Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Dywedwch wrth bawb .It mae DA ViES'S COUGH MIXTURE yn rhyddau Pes wo h." ANWYD, PESWOH, INF.LUENZA. -Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio ddef oddi wrth Beswch, Bronchitis, Pat, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Difiyi Anadl. Y mae yr hen Feddyginiaetk "Daviea'. Cough Mixture" etto ar 7 blaen, &c yn cael ei gwerthfawrogi yw fwy nag erioed, bob amser wrth law, yw felus, yu cyniibeau y freat, ac yn rhydd hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. 1/1% a 2/9 (postage, 8c.)— HUGH DA VIES, Chemist. MACHYN- LLETH. Bllnderau I yr Afu Yw'r Achos o Lawer o Boenau ao Anhwo usdod. Poen Pen, Biliousness, Surnl y Cylla, Diffyg Traul, Cwynt, Corffrwymedtf, lselder Yspryd, Croen Oarddlant, a llawer o Nervous Disorders. GWAED DRWG YW YR ACHOS GWREIDDIOL O'R OLL. MAE Hughes's Blood Pills Yn cael effaith lIeshaol ac uniongyrchol ar yr Afu drwy weithredu ar a dileu pob elftn wenwynllid o'r Cwaed ac sydd yn lllfi drwy yr Afu fel yr holl organau eraill y corff. SYLWER.—Mae Gwaed Drwg yn cyth- ryblu gweithrediad holl organau y corff. Wedi bod ? ?. yn wael iawn 'M ? ?? \? am fisoedd, Jk^I li/ '? 1 ??/? Poenau neu JHn /IV,X Rheumatics yn  )t L y Cymal?u a'r r) ??L? ?? A?\ Cefn, Piles a W fr /V Phoen Pen yn ?/ N? ??!f .? ami. Yn holl- 1 T\l ?M'j ol analluog i II I I—■ ddilyn fy ngal- ? J/ ? i|||| yiI w e d i g a e tn. a ??? Mae 'Hughes's } ? ? Tf ?r't | t N V\ t! Blood P!Hs' yyn n | II- Y\ 7 fy iachau yn ? j?J ? gyflym iawn." )t-*°'  ?' _? Mae Pobl o bob rhan o'r wlad yn tystio i allu neilltuol y Pills hyn er adferu dioddefwyr o Glefydau y Croen, Poen Cefn, Gwynegon, Lumbago, Piles, Corff- rwymedd, & Blinderau y Croen, Afu, Cylla a'r Arennau. RHODDER PRAWF ARNYNT. Hwy a wnant brofi eu mawr werth mewn ychydig amser. Ar wertn gan bob Chemist a Stores am 1/3, 3/ 5/- (gan gynnwys y War Tax). Gofynner am Hughes's Blood Pills," a gofaler gweled y Trade Mark, sef Run y Galon, fel hyn- mr ar bob blwch. Heb hyn, nid yw yn iawn. Na thwyller chwi i gymeryd dim arall. Neu danfoner ei gwerth mewn Stamps nen P.O. at Jacob Hughes, M.P.S., L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. Fe ei danfonnir (post free) gyda throad y post. ATHROFA ABERYSTWYTH (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru) Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A.. LL.D. DECHREU A'R Tymor nftaf ar Ddydd Mawrth, Hydref 4ydd, 1916. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethau (amryw o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr ar- holiad le yn Aberystwyth ar y l9eg o Fig Medi, 1916. Am fanylion pellach, ymofynner,4, J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. '64 PAGE Book about Herbs and how to use Utt them. Post free. 8end for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Riohmond-road. Cardiff. Establisbed 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. To prevent fraud see that you geG II Estab JL lisked 18Y9 on every label and wrapper of my preparations, without which none are genuine.-Tkimnell, The Herbalist, 144 Rioh- mond-road, Cardiff. TRIMNELL'S FILM AND POWDERS Thave cured thousands. Why not you 7 See that you get Established 1879 on every label.-Trimnell, The Herbalist, 144 Riohmond Road, Cardiff. Agents wanted. LAbiES BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities, &a.. they speedily afford relief and never fail to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cocbia. Bitter Applet Ire. ilanohard's are the Beet of all PHIt for Womes. Soldi n boxes, 111 i. by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same prioea from LBSLIB MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANB, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, ooamlDg Valuable Informatios how &U  Obstructions may be e?ireh vJrroeigdue?d I removed by simple means. Recom-  Physicians, the only Safe, Sure y4SSl Remedy. Never Fai? fhoulands of Testimonials. EstabHshed 186? ??:t??Da!a&5?'???  BoUIe" D&IstOu T Q6, T-.Oudm
At fy Nghydwladwyr.
At fy Nghydwladwyr. Annwyl Mr. Pryderus-am-Addysg, Yr ydych yn bryderus am addysg Cymru fel y mae llawer iawn o bobl oreu Cymru y dyddiau hyn. Daeth y Ddirprwyaeth Addysg ar ein traws ar amser anghyfleus iawn, ac yn wir cyn t'r wlad gael amser i ffurfio ei barn ei hun ar yr hyn a hoffai i addysg Cymru fod. Y mae problem addysg heddyw yn blino pobl feddylgar yr holl wled- ydd, a ffolineb fel rheol fydd yr hyn a ddywed y bobl arwynebol hynny sydd yn honni medru setlo y mater heb nemor ymdrech na thrafferth nac ystyriaeth. Ni synnaf eich clywed yn gofyn "Pa beth sydd allan o le ar Addysg Cymru?" Tfcimlaf yn sicr eich bod yn gofyn y cwestiwn nid am eich bod yn meddwl nad oes le i wella, ond am eich bod yn teimlo fod y rhai sydd uchaf eu swn yn condemnio pethau fel y maent, ymhell o'u lie pan soniant am bethau fel y dylent fod, ac nad yw y diffygion y cyfeiriant atynt ond gwybed o'i cymharu a'r camelod o wendidau sydd yn bodoli. Yr ydwyf finnau wedi bod yn meddwl cryn dipyn uwchben y mater, ac wedi ymgomio arno gyda llawer gwr a gwraig meddylgar, ac er mai anawdd fydd rhoi fy meddyliau mewn llythyr byr, ceisiaf roddi bys ar rai o'r prif gyfnewidiadau sydd arnom eu heisieu os vw Cymru yr oes nesaf i fod yn well Cymru nag yw yn bresennol. Y camsyniad mwyaf a wnaed gan Ein Tadau (ac a wneir gennym ninnau hefyd) oedd edrych ar addysg fel mater i'n hysgolion dyddiol a'n colegau yn unig. Y canlyniad fu i ni wrth roi mwy a mwy o bwys ar ein hysgolion anghofio am sefydliadau addysgol ereill sydd ar lawer ystyr yn bwysicach ddengwaith. Meddyliodd llawer tad a mam wrth ddanfon eu plant i'r ysgol eu bod yn trosglwyddo eu haddysg yn hollol i d'dwylaw ereill ac yn golchi eu dwylaw ° u cyfrifoldeb yn y mater. Dyna gamsyniad fu yn ddistryw i lawer plentyn. Yr wyf yn ddiolchgar i mi gael blynyddoedd lawer o addysg ysgol a choleg, ond y mae gennyf lawer mwy o achos diolch i'r hyn a <idysgais gartref gan dad a mam cre- fyddol. Y mae o'r pwys mwyaf i rieni Cymru ddeall mai cyfrannu gwybod- aeth yn bennaf (ac yn ami yn unig) a wna ein Hysgolion Dyddiol, ac ad oes hawl ganddynt i dros- glwyddo eu cyfrifoldeb am iechyd corff, moes, ac ysbryd eu plant i neb arall pwy bynnag y bo. Collwyd golwg hefyd am yr un rhes- wm ar werth yr Ysgol Sul, y.Cyfarfod Llenyddol, a'r Eisteddfod. Os nad' ydych wedi gwneud dylech ddarllen erthygl ar yr Ysgol Sul yn "Cymru" am Orffennaf, 1916, lie y dengys yr awdur (Syr Owen M. Edwards, y golygydd, gallwn feddwl), pa faint pwysicach mewn gwirioneddl yw Ysgol Sul nag ysgol ddyddiol i fuddiannau uchaf ymru. Dywed hanesyn tarawiadol iawn am Aelod Seneddol yn diolch os na chawsai ysgol yn ystyr gyffredin y gair iddo gael ei godi yn yr Ysgol Sul, ,ac am yr anfarwol Tom Ellis yn IIlynegi ei syndod wrth feddwl y gallai tteb ddychmygu fod ysgol a choleg yn ■Symaint eu dylanwad er daiorii a'r Y sgoI Sul, tra y dengys Syr Owen M. Edwards :aut y ma,e yr Ysgol Sul yn berffeithiach cyfundrefn o addysg nag unrhyw ysgol arall-ac fe ddylai y gwron hwn wybod. '^redaf y bydd yr erthygl honna yn an- j farwol ymhlith erthyglau yn y Gym- raeg, mynnwch ei darllen yn fanwl. Ac 0s ydych am ddarllen am bwysigrwydd ? ^yfarfod Ilenyddol a'r Eisteddfod yn ^dysg Cymru darllenwch araith r^ddodwyd gan yr un gwr yn Eistedd- ?Aberystwyth yn ddiweddar; credaf Y bydd honno hefyd yn anfarwol. Nid ¡ wyf yn synnu o gwbl iddo ddweyd yr I hyll a. ddywedodd; gwn i mi yn ber- onol gael pwysicach a rhagorach adfd ysg mewn llawer ystyr yn yr Ysgol! o Ysg mewn llawer ystyr yn yr Ysgol ? a?r Eisteddfod nag a gefais °6d mewn ysgol na choleg. Dyma iell n y camsyniad mawr cyntaf I <11 y?ethom oedd esgeuluso ein 'tefydliadau pwysicaf wrth roi gormod i iolT i'r ?? PwysiS- Y canlyniad natur- I iol fu i Di roddi mwy 0 bwys yn ami ar ? ???eth a diwylliant meddyliol nag ar j ?wylliaot moesol ac ysbrydol. dd?d at ein hysgolion dyddiol -tell if yn dra sicr mai un o'r cam- svn U mwyaf difcifol wnaethom ?ed?? ?? ein sefydliadau ar batrwm X,loe ? Swiedydd ereill yn lie mynnu bYfundrefn yn fwy cydnaws a'n hys- L?rvd ?? deMrydau. Pa synwyr er eong raif!t ?? plant lleiaf ardaloedd I yn gymharol ddiweddar 'eyrn "eig hYd yu gymharol ddiweddar (O,c i r,%ddau felly yn awr) wedi eu ^add ^^11 drwy iaith estronol, fod y I rhanWyai- 0 blant Cymru yn y gor- Sen?w?edi myned- drwy eu hysgol heb glywed gair o GYmraeg, heb son am gael gwersi yn iaith eu gwlad, fod dau o bob tri heddyw yn ein hysgolion uwchraddol heb fod yn astudio'r Gymraeg, a llawer o'r ysgol- ion hynny heb lyfr Oymraeg yn eu llyfrgelloedd, fod pasio mewn Saesneg a Lladin yn anhepgor i gael mynediad i'n colegau, a phasio yn y Gymraeg heb fod, a pha synnwyr fod mwyafrif athrawon ein colegau yn Saeson Uniaith, a bod y ffaith fod dyn yn Gymro yn rhwystr yn hytrach nag yn help iddo gael lie fel athraw mewn rhagor nag un o'n colegau Dyna ynte yr ail gam- syniad difrifol a wnaethom-sef trefnu cynllun addysg fydd, os na ddaw tro ar bethau, yn sicr o fod yn yn sicr o fod yn fafrwolaeth i'n hiaith a'n, harbenig- rwydd fel cenedl. Cyfeiriaf mewn gair yn unig at y trydydd, sef i'n hysgolion dyddiol yn gyffredinol roi rhy ychydig o bwys ar godi cymeriadau cryf ar draul rhoddi gormod ar gyfrannu gwybodaeth-camsyniad a wneir ys- ywaeth yn holl wledydd y byd. Ynglyn a manylion ein hysgolion nis medraf ond nodi rai pethau sydd yn amlwg i bawb ant i mewn i'r mater. Beth am Ein Colegau Dywed rhai fodi eisieu athrawon diwinyddiaeth yng ngholegau ein Prif- ysgol. Credaf fi mai nid athrawon Cristnogaeth sydd eisieu, ond athraw- on Cristnogol—gresyn mor brin y 'maent. Dywed ereill fod eisieu rhannu ein Prifysgol yn ddwy neu dair, un o'r ergydion mwyaf posibl i'n cenedlaeth- oldeb fyddai hynny. Y mae eisieu cyflog uwch yn ddios i'r is-athrawon, a mwy o lais iddynt yn rheolaeth y colegau. Dylai'r Gymraeg a Delfrydau Cymru gael lie pwysicach o lawer ynddynt, a dylid rhoi mwy o bwys o lawer ar ddosbarthiadau mewn cysylltiad a'r Brifysgol i'r werin yn y pentrefydd. Dylai ein colegau fod yn fwy o ysgol- ion i'r bobl fel y mae yr Ysgol Sul a'r Eisteddfod, ac fe < ddylai nifer y myfyrwyr fod yn fwy o lawer ynddynt. Purion peth hefyd fyddai i ddwy flynedd neu ragor mewn coleg normal- aidd neu gyffelyb gyfrif am flwyddyn ynghwrs y Brifysgol. Dylid yn ddiameu wneud llawer iawn o'r gwaith elfennol wneir yn y colegau yn 'awr yn yr ys- golion uwchraddol fel y gallai myfyr- wyr ein colegau gyfrannu yn ychwan- egol drwy ymchwiliad at wybodaeth y byd, er fy mod yn blino ar glywed pobl yn son byth a hefyd ar hyn, fel pe bai yr unig gyfnewidiad angenrheidiol, ac fel pe bai ymchwiliad i gyfrinion llygad gwybedyn yn. bwysicach na chadw'n hiaith a'n crefydd. Ynglyn a'r ysgolion ailraddol y peth cyntaf angenrheidiol yn ddiameu yw eu Cymreigeiddio. Credwn fod yr ysgolion hyn wedi gwneud mwy i Seisnigeiddio bechgyn a genethod goleuedig Cymru na nemor ddylanwa,d arall. Y mae gormod o lawer o'r prif a'r is-athrawon yn Saeson. Cyfrifir am hyn i raddau gan iselder y cyflogau delir yn achosi i oreuon Cymru fyned i Loegr, ac i weiniaid Lloegr ddod yma, ac i raddau gan yr ychydig bwys roddwyd ar wybodaeth o'r Gymraeg pan yn dewis yr athrawon hyn. Beth ddwedai Tom Ellis a Syr Hugh Owen pe gwelent yr astudio dyfal sydd ar Shakespeare, Milton, Virgil, Caesar, Moliere, Dum- as, Goethe, Heine, etc., a'r ychydig ddarllenir ar Geiriog, Islwyn, Myn- yddog, ac yn y blaen. Y mae plant goreu ein gwlad yn treulio blynyddoedd delfrydol eu hoes yn yr ysgolion hyn—ond dywedaf heb betruso iddynt fethu yn druenus oher- wydd eu difaterwch ynglyn ag laith ac Ysbryd Cymru, J i ysbrydoli y plant hynny i gyfeiriad delfrydau uchaf eu gwlad. Gwendid arall yn yr ysgolion hyn yw y ffaith fod llawer o'r athrawon heb eu paratoi yn arbennig ar gyfer gwaith athraw. Nid rhyfedd felly i'r ddisgyblaeth fod am- bell dro yn wan ynddynt, ac i'r athraw- on areithio gormod i'r plant yn lie eu dysgu i astudio a chwilio drostynt eu hunain. Dylai nifer y plant hefyd fod yn fwy o lawer, er fod gennym ar gyfartaledd dri am bob dau fydd gan y Sais mewn ysgol uwchraddol. Yn yr ysgolion elfennol hefyd es- geiuluswyd y Gymraeg i raddau mawr, er fod pethau yn gwella yn gyflym yma. Pe bai pob arolygydd ysgolion y Llywodraeth a'r awdurdodau lleol mor selog dros iaith a delfrydau Cymru ag ydyw y Prif Arolygydd (Syr Owen M. I Edwards) a rhai o'i gydweithwyr, fe welid chwylroad yn fuan iawn yn y mater hwn. Golwg rhy fasnachol gymerwyd yn ein gwlad ni fel mewn llawer gwlad arall, ar bwrpas yr ysgol > elfennol, gyda'r canlyniad i'r athrawon fod yn fwy diwyd yn paratoi ysgrifenyddion i fasnachwyr nag a fuont i geisio cyfoethogi bywyd y plant o dan eu gofal, ac i ennyn ynddynt ddiddordeb at astudiaeth ac ymchwiliad pellach. Bai mawr yn yr ysgolion hyn yw nifer y plant yn y dosbarthiadau. Pe bai pob athraw wedi cael parotoad neilltuol a blynyddoedd o brofiad nis gallent wneud chwaraeteg a chynifer o blant, ond fel y mae yn gywilydd meddwl y mae cannoedd o athrawon yn yr ysgol- ion nad ydynt wedi cael y paratoad ar- bennig ar gyfer y gwaith, a llawer bachgen a geneth ieuanc yn ceisio addysgu plant nad yw eu gwybodaeth ond ychydig yn eangach na'r plant eu hunain. Dyma un o'r ffurfiau drutaf a ffolaf a gymerwyd gan wlad erioed i geisio cynhilo arian. Y mae eisieu codi cyflog a safle gymdeithasol ein hathrawon elfennol yn uwch o lawer hefyd, fel yr atynner i'r gwaith fech- gyn a merched galluocaf a goreu teulu- oedd coethaf y genedl-canys pa, waith sydd bwysicach i genedl na gwaith athraw ? Ofnaf mai bratiog yw y llythyr hwn, ond dyry i chwi, mi obeithiaf, rywbeth i feddwl am dano. Wedi i chwi wneud hynny danfonwch air i mi eto.-Yr eiddoch, ATWEBID. Hi IT ——————————— II
I Shop Dafydd y Crydd. I I…
Shop Dafydd y Crydd. Mr. Gol.,—Rywbeth yn depig i hyn y mesurwyd ac y pwyswyd pen y Ceisar cyd-rhwng y Proffeswr Ap Valant a Dafydd y Crydd: A.V. Ymennydd heb fod yn fawr. D.C. Felly meddwl gwan. A.V.: Yn caru dim ond un. D. C. A hwnnw i'w e'i hunan. A. V.: Yn hoff iawn o anifeiliaid. D.C. Gwnelai gydymaith i'r epa. A.V. Yn hjjf a gwrol a hoff o wrth- wynebiad. D.C.: Ie, yn y ffurf o wracadd a phlant a dinasyddion diniwed. A. V.: Ermig distryw yn gryf. D. C.: Eglwysi eadeiriol a gweithiau goreu celt, a miliynau o fodau dynol yn dystion., A. V.: Gwelais fod uchelgais yn amlwg ynddo. D.C.: Ydyw, awydda am lywodr- aethu'r byd-credaf y bydd raid, iddo wneud ar lai. Mynnai ga,el lie yn yr haul—mae lie poethach yn ei aros. A. V.: Y mae yn obeithiol, a'i gred yn y dyfodol. D.C.: Ydyw, mae yn hoff iawn o godi cestyll yn yr awyr—gwell iddo watshan i ben, fe fyddan i lawr yn gandryll un o'r dyddia ma. A.V.: Mae ganddo gof da am ddydd- iadau. D.C.: Caiff achos i gofio Awst, 1914, am dragwyddoldeb. A.V.: Medda ar gof da at leoedd. D.C.: Ond ni fydd hynny o un gwas- anaeth iddo pan yn astudio map new- ydd y byd-gall Map Beriah fod yn rhyw gymorth iddo weled y ddaear newydd sydd yn dod, yn yr hon y bydd cyfiawnder yn cartrefu, a dim lie yn- ddi i Geisar na neb o'r dras. A. V.: Onid ydych dipyn yn galed arno, Dafydd 1 Boneddwr reit biwr y ces i e. Nid wyf yn sicr fod cymaint o fai ar William ag sydd ar y rhai o'i gwmpas-ei gynghoriaid milwrol-yn ei chwythu i fyny. Dywedodd wrthyf ddarfod iddo ddweyd wrth y rhai a'i harweiniodd i arwyddo'r cyhoeddiad o ryfel: Yr wyf yn ofni y bydd' yn edifar gennych eto wneud i mi arwyddo hwn?" Gall ei fod, ys dywed y Sais, yn more sinned against than sinning." Ond i fynd ymlaen: Gall gadw ei feddwl iddo ei hun. D.C.: Ydyw, y mae yn gyfrwys ac ystrywgar, a byth yn ymddangos yn ei liw priodol ei hun. A.V.: Mae yr elfen grefyddol yn gryf iawn ynddo. Cred lawer yn yr ysbryd- ol a'r anweledig. Wyddoch chi ei fod yn parhau i gyfrannu at y Feibl Gym- deithas Frytanaidd a Thramor1 D.C.: Yr hen ragrithiwr siwd ag yw a. Pe bawn i yn lie awdurdota'r Gymdeithas, buaswn yn lluchio'r arian i'w wymad a, ac yn gwed fel y gwetws un arath, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw." Dw i ddim yn ama nag odd i hen famgu—y ddiweddar Frenhines Victoria-yn gyfrifol i radda am beri iddo feddwl ei fod yn fwy duw- iol nag yw a mwn gwirionedd, nes ys- tyriad i hun yn y diwedd yn frawd hynaf i'r Hollalluog-" Me and Gott" yw ei fyrdwn e'n barhaus. Pan odd Edward yn Dywysog Cymru, ac yn cael etrach arno yn dipyn o fab afrad- lon, dyna lie bydda'r hen wraig yn tolach i hwyr y Crown Prince y pryd hynny, ac yn gwed y fath grotyn bach da odd a yn dysgi adnota o Feibil i famgu ar gyfer y seiat, tra'r oedd i ewyrth yn chwara barracat yn Ffrainc ne rwla. Ta'r hen wraig ddim ond cwnnu i phen heddi, fe welsa fod Ned fel odd a yn perthyn yn nes i Dywysog Tangnefedd (a bu agos iddo fynd a'i enw)—na'r bwli ryff o Berlin. Hos- wch chi-ydi honna'n gynghanedd, dud- wch 1 Mae son am gynghanedd yn peri i mi ystyried ein bod wedi mynd orwth y pwnc er's llawer dydd; ond mi wyddwn y mod i'n gwitho at rwpath o hyd. Ymhle mae'r cywydd oech chi'n son am dano, Ap Valant, i chi wedi nithir i'r Tarw a'i goes dorrwyd?" Os yw a'n depig i'ch englyn chi i awel y mynydd, mae fa'n dda. Odd Wil Gwar-y-Mynydd—pan fuws a yma yn rhoi mesur i drod y ddo-yn gwed fod llinnell gynta'r englyn hwnnw yn pinsio'i glust ac yn eillio'i wymad a fel rasar, a gallwn inna feddwl fod f llinell ola yn bryddest ynddi ei hun, ys gwetws y beirniaid mawr Cerdd ddi-dranc i Ryddid rydd." Yn awr, ta, gadewch yr hen Geisar yn y man na, a dewch i ni ga'l y wledd, os byddwch chi costal. Bydd Morgan a'r Eryr wrth i bodd fel ym hunan. A dyma Ap Valant yn dechreu gwag- hau ei hun yn debig i hyn, os dotas < a wrth i giddil yn reit:— OS TORRWYD GOES Y TARW. Os torrwyd coes y tarw, O'i fawr boen gwna'r llafar "bw Goes cynghanedd lonwedd lam Dros argae y dras wyrgam- Gogleddwyr o goeg lwyddiant. Ni lwydda'u pie i ladd plant Dafydd Morgannwg, dyfal- Uwch ei fri na'r seiri sal: Mae'i 'Ysgol Farddol' i fyw, lawn, odiaeth safon ydyw; Byth mwy o Fynwy i Fon. Dwg, a llosg Ramadeg llwm laith stale y North ys talwm. A sefyll wna yn safon Dywed bw! O! darw doeth, Ar y waen dysg yr annoeth; Bloeddia bw! a'r 'w' o raid A fwri at lafariaid Os cydsain, ochain ni chwyd 0 darw a'i goes dorrwyd. Er rhaid hercian ar deircoes, Ar dasg yr 'w' dysg a roes. T-a-r yw tar, on'd te ? Hyn a welir yn ole. Dull rhyw lwyth ydyw dallu'r wlad; Oferedd heb ryw lafariad Arall i geisio tarw- Fan wyr hyf—hono yw'r 'w.' Ddysg Hud! gwnai eiriau'n fudion Yn nhir braint eu hanner bron,— Dim Ty cwrdd, hwrdd, bwrdd na bwch, Na gwerin na gwladgarwch; Dim twr, dim dwr i deirw, Neu gnwd y llawr na gwneud llw. Garw goll! dim gwr i Gwen- Merch "hoyw, loyw" lawen. Dim swn crwth, dim bwth na bwyd I darw a'i goes dorrwyd; I Dwm Corach, dim cwrw: Byd heb aeg fa'i bod heb w Wharthin! Wrth feddwl am y tarw wedi torri i gos yn ffeili gwed 'bw,' achos bod yr w weti troi'n gytsain, fi ddylas y basa'r Eryr a Morgan yn hollti'n ddarna. Ac am y mhunan chofis i ddim fod gen i lond y mhen o hoilon nes i clwad nw'n rhuthro mas ishta cawad o shots o un o'r gynna mawr yna yn erbyn a thrw'r ffenest- a'r gwydr mor ddrud-a dau o'm dan- nadd gora gyda nw-y ddau hen speic enwog hynny oedd genni yn apad y ddau ddant llycad. Cewch waith y napod i tro nesa. Ond waetha'r cwbl, fi fynniff Twm, y crotyn prentis yma, fod Profeswr Ap Valant yn rong, a'r Profeswyr John Morris Jones a Gwynn Jones yn reit, ta nw'n gwed fod doi a doi yn nithir pump
EISTEDDFOD TREALAW.I
EISTEDDFOD TREALAW. I At Ap Glaslyn. I- I Syr,—A fyddwch chwi garediced a chyhoeddi eich beirniadaeth ar gyn- hyrchion llenyddol yr Eisteddfod uchod 2 UN AM WYBOD. I At y Parch. Llew Morris, Pengam. I Annwyl Syr,- Byddaf innau yn wir ddiolchgar am eich beirniadaeth ar I darn adrodd yn Eisteddfod y Coelbren. iMGJiioiDD ARALL. I