000 o garcharorion o leiaf 200,000 arall wedi cael eu lladd neu eu clwyfo. Gellir cyfrif felly fod y gelyn wedi colli o leiaf chwarter miliwn (250,000) o'i wyr yn y brwydro ar y Somme. 3. I lenwi lie y rhai, hyn gorfu iddo alw yn ol o Verdun nifer mawr o filwyr fu yno'n ymosod ar y Ffrancod. Drwy wanhau o hono felly ei Fyddin ger Ver- dun rhoddodd gyfle i'r Ffrancod ad- ennill yno y tir a gollwyd yn y chwe mis brwydro caled cynt. 4. Golyga hyn drachefn fod Germani wedi cael ei gorchfygu ger Verdun. Cydnebydd y gelyn ei hun hyn yn awr. Dywed mai methiant truenus a drud- fawr a fu yr ymosodiad am chwe mis ar Verdun." Collodd yno o leiaf han- ner miliwn (500,000) o'i filwyr-a'r cwbl yn ofer. 5. Y gelyn oedd gynt yn dal pennau'r bryniau ar lann y Somme. Ymosod tuag i fyny oeddem ni, ac yntau yn ymosod tuag i lawr. Enillasom bellach grib y mynydd-dir. Ni sydd yn ym- osod tuag i lawr, a'r gelyn tuag i fyny. 6. Gynt, o ben y bryniau, medrai'r gelyn weled ein holl ddarpariadau a'n symudiadau milwrol ni oddi tano. Bellach nyni sy'n medru canfod ei drefniadau ef. I geisio gwneuthur i fyny am y diffyg, defnyddia balwns yn rhwym wrth raffau fel y gellir eu tynnu i lawr bryd mynno. Dyma ei lygaid milwrol ef, ei dyrrau gwyliadwriaeth. Ond mae ein hawyrenwyr ni yn drech na'i eiddo ef. Difethasant mewn un dydd yr wytfenos ddiweddafchwech o'r balwns caeth hyn, ac felly tynasant ei lygaid milwrol drachefn. 7. Gynt, o'r tu ol i gopa pob bryn, llechai ei fagnelau cuddiedig ef. Cyf- arwyddai y gwylwyr ar ben y bryn y magnelwyr pa fodd a pha le i saethu. Mae'r gelyn wedi colli, a ninnau wedi ennill y fantais honno. 8. Gynt yr oedd y gelyn yn medru symud ei filwyr a,'i gyfarpar, ol a blaen, rhwng Bapaume, Combles, a Peronne, bryd y mynnai, ac fel y mynnai, ar hyd y rheilffordd a'r ffordd fawr. Mae hyn bellach yn amhosibl iddo. Mae y Ffrancod wedi meddiannu rai milltir- oedd o'r rheilffordd. Yr ydym ninnau yn llywodraethu y ffordd fawr a'n cyflegrau. 9. Gynt gallai'r gelyn yn hollol ddiogel bentyrru digonedd o shels a chyfarpar rhyfel, o bob math yn agos at ei gyflegrau cuddiedig. Mae ein eyflegrau ni, yn awr wedi tanio amryw o'r ystorfeydd mawr hyn gan amddi- fadu'r gelyn o gyfarpar gwerthfawr, a'i gwneud yn beryglus iddo gasglu ystor- feydd eraill yn eu lie. 10. Gorfodir y gelyn felly i gadw ei ystorfeydd o byior a shels a chyfarpar o'bob math ymhell tu ol i'w linell. A gwaith peryglus yw iddo ddwyn y rhai hyn i fyny at ei linell yn awr gan fod ein cyflegrau ni, o ben y bryniau, yn medru ysgubo popeth byw oddiar yr heolydd sy'n gorwedd o'r tu ol i linell y gelyn. Eglurwyd mewn ysgrif flaenorol safle Bapaume, Combles, a Peronne yn eu perthynas a'u gilydd. Mae cwymp y tair tref bellach yn agos. Mae yn bosibl y bydd Combles, yr hon a saif tua hanner y ffordd rhwng. Bapaume a Peronne wedi syrthio i'n dwylaw cyn yr argreffir yr ysgrif hon. Nid ydym wedi ymosod eto yn uniongyrchol ar y lie, ond wedi ennill y tir o bob tu i'r dref, a bellach ymron ag amgylchu'r dref. Mae yn bosibl y cilia'r gelyn yn ol o Combles heb geisio amddiffyn y lie rhag ymosodiad uniongyrchol. Dydd Sadwrn diweddaf enillasom ni bentref Ginchy-Ile, pwysig iawn yn llinell amddiffynol y gelyn. Gwnaeth y Germaniaid ymdrechion gwallgof i'w adennill-ond oil yn ofer. Dydd Mawrth a dydd Mercher enill- odd y Ffrancod bentref Bouchavesnes, gan gymeryd 2,300 o garcharorion, deg o gyflegrau mawrion a 40 machine-guns. 0 Bouchesnes medr cyflegrau'r Ffrancod ysgubo amgylchoedd Peronne. 0 Ginchy medr ein cyflegrau ni ysgubo amgylchoedd Bapaume. Pan syrth y lleoedd hyn i'n dwylaw peryglir holl linell y Germaniaid am filltiroedd o bob tu,—ac yna ceir cynhaeaf mwy tor- eithiog fyth. Y SEFYLLFA YN Y BALKANS. 'Daw yn amlycach o ddydd i ddydd fod pethau mawr iawn a phwysig ar gymeryd lie yn y Balkans. Bostia'r Germaniaid eu bod ar fedr gyrru byddin o 300,000 i gynorthwyo'r Bwl- gariaid. Hyd yn oed pe bae gan y Caisar 300,000 o filwyr at ei alwad, rhwyddach yw dweyd "mynydd" na myned drosto. Nid oes ond un llinell rheilffordd ganddo yn awr yn rhedeg o Awstria i Bwlgaria. Croesa honno'r Daniwb ger Belgrade, prifddinas Serb- ia. Ac mae Byddin fuddugoliaethus Rwmania bellach, fel yr eglurwyd yr wythnos ddiweddaf, wedi meddiannu a chau Pyrth Haearn y Daniwb' nad ydynt ond tua hanner cant neu dri- ugain milltir o Belgrade. Byddai symud byddin yn rhifo 300,000 gyda'i chyfarpar angenrheidiol ar hyd un llinell rheilffordd, a honno ymron o fewn cyrraedd Byddin fuddugol- iaethus Rwmania, yn weithred an- hawdd a pheryglus iawn, ac yn gofyn mwy o amser nag a fedr y gelyn fforddio yn awr pan mae wedi myned yn gyfyng eisoes ar Bwlgaria. Heblaw hyn, os nad yw'r Caisar yn medru creu Byddinoedd o ddim, neu eu hadgyfodi o feirw, ni fedr efe yn ei fyw gael 300,000 o wyr i'w gyrru bellach i'r Balkans. T'" "T'T"Io.T"Ir.T' fTT- "T'" Y .tl I.JJJJl.N UJJJJ TiN, EU PERTHYNAS A'U GILYDD. Rhoddais yr wythnos ddiweddaf tras- linelliad o safle Gwledydd y Balkans yn eu perthynas a'u gilydd. Wele isod yr un darlun yn dangos y Byddinoedd y gwyddis eu bod yno yn awr. Egliya hyn safle'r Byddinoedd yn eu perthynas a'n gilydd*-— "i AAAA S AAA 11 XXXX 2 AAA RRRR -'XXXX tI1 <^ I RRRR XXXX XXX > AAA I RRRRRRR XXX I I RRR RWMANIA 1 XXX | I DDT) OOO RRR 000 2 RRR?OOO I xxx § 000 1000 BWLGARIA -xxx 000 000 T o 000 OOOl I E 1 OIOOOOOOOO E E 0 1 **1* 0 «EE Op. I 5 E E sss i* t-0 § « ? p. ? SSS i'o g M 3 E E .??0 S h < E E -0 SALONICA 0 SALONICA Arwydda X X X X Fyddin Rwsia. A A A A Fyddin Awstria. R R R R Fyddin Rwmania. 0 0 0 0 Fyddin Bwlgaria. S S S S Fyddin Serbia. „ E E E E Fyddin yr Eidal. Cyd-Fyddin Salonica » Y cyfeiriad fo'r Fyddin yn symud. Dyrry yr uchod syniad cyffredinol am se y gwahanol Fyddinoedd yn eu perthynas a'u gilydd. Sylwer ar y ffeithiau isod:— 1. Mae Byddin Rwsia a Byddin Rwmania wedi croesi'r ffin i diriogaeth Awstria. Mae dwy Fyddin Awstriaidd yn eu gwrthwynebu, y naill o'r gor- llewin a'r Hall o'r gogledd. Mae Byddin Rwsia wedi gorfodi'r Awstriaid i gilio yn ol o'r terfyn dwyreiniol, a'r Rwmaniaid wedi gorfodi'r Awstriaid i gilio yn ol o'r terfyn deheuol. Mae y terfyn rhwng Rwmania ac Awstria felly wedi cael ei ddiogelu. 2. Mae yr Awstriaid a'r Bwlgariaid yn meddiannu yr oU o Serbia. Trwy Serbia yn unig y medr Awstria ymosod ar Rwmania, neu gyrraedd Bwlgaria. Mae Byddin Rwmania naill ai eisoes wedi, neu ar fedr, croesi'r ffin i Serbia, gan beryglu felly y Rheilffordd Fawr sy'n cysylltu Awstria a Thwrci drwy Serbia a Bwlgaria. 3. Mae Byddin Bwlgaria wedi croesi'r ffin deheuol i Rwmania at ochr y dwyrain. Maent wedi meddiannu rai trefi pwysig ar lannau'r Daniwb. Ond (a) Ni fedr Awstria ymosod ar linell y Daniwb gan fod Rwmania wedi medd- iannu y Pyrth Haearn. Mae llongau rhyfel Awstria sydd ar y Daniwb rhwng y Pyrth Haearn a'r Mor Du, wedi cael eu dal mewn trap. Ni allant fyned yn ol i Awstria am fod y Pyrth Haearn wedi cael eu cau i'w herbyn. Ni allant ddianc i'r Mor Du gan fod Llynges Rwsia yn gwylio genau'r afon yno. (Parhad ar tudalen 8.)

Advertising

PETH O'R CYNNWYS. I

[No title]

Bwrdd y Gol. I